Canwyll y Cymru, sef, gwaith Mr. Rees Prichard, gynt ficcer Llanddyfri, a brintiwydd or blaen yn bedair rhan, wedi ei cyffylltu oll ynghyd yn un llyfr. = The divine poems of Mr. Rees Prichard, sometimes vicar of Landoverey, in Carmarthen Shire. Whereunto is added the strange but true narrative of the chief things, spoken and acted, by an unclean spirit at Mascon. / Translated out of the French into English, by Dr. Peter Du Moulin, upon the desire of the hounourable Robert Boyle Esquire. And now done into Welsh, by S. Hughes of Suranfey.

About this Item

Title
Canwyll y Cymru, sef, gwaith Mr. Rees Prichard, gynt ficcer Llanddyfri, a brintiwydd or blaen yn bedair rhan, wedi ei cyffylltu oll ynghyd yn un llyfr. = The divine poems of Mr. Rees Prichard, sometimes vicar of Landoverey, in Carmarthen Shire. Whereunto is added the strange but true narrative of the chief things, spoken and acted, by an unclean spirit at Mascon. / Translated out of the French into English, by Dr. Peter Du Moulin, upon the desire of the hounourable Robert Boyle Esquire. And now done into Welsh, by S. Hughes of Suranfey.
Author
Prichard, Rhys, 1579-1644.
Publication
London, :: Printed by Tho. Dawks ... Sold by Enoch Prosser ...,
1681.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Welsh poetry -- Early modern, 1550-1700.
Cite this Item
"Canwyll y Cymru, sef, gwaith Mr. Rees Prichard, gynt ficcer Llanddyfri, a brintiwydd or blaen yn bedair rhan, wedi ei cyffylltu oll ynghyd yn un llyfr. = The divine poems of Mr. Rees Prichard, sometimes vicar of Landoverey, in Carmarthen Shire. Whereunto is added the strange but true narrative of the chief things, spoken and acted, by an unclean spirit at Mascon. / Translated out of the French into English, by Dr. Peter Du Moulin, upon the desire of the hounourable Robert Boyle Esquire. And now done into Welsh, by S. Hughes of Suranfey." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/b04829.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 23, 2024.

Pages

Gweddi 'r clâf.

ARglwydd cyfion, Tâd fy iechyd, Barnwr pawb a'i helpwr hyfryd, Gwrando weddi dyn clafecca Er mwyn Christ, ac edrych arna.

Page 319

Yn glâf mewn corph, yn drist mewn enaid, Yn drwm mewn meddwl ac ychenaid, Rwi 'n ymlysco, o 'ngrheawdwr, Attad ti i geisio Swccwr.
Grassol wyt a llawn trugaredd, Hwyr dy lid, a mawr d' ammynedd, Hawdd i'th gael mewn tôst gyfyngdwr; Er mwyn Ghrist tosturia 'nghyflwr.
Di roeist iechyd im' ys dyddie, Nawr di dwgaist am fy meie, Ac y helaist boen a nychdod, Im cystuddio am fy mhechod.
Duw mi haeddais rwi 'n cyfadde Vn oedd drwmmach er ys dyddie: Yn dra chyfion Duw goruchaf, Y rhoist hyn o Nychdod arnaf.
Di allassyd ddanfon clefyd Immwngc, câs, I ddwyn fy mywyd, Am troi i vffern i boenydio, Heb roi amser im repento.
Etto 'n fwyn fel Tâd trugarog, Di roist arnaf glefyd serchog, Im rhybyddio am fy niwedd, Am cyfrwyddo wella muchedd.
Rwi 'n ei gymryd megis arwydd, O'm mabwysiad a'th gredigrwydd, Yn fyng-hospi am correcto, Rhag im pechod fy andwyo.
Da yw'th waith o Arglwydd cyfion, Yn cospi 'r corph â'r fâth drallodion, Lle roedd f' enaid er ys dyddie, Yn dra chlâf gan ormodd foethe.

Page 320

Tra cês iechyd ni chês weled, Om pechodau er eu hamled; Ond yn awr, gwae fi, mewn nychdod Nid wi'n gweled ond fy mhechod.
O bwy nifer o bechode Wnaethoi 'n d'erbyn, Duw gwae finne! Maent yn amlach mewn rhifedi Nâg yw 'r Sêr, o'r ceisiai cyfri.
Pa fath Elyn gwyllt y fuo, Yn d'wrthnebu megis Pharo, Gynt pan oeddyt yn ymhwedd, Am im droi a gwella muchedd.
Arglwydd grassol 'rwi'n cydnabod, Immi haeddu cant mwy nychdod, Ac im bechu yn yscymmyn, O'm Mabolaeth, yn dy erbyn.
Etto gwn dy fod ti 'n rassol, I bwy bynna fo difeiriol, Ac yn barod iawn i fadde, Ir alarus eu camwedde.
Er na haeddais ond trallodion, A dialau, a chlefydion: Gwna â mi 'n ôl dy fawr drugaredd, Ac nac edrych ar f'anwiredd.
Cymmer Angeu Christ a'i fydd-dod, Yn dâl itti am fy mhechod: Clâdd fy meie yn ei weli; Er ei fwyn bydd rassol immi.
Nad im farw yn fy mrynti; Cyn im wneuthur dim dioni: Ond rho amser o'th drugaredd, Immi etto wella muchedd.
Dal dy law, gostega nolur, Laesa 'mhoen, lleiha fyng waywyr; Ac na ossod arnai boene, Fwy nag allo 'nghorph eu godde.

Page 321

Er bôd f'enaid weithie'n dwedyd, Dere Ghrist, a derbyn f'yspryd: Mae fyng nhawd er hyn yn crio, Duw tro 'r cwppa chwerw heibio.
Y mae 'r cnawd a'r yspryd etto, Yn amharod i ymado: Duw rho amser im eu trefnu; O bydd d'wllys yn cennadu.
Nid wi'n ceisio gennyd amser, I fyw 'n foethus mewn esmwythder, Ond i dannu dy anrhydedd, Ac i wella peth om buchedd.
Duw o'r gweli fôd yn addas, Estyn f'oes fel Ezekias, Doro immi ryw gyfrwyddyd, Im iachau a thorri 'nghlefyd.
Ond o'r gweli fôd yn ore, Etto 'nghospi dros fwy ddyddie, Duw dy wllys di gyflawner; Ond cyfnertha fi 'r cyfamser.
Yn iach ni wneuthym ond dy ddigio, Yn glaf ni allai ond ochneidio, Oni roi dy nefawl Yspryd, Im diddanu yn fy nghlfyd.
Arglwydd cymmorth fi 'n fy mlinder, Llaesa mhoen am han-esmwythder: Dwed wrth f'enaid yn ei alaeth, Myfi yw dy iechydwriaeth.
Tydi Christ yw 'r mwyn Samariad, Minne yw 'r claf trafaelwr irad; Cweiria nolur, rhwym f'archollion, Dofa mhoen, cryf ha fy nghalon.
Mae dy law yn orthrwm arnaf, Etto ynod mi ymddiriedaf: A pha lleddit fi â thrallod, Duw mae f'holl ymddiried ynod.

Page 322

Gennyt ti mae 'r holl allwedde, Sydd ar fywyd ac ar Ange: Ni baidd Angeu edrych arnaf, Nes danfonech (Christ) ef attaf:
Gwna fi 'n barod cyn y delo, Pâr im ddisgwyl byth am dano; Fel y gallwi fynd yn addas, Wrth ei scîl i'th nefawl deyrnas.
Nâd i bethau 'r byd anwadal, Na'th gyfiawnder ddydd y dial, Nac i ofan Angeu im rhwystro Ymbaratoi i rwydd ymado.
Tynn om calon ofan Angeu, Pâr im wadu 'r byd a'i betheu; Golch â'th waed fy mhechod sceler, Cûdd fy mrynti â'th gysiawnder.
Rho im ffydd yn dy Brommeision, Gobaith cryf am gael y Goron, Dioddefgarwch yn fy nghlefyd, Chwant ddwad attad a dattodyd.
Christ rho d'yspryd im diddanu, A'th Angelion im castellu; Gwna 'r awr ola fy awr ore, Rho mi 'r Goron ar awr Ange.
Christ fy Mugail cadw f'enaid, Nâd i'r llew o'th law ei scliffiaid Tydi prynaist yn ddryd ddigon, Dwg ê i'r nef at dy Angelion.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.