Bedydd plant or nefoedd, neu, Draethawd am natur a diben bedydd yn profi trwy ddeuddeg o resymmau scrythuraidd y dylid bedyddio plant y ffyddloniaid / o waith James Owen ......

About this Item

Title
Bedydd plant or nefoedd, neu, Draethawd am natur a diben bedydd yn profi trwy ddeuddeg o resymmau scrythuraidd y dylid bedyddio plant y ffyddloniaid / o waith James Owen ......
Author
Owen, James, 1654-1706.
Publication
Printiedic yn Llundain :: Gan F. Collins,
1693.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Infant baptism -- Early works to 1800.
Cite this Item
"Bedydd plant or nefoedd, neu, Draethawd am natur a diben bedydd yn profi trwy ddeuddeg o resymmau scrythuraidd y dylid bedyddio plant y ffyddloniaid / o waith James Owen ......" In the digital collection Early English Books Online. https://name.umdl.umich.edu/A53657.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 18, 2024.

Pages

Page 149

PEN. XIV.

Fe ddylid bedyddio plant, o herwydd ir Eglwys Gristnogol eu bedyddio hwynt ymhob oes.

Rheswn XI.

YR oedd plant y ffyddloniaid yn gyfrannogion o fedydd ymhob oes o eglwys Dduw o amser yr A∣postolion hyd yr oes ddiwethaf, fel y gallwn i brofi yn helaeth pe bae fu∣ddiol ir darllenydd annyscedig; mi a osodaf i lawr rai siamplau.

Mae Calvin yn dywedyd, Nullus est scriptor tam vetustus, &c. Nid oes un athro mor hen, yr hwn nid yw'n son am ddechreuad bedydd plant yn am∣ser yr Apostolion.

Irenaeus, yr hwn a drodd yn Gristi∣on yn y flwyddyn o oed Christ 128, Ac a fu fyw fel y mae teby∣gol yn amser yr Apostl Joan, a grybwyll am fedydd plant. Omnes

Page 150

venit per semetipsum salvare, omnes inquam qui per eum renascuntur (i. e. baptizantur) in Deum, infantes, par∣vulos & pueros, juvenes & seniores, ideo per omnem venit ætatem, infantibus infans factus, sanctificans infantes, in parvulis parvulus, sanctificans hanc ip∣sam habentes ætatem. Fe ddaeth Christ i gadw pawb a fedyddir iddo ef, sef plant, a rhai bychain a bechgin, gwyr jefaingc a hen wyr, fo ddaeth ymhob oedran. fe a wnaethbwyd yn blentyn i blant fel y sancteiddiei ef blant by∣chain, &c.

Tertullian a dystiolaethodd tros fe∣dydd plant ynghylch y flwyddyn 192. Ex sanctificato altero sexu san∣ctos procreari ait, ex seminis prærogati∣vâ. O rieni sanctaidd y genir plant sanctaidd, yn ol rhagorfraint hád y ffyddloniaid.

Origen, yr hwn oedd hynod yn y flwyddyn o oed Christ 230 Sydd yn dywedyd, De Infantibus bapti∣zandis ecclesia traditionem accepit ab A∣postolis. Derbyniodd yr Eglwys fedydd plant trwy draddodiad oddiwrth yr A∣postolion. Ni a brofasom or blaen mae traddodiad scrythurol oedd hwn,

Page 151

Canys bedyddiodd yr Apostolion blant bychain.

Fe a ddywed mewn lle arall, o herwydd bod (euogrwydd) pechod gwreiddiol yn cael ei symmud ymmaith mewn bedydd, am hynny y bedyddir plant bychain.

Cyprian yr hwn a neullduwyd ir weinidogaeth yn y flwyddyn, 247. Sydd yn són am fedydd plant. A baptismo atque à gratiâ nemo [credeus] prohibetur, quanto megis prohiberi non debet infans, &c. Y mae bedydd a maddeuant pechod yn perthyn i bawb a gredant, pa faint mwy i blant bychain, y rhai ni phechasont ond â phechod gw∣reiddiol, am hynny hawsach iddynt hwy nac eraill i dderbyn maddeuant, quod illis remittuntur non propria, sed a∣liena peccata, o herwydd maddeuir i∣ddynt hwy nid eu pechodau [gwei∣thredol] eu hunain, ond pechodau un arall, sef Adda.

Y mae Cyprian yn gosod i lawr nid yn unig ei farn ei hun, ond barn Trigain a chwech oi gyd-esgobion mewn Cymmanfa yn Africa yng∣hylch bedydd plant, na ddylid oedi mo honaw hyd yr wythfed dydd,

Page 152

fel yr ydoedd rhai yn gwneuthur yn ol Cyfraith yr Enwaediad, ond y gellir eu bedyddio cyn, neu ar ol yr wythfed dydd fel y byddo amgyl∣chiadau yn gofyn.

Gregory o Nazianzum yr hwn oedd hynod o bobtu yr flwyddyn 370, sydd yn dwyn tystiolaeth i fedydd plant, medd ef, Omni ætati baptisma convenit, y mae bedydd yn gyfattebol i bob oedran: a thrachefn, Da infanti trinitatem, magnam & præstantissimam custodiam. Dyro fedydd y drindod i blant bychain, a bydd hynny yn ddioge∣lwch mawr a rhagorol iddynt.

Chrysostom yr hwn a wnaethpwyd yn henuriad yn y flwyddyn 386, a ddywed fel hyn, Am hynny y dysc yr Eglwys gatholic y dylid bedyddio plant, o herwydd pechod gwreiddiol; ac un∣ffurff arferiad yr Eglwys sanctaidd trwy yr holl fyd, ynghylch bedydd plant a rhai o oedran ni ddylid edrych arno megis peth ofer.

Jerom, yr hwn a ddechreuodd fod yn hynod yn y flwyddyn 378, a gyd-tystiolaetha ir gwirionedd hwn, ebe ef, yr ydym ni yn dal bod un be∣dydd, ac y dylid rhoddi y Sacrament

Page 153

hwn i blant bychain, yn yr un geiriau, ac y gweinir ef i rai o oedran.

Austin, yr hwn a lewyrchodd yn eglwys Dduw yn y flwyddyn 396, hyd y flwyddyn 430, a yscrifennodd lawer ynghylch bedydd plant, efe a ddywed fel hyn, à parvulo recens na∣to us{que} ad decrepitum senem, &c. Ni ddylid neccau bedydd i neb, o blant by∣chain newydd eni hyd hen wyr cleiri∣ach.

Yr oedd bedydd plant mor gyffre∣dinol yn eglwys Dduw, na allei y Pelagiaid wadu o honaw, er eu bod yn gwadu pechod gwreiddiol, yn erbyn pa un y mae yn feddyginiaeth. Secundum Pelagium hæreticum ista di∣catis, &c. yr ydych yn dywedyd yn ol Pelagius yr haeretic fod bedydd yn ang∣henrheidiol i blant bychain, nid er ma∣ddeuant pechodau, sed tantum propter regnum cœlorum, ond yn unig er mwyn teyrnas nefoedd.

Fel hyn y gwelwn ni pa fath oedd arferiad yr oesodd cyntaf yng∣hylch bedydd plant, mi a chwanegaf un neu ddau eraill o dystiolaethau ynghylch y peth hwn.

Page 154

Bernard yr hwn a fu fyw rhwng y flwyddyn 1091, ar flwyddyn 1153, sydd yn dangos arferiad yr Eglwys yn yr Oesoedd hynny, ac yn rhoddi barn galed ar y rhai a wrthwyne∣bant fedydd plant. Ebe efe▪ yr hwn sydd yn neccau bedydd i blant rhieni Christio∣nogol sydd yn datcuddio cenfingen gyth∣reulig, je y cyfryw genfigen ac a ddygodd farwolaeth ir byd: Nid yw y gwr hwn o Dduw yr hwn sydd yn gwneuthur ac yn llefaru mor wrthwyneb i Dduw.

Yn nessaf ni a ystyriwn arferiad y Waldensiaid, y rhai oedd y Christ∣nogion puraf yn yr oes hon, ac mewn ymneullduaeth oddiwrth Eglwys Rhufain. Yn hytrach ni a ymo∣fynnwn ynghylch eu harferiad hwynt o herwydd bod rhai yn dywedyd eu bod yn erbyn bedydd plant. Gwir yw, y mae y papistiaid, eu ge∣lynion, yn taflu y gwradwydd hwn arnynt. Felly y mae Cluniacensis ac eraill, a chredodd Bernard y drygair oedd iddynt hwy, ac am hynny y mae yn dywedyd eu bod hwynt yn erbyn bedydd plant, ac o sect y Ma∣nichaeid, eithr nid oeddent hwy euog or naill na'r llall.

Page 155

Yr achos pa ham yr oedd y gair iddynt eu bod yn erbyn bedydd plant, oedd o herwydd eu bod yn oedi eu bedyddio nes cael eu gweini∣dogion eu hunain, y rhai oeddent yn fynych yn wascaredic o herwydd er∣ledigaeth, ac nid oeddent yn bodloni ir Offeiriaid pabyddaidd iw bedy∣ddio.

Ni allwn weled eu barn hwynt ynghylch bedydd plant yn eu Cyffes hwynt. Ir diben hwn (sef fel y by∣ddo ir gynnulleidfa weddio trostynt) yr ydym yn cyflwyno plant bychain iw bedyddio, yr hyn a ddylent hwy ei wneuthur sydd yn berthnasseu agos iddynt, megis y rhieni, &c.

Yr un modd y dywedant hwy mewn Cyffes arall — yr ydym yn derbyn swpper yr Arglwydd i ddangos ein bod yn parhau yn y ffydd, megis yr addawsom ni yn ein bedydd pan oeddem yn blant bychain.

Fel hyn y gwelwn ni yr Arferiad o fedydd plant ymhlith y Christnogion hynod hynny, y rhai oedd y Tysti∣on cyntaf yn Erbyn Angrist, ac a ddioddefasant hyd at waed.

Page 156

Y mae arferiad bedydd plant ymh∣lith y Waldensiaid yn hytrach iw nodi, o herwydd mae'r gweddillion puraf oeddent or brif-eglwys, a tha∣dau y diwygiad. Adeiladodd y Pro∣testants ar y sylfaen a osodasent hwy.

Felly ynteu parhaodd arferiad be∣dydd plant yn eglwys Dduw ymhob oes hyd yr oes ddiwethaf, yr oeddid yn eu bedyddio yn eglwys yr Idde∣won cyn dyfodiad Christ, bedyddi∣wyd hwynt gan Joan, a chan yr A∣postolion, megis y profasom eusus, a pharhaodd yr Arferiad o honaw yn yr Eglwys Gristnogawl, yn yr oeso∣edd puraf o honi, ac i wared drwy bob oes hyd yr amser yr ymddango∣sodd Luther a Chalvin, a llawer eraill o wyr duwiol a dyscedig y rhai a gy∣fododd yr Arglwydd i ddiwygio eg∣lwys Dduw, ac iw galw allan o Ba∣bylon. Yr oeddent hwy oll yn cyd∣synnio ynghylch bedydd plant, ac nid oedd yr un o honynt yn ammeu rhagorfreintiau plant. Nes ir gwrth∣wyntbwr ddyfod tra yr oedd dynion yn cysgu a hau efrau ymhlith y gwenith.

Page 157

Y cyntaf a fedyddiodd rai yr ail∣waith yn Lloegr oedd John Smith, gwenidog o eglwys Loegr, yr hwn a aeth i Holland, ac a unodd gydâg Eglwys Mr. Ainsworth, yn y diwedd wedi ei fwrw ef allan or Eglwys honno am amryfusedd, efe ai bedy∣ddiodd ei hun, ac yna efe a ail-fe∣dyddiodd eraill. See Ainsworth's De∣fence of Scripture. Jessop's Discovery of the Errors of Anabaptists, p. 65. Clifton's Christian Plea.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.