Allwydd neu agoriad paradwys i'r Cymrv Hynny yw: gweddiau, devotionau, cynghorion, ac athrawiaethau tra duwiol ac angentheidiol i bob Christion yn mynhu agoryd y Porth a myned i mewn i'r Nef. Wedi eu cynnull o amryw lyfrau duwiol, a'i cyfeithu yn Gymraeg: neu wedi eu cyfansoddi, gan I.H.
About this Item
Title
Allwydd neu agoriad paradwys i'r Cymrv Hynny yw: gweddiau, devotionau, cynghorion, ac athrawiaethau tra duwiol ac angentheidiol i bob Christion yn mynhu agoryd y Porth a myned i mewn i'r Nef. Wedi eu cynnull o amryw lyfrau duwiol, a'i cyfeithu yn Gymraeg: neu wedi eu cyfansoddi, gan I.H.
Publication
Yn Lvyck [i.e. Liege]:: [s.n.],
1670
Rights/Permissions
To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.
Subject terms
Catholic Church -- Prayer-books and devotions -- Early works to 1800. -- Welsh
Bible. -- N.T. -- Gospels -- Translations into Welsh -- Early works to 1800.
Catechisms, Welsh -- Early works to 1800.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/b10303.0001.001
Cite this Item
"Allwydd neu agoriad paradwys i'r Cymrv Hynny yw: gweddiau, devotionau, cynghorion, ac athrawiaethau tra duwiol ac angentheidiol i bob Christion yn mynhu agoryd y Porth a myned i mewn i'r Nef. Wedi eu cynnull o amryw lyfrau duwiol, a'i cyfeithu yn Gymraeg: neu wedi eu cyfansoddi, gan I.H." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/b10303.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 12, 2025.
Pages
descriptionPage 105
Am Faint a Gorthrymder an∣feidrol Pechod Marwol, yn enwedic Sectariaeth.
Discybl.
PA vn o'r Pechodau Mar∣wol hyn yw'r lleiaf?
Athro.
Nid oes vn Pechod Mar∣wol yn fychan.
D.
Paham hynny?
A.
Oblegid fod pob Pechod Mar∣wol yn dorriad ystyrlawn ac o wîr fod rhyw vn o Orchymmynion Duw Hollalluog: yn droad oddiwrtho ef, ac yn ymlyniad wrth ryw Greadur, megis anrhydedd, cyfoeth, difyrrwch cnawdol, &c: yn wneuthur mwy am ryw Wagedd bydol nac am garu a bod yn vfudd iddo ef. Ac amhunny Dirmyg ydyw, a Diystyrwch anfei∣drol o'r Mawredd Duwfawl, y Brâd pennaf neu'r Treson goruchaf yn er∣byn Duw, ac yn ei anfodloni ef yn
descriptionPage 106
gymmaint a phe bai'r pechadur yn poeri ar ei Wyneb Duwfawl ef. Ca∣nys mae S. Paul yn dywedyd yn e∣glur: Fod y pechadur yn sathru Mab Duw tan ei draed, ac nad yw ef yn gwneuthur dim cyfrif o'r gwaed ben∣digedic a'r hwn y sancteiddiwyd ef. Heb. 10. v. 29. A bod yr vn pechadur yn croeshoelio iddo eihun Mab Duw drachefn ibid c. 6. v. 6. Wrth yr hyn y gwelir fod Pechod Marwol (hynny yw pechod yn lladd yr enaid) yn Ddrwg anfeidrol, ac yn haeddu cos∣pedigaeth dost annhraethadwy tros fyth.
D.
Ond ydyw yn erbyn Daioni Duw, Cospi a phoenau erchyll anfeidrol ei greadur truan eihun?
A.
Nac ydyw ddim. Oblegid fod Duw wedi dangos ei Ddaioni anfei∣drol i ddyn gan; Ddarfod iddo ef greu dyn o Ddim, a'i wneuthur ef yn abl i fod yn gydymmaith i'r Angeli∣on bendigedic, yn Etifedd ••eyrnas y Nef, 〈◊〉〈◊〉 Mâb dewis i Dduw, i feddian∣•••• G••y••••yd tragywyddol ac ••n∣rhaethadwy
descriptionPage 107
gydag ef yn y Paradwys Nefol: am hyn igyd heb fynnu dim gan ddyn▪ ond yn vnic tra barhao pe∣rerindod byrr y Byd hwn, wasanae∣thu o hono ei Greawdwr a bod yn u∣fydd iddo ef, gan ei garu ef yn fwy na'r Byd, y Cnawd a'r Cythraul. Nid ydyw Duw yn gorchymmyn dim ca∣led, anhawdd, neu ammhosibl i ddyn megis hedeg yn yr awyr, cerdded ar hyd y mor, &c, nac ydyw ddim: ond yn vnic yr hyn a eill dyn ei wneu∣thur yn hawdd; sef ei garn a'i wasana∣ethu ef. Mae Duw yn canniadu i ddyn gymmeryd yn y byd hwn, gym∣maint o anrhydedd, o gyfoeth, ac o ddifyriwch ac a fynno, tra nas cym∣mero hynny, wrth fod yn anufydd iddo ef. Ac onis gwna dyn beth mor hawdd a bychan: ond yn y gwr••h∣wyneb trwy ddirmyg annthaethadwy dibrisio, a diys••yru Duw mor ddaio∣nus, pa ••yfedd y cysp ef y dyn hwnnw yn dragywyddol?
D.
Ond peth creulon ac anghyfion, yw cosp•• r pechod yn dragywydd, yr hwn
descriptionPage 108
(ysgatfydd) ni pharhaodd hwy nac vn awr?
A.
Nac e ddim: Oblegid fod Mawredd Duw, yr hwn a ddigir trwy'r pedhod, o Ardderchogrwydd a Braint anfeidrol: a bod malais neu yscelerder y pechod yn Ddrwg tragy∣wyddol. Canys mae'r pechadur yn gwybod ymmlaen llaw, trwy oleuni naill ai Natur ai Gras, fod Duw wedi gwahardd iddo ef y peth a'r peth: ac os gwna ef hynny, y caiff ef ei gospi yn Dragywyddol: ac etto er hynny, fe a wna y peth hwnnw o'i wir fodd ac yn ystyrlawn yngwydd a gwybodaeth y Duw Mawr: gan geisio perswadio eihûn, nad yw Duw wedi gwahardd y peth mor ddirfawr; neu os yw hyn∣ny yn bod, o'r hyn lleiaf a caiff ef ddigon o amser wedi hynny i edifar∣hau am y pechod. Yr hyn bwnc o e∣difarhau, byth nis bwriadai ef ei wneuthur, pettai ef yn gwybod nas gallai Duw ei gospi ef. Ac amhynny mae Malais ei ewyllys ef, yn Ddry∣gedd a Malais tragywyddol, ac yn
descriptionPage 109
ganlynol yn haeddu cospedigaeth a dial Tragywyddol.
D.
Er bod Pechod Marwol yn hae∣ddu cospedigaeth dragywyddol, oni eill fod, na chysp Duw y pechod mor greulon a hynny?
A.
Na eill ddim. Oblegid lle y mae cymmaint Daioni wedi ei gyn∣nyg, ac heb fod yn wiw gan y pecha∣dur ei dderbyn ef: ond yn y gwrth∣wyneb dirmygu a diystyru morddir∣fawr cymmaint Cymmwynaswr: mae'n rhaid i Gyfiawnder gymmeryd ei le; mae'n rhaid i Ordinhadau cy∣fion tragywyddol y Mowredd goru∣chaf gael eu cyflawni, Yn y dydd pa∣bynnac y bwyteych o'r ffrwyth gwahar∣ddedic, gan farw ti y fyddi farw. Gen. 2, 17. Pwybynnac a bechodd i'm her∣byn, hwnnw a ddileuaf o'm llyfr. Ex. 32.33. Ni chaiff yr anghyfion etifeddu teyrnas Dduw. 1 Cor. 6.9. Mae'n rhaid yntau iddo ef farw yn Dragy∣wyddol, yr hwn a wnelo bechod Marwol. Hawdd i ni feddwl, nad oedd y difyrrwch a gymmerodd Adam
descriptionPage 110
wrth fwytta'r Afal gwaharddedic, yn fawr iawn, a darfod iddo fflat••u ei∣hunan gan ddywedyd; Os bwy••taf yr Afal hwn, yn ddiau ni chysp Duw fi mor greulon ac y mae ef wedi byg∣wth: pa gam mawr a wnaf iddo ef wrth hynny? Ond oes cant mwy o'r vnthyw Afalau ar y pren hwn? Oni all ef greu mil o'r vnrhyw brenniau? A llawer mwy o resymmau tegaidd fel y rhain (yngwrthwyneb i Orchym∣myn eglur Duw) ary rhai gan hyderu a rhoi ei oglud, fe a bechodd gan dorri'r Gorchymmyn. Ac yn ddioed fe a ganfu eihûn yn Greadur damnedic yn Euog o lid a digofaint Duw yn dragywyddol. Ac er cael o hono ef y drugaredd, o gael amser i edifarhau, eito fe a orfu arno wneuthur penyd ymma ar y ddaear, mewn poenau am∣ryw, dirfawr ofnau a doluriau, tros yspaid mwy na naw cant o flynydd∣oedd, ac wedi hynny igyd trwy ddio∣def gwahanu ei enaid oddiwrth y corph marw, a chaei troi ei gorph yn lludw brwnt: a'i holl eppil ddamne∣dig
descriptionPage 111
a d••ochwyd igyd yn yr vn trallo∣dau, y•• gymmaint ac nad yw'r holl lafuriau, yr holl ddialedd, yr holl boenau, a'r clefefydon, a'r o••nau, a'r haint y nodau, a'r cywynnau, a'r bra∣dau, a'r rebeliwnau, a'r rhyfeloedd, a'r colled gwaed, a'r marwolaethau, a'r Sectau, a'r Heresiau, a'r pechodau, a'r damnedigaethau, a'r tormentau Vffernol, &c. y rhai a ddigwydda∣sant ar ol hynny i'r Genhedlaeth ddynol, ond cospedigaeth gyfion am yr vn pechod hwnnw: ac oni buasai i Dduw eihunan ddyfod o'r Nef i wa∣red ymma, a chymmeryd arno ein trueni ni oll, (onid pechod) i wneu∣thur cyflawn iawn am y pechod hwnnw, ni chawsai nac Adam eihûn nac vn o'i Hiliogaeth Ddamnedic ef byth weled wyneb D••w yn y Gwyn fyd Nefol: ond hwy a gowsent ol (wedi myned trwy amryw gyfeilior¦nau a doluriau yn y bywvd hwn,) e•• trochi yngnanol poenau annraetha¦dwy y Tan Vffernol, gyda'r Angelio Repryfedic dros holl Dragywyddol¦deb,
descriptionPage 112
hynny yw, tra y bo Duw yn Dduw. Er nad oedd y pechod hwnnw yntau, ond bwytta vn tammaid o A∣fal gwaharddedic, etto ni ellir dywe∣dyd ei fod ef yn fychan, gan weled y Gospedigaeth amdano mor ddirfawr drom, Ac etto os ystyriwn ni y cwbl yn llwyr, hawdd yw, i ddyn fe∣ddwl, fod pechod Adam yn llai nac vn pechod marwol ar a wnaed arôl hynny. Oblegid beth a welir yn llai, na bwytta vn tammaid o Afal? Am∣hynny gan ddarfod cospi pechod a welir mor fychan a chospedigaethau mor anfeidrol. Beth sy raid i'r pechadur ei ddisgwyl, yr hwn a wnaeth amryw o anwireddau gor∣thrwm, ac a'i hadnewyddodd hwynt eilwaith ac eilwaith?
D.
Yr wyfi igyd yn dychrynnu wrth y styried Cyfiawnder Duw, gyda'm hae∣ddedigaethau fyhun: ond ni fedraf ber∣swadio fyhun fod Sectariaeth yn bechod mawr, beth meddwch chwi?
A.
Yn siccr, mae Duw eihun trwy enau'r Apostol yn dywedyd: Fod y
descriptionPage 113
sawl sy'n Hereticiaid, neu'n Sectariaid wedi eu subvertu neu'i gwyrdroi, ac yn pechu ac yn da••nio euhunain Tit. 3.11, Ac na chant y sawl sy'n pechu felly feddianeu teyrnas Dduw. Gal. 5.21. Ac mae rheswn eihûn yn dangos fod Se∣ctariaeth yn vn o'r pechodau gor∣thrymmaf ac a wneir yn erbyn y Mawredd Duwfawl. Canys o her∣wydd fod y Sectarian wedi neilituo eihûn oddiwrth wir Eglwys Dduw, ar yr hon y mae Christ yn Ben: ac o herwydd ei fod ef yn anufydd i'r vn Eglwys, am yr hon y dywedodd Christ: Y neb ni wrendy yr Eglwys, bydded i ti megis yr Ethnie a'r Publi∣can. Math. 18.17. (Ethnic yw'r hwn sy'n addoli ac yn credu yn y Duwiau ffeilsion, Publican yw'r hwn ni wna ddim pris nac o Dduw nac o Ddiawl, ond byw megis anifail, fel pe ni bai vn Duw i gospi'r drwg nac i obrwyo'r da;) ac o herwydd fod yr vn Sectari∣an yn credu yn gyndyn rhyw Athra∣wiaethau yn y gwrthwyneb i'r hyn a ddysc yr Eglwys Lân (yr hon yn ol
descriptionPage 114
addewid Christ sydd a'r Yspryd Glan ganthi i'w chyfarwydde hi i bob gwirio∣nedd. Jo. 16.13. ac i arhos gyda hi yn dragywyddol 10.13.16.) Oherwydd y pethau hyn (meddaf) mae'n rhaid i'r sectarian fôd mewn Anffyddlon∣deb, mewn Anufydd-dod, ac mewn Rebeliwn yn erbyn Duw. Ac felly mewn modd gorthrwm anfeidrol, mae ef yn torri y Cyntaf a'r. Pennaf o'r Deg. Gorchymmynion, yr hwn sydd am anrhydeddu Duw. Heb law hynny, oherwydd fod Christ wrth son am anffyddlondeb yn gyffredinol, yn dywedyd: Y bydd mwy goddefa∣dwy, ses y bydd yn esmwythach yn Nydd y Paou i dir y Sodomitiaid a'r Gomor∣rhaeaid, nac i'r sawl ni dderbynniant ei Apostolion neu'i Ddiscyblion es. Mat. 10, 15. Hynny y'n, ni chaiff y sawl y syddant yn euog o'r pechod cnaw∣dol yn erbyn natur, (Gwyd mor ffiaidd ac atgas i'r Genhedlaeth ddy∣nol, a bod y rhai a ddifernir yn euog o hono yn ôl Cyfreithiau pôb Natiwn Crêd, i'w dodi i farwolaeth heb ddim
descriptionPage 115
trugaredd, megis dynion annheilwng i fyw ar y ddaear,) gymmaint cyfran yn y Ddamnedigaeth Dragywyddol, a'r sawl ni dderbynniant Ddiscyblion a Dysceidiaeth Christ, sef yr Anffy∣ddloniad yn gyffredinol. Pa faint mwy anesmwyth y fydd eu Damne∣digaeth hwynt y rhai wedi derbyn Discyblion ac Athrawiaeth Christ vn∣waith, ar ol hynny a'i dirmygasant hwynt yn anfeidrol, ac a'i gyrrasant ymmaith gan eu herlid hwynt hyd at angeu, a gwadu ei Athrawiaeth ef, perhon nad yw hynny ond mewn rhai o bynciau?
D.
A wnaethom ni hynny? ond ein Tadau ni ers amgylch cant o flynyddo∣edd a neilltuasant euhun yn gyntaf oddi∣wrth yr Eglwys, a gredasant ac a ddys∣casant y Sectiau newydd hyn y rhai yr∣won yr ydym ni yn eu professu yn vnic wrth eu dilyn hwynt?
A.
Os chwychwi a'i dilynwch hwynt yn eu cyfeilorn a'i didro dam∣nedic ac yn eu Rhebeliwn yn erbyn Duw gan barhâu yn hynny hyd y
descriptionPage 116
diwedd, digon sicr y cewch chwi fod yn gyfrannog o'i Trueni tragywyddol a'i Damnedigaeth hwynt.
D.
Nid wyfi yn medru coelio fod pawb ac sydd o'n Sectiau newydd ni, allan o ras Duw, ac mewn stad Dam∣nediggaeth. Ond ydym ni yn cadw yn buraidd y Dydd Sabbath? ond ydym ui yn gochel tyngu a rhegi? ond ydym ni yn gyfion yn ein gweithredoedd tuag at ein cymmydogion? ond ydym ni yn gochel gwagedd dillad gwychion? ond ydym ni yn dda wrth y tlodion? ond y∣dym ni ar bob dydd yr Arglwydd yn ein dillad glan a goreu yn myned yn sanct∣aidd i'r Congregatiwnau cyhoedd yn gy∣stal a'rhai dirgel i glywed yr hyn y∣mae'n Dyscawdwyr ni yn ei ddy∣wedyd?
A.
Nid yw'r holl ddaioni morawl hyn yn ddim arwydd o'r Crefydd Christianogol, neu o'r vnic wir ffordd i Gadwedigaeth. Oblegid fod llawer o'r Anffyddloniaid yn ymarfer cym∣maint, ie a mwy hefyd o rinweddau morawl na hyn igyd. Felly y gwnant
descriptionPage 117
llaweroedd yn nheirnasoedd China, Tunquin, Chili a'r gwledydd maith e∣raill yn Indiaau y, Dwyrain a'r Gor∣llewyn. Ond pa raid i ni hercyd e∣samplau cyn belled? Mae llawer o'r Turciaid sy'n trigo yngwydd y byd Christianogol, yn byw yn fwy mo∣rawl na'n Christianogion Refforme∣dic ni. Gofynnwch i'r sawl y fuont yn Argier. Tunis a'r Glwledydd Maho∣metanaidd nessaf, a hwy a ddywe∣dant i chwi, fod llaweroedd o'r Tur∣ciaid hynny heb nac arfer tyngu na rhegi: a'r bod hwy yn cashâu anwir yn gymmaint ac os digwydd i ryw weinidoc vnwaith ddywedyd cel∣wydd, hwy a yrrant ymmaith y dyn hwnnw a mwy ffieiddra, nac yr ar∣ferir cashau lladron a ffeloniaid erail yn y Wlad ymma: a'i bod hwy yr cyrchu i'w Moschoedd neu i'w Tem∣lau, nid yn vnic vnwaith vn yr wyth nos, ond teirgwaith bod dydd, ll•• wedi bwrw enhunain ar eu hydgyhy•• ar y llawr, tros hir amser y bloeddian ac yr vdant eu gweddian yn ddifri
descriptionPage 118
iawn: a'i bod hwy yn parchu eu Mos∣chaidd Eglwysi hynny yn gymmaint, ac y cuslanant yn anrhydeddus eu dwylo euhun wedi iddynt ond yn v∣nic cyfwrdd a'r tu allan o'i gwelydd hwynt: ac os digwydd i neb o honynt sia••ad neu ddywedyd vn gair prophan ••ef annuwiol yn yr Eglwysi neu yn eu monwentau, rhaid i hwnnw ddioddef marwolaeth heb ddim trugaredd: os rhyw vn o'r Puritanaidd Maho∣metanod hyn a genfydd ddyn dieithr mewn siopp marsiandwr (o Iuddew, Mawr, neu Gristion drwg) yn barod ••w dwyllo, ef a ddaw yn araf deg o'r ••u cefn iddo, ac a ddywed; y cyfaill ••r ydys yn dy sommi di ymma, dyre ••r siop nessaf, ac yno ti a gei yr vn ••hyw neges y fo cystal am hanner y pris yr wyti yn ei gynnyg ymma. ••wy o'r Christianogion Refformedic i fydd mor fwynaidd i mi yn prynnu ••sgidiau neu hossanau, mewn rhyw ••••opp yn Abergefenni neu yn Gwrec∣••••m? Mae laweroedd hefyd o'r An∣yddloniaiad hyn o naturiaeth, tuedd,
descriptionPage 119
a dispositiwn caredic, tirion, mwyn, llawenaidd, difyr, hael, ffyddlon, ho∣nest, boneddigaidd &c, ac etto ni wna hyn oll hwynt yn eneidiau cad∣wedic.
D.
Ni wna? Ai rhaid i gystal dyni∣on gail eu colli yn dragywyddol? pa∣ham nas gall pobl mor dda gael eu sa∣fio yn gystal a'r Christianogion?
A.
Oblegid pettai hynny yn bod, ni chae Anffyddloniaid cyndyn a gwrthnysig waeth than yn y Golledi∣gaeth dragywyddol, na Sodam a Go∣morrha y rhai yn ol eich barnedi∣gaerh chwi eihûn, sydd yn haeddu Damnedigaeth drom. Canys mae gan y Turciaid hyn wybodaeth di∣gonol o Iesu Christ, ac o'r angen∣rhaid sydd o gredu ynddo ef: maent hwy beunydd yn gweled ymarfer y Crefydd Christianogol yngwydd eu llygaid, vn gystal yn eu Gwledydd a'i Trefydd p••nnaf, euhûn, ac ynghanol y parthau blodeuoccaf o Ardalau Cred. Ond mae perthynassau bydol, rhydd∣did o gael mwy difyrrwch cnawdol:
descriptionPage 120
gyda chyndynrwydd cythreulic eu hewyllys euhun wedi eu dallu hwynt yn hollawl: Hynny yw, maint hwy yn gwrando mwy ar y Byd, ar y Cnawd, ac ar y Cythraul, nac ar Y∣spryd Duw yn eu galw hwynt i gredu yn Iesu Grist, fel y byddant yn gad∣wedic. Heblaw hyn, pe gallai y cy∣fryw Anffyddloniaid gael eu safio: wrthynny ni fyddai rhaid i ni ein geni drachefn trwy Ddwfr a'r Yspryd Glan, sef ein bedyddio: wrthfiynny nid oedd Ymgnawdoliaeth a Diodd∣efaint Christ yn angenrheidiol: wrthynny nid oedd Pregethiad yr Apostolion a'r Discyblion eraill ond yn ofer ac yn ddiffrwyth; a'r holl Wirioneddau eraill y mae'r Testa∣ment Newydd yn eu cynwys nid oeddent ddim arall ond celwyddau a gwagedd Yr hyn sy gymmaint Ca∣bledd ac. Enllib Blasphemaidd ac a all tafod dyn ei lafaru.
D.
Er bod Anffyddlondeb yn gym∣maint pechod ac mor anfeidrol, beth yw hynny i nyni? er bod rhagoriaeth
descriptionPage 121
rhyngom ni a'r Eglwys mewn rhai o bethau, ai Anffyddloniaid ydym ni, y rhai ydym yn credu yn-Christ, ae yn dywedyd bennydd y Gredo a Gweddi'r Arglwydd?
A.
Mae Christ ein Harglwydd (megis y dywedais o'r blaen) yn er∣chi i ni gyfrif y Sawl ni wrandawant yr Eglwys, (hynny yw, ni fyddant v∣fydd iddi hi,) megis yr Ethniciaid a'r Publicanod: ac mae S. Pawl (fel y crybwyllais hefyd) yn datcan yn e∣glur, na chaiff y rhai sy'n arhos yn gyn∣dyn mewn Sectiau neu Heresiau fyth feddiannu teyrnas Dduw: mai S, Iacob yntau yn ein siccrhâu ni, fod y sawl sy'n pechu mewn vn pwnc, yn euog o'r cwbl: Iac. 2.10. Mae rheswm hefyd yn dangos yr vn peth; Yn ddiau, yr hwn y fai yn credu y Dêng Gorchym∣mynion igyd ond vn, er esampl y Chweched nen'r Seithfed, ac a ddy∣wedai, Na fai ef nac yn credu, nac yn meddwl cadw y Gorchymmyn hwn∣nw, gan haeru a maentumio yn ddi∣gywilydd, nad yw'r lleoedd hynny o'r
descriptionPage 122
Scrythur Lân, sy'n dal allan y Gor∣chymmyn hwn, i'w dyall a'i deongl, megis y mae'r Escobion a'r Doctori∣on eraill (y rhai a gowsont eu Missiwn yn gyfreithlon oddiwrth Suc secedil;essori∣aid yr Apostolion yn olynol trwy Ddyfodiad liniawl,) yn eu datcan a'i hesponi hwynt: ond (megis y mae'r yspryd Priuat trwy ymweithiadau oddimewn yn ei addysgu ef) mewn ystyr a sens Dirgeleddus, ac nid am y cydiad naturiol rhwng mâb a merch, yr hwn sy gyfreithlon i ddynion yn gyffredin ymysc eu gilydd yn gystal ac i'r creaduriaid byw eraill: ac felly hefyd am gyfoeth a da bydol, &c. Yr hwn (meddaf) y fai yn dywedyd ac yn maentumio hyn oll yn oll yn daerllyd ac yn gyndyn, y fyddai yn ddyn cwbl Anffyddlon ac mewn stad Damnedi∣gaeth tragywyddol, megis hefyd y rhai oll a'i dilynent, neu a safent o'i blaid ef, er cadw ohonynt yn ffyddlon y Gorchymmynion eraill igyd. Ob∣legid eu bod hwy, wrth anufuddhâu ac anghredu i Dduw yn y pwnc hwn,
descriptionPage 123
yn ei ammharchu a'i ddirmygu ef yn gymmaint a phe baent hwy heb gre∣du ac vfuddhâu iddo yn y llaill oll. Canys yr vn Duw daionus yw ef wrth lafaru y pwnc hwn, ac wrth lafaru y Gwirioneddau eraill oll. Er nad ydynt hwy yn gweled Godineb a lladrad ond pethau bychain, etto nid felly y maent hwy yngwydd Duw. Nid oedd Adam yn gweled ond mat∣ter bychan, bwytta vn tammaid o'r Afal gwaharddedic: ond mae'r dia∣ledd ofnadwy a ddaeth arno ef a'i holl Eppil am hynny, yn dangos yn llwyr, maint a gorthrymder anfeidrol y pe∣chod hwnnw Yn yr vn modd y mae'r Sectarian, yr hwn trwy gyndyn∣rwydd, ni fyn gredu thyw vn gwirio∣nedd a lafarodd neu a orchymmy∣nodd Christ, yn dibrisio ac yn am∣mharchu Duw, ac yn gynddrwg Ang∣hredadyn, a phe bai ef heb gredu ac heb ufuddhâu iddo yn y llaill igyd. Ie mae ef yn llawer gwaeth: canys o ba faint mwy gwybodaeth, goleuni a gras a gafodd ef i gredu y Gwirione∣ddau
descriptionPage 124
eraill oll, mwy diescus o hynny ydyw ef, a gorth••ymmach pecha∣dur, am nad ydyw yn credu hwn hefyd.
D.
Pa beth? Os cadwn ni y Gor∣chymmynion yn y modd goreu y gallom, a bod yn edifeiriol pan ddigwyddo i ni trwy wendid eu torri hwynt a dywedyd weithiau Ein tâd ni &c. a'r Credo; ai tybied yr ydych na dderbyn Duw ein Gweddiau, a'n safioni?
A.
Nid trwy wendid yr ydych yn torri'r Gorchymmynion, pan y by∣ddoch trwy'r dydd, trwy'r wythnos, trwy'r flwyddyn &c. o'ch gwir fodd yn arhos ac yn parhâu yn gyndyn mewn Sectariaeth, yr hwn (megis y dangosais) sy bechod gorthrwm an∣feidrol yn erbyn y Cyntaf a'r Pennaf Gorchymmyn, sef am anrhydeddu Duw yn iawn neu fel y parodd ef: ac ni chaiff yn unic cyfryw ddynion, ddim gwobr gan Dduw, am yr Elu∣sennau ac am y Gwei••hredoedd go∣reu a wnelont, eithr hefyd mae eu Gweddiau hwynt, nid yn vnic yn
descriptionPage 125
anghymmeradwy, ond hefyd yn ffiei∣ddgas (megis y mae'r Prophwyd yn dywedyd Pro••erb 28.9.) ac yn alb••••••∣natiwn yngwydd y Mawredd Duw∣fawl.
D.
Pa ddrwg ganhynny yw dywedyd, y geill pob vn fod yn safiedic yn ei Ffydd eihun?
A.
Yr vn drwg a dywedyd: mae Twyllwr, Crâf celwyddog, nen Im∣postor siomgar yw Duw. Canys gan fod Duw yn dywedyd yn eglur, y neb ni chredo a go••demnir. Mar. 16.16. A bod y neb ni wrandawo ar yr Eglwys, i'w gyfrif megis yr Eth••ic a'r Publi∣can. Mat. 18.27. Ac nad yw'r E∣glwys hon ond vn: Vn ydyw fyngh∣lommen. Cantic. 6.8. Ac nad oes ond vn ffydd; Vn Fydd, vn Bedydd, vn Duw. Ephes. 4.15. Ac nas gall nêb heb honno fod vn gymmeradwy gan Dduw: Heb ffydd nid yw possibl rhyngu bodd i Dduw. Heb. 11.6. Ac na chaiff y Sectarianod feddiannu Teyrnas Dduw. Gal. 5.21. Os er hyn oll, y geill y neb nid yw yn cre∣du
descriptionPage 126
rhyw rai o'r pethau a ddywedodd neu a orchymmynodd Christ: nen'r hwn ni fyn wrando ar (hynny yw vfuddhâu i'r, a gadel ei reoli yn y pethau syn perthynu i'w enaid gan) yr Eglwys, yr hon sydd Vn, Catholic, a Sanctaidd: neu'r hwn sydd o ffydd amgenach na'r Vn honno, heb yr hon nid yw possibl rhyngu bodd i Dduw: neu yr hwn sydd yn Sectarian (hynny yw, wedi ei neilltuo oddiwrth yr E∣glwys a'r Ffydd honno, trwy anu∣fuddhau a thrwy gredu yn amgenach nac y mae hi;) os er hyn oll (meddaf) y geill y cyfryw ddyn fod yn safiedic: mae'n rhaid wrthynny i'r holl Adro∣ddion hyn ac i aneirif yn chwaneg yn y Scrythur Lan, fod yn hollawl ffeil∣sion, yn yn anwir, ac yn dwyllodrus, ac yn ganlynol, fod Duw (yr hwn yw Awdur y rheini oll) yn Gelwyddog, ac yn Dwyllwr. Dywedyd yr hyn, yw Cabledd dychrynnedic anfei∣drol.
D.
Pa ddrwg yntau, yw perswadio a gyrru y sawl sy'n byw, megis pettent heb
descriptionPage 127
vn Ffydd, i wneuthur prosessiwn cy∣hoedd o ryw Ffydd, ac nid marw megis anifeiliaid?
A.
Yr vn drwg a dywedyd: Oni fyddwch chwi o'r vnic wir Ffydd, heb yr hon nid yw possibl bodloni Duw, a'r hon ni ellwch chwi amgen na'i gwybod, (oddieithr fod cyndynrwydd Cythreulic o ewyllys yn eich rhwy∣stro chwi,) oblegid fod Duw yn dywedyd: Mae Ffordd mor hawdd i'w gwybod ydyw: ac nas cyfeilior∣nant ffoliaid oddiarni, Esai. 35.8. O'r hyn lleiaf byddwch o ryw ffydd yn y gwrthwyneb i honno: hynny yw, poerwch ar wyneb Duw, sathrwch Fab Duw tan eich traed, gan gyfrif Gwaed y Testament Newydd megis peth llygredic, prophan, neu gyffre∣din, a thrwy hynny croeshoeliwch Christ drachefn; ond yn y cyfamser perswadiwch eichûn (oblegid gan nad oes ond vn wîr Ffydd, nid yw'r llaill a elwir felly, ond perswasiwnau,) eich bod chwi trwy hynny yn anrhy∣deddu Duw, ac yn rhyngu bodd iddo
descriptionPage 128
ef: ac felly byddwch o'i Ffydd ac o'i Crefydd hwynt Gweddiau ac Elusen∣nau y rhai sydd yn execrabl yn ffiei∣ddgas, ac yn abo••••i••atiwn i'r Mawredd Duwfawl.
D.
Ai possibl, fod ein Dyscandwyr ni, (y rhai mewn Cerwynau ac mewn P••lp••dr•• hefyd, ag wynebau sanctaidd sy'n llafaru cymmaint a'm rinwedd, gan fynych enwi Duw a Christ mor ddifrif,) yn y cyfamser yn digio Duw yn ddirfaw•• arth••w••, a bod yr holl Weddiau a ddywedant hwy yno, yn ff••eiddgas ac yn execrabl gerbron Duw?
A.
Digon siccr ydyw, mae gwell yw mynd i ryw Dy Tafarn lle bo gweision drwg, dihir a meddwon yn tyngu, yn rhegu, ac yn cablu Duw tuhwnt i bôb mesur, na myned i'r Congregatiwn Sectaraidd, lle y bo'r Dyscawdr Heretic yn cynghori rhi∣nweddau moesawl i'r Gwrandawyr. Oblegid yn y cyfryw Dy Tafarn (me∣gis y mae Sr. Thomas More yn dywe∣dyd yn llwyr wir) nid oes neb yn
descriptionPage 129
cael mwy niweid, na'r sawl y fo a meddwl dirras ac yn barod i ddrygi∣oni: oblegid y rhai d•• eu tuedd gan ymgroesi enhunain a ochelant y lle, trwy ofni y syrthia y Ty ar eu pennau: ond yn y Gongregatiwnau cyffelyb, nid oes neb yn barod i gael mwy niweid, na'r sawl sy a meddwl ac ewyllys da ganthynt, y rhai wrth glywed y Blaidd Sectaraidd mewn croen dafad o Don ac o Wynebpryd sanctaidd yn brefu addroddion mo∣rawl, gan fynych enwi yr Arglwydd a Christ, o'r diwedd hwy a berswadir (wedi eu b••iasu gan y Byd, a'r Cnawd, a'r Cythraul) fod yr Athrawiaeth a'r Proffession sectaraidd yn ddigon da: ac felly bob ychydic y diogelit hwynt yn eu cyfeiliorn damnedic a'i Rhe∣beliwn yn erbyn Duw. Ac am We∣ddiau y Sectariaid, os S. Ioan Chryso∣stom wrth son am ddyn yn euog o'r pechod marwol lleiaf, a ddywedodd yn hollawl wir, mai megis y cai y Bradwr erchyll, yr hwn y fai wedi murndrio Mab vnic y Brenin, yng∣wydd
descriptionPage 130
ei Dad llawn Ardderchawg, ac yn y man gan godi ei ddwylo wedi eu trochi igyd a'i lliwio yn-gwaed calon y Tywysog gwirion, i ddeisyf rhyw ffasot ar Fawredd y Brenin, me∣gis (medd ef) y cai hwnnw ei wrando a'i ystyr gan y Brenin, sef a Digofaint ac a Llid creulon annrhaethadwy: fel∣ly yn yr vn modd y derbyn Duw ac yr ystyria yntau Weddiau y pechadur anedifeiriol: pa faint mwy y gellir dywedyd, fod Gweddiau y Sectari∣aid (y rhai o'i gwir fodd sy trwy'r dydd yn torri y Gorchymmyn pennaf oll, sef o anrhydeddu Duw,) yn ffiaidd ac yn gas anfeidrol i'r Maw∣redd Nefawl? Ac amhynny y mae pob Christion Catholic yn gochelyd ac yn ffieiddio cymmuno neu fod yn gyfrannog mewn Gweddiau a'r Sect∣ariaid; yn gymmaint ac nad ant i'w Congregationau hwynt vn amser, ac mewn modd yn byd ni adawant i'r Sectariaid fod yn bresennol ar eu Gweddiau a'i sacraidd Offrymmau hwynt; nid ydynt chwaith yn cyfrif
descriptionPage 131
vn lle yn fwy prophân, nac yn llai sanctaidd na'r Eglwysi a'r Capelau sy wedi eu halogi a'i gwasanaeth Secta∣raidd hwynt. Ond nid yw'r Secta∣rianod o amryw Sectau, (er eu bôd hwynt yn cyfrif y nail y llall yn eu∣og o amryfuseddau damnedic,) yn gwneuthur dim Scrupul o gyd∣weddio, nac o fôd yn gyfrannog y naill o Rithiau Sacraidd y llall. Yr hyn sy ddigon o arwydd nad ydynt hwy o'r wîr Ffydd, yr hon bôb amser oedd yn dyscu i'w Phlant, o∣chelyd cymmuno a Sectaraiaid. Deu. 13.1. Rom. 16.17. Tit. 3.10. Jo. 2.10. &c. Heb law hyn, mae ma∣lis neu ddrygedd Sectariaeth, o her∣wydd ei hirbarhâu, yn waeth o law∣er ac yn orthrymmach na malais pechodau marwol eraill: Canys y rhai sy'n torri'r Sabbath, yn tyngu anudon, yn murndrio, yn godinebu, yn lladratta, &c. nid ydynt hwy bôb amser yn gwneuthur y Trose∣ddau hyn: ond yn fynych cyn pen wythnos neu ddiwrnod, iê weithiau
descriptionPage 132
cyn pen awr hwy y fyddant yn llwyr edifeiriol; a'r pryd hynny gan fvwiadu o ddifrif, mewn amser cy∣faddas wneuthur y Satisfactiwn y mae Duw yn ei fynnu ar eu dwylo hwynt hwy a allant ddychwelyd yn y man i stad Gras, yn y modd ac y bo eu gweithredoedd rhinweddol hwynt yn canlyn, trwy ryglyddian∣nau Christ, yn gymmeradwy i Dduw, ac yn obrwyol yn y Nêf. Ond mae'r Sectariad neu'r Heretic yn wastad yn parhau yn ei bechod: hynny yw, trwy'r dydd igyd, trwy'r wythnos igyd, trwy'r mâs igyd, trwy'r flwyddyn igyd, &c. oblegid pe bai yn amgenach, fe a ddangosai ei edifeirwch, gan geisio cymmodi a'i ymgysylltu drachefn a'r wîr Eg∣••wys: yr hyn beth o ran nad ydyw yn ei wneuthur, mae ef byth ym∣mhob gweithred a munud o'i fywyd megys yn poeri ar wyneb Duw, yn ••athru ar waed Christ, ac yn croeshoe∣••io ein lachawdwr Jesu yn ddibaidd.
D.
Wrth hyn fe dybygid, fod Secta∣riaeth
descriptionPage 133
yn gymmaint pechod ac Idolia∣eth. Pa beth ai rhaid i mi gredu, fod y sawl sy'n proffessu rhyw Sect o'r Crefydd Christianogol, cyn belled mewn stad Damnadigaeth, a'rhai sydd yn addoli'r gau Dduwiau?
A.
Os credwch chwi i Ghrist, mae'n rhaid i chwi gredu hefyd, y dylai pôb vn ac sydd yn gyndyd yn anufydd i'w Eglwys ef, fod i chychwi megis y Pagan a'r Publican, Math. 18.17. Oni chredwch chwi i'n Ja∣chawdr bendigedig yn dywedyd hynny pa fodd y mynnwch chwi i mi eich cyfrif chwi yn Gristion? Ond os ydyw hwnnw, yr hwn yn vnic sydd yn anufydd i wîc Eglwys Dduw, (er ei fôd ef yn credu yn llywr, ac yn proffessu yn ddifrifol holl bynciau neu articlau eraill y Crefydd Christianogol, etto o ran eisiau cariad perffaith tuac at Dduw, wrth fôd yn ufydd i'w Eglwys ef) yw gyfrif yn yr vn stad o ddamnedigaeth a'r Jdolwyr, megis y gwelwch Christ ei∣hunan yn dywedyd ymma yn eglur:
descriptionPage 134
pa beth a ddywedwn ni am y nêb, nid yn unic ni synn wrando ar yr Eglwys, gan föd yn ufydd iddi yn ei fuchedd, ond hefyd sy'n byw mewn Secta∣rism neu Heresi, ac yn proffessu hyn∣ny yn gyhoedd yr hwn bechod yw'r gorthrymmaf math o ANFFYDD∣LONRWYDD, yn cynnwys yn∣ddo* 1.1 eihûn gynnifer o bechodau e∣raill tra ffieiddgas megis, Dibris, a Dirmyg am y Sacramentau, Gwatwor a Gwawdio y gwîr Gre∣fydd. Halogi pethau cys∣segredic, Cas a Erlid y wîr Ffydd, Anufydd-dod i'r Eglwys a'i Phreladiaid cyfreithlon, Sacrile∣gau, Balchder, Cyndynrwydd mewn pechod, Rebeliwn yn erbyn pennaf Swyddogion Duw, Gwrthddywe∣dyd y gwirionedd gwybodedic &c. Ni a ddarllennwn yn llawer man o'r Scrythur Lan, mor ddirfawr yr oedd Duw yn digio wrth Blant Israel, am eu bôd hwynt (gan adael a gwrthod y modd yr oedd Duw, a'i was ef
descriptionPage 135
Moses wedi ei appwyntu iddynt hwy o'i wasauaethu ef) yn addoli y gau Dduwiau a'r Idolau. Ac etto nid oedd pechodau hynny yr Judde∣won ond Cynlluniau a gwîr Ffigu∣rau o bechodau y cyfryw Gristiano∣gion, ac wrth adael a gwrth¦od y wîr Ffydd, sy'n credu ac yn proffessu dysceidiaethau ffeilsion: megis yr oedd yr Jdolau a anrhydeddid gan yr Juddewon hynny yn wîr Ffigu∣rau a Rhag-arwyddion o'r amryw Sectau, a'r Schismau, a't Heresiau sydd ynawr ymmysc y Chrigiano∣gion. Meddyliwch chwithau ynoch eich hûn, mor ddirfawr a gorthrwm oedd pechod hwnnw yr Juddewon, y rhai (gan adael gwasanaeth y gwîr Dduw, a'r sacraidd Rithiau, a'r ffyrdd, a'r moddion yr oedd Moses (gan ei gyforwydde gan Dduw) wedi eu happwyntu iddynt hwy yn ei Addoliant ef, trwy gredu a dilyn. Prophwydi ffeilsion) oeddent yn myned i addoli yr Idolau Baal, ac Astaroth, a Belzebwb, a Chamos,
descriptionPage 136
a Dagon a Baalim, a Moloch &c. A byddwch yn llawn siccer, nad pe∣chod llai gorthrwm yw i'r Christia∣nogion, gan adael y wîr Ffydd (yr hon nid yw ond Vn yn vnic) a'r Dysceidiaethau, a'r Sacramentau, a'r Rhithiau, a'r moddion a'r ffy••dd a appwyntwyd iddynt gan Jesu Christ, a chan ei Eglwys ef (yr hon y mae'r Yspryd Glân bôb amser yn ei chyfarwyddo) yn ei wasanaeth ef, wrth gredu a dilyn gau Ddocto∣rion (y rhai a llygredigaerhau cab∣lus, ac a ffeilsion esponiadau o'r Scry∣thur Lân, gan eu cynnal hwynt ag awdurdod ac a nerth poenol a gwaed∣lye Gyfreithiau Tywysogion a Sta∣dau bydol yn seffyll allan, ac yn er∣byn y wir Eglwys oherwydd achosi∣on y cnawd a'r byd, sydd yn en bla∣enu ac yn eu tywyso hwynt,) fôd yn proffessu Arianism, Pelagianism, Calvinism, Jansenism, neu ryw Sect arall, neu'r Heresi pabynnac ym∣myscy Christianogion, megis Sect yr Anabaptistiaid, y Wiclefiaid, y
descriptionPage 137
Quackeriaid, &c. Er bod y Secta∣riaid hyn gyda'i dysceidiaethau ffeis∣sion yn credu llawer byd o'r Ffydd Ghristianogol, megis yr oed yr Juddewon Idolatraidd hynny, yn credu ac yn proffessu lawer o Gy∣fraith Moses, ynghanol en gwaith o addoli y Duwian ffeilsion a'r Ido∣lan hynny. Ac megis yr oedd yn annuywioldeb creulon, ac yn Sce∣lerder ffieiddgas yn yr Juddewon hymy, beri lladd ac aberthu trwy dan, eu plant bychain i'r Idol Me∣loch (3 Reg. 23.10.) yn y dyffryn Ennon, a elwir wrth enw arall Tophet (yr hyn sy'n arwyddoccau Drwmm) oblegid eu bod hwynt yno yn arfer curo tabyrddau, tympanau a drym∣mau, rhag i'r tadau a'r mammau glywed llefain a leisiau galarus eu plant gwirion yn dioddef eu mur∣d••io, ac felly trugarhau arnynt yn meirw yn y Tan: Felly nid gro∣nyn llai na hynny, yw pechod y Christianogion y rhai sy'n peri, neu'n gadael i'w plant, i'w ceraint, i'w
descriptionPage 138
caredigion, i'w gweinidogion neu i rai eraill pa fodd bynnac yn perthyn iddynt hwy (a hwythau yn gallu trwy addysc, trwy gyngor, trwy berswasiwn neu trwy'r moddion eraill pabynnac, eu cadw yn, neu'i tynnu hwynt i'r gwirionedd) fod yn credu, neu'n proffessu rhyw Sect, neu He∣resi pabynnag, gwrthwyneb i'r Vn vnic iawn, a'r wir Ffydd Gristiano∣gol: ië mae pechod hwn y Christi∣anogion Heretic hyn, tuhwnt i bod mesur, yn swy gorthrwn na phechod yr Juddewon Idolatraidd hynny: yn gystal oblegid nad oedd yr Judde∣won hynny, ond yn difeddu eu plant (y rhai oeddent eisoes trwy'r Ceremoniau Mosaic, wedi cael eu harwyddo i dragywyddol Jachawd∣wriaeth) o fywyd amserol a darfo∣dedig yn y byd ymma; lle y mae'r Christianogion hyn yn cydweithio i ddifeddu eu rhai hwynt o'r dedwy∣ddwch ac o'r bywyd a bery byth: ac hefyd oblegid fod y Christiano∣gion hyn wedi cael anfeidrol mwy o
descriptionPage 139
Wybodaeth, a Goleuni, a Ffafor, a Help, a Gras, ac Anrhydedd, a Dai∣oni, a Bendithion eraill gan Dduw, nac oedd yr Juddewon.
D.
Wele, os pechod mor anfeidrol ddirfawr yw Sect arieth, myfi a obei∣thiaf nad wyfi ddim yn Sectarian, ac a berswadiaf fyhun fy mod i o'r wir Ffydd. Oni fydd hynny yn ddigon?
A.
Na fydd: Oblegid ddarfod i Adam hefyd, cyn iddo fwytta'r Afal gwaharddedic, berswadio ei∣hunan (er bod hynny yngwrthwy∣neb i eglur adrodiad Duw) na fyddai fawr niweid, bwytta peth ohono: a' ••heini igyd y rhai sydd ynawr yn ddamnedic ynghanol poenau Vffern, cyn iddynt wnethur y pechodau am y rhai y collwyd hywnt, a berswa∣diasant ehunain yn yr vn modd neu a obeithiasant cael digon o amser i ediferhau amdanynt cyn marw: ond eu Rhyfyg a'i Presumptiwn hwynt ar hynny a'i bwriodd hwynt bendra∣mwngwgl i'r Damnedigaeth tragy∣wyddol. Yn y neges hwn o gredu
descriptionPage 140
yn Nuw, nid digon yw gobethio neu berswadio o ddyn ejnunan, ond mae'n rhaid iddo fod yn llawn siccr a certain ei fod ef o'r wir Ffydd ac yn credu yn iawn, ie cyn siccred ac y mae ef o liwr'r dydd. Canys yn ol Dywediad y Tadau o'r Brif ••g∣lwys. Dubiws in Fide, Infideli pe∣jor est. hynny yw, yr Ammheus yn ei Ffydd, fy waeth na'r Anghre∣dadyn. Ac amdanoch chwi, mae'¦ch Cydwybod eichun yn dywedydi chwi, uwy'r hyn o glywsoch chwi am y gwir Grefydd Christianogol, trwy'r ymgyffroadau oddimewn i chwi wrth gydymarwedd a'r sawl sy'n proffessu y Crefydd hwnw; trwy'r hyn a ddywedodd ac a ddi∣oddefodd aneirif o honynt hwy o herwydd eu Cydwybod: trwy O∣goniant disglair rhyfeddol yr vn∣rhyw Grefydd wedi ei danu ar led tros bod Natiwn ar wyneb yr holl Ddaear, megis Dinas wedi ei gosod ar ben mynydd, neu megis Canwyll nid wedi ei dodi tan lestr, ond mewn
descriptionPage 141
man amlwg, lle y gallo pob vn (yr hwn ni chauo eu lygaid o waith goddan neu o wir bwrpas) ei gwe∣led hi: trwy Sancteiddrwydd ei Athrawiaeth, os edrychir arno a glowg ammhleidiol: trwy y modd godidog o fuchedd Sancteiddlawn amryw o-Broffessoriaid yr vn Cre∣fydd, ymmhob Oes er y dechreuad, ac yn hon hefyd ymmhob cornel o'r Byd: tiwy▪ Vndeb rhyfeddol Trefn llywodraethus a Dysceidiaeth yr vnrhyw Grefydd, ymmysc cyn∣nifer o Natiwnau o duedd a dispo∣sitiwn llwyr gwrthwynebol i'w gi∣lydd: trwy ffalsedd y Celwydau a'r Calumniac a fwriasant yn ddi∣gywilydd y gwyr o'ch Sectiau Newydd chwi ar y Crefydd hwnnw a'i broffessoriad (rhan o'rhai a dar∣fu i chwi eichun eu cael yn llwyr anwir, a hawdd y fyddai i chwi wybod malais a slander y llaill, pe bai perthynasau bydol, a chyndyn∣rwydd ewyllys yn gadel i chwi, wrth ymddiddan a rhyw ddyn gwy∣bodus
descriptionPage 142
o'r Crefydd hwnnw, eu holi hwynt a meddwl difrifol o wasanae∣thu Duw yn iawn ac felly bod yn gadwedic:) trwy y modd y de∣chreuasent eich Sectiau Newydd chwi: twy'r Motifau a wnaeth i'r Carn-Sectariaid ar y cyntaf neill∣tuo euhunain oddiwrth y wir Eg∣lwys: trwy y rhain, a thrwy a∣neirif mwy o Resymmau, Goleua∣dau ac Argumentau eraill, y rhai y mae Yspryd Duw o amser i am∣ser yn eu coffa a'i dangos i chwi, (er bod pethau bydol yn peri i chwi wrthsefyll y cyfryw Ymy∣sprydoliaethau) mae eich Cydwy∣bod chwi eichûn (meddat) yn dywedyd i chwi, fod digon o achos gennych i Ammeu Gwirionedd eich Sect: ac yn ganlynol yr ydych chwi yn rhwymedic tan Boen Dam∣nedigaeth Dragywyddol i geisio gwy∣bod y Gwirionedd; heb fod byth yn foddlon na gorphwys, nes cael gwybod yn siccr ac yn lwyr çertain heb dim suglo na boncian meddwl,
descriptionPage 143
eich bod chwi yn y wir Ffydd a'r fford i Gadwedigaeth.
D.
Paham y mae'n rhaid i mi gymmeryd arnaf gymmaint trwbl a hynny? neu geisio bod yn gallach na'm Tad, a'r llaill oll o'm Cre∣fydd.
A.
Oblegid ••od eich Damnedi∣gaeth neu'ch Cadwediaeth chwi, yn deiryd yn fwy i chwi nac i neb arall: a bod y matter o bwys a maint anfeidrol ac anniben. Pa les a wna i ddyn ynnill yr holl fyd a cholli ei enaid eihun? Medd ein Ja∣chawdwr bendigedic. Math. 16.26. Mae'r byd hwn yn myned heibio megys cysgod. Nid yw ynawr yr vgain neu'r deigain mlynedd a ddar∣fu i chwi eisoes, ond megis y breu∣ddwyd y fu neithiwyr, a'r hyn oll sy etto i ddyfod a ymddengys i chwi yn yr vn modd, pan ddolo awr angeu, yr hon sydd yn nes i chwi, nac yr ydych chwi yn meddwl. Ple mae yrwon y rheini oll, y rhai oeddent yn byw ers
descriptionPage 144
deucant neu drichant o flynyddoedd, le yr ydych chwi ynawr? Nid oes neb ysgatfydd a wyr eu henwau hwynt yrwon: etto yr oeddent hwy y pryd hynny yn enwog ac yn heinif, yn lan ac yn weddaidd, yn gyfoethog ac yn synhwy••ol, yn llawn o lawenydd a difyrrwch, ac yn meistroli yn eu Plwy: ac ynawr nid oes neb ar y ddaear yn meddwl amdanynt hwy: ond eu heneidiau truain hwy (oddieithr iddynt gymmeryd peth gofal am wasanaethu Duw yn jawn) yn oll eu gweithredoedd, ydynt yngha∣nol poenau dibaid y Tan Vffernol. Pettwn i yn dywedyd i chwi, fod rhyw ffordd siccr a certain trwy'r hon y gallech chwi ddyfod i gael deng mil o bunnau bob blwyddyn, a Modd çertain trwy'r hwn y gallech c••wi eu meddiannu hwynt tros gant o flynyddoedd a mwy, heb ddim ofn angen, na dim perygl o glefyd, na dim gofyd arall daearol, onifyddech chvvi fodlon i gymme∣ryd
descriptionPage 145
peth poen i ddyscu a gvvybod y Ffordd nen'r Modd hvvnnvv?
D.
Byddwn yn siccr: pam na fy∣ddwn i yn fodlon i fyned cyn belled a Llundain Paris, neu Rufain eihunan, ie yn droednoeth hefyd, er mwyn cael cymmaint dedwyddwch?
A.
Ac er gwybod siccreiddrwydd y ffordd i'r Gwynfyd tragywyddol, ni fynnwch chwi fyned ychydic o ffordd, i ymgynghori a gwir Gristi∣on a allai eich cyfarwyddo chwi: nac yn eich ystafell darllain ynddy∣fal vn llyfran, a ddichon hyfforddi eich Cydwybod ammheus, o'r Gwi∣rionedd; na gweddio chwaith yn daer ar Dduw eich goleuo chwi &c. Ond arwydd eglur yw hyn, eich bôd chwi yn caru'r Byd hwn yn fwy na Dduw. Gan na fynnwch chwi gymmeryd tippyn o boen i wybod yr vnic wir ffordd o fodloni a gwasa∣naethu Duw yn iawn?
D.
Pa fodd y gallwn i▪ yr hwn wyf yn annyscedic ac yn anlythyrennoc, chwilio a holi y Controversiau a'r Ym∣rafaelion
descriptionPage 146
oll ynghylch Ffydd, i gael gwybod y Gwirionedd?
A.
Nid ydys vn mynny dim o'r tasg hwnnw ar eich dwylo chwi. Mae'r ffordd sydd i chwi i'w chei∣sio yn rhwydd ac yn amlwg. Ni chyfeiliornant y rhai ffol ar hyd-ddi, Isai. 35.8. Hynny yw, y rhai sym∣laf a lleiaf eu dysc, os byddant yn ostyngedic gan geisio Duw o ddifrif, a allant yn hawdd ei gweled hi a'i gwybod.
D.
Pa gyngor neu gyfarwyddiad a roddwch chwi i mi, oherwydd fy mod i o ddifrif, yn ewyllysio gwybod y wir Ffordd i iachawdwriaeth?
A.
Yn gyntaf, mae'n rhaid i chwi gymmeryd ymbell awr oddiwrth eich difyr chwareuon a'ch traffer-thau bydol eraill, i feddwl am y Neges er mwyn yr hwn y creodd Duw chwi, hynny yw, am ei wasa∣naethu ef, a thrwy hynny bod yn gadwedic yn dragywyddol. Yn ail, gan neilltuo eichunan oddiwrth bawb eraill a bod wrthoch eichun
descriptionPage 147
yn vnic tros hynny o amser, gwe∣ddiwch ar Dduw a gostyngeiddrydd holl••wl calon ac enaid, gan ddymu∣no arno roddi Grâs a Goleuni i chwi i weled y wir Ffo••dd. Gwnewch hyn o ddifrif, ran ollwng dagrau hefyd os bydd possibl; ac er gwnen∣thur hyn yn well, ni fydd anfuddi∣ol ympryddio diwrnod neu ddau, ie ar fara a dwfr yn unic, (o her∣wydd fod Teyrnas y Nêf yn haeddu mwy na hynny) a thros ymbell o∣riau beunydd gwisgo crys neu wre∣gys llydan o rawn yn nessaf at eich corph: oherwydd ddarfod i'r Pro∣phwyd Daniel, ac i laweroedd e∣raill o weision Duw, er cael gwy∣bod ei ewyllys nefawl ef, farwolae∣thu a gofidio eu cyrph yn fwy na hynny, Dan. 9.3. Psalm. 34.13. & Psalm. 68.12. Paral. 21.16. Gen. 37.34. &c. Ac mae miloedd o wir bobl Dduw ymmhob cornel o'r byd, oherwydd hyn a'r cyfryw achosion, ar y dythwn heddyw, yn arfer mwy sarrugrwydd a gerwinder
descriptionPage 148
corpho••o••, mewn dillad, lluniaeth, a gorphwys nac yw hyn igyd: er darfod eu maethu a'i magu hwynt yn eu hieuengdid ynghanol pob mwythau, ac esmwythdra sidanol, gan en geni hwynt yn blant i Ar∣glwyddi ardderchoccaf, Ierill, Twy∣sogion a Monarchiaid Cred. difyr∣rwch a gogoniant yr hyn stadau, wedi eu goreuro ag Addurnadau tra rhagorol perffeithlawn o synwyr, dysceidiaeth, pryd a gwedd &c. a wrthodasant hwy yn hollawl o'i gwir fodd er cariâd ar Dduw, ac er mwyn dilyn yn hynny a dynwared ein Jachawdwr bendigedic, yr hwn pan oedd yn fform a gwedd Duw, yn Gydradd a'i Dad Tragywyddol, a gymmerodd arno fform neu dull gwas, Phil. 2.7. i roi esamplau i ni o O∣styngeiddrwydd, o Llaryeidd-dra, o Dlodi ewyllysgar, Ddioddef cam a dirmyg, o Sarrugrwydd corphorol, &c. fel y gwnelem ninnuu megis y gwnaeth yntau i ni, Jo. 13.15.
A thoi peth elusen er mwyn Duw,
descriptionPage 149
(oherwydd trwy elusen y glanheir y cwbl, ac y ceir maddeuant am becho∣dau, Luc. 11.41. Eccles. 3.33.) ond hyn oll a ddylid ei wneuthur yn y modd ac na bo neb yn gwybod, ond Duw a'ch Cydwybod eichun, rhag ofn balchder ysprydol, yr hwn sy waeth na dim. Yn drydydd, gwnewch Resolutiwn a bryd cadarn a diogel, na chaffo dim perthynas bydol o gyfoeth, o anrhydedd, o ddifyrrwch, o serch tuag at wraig neu wr, tuag blant neu rieni, o gari∣ad tuag at gyfaill neu o gas i elyn, o rydd¦ddid neu gaethiwed, o ie∣chyd neu glefyd, o fyw neu farw, na dim achos arall daearol eich rhwy∣stro chwi i amgofleidio y wir Ffordd o wasanathu Duw wedi cael ohonoch unwaith ei gwybod hi. Yn bed∣werydd, gan gofio fod terfyn eich bywyd, ac awr eich angan yn an∣certain iawn o ran yr amser, y man a'r modd ohono ac y geill hynny happio i chwi yn gynt o lawr nac yr ydych chwi yn meddwl, ysty∣riwch
descriptionPage 150
wrthoch eichun yr amryw Resymmau, y Golenadau, a'r Mo∣tivau, y rhai trwy'r moddion a grybwyllwyd vchod, a ddarfu i Dduw eu coffa a'i dangos i chwi o amgofleidio y gwir Grefydd Christi∣anogol, ac o ymwrthod a'ch Sect Newydd eichun. Yn bummed, gan feddwl megis pe bai eich enaid ynawr hyn wedi ei diosg o'r corph a'i dippio i fynn, a'i osod o flaen Tribunal Duw i dderbyn barnedi∣gaeth ynol eich gweithtedoedd yn ei wasanaethu ac yn ufuddhau iddo ef ymma ar y ddaear; ystyriwch ei∣chun, pa Ffordd neu Grefydd yn ei wasanaethu ef, a ddymunech chwi y pryd hynny, gymmeryd ohonoch yrwôn: A dibennwch yn llawn siccr, mai honno yw'r vnic wir ffordd i Jachawdwriarh ac i'r Gwynfyd tra∣gywyddol.
D.
Pa beth! ai ni ddywedwck chwi i mi yn fwy neilltuol y Ffordd honno a'r Ffydd, yn yr hon yn unic y gellir cael Iachawdwriaeth?
descriptionPage 151
A.
Na wna: oherwydd fy mod yn meddwl, y bydd mwy buddiol i chwi, wrando ar leferydd Duw eihunan oddimewn i chwi, a bod yn ufydd iddo ef yn dangos i chwi yn llwyr eglur y Gwirionedd hwn. Ond os mynnwch chwi hefyd gly∣wed dyn a ysprydoliaethwyd gan Dduw, megis gwr yn byw yn y Prif amseroedd yn y mann arol yr A∣postolion, Gwrandewch yr hyn a ddywedodd yr Hen a'r Hynod Vin∣centius Lirinensis yn y Traethawd Eu∣raid a scrifennodd ef yn erbyn Newyddiadau mewn Ffydd ac yn erbyn Sectariaid, (yr hwn lyfr a brisiwyd ac a anrhydeddwyd yn fawr iawn gan yr holl wir Gristianogion ers blwyddyn ein Harglwydd 440. yn yr hon yr oedd ef yn byw) lle y mae ef wrth ddatcan y dyn gwir Gatholic, (yr hwn sy'n cadw ei∣hunan oddifewn ufydd-dod yr Eg∣lwys Gyffredionol, yr hon a ddi∣scynnodd trwy Sucçessiwn Escobi∣on yn olynol oddiwrth Christ a'i
descriptionPage 152
Apostolion) yn dywedyd, mai hwn∣nw yw ef;
Yr hwn sy'n caru yr Eglwys sef Corph dirgeleddus Iesu Christ yn gymmaint, ac nad yw ef yn gosod dim o flaen ei ha∣thrawiaeth Catholic Cyffredinol hi: yr hwn nid yw yn prisio nac awdurdod, na chariad, na synwyr, na chymmendod, na gweniaith vn dyn neilltnol yn fwy, nac yn dal wrth ddim rhesymmau naturiol, nac unrhyw o ragtith Scrythurau yu erbyn yr hyn yr oedd pob dyn yn ei gredu o'r blaen: yr hwn sy'n dilyn Cyffredinoldeb, Heneiddr∣wydd, a Chyssondeb yn ei gre∣duniaeth: ac yn sefyll yn ddiogel ddiysgog ar y Ffydd honno, yr hon a ddaliwyd o amser i amser, ymmhob mann, ymmhob tym∣mer, gan bawb neu gan y rhan fwyaf o Escobion, o Offeiriaid, ac o Ddiaconiaid Christianoldeb.
Vi∣cent. Lirin. Lib. centra Haeres. c. 3. Neu chwi ellwch wrando ar y Do∣ctor Mawr S. Augustin (yr hwn oedd
descriptionPage 153
yn byw yn y flwyddyn 420. arol geni Christ) yn dywedyd, mai efe fydd yn yr Vnion a'r Vnic wir Ffydd a'r Ffordd i Jachawdriaeth:
Yr hwn sydd oddifrif yn dilyn yr Eglwys Gyffredinol, yr hon a ga∣fodd ei dechrenad trwy ddyfod y Cenhedloedd iddi, a gafodd aw∣durdod trwy Ryfeddodau a Gwyr∣thiau, a chwanegwyd twy gariad perffaith, a gadarnhawyd trwy hirbarhau; yr hon sy ganthi Suc∣çessiwn o Escobion yn olynol o∣ddiw th Gadair Petr hyd ein ham∣ser ni: yr hon y adweinir yn y Byd wrth yr enw CATHOLIC, nid yn unic gan ei chyfeillion ei∣hun, ond hefyd gan ei gelynion: oblegid fod yr Hereticiaid euhu∣nain yn en hadrodd cyffredin, yn ei galw hi felly, gan nad oes gan∣thynt hwy ddim enwau eraill i wahanu euhunain a'i Canlyniaid oddiwrthi hi, ond trwy alw euhu∣nain yn Refformwyr, Llewyrchion, Brodyr-pur, a'r cyfryw enwau eraill
descriptionPage 154
sy wahanol oddiwrth y Catholi∣gion.
August. Epist, contr. Man∣ach. c. 4. & lib. de vera Relig. c. 7.
D.
Wrth ba arwydd y cafi wybod, ddarfod i mi wneuthur dewis iawn a gwir?
A.
Os ar ol hynny, y digwydd i chwi etto fod yn ançertain, yn ammheus, ac mewn cyfyngder blin a dyrysni meddwl (oddieithr i hynny fod trwy gymmell y Cy∣thraul, o'r hyn beth y mae'n rhaid i chwi gymmeryd cyngor gan ryw ddyn gwir Catholic a dyscedic) mae hynny yn arwydd, na ddarfu i chwi ddilyn y Cynghorion ymma, ond bod perthynasau bydol o darfodedic wedi eich gogwyddo chwi, yn tre∣chu ac yn meistroli arnoch, ac felly eich bod chwi fyth yn perhau yn eich cyfeiliorn.
D.
Beth os cymmeraf y cyngor hwn, gan ddewis a ddilyn y wir Ffordd?
A.
Os gwnewch-i hynny, trwy gadw hefydd y Gorchymmynion e∣raill
descriptionPage 155
(oblegid nad yw Creduniaeth ond peth gwag ac ofer heb Gariad∣perffaith, 1 Cor. 13.2.) chwi a gewch gyssur a diddanwch mawr yn y bywyd hwn (nid wyf yn dywe∣dyd y bydd i chwi lwyddiant bydol bob amser, o ran na bu hynny, i'r Apostolion enhunain, nac i anwyli∣on pennaf Duw) ac wedi hynny, chwi a gewch Ddedwyddwch dider∣fyn yn y Paradwys Nefawl.
D.
Beth os myfi ni ddilynaf y cyn∣gor hwn?
A.
Os chwychwi ni fynnwch gym∣meryd poen cyn leied oblegid Ne∣ges o gyfryw pwys a maint, ac yw TRAGWYDDOLDEB: Ond we∣di darllain yr Ymadrodd hwn ei da∣flu ef ymmaith, gan lunio i chwi eichun Gydwybod ysgafala, difraw a dibryder, a dywedyd: Mae'r cwbl yn dda, mae'r cwbl yn digon da. Ac felly perhau yn orphennol yn anedifeiriol yn eich Sectariaeth a'ch Rhebeliwn damnedic yn erbyn Duw, heb nac ofn na dychryn, gan
descriptionPage 156
wag ryfygu yn nhrugareddau a daioni Daw, megis y mae'r Sectariaid a'r Anffyddloniaid eraill: Yna Duw tra barhao eich pererindod traffer∣thus yn y dyffryn hwn o ddagrau, a galeda eich calon chwi, megis y ca∣ledodd ef galon Pharao, fel na byddo gennych ddim cnofa cydwy∣bod am eich drwg fuchedd, nac yn iach nac-yn glaf, nac hefyd chwaith pan fo'r Meddygon wedi colli en gobaith oll o'ch hoedl chwi; (oddi∣ethr i Gyfiawnder Duw eich cippio chwi yn ddisy mmwth, trwy farwo∣laeth mwy amharod) chwychwi, yr hwn oeddech bob amser yn parhau yn Rebel yn erbyn Nef a Duw eu∣hunain, gan ddisemblu'r gwaith a chwarae'r Hypocrit ffuantus yngwydd y Byd, a barhewch fyth yn eich rh••grith Hypocritic, gan ymddangos eichun yn sanctaidd-fodlod ac yn ewyllysgar i ymadael a'r byd hwn, a gwneuthur eich Llythyr-Cymmyn, a chanu Ffarwel i'ch Cyfeillion, &c. etto er hynny igyd, er hen Sarph
descriptionPage 157
(i sugiestiwnau yr hon yr oeddech yn wastad mor ufudd;) a'ch per∣swadia chwi yn gyfrwys y gellwch chwi etto wellhau, mynd yn iach, a byw yn hir; hyd o'r diwedd, wedi colli ohonoch eich parabl a phob modd arall o adroddiad, y disgynna megis ffrwd gynddei••iog, neu megis corwynt tymmhes••log ac y rhuthra llaw drom Digofaint D••w ar eich traws chwi, ac a'ch bwria chwi i lawr i wag a diles ymgnofa cydwy∣bod, i anobaith gorphennol, ac i gas dirfawr parhaus o ddaioni Duw: ac felly y cippir eich enaid anned∣wydd allan o'i dy clai, ac y gosodir ef gerbron Tribunal Cyfiawnder y Goruchaf; lle yn gystal ar awr eich angau, ac yn nydd y Farn Gyffredin, y dengys ac yr eglura Christ ein Cei∣dwad i'r holl Ysprydion Bendigedic a Damnedic, y Trugareddau mow∣rion oll a wnaeth ef i chwi, trwy amryw ymysprydoliaethau o ddydd i ddydd, o fis i fis, o flwyddyn i flwddyn yn eich disgwyl, yn galw
descriptionPage 158
arnoch, ac yn eich annog i ddyfod i mewn i wir Ffordd Jachawdwria∣eth, ac yn enwedic trwy'r Ymadrodd hwn: a'r modd y darfu i chwi fyth yn gyndyn ddirmygu a gwrthod u∣fuddhau iddo, a diystyru ei sugiesti∣wna•• ef, a phathau byth yn wrthny∣sic yn eich Sectatiaeth, hynny yw, mewn Rebeliwn yn ei erbyn ef, gan sathru Gwaed y Testam¦ent Newydd tan eich traed, a chroes∣hoelio Mab Duw drachefn. Ar yr hyn y rhoddant yr holl Seinctiau a'r Angelion Ddiolch anfeidrol, a Go∣goniant, a Bendithion i Dduw am y Trugareddau mowrion annrhaetha∣dwy a ddarfu iddo eu cynnyg cyn fynyched i chwi: Ac a'ch difer∣nant chwi yn euog o'r Digofaint ei∣thaf, ac o'r Poenan tragywyddol; ie a'r Ysprydion Repryfedic a gan∣molant y Farn, gan eich dannod chwi yn fwy na neb. Ac wedi hynny y cewch-i glywed yr Oen Digllon yn llafaru y Farnedigaeth honno ddy∣chrynnedic. Discedite a me ma∣ledicti
descriptionPage 159
in ignem aeternum. Ewch oddiwrthyf chwychwi y rhai mell∣tigedic i'r Tan Tragywyddol, &c.
Notes
* 1.1
Vid chari∣ty mistaken, pag. 107. ex Lessio de Ca∣pesc. Relig.