Canwyll y Cymru, sef, gwaith Mr. Rees Prichard, gynt ficcer Llanddyfri, a brintiwydd or blaen yn bedair rhan, wedi ei cyffylltu oll ynghyd yn un llyfr. = The divine poems of Mr. Rees Prichard, sometimes vicar of Landoverey, in Carmarthen Shire. Whereunto is added the strange but true narrative of the chief things, spoken and acted, by an unclean spirit at Mascon. / Translated out of the French into English, by Dr. Peter Du Moulin, upon the desire of the hounourable Robert Boyle Esquire. And now done into Welsh, by S. Hughes of Suranfey.

About this Item

Title
Canwyll y Cymru, sef, gwaith Mr. Rees Prichard, gynt ficcer Llanddyfri, a brintiwydd or blaen yn bedair rhan, wedi ei cyffylltu oll ynghyd yn un llyfr. = The divine poems of Mr. Rees Prichard, sometimes vicar of Landoverey, in Carmarthen Shire. Whereunto is added the strange but true narrative of the chief things, spoken and acted, by an unclean spirit at Mascon. / Translated out of the French into English, by Dr. Peter Du Moulin, upon the desire of the hounourable Robert Boyle Esquire. And now done into Welsh, by S. Hughes of Suranfey.
Author
Prichard, Rhys, 1579-1644.
Publication
London, :: Printed by Tho. Dawks ... Sold by Enoch Prosser ...,
1681.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Welsh poetry -- Early modern, 1550-1700.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/b04829.0001.001
Cite this Item
"Canwyll y Cymru, sef, gwaith Mr. Rees Prichard, gynt ficcer Llanddyfri, a brintiwydd or blaen yn bedair rhan, wedi ei cyffylltu oll ynghyd yn un llyfr. = The divine poems of Mr. Rees Prichard, sometimes vicar of Landoverey, in Carmarthen Shire. Whereunto is added the strange but true narrative of the chief things, spoken and acted, by an unclean spirit at Mascon. / Translated out of the French into English, by Dr. Peter Du Moulin, upon the desire of the hounourable Robert Boyle Esquire. And now done into Welsh, by S. Hughes of Suranfey." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/b04829.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 31, 2024.

Pages

Cofiwch Angeu.

BYrr yw'n hoes ac * 1.1 Ancertennol. Heddyw n' fyw, y foru 'n farwol; Gynne 'n Gawr, y boir yn gelain; Dymma gyflwr dŷn a'i ddamwain.
Ni bydd ymma am ben ennyd, Ʋn o honom heb ei symmyd: O meddyliwn am ein shiwrne, Heno ysgatfydd rhaid ei dechre.
Fel y rhed yr haul ir hwyr, Fel y treulin 'r ganwyll gwyr, Fel y syrthia 'r Rhossyn gwynn; Fel y diffidd tarth ar lynn:
Felly Treulia, felly rhed, Felly derfydd pobol Grêd, Felly diffydd bywyd dẏn, Felly syrthiwn bob yr un.
Fel llong dan hwyl, fel pôst dan sawd, Fel saeth at farc, fel Gwalch at ffawd, Fel mwg ar wynt, fel llif ar ddwr, Y * 1.2 Posta ymmaith einioes gwr.
Fel saeth y rhêd, fel Post y gyrr, Fel Cwyr y Tawdd, fel ia y tyrr, Fel dail y syrth, fel gwellt y gwywa, * 1.3Fel Tarth y trig, fel Lamp y treula.

Page 281

Ni ddifannwn fel y cyscod, Ni lwyr doddwn fel y manod, Ni † 1.4 ddiharffwn fel glaswelltyn, Ni ddiffoddwn fel yr Ewyn.
Ni cheir gweled mwy o'n hôl, Nag ol Neidir ar y ddôl, Neu ol llong aeth dros y Tonne, Neu ol saeth mewn Awyr dene.
O! gan hynny, heddyw, heno, Moeswch i'ni bawb ymgweirio, Fynd ar * 1.5 ffrwst, a thynnu oddiyma, Lle na chawn o'r hir arhosfa.
Mewn Tai o glai yr ym yn trigo Storom gron y bair eu syrthio; Gwiliwn rhag ir Angeu ein saethu, A briwio 'r wal Tra fom yn Cysgu.
Fel y trewir pysc â thryfer, Fel y saethir † 1.6 phesant dyner, Fel y torrir blodau'r ardd, Fel y lleddir * 1.7 gweunydd hardd:
Felly trewir dẏn heb wybod, Felly saethir yn ddiarfod, Felly torrir gwchder dẏn, Felly 'n lleddir bob yr un.
Fel dwr diluw ar y cynfyd, Fel tân gwyllt ar Sodom aethlyd, Fel * 1.8 llycheden, fel y ddraig, Fel y gwewyr blin ar wraig:
Felly 'n chwyrn, ac felly 'n danllyd, Felly 'n † 1.9 immwngc, felly 'n aethlyd, Felly 'n flin, ac felly 'n draws, Y daw 'r Angeu ar ein * 1.10 traws:
Brau yw 'n cnawd, a bâch yw'n cryfdwr, Gwann yw'n grym, a gwael yw'n cyflwr, Tippyn bâch o groes neu gerydd, All yn troi a'n torr i fynydd.

Page 282

Gwrach all ladd y Cawr â chogail, Blewyn bâch all dagu'r bugail, Drân ar draws all ladd yr hwsmon, Duw mor * 1.11 ddiserth yw plant dynion.
Y gwann, y gwael, y dwl, y dall, Y lâdd y cryf, y gwymp y call: Y † 1.12 bwr di-barch, â maen nid mawr, A friwia 'n caer, a ddifa 'r Cawr.
Beth yw dẏn wrth hyn ond tarth, A mwg, a niwl, a gwellt, a gwarth, A gwydyr crin, a rhew, a rhossyn, A stên o bridd, a gwynt, ac ewyn.
Y dewr, y doeth, y gwych, y gwalchaidd, Y cryf, y call, y capten cruaidd, Ein pen, a'n pont, a'n grym, a'n gras, Y gafodd gwymp gan angeu câs:
Fel y cwymp holl ddail yr allt, Fel y † 1.13 croppia 'r gwelle 'n gwallt, Fel y gwywa lili 'r maes, Fel y tyrr y gwydyr glâs:
Felly gwywn, felly tyrr, Felly * 1.14 craccia 'n bywyd byrr, Felly croppiir einioes dẏn, Felly cwympwn bob yr un.
Fel tẏ bugail ein symmydir, Fel stên briddlyd ein candryllir, Fel dilledyn y darfyddwn, Fel y llwydrew y difflannwn.
Ni chawn aros mwy nâ 'n tadau, Awn ir ffordd yr aethont hwyntau: Rhaid i'n fynd i wneuthur cyfri, A rhoi * 1.15 rhwm i eraill godi.
Nid oes lle in' aros ymma. Ond dros ennyd i hafotta: Gwedyn gorfydd ar bawb symmyd, Fynd ir ffordd yr aeth yr holl-fyd.

Page 283

Y mae 'r angeu glâs â'i fwa, Yn ein herlid ym-mhob tyrfa: Nid oes vn-dyn all ddihangyd. Rhag ei follt âi saeth wenwynllyd.
Mae ê'n ddirgel yn marchogaeth, Ar farch glâs ym-mhob cenhedlaeth: Nid oes dyn all diangc rhagddo, Aed ir wliâd ar mann y mynno.
Er bôd Hasael gynt nâ 'r cwig, Er bôd Sawl fel eryr ffrolig, Er bôd Jehu 'n gynt nag ynte, Ni ddihangodd vn rhag Ange.
Er gwroled gwr oedd Sampson, F'orfu * 1.16 ildo ir angeu digllon: Felly gorfydd arnom ninnau, Pyt fae ei gryfder yn ein breichiau.
Alexander y † 1.17 gwngcwerodd, Yr holl fẏd y ffordd y cerddodd; Angeu gwedi 'r * 1.18 concwest sceler, Y gwngcwerodd Alexander.
Lladdodd angeu bôb Cwngcwerwr, Lladdodd Galen y physsygwr, Lladdodd Luc y meddyg goreu; Pwy all ddiangc mwy rhag angeu?
Fel y † 1.19 damsing meirch Rhyfelwyr, Dan eu traed bôb * 1.20 sort o filwyr; Felly damsing angeu diriaid, Y Brenhinoedd fel begeriaid.
Lladdodd Angeu Abel wirion, Lladdodd Angeu Sanctaidd Aaron; Lladdodd Cain a Cham yscymmyn: Nid yw'r Angeu 'n arbed vndyn.
Pharo 'r † 1.21 Prins, ac Eli 'r ffeiriad, Esay 'r Prophwyd, Joel yr * 1.22 vnad, Noah 'r † 1.23 Patriarc, ar hen Dadeu, Y ddifethwyd gan yr Angeu.

Page 284

Fel n' arbede Herod greulon, Ladd y bychain mwy nâ'r mawrion; Felly gwn nad arbed Ange, Hên nac ifangc mwy nag ynte.
Pe rhoed iddo Aur yn bwnnau Mil o wledydd a'i Coronau, Ni chaed gantho Arbed bywyd Dẏn, dros Awr, Pe rhoed yr hollfyd.
Ni chaiff neb * 1.24 ganlyniaeth gantho, Er † 1.25 ymhwedd ac er ceisio, Mwy nac y Cae Bilat ddigllon, O'i ganlyniaeth gan Iddewon.
Ni rẏ Angeu Pan y delo, Awr o * 1.26 resbyt i ni ymgweirio, Nac vn rhybydd o'i ddyfodiad, Mwy nâ'r Ci cyn lladd y ddafad.
Ond fel llidir fe ddaw'r Angeu, Yn ddisymmwth am ein penneu, Tro ni 'n Cyscu yn ddiofon, Fel Philistiaid am ben Sampson.
Os bydd diffig dim ir shiwrne, Oyl ir lamp, na gwisc ir Cefne, Ni chaer gan yr Angeu melyn, Aros inni fynd i mofyn.
Ond fel Brenin Babel ddiras, Yn Troi Sidrac * 1.27 whip ir ffwrnas, Fe dry 'r Angeu bawb y granffo, Ir ffwrn briddlyd fel ei caffo.
Fel y daw y lleidir † 1.28 difiog, Ganol nôs am ben goludog: Felly daw yr Angeu in Cyrchu, Yn ddiymgais tro ni 'n Cyscu.
Fel y teru gwr â thryfer, Bysc tro e'n gorphwys yn ddibryder: Felly teru Angeu ddyrnod, Ar blant dynion mor amharod.

Page 285

Fel na wyr y glommen dyner, Nar pryd, na'r mann y teru 'r * 1.29 ffowler: Felly 'n hollol ni wyr vn dyn, Na'r pryd, na'r môdd y bydd ei derfyn.
Mewn vn ffordd yr ym yn dwad, Ir byd hwn dan wylo 'n irad; A thrwy fil o ffyrdd heb * 1.30 farcco, Rym ni'n mynd y maes o hano.
Nid oes vn mann yn ddibryder, Na ddaw 'r Angeu glâs â'i dryfer, I roi inni ddirgel ddyrnod; Ym mhob mann, och! byddwn barod.
Wrth droi 'r defaid mewn lle dirgel; Y daeth Angeu am draws Abel: Gwachel dithe gael ei ddyrnod, Wrth droi ddautu dy nifeilod.
Ar y genffordd wrth shiwrneia, Y bu farw Rachel fwyna: Wrth shiwrneia gwachel ditheu, Rhag cyfarfod âr glâs Angeu.
Pan oedd holl blant Job yn gwledda, Y daeth Angeu ar eu gwartha: Nid oes * 1.31 gwarant gennyd titheu, Yn dy wledd rhag dyrnod Angeu.
Holophernes a fu farw, Yn ei gwsc pan oedd ef meddw: Gwachel dithe yn dy feddwdod, Rhag i Angeu roi 'ti ddyrnod.
Blsazzar er maint oedd gantho,* 1.32 Y fu farw wrth * 1.33 garowso: Wrth garowso gwachel ditheu Od wyt gall rhag dyrnod Angeu.
Fe rows Angeu anfad ddyrnod,* 1.34 Ar y faingc i frenin Herod: Ar y faingc y dlye Farnwyr, Gosio Angeu mawr ei hydyr.

Page 286

Saethodd Angeu saeth wenwynllyd, * 1.35Trwy gorph Achab yn ei gerbyd: Yn dy * 1.36 Goach ymgadw ditheu, Rhag dy daro â bollt Angeu.
Fe ddaeth Angeu megis † 1.37 mwrddrwr, Am draws Eglon yn ei barlwr: Gwachel dithe rhag ei biccell, Trech yn gorphwys yn dy stafell.
Pan oedd Difes yn ei sidan, (A'i phâr foethus) oll yn hedfan, Fe ddaeth Angeu ac a'i lladdodd; Gwachel dithe balch ei wiscodd.
Gwedi 'r Cerlyn adail llawer, * 1.38A chrynhoi dros hirfod amser; Fe ddaeth Angeu ac ai lladdwys, Cyn cael profi o'r pethau gasclwys,
Gwachel ditheu 'r * 1.39 Cob a'r Cerlyn, Sy'n Crynhoi dros lawer blwyddyn, Rhag ir Angeu dy gyrhaeddyd, Cyn cael profi dim o'th olud.
Fe ddaeth Angeu i drywanu, * 1.40Dau fab Aron wrth Aberthu: Wrth yr Allor dlye 'r ffeiriad, Ofni Angeu a'i ddyfodiad.
* 1.41Pan oedd Senachrib y brenin, Yn y demel ar ei ddaulyn, Fe ddaeth Angeu ac a'i lladdwys. Ofnwch Angeu yn yr Eglwys.
* 1.42Fe rows Angeu frâth i Zimri, Wrth gydorwedd gydâ Chosbi: Gwachel dithe wrth butteinia, Rhag ir Angeu glâs dy ddala.
Nynn dy Lamp, a gwisc dy drwssiad, Cyn dêl Angeu 'n agos attad: Gwna dy gownt a'th gyfri 'n barod, Cyn dy alw o flaen y Drindod.

Page 287

Bydd di barod heddyw, heno, Ag Oel ith lamp, a'th wysc yn † 1.43 gyfrdo, Fynd o flaen dy farnwr prẏdd, Y foru o bossib ydyw 'r dydd.
Ni wyr Peder, ni wyr Pawl, Ni wyr Angel, ni wyr Diawl, Ni wyr Planed, ni wyr dyn, Na neb o'n hawr, ond Duw ei hun.
Rhyd dydd, rhyd nôs, yn glaf, yn iach, Ar fôr a thir, yn fawr, yn fach, Mewn Tre a gwlad, bawb byddwch barod, Ni wys pwy wlad y cawn ni'r dyrnod.
Gweithiwch bawb tro'r dydd yn para, Cyn cotto'r haul crynhowch y Manna: Derbyniwch râs, tro Duw 'n ei gynnig, Partowch eich rhaid cyn delo'r diffig.
Cyn colli 'r * 1.44 Gôl, cyn delo 'r nôs, Cyn torri 'r pren, cyn cwympo ir ffôs, Cyn cau y porth, cyn mynd ir garn, Cyn canu 'r Corn, cyn rhoddi 'r farn.
Rhed am y chwyth, Gwna waith dy Dduw, Dwg ffrwyth yn † 1.45 rhîn o'r gore ei ryw, Dos * 1.46 cwhip ir wledd a'r farn yn gyfrdo, Cais dy gyfraid cyn ymado.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.