PEN. XII. Yn Cynwys ychwaneg o Gynghorion i Gristianogion.
1. CYmmered pob un ofal am gael yn ei enaid yr elw grasol y sydd mewn duwioldeb, fel os digwydd iddo ddioddef cys∣tudd a cholled fudol am broffessu Cristian∣agaeth, nad elo ei lafur yn ofer, eithr bod ennill ei enaid, yn fwy na cholled ei gorph.
2 Gwneled ddefnydd o bôb trugaredd, nid i fodloni'r cnawd yn unic, ond i amlygu gogoniant Duw, ac i hyfforddi ei jechydwria∣eth dragwyddol. Ni lesâ'r bŷd i neb heb gar∣iad a bendith Dduw arno. Nid yw 'r llythy∣ren gron ar ei phen ei hun yn arwyddoccau dim mewn rhifyddiaeth, ond pan gyssyllter hi wtth lythrennau cyfrifol eraill, hi a chwanega 'r fwmm yn dirfawr: ac felly y gwna trugareddau bydol pan fyddont gyssylltedig â rhai efangylol; megis pan fyddo golud ynghyd â grâs yn cynnor∣thwyo Cristion i wneuthur da, ac i wasanaethu'r Arglwydd â diwydrwydd, ac â chalon siriol, am helaethrwydd pob peth.