Euchologia, neu, Yr athrawiaeth i arferol weddio o waith y gwir anrhyddedus dad Joan Prideawx ... ; Rhodd a adawodd ef ar ei ddyddd diwedd iw ferched yn ddirgel, iw hyfforddi hwy ir cyfriw reidiol arferau, on Llyfr Gweddi gyffredin. : Ac a ddichou roi bodlonrwydd ym mhob achos heb edrych ar ol y goleuadàu newyddion ai parodbryd lewyrchoedd.

About this Item

Title
Euchologia, neu, Yr athrawiaeth i arferol weddio o waith y gwir anrhyddedus dad Joan Prideawx ... ; Rhodd a adawodd ef ar ei ddyddd diwedd iw ferched yn ddirgel, iw hyfforddi hwy ir cyfriw reidiol arferau, on Llyfr Gweddi gyffredin. : Ac a ddichou roi bodlonrwydd ym mhob achos heb edrych ar ol y goleuadàu newyddion ai parodbryd lewyrchoedd.
Author
Prideaux, John, 1578-1650.
Publication
[London] :: Argraphedig gan E.C. tros P.C.,
[ca. 1660]
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Church of England. -- Book of common prayer.
Prayer.
Devotional exercises.
Cite this Item
"Euchologia, neu, Yr athrawiaeth i arferol weddio o waith y gwir anrhyddedus dad Joan Prideawx ... ; Rhodd a adawodd ef ar ei ddyddd diwedd iw ferched yn ddirgel, iw hyfforddi hwy ir cyfriw reidiol arferau, on Llyfr Gweddi gyffredin. : Ac a ddichou roi bodlonrwydd ym mhob achos heb edrych ar ol y goleuadàu newyddion ai parodbryd lewyrchoedd." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/b04835.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 24, 2024.

Pages

PEN. VII. Am wilied am atteb gra∣susol oddiwrth Dduw ar arwyddion diogelaf o adnabod hynny.

NI rydd neb erfynniau at arall ond a ddis∣gwyl am atteb, or modd y byddont yn sefyll. Gwei∣sion Benhadad yr rhai oe∣ddynt ymbilwyr mewn sach liain a rhaffau o am∣gylch, eu pennau tros eu meistr, at Ahab orfoled∣dus a ddalient sulw yn ddy∣fal a ddeuai dim oddiwrtho ef, ar a allent hwy graffu

Page 106

arno. Ar rwymedigaeth E∣ster ym mhlith y gweryfon iw dwyn at Ahasferus i ddewis brenhines. Morde∣decai a rodiodd benydd o flaen cyntedd ty r gwragedd, i wybod llwyddiant Hester a pheth a wnelid iddi, y mae yn rheidiach o lawer i er∣synwyr Duwiol a roesant i fynu eu gweddiau at Dduw, mewn matterion or berthy∣nas oruchelaf: i wilied beth a fydd y digwyddiad o ho∣nynt, mal os llwyddant y byddo eu diolchgarwch yn gyfattebol: os amgen eu gofal i chwilio allan y lle y mae yr attaliaeth, a holl ddiwydrwyd a ellir ei ar∣fer iw symud ef. Ar hyn y mae r Psamydd yn ymroi: Gwrandawaf beth a ddywaid yr Arglwyd Dduw canys efe a draetha heddwch iw bbl,

Page 107

ac iw Sainct, mal na threant drachefn at ynfydrwydd. Felly Michah yn ail, y pryd nad oedd na chefaill na gwraig na phlant llai o lawer gweision i ymddiried vd∣dynt mi edrychaf ar yr Ar∣glwydd (medd ef) disgwy∣liaf wrth Dduw fy iachy∣dwriaeth, fy Nuw am gw∣rendy. Yr unrhiw ddisgwy∣liad a welwn ni Habacuc yn ei broffesu, gan ddisgwyl beth a wnai Dduw yng∣hylch y dinistr bygythiol oddiwrth y Caldeaid yr hwn y bu ef ddifrifol i weddio yn eu herbyn, safaf fynisgwylfa (medd ef) ac ymsafydlaf ar y Twr, ac a wiliaf i edrych beth a ddy∣waid ef wrthyf, a pheth at∣tebaf pan im cerydder. Ca∣nys yr hwn a dybio yn ddigonol weddio, heb ddal

Page 108

sulw pa ffrwyth a ddel o honi, ellir ei, gyffelybu ir ostrids yr hon a âd ei hw∣yau yn y ddaiar, ac ai cyn∣hesa hwy yn y llwch heb fawr brisio beth a ddel o honynt wedi hynny. Rhaid in dichlyndod gofalus fod yn fwy na hynny, nid yn vnig i weddio yn wresog, ei∣thr i wilied yn ammynedd∣gar nes gweled rhyw ar∣wydd ar ein daioni, am ein cyssur mewn bywoliaeth dda, a chywilydd ir rhai au cashant; nid yw Gwyrthiau i ddysgwyl am danynt yma, yn y cyfriw oleuni eglur or Efengyl, yr hon a gadarn∣hawyd trwy wrthiau: eithr dal sulw ar ddigwyddiadau a ddylid, mal y gallom ddirnad, Pa cyn belled y cyrhaeddodd nerth ein gwe∣ddiau.

Page 109

Pan welodd gwas Abra∣ham ai lygaid y modd y llwyddodd yr holl bethau a weddiasai ef am danynt, wrth waith parodrwydd Rebecca yn rhoddi iddo ddiod, ac yn dyfrhau ei gamelod, ni amheuodd na wrandawsai Dduw ei we∣ddi.

A chyssur Hannah yn ol gweddio at Dduw am gael mab oedd eglurwch odiae∣thol, na fwrid moi gobaith yn ofer.

Logic neu ymresymiaith Gwraig Manoah yn y cy∣friw achosion a eill sefyll am reol, y weithred an har∣wain ni at y gweithredwr, y hynny a welwn at y peth y cwiliwn ar ei ol. Pe myn∣nasei (medd hi) yr Argl∣wydd ein lladd ni (mal yr ych chwi fyngwr yn tybed)

Page 110

ni ddyrbynuiasei ef boeth offrwm, a bwyd offrwm on llaw ni, ac ni ddenghosasei efe i ni yr holl bethau hyn, ac ni pharasei efe i ni y pryd hyn glywed y fath be∣thau. Ar ddadliaith y wraig hon gan hynny, pa ham na ddichon y gwyr goreu ar gwragedd fyned ym mlaen fal hyn i gasglu a dyfalu beth a ddaw oi gweddiau duwiolaf? Y mae r Apostol at y Galatiaid yn gosod i lawr naw o ffrwythau yr yspsyd a phwy bynnac sydd yn gynysgae∣ddol or rhain nid ydyw tan vnrhiw gyfraiih gondem∣nedig yr rhain ydynt, 1. Ca∣riad. 2. Llawenydd. 3. Tan∣ghneddyf. 4. Hirymaros. 5. Cymwynasgarwch. 6. Dai∣oni. 7. Ffydd. 8. Add∣fwynder. 9. Dirwest.

Page 111

Oc yn ol tywallt ein erfynniau gostyngodig at Dduw yn ol holiad didueddol ein cydwy∣bodau dieuog, y cawn ein ca∣riad i Dduw a dyn yn cyn∣nyddu, ein llawenydd, trwy ryw ddigwyddiadau daionus yn derchafu, ein heddwch, yn gystal i mewn, ac allan, wedi ei gadaruhau, ein hir ymaros wedi ei fywhau, ein cymwynasgarwch heb ei gamarfer, ein synwyr neu ein daioni yn fwy cymerad∣wy, ein ffyrdd neu ein ffy∣ddlondeb yn cael ymddiri∣aid ynddynt, ein addfwynder yn ynnill eraill, an cyme∣droldeb tymerus mewn rhiw fesur da yn gwellhau; pa ham na allwn ni ddiben∣nu neu goncludio fod ein holl weddiau wedi ei cyme∣ryd i mewn, ai gosod ar y llinyn, neu r ffil yn Stafell

Page 112

Seren Duw, i feddwl ym mhellach am danynt in dai∣oni an lles ni? Canys wrth ein gwaith yn rhodio yn yr yspryd mal y mae r Apo∣stol yn rhoi rheol yno) ni gawn wybod pa ffordd y mae r yspryd yn chwythu, wrth yr hwn yr ym yn byw. Ac ir rhodio hwn yn yr yspryd, y mae n rheidiol saith cydymaith.

1. Goleuni heb yr hwn nid oes na rhodio na gwei∣thio. Y mae r nos yn dy∣fod pryd na all vn dyn wei∣thio.

2. Hyder i ddyfod o hyd ir nefoedd, lle mynnem ein bod yn gimaint nad ydym ni yma ond dieithriaid a phererynnion.

3. Cariad ir wlad ir hon yr ydym yn rhodio; wrth fod yn absenol oddywrth

Page 113

yr hon, y mae hiraeth Da∣vid, pa bryd y deuaf, ac yr ym ddangosaf o flaen Duw, yr hen Simeon yn ceisio ei ly∣thyrau gollyngdod yr aw∣rhon Arglwydd y gollyngi dy was i ymadel mewn tanghne∣ddyf, yn ol dy air: a dymu∣niad St. Paul i gael ei ym∣ddattodiad ac i fod gyd a christ.

4. Diogelwch on bod yn y ffordd vnion atti, gwe∣lwch pa fodd y rhodioch yn ddiesceulus (medd yr A∣postl) nid fel anoethion ond fel doethion gan brynur am∣ser oblegit y dyddiau sy ddrwg.

5. Sobrwvdd, canys gwyn∣fydedig yw yr rhai per∣ffaith eu ffyrdd, y rhai a ro∣diant ynghyfrath yr Argl∣wydd, yr hon ai harwain yn ddiogel fendigedig.

Page 114

6. Heddychlonrhwydd ai cyd-ymdeithwyr, gwelwch na syrthioch allan ar y ffordd (medd Joseph wrth ei frodyr) yr hyn fynychaf a wnawn trwy wag ogoniant, (hynny y mae r Apostl yn ei ddanod( gan ymannog ei gilydd gan genffigennu wrth ei gilydd, pryd y mae cyf∣fredin flinderau neu fendi∣thion, yn ein annog ni fwyaf i vndeb.

7. Diddanwch syn me∣lysham yr holl groesan ar y ffordd ac an cyssura ni i fy∣ned ym mlaen gyd a sic∣crwydd or goron, a osodwyd on blaen ni: y rhai a o∣cheneidiant ac a waeddant am ffieidd-dra yr amsero∣edd, ac a welant (megis) llaw dduw yn dderchafe∣dig i daro, a gant weled rhai wedi eu nodi (megis

Page 115

yn Ezeciel ar Dadcuddiad) yr hyn a allwn ni wybod ynom ein hunain, os gwe∣lwn gyfluniad rhwng ein gwe thredoedd an erfyn∣niau. Canys oni ddichon ef yr hwn (megis gwir Na∣thaniel heb dwyll) syn ei gael ei hunan yn ostyngedig ynddo ei hunan, yn alaru am ei bechodau, yn add∣fwyn wrth ei gefeillion, yn newynu a sychedu i wneu∣thur daioni i bob dyn; yn drugarog wrth y truan; yn bur yn ei amcanion, yn amyneddgar yn diodef ca∣mau, er mwym cyfiawn∣der, ddiweddu yn ddiogel fod nd o fendith wedi ei daro arno, yr hwn yw r prif nod, y mae ein gwe∣ddiau yn saethu atto ond paham y rhaid i ni fyned ym mhellach yn hyn o beth

Page 116

na gweddi r Arglwydd: os gwelwn ein meddyliau yn ddidueddol yn ymdrechu i amgylchu:

1. Sancteiddio enw Duw vwchlaw pob peth.

2. I dderchafu ei Deir∣nas ai ecclwys.

3. I wneuthur ei ewyl∣lys yn cadw ei air.

4. I gydnabod gyd ag holl ddiolchgarwch ein ba∣ra beunyddiol.

5. Ein parodrwydd i faddeu i bawb eraill ei cam∣weddau yn ein herbyn, fel y gallom dderbyn maddeu∣ant on holl bechodau oddi∣wrtho ef.

6. Ein deisyfiadau i fod yu rhydd oddiwrth holl brofedigaethau y cnawd ar byd, yn yr rhai in difethir, os gadewir ni i ni ein hu∣nain. Ac,

Page 117

7. On ymddiffyniad rhag rhuthrau a dichellion y llew rhuadwy hwnnw yr hwn sydd bob amser yn rhodio oddiamgylch, gan geisio y neb a allo ei lyngcu. Oni ddylai y cyfriw ddeisyfia∣dau calonnog, y rhai ni allant gyfodi oddiwrth ein nerth ein hunain, ein sic∣crhau ni fod adroddiad ca∣lonnog y weddi hon o gy∣sylltiad y mab, yn cael ffafor gyd ar Tad, in buddygo∣liaeth oreu ni mewn am∣ser dyledus iw gyflawni.

Mal hyn y cawsoch chwi (fy mhlant anwyl) angen∣rheidrwydd Gweddi, ac at bwy y mae ei thueddu, y pethau sydd i ni i weddio am danynt; ac anrhydedd cyfreithlon iw arfer wrth ofyn: yr attaliaeth a eill ei rhwystro, ar cymorth eill

Page 118

ei gwneuthur yn ffrwythlon, yr arwyddion trwy y rhai y gallwn ddywedyd or di∣wedd fod ein gweddiau yn cael ffafor i gael eu derbyn. I roi diben dedwyddol gan hynny ir paratoad yma: pryd y gosodom ni ein hu∣nain i weddio yr hyn (mal y dywaid yr Apostol i ni) sydd raid bod yn ddibaid.

1. Anherfynol Fawrhy∣di Duw.

2. Ein Gwaeldra ein hu∣nain.

3. Twyll a chynddeiri∣ogrwydd ein gwrthwyne∣bwyr, y cnawd, y byd, ar cythrael.

4. Pwys y gorchwyl, yr awn yn ei gylch, sef vn ai ein gwneuthur, ai ein an∣rheithio yn ollawl.

5. Yr hawl sydd genym yn ein jachawdwr Jesu

Page 119

Grist, yr hwn a wnaeth y cymod trosom.

6. Y cyfrif diddiangol sydd i ni iw roi, ar anhy∣spysrwydd or amser y gel∣wir am danom.

7. Yn olaf, vnionder y farn ddigyfnewidiol, sydd raid ei ystyrried yn ddie∣sceulus ac yn grefyddol ei osod at y galon, megis y gallom felly broffesu gyd ar Psalmydd: ciliwch oddi∣wrthyf oll weithredwyr an∣wiredd canys yr Arglwydd a glywodd lef fy wylofain, cly∣bu r Arglwydd fy neifyfiad yr Arglwydd a dderbyn fy ngweddi. Y modd y gw∣newch hyn yn neullduol, mi rof gais ar osod i chwi hyf∣forddiad eglur, yn yr hyn a ganlyn.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.