Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er Jechydwriaeth ... / gan Joseph Alleine ...

About this Item

Title
Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er Jechydwriaeth ... / gan Joseph Alleine ...
Author
Alleine, Joseph, 1634-1668.
Publication
Llundain :: Tho. Whitledge a W. Everingham,
1693.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Conversion -- Early works to 1800.
Christian life.
Cite this Item
"Hyfforddwr cyfarwydd i'r nefoedd neu Wahawdd difrifol i bechaduriad i droi at Dduw er Jechydwriaeth ... / gan Joseph Alleine ..." In the digital collection Early English Books Online. https://name.umdl.umich.edu/A26692.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 19, 2024.

Pages

Page 47

PEN. III. Yn dangos mor rheidiol yw Troedigaeth Rasol.

NI hwyrach y dywedwch, pa ham y mae cymmaint o drwst ac o daerni ynghylch yr un peth hyn, sef y rhaid edifarhau a dych∣welyd, Act. 3. 19. Ond rhaid i mi ddywedyd wrthych chwi fod yr achos yn ei ofyn: Pe gallech fod gadwedig yn eich cyflwr presenol, myfi ach gadawn chwi yn llonydd. Ond nid oes gennif obaith gweled wyneb un pechadur yn y nef, oddieithr ei droi yn drwyadl, ac ymroi i newydd-deb buchedd. Dywed Christ na ddichon dyn weled teyrnas Dduw oddieithr ei eni drachefn, Joan 3. 3. Gan hynny ni ddy∣lech ryfeddu fod eich gweinidogion mewn gwewyr escor o'ch plegid chwi, ac yn daer am weled delw Duw arnoch. Nid yw'r tro∣edigaeth a ddosparthwyd gynneddf tra-rhag∣orol o ryw Gristion tal, onid cyfnewidiad rhe∣idiol i bob un cadwedigol.

Dywedodd Rhyfeinwr anrhydeddus ydoedd ar frys i ddwyn ŷd ir ddinas ar amser prin∣der a newyn, a'r morwyr yn rhufo hwylio o herwydd bod yr hin yn arw, Necessarium est Navigare, non est necessarium vivere: Rheitiach yw ein taith na'n bywyd: Y mae troedigaeth yn Rheitiach i titheu na'th fara, na'th anadl; yr un peth angenrheidiol yw troi at Dduw. Nid yw dy olud mor rheidiol iti, gelli werthu'r cwbl, i brynu'r perl gwerthfawr, a bod yn ennillwr hefyd, Math. 13. 46. Gelli ymadel a'th fywyd er mwyn

Page 48

Crist, a gwellhau arnat dy hnn: A chael dy ddifenwi er mwyn enw Christ, a bod yn wyn∣fydedig: Je llawer gwell iti wradwydd er ei fwyn ef, nag anrhydedd ffordd arall, 1 Pet. 4. 4. Math. 5. 10, 11, 12. Oni chei droedigaeth rasol darfu am danati byth, anoddefadwy fydd dy gyflwr yn dragywydd. Ymddengis hyn mewn pum peth, canys heb y newidiad grasol hwn.

1. Ofer yw dy fod. Ond gresyn dy fod yn faich anfuddiol ir ddaiar, neu fel dafaden yn ghorph y bŷd, heb fod yn dda i ddim; felly yr wyti heb râs. O herwydd ewyllys Duw yr wyti, ac y crewyd di, Datc. 4. 11. Yr Arglwydd a'th wnaeth di er ei fwyn ei hun, Dihar. 16. 4. Gan dy fod yn ddyn a rheswm ynot, ystria i ba beth ith wnaethpwyd.

Edrych ar waith Duw yn dy gorph, a gofyn i ba beth y cododd efe yr adail hono? Meddwl am gynneddfau godidawg dy enaid goruchel, a pha ham y rhoddes Dnw hwynt iti, mai nid er mwyn boddhau dy gnawd llygredig. Ni anfonodd Duw ddynion ir bŷd i fod fel y gwennoliaid, i hel pricciau a phridd i adeiladu nythod, ac i fagu. Cydnabyddai paganiaid fod i ddŷn ryw ddiben mwy na hynny. Yn ofnadwy ac yn rhyfeddol i'th wnaed, fel y byddai iti glod∣fori Duw, Psal. 139. 14. Y peth sydd waith godidowg a nefol.

O ddyn! gad i'th reswm gael y gader, oni weli yn resyn godi'r fath adail yn ofer? yr hyn a ddigwydd oni wasanaethi Dduw. Heb râs i ba beth y byddi da? yr wyti fel offer cerdd gywraint a'i holl dannau wedi eu torri, ac allan o dymer: Oddiethr i yspryd Duw dy gyweirio di drwy râs, a'th wneuthur yn felys dy Sain, ni bydd dy weddi ond udo anhyfryd iw glustiau ef, Ephes. 2. 10. Phil. 2. 13. Hos. 7. 14. Esay 1. 15.

Page 49

Yn dy gyflwr naturiol y mae dy holl alluoedd yn llygredig, a rhaid ei glanhau oddiwrth weith∣redoedd meirwon, cyn y gallech wasanaethu'r Duw byw, Heb. 9. 14. Tit. 1. 15.

Nid all yr aflan wneuthur gwaith Duw, mae'n anghynefin â gwaith megis â gair cyfi∣awnder, Heb. 5. 13. Y mae dirgelwch yn ym∣arferion gydag yn nghwyddorion duwioldeb, ac ni ŵyr yr anrasol ddirgeledigaethau teyrnas nef∣oedd, Math. 13. 11. 1 Tim. 3. 16. Nid gwiw disgwyl ir dŷn naturiol wneuthur gwasanaeth cymeradwy i Dduw, mwy nag ir anllythrennog ddarllen; canys rhaid yn gyntaf iddo gael ei ddyscu gan Dduw, Joan. 6. 45. Ei ddyscu i weddio. Luc. 11. 1. i wellhau, Esay 48. 17. i gerdded, Hos. 11. 3. A chydâ bod y nat∣uriol yn anfedrus ir da, y mae efe hefyd yn ddinerth iddo, ai galon yn wan, Ezec. 16. 30. Ac yn hawdd ganddo flino; dywed am y Sab∣bath, pa flinder yw? Mal. 1. 13. Je nid yw wan yn unic, Rhuf. 5. 6. Ond yn farw hefyd mewn pechod, Ephes. 2. 5. Je nid oes ganddo chwant at ddim da, ni ewyllysia wybod ffyrdd Duw, Job. 21. 14. Ni wyddant ac ni ddeallant, Psal. 82. 5. Nid oes ganddo chwaith mor offerau na denfydd tuag at wneuthur daioni, gan ei fod heb rasau yspryd Duw. Nid yw cardod wasanaeth i Dduw ond i wag-ogongiant oddieithr i gariad duwiol estyn y llaw iw rhoddi: Nid yw gweddi o'r gwefusau heb râs yn y galon, ond corph heb fywyd: Ni thal cyffessu pechod ddim oni bydd ynddo Sorriant duwiol ac edifeirwch ddifrifol: Nac erfyniad heb ffydd yn addewidion Duw, a dymyniad dduwiol: na diolch geneu heb deimlad o ddaioni Duw yn y galon: Gall un ddisgwyl ir coed lefaru, ac ir anifeiliaid ymresymmu, ac ir marw ger∣dded,

Page 50

gystal ac ir dyn annuwiol wneuthur y peth y fyddo da gan Dduw: Tra fyddo'r pren yn ddrwg, nid all ei ffrwyth mor bod yn dda, Math. 7. 18.

Ac nid yw'r anianol yn unic yn ddiduedd ir da, ond yn llawn drwg hefyd, fel cawell o adar aflan, Datc. 18. 2. A bêdd llawn o byd∣redd, Math. 23. 27. Corph marw ffiedd yn llawn pryfed ac arogl drewllyd, Psal. 14. 3. Ystum flin! ynteu gwel rheitied iti dderbyn grâs. Blin oedd ir Juddewon weled llestri aur y deml yn nŵylaw anghred, ai harferu at fe∣ddwdod ac eulyn-addoliad, Dan. 5. 2, 3. A gweled Antiochus yn gosod llun Mochyn yn agos at gyntedd y deml: Blinach fuasai iddynt weled pesci Môch yn y deml, a gwneuthur y sanctaidd sancteiddiolaf yn dom-dŷ fel y gwn∣awd teml Baal, 2 Bren. 10. 27. Och! hyn yw cyflwr yr anrasol. Troir ei holl aelodau yn offerau angbyfiawnder, Rhuf. 6. 19. Yn wei∣sion i Satan: Ai alluoedd pennaf yn gelloedd aflendid, Ephes. 2. 2. Tit. 1. 15. Gellir dir∣nad y pethau sydd oddifewn wrth y pethau sydd yn dyfod allan o honaw: O'i galon y mae meddyliau drwg yn dyfod allan, lladdiadau, tor-priodasau, godinebau, lladradau, camdystiolaeth∣au, cablau, Math. 15. 19. Y gâd ddu hon sy'n dangos fod uffern oddifewn.

Ond gresyn gweled yr enaid goruchel wedi ei wneuthur yn gaeth-wâs i frunti, ac arg∣lwydd y bŷd, gogoniant y creadigaeth, y pen∣naf o ffyrdd Duw, wedi troi yn afradlon, ac yn haffio yn y cafn gyda Môch, ac yn llyfy chwdfa. Galar oedd gynt weled y rhai a feith∣rinwyd mewn scarlad yn cofleidio yr tommennydd, a gwerthfawr feibion Sion cystal ag aur pûr, yn cael eu cyfrif fel stenau pridd, Galar-nad 4. 2, 5.

Page 51

Ac onid yw yn chwithach weled yr Enaid an∣farwol ydoedd ar lun Duw, wedi myned yn llestr heb hoffder ynddo? Jer. 22. 28. O ddirmig anoddefadwy!

2. Ofer fyddei 'r creadigaeth gweledig hefyd heb fod rhai a derbynient râs. Gwnaed pob peth i wasanaeth dyn, efe ddylei lefaru dros y Creaduriaid eraill, fel y tafod dros yr holl ael∣odau. Nid all y creaduriaid foliannu eu gwneu∣thurwr ond wrth fud-amneidio ar ddyn i lefaru drostynt. Dyn yw archoffeiriad y creaduriaid, i offrwm diolch drostynt hwy oll, Psal. 147. ac 148. ac 150. Ardreth moliant sydd ddy∣ledus ir Arglwydd oddiwrth ei holl weithred∣oedd. Psal. 103. 22. yr hyn y mae 'r cread∣uriaid eraill yn ei ddanfon drwy law dyn, ac os efe a fydd anffyddlon, gwneir cam i Dduw, a siomir ef am y cwbl, fel na chaffo ogoniant presenol oddiwrth ei weithredoedd.

O beth erchill iw ystyried! A ddarfu i Dduw adeiladu 'r bŷd mawr hwn, a dangos cymmaint oi anfeidrol allu ac oi ddoethineb, ac oi dda∣ioni ynddo, ac a fynni di fyned o'r cwbl yn ofer wrth fod Dŷn ar y bai, yn ei yspeilio ef o'r gogoniant a haeddei efe am y cwbl? Och! meddwl am hyn, tra fyddech di yn anrasol, y mae'r creaduriaid yn dy wasanaethu di yn ofer. Gwaith ofer ith fŵyd dy borthi di, ag ir ser a'r haul oleuo iti a'th wasanaethu, Hos. 2. 21, 22. Barn 5. 20. Ofer ith ddillad dy gynhesu, ac ith anifail dy ddwyn, ac ir cread∣igaeth oll lafurio er dy fwyn di, rhoddant eu ffrwyth iti fel y byddo iti â hynny ogoneddu eu creawdwr, ac onis gwnei hynny y maent yn cyd-ocheneidio, ac yn cyd-ofidio, Rhuf. 8. 22.

3. Heb râs ofer fydd dy grefydd, Jag. 1. 26.

Page 52

Nid all dy ddyledswyddau crefyddol na rhyngu bodd Duw, Rhuf. 8. 8. Na lleshau dy enaid, 1 Cor. 13. 2, 3. Er ith wasanaeth fod yn ol∣ygus, etto heb râs ni bydd hyfryd gan Dduw mono, Esay 1. 14. Mal. 1. 10. Peryglus yw cyflwr y dyn y byddo ei aberth yn ffiaidd, ai weddi fel anadliad drewllyd, Esay 66. 3. Dihar. 28. 9. Bagad dan gnofa cydwybod a fwriad∣ant wellhau peth, ac a dybiant y gallant ym∣jachau drwy ychydig Elusenau, a gweddiau, heb ystyried nad all eu dyledswyddau leshau, eisieu eu dyfod oddiwrth galon sanctaidd. Gwrth∣odwyd Jehu er maint y wnaeth o herwydd nad oedd ei galon yn uniawn, 2 Brenh. 10. Hos. 1. 4. Er bod Paul yn ddiargyoedd mewn bagad o bethau, etto collodd y cwbl a wnaethei cyn ei droi, Phil. 3. 6, 7. Meddwl pobl wrth ddyfod at addoliad Duw, eu bod yn haeddu yn dda; a byddant barod i ddwyn hynny ar gôf ger bron Duw, er ei annog ef iw gobrwyo, Esay, 58. 3. Math. 7. 22. Heb ystyried fod ei gweithredoedd yn anghymeradwy tra fyddo eu calonnau yn aflan.

O Enaid pechadurus! pan fyddo dy anwir∣eddau yn pwyso arnat, na thybia y gall, ych∣ydig weddio neu ddiwygio heddychu Duw, rhaid iti ddechreu ar y galon, oni bydd hono wedi ei hadnewyddu, ni elli fodloni Duw, mwy nag y gallai un a wnai gam â thi, ac a syr∣thiai mewn brunti ymgymmodi â thi wrth dy gofleidio a'i freichiau tomlyd.

Gofidus yw cymeryd poen yn ofer. Dych∣ymygau 'r Prydyddion benyd Sifiphus yn flin, orfod iddo yn oestadol dreiglo maen mawr yn erbyn y rhiw, a phan fyddai agos wedi dyfod i fynu i ben yr allt, dychwelai tuag i wared

Page 53

eilwaith, a gwnai ei boen yn ofer. Y mae Duw yn bwgwth pobl anufydd y gorfydd iddynt adeiladu tai heb drigo ynddynt, a phlannu coed heb gasclu eu ffrwyth, ond y cafai pryfed a dieithraid eu bwyta, Deut. 28. 30, 38, 39, 41. Ac os blin genym golli ein llafur naturiol, i hau ac i adeiladu yn ddifudd, pa faint flinach i ni golli ein gwaith crefyddol, i ni weddio, a gwrando, ac ymprydio yn ofer, canys colled tragwyddol yw hynny? Oh! na thwyller di, os parhei mewn ffordd ddrwg, er iti estyn allan dy ddwylo, fo guddia Duw ei lyg∣aid, er iti weddio llawer ni wrendi efe, Esay 1. 15. Os un anfedrus aiff yn chwithig ynghylch eich gwaith, ai anrheithio, ni roddwch iddo ond ychydig ddiolch, er iddo gymeryd cryn boen. Torrodd Duw ar y rhai ni cheisiasent ef yn y modd y dylasent, 1 Chron. 15. 13. Rhaid gwneuthur gwaith Duw yn ol ei orchymmyn ef, sef a chal∣on sanctaidd, 2 Chron. 25. 2.

4. Heb râs ofer fydd dy obaith, Job 8. 12, 13. Yr Arglwydd a wrthododd dy byder di, Jer. 2. 37. Nid oes dim cyssur yw gael yma heb∣ddo; pwy bynnag a rodio mewn llwybrau ceimion nid edwyn heddwch, Esay 59. 8. Yn unic y Sawl a rodio yn ofn yr Arglwydd a gaiff ddiddanwch yr Yspryd glân, Act. 9. 31. Y mae 'r Arglwydd yn traethu heddwch yn unic iw bobl ac iw Sainct, Psal. 85. 8. Nid Duw sydd yn llefaru 'r heddwch twyllodrus yr ydych yn ei gael yn eich pechodau. Clefyd yw'r pechod, Esay 1. 5. A gwahanglwyf yn y pen, Lef. 13. 44. ie plâ yn y galon, 1 Brenh. 8. 38. A drylliad escyrn, Psal. 51. 8. Y mae 'n archolli ac yn gwanu, 1 Tim. 6. 10. Am hynny nid gwiw disgwyl esmwythdra ynddo.

Page 54

O ddyn annedwydd, nid elli gael gronyn o esmwythâd yn dy gyflwr, onid a geffech oddi∣wrth drymder dy ddolur! Dan ymleferydd dywed ei fod yn wych, pan fyddo marwol∣aeth yn ei wyneb ef; cais godi er bod y cam nesaf ir bêdd. Er ir anwireddus ei dybiaid ei hun yn jach, a gwrthod y physygwr, tra per∣yglus yw ei gyflwr.

Y mae pechod yn cythryblu'r enaid, y mae temestl yn y meddwl anfodlongar, a gofal sydd yn cnoi 'r galon, a gwŷn ddig yn ei phoethi, a thrachwant yn ei rhoddi ar dân. Beth yw balchder onid chŵydd marwol, a ch; bydd-dod onid syched a chysp annigonol, a malis onid gwenwyn yn y galon? Beth yw 'r diogelwch cnawdol onid hun-glwyf marwol? A pha fodd y gall yr enaid hwnw gael gwir gyssur a fy∣ddo dan gymmaint o glefydau? Ond y mae grâs yn jachau 'r meddwl, ac yn cymhwyso 'r enaid i esmwythdra parhaus: Heddwch mawr fydd i'r rhai a garant gyfraith Dduw, ac nid oes dramgwydd iddynt. Psal. 119. 165. Ffyrdd doeth∣ineb sydd ffyrdd hyfrydwch, ai llwybrau yn hedd∣wch, Dihar. 3. 17. Cafodd Dafydd fwy hyf∣rydwch yn y gair nag yn ei lys. Psal. 119. 103, 127. Nid all y gydwybod gael ei hedd∣ychu nes ir galon gael ei glanhau, Heb. 10. 22. Yr heddwch pechadurus a felldithir, Deut. 29. 19, 20. Cyttundeb â phechod a heddwch yn∣ddo, sydd waeth na holl helbulon y bŷd.

Hefyd ofer yw gobaith am jechydwriaeth yn ol hyn, heb râs yma; ie gwaeth nag ofer, sef dinistriol ir dŷn ei hun, a gwrthnebus i Dduw. Y mae marwolaeth a chabledd ym mol y cyfryw ryfyg: Ei hyder a dynnir allan o'i luestŷ, ac ai harwain at frenin dychryniadau,

Page 55

Job 18. 14. Er iddo bwyso ar ei dŷ ni saif, Job 8. 15. Fel adail amharus syrth ar ben y Sawl a breswylio dano: diweddiff mewn an∣obaith; Pa obaith sydd i'r rhagrithwr pan dynno Duw ei Enaid ef allan? Job 27. 8. Yna y bydd diben ar y cyfryw obaith: Yn Siccr di∣weddiff gobaith y cyfiawn, ond bydd hynny mewn perffeithrwydd, pan gaffo fwynhau'r peth a obeithiodd efe am dano; ond gobaith y drwg a ddiweddiff mewn siomedigaeth, Dihar. 10. 28. Wrth farw gall y duwiol ddywedyd gorphenwyd, a'r unnuwiol dinystrwyd. A dywedyd am dano ei hun mewn gwirionedd, y peth a ddywedodd un arall mewn amryfusedd, yr ydys yn fy nestrywio oddiamgylch, ac yr ydwyf yn myned ymmaith, efe a Symmudodd fy ngobaith fel pren, Job 19. 10. Ond y cyfiawn a obaithia pan fyddo yn marw, Dihar. 14. 32. Pan fyddo ei gorph yn wan bydd ei obaith ef yn grŷf, Ei obaith ef sydd fywiol, 1 Pet. 1. 3. Ond gobaith rhai drwg sydd farwol, a chynnorthwyol iw dam∣nedigaeth. Pan fyddo marw dyn drygionus, Fe a ddarfu am ei obaith ef, a gobaith y traws a gyfrgollir, Dihar. 11. 7. Torrir ymmaith ei obaith ef, ac fel tŷ pryf coppyn y bydd ei hyder ef, Job 8. 14. Er iddo hyderu arni, etto daw marwolaeth ac ai yscyba ymmaith. Llygaid yr annuwolion a deffygiant, ai gobaith fydd fel ymad∣awiad yr Enaid, Job 11. 20. Deil rhai cnaw∣dol eu gobaith yn dynn nes i farwolaeth eu cymell i ollwn eu gafel: Pan darawo arf an∣geu drwy'r afu gollyngir yr enaid ai obaith allan ar unwaith. Yn y bywyd hwn yn unic y mae gobaith yr annuwiol, 1 Cor. 15. 19. Am hynny truanaf o'r holl ddynion ydynt, canys marwolaeth ai gollwn i lawr ir pwll of∣nadwy o anobaith dragwyddol.

Page 56

Y mae cabledd yn ghobaith yr annuwiol hef∣yd, canys cais wneuthur Duw yn gelwyddog. Dywed yr Arglwydd er trugarocced yw, nad achub efe yr neb a barhao yn ei anwiredd, Esay 27. 11. 1 Cor. 6. 9. Ac nad all neb gael jechydwriaeth oddieithr ei wneuthur yn greadur newydd, Gal. 6. 15. Ac os un a ryfyga yn erbyn hyn▪ tybia na saif Duw yn ei air. Ni wasanaetha meddwl y bydd anghydfod rhwng priodoliaethau Duw, ac yr aiff ei Drug∣aredd ef yn erbyn ei wirionedd, fel y caiff y pechadur rhyfygus weled iw ofid tragwydd∣ol.

Gobeithiai Dafydd yn ghair Duw, Psal. 119. 81. Ond gobaith ddiedifeiriol sydd yn erbyn ei air ef, am hynny y mae efe yn ei gwrthod, ac yn barnu yn euog y Sawl a ymgynhaliant wrth yr Arglwydd ac a ant ymmlaen yn eu han∣wireddau, Mic. 3. 11. Ni fynn efe moi wneu∣thur yn atteg i bechod, eithr yscydwiff y rhyf∣ygus oddiwrtho fel yr yscwyd un eithin, a mieri oddiwrth ei wisc, Esay 48. 1, 2. Gwir obaith a bura ddyn, 1 Joan 3. 3. Ond gau yw 'r hon sydd yn meithrin drwg: Rhaid gochelyd rhyfyg mewn cyflwr annuwiol, Act. 2. 37. Canys heb sancteiddiad ni chaiff neb weled wyneb Duw. A gochelyd anobaith hefyd pan edifaro un, ac yr ymroddo i arfer moddi∣on grâs.

5. Heb droedigaeth rasol ofer fydd iti yr hyn a wnaeth ac a ddioddefodd Christ, Joan 13. 8. Tit 2. 14. Canys ni chei jechydwr∣iaeth hebddi. Bu farw Christ dros bechadur∣iaid, etto ni chaiff neb ond yr Edifeiriol y bûdd o hynny, 2 Tim. 2. 19. Ynteu ceisi∣wn wybod beth a wnaeth Christ erddom ni,

Page 57

a pheth a wnaeth efe ynom ni. Heb yr ail∣anedigaeth nid oes hawl i neb ym mreintiau prynedigaeth. Nid achub Christ neb ond yn y drefn yr ordeiniodd y Tâd Nefol, ac fel y rhoddwyd awdurdod iddo, Esay 42. 1. Ioan 17. 2. Am hynny y mae Christ cyn gadel y bŷd yn rhoddi cyfrif ir Tâd am y ddwy ran hynny oi swydd, Ioan 17. 4, 6, 12.

Y drefn a osododd y Tâd ac a ddilyn Christ, yw dwyn pobl drwy sancteiddiad i jechydwriaeth, 2 Thess. 2. 13. Dewiswyd rhai i sancteiddiad, ac i gael maddeuant a bywyd oddiwrth Grist drwyddi, Eph. 1. 4. 1 Pet. 1. 2. Nid elli di newid Cyngor Duw, na gwneuthur ir hwn a seliodd efe fyned yng∣wrthwyneb iw ewyllys ef. Y mae Christ yn achub y rheini yn unic a roddes y Tâd iddo drwy Etholedigaeth, ac a dynnodd atto ef drwy alwad effeithiawl, Ioan 6. 34, 37, 38.

Hefyd y mae priodoliaethau Duw yn gofyn hyn, sef ei gyfiawnder ef y dal i bawb yn ol eu gweithredoedd, Rhuf. 2. 5, 6. Pe gallai pobl hau ir cnawd, ac o'r yspryd fedi bywyd tragwyddol, Gal. 6. 7, 8. tywyllei hynny og∣oniant cyfiawnder Duw; a phe rhoddid ir drwg yn ol gweithredoedd y cyfiawn. Ni oddef sancteiddrwydd Duw i neb gael pres-wylio gydag ef ond rhai sanctaidd: Y mae 'r allan yn ei olwg ef yn waeth na môch a nadroedd, Math. 23. 33. 2 Pet. 2. 22. Ni chyd ddwg neb glanwaith â môch tomlyd wrth ei fwrdd, neu yn ei stafell-wely. Ac ni fyn purdeb anfeidrol Duw bobl fruntion i breswylio gydag ef, Nid allant sefyll yn ei farn, nac yn ei ŵydd, Psal. 1. 5. ac 5. 4, 5. Gan na oddefai Dafydd dduwiol y fath hynny yn ei

Page 58

dŷ, nac yn ei olwg, Psal. 101. 3, 7. Anrhes∣ymmol i ni dybied y gwna Duw hynny. Pe cymmerai Duw bobl o'r Cutt a'r Pntteindŷ ir nef, tybid nad yw mor gâs ganddo bechod ac y dywed yr yscrythyr ei fod: Ai fod ef yn debyg iddynt hwy, fel y meddyliodd rhai o herwydd ei ddioddefgarwch ef, Psal. 50. 21. Gwirionedd Duw hefyd sydd yn siccrhau hyn. Canys efe a ddywed os ymfendithia dŷn yn ei galon ei hun, gan ddywedyd, heddwch fydd i mi, er i mi rodio yn ghyndynrwydd fy nghalon: Ni fyn yr Arglwydd faddeu iddo, eithr mŷga digllonedd yr Arglwydd yn erbyn y gŵr hwnnw, Deut. 29. 19, 20. Ac na chaiff neb drugaredd ond y Sawl a addefo, ac a adawo eu pechodau, Dihar. 28. 13. Ac nad escyn i fynydd yr Arglwydd, ac na saif yn ei le sanctaidd ef, ond y glân ei ddwylo a'r pur ei galon, Psal. 24. 3, 4. O Bechadur anhydyn, na feiddia feddwl yr aiff Duw yn erbyn ei air i arbed dy bechod di. Ni âd Doethineb Duw iddo roddi y trugareddau pennaf i'r rhai na wnant gyfrif o honynt, ac na bo gymwys iddynt, Math. 22. 5. Ni fwy gan y diedifeiriol am Grist, na chan yr jach am feddig, Math. 9. 12. Gwael ganddo ei eli, a sethriff ar ei waed, Heb. 10. 29. Ni saif gyda doethineb Duw iddo gymmell maddeuant a bywyd ar y rhai ni rônt ddiolch am danynt: Ni theifl efe mo'i bethau sanctaidd i'r cŵn, na'i berlau i'r môch, y rhai a geisiant ei rwygo ef, gan iddo ommedd i ni wneuthur felly, Math. 7. 6. Gwnai hynny Drugaredd yn dra dir∣mygus. Edrych Duw at ei ogoniant ei hun gyd ac at jechydwriaeth dŷn. Ni fynn efe golli gogoniant ei râs, a'i daflu ymmaith i rai an∣ewyllyscar ac anniolchgar. Gwelir doethineb

Page 59

Duw yn cymhwyso pethau iw gilidd, goleuni ir llygad, Sŵn ir Glust, melysdra ir archwaeth, a'r rhodd ir derbyniwr. Pe dygid yr annuwiol ir nêf, ni chaent yho ddim a hoffent. Nid yr un pethau fydd hyfryd i anifeiliaid ac i ddynion. Byddai Dyn drwg yn y nef, fel pyscodyn ar dir sych, allan oi elfen, ni byddai 'r gymdeith∣as nefol gymwys iddo, nid all fod cymundeb rhwng tywyllwch a golleuni, rhwng brunti a go∣goniant, ni byddai 'r mawl sydd yno yn gym∣wys iw eneu na'i glust. Nid yw cerddoriaeth felys gan anifeiliaid, na 'r seigiau goreu yn flasus ir cleifion. Yr hwn a dybia bregeth yn hir, a'r Sabbath yn flinder, Mal 1. 13. A be∣nydid yn ddigon tost wrth ei ddal ef attynt tros byth: Cyfraith anghysnewidiol Duw ydyw na chaiff neb ond y pur o galon weled Duw, Math 5. 8. Nid all neb ymhyrddu ir nef yn ei gyflwr pechadurus heb wybod i Dduw, am fod ei wybodaeth ef yn anfeidrol; nac yn erbyn ewyllys Duw, am ei fod ef yn Hollall∣nog. Ai er di fwyn di bechadur traws y Symmudir y graig allan o'i llê? Job 18. 4. Ac y dymchwelir sylfeini cyfiawnder? Geiriau Christ yw y rhain, sef, oddieithr eich troi chwi, nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas nefoedd, Math 18. 3. rhaid eich geni drachefn, Joan, 3. 7. Oni ol∣chaf di, nid oes iti gyfran gydâ myfi, Ioan 13. 8. Onid edifarhewch chwi a ddifethir, Luc 13. 3. Tybiai un fod un gair oddiwrth Grist yn ddi∣gon etto y mae efe yn fynych ac yn ddifrifol yn ailadrodd y peth hyn, yn wir, yn wir, yn wir, yn wir, oddieithr geni dyn drachefn, ni ddichon efe weled teyrnas Dduw, Joan 3. 3, 5. Ac fel y mae 'n haeru, felly y mae efe hefyd yn profi mor anghenrheidiol yw'r ailanedigaeth

Page 60

o herwyd aflendid y cyntaf, Ioan 3. 6. y wnaiff ddyn mor anghymwys ir nef, ac yw anifail i stafell Brenin. Ynteu na choelia ith ryfyg dy hun o flaen gair Christ. Tyngodd yr Ar∣glwydd na chaiff yr anufydd fyned i mewn iw orphwysfa ef, Psal. 95. 11. Heb 3. 18. Trwy lŵ y siccrhawyd, a thrwy waed y seliwyd cy∣fammod y grâs, Heb. 6. 17. ac 9. 16, 18, 19. Math 26. 28. Ac oni wnei hynny yn ofer, nid elli fod gadwedig heb Sancteidiadd. Y mae Duw yn cynnig iti jechydwriaeth ar yr ammodau hawsaf ac y gynnygier byth.

Fel y mae Duw yn dangos cariad ir pecha∣dur, mae ei anrhydedd yn gofyn iddo ddan∣gos casineb ir pechod; am hynny rhaid ir hwn a henwo Enw 'r Jesu ymadel â ei anwiredd, 2 Tim 2. 19. A naccau annuwioldeb. Rhaid ir hwn sydd ganddo obaith bywyd drwy Grist ei buro ei hun, megis y mae yntef yn bûr, 1 Ioan 3. 3. Tit. 2. 12. ac onide tybid fod christ yn hoffi pechod. Myn Duw ir bŷd wybod nad ydyw efe yn llochi pechod, er ei fod yn ei faddeu. Gan i Ddafydd dduwiol ddywedyd, ciliwch oddiwrthif holl weithredwyr anwiredd, Psal. 6. 8. Ac iddo gau 'r drws yn eu herbyn, Psal. 101. 7. Oni ddisgwyl y cyfryw 'r un fâth beth gan Grist sanctaidd? Ni byddei hardd iddo ollwn y cŵn ar ei fwrdd, neu adel ir môch letteua gydâ ei blant, a gwneuthwr mo∣nwes Abraham yn nyth gwiberod.

Y mae swydd Christ hefyd yn gofyn iddo ddarostwng y balch, ac arbed yr ufydd. Swydd tywysog yw bod yn ofn i weithredwyr drwg, ac yn glôd ir Sawl a wnêl dda, Rhuf. 13, 3, 4. Gweinidog Duw, yw efe, dialudd llid ir hwn sydd yn gwneuthur drwg. Pe cynhal∣iai

Page 61

Christ bobl yn eu hannuwioldeb, a chym∣eryd y rheini i reoli gydag ef, y rhai ni fyn∣nant iddo ef reoli arnynt, byddai hynny yng∣wrthwyneb iw swydd ef, Luc. 19. 27. Canys y mae efe yn rheoli i osod ei elynion dan ei draed, 1 Cor. 15. 25. Perthyn i Grist ddarostwng calonnau, a llâdd trachwantau ei rai dewisol, Psal. 45. 5. ac 110. 3. Ni chymer tywysog wrthryfelwyr amlwg iw lŷs rhag y frâd eu canlyn. Gan fod Christ yn frenin, efe a fynn anrhydedd, ac ufydd-dod, Mal. 1. 6. Fel na thywyller ei ogoniant, ac na ddirmyger ei awdurdod.

Fel y mae Crist yn jachawdwr, hefyd ei swydd yw gwaredu ei bobl oddiwrth eu pech∣odau, Math. 1. 21. Ac nid eu cynwys yn∣ddynt. Achubiff hwynt oddiwrth benid pech∣od a'i aflendid nefyd. Fel y mae yn waredwr efe a dry ymmaith annuwioldeb oddiwrth Jacob, Rhuf. 11. 26. Anfonwyd ef i fendithio dynion trwy droi pob un o honynt ymmaith oddiwrth eu drygioni, Act 3. 26. ac i ddibennu camwed, Dan. 9. 24.

Cymmwysiad. Ynteu cyfod o gyscadur, deffro di bechadur diofal rhag dy ddifetha yn dy an∣wireddau. Dywed fel y rhai Gwahanglwyfus gynt, os trigwn yma ni a fyddwn feirw, 2 Brenh. 7. 3, 4. Nid oes ond drws Edifeirwch iti i ddiangc drwyddo. Cyfod ddiogyn ac ysgwyd ymmaith dy Escusodion, pa hyd y mynni hepian a phlethu dy ddwylo i gyscu? Dihar. 6. 10, 11. A gysci di ynghanol y môr, a gysci di ym mhen yr hwyl∣bren? Dihar. 23. 34.

Cyfod o ddyn a thyred ymmaith. Rheidiol iti weddio ar ir Arglwydd Jesu estyn ei law Drugarog iti, fel y gwnaeth yr Angylion i Lot, Gen. 19. 15, 16. Y rhai a fuont daer arno, gan ddywedyd cyfod rhag dy ddifetha: Yntef

Page 62

a oedd hwyrfrydic, a'r gwŷr a ymaflasant yn ei law ef, am dosturio o'r Arglwydd wrtho ef, ac ai dygasant ef allan o'r ddinas gan ddywedyd diangc am dy enioes, ac na saf yn yr holl wastadedd, diangc ir mynydd rhag dy ddifetha.

Oh mor gyndyn fyddi i'th ddinystr os ym∣galedi ychwaneg yn dy gyflwr pechadurus! Nid all neb o honoch ddywedyd na chawsoch ddigon o rybydd; er hynny ni wn i pa fodd ich gadel chwi, nid digon gennif waredu fy enaid fy hun, a myned ymmaith heb rai o honoch chwitheu gydâ mi. A fum i gyhyd o amser yn llefaru wrth y gwynt, neu 'n ceisio gwastat-hau tonnau 'r môr â rhesymmau, neu yn swyno i neidr fyddar? A lefarais i wrth gynnulleidfa o bobl fyw; ai wrth feddau 'r meirwon? Ai wrth brenni y llefarais, ai wrth ddynion? Os oes genych ddealltwriaeth dyn∣ion, ystyriwch i ba le yr ydych yn myned, ac na feiddiwch ruthro ir tân, a neidio i uffern a'ch llygaid yn agored, ond yn hyttrach ym∣osodwch i edifarhau. A ydych chwi 'n ddyn∣ion, ac a redwch chwi o'ch gwirfodd ir Pwll dwfn, pryd nad ellwch gymmell anifeiliaid i neidio iddo! A gynnyscaeddwyd chwi â deall, ac etto a chwarewch chwi yu ymyl uffern, a digofaiut yr Holl-alluog, heb bryssuro i ddiangc rhag gofidiau tragwyddol! Anrhes∣ymmol i chwi wrthwyneby'r Arglwydd a'ch gwnaeth, Esay 45. 9. Ac ymgaledu yn erbyn ei air ef, Job 9. 4. Canys cadernid Israel ni ddywed gelwydd, 1 Sam. 15. 29. Anoddef∣adwy yw bod dyn a greawdd Duw iw am∣lygu ei hun iddo, ac iw ogoneddu, etto yn anghydnabyddus â'i Greawdwr, ac yn anwas∣anaethgar iddo, ie yn elyn iddo, ac yn poeri gwenwyn yn ei wyneb ef. Gwrandawed y

Page 63

y nefoedd, a chlywed y ddaiar, a barned y creaduriaid di-deimlad, ydyw resymmol i ddyn wrthryfela yn erbyn Duw ai magodd, ac ai meithrinodd ef, Esay 1. 2. Ai synhwyrol i fieri a drain ymosod mewn rhyfel yn erbyn tân yssol, Esay 27. 4. Ac i'r llestr pridd ymdrechu â'r Crochenydd?

O ddarllenydd ystria dy gyflwr, a'r pethau a ddywedpwyd, nac Eistedda ar y traeth nes ir llanw dy amgylchu. O feddwyn na ddos mwy at dy chwdfa, na'r ffyrnig at dy dwyll, na'r anllad at dy odineb, na'r rhagrithiwr at dy ffurf farwaidd. Yr wyf yn ofni mae'r un peth a wnei rhag-llaw ac y wnaethost hyd yn hyn: Am hynny gorfydd i mi alaru am gymeryd poen y ofer, ac ochneidio dros y gwrandawyr a'r darllenwyr colledig.

O bechaduriaid gwylltion! beth a fydd en diwedd? Beth a wnant hwy yn nydd yr ymweliad, ac yn y destryw a ddaw, at bwy y ffoant am gynhorthwy, a pha le y gadawant eu gogoniant? Esay 10. 3. Och mor gadarn y dartu ir pechod eu hudo, a duw 'r byd hwn eu dallu! Och mor gadarn yw eu ham∣ryfussedd, mor galed eu calonnau! Gallaf alw arnynt, ac ymresymmu a hwynt yn ddigon o hŷd, ond ni attebant: Hwy a ddilynant eu pechodau er maint a ddywedwyf; er i mi daeru fod y ffordd lydan yn arwain i ddest∣ryw, etto ant ymmlaen ynddi. Weithiau tyb∣ias y toddiff trugareddau Duw eu calonnau, weithiau y bydd i ddychryn yr Arglwydd tu per∣swadio, ond nid oes dim ysowaeth yn eu hen∣nill: Canmolant y gair, ond nid ufyddhant iddo; Perchant weinidogion yr efengyl, ac ydwyfi iddynt fel cân un hyfrydlais, etto

Page 64

metha genif gael ganddynt dderbyn iau Crist. Addawant yn deg heb gyflawni fel y Mâb a ddywedodd, myfi a âf Arglwydd, ac nid aeth efe, Math. 21. 30. Ni chaf ganddynt ddyscu egwyddorion crefydd, eithr mynnant farw heb wybodaeth, Job 36. 12.

Och fy ngwrandawyr truain! A gollir chwi yn finteioedd er a allwyf ei wneuthur? Pa fodd y gwnaf o herwydd merch fy mhobl? Jer. 9. 7. O Arglwydd Dduw cynnorthwya, oni wran∣dawant hwy fi, gwrando di fi; Arglwydd achub hwynt, a gwared hwynt oddiwrth y tân y sydd yn ei hamgylchu hwynt, onidê derfydd am danynt, gwna hyn â'th fawr allu.

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.