Ymadroddion bucheddol ynghylch marvvolaeth o waith Dr. Sherlock ; y gyfieithwyd yn Gymraeg gan Thomas Williams, A.M.

About this Item

Title
Ymadroddion bucheddol ynghylch marvvolaeth o waith Dr. Sherlock ; y gyfieithwyd yn Gymraeg gan Thomas Williams, A.M.
Author
Sherlock, William, 1641?-1707.
Publication
Printiedig yn Rhydychen :: I Thomas Jones dan lûn y March Gwyn yn agos i Demple Bar yn Llundain,
A.D. 1691.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Death.
Theology, Doctrinal -- Early works to 1800.
Cite this Item
"Ymadroddion bucheddol ynghylch marvvolaeth o waith Dr. Sherlock ; y gyfieithwyd yn Gymraeg gan Thomas Williams, A.M." In the digital collection Early English Books Online. https://name.umdl.umich.edu/A59910.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 16, 2024.

Pages

RHAN III.

Pa ddefnydd a ddylem ni ei wneuthur o her∣wydd fod Duw wedi ordeinio i ddyn ei amser gosodedig.

II. YN ail: Ystyriwn pa ddefnydd syn∣hwyrol a ddylem ni wneuthur o hyn; ag mae dau beth yw ystyrio yn neill∣tuol. Sef, 1. ddarfod i Dduw ordeinio yn gyffredin i ddynol riw amser gosodedig i fyw ar y ddaiar; 2. nad ydyw r amser hwn ond byrr o'r eithaf ir hwyaf ei oes.

I. Sef, fod terfyn cyffredinol sesydlog, wedi ei osod gan Dduw i ddyn i fyw ar y ddaiar; ag nyni a allwn wneuthur aml ddefnydd doeth o hyn:

O herwydd. J. Yn gyntaf: pan fo'm yn gwybod nad allwn ni fyw uwchlaw trugain neu bedwar ugain mlynedd, neu ychydig mwy neu lai; ni ddylem mor ymystyn na'n gobaith, na'n disgwiliad, na'n hamcanion chwaith tu hwnt i hyn o amser, tu hwnt in stordyn. II. Nyni a ddylem yn fynych rifo a mesur ein dyddiau, ag edrych pa fodd yr ŷm yn treulio 'n hamser, ag yn tyn∣nu ag yn pwyso tuag at dragwyddoldeb

Page 152

III. Pan fo 'n diwedd a'n hamser eithaf wedi tynnu yn agos, a'n hamdo an helor megis yn ein golwg; mae' n rhaid ini yr amser hwnnw yn enwedig fyned o ddifri in darparu ein hunain yn erbyn ein di∣wedd.

I. Ni ddylem mor ymystyn ein gobaith a'n difgwiliad, a'n hamcanion uwchlaw y term a osododd Duw i fod yn ystordyn in dyddiau: Ni ddylem ni mor byw fel crea∣duriaid anfarwol, nad ydynt i farw byth; o herwydd os mesurodd Duw ein dyddiau, ag os gosododd ef derfynau iddynt, gwrthyn ag anhresymmol i'ni ddisgwil byw ddim hwy, oddieithr y gallwn obeithio troi yn ol ordinhadau y Nef.

Ag etto pe bae bossibl, mae'n fwy direswm ini ymystyn ein gobaith, a'n chwantau, a'n hamcanion bydol pwyllog, yn hwy na therm ein bywyd, o herwydd beth am ffo∣led yw ini drwblio 'n pennau ynghylch y byd ymma yn hwy na'n hamser i fyw ynd∣do? Ag etto o wneud fel hyn nyni a esm∣wythaem o lawer o boen a gofal, ag a wa∣redem y byd hefyd oddiwrth y drafferth, a'r annhrefn sydd ynddo, o herwydd chw∣antau dynion i ddarparu golud a gorucha∣fiaeth iw plant ai hwyrion tros yr oesoedd a ddaw.

Fe alle pobl weled rhyw ddiwedd a phen oi llafur ai gofalon, ag o chwanegu cyfoeth, ag o gasglu tu at du a maes at faes; pe go∣sodent

Page 153

yr un terfyn iw chwantau, ag sydd iw bywyd: pe ystyrient pa hŷd y byddent fyw, a mesur eu dyddiau; a pha faint o ymborth ag o gynhaliaeth a wasanetha eu trô hwynt tra y bo'nt ar y ddaiar: yn gym∣maint a bod pobl yr awron yn ymlafurio ag yn ymrwyfo yn y byd, hyd onid agos awr eu hangeu; fyth a hefyd i dyrru cyfoeth heb na meder na mesur, megis na bae na diben na dosben, nag ar eu dyddiau hwynt nai meddiannau chwaith.

Nid oes ganddynt gymmaint a chyscod es∣cus o wneuthur felly, ond fel y dywedant er mwyn gofalu dros eu hil ai heppil, er mwyn gadel cynnysgaeth drom iw plant, fel y gallont fyw yn ddedwydd ar ol marw eu rhieni: ond nid ydyw hyn ond escus pûr, heb fymrin o reswm iw gynnal, oble∣gid fel hyn y mae'n bod, pan na bo dim o'r fath reswm iw roddi am y peth, pan fô pobl nid yn unig yn ddiblant, ond nid hwyrach yn ddigeraint hefyd, neu yn ddigon diofal am danynt; neu pan fo ganddynt ddigon iw roddi iw plant, er mwyn iddynt chwanne∣gu eu dyfalwch ai rhinwedd, eithr nid iw maentumio hwynt yn ofer ag yn ddiofal. Nid oes ŷn tâd synhwyrol a chwennycha hyn; ie ni hwyrach pan na fo ganddynt ond merch i feddiannu eu cyfoeth mawr aneirif, a hon po cyfoethoccaf a fo, sydd debyccaf oll iw dwyn fel y gwelwn yn fynych i ryw fab afradlon, sydd wedi ei ymdwyo ei hu∣nan

Page 154

yn barod tra bo'n difgwil bod yn ŵr mawr, a phan ddelo ei stâd iw law, bydd yn chwitt ag ef, gwneiff ben o hwnnw he∣fyd mewn ychydig amfer.

Rheswm teg i'ni barhau ein gofal i gas∣clu y peth a fo cymmwys i faentumio'n plant; er bod genym ni a wasanaetho i'ni ein hunain tra bo'm byw, and direswm i'ni ymlwybro a'r byd mewn awydd iw gwneud yn wŷr mawr uchelfraint. Mae rhieni Du∣wiol, Trugarog wrth y tlawd yn tynnu bendith ddwysach ar bennau eu heppil, ag mae dygiad da i fynu mewn ofn Duw a'i gariad yn siccrach etifeddiaeth i blant na mawr olud eu rhieni; ond y sawl a▪ fo 'n ymlowio ar bŷd hyd eu hawr ddiwaethaf er mwyn chwanegu eu cyfoeth a thyrru golud; yn anfynych y gwnânt hyn o achos arall yn y byd, ond i dorri eu chwantau anniwall, i dyrru cyfoeth yn erbyn yr am∣fer nad allont moi feddiannu, i brofeidio dros fyw yn hwy yn y byd ymma, nag y bo Duw yn lwfio, ag yn hwy nag y bo possibl iddynt allu byw. Mae hyn yn llawer am∣genach ynfydrwydd, nag ynfydrwydd y dyn goludog yn y ddammeg: yr oedd tîr y gŵr goludog hwn gwedi cnydio yn dda, O herwydd hynny efe a dynnodd i lawr ei yscuboriau, ag a adeiladodd rai mwy, ag a ddy∣wedodd wrth ei enaid, fy enaid, mae gennit dda lawer wedi eü rhoi ynghadw tros lawer o fiynyddoedd, gorphwys, bwytta, yf, bydd

Page 155

lawen. Yr oedd hwn cyn synhwyred ai fod yn gweled ei ddigon, ag yn deall yr amser y gweddai iddo droi heibio 'r byd er mwyn cymmeryd ei esmwythdra. Eithr Duw a ddywedodd wrtho, O ynfyd, y nos hon y gofynnir dy enaid oddiwrthyt, ag eiddo pwy fydd y pethau a bar atoaist? Luc. 12. 16.

Fel hyn gwelwch faint yw dyfais y rhan fwyaf o ddynion, er nad oes dim lle i obei∣thio y daw hi byth i ben, yn eu hamser hw∣ynt yn enwedig faint yw bwriadau uchel brenhinoedd a phenaethiaid y deyrnas, sy'n bryssur jawn yn eu meddyliau, yn bwrw ar lawr pa fodd i ddefnyddio, ag i sylfaenu eu gorseddfainc uwch ben yr holl fŷd. Trwy fîl o foddion a hir hwdwl o ddigwyddia∣dau, neu fel y mae'nt yn rhoi eu brŷd i droi 'r deyrnas ai phen yn issaf o dippin i dippin trwy foddion dirgel ag megis anweledig; ond er cyffelypped iw eu dyfes gadw ei lle, ni ddaw hi byth i ben yn eu hamser nhw, am hynny mae'nt yn trwblio 'r bŷd yrowan ynghylch y peth na ddaw byth mewn gol∣wg iddynt, tra bo eu llygaid yn agored, na neb arall sy'n fyw heddyw, mae'nt yn cym∣meryd arnynt reoli r byd ar ol ymadel a'r byd. Ond mae amcanion newydd yn tarddu allan ymhôb oes, a chynghorion newydd, fel y mae cenedl newydd yn dyfod i fynu, a matterion newydd, a dynion cyfrwys he∣fyd iw trîn. Pe bodlone bobl i ofalu dim pellach nai hoes eu hunain, ag i bob v̂n ed∣rych

Page 156

ar ol ei helynt ei hunaa ai amser ei hun; byddent lawer esmwythach arnynt, ag fe a fyddeu 'r byd yn haws byw ynddo, yn llonyddach ag yn fwy heddychlon, nag ydyw yrowan, nag yn debyg i fôd: ag etto fe debygeu ddyn hyn yn ddi∣gon cymmwys i ddyn beidio ymdraffer∣thu ynghylch y byd ond tra bo'm i fyw ynddo; nessaf y gallwn ni beidio a gwneu∣thur dim cam a'r sawl a fo i ddyfod ar ein hôl, ag i wneud iddynt gymmaint o ddai∣oni ag a fedrwn, heb rwystro heddwch y byd ai lywodraeth presennol, eithr i adel yr oes nessaf i ofalu dros y sawl a ddel ar ein hol ni, ag i ragluniaeth Duw yr hon sy'n rheoli ag yn llywodraethu ar bob oes a thros bob cenhedlaeth o ddynion.

II. Yn ail: Gan ein bod yn gwybod od∣diwrth fesur ein dyddiau yn ol cwrs cyf∣fredin, nyni a ddylem yn fynych ei rhifo hwynt, gan gymmeryd cyfrif pa fodd y mae'nt wedi myned heibio, ag yn nessau at dragwyddoldeb. Mae'n hamser ni yn lli∣thro i ffwrdd heb wybod i'ni; ag nid oes fawr yn marcio pa fodd y mae'n passio hei∣bio, mae'nt yn eu clywed eu hunain yn gryfion ag yn hoyw yn nyrnod eu nerth heb na phall na gwendid arnynt; am hyn∣ny mae'nt yn bwrw byw tros drugain neu bedwar ugain mlynedd, ond yn anaml y cofiant fod deg a'r hugain neu ddeugain o'r rhain wedi myned hebio yn barod, hynny

Page 157

yw y rhan fwyaf a'r rhan oreu oi hamser; mae'nt yn eu siommi eu hunain trwy gyfrif holl barhânt eu dyddiau, heb ystyrio pa faint o'r rhain sy' wedi myned heibio yn barod, ag nad oes ond ychydig yn ol; pe meddylieu ddynion ar hyn yn gwbl-ddifri, ni byddent mor chwannog iw twyllo eu hunain trwy feddwl byw yn hîr: oblegid nid oes neb yn cyfrif ugain mlynedd a deng mlynedd ar hugain yn amser hîr i fyw; a dyna eu heithaf i fyw, pe byddent fyw cy∣hyd ag y gallo ddyn fyw, ond byrrach o lawer a fyddeu mesur eu dyddiau, os na pharhant mewn pob cyffelybrwydd ddim tu hwnt i ddêg neu bymtheg mlynedd, a phe ystyrie pobl fod eu henioes hwynt yn my ned fyr∣rach fyrrach, o ddydd i ddydd, os oes dim a wnae iddynt fod yn anwyl o'i hamser, fe wnae hyn iddynt wneuthur felly, a dechreu meddwl am fyw, hynny yw, edrych yn ddy∣fal ar ol y gwasanaeth a osododd Duw id∣dynt iw wneuthur yn y byd hwn, er mw yn pa un y ganwyd hwynt i fyw ynddo, y gorchwyl sydd hefyd yn angenrheidiol id∣dynt ei wneuthur, neu mae'n rhaid iddynt ddiodde poenau tragwyddol.

III. Yn drydydd: Pan fo' pobl yn tynnu tuag at ddiwedd eu cyfrif, ie, ni hwyrach ar ol passio o honynt amser byw yn ol cwrs naturiaeth, mae'n enwedig yn angenrhei∣diol ir cyfryw rai, ymroi yn hollawl ag yn ddifrifol i ddarparu i farw: o herwydd

Page 158

er siwred a fo'nt yn bwrw eu hoed, nid eill eu hawr ai hamser mor bod ym mhell oddiwrthynt; peth gresynnol an-escusodol a fyddeu i'r rhain eu siommi eu hunain, trwy ddisgwil byw yn llawer hwy, ar ol iddynt bassio y mesur cyffredin a osodwyd iddynt i fyw ar y ddaiar, a dyfod i gymydo∣gaeth, ag megis am y rhych a'r terfyn a' marwolaeth, ar ol iddynt yn barod (os rhowch imi gennad i ddywedyd felly) megis fenthycca rhai o'i blynyddoedd gan y byd a ddaw.

Yrowan pan fyddwyf yn crybwyll y dy∣leu hên bobl eu darparu eu hunain i farw, nid wyf yn amcanu dywedyd mai dymma'r amser y dylent ddechreu cofio am farw, mae gida 'r hwyraf iddynt ddechreu meddwl am hyn yrowan; ond os oedd hyn yn sefyll heb ei wneud o'r blaen, diammeu fod agos yn rhyhwyr iddynt osod ar y gwaith o ddifri yn awr yn eu mynydyn diweddaf o'i hoes, agi wneüd y goreu a fedront o'i ham∣ser bychan sydd yn eu dwylaw, er mwyn caffael maddeuant gan Dduw am warrio hoedl hîr mewn pechod a gwagedd, trwy anghofio eu creawdr a'i prynnwr hwynt.

Ond mae'r pethau a ddywedais i yn awr yn perthyn i'r rheini yn unig, a feddyliasant am farw er ystalm o amser, ag i'r sawl a oedd yn rheoli eu bywyd yn ol hyfforddiadau a chyfrwyddid y meddyliau hyn, y cyfryw rai ag nid ydynt yn gwbl amharod i farw,

Page 159

ond sydd barod i groesawu marwolaeth, deued pan ddêl; ond mae modd hardd a chymmwys i gyfarfod marwolaeth a wed∣deu 'n rhagorawl ir cyfryw bobl a hyn, 'rwyf yn eï alw yn ymbaratoad arbennig pwrpasol. Hynny yw, os dieddu 'n cyflwr yn y bŷd, ag os ŷm ymmlaen-llaw, ni a ddylem gymmeryd ein cennad a'r byd mewn amser, an hymddieithro ein hunain oddiwrth ei drŵst ai drafferth ef, pan fo'm megis am y gwrŷch a'r byd a ddaw, ag yn barod i gymmeryd ein hedfa allan o hwn, ni a ddylem droi ein hwynebau yn hollawl tuag at y byd o ddaw, llê yr ŷm yn myned ag i fod ar fyrder, a gwarrio y tippin by∣chan o enioes sy genym ini adnabod ag ymholi a ni ein hunain ag i fod yn gyd∣nabyddus a Duw a'r byd sydd ar ddyfôd.

I. Er mwyn bod yn gydnabyddus a ni ein hunain, a Duw a ŵyr, nid oes ond rhy ych∣ydig osowaeth o honom ni felly, tra bo'm yn ein hymdrafferthu ein hunain a' matte∣rion y byd hwn. Nas llai gofalon y bywyd hwn, neu ei bleserau ef, ein teuluoedd, neu ein cyfeillion, neu yscatfydd ddieithraid sy'n ein dwyn ni oddiarnom ei hunain; am hynny cymmwys i wŷr cyn eu myned allan or byd hwn, ennill meddiant o honynt eu hunain, a bod yn rhyw faint mwy cydna∣byddus a nhw eu hunain; cilio oddiwrth y bŷd i gymmeryd cwbl olwg ar eu hymar∣weddiad a'u holl weithredoedd, ag i weled

Page 160

beth sydd yn ol heb eu wneuthur ai gyf∣lawni, er mwyn gwneüd eu cymmod gida Duw, a'i cydwybodau eu hunain; 1 edrych ag i chwilio a oes un pechod o achos pa un na ddarfu iddynt mor cwbl edifarhau, a dŵys ddeisyf maddeuant gan Dduw am dano a thrugaredd, a oes dim cam a wnae∣thont a'i cymmydogion, hob iddynt etto roddi dim iawn am dano; a oes dim syrth∣iad allan rhyngthynt ag vn dŷn yn y byd, heb ei wneud i fyny, a oes un rhan oi dy∣ledswydd a ddarfu iddynt gynt ei hesceul∣uso, megis bod yn dda wrth y tlawd, a dŵyn i fyny eu plant a'u teulu yn ofn Duw ai gariad, os oes, mae 'n rhaid yrowan gym∣meryd mwy o ofal iw cyflawni; a pha gle∣fydau sy' yn ein meddyliau iw hiachau, pa râs neu ddawn sy' wannaf, pa wyniau neu chwantau sydd fwyaf afreolus, a mwyaf eisiau eu marweiddio, i roddi meddygini∣aeth berthynnasol i bôb v̂n o'r rhain.

Ymbaratoad rhagorawl a fydden hyn yn erbyn marwolaeth; o herwydd se a chwan∣ega 'n gobaith a'n cyssur ni pan fo'm yn marw, mae'n rhoi ini heddweh a bodlon∣rwydd yn ein meddyliau ein hunain o a∣chos ein bod mor gwbl gydnabyddus a'n cyflwr, a thrwy roi pôb peth yn eu le ei hûn, a fuase gynt allan o drefn; mae'n gwa∣redu'n cydwybodau oddiwrth ofni bod yn euog, ag felly yn dŵyn arsau marwolaeth ag angeu, sef ei golyn a'i ddychryndod, ag

Page 161

ar ol tynny allan y colyn hwn, nid oes ini ddim arall i ymryson ag ef, ond rhyw dip∣pin o arswyd sy' naturiol i bôb dyn, pan fo'n marw, ag nid yw cyn anhawsed gorch∣fygu hwn.

Wrth hyn pan fo'm wedi ein hymneill∣tuo ein hunain oddiwrth y byd, ni a ddy∣lem dreulio rhan fawr o'n hamser yngwa∣sanaeth Duw, yn ein gweddiau cyhoedd, a phan fo'm ar ein pennau ein hunain, o her∣wydd o'r rhan fynychaf mae gwŷr o draf∣ferth bydol, ymmhell mewn dylêd i Duw o'r achos ymma: pan allent redeg ymma a thraw a threiglo o gwmpas, nid oeddynt yn cael mor amser, neu nid oedd ganddynt fawr ewyllys i gyflawni dyledswyddau eu crefydd, am hynny nid yw anghymmwys ini ymneilltuo tros ryw saint o amser oddi∣wrth drafferth a hwdwl y byd cyn ein marw i wneud i fyny hynny o ddiffyg, fel y bo ini ein ymroddi ein hunain i wasana∣ethu Duw, ar ol ini yscwyd llaw a chym∣meryd ein cennad a'r byd. Ni a ddylem yrowan fod yn daer iawn yn ein gweddiau att Dduw, ar iddo er mwyn haeddedigae∣thau Crist faddeu ini ein holl bechodau a aeth heibio a'n gwendid a'n hanwybodaeth, a rhoi ini y cyfryw obaith cyssurus o'i ga∣riad ef tuag attom, ag a wasanaetha in cynnal yn ein hawr ddiweddaf, a dofi ars∣wyd Angau. Nyni a ddylem fyfyrio ar anfeidroldeb cariad Duw yn danfon Crist

Page 162

ir byd i waredu pechaduriaid; a chymme∣ryd golwg o ddyfnder ag uchder, o hŷd a llêd yr unrhyw gariad, yr hwn sy'n paffio pob gwybodaeth: Nyni a ddylem osod rhy∣feddol ostyngeiddrwydd mâb Duw o'n blaen, trwy gymmeryd arno y naturiaeth ddynol, ei ddaioni anrhaethol yn marw dros bech∣aduriaid, y cyfiawn tros yr anghyfiawn, i'n cymmodi ni a Duw, ag ar ol i'ni gyn∣hesu ein heneidiau trwy y cyfryw fyfyria∣dau a'r rhain; Nyni a ddylem dorri allan i glodfori Duw ein creadwr a'n Hiachawdr a'n prynnwr, mewn graddau uwch o Ddu∣wiolder: Teilwng yw'r oen yr hwn a ladd∣wyd i dderbyn gallu, a chyfoeth, a doethineb, a chadernid, ag anrhydedd, a gogoniant, a bendith, i'r hwn sydd yn eistedd ar yr orsedd∣fainc, ag i'r oen y byddo y fendith a'r an∣rhydedd, a'r gogoniant a'r gallu yn oes oesoedd. Datc. 5. 12, 13.

An heblaw rhefymmau eraill sy'n gwn∣euthur y cyfryw ddarpariad yn erbyn ein diwedd yn gymmwys iawn, mae hyn yn ein cynnefino i'r gwasanaeth a'r gorchwyl sy' yn y byd a ddaw, o herwydd bywyd yw'r Nef o fawl a Duwioldeb, yno y cawn weled Duw a'i garu a'i addoli ef, a chanu iddo ef Halelujah yn dragywydd. Am hyn∣ny nid oes dim well in darparu ni i fyw yn y Nef na bod ein calonnau mewn cower addas i glodfori Duw, yn fyw o'i gariad ef, ag megis tû hwnt i ni ein hunain o achos

Page 163

disglairdeb ei ogoniant ef a'i berffeithr∣wydd, ag megis wedi ein llwyr draflyncu gan ddwfn a gostyngedig addoliad.

III. Felly pan fo'm ni yn myncd i'r bŷd a ddaw, fe a weddeu i'ni roi ein meddyliau arno yn fwy nag v̂n amser, i ystyrio dded∣wydded y lle hwnnw, lle in gwaredir oddi∣wrth bob mâth ar ofn, a' phryddder, a' chy∣studd, a' phrofedigaethau y bŷd hwn, ple y cawn weled Duw, a'r Jesu bendigedig, ag ymddiddan ag Angylion, a byw ymmysg eneidiau gogoneddus, byw, meddaf, yn dra∣gwyddol heb ddim perigl marw; lle nid oes dim ond cariad perffaith a' thangnhed∣dyf, dim ymryson, na neb i groesi eu gil∣ydd, ple nid oes dim anghaffael i rwystro neu i dorri ar ein llawenydd a'n heddwch a'n gorphwysdra dros dragwyddoldeb; ple nid oes dim poen, na blinder, na chlefyd, na llafur, na dim gofal i ddadflino ag i adne∣wyddu pall nerth corph marwol deffygiol, ple nid oes cymmaint a chyscod neu ddelw Angeu i dorri ar ein llawenydd cyflawn di∣dranc; ple y mae dydd tragwyddol, a gwa∣stadol ddistawrwydd a thawelwch, ple y caiff ein heneidiau feddiannu eithaf perf∣feithrwydd o wybodaeth a' rhinwedd, ple y cawn wasanaethu Duw, nid â gwasanaeth llwfr pendrwm aghynnes, ond â meddyliau bywiol cyflym, â holl rym a' nerth ein heneidiau; mewn v̂n gair, ple y mae y cy∣fryw bethau iw cael, ag nis gwelodd llygad,

Page 164

ag nis clywodd clust, ag nis daeth i galon dŷn.

Dymma'r meddyliau sy' addas a chym∣mwys i'r sawl a fo yn ei ymbaratoi ei hunan i farw, nid i feddwl am guled ei wedd, ag mor ddychrynllyd yr edrych, ar ol ei roi yn ei amdo, nid i feddwl mor dywyll ag mor drwm ag mor neilltuol yw'n llettu yn y bêdd, ple y mae'n rhaid ini fraenu a lly∣gru tan amser eu hanfarwol ai gogoneddus adgyfodiad: Ond i dderchafu eu golygon tua'r Nef, i gymmeryd golwg o'r wlâd oleu ddedwydd honno, yn ail i Moses yn dringo i fyny i'r mynydd er mwyn cymmeryd golwg o'r Ganaan Nefol i ba un y maent yn siwrneio. Wrth arferu hyn y gallwn orch∣fygu hyd onid ein harswyd i farw er ei fod hefyd mor naturiol in'i. Ag a wna ini chwennychu gida St. Paul ein hymddatto∣diad er mwyn bod gida Christ, yr hyn sydd oreu gwbl; hyn a'n gwna ni mor ewyllys∣gar i ymadel a'r bŷd hwn er mwyn myned ir Nef, ag a fyddem i symmudo i ryw wlâd mwy difyr ag iachus, neu i ryw dŷ a fyddeu yn fwy tirion a chyfleus; nid dim llai ei lonychdod ai ddifyrrwch, pwy bynnag a fo a'r meddyliau hyn o'i amgylch pan fo yn marw.

Hyn yn wîr a ddyle fod ein gorchwyl beunyddiol, os byddwn ni byw fel y gwed∣deu ir Gristiannogol grefydd; mae'n gym∣mwys i bob amser, ag i bob rhith a' grâdd

Page 165

o ddynion; ag heb ryw fesur o hono, mae'n llŵyr ammhossibl gorchfygu profedigae∣thau y byd ymma, neu i ddilyn rhinwed∣dau nefol: ond yn enwediccaf, hyn a ddyle fod unig waith a gorchwyl, neu fel y dy∣wedwyf yn gymmhwysach, hyn a ddyle fod unig ddifyrrwch y gwyr dedwydd rhe∣ini, a fo byw yn ddigon o hŷd yn y bŷd hwn, tan na welsont yn dda, gymmeryd cennad têg gydag ef, ag yscwyd llaw; ar ol maith ymdeithio trwy bob adwy a thros bob llwybr, o'r naill ben ir llall a berthyn i fywyd dŷn, gan roi eu holl frŷd yn y cy∣famser ar eu diwedd ag ar y bŷd a ddaw.

A dymma'r peth sy'n gwneud neilltuo oddiwrth dwrwf y byd mor angenrheidiol, neu o'r rhan lleiaf mor gymmwys, nid yn unig er mwyn esmwythau 'n cyrph oddi∣wrth eu llafur, ag i ymwrthod a thrafferth fydol, neu i ymroi mewn diofalwch ag es∣ceulustra, neu i ymrwyfo ymma a' thraw i chwilio allan gymdeithion, neu i glywed newydd, ag i ymresymmu yn ddoeth yng∣hylch cyflwr y brenin a'r deyrnas, neu i ddyfod o hyd i ryw ffordd arall i warrio amser oddiar eu dwylaw, ag sy'n fwy o fwrn iddynt ag o drwblaeth nag oedd eu gwasanaeth a'u gorchwyl: Cyflwr per∣yglus iawn yw hwn, o herwydd ei fod yn eu hanghymhwyso hwynt i farw fel y dylent lawer mwy nai gofal yn edrych ar ol y bŷd; ond mae'n rhaid ini droi y byd

Page 166

ymma heibio er mwyn cael mwy o amser, a gwell cyfleustra in hymddarparu yn erbyn byw yn y nessaf▪ a thrwsio 'n heneidiau fel priod ferch drwsiadus a fo i gyfarfod ai phriod fab.

Pan fo dynion yn trin llawer ar y byd ymma, ag yn dryllio eu pennau ynghylch ei drafferth a'i fatterion, pan fo llawer yn deilio arnynt, ag yn wastad ar eu rhedeg o'r naill farchnad tû i'r llall, fel y gwŷr o gyfraîth o'i stafelloedd i sefyll o flaen y fainc, ag ar ol iddynt wneuthur pen am v̂n matter pan fo'nt yn cymmeryd un arall mewn llaw, mor drafferthus ydynt hwy, nad oes mor ffûn yn eu geneuau ar ol dy∣fod adref y nos i ddywedyd eu gweddi, na'r boreu chwaith, a dydd yr Arglwydd a fer∣nir yn gymhwysach i gymmeryd esmwyth∣dra nag i weddio; Meddaf, beth am oered cariad y cyfryw bobl tuag at y byd a ddaw? Ag ar ol cymmeryd cymmaint o osal ag a fedrwn, beth mor ddiogel y mae'r bŷd hwn yn ymlithro in calonnau ni, pan fo yn go∣fyn cin hamser ag yn rhoi ein meddyliau ar waith, pan fo'n cwbl orchwyl i brynnu ag i werthu, ag i glymmu bargeinion da manteisiol, ag i dynnu scryfennadau a gw∣eithredoedd am dai a thiroedd: a ostega hyn ein gwyniau, onid ânt yn hytrach yn fwy afreolus o herwydd hyn? ag yn fwy amra∣faelgar, oni hoga hyn ein balchder, a'n traha, a'n cybydddod yn gymmaint a bod

Page 167

digon ar ol hir drin y bŷd, i wyr duwiol i olchi ymmaith ei ffieidddra, ag i dynny blâs y byd ymma oddiar eu geneuau, ag i ad∣fywhau ag i fywiogi eu cariad au gwybo∣daeth ô Dduw a'r bŷd a ddaw.

Mae hyn yn llawn ddigon o reswm, fel y dywedais o'r blaen, ini feddwl pa brŷd y bydd yn amser cymmwys i droi heibio 'r bŷd, os nid yn hollawl etto i gymeryd llai o fusness mewn llaw, ag iw feistroli fel y gallom gael mwy o amser ag o rydddid i ofalu am ein heneidiau, cyn byw i'r eithaf, ond mae hyn yn llawer mwy angenrheidiol pan fo 'r angeu megis ar riniog y drŵs; a phan wyddom ei fod felly wrth gwrs na∣turiaeth.

Da y gweddeu i'ni ymadel a'r bŷd cyn ein symmudo ni allan o hono ef, fel y gwyppom pa fodd i fyw hebddo, fel na bo yn chwith gennym ar ei ol pan fo'm yn y nessaf, am hynny cymmwys iawn fyddeu fod megis rhyw gyflwr cannol rhwng y bŷd hwn a'r nessaf; hynny yw ni a ddylem ein hymddieithro ein hunain oddiwrth y bŷd hwn, er mŵyn ein diddyfnu oddi∣wrtho, ie tra bo'm yn aros ynddo; wrth hynny nid anodd fyddeu ymadel a'r byd hwn er bod yn fwy parod i fyw yn y byd a ddaw, ond golwg gwrthyn yw, oddieithr er mŵyn diwallu eu tylwyth, neu er mwyn gwasanaethu eu gwlâd, gweled gwŷr ymron eu bedd, yn ymgrymmu yscatfydd tan bŵys

Page 168

eu cyfoeth fel tan eu hoedran tros eu pen∣nau a'u clustiau yn nhrasferth y bŷd, yn ymgeisio lleoedd uchel a' goruchasiaeth, cyn daered a phe bae'nt ond dechreu ymhel a'r bŷd. Mae imi achos i ofni nad yw'r cy∣fryw rai yn meddwl ond ychydig am y bŷd a ddaw, ag na wnânt byth.

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.