Page 140
RHAN II.
Beth leied achos sydd ini gwyno fod oes dynol riw cyn fyrred.
PA achos bychan sy' ini gŵyno, fod oes dyn cyn fyrred, a bod angau yn rhy bryssur yn sengu ar ein gwartha: o herwydd 1. Yn gyntaf: nid ydyw byw yn hir ar y ddaiar, yn cyttuno ag ystâd bresennol y byd. Ag 2. Yn ail yr ŷm yn byw yn ddig∣on ei hŷd i bob defnydd llesol, a phwrpas doeth, er mwyn pa rai mae n dda byw, ag i gyflawni pob gwasanaeth i ba v̂n yr ordei∣niwyd bywyd.
I. Nid yw hiroes yn cyttuno ag ystâd neu gyflwr presennol y byd hwn. Beth oedd cyflwr y byd cyn y diluw, a pha fodd yr oedd y bobl yn y dyddiau hynny yn treulio eu hamser, nis gwyddom, o herwydd nid ydyw Moses yn rhoi cyfrif yn y byd o hyn: Ond os cymmerwch y byd fel y mae ef yn ein hamser ni ag fel yr ŷm ni yn ei gael ef. Cymmeraf i arnaf fodloni y cyfryw bobl pwy bynnag ydynt, yn cŵyno fod oes dyn yn ferr, na byddeu 'n ddedwyddwch gyffedinol i ddynol riw, pe bae 'n byw yn llawer hwy; Oblegid 1. fod y byd wedi ei rannu yn anghydran, hynny yw, mae rhai yn cael rhan helaeth o hono ef, ag nid yw eraill yn cael dim ond y maent yn ei ennill wrth chwŷs eu hwynebau a