Page 132
PEN. XIII. (Book 13)
Fe a ddylid bedyddio plant y ffyddlo∣niaid, o herwydd ir Apostolion fe∣dyddio teuluoedd cyfain. (Book 13)
Rheswn X.
FFordd Duw o ddechreuad y byd oedd derbyn teuluoedd cyfain iw gyfammod, yr oedd y plant yn cael eu derbyn i mewn gydâ eu rhie∣ni, felly yr ydoedd Noah ai deulu yn yr un cyfammod. Er ei fwyn ef derbyniwyd eu deulu gydâg ef ir Arch, a bedyddiwyd hwynt gydâg ef yn nyfroedd y diluw. Credodd* 1.1 Abraham, a derbyniwyd ei holl deulu i gyfammod Duw gydâg ef. Gen. 17. Nid yn unig efe ai had, ond ei weision ai forwynion or Cen∣hedloedd, y rhai deddent yn ewy∣llysgar i dderbyn y wir grefydd, ai* 1.2 had hwyntau. Ac felly parhaodd Cyfammod Duw yn nheuluoedd y ffyddloniaid hyd ddyfodiad Christ tros yn agos i bedair mil o flynyddoedd.