Page 133
PEN. XI. Yn cynwys y modd y cais gwir Gristion fodloni Duw.
CYn y gallo neb ryngu bodd Duw rhaid Iddo geissio cymmod ag ef drwy Jesu Grist, Heb gymod nid all dau gydrodio yn heddychol. Cyssenwch y mâb, Psal. 2. 12. Ac ym∣roddwch iddo, ac yna dilynwch y rheolau hyn.
1. Ymwrthodwch â phob pechod. Canys eich anwireddau sydd yn gwahanu rhwng Duw a chwi; os hoffi bechod yn dy galon ni wrendi Duw arnati, Psal. 66. 18. Os ymhyfrydi mewn anghyfiawnder, nid ymhyfryda Duw ynoti, can∣ys câs ganddo weithredwŷr anwiredd. Os arbedi un Agag, nac Herodias, na'r llygad deheu, ni arbed Duw monoti; dywed wrth dy holl eul∣ynod, ewch ymmaith.
2. Gwisc am danat yr Arglwydd Jesu Grist. Cafodd Enoch dystiolaeth iddo foddhau Duw, a thystiolaethwyd yn fynychach mai yn Ghrist y bodlonir Duw. Na thyred at Dduw ynghar∣piau budron dy gyfiawnder dy hun, onid â Christ yn dy freichiau. Cais y fendith yngwisc dy frawd hynaf, rhag iti gael melltith yn ei lle. Pe gellit ymolchi yn heli dy ddagrau, ni ddeleuit aflendid pechod heb waed Crist. A chydâ cyfiawnhâd cais ganddo Sancteiddiad. Tra fyddech yn y cnawd ni elli ryngu bodd Dduw, Rhuf. 8. 8. Nes gwneuthur y pren yn dda, nid all ei ffrwyth fod yn beraidd, ac nes glan∣hau'r ffynnon ni all yr aber fod yn groiw. Yn