Canwyll y Cymru, sef, gwaith Mr. Rees Prichard, gynt ficcer Llanddyfri, a brintiwydd or blaen yn bedair rhan, wedi ei cyffylltu oll ynghyd yn un llyfr. = The divine poems of Mr. Rees Prichard, sometimes vicar of Landoverey, in Carmarthen Shire. Whereunto is added the strange but true narrative of the chief things, spoken and acted, by an unclean spirit at Mascon. / Translated out of the French into English, by Dr. Peter Du Moulin, upon the desire of the hounourable Robert Boyle Esquire. And now done into Welsh, by S. Hughes of Suranfey.

About this Item

Title
Canwyll y Cymru, sef, gwaith Mr. Rees Prichard, gynt ficcer Llanddyfri, a brintiwydd or blaen yn bedair rhan, wedi ei cyffylltu oll ynghyd yn un llyfr. = The divine poems of Mr. Rees Prichard, sometimes vicar of Landoverey, in Carmarthen Shire. Whereunto is added the strange but true narrative of the chief things, spoken and acted, by an unclean spirit at Mascon. / Translated out of the French into English, by Dr. Peter Du Moulin, upon the desire of the hounourable Robert Boyle Esquire. And now done into Welsh, by S. Hughes of Suranfey.
Author
Prichard, Rhys, 1579-1644.
Publication
London, :: Printed by Tho. Dawks ... Sold by Enoch Prosser ...,
1681.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Welsh poetry -- Early modern, 1550-1700.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/b04829.0001.001
Cite this Item
"Canwyll y Cymru, sef, gwaith Mr. Rees Prichard, gynt ficcer Llanddyfri, a brintiwydd or blaen yn bedair rhan, wedi ei cyffylltu oll ynghyd yn un llyfr. = The divine poems of Mr. Rees Prichard, sometimes vicar of Landoverey, in Carmarthen Shire. Whereunto is added the strange but true narrative of the chief things, spoken and acted, by an unclean spirit at Mascon. / Translated out of the French into English, by Dr. Peter Du Moulin, upon the desire of the hounourable Robert Boyle Esquire. And now done into Welsh, by S. Hughes of Suranfey." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/b04829.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 7, 2024.

Pages

Rhybydd i'r claf i alw am weinidog, a Physygwr, ac i ochelyd Swynwyr.

PAn clafychech cais † 1.1 Offeiriad, Yn ddiaros ddwad attad, I Weddio dros dy bechod, A'th gyfrwyddo fod yn barod.

Page 323

Christ y bwyntiodd yr offeiriaid, Yn Bessygwyr doeth i'r enaid, Ac a roddwys iddynt eli, I wrthnebu pob drygioni.
Adde 'th bechod wrth y ffeiriad, Fe ry itti gyngor difrad, Fel y gallo roi cyfrwyddyd, Yn ol naws a rhyw dy glefyd.
† 1.2Cred beth bynna ddwetto 'r ffeiriad, O air Duw, yn brudd am danad; Cans llais Christ ei hun yw hynny, Ith * 1.3 rebycco, neu 'th ddiddanu.
Deisyf arno brudd weddio, Ar i'r Arglwydd dy * 1.4 recyfro, A rhoi itti gyflawn iechyd, Neu yn rassol dderbyn d' yspryd.* 1.5
Mae Duw 'n addo gwrando 'r * 1.6 ffeirad, Pan gweddio 'n ol ei alwad; Christ a ddyru ei ganlyniaeth, Oni phwyntiodd dy farwolaeth.
Deisyf arno dy gyfnerthu, Rhag i Satan dy orchfygu, A llonyddu dy gydwybod, Pan i'th fliner gan dy bechod.
Godde † 1.7 lawnso dy gornwydon, Godde i'r Gair frynaru'r galon, Fel y gallo fwrw yndi Win ac olew gyd ag Ell.
Gwell it adel i'r offeiriad * 1.8Faneg itt'dy ddrwg ymddygiad, Fal y gallech edifaru, Nag oi blegid gael dy ddamnu.
Di gae † 1.9 gyngor rhag dy bechod, I lonyddu dy gydwybod: Di gae gomffordd gan y ffeirad, Os mewn pryd ei gelwi attad.

Page 324

Nád y ffeirad heb ei alw, Nes ei bech yn hanner marw: Ni all ffeirad y pryd hynny, Na nêb arall dy ddiddanu.
Oh! pa nifer o Fruttanniaid, Sydd yn marw fel Nifeiliaid? * 1.10Eisie ceisio nerth y ffeirad, I gyfrwyddo eu 'madawiad.
Er bod Duw yn abal cadw Sawl a fynno heb ei galw, Nid yw 'n cadw mawr o enaid, * 1.11Ond trwy Swydd a gwaith offeiraid.
Cais gan hynny gynta ag allech Ffeirad attad pan glefychech, I roi † 1.12 pwrg yn erbyn pechod, Rhwn yw achos dy holl nychdod.
Yn ôl cyngor yr, Eglwyswr, Cais gyfrwyddyd y Pyssygwr: Duw a roes i hwn gelfyddyd I'th iachau o lawer clefyd.
Duw ordeiniodd yr offeiriaid, I * 1.13 iachau doluriau 'r enaid, A'r pyssygwyr a'r Meddygon, I ymgleddu cyrph y cleifon.

Page 325

Llawer dyn sy'n marw 'n † 1.14 fudyr, Eisie cymmorth y Pyssygwyr, Gan fyrhau eu hoes a'u hamser, Yn embeidus, eisie eu harfer.
Corph pob dyn yw ty ei enaid, Rhaid * 1.15 rheparo hwn a'i drefnaid; Rhaid i bôb dyn hyd y gallo, Gadw ei dy ar draed heb gwympo.
Arfer gymmorth physsygwriaeth, Yn dy glefyd trwy gristnogaeth: Duw ordeiniodd hon yn gyssur, I blant dynion rhag pob dolur.
Y neb wrthotto physsygwriaeth, Y roes Duw er iechyd wriaeth, Mae 'n gwrthnebu maeth ei † 1.16 Anian, Ac yn * 1.17 mwrddro ei gorph ei hunan,
Y llyssewyn salwa welech, Ar Gyfrwyddyd waela gaffech, All roi help a iechyd itti, Os rhy Duw ei fendith arni.
Swp o ffigys, os bendithia,* 1.18 All iachau y cornwyd mwya: A'r Gyfrwyddyd na thâl vn-rhith, All roi help, ond cael ei fendith:
Ond pe caet ti Balm a Nectar, Cennin Peder, Cerrig Bezar, Olew a Myrrh, a gwîn a gwenith, Ni wnânt lês heb gael ei fendith.
Nac ymddiried i'r pyssygwyr, Nac i vn * 1.19 fetswn font yn wneuthyr, Rhag dy farw megis Asa, Eisie ymddiried i'r Gorucha.
Nid oes rhinwedd ar lysseuach, Grym mewn Eli, na diodach, I leihau o'n cûr, a'n poenfa, Os yr Arglwydd nis bendithia.

Page 324

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 325

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 326

Duw sy'n rhoddi * 1.20 rhâd ar lysseu, Grym mewn eli a † 1.21 chyfyrddonèu, Lle bendithio Duw, hwy lwyddant, Lle ni fynno Duw, ni thycciant.
Cais gan hynny fendith hyfryd, Gan dy Dduw ar bob cyfrwyddyd: Heb ei fendith ni wna 'r benna, Ond troi 'n wenwyn yn dy gylla.
* 1.22Gwachel geisio help gan Swynwyr, Yn dy flinder tost a'th ddolyr; Gado Duw mae'r cyfryw ddynion, Ac addoli 'r gau Dduw Eccron.
Na chais help i'r corph mor embaid, Gan y Diawl sy'n lladd yr Enaid; Nid oes vn Physsygwr allan, Waeth nâ'r Diawl i helpu 'regwan.
Nid yw Swyn ond * 1.23 hug i'th dwyllo, Gwedi Satan ei † 1.24 defeisio, I ddifethu d'enaid gwirion, Pan y Swyner ith glefydion.
Nid yw'r Swynwr ond * 1.25 Apostol Ffalst, i'r Diawl i dwyllo'r bobol Oddiwrth Grist, mewn poen a thrafel, I butteinia ar ol y cythrel.
* 1.26Twyllo'r corph, a lladd yr enaid, Digio Duw, bodloni diawlaid, Gwrthod Christ, a'r maint sydd eiddo, Y mae'r Swyn, a'r sawl ai cretto.
Ceisio 'r cythrel yn Byssygwr Ydyw ceisio help gan Swynwr: Ceisio'r Diawl i ddarllain tesni, Yw â dewin ymgynghori.
Ceisio Gwir gan dâd y celwydd, Yw ymofyn â drogenydd: Ceisio help i lâdd yr enaid, Ydyw ceisio Swyn * 1.27 Hudoliaid.

Page 327

Na châr swynwr mwy nâ chythrel, Mae 'n dy demptio yn dy drafel, Glun wrth Grist er maint yw'th flinder, Cais ei nerth, Di gei esmwythder.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.