Am ddŷdd yr Arglwydd.
MODD y byddeu i chwi ychwaneg o amser, i'w dreulio yn eich duwiolder neil lduol; Dymunaf arnoch godi cŷn foreued ag y gellwch, yn ôl y cyflwr y bô eich Cŷrph ynddo. Dywedaf hyn, oblegid os byddwch yn flîn yn ôl y boen a gymerasoch y diwrnod o'r blaen, gellwch gysgu ychydig hwy ar ddŷdd Sûl y boreu, nac ar amser∣oedd eraill. Canys gan fod y Sabboth yn ddŷdd o Orphywysdra cystal ag o Dduwiolder, diammeu ni ddyleu gŵr dâ naccau iddo ef ei hun a'i weini∣dogion, yr esmwythaâd y mae efe yn i roddi iw ei anifeiliaid.
Er hynny, pan ddeffrowch, derchefwch yn eb∣rwydd eich calonnau at Dduw, a sancteddiwch eich meddyliau cyntaf mewn rhyw dduwiol fyr∣rion Ocheneidiau: Mewn sanctaidd ryfeddiad, a diolchgar adnabyddiaeth o ddoethineb a daioni Duw, yn Creu'r Bŷd, ac yn Prynnu Dynol Riw; Yr hyn y mae'n rhaid i chwi yn bendifaddef eu cofio ar y dŷdd yma; Gan ddywedyd,
Gogoniant i Dduw Dâd, yr hwn a'm gwnaeth i a'r hôll fŷd.
Gogoniant i Dduw Fâb, yr hwn a'm prynnodd i, a phôb rhyw ddŷn.
Gogoniant i Dduw Yspryd glân, yr hwn sydd i'm sancteiddio i, a hôll etholedig bobl Dduw.