Y rhybuddiwr Christnogawl yn cynnwys annogaeth ddifrifol i fuchedd sanctaidd. : Gyda rhai hyfforddiadau tuag-at yr unrhyw. : Wedi el sgrifennu mewn ffordd eglur ahawdd, i bôb mâth ar bobl. : A'i gyfieithu allan o'r ddeuddegfed At-graphiad yn y Saisonaeg.

About this Item

Title
Y rhybuddiwr Christnogawl yn cynnwys annogaeth ddifrifol i fuchedd sanctaidd. : Gyda rhai hyfforddiadau tuag-at yr unrhyw. : Wedi el sgrifennu mewn ffordd eglur ahawdd, i bôb mâth ar bobl. : A'i gyfieithu allan o'r ddeuddegfed At-graphiad yn y Saisonaeg.
Author
Rawlet, John, 1642-1686.
Publication
Argraphedig yn Llundain, :: gan J.R. i S. Manship ...,
1699.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Christian life.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/B05093.0001.001
Cite this Item
"Y rhybuddiwr Christnogawl yn cynnwys annogaeth ddifrifol i fuchedd sanctaidd. : Gyda rhai hyfforddiadau tuag-at yr unrhyw. : Wedi el sgrifennu mewn ffordd eglur ahawdd, i bôb mâth ar bobl. : A'i gyfieithu allan o'r ddeuddegfed At-graphiad yn y Saisonaeg." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/B05093.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 13, 2024.

Pages

Page [unnumbered]

Page [unnumbered]

Y Rhybuddiwr Christnogawl, &c.

PEN. I. Annogaeth i Fuchedd Dduwiol, gyd â Chynnhyrfiadau at yr unrhyw.

MAe'n resynol iawn ystyried, nid yn un∣ig leied o genedlaethau sydd yn y byd yn proffessu Christnogeiddrwydd, ond hefyd o'r rhai a'i proffessant, anamled yw 'r rhai sydd yn cyffelybol-fucheddu yn ôl eu proffess. Gan hynny fe weddai yn dda i ffyddlon wasanaethwyr Christ, yn enwedig i Weinidogion ei Efengyl ef, arferu eithaf eu gallu, drwy fuchedd ac A∣thrawiaeth, drwy gyhoedd a dirgel annogaethau, drwy bregethu a sgrifennu, a thrwy bob ffordd ag y medrant, ddyrchafu gwîr Dduwioldeb a Sancteiddrwydd ym mysg pôb mâth a'r ddynion, pa un bynnag ai uchel ai isel, cyfoethogion ai tlodion, heb pa un ni ddichon neb fôd yn ddedwŷdd, naill ai'n y bŷd hwn, ai'n 'r hwn sy 'i ddyfod. Ac er y gwn i'n dda, i Dduw y b'o'r dlolch, fôd gennym amlder o lyfrau rhagorol a sgrifennwyd i'r diben hwd; etto nid yw'r cyfryw hyfforddiadau byrrion a'r rhai'n sy'n canlyn i'w heuog farnu megis yn ddiddef∣nydd, oblegid, mae'n debygol, y tenir hwynt yn fŵy cyffredinol, a hynny ym mhlith y rhai gwaelaf o'r bobl, ac y gellir yn haws eu darllain a'u cofio gan y rhai nid oes ganddynt nag amser i ddarllain llyfrau mawrion, nag arian i'w prynnui. A'r cyfryw rai y mae i mi achos yn fynych i gyfarfod, ac er eu mŵyn hwynt yn bennaf yr ŵyl yn cyhoeddi y Pappur bychan hwn, wedi cael fy nghefnogi i wneuthur felly gan rai gwŷt Duwiol, Dinasaidd

Page 4

a Gwladaidd, y rhai sy'n bwriadu rhoi rhai o honynt i Dlodion o'u hamgylch, ac a feddyliasont y gallai erall wneuthur y cyffelyb. A rhynged bodd i Dduw roddi ben∣dith i'r cyfryw anturiaeth wael a hon, a'i llwyddo er daio∣ni Eneidiau; Ni wnaf i fawr-gyfrif o farn y Rhodresgar, gan goho dywediad o'r eiddo Sgrifennydd duwiol y cy∣farfûm i yn rhyw fan ag e', yn tueddu at y perwyl hwn; sef, y chwennychai fôd ei Lyfrau wedi eu tanu ar lêd ym marchnadfa Pedleriaid, ac odd i yno eu dyfod i ddwylo y bobl gyffredin er chwanegu gwybodaeth a duwioldeb, 〈◊〉〈◊〉 yttrach na'u cynnefinol roi i fynu a'u cuddio yn Llyfr∣ai y rhai dysgedig.

Gan hynny heb ddim y chwaneg o Ragymadrodd, mi m cyfeiriaf fy hunan attoch chwl y rhai yr ŵyf yn sgri∣fennu y liniau hŷn er eich mŵyn, megis annogaeth i sanctaidd a crefyddol fywyd. Yn awr, yn gyfattebol at hynny, gadewch i mi erfyn arnoch edrych yn ôl ar eich uchedd a aeth heibio, a'ch galw eich hunain i gyfrif, A fu eich gofal a'ch astudrwydd chwi ar fyw yn y cy∣fryw fodd Duwiol ag y gweddai i rai a fedoddiwyd i Enw Christ, ac yn ei ôl ef a elwir yn Gristnogion. A ddarfu i chwi ystyried yn dda beth yw synnied yr Enw hwn, a pha rwymedigaeth i fuchedd sanctaidd yr ydych chwi'n gorwedd dani wrth ei gymmeryd arnoch yn eich Bedydd? Ac ydych chwi'n cofio 'n dda eich Adduned yn eich bedydd, ym mha un yr ymwrthodasoch a Diafol, y Bŷd a'r Cnawd, ac yr addawsoch fôd yn filwŷr ffydd∣lon ac yn wasnaethwŷr i Grist, a pharhâu felly holl ddyddiau eich bywyd? A ddarfu i chwi ddeall ac ystyr y pethau hyn cyn belled, a gwneuthur o honoch yn or∣chwyl pennaf i chwi rodio yn ôl yr unrhyw? a ydych chwi 'n gwilied yn ofalus ac yn ymladd yn wrol yn erbyn eich gelynion ysprydol? a ydych chwi'n byw megis rhai yn credu'r. Efengyl, gan wneuther eich gorau yn ddiragrith ym mhôb dim i wybod ewyllys Daw â'i wneuthur? Gan eich bôd chwl'n henwi enw Christ, a ydych chwi'n ofalus ar ymadel a phôb anghyfiawnder? Mewn gair, ai eich astudrwydd a'ch arfaeth fwyaf chwi yw bodloni a gogoneddu Duw, a gweithio allan eich iechydwriaeth' eich hunain? Os gall eich Cydwybod dysolaethu gyd â chwi mewn gwirionedd fôd y peth yn

Page [unnumbered]

ddiai felly, ac yn yr hyn yr ydych un amser yn fyrr neu 'n gwneuthur ar fai, fôd yn ddrwg gan eich calonnau, a'ch bôd beunydd yn ymegnïo i wellhau: Os fel hyn y mae gyda chwi, meddaf, yna bendithiwch Duw am ei râs a'i drugaredd, ewch rhagoch a llwyddwch, ac nac ofnwch na bŷdd Duw gyda chwi, efe a'ch cymmer chwi megis ei blant, ac er mŵyn ei fab Iesu, efe a faddeua eich pechodau ac a'ch cynnorthwya chwi a'i ras; fe a'ch cyfarwydda chwi a'i gyngor, ac yn y diwedd a'ch derbyn i'w ogoniant.

Ond attolwg gwnewch ffyddlondeb a'ch Eneidiau eich hunain a mynegwch i mi, Ond ffordd arall yn hollawl y bu gyda chwy-chwi? Oni fodlonasoch chwi eich hu∣nain a'r enw a phroffes noeth o Gristnogaeth, ac yn y cyfamser arwainasoch helynt buchedd ddrygionus, yn union yngwrthwynb i'ch proffes? Oni ddarfu I chwi fŷw mewn anwybodaeth gwirfodd o'ch dyledswydd, neu mewn pechodau tramawr yn erbyn eich gwybodaeth? Onid ydyw profedigaethau Diafol, hudoliaethau y Bŷd a'r Cnawd lawer o amserau yn eich gorfod yn hyttrach na gorchymmynion yr holl alluog Dduw a llais eich Cyd∣wybod eich hunain? Ond ydych chwi'n gynnefin o esceu∣luso addoliad a gwasanaeth Duw, yn yr Eglwys a char∣tref? ïe, onid ydych chwi yn halogi ei Enw sanctaidd ef drwy dyngu a rhegu? Onid ydych chwi'n fynych yn eu∣og o gelwydd ac enllib, o dŵyll a sommedigaeth, ac fe allai o ledrad uniawngyrch? Onid iaith arferedig i chwi yn eich digter yw cablu a difenwi? neu onid ydych chwi'n bŷw mewn cenfigen a bwriad drwg gan geisio dial ar y rhai a wnaethant ddim cam a chwy-chwi? Onid ydych chwi yn eich cynwys eich hunain mewn meddwdod a phutteindra, neu mewn rhŷw bechod gwybyddus a gwir∣fodd arall? I fôd yn fyr, onid oes rhyw beth neu eî gilydd yn y bŷd yr ydych chwi'n ei garu yn fŵy na Duw ei hûn a'i fab Iesu? Onid ydych chwi yn darbod droes eich Cyrph yn fŵy o lawer na thros eich Eneidiau gwerthfawr? Ac onid ydych chwi yn ymais yn ddifrach am ym∣borth a dillad, a phethau da y bywyd hwn, nag am y dragwyddol deyrnas o ogoniant a addawodd Duw i'w wasanaeth-ddynion ffyddlon yn y bŷd a ddaw?

Os fel hyn yn ddïai y mae eich cyflwr, sefwch attolwg, ac ystyriwch yn dda beth y buoch yn ei wneuthur; pa gy∣flwr

Page 6

gressynol a pheryglus y dygasoch chwi eich hunain iddo, a pha beth a fydd ei ddiwedd os deliwch chwi rha∣goch yn y cyfryw helyntiau drygionus. Ufudd-ymbili∣wch a Duw ar iddo eich gwneuthur chwi beunydd yn deimladwy o'ch pechod a'ch perygl, a chadw o honaw ef y deimledigaeth honno mor dynn at eich meddyliau, fel y dyccer chwi nid yn unig i alaru am eich pechodau, ond i'w cashâu a'u ffieiddio, ac yn hollawl i ymwrthod a'r un∣rhyw, gan ymrol o hyn allan drwy ras Duw í'ch rhoddi eich hunain yn gwbl i'w wasanaeth ef, ac i rodio yn ddïys∣gog yn y sanctaidd a'r daionus lwybrau a ossododd efe i chwi. I hyn yr ydwyf yn dradifrifol yn chwennych eich ymannog chwi. Ac fel y gwnelwyf fy eithaf ar dyccio, mi a ossodaf o'ch blaen chwi rai Rhesymmau pwysfawr, y rhai yr ŵyf yn erfyn arnoch eu difrifol ystyried yn eich calonnau wrth eu darllain, a Duw a ganniatta o iddŷnt gael gwir-waith ar galon pob darllennydd. Amen.

(1.) Fel y ffynno eich ennill chwi, i fôd yn wasanaeth∣ddynion ffyddlon i Dduw, ystyriwch, yn gyntaf, Mai hwn oedd y diben mawr er mwyn pa un y gwnaeth Duw chwi, ac y mae efe yn eich cadw chwi yn fyw, ac yn rhoddi i chwi gynni∣fer c bôb mâth ar fendithion. Chwi a fedrwch ddywedyd, 'r wyf yn gobeithio. Mai Duw a'ch gwnaeth chwi, ac iddo, eich gwneuthur i'w wasanaethu ef, gan syw yn ôl ei orchymmynion. Hyn yw un o'r pethau cyntaf y mae plant yn ei ddysgu, a da fyddai pan gynnyddont i fôd yn wŷr ac yn wragedd, pe ymarferent yn ddifrifol o'i gofio, ac o wneuthur ar ei ôll, Y Duw doeth a wnaeth bôb crea∣dur i ryw ddiben da neu ei gilydd, ac a'n cymhwysodd hwynt ôll i'r dibenion a'r amcanion hynny er mwyn pa rai y gwnaeth efe hwynt. I ddŷn gan hynny y rhoddes efe Reswm, yn bennaf i'w gymhwyso ef at grefydd, ac i'w gyfaddasu ef i adnabod, i garu ac i wasanaethu ei Greawdr mawr a'i Nodded: A Chrefydd yw'r peth sydd yn gwneuthur y rhagor mawr rhwng Dŷn ac Anifail, o blegid nid oes gan Greaduriaid direswm wybodaeth o Dduw, na pharch iddo, ond hwy a arweinir yn hollawl gan eu hannian; ac ni feddyliant am ddim arall ond y peth sŷdd o'n blaen yn y bŷd hwn. Ond y dŷn tlottaf ar y ddaiar yr hwn y mae rheswm ganddo, sydd a charennydd agos rhyngtho a'r ngylion eu hunain; ei nattur fydd geffelyb r eiddynt hwy▪ 〈◊〉〈◊〉 nid yw ond ychydig i na hwynt, fel

Page 7

yn galler mawr-dderchafel ei feddwl ef yn yr ûn gorchwy∣lion sanctaidd ag y maenthwythau yn gweini ynddynt, sef yn caru ac yn moli, ac yn addoli y Duw mawr daionus. I'r diben ymma ef a ddichon studio gweithredoedd Duw a'i air, y rhai a'i datcuddia ef i ni, ac a ddylo' 'n oestadol ein costhâu ni am dano. A'r holl bethau da yr ydym ni yn eu mwynhâu a ddylent yn oestad beri i ni synnied daioni Duw oddïwrth ba ûn y maent yn deilliaw: a llenwi ein calonnau ni o gariad a diolchgarwch, a'n genenau a ben∣dith a mawl. Dymma'r defnydd mwya cyfyddas o'n rhe∣swm ni, a hyn y mae Duw yn gyfiawnaf yn ei ddisgwil oddïwrthym ni greaduriaid rhesymmol; a hyn a ddichon y tlawd ei draddodi heb ddim rhwystr i'w lafur beunyddi∣ol; ac a all gadw y cyfryw synniad arswyddus o Dduw ar ei feddwl ef ag a ddichon ei attal ef oddïwrth bechod gwirfodd, a'i wneuthur ef yn oestad yn ofalus i fodloni ei Wneuthurwr. Ac felly ein rheswm a roddwyd i ni i ffrwyno ac i lywodraethu ein chwantau, ein hysfa a'n Gwyniau; fel na'n harweinier ymaith i lothineb a medd∣dod, i anlladrwydd ac aflendid, nac i ffromder a Ilid∣iogrwydd, megis Anifeiliaid ysgrublaidd y rhai sydd heb ddeall ganthynt: ond bôd i ni fyw 'n sobr ac yn ddi∣wair, yn dangnheddyfus ac yn heddychol a phob dŷn; gan wneuthur iddynt bob daioni a allom. Er mwyn y cyfryw ddibennion sanctaidd a'r rhai'n yn bennaf y rhodd∣wydein Rheswm i ni, ac fel hyn gan hynny ydylid ei ddefny∣ddio. Yn siccr gan i Dduw ein gwneuthur ni o naturiaeth fŵy rhagorol nag ader ac anifeiliaid, mae efe 'n disgwil oddiwrthym amgengorchwylion a gwaanaeth nagoddiwr∣thynt hŵy. Ni wyddant hŵy ddim o Dduw a'u gwnaeth, nac oes ganthynt hwy ddim gwybodaeth o fywyd arall ar ôl hwn, ond pan fyddont feirw, dynu ben am danynt. Ond i ni y rhoddes Duw Eneidiau anfarwol gwerthfawr∣occach na'r holl fŷd: ac er mwyn y diben hwn y creodd efe ni, fel y byddai i ni ei wasanaethu a'i anrhydeddu ef yma yn y bywyd hwn, ac felly cael byw gyd ag ef, a 'i fwynhau'n dragywydd yn y bŷd sydd i ddyfod.

Yn awr, os dyma ddiben ein creadigaeth ni, oni ddylem ni fyw i fynu atto? Oni welwn ni bob peth arall yn atteb i'r diben y gwnaethpwyd hwynt o'i blegid? Yr haul yn rhoddi goleuni y dŷdd, a'r llenad y nôs. Y ddaiar yn

Page [unnumbered]

dŵyn ŷd a gwellt, a'r prennau yn dŵyn ffrŵych. Y march, y fuwch a'r ddafad, gyda llawer o Greaduriaid eraill, yn edfryd i ni wasanaeth a bûdd lawer. Ac a gaiff dŷn yn unig fod yn annefnyddiol ac yn anffrwythlon, heb fyw i un perwyl da? Pan ydynt hwy ôll cyn barotted i'n gwasanaethu ni, oni chawn ninnau yn gyssurus ei wasanae∣thu ef yr hwn a'n gwnaeth ni i'w wasanaeth ei hûn? Yn siccr nid allwn ni dybied ddarfod i'r Duw doeth ein danfon ni i'r bŷd yn unig i fwytta ac i yfed, i gysgu ac i chwareu, neu i weithio'n galed am fywiolaeth dlawd. Pe hyn fuasai'r cwbl, gwell a fuasai i ni fod wedi ein gwneuthur yn greaduriaid direswm, neu na'n gwnelsid fŷth. Llai o lawer y gallwn ni dybio wneuthur o'r Duw sanctaidd ni yn un sŵydd i bechu yn ei erbyn, i ddïanrhydddu ei enw, a'i gyffroi i ddigofaint. Nid i'n gwneuther yn gall ac yn gyfrwys at y bŷd y rhoes efe reswm i ni, fel y gwypem pa fôdd i dwyllo ac i sommi ein cymmydogion. Ni roddes efe dafodau i ni i dyngu a rhegi a hwynt, neu i siarad ynfydrwydd a serthedd; gadewch i ni gan hynny na ar∣ferom mo'nynt i'r cyfryw ddrwg ddibennion. Gan roi o Dduw i ni Eneidiau gwerthfawr anfarwol, gadewch i ni na b'om bŷw megis anifeiliaid a ddisethir, gan ymdrobaeddu yn nhom trachwant brwnt annianol a difyrrwch. Fel hyn yr ydym ni yn mynd yn waeth na'r anifeiliaid eu hunain, canys yr ydym ni yn dîystyru 'ein natturiaeth ein hunain, yr ydym yn dirmygu ein rheswm, er cywilydd a niwed i ni ein hunain, ac er anfodlondeb i Dduw. Fel hyn yr y'm ni yn croesi diben ein Creadigaeth, ac yn hurtach ac yn anniolchgarac a'r ych neu 'r assyn: canys hwy a ad∣waenant eu meddiannudd, ac a wnânt wasanaeth da i'r rhai a'u cadwant ac a'u porthant, Es. 1.2.3. O! gadewch i ni na rothom achos i Dduw i achwyn arnom, fel y mae efe yno ar yr Iddewon iddo fagu a meithrin meibion a gwrth∣ryfelu o honynt i'w erbyn: Cofiwch mor ofidus ydyw i chwi y rhai y mae plant gennych, wedi eich hôll ofal a'ch caredigrwydd, wedi eich hôll drael a'ch llafur, eu cael yn gyndyn ac yn anufudd, yn anllywodraethys ac yn Afradwyr segurllyd. O! edrychwch gan hynny na b'o i chwi fôd yn gyiryw tuag-at eich Tâd nefol, yr hwn a'ch gwnaeth ac sydd yn eich cadw, ac sydd beunydd yn adne∣wyddu ei drugareddau tuag-attoch. Efe sydd yn ein cadw ni'n fŷw ac yn gwneuthur ein heinioes ni yn gyssurus. Efe

Page 9

sydd yn rhoi ac yn cynnal i ni ein Rheswm a'n synhwyrau, ein hiechyd a'n cryfder, ymborth a dillad, a'r holl bethau da yr ŷm ni yn eu mwynhâu. Efe sy'n cyflowni ein deffy∣gion, ac yn ein cynnorthwyo yn ein holl gyfyngderau. Mae efe yn rhoi i ni olenni'r dydd, ac esmwythdra'r nôs. Mae efe yn rhoddi i ni allu i ddilyn ein galwedigaethau, ac yn rhoi bendith ar ein llafur ni, fel y gallom ddarparu i ni ein hunain a'n euluoedd. Ac onid ydyw y Duw daionus hwn yn haeddu yn dda yr holl gariad a'r gwasanaeth a fyddo possibl i ni ei draddodi iddo ef? O pa fôdd y clown ni ar ein calonnau ei anfoddhâu ef o'n gwirfodd, yr hwn sydd fel hyn yn omddigrifo yn gwneuthur i ni dda∣ioni! Ys, trueiniaid ynfyd ac anniolchgar ydym, i dalu 'r pŵyth mor ddrwg a hyn, am holl dirion drugareddau 'r Arglwydd. Nid allem ni wneuthur felly ag ûn Cyfaill na chymmydog ar y ddaiar, a fuasai yn oestad yn addfwyn ac yn garedig wrthym. Onid yw gweision yn rhwym i weithio i'r rhai a'u cadwant ac a dalant gyflogau iddynt? Ac oni ddylai plant ufuddhâu i'w Rhïeni y rhai a'u cenhedlasont ac a'u dygasont i fynu? Pa faint mŵy gan hynny y dylem ni ufuddhau i Dduw ein Tad, yr hwn yn gyntaf a roes fywyd i ni, ac sydd yn oestad o ddŷdd bwy∣gilydd yn ei hwyhâu, pan allai efe mewn moment ein torri ymaith yn ein pechodau, a'n taflu i uffern. Ond mewn mawr drugaredd y mae efe yn ein heiriach, ac yn rhoddi i ni adeg i edifarhâu, a anewyllysgar iawn ydyw i'n destrywio ni, ac o herwydd hynny mae'n hir-ddisgwil i fôd yn rasusol i ni. O! gan hynny bydded i'w hîr-yma∣ros a'i holl ddaioni ef o'r diwedd gael y gweithrediad ded∣wyddol hwn arnom; gadewch iddo ein tywŷs i wîr edi∣feirwch, ac bŷth o hyn allan ein rhwymo ni i ddiwŷdr∣wydd a dianwadalwch yn ei wasanaeth. Rhuf. 2.4. 2 Pet. 3.9.

(2.) I'r perwyl hwn ystyriwch drachefn mai dymma'r diben, er mwyn pa un yr anfonodd Duw ei fab Iesu i'r byd, sef i'n ceisio ac i'n cadw ni bechaduriaid truain cyfrgoll∣edig, i'n dwyn i edifeirwch a newydd-deb buchedd fel felly i'n hadferid i ffafr a chariad Duw, y rhai a golasem. ni drwy bechu yn ei erbyn ef, Ein Rhïeni cyntaf ni Add∣a ac Efa a grëwyd mewn tra-sanctaidd a dedwyddol gyflwr, ond hwy a gwympasont drwy bechu yn erbyn

Page 10

Duw, ac felly y daeth pôb trueni i'r bŷd. Ac yna y cym∣merth ein Tad nefol dosturi arnom, ac a anfonodd ei fab o'i fynwes i fôd yn Iachawdwr ac yn Bryniawdwr i ni, i'n hadgyweirio ni o'n pechodau, ac felly i'n gwared oddïwrth drueni: Yn gyntaf fe a'n gwna ni 'n Sanctaidd, ac yno i'n gwneir yn Ddedwyddol. Canys fel y darfu i ddŷn golli ei ddedwyddwch drwy annufuddhâu i orchymmyn Duw, felly rhaid iddo ei ail-ynnill drwy fôd yn ufudd i'w ewyllys ef ym mhôb dim. I'r diben hwn y cyflawn-ddatcuddiodd yr Argi∣wydd Iesu feddwl ac ewyllys Duw i ni pan oeddym mewn anwybodaeth a thywyllwch. Fe a roes i ni athrawiaethan sancaidd i reoli ein bywyd: Ac a wnaeth dra-goludog'a gwerthfawr addewidion i ni i'n hannog i'n dyledswyddau, ac a gyhoeddodd fygythion ofnadŵy i'n dychrynnu ni o'n drygioni.

A phan oeddym yn haeddu digofaint Duw am ein pe∣chodau, yna y tywalltodd Iesu Grist ei werthfawroccaf Waed i wneuthur cymmod drosom, ac i ennill i ni bardwn a maddeuant. Efe a fu farw dros ein pechdau, ac a gyfod∣wyd i'n cyfiawnhau. Rhuf. 4.25. Ac yn ei Efengyl a roes lawn siccrwydd o ewyllys da Duw tuag at ddynol rŷw, y bydd efe trugarog wrthym ac y maddeuai efe i ni, os gwîr-edifarhawn ni am ein pechodau ac ymwrhod a hwynt. Fel hyn yr agorodd Christ ddrŵs gobaith i ni, i roi calonnau ynom i ddychwel at Dduw: Canys pe na buasi obaith o drugaredd, ni'n tynnesid bŷth i Edifeir∣wch, ond megis y Cythreuliaid eu hunain yr arosasem yn llawn câs a digasedd yn erbyn Duw, gan anobeithio yn holl∣awl am ymwared oddïwrtho. Ond tra bo marwolaeth Christ yn rhoi cymmaint rhwymedigaeth a chalon ynom i ymwrthod a'n pechodau, nid ydyw yn rhoi i ni yr achlysur lleiaf i barhau ynddynt. Na thybiwn farw o Grist dros ein pechodau fel y cäem rydd-did i fŷw ynddynt, ac etto bod yn gadwedig yn y diwedd. Na ddô, eithr efe a ddaeth i'n gwared ni oddiwrth ein pechodau, ac nid ynddynt. Mae efe yn ein bendithio gan ein troi oddiwrth ein han wireddau. Efe a fu farw i'n hachub ni oddiwrth ofer∣drwg ymarweddiad, i buro ein calonnau, ac i adgyweirio ein Bucheddau, a'n gwneuthur yn bobl briodol eddo ei hûn, awyddus i weithredoedd da, Mat. 1.21. Act. 3.26. Tit. 2.14. 1 Pet. 1.18.

Marwolaeth Christ drosom ni bechaduriaid ffiaidd sy'n

Page 11

dangos annherfynol gariad Duw yn cael allan y fford hon er ein hiechydwriaeth: Ond yna mae'n dangos hefyd pa ddrygbeth yw pechod, ac mor gâs gan Dduw, gan na roddai ef faddeuant i ni heb ddioddef o'i anwyl Fab ei hûn o'n hachos ni. A chan hynny oni ddŵg yr ystyriaeth o yn ei gŷd nyni i gashâu ac i ffieiddio ein pechodau, ac i wasanaethu ein Duw a'n Hiachawdwr, nid ydym ni fŷth debyg i gael dim llês o farwolaeth Christ. Ein holl broffes ni o'i garu ef a chredu ynddo a sai yn ddiddim i ni heb ufuddhâu iddo ef. Gwir ffydd gadwedigol yng Nghrist yw yr hon sy'n gweithio drwy gariad i Dduw ac i'n cymmydog. Nid yw Christ yn cyfrif nêb yn gyfeillion iddo ef ond y rhai a gadwant ei orchymmynion, ac i'r cy∣fryw rai yn unig y caniattâ efe faddeuant ac iechydwriaeth Gal. 5.6. Ioan 15.14, Heb. 5.9. 1 Ioan 3.8.

Gan ddyfod gan hynny o'r tragywyddol fendigedig Ie∣su mab Duw i lawr o'r nefoedd, a chymmeryd o hono ddynoliath arno, a marw marwolaeth dra phoenedig ar y Groes, fel i'n gwaredai oddiwrth bechod a thrueni. Oni chymmerwn ni ef yn Arglwydd ac yn Iachawdwr, yr hwn sydd yn dyfod i'n gwared ni oddiwrth allu diafol a'n trachwantau ein hunain, i'n gwneuthur ni yn Blant i Dduw ac yn Etifeddion Gogoniant, yr hyn sydd fil o weithiau yn fŵy ymwared na'r hwn a gâs yr Israeliaid o gaethiwed yr Aipht? Oni chynhyrfir chwi gan yr hyn ôll a wnaeth ac a ddioddefodd Christ drosoch? Oni chaiff ei gariad ef eich cymmell chwi i'w garu yntau, ac i gashâu pôb pechod yr hyn a fu achos o'i ddioddefaint ef? A sethrwch chwî dan draed ei werthfawroccaf Waed ef, a'i groeshoelio ef dra∣chefn, a'i roddi i wradwydd cyhoeddus? Fel hyn mewn rhyw fesur y mae Dynion drygionus yn arfer o wneuthur a'u Hiachawdwr, tra'r elont ym mlaen yn eu pechodau y thai ydynt mor anfodlonol iddo. Y rhai a ddywedant gelwydd ac a dŵyllant er mwyn ychydig elw, Beth y mae 'nt yn ei wneuthur nd megis Judas gwerthu ymmaith Grist er arian. Y rhai sydd yn byw mewn câs a digasedd, ac a wnânt ddrwg i'w Cymmydogion, maent mewn effaith yn gwahanu ystlys Christ a gwaywffon, ac yn gyrru Hoelion i'w ddwylo a'i draed ef. A'r rhai a ymroant i dry∣thyllwch a meddwdod, maent yn cymyscu Bustl a Finegr ddo ef i'w yfed. Maent yn gwneuthur y cwbl ôll hyd y

Page 12

mae ynthynt drwy eu difyrwch pechadurus, ar ei oddi ef drachefn i ng a Phoenau. Ond ar y llaw arall, mae'n hyfrydwch gan yr Arglwydd ein gweled yn ymddarost∣wng am ein pechodau, ac yn ymroi i ymwrthod a hwynt. Efe a sydd yn barod iawn i gyfryngu trosom ac a'i gwna yn effeithiol ddigon gyda 'n Tad nefol, yr hwn sydd dra ewyllysgar i dderbyn Afradlonwŷr dychweledig. Mae llawenydd yn y Nef pan edifarhao pechaduriaid ar y Ddai∣ar. Ie ein dychweliad hyn at Dduw drwy wîr edifeirwch yw'r gobrwy goreu a allwn ni ei wneuthur i'n Hiachawd∣wr bendigedig am ei holl boen a'i ddioddefaint. Pan lwyddo ewyllys yr Arglwydd yn ei law drwy ddychweliad pe∣chaduriaid, o lafur ei enaid y gwel ac y diwellir, Esay 53.10, 11. Ac oni chawn ni adroi y bodlonrwydd hwn i'n Prynnwr, yr hwn a ddug arno gymmaint er ein mŵyn, ac sydd yn oestad o'i dyner gariad i'n heneidiau yn ein dilyn a'r cyfryw ddifrifol wahoddiadau i ddyfod atto am fywyd a dedwyddwch? A allem ni ei naccâu ef o'r dy∣muniad tra rhesymmol hwn, pe gwelem ni ef yr awr hon yn sefyll o'n blaen yn bersonol, gan erfyn arnom droi a bŷw? A hyn y mae efe yn awr yn ei wneuthur drwy ei Yspryd a thrwy ei Weinidogion. Ond hyn sydd yn fy arwain i at y nesaf.

(3.) Ystyriwch gan hynny, mai hwn hefyd oedd y diben∣er mwyn pa ûn y rhoddwyd yr Yspryd glan, ac yr adferwyd holl foddion gras, sef i sancteiddio ein calonnau ac i'n gwneu∣thur yn Bobl sanctaidd ac ufudd. Duw a edwŷn wendid a llygredigaeth ein naturiaethau ni, gan hynny mewn mawr drugaredd mae efe yn caniattau i ni gymmorth ei lân Yspryd, i oleuo ein meddyliau, ac i buro ein calon∣nau, i adnewyddu ac i newid ein naturiaethau ni, ac i'n byfforddi yn llwybrau sancteiddrwydd ymma, fel felly i'n cymhwyser i dragwyddol ddedwyddwch gyda'r Duw sancteiddiaf yn y bŷd a ddaw. Ioan 3.3, 5 Rhuf. 8.9. Ac i'r diben hwn yr yfgrifennwyd yr Ysgrythyrau-sanctaidd gan wŷr wedi eu cynhyrchio a'u hysprydoliaethu gan yr Yspryd glân, i fôd yn llusern i'n traed ac yn lle∣wyrch i'n llwybr, i'n cyarwyddo ni yn y ffordd eglur i fywyd tragywyddol, 2 Tim. 3.15, 16, 17. A'r sanctaidd Sacramentau a drefnwyd er cynnydd grâs i'r rhai ôll a'n hiawn-arferont. A'n Hiachawdr bendigedig ar y cynaf

Page 13

a anfonodd ar lêd ei Apostolion i Bregethu'r Efengyl i'r holl Fŷd, ac fŷth er y pryd hynny a gynhaliodd ddilyn∣niad parhâus o Weinidogion yn ei Eglwys swydd gwasta∣dol pa rai yw gweinyddu y Gair a'r Sacramentau, gwilied dros Eneidiau y Bobl, eu haddysgu a'u cynghori yn gyhoeddus ac yn ddirgel, ac arferu eithaf eu diwydrwydd i'w dŵyn hwynt i wybodaeth a chariad Duw, a'i Fab Ie∣su. A Duw sydd yn oestad yn barod i fôd a'i fendith yn bresennol gyda eu llafur hwynt. Onid ydych chwi yn fynych yn deimladwy fod ei Yspryd daionus ef yn rhoddi bwriadau a chynnhyrfiadau da yn eich meddyliau chwi, gan eich tueddu chwi at yr hyn sydd sanctaidd a da, a'ch attal pan fôch yn rhedeg i ddrygioni? Ond ar y llaw arall yr Yspryd drwg, ïe Diafol ei hûn, sydd yn ceisio gwall arnoch i bechu, ac a fynnai eich rhwystro oddiwrth eich dyledswydd. Diafol sydd yn denu Dynion i falchder a bwriad drwg ac i bob mâth ar ddrygioni. Canys gan ei fod ef yn falch, yn faleisgar ac vn Yspryd tra drygionus, fe fynnai i Ddynion fôd yn gyffelyb iddo ei hun, fel felly y buddont mewn trueni tragywyddol gydag ef. Oni wrthwynebwch chwi gan hynny y Cythraul, gelyn mawr eich Eneidiau, a chymmeryd eich arwain a'ch hyfforddi gan Yspryd daionus Duw, a dilyn ei gynnhyrfiadau a hyfforddiadau ei air ef y rhai sydd yn arwain i ddedwydd∣wch? O na thristewch ei yspryd bendigedig ef, yr hwn yn unig a ddichon roddi i chwi wîr ddiddanwch, na wrthwynebwch ac na ddiffoddwch et gynnhyrfiadau ac na chyffrowch ef i ymado oddïwrthych, a'ch gadel i'ch trachwantau eich hunain, ac i al••••r Satan, yr hwn sydd yn ceisio eich dinistrio.

Ymmhellach, megis ag y mae ga difol ei offerynnau i dynnu Dynion i ddrygioni, y naill Ddrwg weithredwr, yn denu 'r llall, felly Gweinidogion a anionir oddïwrth Dduw i'ch tynnu chwi i gyfiawnder a sancteiddrwydd. Cennadon a negeswŷr Christ ydynt, ac yn ei enw ef y maent yn erfyn arnoch gymmodi a Duw, yr hwn sydd dra-ewyllysgar i fôd, yn gymmodlon a chwy-chwi, os gwnewch chwi ond taflu ymmaith y gweithredoedd drygionus sydd yn ei annog ef i ddigofaint, 2 Cor. 5.20

Page 14

O fel y gorfoledda calonnau eich Gweinidogion y rhai fydd yn gwîr garu eich Eneidiau, weled eu llafur yn ffyn∣nu, a'ch dyfod attynt gan ymofyn beth a wnewch i fod yn gadwedig, gan adrodd eich edifeirwch am eich He∣lyntiau drygionys o'r blaen, a'ch ymroad o hyn allan i fod yn Greaduriaid newydd! Yn siccr nid ydym ni yn annog mo'noch i ddim ond sydd dra rhesymmol ac er budd i chwi eich hunain, tra bôm ni yn eich cymmell i ddychwelyd i ffafr Duw. Pa ham gan hynny na wrandewch chwi arnom? Pe 'r anfonid Cenadwri o drugaredd i chwi oddiwrth y Brenin, pan faech mewn perygl marwolaeth am deyrnfrad, Oni dderbyniech chwi ef yn orfoleddus ac yn ddïolchgar? Ac oni byddwch chwi mor ddïolchgar ac ufudd i frenin y Brenhinoedd, ac mor synhwyrol i achub eich Eneidiau ag i gadw eich Cyrph?

Ac heb law ei Aira'i Weinidogion, Mae Duw drwy ei Ragluniaeth yn ymresymmu a chwi i'ch dŵyn i edifeirwch, Weithiau y mae 'n danfon helbulion i'ch'ceryddu am eich beiau, i ddangos i chwi ddrygioni pechod, ac i'ch dŵyn adre atto ei hun; ac amserau eraill mae efe 'n danfon aml drugareddau, fel y mynegais i chwi, i feddalhau eich calonnau, i'ch rhwymo ac i'ch denu i'w wasanaeth: A'r cyfryw ddefnydd da a ddylem ni ei wneuthur o holl ym∣driniad Duw a nyni.

(4.) Ystyriwch ymhellach Pa rwymedigaethau i fywyd duwiol yr ydych chwi yn gorwedd danynt wrth eich proffes eich hu∣naïn, addewidion ac addunedau. Yr ydych chwi yn eich proffesu ac yn eich galw eich hunain yn Grist∣nogion, Disgyblion a dilynnwŷr Christ: Oni ddylech chwi gan hynny ddilyn ei esampl ef, ac ufuddhau i'w orchymmynion, os gwnewch chwi yn dda yr nw hwnnw? Chwi a'i tybiech yn ammarch mawr i chwi gael eich galw nid yn Gristion onid yn Iddew neu Dyrc. Gochelwch gan hynny rhag tynnu yr ammarch hwn arnoch eich 〈◊〉〈◊〉 drwy dymmer meddwl angnghristnogawl, a helynt bu∣chedd ddrwg. Os ydych yn ffals neu 'n llidiog, yn gy∣byddaidd neu 'n drachwantus megis Tyrc neu Iddew, ni waeth fawr pa fôdd y galwoch chwi eich hunain. Nid

Page 15

yw efe Gristion yr hwn sydd felly oddïallan, ond yr hwn y mae yr un meddwl ac Yspryd gantho ag oedd yng Nghrist Iesu. Ni farn Duw yn y dydd diweddaf mo ddynion yn ôl eu henwau a'u teitlau, ond yn ôl eu calon∣nau a'u bucheddau. Yn unig gwaeth o lawer a fŷdd i'r hwn a'i galwo ei hun yn Gristion, ac etto a fo'n bŷw megis un o'r Cenhedloedd neu fel y diffydd.

Ac attolwg ystyriwch fel yr ydych chwi wrth eich Bedydd wedi eich cyhoedd-rwymo eich hunain dan faner Christ, i ymladd yn erbyn Diafol y Bŷd a'r Cnawd; Ac wrth gadw'r Adduned hon y dangoswch chwi eich bôd eich hunain yn Gristnogion mewn gwirionedd. Ond os arweinir chwi ymaith gan brofedigaethau Satan, a gwneuthur o honoch ei wasanaeth ef, a'ch bôd wedi eich rhwydo gan wagedd y Bŷd, chwantau a difyrrwch y Cnawd, 'r ydych chwi mewn effaith yn ymwrthod a'ch Bedydd.

Heb law hyn, Oni ddarfu i chwi adnewyddu yr unrhyw adduned hon yn y Cymmun Sanctaidd, ac yno cyhoedd∣gyfaddef eich crediniaeth yng-ngroes Christ, gan addo ufudddod iddo ef? Os chwi ni dderbyniasoch y Sacrament Sanctaidd hwn, er eich bôd, er ys talm o fewn pedran pŵyll a dealltwriaeth, yr ydych chwi gan hynny yn eich dangos eich hunain drwy'r esceulustra hwn nad ydych yn ddisgyblion ufudd i Grist, gan nad ydych yn ufuddhau i'w orchymmyn eglur ef, sef, Gwnewch hyn er coffa am danaf, Luc. 22.19. Ac yn ddiai yr wyf yn ofni ôd llawer o bobl diofal heb ddyfôd i'r Cymmun, oblegid en bôd o'r meddwl y rhwymai hynny hwynt i arwain y cyfryw fy∣wyd caeth a dwyfol, yr hwn nid ydynt yn bwriadu ei ddilyn. Etto ai nid ydynt hwy yn taflu ymmaith Iesu Grist oddïwrth fôd yn Feistr iddynt, y rhai ydynt yn edrych ar ei orchymmynion ef megis yn thy gaethion ac yn rhy dôst, ac ni addawant ufuddhâu iddo? ie onid ydynt hwy drwy hynny yn gwadu eu Bedydd, drwy ba un y rhwymwyd hwynt i'r ufudd-dod hwn? Gan hynny y mae 'n debygol mai yr un rheswm ag sydd yn eu cadw hwynt oddïwrth y Cymmun, a'u cadwai hwynt oddïwrth

Page 16

fedydd, pe bae o etto i'w wneuthur. A pha fâth Grist∣nogion ydyw y rhai a ymwrthodent a Bedydd Christno∣gol, oblegid ei fôd yn eu rhwymo hwynt i fuchedd sanctaidd?

Os ydych chwi yn ddïeuog o'r esceulusdra hwn, ac yn dyfod weithiau i swpper yr Arglwydd, i gadw coffa∣dwriaeth am ei farwolaeth a'i ddioddefaint ef: Yna attolwg ystyriwch eich bôd drwy dderbyn y Sacrament Sanctaidd hwn, yn cyhoedd-adnewyddu eich addunedau o fôd yn Wasnaethwŷr ffyddlon ac yn Ddisgyblion i Grist, ac i rodio mewn ufudd-dod diragrith i'w hôll Ddeddfau Sanc∣taidd ef fel yr ydych yn gobeithio cael Iechydwriaeth drwy ei farwolaeth ef. Gan hynny ond da y gallaf i erfyn arnoch gymmeryd pob gofal dyledus ar fyw yn ôl eich addewid hon a'ch rhwymedigaeth. Pa gywilydd ydyw i ŵr fôd yn ffals i'w Air, mwy o lawer i'w Lwf? O na thorrwch gan hynny mo'r llwf a wnaethoch chwi i Dduw ei hun wrth dderbyn y Sacrament Sanctaidd hwn. A gelwch i'ch côf oni ddarfu i chwi weithiau ar eich clâf∣wely neu mewn rhyw berygl dirfawr wneuthur yr un∣rhyw addewid ac adduned: ac oni arbedodd Duw chwi i weled pa fôdd y cyflawnech chwi yr unrhyw? Gochel∣wch gan hynny ddïystyru ei drugaredd ef a thorri eich ddewid.

Ymmhellach, mi a allwn ddangos i chwi pa fôdd y mae eich proffes chwi o gredu y Credo, yn eich rhwymo chwi i fŷw yn ddeddfol, yn ôl y Ffydd Sanctaidd yr ydych yn ei phroffessu, Yr hon sydd Athrawiaeth yn ôl Duwioldeb.

Ond, yn ddiweddaf, mae hyd yn oed y gweddïau yr ydych yn eu rhoddi i fynn i Dduw yn rhoi yr un rhwymedigaeth arnoch, sef, i wasnaethu ac i fodloni yr un Duw hwn yr ydych chwi yn ei Addoli. I roi esampl ar fyrr yngweddi 'r Arglwydd, Tra 'r ŷm ni yn galw Duw Ein Tâd, &c. Oni ddylem ni ei garu a'i arhydeddu ef, ufuddhau ac ymddarostwng iddo megis ein Tad Nefol? Tra y gweddïwn ni Sancteiddio ei Enw ef, dyfod

Page 17

o'i Deyrnas, a gwneuthur ei ewyllys ar y ddaiar megis yn y nefoedd, Oni ddylem ni ein hunain anrhydeddu ei enw ef, a derchafu ei Deyrnas ef, gan ufuddhâu i'w ddeddfau, a chan wneuthur ei Ewyllys ef yn ddïanwadal ac yn gyssurus fel y gwna 'r Angylion yn y nefoedd, hyd at ei∣thaf ein gallu? Gweddïo am ein bara beunyddiol sydd yn dygu i ni ein pwys a'n hyder ar Dduw, ac yn ein rhwymo i'w wasnaethu ef gan ba un i'n cynhelir. Pan weddion ar Dduw ar faddeu i ni ein dyledion fel y maddeuwn i eraill, mae hynny yn ein rhwymo ni yn gaeth i faddeu i'r sawl a wnêl ar fai i'n herbyn, fel y mae gennym obaith cael fŷth dru∣garedd gan Dduw. A Phan weddîom na'n harweinier i brofedigaeth eithr ein gwared ni rhag drwg, hyn a ddylai ein ffrwyno ni rhag rhedeg i brofedigaeth, a'n gwneuthur ni yn ofalus i ochel pob pechod a'i achosion ef. I'r an perwyl mi a allwn hefyd grybwyll am Weddiau yr Eglwys i'r hon'r ŵyf yn gobeithio fôd eich cynniweirfu yn aml. Yno yr ydych yn dechreu a Chyffes o'ch pechodau, ai ni ddylech chwi hefyd ymwrthod a hwynt yn gystadl a'u cyffessu? Ac yn niwedd y Gyffes yr ydych yn gweddio ar dduw er mwyn Christ fyw o honoch rhag llaw mewn duwiol, union a sobr fuchedd. Ac agos ym mhôb gweddi chwi a gewch ryw beth i'r effaith hyn. Yn awr yr wy'n gobei∣thio eich bôd chwi mewn difrif calon yn eich gweddiau hyn, onid ô gwatwar Duw a dal gŵg iddo yr ydych, yn lle ei addoli a'i fodloni ef. Ond os ydych chwi o'ch ca∣lonnau yn deisyfu y pethau hyn yr ydych chwi yn gweddi∣o am danynt, yna chwi a wnewch eich rhan i'w mwyn∣hau hwynt, a chwi a wnewch eich goreu yn ddiwŷd ar fyw yn y cyfryw fodd Sanctaidd a daionus ag yr ydych yn gweddio ar i chwi wneuthur. Ac os 'chwanegwch chwi fel hyn ddiwydrwydd at eich Gweddiau, ni bydd arnoch fŷth eisiau Grâs Duw i'ch cynnorth∣wyo.

(5.) Ystyriwch hefyd mor gyfiawn ac uniawn yw holl orchmynion Duw, y cyfryw na all ein Rheswm ni ein hunain amgen na chydsynio a hwynt, megis yn fwyaf cyttunol a nyni fel yr ydym ni yn Greaduriaid Rhesym∣mol. I roi esampl yn y pennaf o honynt; ond tra

Page 18

chyfiawn ac addas yw y carem ni Dduw uwchlaw pôb peth, yr hwn yw'r gorau a'r perffeithiaf o'r holl Hanfodau, ac oddïwrth ba ûn yr ydym ni 'n derbyn ein holl bethau daionus? Oni ddylem ni weddïo arno ef yr hwn yn unig a ddichon ein gwrando a'n cynnorthwyo ni; a rhoi diolch a moliant iddo ef yr hwn yw Tâd y trugareddau? Onid ydyw yn dra rhesymmol i Blant ufuddhau i'w Rhieni, a Deiliaid i'w Rheolwŷr? a bôd i bôb dŷn fyw mewn heddwch a chariad a'u gilydd, a dywedyd gwirionedd, a gwneuthu gonestrwydd fel y mynnent wneuthur a nhwythau? Onid yw 'n drachymmwys a gweddaidd i bob dŷn fwytta ac yfed yn gymhedrol, fel y mae 'n orau e mŵyn ei iechyd? Bôd yn ardymherus ac yn ddiwair yn ei holl Ymarweddiad? Oni chydnebydd Rheswm poh dŷn uniondeb ac addasrwydd y Deddfau hyn a'r cyffelyb? Ac am rai fydd yn ymddangos â mwy tostrwydd yn∣ddynt, fe ellir rhoi rheswm da iawn am y rhei'ni hefyd. Gan hynny y mae yn eglur, fôd holl orchymmynion Duw yn gynghorion doethion ac iachusol Tâd tra-thyner, yr hwn nid yw yn gwahardd i'w Blant ddim ond sydd er daioni iddynt eu hunain, sef gwneuthur barn, a hoffi trugaredd, ac ymostwng i rodio gyda eu Duw. Mic. 6.8. 〈◊〉〈◊〉 Christ sydd efmwyth, a'i faich sydd ysgafn. Mat. 11.30. Gwsanaeth Duw yw'r gwir fraint, fel yr ydym ni beu∣nydd yn ei alw yn ein Gweddiau, A'i orchymmynion of nid ydynt drymmion, 1 Ioan 5.3. Oni byddwn ni gan hynny mor ostyngedig i'n Tâd nefol, ïe mor synhwyrol er ein daioni in hunain ag ufuddhau i'r Deddfau tra-rhesymmo a grasusol a roddes efe i ni? Mor gyfiawn ac uniawn ydynt, na allwn ni dorri mo 'nynt heb gynnyg math ar gam i ni ein hunain, gan fyned yn groes i reswm ein meddyliau.Goluni ydynt i'r llygaid, a gorfôledd i'r galon, melysach i wr 〈◊〉〈◊〉 na'r mel, ac na diferiad diliau mol, megis y mae y Psalm∣ydd yn fynych yn adrodd. Mor gyfaddas yw gorchym∣mynion Duw i'n natturiaethau ni, ac mor ddefnyddiol ac iachus i'n Heneidiau ni ag ydyw'r lluniaeth iachaf i'n Cyrph. Ac mae yn gymmaint doethineb i ddŷn hwylio ei ymddygiad a'i ymarweddlad oll yn ôl deddfau Duw, ag ydyw iddo of fyned mewn gwisg weddaidd, a bwytta ac yfed yr hyn a fo da er ymborth iddo. Ond ar y llaw arall ped fae un yn rhedeg yn noeth o amgylch yr heolydd, ac

Page 19

yn llenwi ei enau o dom a budreddi, a phe torrai efe ac y dragiai ei gnawd ei hûn, ni fyddai hynny ddim yn arwydd mwy o ynfydrwydd a gwallgof, nag a fyddai iddo ef fyw yn ôl ei drachwantau ei hunan, yn hyttrach nag yn ôl deddfau Duw, y rhai sydd mor gyttunol a'n Rheswm ni, ac mor eglur yn cŷd-arwain at ein gwir les∣hâd a'r elw pennaf i ni ein hunain, yn y bywyd hwn, a'r hwn sydd i ddyfod, fel yr ymddengys wrth yr hyn sy'n anlyn.

(6.) Ystyriwch gan hynny yn y lle nesaf, mai gwirionedd tra-siccr ydyw, Fôd arwain buchedd dda sancteiddiol ymmbob moddion er tramawr fudd a chyssur i ddyn ei hunan, ie yn y bud presennol hwn. Duwioldeb sydd fuddiol i bob peth. Mae'n peri llonyddwch i'n Meddyliau, iechyd i'n Cyrph, yn 'chwanegu ein cyfoeth, ac yn dwyn i ni fawr barch a chymmeriad, mawr gariad ac ewyllys da ym mysg ein Cymmydogion. Iê mae 'n gyffredinol yn dwyn gydag ê bob mâth ar Fendithion, ac yn gwneuthur eu mwyniant hwynt yn felysach ac yn hyfrydah, ac mae yn cadw ymmaith lawer iawn o helbul yr hyn y mae rhai drygionus yn eu tynnu arnynt eu hunain, ac yn rhoddi i ni gynnorthwy mawr ac esmwythder dan y blinderau hynny y rhai a all Rhagluniaeth Duw eu gosod arnom. Yn gymmaint ag na ddichon ûn dŷn o ba râdd neu gyflwr bynnag, arwain gwîr gyssurus fywyd, oni bydd iddo arwain Buchedd Sanctaidd a daionus. A hyn oll a fynych-ddysgir yn yr Ysgrythyr, ac a ellir yn hawdd ei egluro drwy Reswm golau: Neu oni bydd hynny yn ddigon, mae yn dra eglur i'w ddirnad drwy brawf bounyddiol; fôd i'r rhai a wîr ofnant Dduw; fwy he∣ddwch a diddanwch yn y bŷd hwn, nag i ddrwg fucheddwŷr afreolus, y rhai ni wnant Gydwybod o'u ffyrdd.

Pe gwnawn i y gyffely biaeth yn unig rhwng Gŵr sobr a Meddwŷn, pa ûn dybygech chwi sy'n cael y gorau yn y Bywyd hwn? Pa sawl gwaith y mae'r Yfwŷr mawrion nid yn unig yn difrodi eu Meddiannau, ond yn dinistrio eu Hicehyd, yn gwanhâu eu Hymmenyddiau, ac yn byrhâu eu Heinioes? Pa nifer o weithiau y maent yn

Page 20

cwympo mewn cynhennau, yn cael ysigtod ac archollion, ac weithiau marwolaeth ei hunan, naill ai drwy ymladd neu drwy ryw ddigwyddiad gresynol neu ei gilydd. Weithiau hyd yn oed y plant yn yr heolydd a redant ai eu hôl hwynt, gan floeddio a gwneuthur gwatworgerdd o honynt. Ac os dilynwch chwi hwynt i'w Trigfannau eu hunain, pa fâth gythryfwl a mowrddrwg y maent yn ei wneuthur yno? Pa dyngu a rhegu, pa fonllefain ac ymleflef, pa fâth gynhennu ac ymladd sydd yno? Pa fath ddolefain a galarnadau y mae Gwraig a phlant yn eu gwneuthor? y rhai y prŷd hyn ond odid sydd dda gan∣ddynt ddïange ymmaith o ofal am eu heinioes, fel yr oeddynt o'r blaen yn eistedd gan newynu am yr arian a ddifrododd yr Hwsmyn drwg hyn yn y dafarn. (Pechod a chywilydd ydyw i'r rhai a'u croesawant.) Ac wedi iddynt fyw ennyd yn ôl yr helynt wŷllt ddrygionus hon, y newŷdd nessa yn gffredinol ydyw, eu bôd naill ai am Ddylêd ai Afreol wedi eu bwrw i Garchar, ac weithiau gan y Bobl hynny yn Nhai pa rai yr yfasant hwy ymaith yr hyn oll a ennillasant. Ac yn awr y cymmhellir hwynt gan angenhoctid i fyw ar fara a dwfr, ac i oedi allan fy∣wyd gresynol newynllyd, mewn ceudwll oeredd drewllyd, nes naill ai i gariad Cyfnesyfiaid, neu farwo∣laeth ei hûn eu rhyddhau oddïyno. (Ac ar y ffordd, a ydyw hon yn gyfryw fuchedd hyfryd ag y tâl hi fôd yn ddamnedig o'i herwŷdd i boenau Uffern yn dragwyddol? Ond mi a adawaf hyn tan yn y man.)

Fel hyn hefyd y gallwn i adrodd am resynol ffrwythau Putteindra, yr hwn yn gyffredin a ddilynir â thlodi ac â gwradwydd, ac yn fynych iawn a ffïeiddglwyf aflan, yr hwn a wna i ddynion bydru uwch daiar. Ac fel hyn pobl digllon belchion maleisus, ymddïalgar, ydynt yn boen wastadol iddynt eu hunain ac i bawb o'u hamgylch ac nid oes na heddwch na llonyddwch ond yn anaml rhyngddynt a'u Cymmydogion nac a'u Teuluoedd eu hunain. Y cyffelyb a ellir ei ddangos am bôb beiau eraill y rhai ydynt gynnefin yn oestad o ddŵyn eu cospedig aeth eu hunain gyda hwy••••, heb sôn dim am yr hyn y mae neu a ddylai y Swyddog ei wneuthur iddynt. Yn enwedig y cyfryw

Page 21

ddrwg. weithredwŷr a Lladron a Lleiddiaid, Teyrnfrad∣wŷr a Gwrthryfelwŷr, ydynt yn anfynych yn dïangc o ddwylo Cyfiawnder cyhoeddus. Ond pwy a wna niwaid i ddynion os dilynant hwy yr hyn sydd ddae? Neu pa ddïaledd y mae dŷn yn ei ddŵyn arno ei hûn wrth fyw 'n sobr ac yn ddiwair, wrth ofni Duw ac anrhydeddu'r Brenin; Pa ddrwg a ddaw i ddŷn o ddilyn ei negeseuau ei hûn, ac o fyw yn llonydd ac yn dangnheddyfus ymmysg ei Gymmy∣dogion? yn hytrach onid ellwch chwi weled mor ddedwyddol y mae rhai, ïe y salaf o honom yn byw, y rhai ydynt ddïwyd yn eu Galwedigaethau, a sobr ac ardymherus, ac yn ofalus am fodloni Duw, ac am gadw Cydwybod dda yn eu holl ffyrdd. Anfynych iawn y cyfyngir arnynt gan fawr angen, neu pe cwympent yn isel eu cyflwr, etto pob Dyn da a'u hadwaen, sydd barod i dosturio ac i roddi ymwared iddynt: ac yn fynych a'u coelia am arian neu eu gwerch hyd onid allont dalu. A phawb sydd ewyllysgar i roi Gŵr gonest gofalus ar waith, fel na bo arno ond yn anfynych eisiau Gwaith neu Farsi∣andïaeth. Ond Dynion segur, anllywodraethus, a ddily∣nant feddwdod a phutteindra, chwaryddiaeth, a thŵyll, a lledrad; a esgeulusant wasanaeth Duw, ac a halogant ddydd yr Arglwydd, gan fôd yn fynych yn y Dafarn pan ddylent fôd yn yr Eglwys; y rhai'n yw'r Bobl, os deliwch chwi sulw, a gwympant yn gyffredin i'r eisiau a'r trueni gwaelaf; ac eraill ni thosturiant ond ychydig wrthynt, o herwŷdd dwyn o honynt hyn oll arnynt eu hunain. O mor ddedwŷdd y gallai bôb mâth ar ddynnion fôd, ïe mewn mesur mawr iawn yn bresennol, pe deuent hwy i fôd yn wîr grefyddol ac yn dda. Eu pechod a'u hynfyd∣rwydd eu hunain, eu trachwantau a'u gwyniau yw'r achosion o'r rhan fwyaf o'r trafferthion a'r trueni y maent hwy yn cyfarfod a hwynt; er y gwn i'u dda eu bôd hŵy'n arfer o lefain allan fôd eu tynghedfen yn galed, ac o fwrw y bai ar eraill, ac weithiau o rwgnach yn erbyn Duw ei hun. Ond nid ydynt hwy yn ystyried fel y maent beunydd yn annog Duw i ddigofaint drwy eu hechryslon bechodau, ac a allant gan hynny fôd yn wîr deimladwy o'i farnedigaethau trymmion ef am yr unrhyw, heb law yr holl fowrddrwg sydd yn anocheladwy yn gorddiwes dry∣gioni.

Page 22

A hyn sydd yn gwneuthur eu cyflwr hwynt yn wir-resynol, eu bôd hwynt yn ogwyddedig yn wastadol i ddigofaint Duw, ac allant yn gyfiawn ddisgwil ei ddialedd ef i gwympo arnynt, ac i'w noethi hwynt o'i holl gyssur, a'u taflu i'r dinystr blînaf.

Ond yn y gwrthwyneb, yn hyn uwchlaw'r cwbl y mae dîogelwch a chyssur gŵr da yn gynnwysedig, ei fôd ef yn mwynhâu bendith a ffafr yr Holl-alluog Dduw, ac am hynny mae iddo siccrwydd na bydd arno eisiau dim sydd wîr-dda ar ei fês ef. Felly mae 'r addewid, Psal. 84.11, 12. Mat. 6.33. Y rhai yn gyntaf a geisiant deyrnas Dduw, a'i gyfiawnder ef, a gânt bôb cyfreidiau yn ychwaneg. Fel na ddichon gŵr tlawd gymmeryd un ffordd siccrach, i ddar∣paru iddo ei hûn ac i'w Deulu, na dyfod i fôd yn wir grefyddol; fe allai na chaiff efe bethau mowrion yn y Byd, etto fe a gaiff ymborth cyfaddas. Ac yna, yr hyn sydd well na'r cwbl ôll, ef a gaiff fendith Duw gyda'r hyn y mae efe yn ei fwynhâu? a hyn a ddyry iddo ef fwy o wîr fodlondeb a chyssur yn yr ychydig sydd ganddo, nag a ddichon Gwr drygionus ei gael yn ei holl Drysorau mowrion. Duwioldeb gyda bodlonrwydd ydyw 'r elw mwyaf, Psal 37.16. 1 Tim. 6.6. Gŵr tlawd ac sydd gantho ond dymuniad Jacob, Lluniaeth i'w fwytta, a Gwîsg i'w roi am dan▪ Os oes gantho hefyd Dduwioldeb Jacob, ac ydyw yn cymmeryd yr Arglwydd yn Dduw iddo, ac yn byw yn ei ofn ef a'i wasanaeth, ac yn mwyn∣hâu teimledigaeth o'i ffafr ef, o mor fendigedig ydyw helynt y gŵr hwn! mor gyssurus y gall efe fyw bob amser, er ei fôd mewn tlodi! Beth er bod ei Drigfa yn wael, ei Ymborth yn o arw ac yn galed, a'i Wîsg yn ddisyml iawn; etto tra y caro efe Dduw yn ddi-ragrith, ac yr addolo efe ef beunydd yn ddefosionol, efe a all droi ei gaban tlawd yn Balas ïe yn Deml; a'r Duw bendigedig a ymwel ag ef a'i bresennoldeb, a gymmer yn gymeradwy ei wasanaeth ef, ac a'i llonna ef a llewŷrch ei wynebpryd. Ac ar y gwybodaeth a'r mwynhâd hwn o Dduw, y mae gwîr gyssur bywyd dŷn yn pwyso, beth bynnag a fo ei gyflwr ef oddîallan. Hyn yn unig sydd yn rhoddi hedd∣wch a bodlonrwydd i'w feddwl ef oddimewn, ac yn

Page 23

pereiddio ei holl drugareddau, ac uwchlaw pôb peth yn cynnal i fynu ei galon dan y blinderau y cyferfydd ef a hwynt. Canys mae 'n rhaid i'r gorau o ddynlon disgwil eu rhan o'r gorthrymderau oddïallan yn y Byd hwn, megis clefyd a dolur, colled am Gyfeillion ac am dda bydol, a'r cyfryw, y rhai'n ydyw y gofidiau cyffred∣in i bawb. Ond ymma y mae y gwr da yn eglur yn rhagori, gan ei fôd yn edyrch ar bôb peth a ddigwydd iddo ef megis yn dyfod oddiwrth ddwylo Duw tra doeth a grasusol, yr hwn a ŵyr beth sydd orau iddo ef, ac i ewyllys pa un y mae efe yn rhwydd yn ei roddi ei hunan i fynu, a'i holl negeseuau, gan ddywedyd gyda'i Feistr bendigedig. Nid fel yr ydwyfi yn ewyllysio, ond fel yr ydwyt ti. Ië, mae efe yn derbyn blinderau megis wedi eu danfon mewn addfwynder, i'w geryddu ef am ei feiau, i ymarfer ac i ychwanegu ei Rasau, ac felly i'w barodtoi ef i Ogoniant. A dymma fawr elw Crefydd, ei bôd yn dysgu i Ddŷn i ba le i fyned am gyssur ac ymwared yn ei holl ing a'i gyfyngder, sef at y Duw mawr daionus, yr hwn sydd alluoccaf a pharottaf i gynnorthwyo ei Bobl yn holl amser eu trallod. Hyn yr ydym ni yn oestad yn ei ddarllain yn yr Ysgrythyr oedd arfer Gwŷr Sanctaidd, a hwy a ddeallasant nad ofer ydoedd. Ac hyd y dydd hwn y caiff hôll weision ffyddlon Duw ddyfod o hŷd i'r ffrwythau daionus o roi eu gogwydd yn ddefosionol fel hyn at Dduw drwy weddi. Canys mae ei olwg ef bôb amser ar y rhai cyfiawn, a'i glust yn agored i'w llefain hwynt. Mae efe yn tosturio wrthynt, yn eu cyssuro ac yn eu cynnal hwynt. Ni esyd ef ddim ychwaneg arnynt nag y rhoddo efe allu iddynt i'w ddŵyn; ac yn ei amser da, efe a gyflawna eu deffygion, ac a'i gwared hwynt o'u gorthrymderau, ïe, efe a'u trŷ hwynt yn fendithion, ac a wnai bôb peth gyd-weithio er daioni iddynt, fel yr addawodd efe i'r rhai a'i carant ef, Rhuf. 8.28. O pa fâth dded∣wyddwch ydyw bôd yn gydnabyddus a Duw, a bôd gennym wîr deimledigaeth o'i Ragluniaeth ef, fel felly y bô i ni fŷw arni a gwneuthur y goreu o honi, Job. 22.21.

Ond mor resynol yw cyflwr y drygionus, yr hwn nid

Page 24

oes ganddo ddim o'r cyfryw wybodaeth o Dduw, dim cariad iddo, na dim disgwiliad am gymmorth ac ymwared oddiwrtho. Y mae efe yn ei hawddfyd mwyaf yn ŵr annedwŷdd iawn, tra bô efe byw heb Dduw yn y bŷd; ond yna y deall efe ac y bydd ei hun yn deimladwy o hynny yn ddi-ai, gan gwympo ef i ryw adfyd tramawr; ac nis gŵyr pa ffordd y trŷ efe am gyssur ac ymwared. Canys fel y mae drygioni yn oestad yn dŵyn dŷn i drueni (megis y dangosais i o'r blaen) felly yno y mae yn ei ado ef mewn cyflwr tra-gofidus ac anobeithiol. A thymmer ddrwg eu meddyliau sydd yn'chwanegu pŵys llwythog at eu gofidiau, ac yn mwyhau yn dra-boenedig eu gerwindeb hwynt. Synnied eu heuogrwydd eu hunain sydd wei∣thiau yn arteithio en Cydwybodau hwynt: ac yn eu llenwi ag ofn a dychryn: weithiau maent yn ffrommi ac yn ymddigio wrth y rhai a roesant gymmorth tuag-at ddwyn ymlaen eu dioddefiadau, ac weithiau y maent ïe yn cablu Duw ei hûn, ac yn grwgnach yn erbyn ei rag∣luniaeth ef. Y pryd y bo'r gwr da gyda Job yn bendithio Duw yn ei holl orthrymderau, mae y rhai'n yn barod i ganlyn cyngor ei wraig ef, sef i felldithio Duw a marw. Canys gan eu bôd yn llawn o gyfyngder ac anobaith, maent ymron amhwyllo ac yn flîn ganddynt eu heinioes, fel yr ydym ni yn darllain am Gain, a Judas, a'r cyfryw yn yr Ysgrythyr ac mewn Historïâu eraill. O'm rhan i 'rwy'n tybied mewn gwirionedd, yn nesaf at y Cythreuliaid a'r rhei'ni sydd yn Uffern, nad oes Greaduriaid yn y bŷd druanach na phobl annuwiol drygionus; a thra y gwelom ni beth yw ffrwyth cyffredin pechod ymma ar y Ddaiar, hawdd y gellir ein gorfod ei fôd yn arwain i Uffern a Damnedigaeth yn ôl hyn. A hyn ôll y mae dynion yn wall-gofus ac yn unchwant yn rhedeg iddo drwy en drwg weithredoedd eu hunain; megis y mae dŷn a wthio ei ddwylo i'r tân, yn debyg i gael dolur a llosgfa. Drwy ymwrthod a Duw, maent yn gwrthod trugareddau iddynt eu hunain, a thrwy bechu yn ei erbyn, maent yn gwneuthur cam a'u Heneidiau, ïe, a'u Cyrph hefyd, ac a'u Perthynas oll. Fel hyn y gwelwch chwi fôd Bywyd sanctaidd yn dra∣buddiol i ni ïe yn y Byd presennol hwn, yn lluddias llawer o ddrwg, ac yn dŵyn gydag ê bôb mâth ar ddaioni. Neu

Page 25

os syrth dŷn i'r cyfryw amseroedd blinion, a dioddef o honaw yn unig o achos Crefydd a Chydwybod dda, y prŷd hynny y caiff efe yn gyffredinol y cyfryw ryfeddol gyssur a bodlondeb meddwl, ag y caiff efe fuddugoliaeth a gorfoledd yng-nghanol ei ddioddefiadau, fel y gwydd∣m gael o'r Apostolion a'r prif-Gristnogion, a hynny yn enwedig mewn gobaith o'r Gobrwy gogoneddus a rodd∣wyd i gadw i Wŷr da yn y Nefoedd. Ond hynny a'm dŵg i at yr Ystyriaeth ddiwaethaf y crybwyllaf fi am dani.

(7.) Sef, Mai Bywyd Sanctaidd drwy oludog drugaredd Dduw, a'n gwna ni yn berffaith ac yn dragwyddol-fendigedig yn y Byd a ddaw, ond helynt Buchedd ddrwg a arwain i dragywyddol drueni a phoenedigaeth. Yn ôl fel y bôm ni byw yn y Bŷd hwn, felly y mae yn rhaid i ni gael yn ŷ nessaf: canys y Bywŷd hwn sydd fuchedd o Brawf mewn trefn i Dragwyddoldeb. Iê ym Marwolaeth y mae gan Wr da sail o gyssur mawr, gan fôd gantho dystiolaeth Cydwybod dda, a synied o gariad Duw, yn yr hyn y gall efe gyda sanct Stephan, orchymmyn ei Enaid i ddwylo 'r Arglwydd Iesu, yr hwn sydd barod i'w dderbyn ef. Ond pa mor resynol ydyw i'r Gŵr drygionus, pan fyddo heb law holl ddoluriau ei Gorph, ei Feddwl hefyd yn cael ei benydio a choffadwriaeth o'i bechodau, ac âg ofnedigaeth digofaint Duw. Ond y rhagoriaeth mawr a wn eir yn nŷdd y Farn, pan osoder y defaid a'r ddeheulaw Christ, a'r geifr ar yr asswy, fel y cewch chwi wedi ei egluro Mat. 25.31. &c. I'r rhai ar y llaw ddeha, hynny ydyw i'r rhai Duwiol a da, yr adroddir y farn orfoleddus honno, Dunwch chwi fendigedig blant fy Nhad, etifeddwch y Deyrnas a barottowyd i chwi er pan seiliwyd y Byd. Ac yno y cânt hwy fyned i'r Deyrnas dra-ogoneddus honno, lle ni chaiff na phechod na thristwch fŷth aflonyddu mo'nynt mŵy, lle ni chânt hwy fŷth nac ofn na theim∣ledigaeth o fâth yn y bŷd ar ddrygion i na phoendod i'r Enajd na'r Corph: ond hwy a gânt eu derbyn yn ddïattreg i bresennoldeb Duw, lle mae cyflownder o orfoledd bŷth. Hwy a gânt y cyfryw eglur wybodaeth o'r bŷth-fendigedig Dduw, a'r cyfryw fywiol synnied o'i

Page 26

annherfynol Berfeithrwydd ag a'u lleinw hwynt 〈◊〉〈◊〉 Ryfeddod, Cariad a Mawl: a hwy a gant deimledigaeth'o gariad Duw a'u Hiachawdwr wedi ei dywallt mor helaeth arnynt, y cyfryw ag a dderchafa eu Calonnau, hyd yr uchder eithaf o lawenydd a dïolchgarwch, a'u geneuau a lenwir o Halelniahau a Chaniadau Mawl, ac yn y Gorchwyl tra hyfryd hwn y cânt hwy bŷth bythoedd fôd yn gyfrannog a'r gymmanfa fendigedig yn y Nef. Dyna berffeithrwydd y cwbl ôll, sef na bŷdd i orfoledd y Nefoedd fŷth ddiben. Mae yn odidog-ragorol yn gweith∣redu tragwyddol bwys Gogoniant i ni, yn ôl yr addewid 2 Cor. 4.17, 18. Ni a gawn fôd gyda 'r Arglwydd yn oestadol. 1 Thes. 4.17. Y Duw tragwyddol a fydd y Rhan a gaiff ei Bobl ef; a'u gorfoledd ynddo ef ni leiheir ac ni tholir drwy bob tragwyddoldeb. Hwy a fyddant yn oestadol yn ei fendigo a'i foli ef, yn oestadol wedi cael eu boloni a'u digrifo wrth edrych ar ei Ogoniant ac a mwynhâd eí gariad; yn oestadol wedi eu difyrru â thra-hyfryd a chyttûnol gymdeithas Angylion a Seintiau: A cheraint anwŷl a chyfeillion ni wahenir byth mwy oddïwrth eu gilydd, pan gyfarfyddant unwaith yn y Nef. Nid oes gan Farwolaeth ddim gallu arnynt mwy. Maent wedi dyfod mewn rhyw fesur megis Christ ei hûn, ac yno cânt hwy ei weled ef megis ag y mae yn ei holl ogoniant, Phil. 3.21. 1 Ioa 3.2.

Ond pa beth yw cael ein gwneuthur yn debyg i Grist, gweled Duw a'i fwynhâu, nid allwn ni vn gyflawn na'i adrodd na'i ddîrnad tra y bôm ni ymma yn y Corph: eu lleihau a'u hammherchu yn ddirfawr, a fyddai i ni gyfflybu gogoniantau y Nefoedd i hôll olud ac anrhydedd Llysoedd a Phalasau ymma ar y Ddaiar. Y gogoniant a'r gorfoledd nefol hynny sydd cymmaint ag nad ellir fyth mo'u heglur adnabod nes eu bod wedi eu mwynhâu: fel na ddichon Gwr dall fyth dywedyd yn iawn beth yw goleuni, hyd oni bô ei Lygaid yn agored i'w ddirnad. Mae'n ddigon i ni fôd gennym siccrwydd cyflawn gan addewidion yr Efengyl, fôd y cyfryw fywyd o anrhaethol ddedwyddwch wedi ei ddarparu i Ddynion da yn y Byd a ddaw. Ac fel yr aeth yr Arglwydd Iesu o'r blaen i'w

Page 27

barodtoi iddynt, felly yn awr y mae efe drwy ei Yspryd sanctaidd yn eu parodtoi hwynt i'r lle bendigedig hwnnw, drwy weithio ynddynt y grâs sydd yn eu cymhwyso hwynt i ogoniant, yr hwn yw ei wîr flaen-ffrwyth a'i ddechreuad yn eu Heneidiau hwynt. Gwîr sancteidd∣rwydd yw'r gwŷstl siccraf o ddedwyddwch tragwyddol, ac sydd yn ein gwneuthur ni yn addas iddo, Eph. 1.13, 14. Col. 1.12.

Gan hynny oblegid bôd y cyfryw orfoledd, o annher∣fynol fawredd, mor siccr ac mor ddïogel, oni adawwn ni gyd ein cynghori i ymegnïo i'w geisio ef, drwy rodio yn y ffyrdd sanctaidd sydd yn arwain atto? Siccr ydyw y gwneir felly, os oes gennym ddim crediniaeth yng-ngair Duw, ddim cyfrif o'n lles ein hunain. Ai rhaid i'n Heneidiau ni fyw tros byth mewn Byd arall, ac oni ymegnïwn ni hyd eithaf ein gallu a'n diwydrwydd i'w gwneuhur hwynt yn ddedwŷdd tros byth yno? Ond ein Heneidiau ni ein hunain ydynt hwy? Ac onid ydynt hwy gan hynny yn haeddu ein gofal a'n cariad ni? Os byddwn ni synhwyrol a da, ond er ein mwyn ein hunain y mae, er ein dedwyddwch ein hunain? Ac oes un ffordd arall i ni i'n gwneuthur ein hunain yn ddedwŷdd ond drwy ennill cariad Duw a bywyd tragwyddol? Onid ydym ni yn gweled fôd pôb cyssur bydol yn fyr ac yn ansiccr? maent yn diflannu yn ein dwylo, ac yn darfod wrth eu harferu. Y mae ein Cymmydogion a'n cydnabod yn meirw beunydd o'n hamgylch; llawer o'n Ceraint anwŷl a'n Perthynas a aethant o'n blaen ni yn barod, a ninnau ein hunain ydym yn bryssur yn eu dilyn hwynt. Yr ydym ni yn union ar derfynau Tragwyddoldeb, yn ogwyddedig i filoedd o glefydau a drwg ddamweiniau y rhai a allant attal ein hanadlau ni yn ddisymmwth, ac yna fe dderfydd am danom. Gan hynny o herwŷdd nad all fôd gennym siccrwydd o'r bywŷd hwn nac o'i feddiannau: O gadewch i ni edrych am siccrwydd go∣goniant tragwyddol; yr hyn drwy gynnorthwy. Duw a allwn ni ei wneuthur, hyd yn oed y tlottaf ar y Ddaiar, os daw i fôd yn wir dduwiol ac un dda. Canys nid ydyw Duw dderbyniwr wyneb. Fe fu Christ farw yn gystal

Page 28

dros dlodion a chyfoethogion, a'r rhai nid oes ganddynt etifeddiaeth ar y Ddaiar a allant fôd yn Etifeddion Teyr∣nas Nef, os byddant gyfoethogion o ffydd a chariad tuag∣at Dduw, Iago 2.5. Ac i'm tŷb i fe ddylai y rhai sydd yn cael cymmaint o helbul a thristwch yn y bywyd hwn, gynhyrfu i ymgais ar ôl golud a gogoniant yn y bywyd a ddaw. Yno y ceiff y Lazarus tlottaf fîl o weithiau fŵy o ddifyrrwch a gorfoledd, nag y mae un Difes balch, neu y Glythion goludog, a'r Epicuriaid yn ei gael yr awr hon yn eu danteithion blasus a'u Gwisgoedd gogoneddus. Ac etto, fe all gwîr obaith o'r gogoniant hwn lenwi meddwl Gŵr daa chymmaint o orfoledd, ag yr anghofia efe ei dlodi, ac ni wnâ gyfrif fôd mo'i ddioddefiadau yn haeddu eu cyfflybu i'r dedwyddwch y mae efe mewn gobaith am dano, ac ni newidiai efe mo'i helynt a'r Tywysog mwyaf ar y Ddaiar, yr hwn sydd ddïeithr i'r gobaith hwnnw. Fel hyn yr oedd gyda'r Apostolion Sanctaidd a'u dilynwŷr, 2 Cor. 6.10. 1 Pet. 1.6, 7, 8.

Fel hyn y darfu i mi ar fyr adrodd i chwi beth o dded∣wyddwch y duwiol yn y Bŷd a ddaw: Ond ar y llaw arall ystyriwch beth a fydd rhan y drygionus, yr hwn sydd yn diystyru trugareddau Duw, a chynnygion ac addewid on yr Efengyl: y rhai hyn o'r diwedd a gwympant dan ei drwm Ddigofaint ef a'i Ddîaledd, ac yno y bydd rhaid iddynt aros yn dragywŷdd mewn tra-anoddef boenau Eniad a Chorph, a osodir allan drwy y pethau mwyaf ofnadwy, megis Tân a Brwmstan, a'r Prŷf ni bydd marw bŷth, yr hwn sydd yn cnoi ac yn brathu eu calonnau yn dragwyddol. Hwy a deflir i'r tywyllwch eithaf, lle mae wylofain, griddfan, a rhingcian dannedd, heb y llêwyrch llaiâf o obaith neu gyssur hyd bôb tragwyddoldeb. Mat 25.30, 41, 46. Marc▪ 9.43. hyd ddïwedd y bennod; 2 Thes. 1.7, 8, 9. Y rhai'n yw'r Geifr y rhai wedi eu gosod ar y llaw asswy sydd raid iddynt wrando y farn dosturus honno Ewch oddiwrthif rai melltigedig i'r tan tragwyddol a barod'towyd i Ddiafol ac i'w Angylion. Barn drom, ac etto yn dra-chyfiawn. Canys hwy a giliasont oddïwrth Dduw, ac a eceulussasont ei wasanaeth ef yma ar y ddaiar, ac am hynny rhaid iddynt yn awr gisio o'i bresenoldeb ef,

Page 29

ym mha ûn ni ddichon eu meddyliau llygredig hwynt gymmeryd dim difyrrwch. Hwy a wnaethont fwy cyfrif o'r Dafarn nag o Dŷ Dduw; ac a gymmerosant fwy difyrrwch yn Gwledda ac yn Yfed, yn Rhuo ac yn Glodd∣est ym mysg eu Cyfeillion drygionus, nag yn addoli Duw yng-hymmunded y Saint; ni chargsont hwy na gweddïau na moliant yng Nghymanfeydd ei Bobl, ac nid oedd dim meddwl ganddynt ar ddyfod i Fwrdd yr Arglwydd, er ei mynych wahodd atto; ac am hynny rhaid ydyw yn awr eu cau hwynt allan o'r fâth gynlleidfa Sanctaidd, ac oddi∣wrth y fâth oruchel a nefol orchwylion, i'r rhai y maent yn hollawl yn anghymmwys. Yr oedd llawer o honynt yn ymroi 'n fawr i felldithio, ac yn awr y daeth melldith arnynt: Y Felldith Dduw yr hon yn eu creulondeb a ddymunasont hwy yn fynych i'w Cymmydog, a syrthiodd yn awr arnynt en hunain. Heb law hyn, oni ddarfu i lawer o'r Trueniaid halogedig hyn îe alw am y felldith hon areu pennau eu hunain, yn yr iaith Uffernol hono Mel∣dith Dduw imi? Apha ryfeddod os caniatteir eu herfyniad, a'u bôd yn awr wedi eu barnu i'r Ddamnedigaeth yr oeddynt hwy fel hyn yn galw am dani? Gan Ddiafol yr arweinwyd ac yr hyfforddwyd hwynt, a chan ei Offer drygionus ef a'u trachwantau anifeiliaidd eu hunain; ac am hynny yn awr mae yn rhaid iddynt gael diafol a'i Angylion, a phechaduriaid damnedig fel nhŵy eu hunain i fôd yn gyfeillion iddynt mewn poenau, y rhai ydynt cyn belled oddiwrth dosturio neu gyssuro y naill y llall, a'u bôd yn hytrrach yn melldithio eu gilydd yn awr yn eu trueni, y rhai o'r blaen oeddynt yn temptio eu gilydd i bechu. Oh ymgyfarfod gresynol? Pan ddêl y Meddwon, y Putteinwŷr a'r Putteiniaid yno ynghŷd i'r ffaglau poethion hynny. Lle bydd ofer llefain am ddefnyn o ddwfr i oeri'r Tafod. Ni cheir mo honaw: eu hôll bethau da a aethant herbio ac a ddarfuant; a choffadwriaeth eu hôll gyfeddach a'u trythyllwch nid yw 'n gwasnaethu ond i 'chwanegu eu poenau. Ac yr awr hon hefyd hwy a allant gofio fel y darfu i Dduw drachefn a thrachefn alw arnynt, ond ni wrandawent; ni wrendŷ ynteu yn awr gan hynny mo'u llefain hwynt, wedi dyfod ing a chyfyngder arnynt, Dih. 1, 24. hyd y diwedd. Ac er iddynt grîo allan yn

Page 30

erbyn eu cyfeillion a chyhuddo y Cythraul, ac yn eu cynddaredd gablu Duw ei hûn, etto eu Cydwybodau hwynt a ddymchwelant yn y creulondeb mwyaf arnynt eu hunain, y rhai heb yn waetha i'r hôll rybuddiau a gawsont, a ddarfu iddynt drwy eu parhâd gwîrfodd ac anedifeiriol mewn pechod, eu foddi eu hunain yn y trueni hwn, o ba ûn ni chânt hwy fŷth ollyngdod. O ai ofnadwy, Tân tragwyddoll! Poenau tragwyddol! O fel y mae meddwl am hyn yn suddo ac yn torri eu calonnau, ac yn eu llenwi hwynt a'r erchyllrwydd a'r anobaith dyfnaf. Pwy a all drigo mewn llosgfeydd tragwyddol? Pwy a all? Ac etto i'r pechadur damnedig y mae'n rhaid, er mai yn y modd gerwinaf ac anoddefgaraf. Wedi iddynt orwedd fîl myrddiwn o flynyddoedd yn y lle poenedig hwnnw, etto nid oes un moment llai i ddyfod, mae tragwyddoldeb cyfan etto yn ôl. Y Prŷf ni fydd byth ma•••• 〈◊〉〈◊〉 y fflam dân ni ddiffodir byth. Nid ydyw Duw 〈◊〉〈◊〉 i'w gyhuddo o dostrwydd yn hyn ei gŷd, o 〈◊〉〈◊〉 mai gwaith y pechadur ei hun ydoedd, ffrwyth 〈…〉〈…〉 ei hun: Oblegid hwy a wyddasant y soddai pec•••••• hwynt i Uffern, ac etto hwy a anturient arno. Ac yn ddi mae efe yn eu suddo hwynt yno mor nattu∣rio ag y syrth y garreg ar y ddaiar. Ie ymma yn y bŷd y Balch a'r Cybydd, y Cenfigennus a'r dïalgar, yr halogedig a'r trythyll ydynt yn ennyn peth o gynnyd uffern yn eu Heneidiau eu hunain; a thra bônt yn dŵyn gyda hwynt yr unrhyw dymmer meddwl drygionus, rhaid i hynny etto eu gwneuthur hwynt yn dra-gofidus a thruain mewn Bŷd arall, bŷth cyhŷd ag y bo byw eu Heneidiau hwynt, a'r camweddau hyn yn glynu wrthynt, hynny ydyw, hyd bôb tragwyddoldeb. Na feied yr hwn sydd yn dwyn tân yn ei fynwes ar Ragluniaeth Duw am wneuthur y tân yn boeth, pan ymdeimlo a'i losgfa, ond beied ar ei ynfydrwydd a'i afreol ei hûn: Ac felly y mae yn rhaid i bechaduriaid sydd yn eu barnu eu hunain wneuthur o'u hanfodd.

Ac yn awr mynegwch i mi yn rhodd, Oni ddylech chwi gyda phob rheswm yn y byd edifarhau allan o law am eich pechodau, a'u taflu oddïwrthych drwy eu cash u

Page 31

a'u ffieiddio, ac o hyn allan ymossod at yrfa o Sanc∣teiddrwydd difrifol, fel felly y dïangoch o'r holl drueni hwn a fygythir ar y rhai drygionus, ac y byddoch cyfran∣nog o'r gogoniant a addewir i'r duwiol a'rda. Onid ydyw mîl o bunnoedd yn y flwyddyn yn haeddu llafur un dydd? Ac oni wna holl lawenydd y Nef yr hwn a bery byth bythoedd, gyflawn wobrwy am ein diwydrwydd ni yng ngwasanaeth Duw am fyr amser y bywŷd hwn? Ac onid ydyw tragwyddol boenau Uffern yn ddigon er attal Dynion oddïwrth fuchedd anllywodraethus a phecha∣durus, er iddo fod yn fuddiol ac yn hyfryd iawn ymma dros ennyd fechan? Ond chwi a glywsoch o'r blaen brofiad helaeth, fôd Buchedd Sanctaidd îe yn y Bŷd presennol ym mhob modd yn fwyaf bûdd a hyfrydwch i ni. Yn ddïammau gan hynny y mae Gwr da yn cael mwy melysder a bodlondeb yn y ffordd i'r Nefoedd, nag y mae pechaduriaid yn y ffordd i Uffern. Ein Duw gra∣susol ni sydd yn trefnu i ni wasanaeth esmwyth ac arhy∣deddus, ac yn rhoi gwobrwyon gogonedd•••• 〈…〉〈…〉 Cythral sydd Feistr creulon erchyll, ac y 〈…〉〈…〉 gaethweision ar y drygwaith gwaelaf, ac we•••• 〈…〉〈…〉 talu iddynt gyflogau tra gresynol, Rhuf. 6. 〈…〉〈…〉 Pa un gan hynny a fyddwch chwi ai gwŷr rhy•••• 〈◊〉〈◊〉 Grist, ynteu caethweision i'r Cythraul? Pa un a wnewch chwi, a'i rhodio yn ffyrdd daionus Duw, y rhai a ddy∣gan heddwch a chyssur ymma ar y Ddaiar, a ha∣gwyddol ogoniant yn y Nefoedd; ai yn llwybrau ceimion pechod, y rhai yn awr a ddygant dristwch a chwilydd a phoen, ac yn ôl hyn a'ch boddant chwi mewn trueni tra∣gwyddol a phoen yn Uffern? Fel hyn y gossodwyd o'ch blaen chwi fywyd a marwolaeth, dedwyddwch a thrue∣ni; Pa ddewis gan hynny a wnewch chwi? Fe debygai 〈◊〉〈◊〉 nad oes fawr anhawsder yn yr achos i ŵr a defnydd ei reswm ganddo, os gwna efe hefyd ddefnydd o honaw yn y pethau a berthynant i'w Enaid. Ychydig fyfyrio a wasnaetha 'r tro i ddwyn ar ddeall i ddynion, nad oes un rheswm o herwŷdd pa ham y dylent hwy ddewis tlodi a gwradwydd, penyd a charchar (os gallant drwy onest∣rwydd eu gochel) yn hyttrach na Golud ac Anrhydedd, Esmwythder a Rhydd did. Ond mae yn sccr gennif fôd

Page 30

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 31

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 32

fîl o weithiau lai rheswm i ddŷn, i anufuddhâu i Dduw ac i ddamnio ei Enaid ei hun bŷth, yn hyttrach na'i fod∣loni a'i wasnaethu ef, ac felly gwneuthur siccrwydd o iechydwriaeth dragwyddol. Gan hynny gadewch i mi etto attolygu arnoch gymmeryd y peth hyn i'ch ystyriaeth, a meddwl yn ddifrifol beth sydd fwyaf rhesymmol a mwyaf llesol i chwi eich hunain, ac yna dewiswch yn gyfartebol. Ac mi a attolygaf i Dduw hyfforddi eich calonnau i wneuthur dewis mor bwyllog ag na bo i chwi fŷth achosi edifarhau o'i blegid, ymma nag yn y Bŷd a ddaw. Amen.

Page 33

PEN. II. Portreiad byr o fuchedd Sanctaidd, gyda rhai Hyfforddiadau byrrion tuag-at yr unrhyw

OS gofynnwch chwi i mi yr awr hon ym mha beth y mae y Sancteiddrwydd hwn o'n buchedd yn gynwysedig, i ba un y bûm i trwy 'r amser yn eich annog, hynny yr wyf yn gobeithio a ellwch chwi mewn peth mesur ei ddeall wrth edrych yn ôl ar y peth a ddywedais yn y dechreu, ac wrth ddal sulw ar y peth a adroddais i ar hŷd fy ymadrodd oll. Etto er mwyn cynnorthwy i chwi, mi a'i gosodaf ger eich bronnau yn beth eglurach, er mai ar fyrr eiri••••, fel nad ellir disgwil amgen yn y Pappur bychan hwn.

Yn gyffredinol gan hynny (fel yr adroddais i y peth o'r blaen) Eich annog chwi yn unig yr ydwyf i fyw fel y gweddai i wîr Gristnogion, yn ôl eich Addunned yn eich Bedydd, yn cadw pa un y mae eich Christnogeiddrwydd chwi yn gynnwysedig. Yn awr wrth eich Bedydd yr ydych chwi yn rhwym i gredu yn Nuw Tad ac i ufuddhau iddo, a'r Mâb a'r Yspryd glân. Rhaid i chwi gydnabod yn ddiffuant ac yn ddiragrith mai Duw 'r. Tad a'ch

Page 34

gwnaeth ac sŷ'n eich cadw chwi, mai Mab Duw yw eich Prynnwr, a'r Yspryd glan yw eich Sancteiddiwr, Arweiniwr a'ch Diddanwr. Ac yn gyttunol a hyn y mae 'n rhaid i chwi ymddwyn eich hunain yn gystal yn eich calon ac yn eich buchedd. Gan hynny rhaid i chwi ymwrthod a Diafol, y Bŷd a'r Cnawd, y rhai a fynnent eich tynnu chwi ymmaith oddiwrth Dduw, a rhaid i chwi yn ddiys∣gog gredu pyngciau eich Ffydd Gristnogawl, ac yn ofalus gadw gwynfydedig Ewyllys Duw a'u Orchmynnion holl ddyddiau eich bywyd. Eich ffydd a ofynnir mewn trefn i ufudd-dod. Canys onid ydych yn credu Efengyl Christ, id ydych chwi debyg i ufuddhau iddo. Yn y ddau beth hyn gan hynny y mae Crefydd Christion yn gynnwysedig, i'r hyn y mae efe yn rhwym wrth ei Fedydd, sef, yn Credu y peth a ddatgyddiodd Iesu Grist, ac yn gwneuthur yr hyn a orchmynnodd. Ar fyr, Christion da yw efe yr hwn sŷ'n credu yn ddïysgog ei Gredo, ac yn ofalus yn cadw y Gorchmynnion.

Yr Athawiaethau yr ydym ni i'w credu ydynt yn ddïau yn gyflawnach ac yn helaethach wedi eu rhoddi i lawr yn yr Ysgrythyrau sanctaidd y rhai a'sgrifennwyd gan wŷr wedi eu hysprydoliaethu gan yr Yspryd glan, ac felly a ddyleid eu derbyn megis Gair Duw, a'u darllain yn ddiwyd a'u credu yn ddisgl. Ond prif Byngciau y Ffydd Gristnogawl a grynhoir ar fyr yn yr hwn a elwir Credo yr Apostolion, Credaf yn Nuw y Tâd, &c. Hwn yr wyf yn gobeithio eich bôd yn gydnabyddus iawn ag e gan ei fôd mor fyr ac eglur, ac a addrodir beunydd yng ngwasanaeth yr Eglwys; ac am hynny ni osodaf fi mo'naw yn ehang ar lawr. A hwn hefyd yr wyf yn gobeithio eich bôd yn credu ei fôd yn dra gwîr. Chwi a'i cymrech yn ddrwg, pe'r amheuwn i eich crediniaeth o'r Credo, heb yr hwn nid ydych i'ch cyfrif yn Gristnogion. Ond gadewh i mi eich cynghori chwi i ystyried yn fynych ac yn ddifrifol y gwirioneddau mawr cynwysedig yn y Credo, fel y galloch eu deall yn eglurach a'u hoffi hwynt yn guach. Ac attolwg drychwch ar fôd eich crediniaeth o honynt yn gadarn iawn ac wedi ei dyfn-wreiddio yn eich Eneidiau, fel fell 〈◊〉〈◊〉 ymddanghoso ffrwyth eich Ffydd

Page 35

yn Sancteiddrwydd eich Buchedd. Heb hyn, gwybo∣daeth noeth o'r Credo, a'i adrodd yn fynych iawn ni thâl faw i ni. Canys, fel y dywedais i chwi, Ufudd-dod yw diben Ffydd. Ac y mae holl byngciau ein Ffydd ni yn dra eglur yn tueddu i'n gwneuthur ni yn Sanctaidd ac yn dda, os gwnawn nî ond eu dyfal Synnied, a'u hystyried yn dda. I ddangos hynny ar fyrr eiriau, Os credwn ni mai Duw y Tad holl-alluog a'n gwnaeth ni a'r holl fyd; Yna'r ydym ni yn rhwym i'w garu a'i anrhydeddu ef, î'w addoli ac ufuddhâu iddo, megis ein gwneuthurwr, a'n Cyn∣haliwr, yr hwn sydd Holl-alluog mewn Nerth, Diddiben mewn Doethineb, Daioni, a phôb mâth ar Berffeithrwydd. Os credwn ni mai Iesu Grist yw mab Duw, a Phrynnwr dynol ryw, yr hwn a fu farw drosom ac a gyfododd drachefn, ac a dderchafodd i'r Nefoedd, ac a ddaw oddiyno i farnu 'r byw a'r meirw, ac a ganiatta i'r holl Ffyddloniaid edifeiriol ac ufudd, faddeuant o'u pechodau, a bywyd tragwyddol, ond a farn y rhai drygionus i drueni tragwyddol: Rhaid i'n crediniaeth ni o hyn, ein harwain ni i wîr Edifeirwch a gwellhâd Buchedd, ac i ufudd roi ein pwys ar drugaredd∣au Duw, a haeddedigaethau Christ, am fad••••uant ac iechydwriaeth. Ac os credwn ni, mai swydd yr Yspryd Glan yw ein Sancteiddio ni, a holl etholedigion Bob'l Dduw; yna ni a ddylem weddïo ar Dduw am ei Yspryd Sanctaidd, a rhaid i ni ymroi ein hunain i'w gynhyrfiadau da ef, ac ymostwng i'w weithrediad ar ein heneidiau, fel y bo iddo ein Sancteiddio ni a'n gwneuthur yn dduwiol, fel felly y byddom Aelodau bywiol o Eglwys lân Gatholic Christ. Ac yn yr Eglwys hon yr ydym ni yn rhwym i aros, fel felly Yng-nghymmun y Sainct, y gallom fwynhau budd y Gair, y Sacramentau, a'r Gweddïau, drwy ba foddion y mae 'r Yspryd glân yn gweithio grâs ynom, ac yn 'chwanegu yr unrhyw, hyd oni pherpheihier o mewn Gogoniant tragwyddol, i'r hwn y ceiff Gwŷr da eu derchafu, Enaid a Chorph, yn yr Adgyfodia fel y câdd eu Heneidiau hwynt afael arno yn ebrwyddi yn ôl eu marwolaeth.

Fel hyn y gwelwch pa fodd y mae gwîr Grediniaeth yn arwain Dŷn i Sancteiddrwydd Buchedd. Ac am hynny

Page 36

yn yr Ysgrythyr ân yr ydym ni yn cael fôd cymmaint o grybwyll wedi i wneuthur am Ffydd, neu am gredini∣aeth yn Nuw a Christ. Hyn mewn llawer o leoedd sydd wedi ei arddrchafu yn uchel, ac a ofynnir yn gaeth gennym, megis gwir sylwedd ein Dledswydd; yn gym∣maint ag y dywedir yn ynych ein bôd ni i'n cyfiawnhâu neu i gael maddeuant ar gyfrif ein Ffydd, ac i gael iechydwriaeth drwy Ffydd, a hyn ei gŷd yn bennaf fel yr wyf yn meddwl, oblegid mai gwîr Ffydd sydd yn dwyn allad Ufudd-dod, ac yn dyfod ag un i fôd yn Ddisgybl ufudd, cywîr i Iesu Grist, ac felly mae yn ein gwneuthur ni yn addas i drugareddau Duw yn a thrwy ein Hiachawd∣wr bendigedig. Ond pan nad yw Ffydd yn dwyn allan ffrwyth Sancteiddrwydd a Gweithredoedd da, nid yw o gyfrif yn y bŷd gyda Duw, ac ni lesia i ni, fel y gellwch chwi weled yn helaeth yn yr all bennod o St. Iago, heb henwi un lle arall-Gan hynny chwi a wyddoch ein bod yn rhwym with ein Bedydd, nid yn unig i gredu holl Byngciau y Ffydd Gristnogawl ond hefyd i gadw Gorchmynion Duw, y rhai yr wyf i son am danynt yn nessa▪

Yn awr, y Gorchmynion hyn hefyd a gynhwysir yn eg∣yn lur yr Ysgrythyrau Sanctaidd; ac am hynny me mwy o reswm etto pa ham y dylech yn ddïwyd eu dai•••••• a'u studio, fel y gwypoch ewylys Duw ac y gwnelo•••• ef. A'r hyn oll sydd i ni i'w wneuthur, yr wyf fi yn bwrw'ei fôd yn gynnwysedig yn y deg Gorchymmyn, fel yr egluri hwynt i ni, ac y cymhellir arnom, gan y Prophwydi yn yr hên Destament, a chan ein Hiachawdwr a'i Apostolion yn y Newŷdd. Yn enwedig ym-Mhregeth ein Hiachawdwr ar y Mynydd, yn y 5. 6. a'r 7. Bennodau o St. Matthew▪ Ac am hynny darllennwch yn fynych y Pennodau hyn drostynt. Yno y cewch weled pa fath ddynion y dylai Disgyblion yr Iesu fod, sef fel eu Meistr, o Yspryd addfwyn 〈◊〉〈◊〉 gostyngedig, llariaidd a llednais, pur a heddy∣chol, trugaog ac ymmyneddgar a'r cyffelyb. Y cyfryw rai a'r rhai n y mae efe yn eu galw yn wynfydedig yn nechreu y Bregth Nefol honno, a'r rhai'n yn unig yd ynt hwy y rhai a wna efe yn dra-bendigedig gyd-ag ef ei

Page 37

hunan byth. Ond os mynnwch chwi gael Swm eich Dylêd tuag-at Dduw a'ch Cymmydog, fel y gofynnir yn y dêg Gorchymmyn, wedi ei osod allan ar fyr, cymmerwch hi yng-ngwîr eiriau Catechism yr Eglwys.

Fy nyled tuag at Dduw yw credu ynddo, ei ofni, a'i garu a'm holl Galon, a'm holl feddwl, a'm holl Enaid, ac a'm holl nerth; ei addoli; diolch iddo; rhoi fy holl ymddiried ynddo; galw arno; anrhydeddu ei Sanctaidd 〈◊〉〈◊〉 ef a'i Air, a'ï wasnaethu yn gywir holl ddyddiau fy mywyd.

Fy nylêd tuag at fy Nghymmydog yw, ei garu fel fi fy h••••, a gwneuthur i bôb Dyn megis y chwennychwn iddo wneuthur i minneu. Caru o honof, anrhydeddu, a chymmorth fy Nhad a'm Mam. Anrhydeddu ac ufudd∣hau i'r Brenin a'i Swyddogion▪ Ymddarostwng i'm holl Lywiawdwyr, Dysgawdwyr, Bugeiliaid ysprydol, ac Athrawon. Ymddwyn o honof yn ostyngedig, gan berchu pawb o'm gwell. Na wnelwyf niwed i nêb ar air na gweithred. Bôd yn gywir ac yn union yn mhôb peth a wnelwyf. Na bo na chas na digasedd yn fy nghalon i nêb. Cadw fy nwylo rhag chwilenna a lledratta; fy nhafod rhag dywedyd celwydd, cabl eiriau na drwg-absen.

Cadw fy nghorph mewn cymmedroldeb, sobrwydd a diweirdeb. Na chybyddwyf ac na ddeisyf wyf dda na golud neb arall; eithr dysgu, a llafurio yn gywir, i ennill fy mywyd, a gwneuthur a ddylwyf ymmha fuchedd by nnag y rhyngo bodd i Dduw fy ngalw.

Dymma eich Dledswydd i chwi mewn lle cynnwys, yr hon a ellwch chwi yn hawdd ei chofio; ond yn enwedig crfynniwch ar Dduw 'sgrifennu ei Gyfreithiau yn eich calon, fel y galloch yn ewyllysgar ac yn gyssurus ufuddhau iddynt yn eich Buchedd a'ch Ymarweddiad. Ac er cymmorth pellach i chwi, mi a helaethaf ychydig ar y pennaf o'r Dledswyddau hyn, yn enwedig hwnnw o garu Duw a'ch Cymmydog, ac felly y diweddaf â rhai hyffordd∣iadau byrrion a chyffredinol er mwyn cyfarwyddo eich

Page 38

camrau yn barottach ac yn ddïanwadalach yn ffyrdd Sancteiddrwydd holl ddyddiau eich Bywyd.

Caru Duw a'ch holl Galon a'ch Enaid, yw'r cyntaf a'r Gorchymmyn mawr; megis y mae ein Hiachawdwr ei hun yn dysgu i ni, Matth. 22.37, 38. Hyn a wnâ i ni ufuddhau yn haws i'w holl Orchymynnion eraill ef. Canys os gwîr-garu Duw a wnawn, ni a fyddwn ofnus iawn rhag ei anfodloni ef, a gofalus iawn i'w fodloni ef yn ein holl ffyrdd. Ac yna 'r ydym ni yn gwîr-garu Duw a'n holl Galon, pan garom ni ef yn fwy na'r holl bethau eraill yn y Bŷd, yn fwy na Chyfoeth, Difyrrwch, Anrhydedd, Ceraint, na dim arall yr ydym ni yn ei fwynhau, ïe, yn fwy na 'n Heinioes; yn gymmaint ag yr ymadawwn ni a'r cwbl oll, yn hyttrach na cholli ffafr Duw, ym mha un yr ydym ni yn cyfrif fôd ein dedwyddwch pennaf yn gynnwysedig. Hyn yr ydwyf yn cymryd ei fod yn wîr Han∣fod Crefydd, ac ydyw'r peth, heb pa un mae ein Hiachawd∣wr yn dywedyd i ni, na allwn ni fôd yn Ddisgyblion iddo ef, Matth. 10.37, 38. Ond pan ddelom ni unwaith i'r dymmer fendigedig hon, ni chawn ni mo'no yn beth anhawdd iawn i ni i'n gwadu ein hunain, a chymmeryd i fynu ein Croes, a dilyn ein Harglwydd a'n Hathro gan wneuthur yn dda a goddef yn ammyneddgar.

Gan hynny gadewch i ni erfyn yn ddifrifol ar Dduw drwy ei Yspryd Sanctaidd ar weithio o hono y cariad hwn yn ein Calonnau. Ac at ein Gweddiau gadewch i ni 'chwanegu ein hymegnîad dïwŷd ein hunain; yn enwedig gadewch i ni fôd yn myfyrio yn fynych iawn ar holl ddaioni Duw a'i drugaredd, a amlygwyd i ni ac i'r holl Fŷd. Gadewch i ni ystyried beth a wnaeth efe drosom ni yn barod, dros yr Enaid a'r Corph, a pha beth a addawodd efe ei wneuthur yn y Bywyd sydd i ddyfod. Ac na rown i'n calonnau fŷth esmwythdra, nes eu cyfan-gysylltu a'r bŷth-fendigedig Dduw megis ein dai∣oni pennaf, a'n hunig ddigonol Gyfran. A cheisiwn yn ddifrifol ei ffafr ef drwy'r Arglwydd Iesu, y Cyfryngwr, yr hwn yn yn-swydd a ddaeth i'r Bŷd, i'n dŵyn ni i fuchedd o gyfeillach á Duw, fel y carem ef, ac y cäem ein caru ganddo, a byw bŷth gydag ef mewn cariad a

Page 39

gorfoledd. Ond cofiwch yn oestad mai ufudd-dod i Dduw, yw'r unig siccr eglurdeb o wîr Gariad cadwedigol. Yr hwn a gâr Dduw, a gashâ Bechod a Drygioni. Gwnaed y Mab y lliw a fynno o gariad ac anrhydedd i'w Dad, nid ydyw efe yn gwir-garu mo honaw, oni chymmer efe bôb gofal dledus 'w fodloni ef.

Ac os ydych chwi fel hyn yn ddiragrith yn caru Duw megis eich Tâd, yna chwi a ellwch bôb amser ymddiried yn gyssurus ynddo, a rhoi eich pwys a'ch hyder arno, yr hon sydd Ddledswydd fawr arall, ac a ddŵg heddwch mawr a llonyddwch i'n meddyliau. Esay 26, 3, 4, Tra byddoch chwi byw mewn ufudd-dod i orchymmynion Duw, mae i chwi hawl siccr yn ei Addewidion ef, ac chwi a ellwch yn ddiogel roi eich pwys ar ei ddaionus Rag∣luniaeth ef, am gyflownder o honynt. Gan hynny beth bynnag yw eich anghennion, eich peryglon, neu eich dioddefiadau, nac amheuwch Ragluniaeth Duw, ond disgwiliwch yn ymarhous, a gwnewch eich dledswydd eich hunan, a byddwch siccr, y bydd Duw yn ei amser da, i'ch cynnorthwyo ac i'ch gwared chwi; efe a'ch hyffordda, a'ch cyssura ac a'ch cadarnhâ chwi. Gadewch i'r holl brawf a gawsoch chwi hyd yn hyn o'i dirion dru∣garedd ef, eich rhwymo chwi i ymddiried ynddo cyhyd ag y byddoch byw. A chymmerwch ofal mawr, na bo i chwi fyth rwgnach na thuchan yn erbyn Duw mewn un helbul yn y byd; pan gyfarfyddoch chwi a'r croesau neu'r colledion trymmaf, neu golloch eich Ceraint a'ch Cyfeillion anwylaf, dywedwch gyd-a Job Sanctaidd, Yr Arglwydd sydd yn rhoddi, a'r Arglwydd sy'n dwyn ymmaith, bendigedig fyddo Enw'r Arglwydd. Attolygwch i Dduw ddysgu i chwi y wes ragorawl honno o Fodlondeb ym∣mhôb Cyflwr, Phil. 4.11, 12, 13. Er y gellwch chwi fôd yn isel ac yn dlawd yn y Byd, etto ystyriwch, mae i chwi bob amser achos i fôd yn ddïolchgar, ond nid oes un amser achos i chwi i gwyno. Duw a ŵyr a gyflwr sydd orau i ni, a gadewch i ni ado iddo ef ddwis beth a gawn ni. Nyni y rhai nid ŷm yn haeddu dim ond digo∣faint a thrueni, a ddylem gydnabod mawr ddaioni Duw, ein bôd ni y tu ymma i Uffern. Trugareddau'r Arglwydd ydyw na ddarfu am danom, a'n bôd ni yn mwynhau y tipp∣lleiaf

Page 40

o gyssur. Meddyliwch mor dlawd a fu yr Arglwydd Iesu er ein mŵyn ni, yr hwn nid oedd ganddo le i roddi ei Ben, ac a gadd a'i wasnaethodd o eiddo eraill; ac yn yr unrhyw Gyflwr gwael y bu 'r Apostolion fyw. Mae eich Cyflwr sâl chwi yn eich rhyddhau oddiwrth lawer o faglau a phrofed gaethau, ac oddïwrth lawer o ofalon a christwch y rhai nid eill y Cyfaethogion mo'u go∣chel. Os ydych chwi yn gwîr-garu Duw, a chennych drysor yn y Nef, yr ydych chwi yn oludog iawn, er nad oes gennych nac Aur nac Arian. Nac ofnwch, na ddyry Duw i chwi ac i'r eiddoch Ymborth a Dillad, a thra bo hynny gennym, byddwn fodlon a dïolchgar. Ie, bwriwn y gwaethaf, sef y gallwn ni feirw o newŷn ac eisiau bara (yr hyn ni ddigwydd i un ymmysg Cant yn amser heddwch a llawnder) etto os ein Heneidiau ni a fyddant wedi eu parottoi i fynd i'r Nefoedd, ac a gânt eu dwyn yno, ni chawn ni achos yn y bŷd i gwyno ymmha fdd, neu o ba Angau y byddom feirw. Mi a fûm y∣chydig helaethach yn hyn, er mŵyn Pobl dlodion, y rhai ydynt ry barod i fôd yn anfodlongar, ac i rwgnach o herwŷdd eu Cyflwr; er eu bôd ysowaeth yn ddigon mynych yn eu dŵyn eu hunain iddo, neu yn ei wneuthur yn waeth o lawer drwy eu bucheddau dïofal anllywod∣raethus eu hunain, fel y crybwyllwyd o'r blaen.

Ac etto cyn i mi fyned rhagof at eich Dylêd chwi tuag∣at eich Cymmydog, gadewch i mi ar ychydig eiriau, eich hyfforddi chwi tuag at Addoliad Duw mewn Gweddi∣au a Mawl. Hon sydd ddledswydd a gymmhellir arnom ni yn dra mynych yn yr Ysgrythyr, ac a arferir gan bob gwr da, a goleuni nattur ei hun a ddichon ein hyfforddi ni atti. Mae arnom eisiau beunyddiol am drugaredd Dduw, ac 'r ŷm ni beunydd yn archwaethu o honi, ac am hynny i'n dysgir i weddio bob amser, ac ym mhob peth 〈◊〉〈◊〉 roddi diolch. I Dduw yn unig y mae yn rhaid i ni aberthu ein Gweddïau a'n Moliantau yn Enw Christ Iesu, megis y mae efe ei hun yn dysgu i ni, Matth. 4.10. Ioan 16.23. Nid rhaid i ni weddïo ar Angylion na Seintiau, gan eu gwneuthur megis yn Gyfryngwŷr i ni, canys hon yw swydd neilltuol Christ, yr hwn a fu farw drosom, ac sydd yn awr ar ddeheulaw Duw yn eiriol drosom, 1 Tim. 2.5.

Page 41

Heb. 7.25. Gan hynny rhaid i ni greaduriaid gwaelion, pechadurus, ddyfod yn oestad at Dduw yn Enw Christ, ac er ei fŵyn ef yn unig, gobeithio cael ffafr Duw a maddeuant pechodau, bôd yn gymmeradwy ganddo ein personau ni a'n gwasanaeth, a chael o honom Iechyd∣wriaeth i'n Heneidiau,

A'n Hiachawdwr sydd yn ein dysgu ni i addoli Duw mewn môdd pûr ac Ysprydol â'n Calonnau a'n Heneidiau, oblegid mai Yspryd yw efe, a'i fôd yn chwilio calonnau Dynion, Ioan 4.24. Am hynny nid allwn ni mewn un môdd, wneuthur Delw neu Lûn Duw, na rhoi Addoliad Crefyddol i Ddelw, yr hyn sydd yn union yngwrthwyneb i'r ail Gorchymmyn. Nid allwn ni'ch waith ffurfio yn ein meddyliau un mâth ar lûn corphorol o Dduw pan weddï∣om arno, ond rhaid i ni feddwl o honaw megis Yspryd tra-phûr a gogoneddus, tra-galluog, doeth, a daionus, yr hwn sydd yn llenwi yr holl Fŷd â'i Bresennoldeb, a phob amser yn agos attom, er nas gwelir a Golygon Corphorol; ac yn clywed ein Gweddïau, ac a ŵyr ein hanghennion, ac sydd yn alluog ac yn ewyllysgar i'n cymmorth ni.

Ein Hiachawdwr a orchymynnodd i ni weddïo yn y dirgel, pan sôm ni yn unig, Matth. 6.6. Ac yno y dys∣godd efe i'w Ddisgyblion pa fôdd y gweddïent, ac a roddes i ni y Ffurf dra-rhagorawl honno, yr ydym ni yn ei galw Gweddi yr Arglwydd, Ein Tad yr hwn wyt yn y Nefoedd, &c. Yr hyn ar y ffordd, a ddichon ein siccrhâu ni, fôd Ffurfiau o Weddïau yn gyfreithlon iawn, ac fe all Gweddi yr Arglwydd wasnaethu am gynllun neu batrwm i'n hyfforddi ni yn ein holl Weddïau, ac sydd ei hunan hefyd yn dra addas i'w harferu ac i'w chyssylltu at ein Gweddîau eraill, Eithr nid yw gymmwys arfer y Credo a'r Dêg Gorchymmyn am Weddïau, megis y mae pobl druain anwybodol yn gynnefin o wneuthur; er bôd yn ddledus arnom eu mynych gofio, a'u hadrodd, er mŵyn bywioccau ein Ffŷdd, ac hyfforddi ein Bucheddau.

Ar bob achosion, ac ymmhôb blinderau a thrallodion,

Page 42

gadewch i ni weddïo yn ddyfal ar Dduw, ac yn oestad Ymbilio arno am drugaredd a chyssur, yr hwn sydd bob amser yn agos at y rhai a alwant arno mewn gwirionedd a phurdeb. Pe bae y Gŵr tlawd yn ceisio ymwared gan Dduw, mor ddifrifol ag y mae efe gan ei Gymmydog oludog, dyna 'r ffordd siccraf y cai efe gyflawnu ei anghennion. A gadewch i ni hefyd dderchafel yn fynych ein Calonnau i fynu at Dduw mewn Dïolchgarwch a Moliant, am ei holl drugareddau a'i ddaioni y mae efe yn ei ganiattau i ni. Fel hyn y gall y Dyn tlottaf yn fynych roi ei feddwl ar waith pan fyddo ef gyd a'i orch∣wyl yn y Gweithdŷ, neu yn y maes, neu pan fo efe yn ymdaith ar y ffordd, neu yn hwylio ar y môr, ac ni rwystra hynny mo'i lafur, eithr ei osod ym mlaen, ac a'i gwna yn esmwy thach ac yn ddifyrrach. Ond bydd∣wch siccr o naîlltuo rhyw amser bob dydd tuag-at weddi arferedig.

Mae'n addas iawn dechreu y diwrnod a Gweddi at Dduw, cyn gynted ac y cyfodom ni o'n gwlau; gan fendithio ei enw ef am ein cadwraeth a'n gorphwystra llonydd, gan erfyn ei rasusol Bresennoldeb ef gyd-a ni yr holl ddiwrnod, fel i'n cadwer oddïwrth bob drwg, yn enwedig oddiwrth bechod, y gwaethaf oll. Ac yn yr Hŵyr, gwnawn hyn yn orchwyl diwaethaf i ni cyn i ni orwedd i lawr i gysu, sef gorchmynnwn ein hunain yn ostyngedig i Dduw drwy Weddi, Psal. 92.1, 2.

Y mae hi 'n dra-defnyddiol i'r rhai sydd a Theuluoedd ganddyt, i gyssylltu y ghŷd Forau a Hŵyr mewn gweddi at Dduw, gan ddarllen hyw gyfran o'i Air Sanctaidd; er mwyn pa amcan y mae llawer o Lyfrau da o Grefydd: ac er na bô ganddynt yr ûn o honynt, etto hwy a allant arfer y cyfryw ai o Wedïau yr Eglwys ag a fônt cyfaddas iddynt, ac a geir yn y Boreuol a'r Prydnhawnol Wasanaeth, ac mewn lleoedd eraill.

Cyn eistedd o honoch i fwytta, erfyniwch fendith Duw arno, a wedi i chwi ddarfod, telwch ddïolch am dano.

Page 43

Ond heb law ein gwîr addoliad ymmysg y Teulu neu yn yr ystafell, ein Dledswydd fawr ni yw addoli Duw yng Nghymanfeydd cyhoeddus ei Bobl ef, y rhai ni ddy∣lem ni mewn un modd ymwrthod a hwynt, Heb. 10.25. Na oddefwch gan hynny mo'ch tynnu eich hunain ym∣maith tan liw yn y bŷd, naill ai gan Bapistiaid neu Wahanwŷr, oddïwrth gyhoeddus addoliad Duw, megis y mae yn awr wedi ei sefydlu drwy Gyfraith yn Eglwys Loegr. Ond edrychwch ar gyrchu o honoch yn ddigell∣wair i'ch Eglwysi plwyfol, a hynny nid yn unig ar Ddyddiau gwylion, ond ar ddyddiau gwaith hefyd, pan gaffoch gyfle ac ennyd. Yn fwy enwedig, edrychwch ar ddyfal gyrchu o honoch i'r Eglwys ar Ddŷdd yr Arglwydd, oni bydd rhwystr clefyd, neu ryw achos mawr iawn arall yn eich cymmell. Na adewch i'r esgus hwnnw mo'ch cadw o'r Eglwys, yr hwn ni chadwai mo'noch o'r Farchnad. Deuwch a chynnifer o'ch Teulu gyd-a chwi, ag a fo possibl eu hepcor. Deuwch erbyn dechreu 'r Gwasanaeth, ac arhowch yn llonydd hyd ei ddiwedd, heb redeg ymmaith cyn y Fendith, fel y mae llawer o bobl ddïofal yn wrthun yn gwneuthur, fel p bae yn llawen ganthynt ddïangc allan, megis o Garchar Ym∣ddygwch eich hunain a phob parch dledus, mewn corph a meddwl, gan ystyried Mawrhydi y Duw hwnnw, ym mhresennoldeb pa un yr ydych yn sefyll, yng ngŵydd pa un y mae'r Angylion yn cuddio eu hwynebau Gostyng∣wch ar eich gliniau bob amser ar eich gweddïau, o bydd cyfleusdra, neu sefwch o'r lleiaf. Psâl. 95.6. Uwch law 'r cwbl, edrychwch yn ofalus at dymmer eich Eneidiau, a chynnheliwch Synniad arswydus o'r Duw mawr ar ba un yr ydych yn gweddïo, a deliwch sulw ar bob peth a ddywedir, fel yr eloch ym mlaen gyda'r Gweddïau, ac offrymmwch eich dymuniadau i Dduw; os amgen, er dywedyd o honoch lawer, etto nid ydych yn gweddio dim. Gochelwch bob gwâg feddyliau gwibgrwydrus, hyd y bô possibl: Pan fyddoch yn uno yn y Gyffes o bechodau, cofiwch eich beiau neilltuol eich hunain, ac ymddarostyng∣wch yn isel o'u herwŷdd: a byddwch yn ddiffant yn ddîolchgar am holl drugareddau Duw, tra bôch yn moliannu ei enw; ac hiraethwch yn ddifrifol am y Grâs

Page 44

yr ydych yn gweddïo am dani. Ystyriwch Air Duw gyd a gofal a pharch pan ddarllenner ef o eisteddle 'r Gweini∣dog, ac hefyd pan bregether a phan eglurer ef o'r Pulpud, fel y byddoch wrandawŷr dyfal, a gwneuthur-wŷr ffyddlon y Gair. Na esceuluswch yr Eglwys Brŷdnhawn, er byw o honoch lle na bo Pregeth. Gatecheisio a ddichon fôd mor ddefnyddiol i chwi, a hynny a ddylai fod ymm∣hôolle. Ac heb law hynny, chwi a glywch ddarllain yr Ysgrythyrau Sanctaidd, ac a gewch fudd y Gweddïau cyhoeddus.

Pan ddeloch o'r Eglwys, na threuliwch mo weddill y diwrnod mewn difyrrwch a seguryd, llai o lawer mewn meddwdod a chwaryddiaeth, megis y mae gormod yn gwneuthur. Ond os oes Teulu gennych, treuliwch beth amser gyda hwynt, yn gweddïo, yn darllen Gair Duw, a rhyw Lyfr da; a bydded i Blant a Gwasanaeth-ddynion gael eu haddylgu yn eu Catechism. Holwch hwynt yng∣nghylch y peth a glywsont, fel felly y gwneler hwynt yn wrandawŷr mwy gwiliadwrus; a myfyriwch chwithau ar yr un peth, fel y byddai iddo dreiglo i'ch Calonnau. Gweithredoedd o drugaredd ac angenrhaid a ellir eu gwneuthur ar ddydd yr Arglwydd; ond er dim ar y fo na chynnhwyswch mo'noch eich hunain mewn dim Gorchwylion afraid, nac yn ymdaith ar y Brif-ffordd, nac yn crwydro oddïamgylch i wneuthur ymweliadau ofer. Mae Duw yn caniattâu i ni chwe diwrnod yn yr Wythnos i'n gwaith ein hunain, gadewch i ni yn barod, ac yn ewyllysgar, gyssegru Dydd yr Arglwydd i'w wasanaeth ef.

Pan weinydder Sacrament y Bedydd, dyfal-ystyriwch ef. Cofiwch eich rhwymedigaeth eich hun wrth gael ei dderbyn yn eich Mebyd, ac ymrowch i fy wyn gyfattebol iddi. Unwch mewn gweddi am fendith Duw ar y Plant a dderbynier i'r Eglwys y pryd hynny. A phan ddeloch a'ch Plant eich hun i'w bedyddio, edrychwch ar i chwi yn ddiragrith eu rhoddi hwynt i fynu i Dduw; a chyflwynwch hwynt i'w Wasanaeth ef, gan ymroi yn gadarn i'w dwyn hwynt i fynu yn ei ofn ef, os eiriach Duw eich einioes chwi a'r eiddynt hwythau, a gweddiwch yn ddifrifol ar

Page 45

dywallt o hono ei râs ef i'w Heneidiau. A'r rhei'ni y safoch chwi megis mechnïafon drostynt, chwi a ddylech wneuthur eich gorau tuag-at-eu hadeiladaeth hwynt yng∣ngwybodaeth Duw a chrefydd, yn ôl y Gorchymmyn a roddwyd arnoch, yn enwedig o bydd meirw y Rhïeni, neu fyned o honynt yn esgeulus. Ac yn rhodd gochel∣wch yr arfer ddrygionus sydd gyffredinol mewn rhai mannau, sef, yn ol bedddio y Plentyn, y Cymmydogion a wahoddir, a dreuliant y rhan arall o'r diwrnod mewn Cyfeddach a Meddwdod; gan anghofio, ddarfod iddynt ond chwennyg yr awr hon ŷmwrthod â Chwantau y Cnawd, a bod y rhai a afasant wrth y Bedyddfaen, a'r lleill oll, dan yr un rhwymedigaeth.

Pa bryd bynnag y gwahoddir chwi gan y Gweinidog i'r Cymmun sanctaidd, na esgeuluswch yn ewyllysgar n o'r Gwahoddiad: ond deuwch â Chalon ddïolchgar i gadw cof am gariad Christ yn marw dros bechaduriaid, yn ol ei Orchymmyn eglur, Luc. 22.19 Cymmerwch ofal am eich parottoi eich hunain drwy wîr edifeirwch am eich holl bechodau a aethant heibio, a llawnfwriadau dïysgog drwy râs Duw ar ymwrthod yn llwyr-gwbl â'r unrhyw. Ac edrychwch ar fod o honoch mewn Cariad perffaith a phob Dyn, gan faddeu yn rhwydd i'r rhai a wnaethant ar fai i'ch erbyn, a chynnyg bodlondeb i'r rhai y gwnaethoch chwithau eich hunain i'w herbyn. Os yn ol hyn, ni byddant hwy wedi eu cymmodi, nid eich bai chwi, ond yr eiddynt hwy ydyw, am hynny ni's dichon mo'ch cadw oddïwrth y Sacrament. Na arhoswch ymmaith drwy wneuthur lliw, fod arnoch eisiau amser i'ch parottoi eich hun. Canys Buchedd Sanctaidd gwastadol, yw y Parotto∣ad gorau. Os ydych chwi yn deilwng i weddïo, yr ydvch chwi hefyd i Gymmuno. Na thybiwch mai i'r Cyfoetho∣gion yn unig y mae Cymmuno. Mae Eneidiau 'r tlodion mor werthfawr a'r cyfoethogion, a marwolaeth Christ mor berthynasol iddynt; ac mae iddynt gymmaint achos i'w gofio, ac i ymgeisio y Llesau o hono. Onid oes gennych arian i'w offrwm gydag craill, nac esgeuluswch eich offrymmu eich hunain i fynu i Dduw, ac fe fydd hynny yn werthfawroccach. Na chwynwch fod arnoch eisiau Dillad,

Page 46

ac am hynny eich bod yn absennol, o'r Eglwys ac o'r Cymmun hefyd: Ond edrychwch ar i chwi ddyfod yn y Wisg-Brïodas a orchmynnir yn yr Efengyl, sef, â Chalon∣nau gostyngedig, edifeiriol, a dïolchgar, ac yna y byddwch Wahoddedigion a chroeso iddynt i fwrdd yr Arglwydd. Er mwyn hyfforddiant i chwi, os nid oes gennych Lyfrau ar y Testyn hwn, etto darllenwch yn ddifrifol y Gwasanaeth am y Cymmun yn y llyfr Gweddi gyffredin, ac chwi a ellwch gael cymmorth mawr oddiwrtho. Mae'n addas iawn hefyd ymgynghori a'ch Gweinidog, yn nwedig y waith gyntaf y derbynioch chwi 'r Cymmun. Bid siccr gennych, mai pechod tra-echrvslon ydyw, i chwi fyw y naill flwyddyn yn ol y llall, mewn esgeulusdra o'r Ddled∣swydd bwysfawr hon, ac mae yn arwyddocâu dirmyg dirfawr ar Awdurdod ein Hiachawdwr, ac ar ei gariad annherfynol a'i addfwynder ef.

Cyn peidio o honof a chrybwyll am eich Dledswydd tuag-at Dduw, gadewch i mi erfyn arnoch ymgadw yn ofalus oddïwrth y pechod cyffredin echryslon hwnnw o Dyng. Cyfran o ddrygioni tra-amhwyllus ydyw, yr hwn nid yw 'n dwyn na difyrrwch na bûdd gyd-ag ê. Pan alwer chwi ger bron swyddog mewn achos pwysfawr, Chwi a ellwch yn gyfreithlon dyngu, Heb. 6.16. Eithr cymmerwch ofal mawr ar dyngu y Gwîr, a dim ond y Gwîr; Os amgen, galw yr ydych y Gwîr Dduw i dystio Celwŷdd, ac yr ydych megis yn galw am ei ddïaledd ef arnoch eich hunain. Yn eich ymddiddan cyfredin, gochelwch bob mâh ar dyngu, pa un bynnag ai i enw Sanctaïdd Duw, ai i un Creadur yn y byd. Matth. 5.34. Iago 5.12. Na arferwch ddywedyd fel hyn, Ar fy Enaid, neu Ar 'y Nghydwybod, a'r cyffelyb, y rhai ydynt Lyfon mawrion, er bôd rhai yn eu mynych-arfer ar bôbachos coeg a sâl. Na wnewch gymmaint a chrybwyll heb achos nac ystyr am enw Sanctaidd Duw neu Grist: ond gadewch i'ch parch oddimewn gael ei wneuthur yn hyspys yn eich ymadraddion oddiallan.

Ac at hyn mi a allwn gyssylltu Cyfarchwyl difrîfol yn erbyn y pechod o Regu, ymmha un y dianrhydeddir Enw Duw yn fynych, pan fo Dynion yn dymuno i Felldith

Page 47

Dduw ddisgyn ar eraill, weithiau ar eu Plant a'u Ceraint nessaf, weithiau ar eu Cymmydogion, ac weithiau ar eu hanifeiliaid. Rhai Coeg-ddynion halogedig a ddymunant ddamnedigaeth i'r rhai y maent yn syrthio allan a hwynt, ïe, iddynt eu hunain. Ac ai nid cyffredinol ydyw clywed dynion yn eu llid, yn dymuno 'r Frêch, neu'r Plâ, neu gebystr i'w Cymmydog, ueu 'n peri i Ddiafol eu cym'ryd. Yn ddïau maent eu hunain yn ymddangos fel pe baent yn gythreulig, tra byddont yn chwythu 'r Iath Uffernol hon, ac maent yn cymmeryd y ffordd union i ddwyn pob mâth ar Felldith ar eu Heneidiau a'u Cyrph eu hunain, Psal. 109.17, 18. Yr arfer ddrygionus hon sŷdd yn deilliaw o ddiffyg gwîr ofn Duw yng-Nghalonnau Dynion, ac hefyd o eisiau addfwynder a chariad y naill tuag-at y llall, ynghylch pa un yr wyf yn nesaf i adrodd ychydig eiriau.

Yn nesaf at garu Duw uwch law pob peth, caru ein Cymmydog fel ni ein hunain, yw Dledswydd fawr Christion, fel y mae ein Hiachawdwr yn dysgu yn yr un lle hwnnw. Matth. 22.39, 40. A Chariad a ddywedir ei fod yn gyflawnder y gyfraith. Rhuf. 13.8, 9, 10. Nid oes dim mwy addas i Ddisgyblion Iesu Grist, na byw mewn serch a chariad gydâ phob Dyn, gan wneuthur i eraill bob daioni ar a allom, eithr heb wneuthur mâth yn y byd ar ddrwg î neb, Darllenwch 1 Cor. 13. Hyn a orchymmynnir yn dra-mynych, ac yn gaeth iawn yn yr Efengyl, ac sydd yn nôd wrth ba un yr hyspysir pob Christion, Ioan. 13.34, 35. Hyn a'n gwna ni yn dra∣thebyg i'n Harglwydd a'n Hathro bendigedig, yr hwn a aeth o amgylch yn oestadol gan wneuthur daioni, i Eneidiau a Chyrph Dynion; ie i'r rhai gwaethaf o Ddynion, ac i'w Elynion chwerwaf, y dangosodd efe gariad mawr ac addfwynder. Ac yn hyn byddwn astud ar debygu iddo ef hyd eithafein gallu.

Os oes gennym wîr gariad i bôb Dŷn, yna y cyflownwn ni yn rhwydd ac yn barod yr holl Ddledswyddau hynny sydd arnom iddynt yn yr amryw leoedd a'r perthynasau ymma rai yr ydym yn sefyll: y rhai nid ydwyf i fyned

Page 48

yma o amgylch i roi cyfrif neilltuol o honynt. Ond yn gyffredinol, Gwŷr a Gwragedd a ddylent garu eu gilydd yn dra-anwyl, a studio ar wneuthur Einioes y naill y llall yn ddedwyddol ymma, a'u Heneidiau yn ôl hyn. Canys os ydynt yn byw mewn anghyttundeb a llidiawg∣rwydd, mae ganthynt Uffern ar y Ddaiar cŷd ag y bont byw, ac mae'n rheswm iddynt ddisgwil poena tragwyddol yn Uffern pan fyddont feirw. Rhïeni a ddylent garu eu plant, a chymeryd gofal am danynt, yn gystadl Enaid a Chorph: a Phlant a ddylent anrhydeddu ac ufuddhâu i'w Rhïeni, a gwneuthur ymwared iddynt o byddant mewn angen. Rhaid i Feistred fod yn rhywiog ac yn addfwyn tuag-at ei Gweision; a rhaid i Weision fod yn ffyddlon ac yn ufudd i'w Meistred, ïe i'r rhai ang∣hyweithas a sarrug Rhaid i Ddeiliaid roddi ufudd-dod i hôll Orchmynion cyfreithlon eu Rheolwŷr, ac ym∣ddarostwng yn ymmyneddgar i'r gospedigaetb a wnelont; ac nid oes iddynt mo'r gwrthryfela i'w herbyn mewn modd yn y byd: canys mae wedi ei wahardd yn dra∣amlwg yn yr Ysgrythŷr, a damnedigaeth wedi ei fwgwth i'r rhai euog, Rhuf. 13.1, 2. Ac yn gyffredinol nid yw Teyrn-frad a Gwrthryfel, yn dwyn dim ond dinistr a thrueni yn y Bŷd hwn, yn gystadl a'r hwn sydd i ddyfod. Y Bobl a ddylent berchi a charu eu Gweinidogion, dilyn eu Cynghorion duwiol a'u hesamplau, ac edfryd iddynt Gynhaliaeth dyledus.

Ar fyr, rhaid i ni fôd yn ofalus ar ymgadw rhag gwneu∣thur cam a neb, o ba râdd neu gyflwr bynnag y byddo, naill ai yn ei Enaid neu yn ei Gorph, yn ei Olud neu yn ei Enw da: ond rhaid i ni fôd bob amser yn barod i wneuthur pob mâth ar ddaioni i bob dyn yn ôl ein gallu a'n cyfleusdra. A thrwy hyn y mae i ni ddangos, ein bôd yn caru ein Cymmydogion fel ni ein hunain, drwy wneuthur a phob dŷn mor union ac mor gyfion, mor drugarog ac mor garedig, ag y mynem ni wneuthur a ni ein hunain. Hon yw Rheol fawr yr Efengyl, Matth. 7.12. Ac wrth y Rheol hon y dylem ni ein llywodraethu ein hunain yn ein holl ymmddygiad tuag-at eraill, wrrh brynnu a gwerthu, ac yn ein holl Ymarweddiad. Hon

Page 49

sydd Reol eglur a hawdd i rodio wrthi, ac sydd gyfiawn ac uniawn, chang iawn ac o fawr amgyffred; fel os deil dyn sulw arni yn onest ac yn ffyddlon, nid rhaid iddo mor mynd ymmhell i geisio cyfarwyddyd pa fodd i'w ym∣ddwyn ei hun yn y rhan fwyaf o achosion, rhyngddo ef a'i Gymmydog. A fynnwn i fy enllibio a'ni difenwi, fy nhwyllo a'm sommi, fy nghuro a'm briwo, neu mewn un∣modd arall fy ammherchi? Onid ê, na atto Duw i minneu wneuthur felly a neb arall. A fynnwn ni fy nïystym a'm gwatwor am fy meiau, neu am fy nhlodi a'm haflwydd? Oni byddai well gennif mewn rheswm fy hyfforddi yn ga∣redig, fy nghynnorthwyo a'm dïanghenu? Fel hyn gan hynny, Bydded i mi wneuthur i'm Cymmydog; ac yn ôl fy ngallu, mewn addfwynder a gwîr garedigrwydd, hyfforddi yr aneallus, gwrthwynebu y drygionus a'r beius, cyssuro 'r athrist, rhoi ymwared i'r gorthrymmedig, a'r newynog, a dilladu 'r noeth. le rhaid i'r rhai ydynt mewn helynt wael, fôd yn barod i gymmorth y cyfryw ag a fyddont mewn mwy angen na hwynt eu hunain. Nid yw'r Gwr sydd yn byw wrth ei lafur wedi ei lwyr esgusodi oddîwrth weithredoedd Cariad Eph. 4.28. Mae hatling y wraig weddw yn gymmeradwy iawn gan Dduw; a chwpaned o ddwfr oer ni chyll mo'i wobr. Meddwl ewyll∣ysgar cariadus yw'r peth y mae Duw yn edrych arno yn bennaf, ac yn galw am dano, a hyn all fod gan y tlottaf, oni bydd ar ei fai ei hunan.

Ac nid yw ein Cariad a'n haddfwynder i'w ddangos tuag-at ein Cyfeillion yn unig, ond i'n gwîr Elynion eu hunain hefyd. Ni wasnaetha i ni dalu am ddrwg, eichr bod yn astûd i orchfygu drygioni drwy ddaioni. Os tarewin ni, nid oes i ni mor taro drachefn; os ymsennir a ni, a'n difenwi, nid oes i ni roi 'n ôl mo'r un drwg dafod drachefn, eithr naill ai drwy dewi, ai drwy attebion addfwyn ac arafedd ceisio heddychu eu llidiawgrydd. Canys nid yw y Rheol, i wneuthur ag eraill, megis y gwnelont a minneu, eithr fel yr ewyllysiwn iddynt mewn rheswm wneuthur a minneu; ac nid bai un arall am hescusoda i. Os gwna efe gam a myfi, nid oes i mi mo'r ôd yn farnwr yn f' achos fy hun, na chymmeryd arnaf ei ddïal, ond mewn achosion pwysfawr, y gallaf ffoi at

Page 50

y Swyddog am ymwared. Ond nid allwn ni mewn modd yn y byd ddŵyn câs na digasedd yn ein Calonnau yn er∣byn neb, er maint a fo ei ddrygioni, a'i elyniaeth tuag attom eithr rhaid i ni dosturio wrtho a gweddïo drosto, ar i Dduw wellhâu ei feddwl ef. Os oes gennym fyth obaith trugaredd gyd a Duw, a chael meddeuant o'n dledion, rhaid i ni faddeu i'r rhai a wnânt gam a ni, fel yr ydym yn dysgu yng-ngweddi 'r Arglwydd ac mewn amryw leoedd tra-eglur o'r Ysgrythyr. Dallennwch Matth. 5.44, &c. Matth. 18.21. hyd ddiwedd y bennod. Rhuf. 12.14. hyd y diwedd. Rhaid i ni ddangos addfwynder a llarieidd dra tuag-at bb dyn, a pheidio dywedyd na gwneuthur dim o'n gwirfodd i gyffroi un arall i ddigofaint: ac ni ddylem ninneu yn hawdd mo'r cyffroi, ond yn hawdd iawn heddychu a chymmodi. Gre∣synol iawn yw ystyried, pa Fywoliaeth ofidus a thruenus y mae llawer o'r fath dlottaf o bobl yn ei harwain, drwy en bonllefain a'u hymsennu, ymgynhennu ac ymryson y naill a'r llall: ac weithiau pan ni bo ganthynt ond yn brin Arian i brynnu Bara, hwy a'i taflant ymmaith mewn bolion Cyfraith a helbul, yn unig o ran Croesineb ac ymddïal.

A phobl o'r radd ymma a ddylent yn enwedig ochel cenfigennu y rhai a fônt mewn gwell Cyflwr na hwynt eu hunain. Fe ddylai fôd gennym ni y fath wïr garedigr∣awydd ac ewyllys da i bob dyn, fel y byddai i ni orfoleddu oblegid eu hawddfyd hwynt, er ein bod ni ein honain mewn adfyd; fel o'r tu arall y dylai fod gennym resyn∣dod mawr dros y rhai a fônt mewn blin-fyd, er ein bôd ni ein hunain mewn esmwyth-fyd.

A gwilied y rhai fyddont mewn eisiau, rhag i'w hangen eu rhoi hwynt ar un ffordd anghyfreithlon i'w cymmorth eu hunain. Yn Bendifaddeu, gochelwch ledratta dim er lleied a dalo. O fesur ychydig, mae'n beth i'w ofi y dygwch chwi bethau mŵy, yn ol y Ddihareb, a ddycco'r wy a ddwg a fo mwy, ac felly y dygwch chwi eich hunain i gwilydd a chospedigaeth yn y Bŷd hwn, yn gystad a'r hwn a ddaw. Y ffordd orau i ochel hyn, yw bod yn

Page 51

oestad yn ddïwyd yn eich galwedigaeth cyfreithlon, me•••• y mae 'r Apostol yn dysgu yn y lle a henwyd o'r blaon, ief, Eph. 4.28. Onid ellwch chwi weithio, mae 'n gyfreithlon cardotra. Eithr n ymrowch mewn môdd yn y bŷd i'r fuchedd ddïog, swrth, anfuddiol hon o gar∣dotta, os gellwch chwi gael bŷwoliaeth drwy neb rhyw ffordd gyfreithlon arall. Yr hwn ni weithio tra y gallo, nid yw deilwng iddo fwytta. Eithr yn hyttrach na lle∣dratra na newynu, chwi a ellwch geisio elusen gan eich Cymmydog. Ond na cheisiwch mo'i dwyllo, gan fen∣thyccio yr yn y gwyddoch na byddwch chwi fŷth debyg i'w dau: Canys hyn sydd sommedigaeth eglur. Yn hyttrach gwnewch uniondeb, gan wneuthur eich angen yn gydnabyddus. Os ydych chwi yn ymddiried yn Nuw, ac yn gwneuthur eich dledswydd, efe a ofala drosoch: Ac er eich bod weithiau mewn cyfyngder, etto eich angen a geiff yn oestad ei gyflownu. Ac i ragachub eich tlodi; gadewch i mi yn enwedig eich rhybuddio chwi yn erbyn y pechod cyffredin ac aifeiliaidd o Feddwdod, yr hwn sydd yn dwyn yr aflwydd hwn a llawer eraill gyd ag ê, fel yr adroddais i chwi o'r blaen. Yn ddïau mae yn rhwystr pob daioni, ac yn arwain dynion i bob mâ•••• ar bechod a thrueni. Y drygioni hyn sydd yn gwneuthur mwy o Gardottion nag un achos arall. Gan hynny, os oes gennych ddarbod yn y bŷd dros ei Teuluoedd, dim cariad i Enaid na Chorph, gocheiwch bob glothineb a gormodedd. Bwyttewch ac yfwch yn gymhedrol, fel y bo gorau ar lês eich iechyd, ac yn eich gwneuthur yn gymhwysach i wasanaeth Duw, ac i'ch galwedigaethau eich hunain.

Ac yn ddiwaethaf, gochelwch y pechod ffïaidd o Butteïn∣dra, yr hwn yn fynych iawn sy'n cadw cwmni â meddw∣dod, ac mor fynych yn dwyn melldith Dduw, ar Gyrph dynion ac ar a feddont hefyd. Ac i'ch cadw eich hunain mewn diweirdeb, gochelwch eguryd, yn gystadl ag anghymedroldeb. A ffowch oddïwrth gyfeillach ddrwg ac anllywodraethus, lle 'r ydych yn debyg i gael eich hudo a'ch maglu: ac na wnewch cymmaint a'ch cynnwys eich hunain mewn neb rhyw feddyliau a dymuniadau aflan,

Page 52

nac yn siarad diflasrwydd nac mewn un math ar ymar∣weddiad ac ymddygiad gwammal. Er mwyn rhagflaenu pob drygioni o'r fâth hyn, Duw a gynhwysodd Briodas, yr hon a ddywedir ei bod yn anrhydeddus ym mhawb∣eithr Putteinwŷr a Godinebwŷr a farna Duw, Heb. 13.4. Gan hynny y rhai ydynt yn y cyflwr hwnnw, ymgadwant yn gaeth ac yn gywir i'w hadduned-Brïodas: A'r holl rai priodol ac ammhrïodol, ymgadwant mewn Corph ac enaid mor ddiwair ac mor bur ag y gallo Yspryd Sanctaidd Duw gyfanneddu yn awr yn eu calonnau, ac y byddont hwythau addas i gyfanneddu ym mhresenoldeb y Duw tra Sanctaidd byth.

Ac fel hyn y darfu i mi ar fyr roi cyfrif i chwi ym mha beth y mae Buchdd Sanctaidd yn gynnwysedig, yr hon y mae yr holl Gristnogion yn rhwym i'w dilyn yn ôl Athrawiaethau ein Hiâchawdwr Bendigedig, ac yn ôl eu hadduned yn eu Bedydd, yr hon sydd yn eu rhwymo hwynt i gadw ei Athawiaethau, ac i ddilyn ei Esampl ef, yr hwn ei hun a fu fyw yn yr unrhyw fodd Sanctaidd ag y dysgodd; ag a orchmynnodd i'r rhai oll a ddywedont eu bôd yn aros ynddo ef, rodio megis ag y rhodiodd ef. 1 Ioan. 2.6. Mae gennych mewn ychydig eiriau swm y cwbl y une 'r Efengyl, yn ei ddysgu, sef y dylem ni wadu annuwioldeb a chwantau hydol, a byw yn sobr, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol, yn y byd sydd yr awr bon. Tit. 2.11, 12.

Ac yn awr gadewch i mi etto ddymuno arnoch ystyri∣ed yn ddifrifol, a fu eich gofal chwi i fyw yn y cyfryw Sanctaidd a daionus fuchedd, ai nad dô. Ac ym mha beth bynnag y bo eich Cydwybod yn eich cyhuddo ddar∣fod i chwi esceuluso y dledswyddau a orchymmynnodd Duw, neu wneuthur o honoch y pechodau a waharddodd ef, cydnabyddwch a chyffesswch yr unrhyw yn ostyngedig o flaen yr holl alluog Dduw, gyda gwîr dristwch duwiol am danynt, gan erfyn yn ostyngedig am Drugaredd a Maddeuant er mwyn Christ, yr hwn a fu farw ar y Groes dros bechaduriaid, a thrwy ba un y caiff pawb ar a gyffessant eu pechodau ac a ymwrthodant â hwynt, dru∣g••••••dd. Am hynny ymrowch chwi o hyn allan drwy i

Page 53

râs ef i ymwrthod a'ch pechodau ac i wellhâu eich bu∣cheddau, a gwnewch eich gorau ar gadw Cydwybodau didramgwydd tuag-at Dduw a Dŷn, heb eich cynnwys eich hunain mewn neb rhyw bechod gwybyddus, nac mewn esgeulusdra gwirfodd o neb rhyw wybŷddus ddledswydd. Na wrthddadleuwch yn erbyn hyn, gan ddywedyd, fôd yn ammhossibl arwain y cyfryw Fuchedd Sanctaidd: Canys miloedd yn y Bŷd, o bôb Gradd a Chyflwr, a wnaethant hynny ym mhôb Oesoedd, drwy gynnorthwy Grâs Duw, yr hwn ni bydd fyth mo'i eisiau arnoch, os chwi a'i ceisiwch yn ddïfrifol, ac a wnewch y gorau o honaw drwy ddïwydrwydd. Ac er y gall fôd yn y cyntaf beth anhawsder yn ymadel a ffordd ddrwg, etto bob ychydig yr eiff yn haws, ac yna ni chewch chwi ddim mor felys ac mor hyfryd a Chrefydd a Rhinwedd.

Ac na thybiwch, attolwg, na pherthyn i Bobl Dlodion feddwl am fod mor grefyddol a duwiol; a bod hyn yn unig i'r rhai Goludog, y rhai nid oes ganthynt, ond ychydig arall i'w wneuthur. P'am, oni ofelwch chwi sydd Dlodion gymmaint am eich Eneidiau eich hunain a'r Cyfoethogion, ac astudio i fôd yn ddedwŷdd yn gystadl a nhwythau? Fel hyn y byddwch chwi megis yn gyd-radd a hwynt, ïe yn ddedwyddach o lawer nag hwynt-hwy yn y byd hwn, oni bydd Daioni ynddynt yn gystal a Mawredd. Beth sydd yn yr hyn oll a ddywedais i, nad all, ïe, y tlottaf ei gyflawnu o' bydd meddwl ewyllysgar ganddo. Onid ellwch chwi garu Duw a'ch Cymmydog, a bôd yn sobr ac yn ddiwair, yn addfwyn ac yn ostyngedig, a gweddïo ar Dduw a moliannu ei Enw, &c. Pa beth? ond dyma'r ffordd orau o lawer i'ch cadw rhag Tlodl, neu i'ch gwared allan o honaw? Onid ydyw hi yn rhattach o lawer i fyw yn sobr ac yn onest, na byw mewn meddwdod a phutteindra a'r cyfryw bechodau Difrodus? Oni chŷst i chwi fwy o lawer fyned i'r Gyfraith o ran Ymddïal, na maddeu cam? Mwy a gŷst cynnal un drygioni na dêg o Rinweddau. Ac mae 'n hygoel gennif fôd mwy o Deuluoedd yn cael eu dwyn i Dlodi wrth ryngu bôdd i'w Trachwantau, nag wrth ddarparu i'w Plant, pa nifer

Page 54

bynnag a fyddont. Onid yw 'n well o lawer dybygech chw 〈◊〉〈◊〉 chwi eich hunain a'ch Teuluoedd dreulio Dydd yr ••••glwydd yng-ngwasanaeth Duw yn gyhoedd ac yn ddlgel, neg yn afradloni eich amser a'ch arian yn y Tŷ cwrw: ••••awf beunyddiol a ddengys nad Crefydd, eithr diffyg o on. sydd yn gwneuther Dynion yn dlodion ac yn reynol eu helynt. Heb law fod gan y cyfryw Bobl dda endith a ffafor Duw, fel y dangosais i yn ba∣rod, a chan hynny fe fydd ef yn sicc o ofalu drostynt hwy a thros yr eiddynt.

Ac attolwg na thybiwch y byddwch chwi cadwedig yn unig o herwŷdd eich bod yn dlodion: Canys os drygio∣nus ac annuwiol ydych, chwi a fyddwch yn siccr yn druenus a gresynol yn y Bŷd nessaf yn gystadl ac yn hwn. Nid oblegid ei fôd yn dlawd y bu Lazarus cadwedig, eithr oblegid ei fôd yn ŵ da a duwiol: Ac o'r tu arall, ni ddamnwyd Dises am ei fod yn oludog, ond o herwŷdd ei fod yn rhy drythyll ac yn falch, ac wedi ymroi yn hollawl i besgu ac i ymdrwssio ei Gorphyn gwael.

Gadewch i mi ym mhellach eich rhybuddio chwi yn erbyn dau neu dri o gamgymmeriadau peryglus, y rhai ydynt yn caledu nifer mawr o Ddynion yn eu pechodau. Gochelwch dybio mai dîgon i Ddyn fod wedi ei fedyddio a chawdw ei Eglwys, a myned i'r Gweddiau a'r Pregethau, ac weithiau i'r Cymmun, a dywedyd ei Weddïau yn ddirgel, fod hyn yn ddigon i'w brofi ef yn Gristion da ac i'w wneuthur yn siccr o Iechydwriaeth. Hyn oll sydd dda iaw, ond ni wasnaetha hyn mo'r trô, oni bydd ein calonnau ni felly wedi eu cwbl-Sanctciddio drwy Ras Duw fel y bo i ni garu Duw uwchlaw 'r cwbl oll, a gosod ein calonnau ar orfoledd y Nefoedd, a charu ein Cymmy∣dogion, a bd yn gywir ac yn union ym mhob peth a wnelom, bd yn gymhedrol ac yn ddiwalr yn ein hymarweddiad, fel y mynegwyd o'r blaen. A hyn yw diben mawr Gweddïau, Pregethau a Sacramentau, sef ein gwneuthur ni fwy-fwy yn Sanctaidd mewn calon a bu∣chedd: Heb pa un y bŷddwn ni yn hyttrach yn waeth nag yn well o'u plegid. Matth. 7.21, 22, 23.

Page 55

Na fyddwch cyn wanned a thybio y gellwch-chwi fod yn gadwedig drwy grediniaeth dda yn unig, drwy eich Ffydd yng Nghrist, ac ymddiried yn Nuw, heb Ufudd∣dod i'w orchmynnion. Er mŵyn Christ yn unig y bydd∣wch chwi cadwedig, eithr ni cheidw ef neb ond y rhai a ufuddhânt iddo. Heb. 5.9. A'r wîr ffydd gadwedigol yn unig, yw 'r hon sydd yn puro'r galon, ac yn dwyn allan Ufudd-dod, fel y clywsoch chwi o'r blaen. A chan ddywedyd o Dduw i ni yn eglur nad allwn ni mo'r bôd yn gadwedig heb Sancteiddrwydd, Os byddwn ni mor ffôl neu ynfyd a choelio y gallwn ni fôd yn gadwedig hebddi, nid ymddiried yn Nuw yw hynny, eithr yn ein drwg-dyb ein hunain a thwyll y Cythraul. Ni a allwn ymddiried yn ddîogel yn addewidion Duw, eithr yna edrychwn ar i ni gyflawnu 'r ammodau, a dyfod i fôd yn gyfryw bobl ostyngedig, Sanctaidd, ag yr addawodd efe er mŵyn Christ eu cydnabod a'u hachub.

Gochelwch hefyd gam-gymmeryd natturiaeth edifeir∣wch, fel pe byddai hi ddim ond ein bod ni yn ychydig yn drwm ac yn drist o herwŷdd ein pechodau, a chrïo ar Dduw am drugaredd, ac yna fôd pob peth yn dda, er i ni barhau i fyned rhagom yn ein hên ffyrdd. Eithr hwn sydd gam-gymeriad tra-pheryglus. Canys nid yw dŷn fyth yn gwîr-edifarhu hyd oni ymwrthodo ef a'i bechod a chyfnewid ei fuchedd: Pan ddêl y Meddwyn i fod yn sobr, a'r Gŵr halogedig yn ddefosionol Addolwr Duw, a pharhau felly. Gwir Edifeirwch sydd yn newid calon a buchedd y pechadur.

Ac yn ddiweddaf, na thybiwch mai digon yw ymwr∣thod a rhai pechodau a chadw eraill; gwneuthur rhai dledswyddau da ac esgeuluso eraill, ac yna eich esgusodi eich hunain gan ddywedyd mai eich gwe••••id chwi ydŷw. Nid oes neb heb ei wendid, a hwn yw fy un•••• 〈◊〉〈◊〉. Felly y dywed y Meddwŷn a'r Putteiniwr, ac felly y dywed y Gwr digllon pan dyngo neu rego, neu pan roddo efe Dafod drwg. Eithr y cyfryw bechodau ag a wneir yn erbyn gwybodaeth a Chydwybod, ac y parhaer ynddynt o amser i amser, pan gaffom egwyl i feddwl ym mlaen llaw

Page 56

ac i'w rhagflaenu hwynt, mae y rhai'n i'w cyfrif megis pechodau gwirfodd, ac nid megis gwendid. Yn en∣wedig y cyfryw bechodau dirfawr a Meddwdod, Puttein∣dra, mynych-dyngu neu ddywedyd celwydd a'r cyffelyb, nid ydynt i'w cyfrif megis gwendid. Yn ddiau pa be∣chod bynnag y bo dŷn yn ei garu ac yn dadleu drosto, ac hefyd yn ei gynnwys ei hun ynddo, nid gwendid pur ydyw eithr troseddiad gwirfodd Mae Gwr da yn cashâu pob pechod megis clefyd, ac yn ymegnio, yn gwilio ac yn gweddïo, yn ei erbyn. Mae efe yn cashâu pob gau lwybr, a chantho barch i holl Orchmynnion Duw. Rhaid i wir Gristion fod yn wr da didwn, yn gyfan-gwbl oll. Mi a welaf mai peth mawr ydyw hi gyda nifer o bobl, nad ydynt yn gwneuthur cam â neb, ac nad oes gasneb yn eu calonnau, gan hynny maent yn eu tybied eu hunain mewn cyflwr da tuag-at Dduw. Ond er bod hyn yn un rhan dda o'n dledswydd ni, etto nid yw ond rhan o honi. Rhaid i ni hefyd edrych rhag i ni wneuthur cam a'r Holl-alluog Dduw ac a'n Heneidiau ein hunain, gan osod ein calonnau yn bennaf ar y Byd hwn, drwy esgeuluso ei Addoliad a'i Wasanaeth, drwy fyw mewn gormodedd neu aflendid neu neb rhyw bechod gwybydd∣us arall. Rhaid i ni fod yn dduwiol tuag-at Dduw, yn gywir i'n Tywysog, yn gyfiawn ac yn gariadus tuag-at ein Cymmydog, yn ostyngedig ac yn sobr, ym mhob modd yn sanctaidd ac yn dda, os profwn ni ein bod ein hunain yn Gristnogion mewn gwirionedd. Yr hwn o'i wirfodd a droseddo mewn un Pwngc ac a'i cynhwyso ei hun yn hynny, sydd mewn effaith yn euog o dorri 'r holl Gy∣fraith: Canys mae efe yn dirmygu awdurdod Duw; ac os cyferfydd ef â'r un brofedigaeth, efe a wnâ neb rhyw bechod arall. Ac fel y dywedir yn wîr ac yn gyffredinol yn yr achos yma, un brâth er na bo ond â chyllell Pin∣ysgrifennu a all archolli dŷn mor farwol, a phe gwneid ef ugeinwaith a Chleddyf; felly caru un pechod ac ymhyfrydu ynddo a all ddamnio Enaid Dŷn cystadl a mîl. Iago 2.10.

Wedi i mi fel hyn ar fyr ymegnïo i symmud eich gwrth∣ddadleuon a'ch Camgymmeriadau, Yr wyf fi yr awr hon

Page 57

etto yn y lle diwaethaf, yn dyfod i daer gymmell fy Annogaeth, ar ymroi o honoch yn ddifrifol ac yn ddiysgog i daflu ymmaith bob pechod, a'ch cyflwyno eich hunain yn gwbl i arwain y cyfryw Fuchedd dduwiol, gyfiawn, a sobr, ag yr ydych chwi yn rhwym iddi wrth eich Bedydd Christnogawl. Os ydych chwi mewn ymdrech a chwi eich hunain, pa un a wnewch chwi ai ymroi yn gwbl at hynny, ai peidio, edrychwch attolwg dros y Rhesymmau a osodwyd ar lawr o'r blaen, a dwys-ystyriwch hwynt yn eich meddyliau; ac yna siccr ydyw na ellwch na chydna∣byddoch, Nad ydwyf yn annog mo'noch i ddim, ond yr hyn sydd dra-uniawn a rhesymol, ac ym mhob ffordd er y daioni mwyaf i chwi eich hunain. Ac os gorfuwyd chwi fod y peth hvn felly yna ewch rhagoch allan o law i'r llawn-fryd Duwiol hwn, heb odechial nac oedi. Pwy cyntaf y gwneloch hyn, dïogelaf ydyw, a gorau ar eich llês. Nad ewch ym mlaen mewn pechod yr amser presennol, drwy wneuthur lliw o edifarhau yn ol hyn, pan eloch yn hŷn, neu yn glaf, ac agos i farw. Na oedwch mo achos mawr eich Bywyd hyd ddiwedd eich dyddiau, pan nid ydych chwi yn siccr o amser neu allu, neu o gynnorthwy Duw, neu o fod yn gymeradwy ganddo. Na ddadleuwch mo esampl y Lleidr ar y Groes: canys nid oedd ei gyflwr ef debyg i'r eiddoch chwi, y rhai a gaw∣soch hîr fwynhad cynnygion gras a thrugaredd. Os yn awr o'r amser presennol ymma allan y trowch chwi at Dduw yn gyfan gwbl ac yn ddiragrith, nid oes mo'r achos i chwi i anobeithio am ei drugareddau, pa nifer neu faintioli bynnag a fu eich pechodau: ond os chwi a barhewch etto mewn pechod, gan ryfygu ar drugaredd Dduw rhag llaw, mae i chwi achos cyfiawn i ofni, y gall y rhyfyg anturus hwn, a'r camarfer ofnadwy o ras Duw, ddibennu yn eich tragwyddol ddinistr chwi a'ch damnedigaeth.

Eithr os ydych chwi yn ewyllysgar yr awr hon i gym∣meryd yn bryssur yr Ymroad a'r Llawnfryd hwn mewn llaw, gadewch i mi ar ychydig eiriau, eich hyfforddi chwi ym mhellach, pa fôdd y mae i chwi ei wneuthur

Page 58

yn ga••••••n ac yn barhaus, ac y bo i chwi gael eich nerthu yn 〈…〉〈…〉 gyflawnu yr unrhyw.

(1.) Ac yn gyntaf, mi a'ch cynghorwn chwi i gym∣meryd yr odfa gyfleus nessaf i gadarnhau y Llawnfryd Sanctaidd hwn wrth fwrdd yr Arglwydd. Yno parchus∣adnewyddwch eich Adduned fedyddiol. Cyflwynwch a rhowch chwy-chwi eich hunain i fynu i Dduw 'r Tâd, y Mâb, a'r Yspryd glan; gan ymwrthod a Diafol, y Bŷd, a'r Cnawd, ac a'r holl ffyrdd drygionus y mynnent hwy eich tynnu chwi iddynt, yn fwy enwedigol y pechodau hynny, y rhai y buoch chwi o'r blaen euoccaf o honynt. O hyn allan, Cymerwch yr Arglwydd Iesu a'ch prynnodd chwi â i waed, am eich unig Arglwydd a'ch Athro, i'ch llywodraethu drwy ei Yspryd a'i Gyfreithiau, fel yr ydych chwi fŷth yn dymmuno ac yn goeithio cael bod yn gadwedig drwy ei Farwolaeth a'i Adgyfodiad ef. Ac arferwch yn fynych gofio Rhwymedigaeth parchus hwn, cyn gynted ag y darfu i chwi ei wneuther: fel y bo iddo gael ei rym a'i waith dledus arnoch, pan fydd∣och dan brofedigaeth i ŵyro ar neb rhyw arfer ddrygio∣nus drachefn. Ail siccrhewch yn aml y rhwym hwnnw rhwng Duw a'ch Enaid eich hun; ac yn enwedig adnewyddwch ef drwy fynych ddisgwil wrth Dduw yn y Cymmun ••••••••••aidd, gan geisio yno râs a nerth ganddo ef, i rodio yn ddiysgog ac yn ddïanwadal yn ei ffyrdd Sanctaidd ef.

(2.) Eithr hynny a'm dŵg i at ail hyfforddiad, na ddylech chwi mo'r ymroi i hyn oll, gan hyderu ar eich nerth eich hun, eithr mewn gostyngeiddrwydd rhoddi eich pwys ar râs Duw, yr hwn y mae efe bob amser yn ewyllysgar i'w gyfrannu i'r cyfryw rai ag a'i ceisio yn ddifrifol yn y ffordd a osododd efe, drwy ddledus ddis∣gwil wrth foddion Gras, y Gair, Gweddi, a'r Sacramentau. Gan hynny fel y bo amser cyfaddas gennych, deliwch sulw yn ddyfal ar ddarllain a gwrando ei Air ef, a chuddi∣wch ef yn eich Calon, fel na phechoch i'w erbyn. A byddwch fawr frydig mewn Gweddi ar Dduw ar roddi ei Yspryd Sanctaidd i chwi, drwy ei fab Iesu, yr hwn yn nerthol

Page 59

a eiriol drosoch, ac a wna 'n dda ei Addewidion, i Ymbilwŷr gostyngedig a defosionol, Luc 11, 13. Ioan 16.23, 24. Pa bryd bynnag y byddoch mewn perygl, ac yn cael gosod arnoch gan neb rhyw brofedigaet i be∣chu, neu eich bod yn hŵyrfrydig i'r hyn sydd dda, y pryd hwnnw yn enwedig gweddiwch am fywiol a nerthol Ras, a'ch Gweddiau ni byddant ofer.

(3.) At eich Gweddïau, angwhanegwch ddyfal wiliadwiaeth drosoch eich hun bob amser, ym mhob lle, ac ym mhob Cyfeillach. Gwiliwch ar eich meddy∣liau, eich geiriau, a'ch gweithredoedd. Mae Satan yn oestd yn disgwil in twyllo ni, ac mae llawer o faglau a pheryglon yn ein holl ffyrdd ni, ac ••••e gennym Naturia∣thau llygredig a Chalonnau twyllodrus, ac am hynny anghenhaid i ni fod yn wiliadwrus iawn, i ochel po achlysr o bechod, hyd y bo possibl, ac i'w gyfar••••ngi yn y dechreuad cyntaf. Ystyriwch ymmlaen llaw pa brofedi∣gaethau yr ydych yn debyg i gyfarfod a hwynt, ac ymar∣fogwch yn erbyn y rhai nid alloch eu gochel. Na red∣wch o'ch gwirfodd i Berygl, yn enwedig, gochelwch Gyfei••••••c drwg, drwy ba un y tynir llawer yn ôl i' hanlly wodraeth cynnefin. Na arweinier chwi ymmaith drwy eu Cyngor neu 'u Hesamplau, ac na lwfrhaer chwi drwy eu barn a'u gwatwor hwynt. Y••••••••erwch yn fynych o edrych yn ôl, ar eich Gweith••••••••edd, ac os tynnwyd chwi i neb rhyw bechod gwirfodd, na wnewch Ysgafn-beth o honaw, nac etto anobeihio o Faddeuant, os gwîr edifr hwch. Gan hynny, yn bryssur ac yn, dd••••ifo y ••••••••wch a Duw drwy 〈◊〉〈◊〉 edifeirwch, gan er∣fyn 〈◊〉〈◊〉 ••••••iant er mwyn Christ, ac ychwaneg o Ras i'ch cadarnhau a'ch cynnorthwyo▪ Adnewyddwch eich Am••••nion o wellhad Buchedd, a gosodwch eich Gwiliad∣wriaeth yn gaethach o hyn allan.

(4.) I'ch bywioccau ac i'ch rhwymo i'r Willadwriaeth hon, Cofiwch fod yn holl-alluog Dduw yn oustad yn bre∣senol gydua chwi, ac yn craffu ar eich holl ffyrdd, ac yn ymhyfrydu yn fawr yn eich Duwioldeb a'ch Sancteidd rwydd, ond sydd o olygon purach nag yr edrych a

Page 60

yr anwiredd lleiaf drwy ddim bodlonrwydd. Gan hynny, rhodiwch yn oestadol megis ym mhresennoldeb y Duw Sanctaidd hwn, pa un bynnag ai ar eich pen eich hun ni mewn Cyfeillach y byddoch.

(5.) Cofiwch yn fynych, pa mor agos î Fŷd arall yr ydych yn sefyll, a pha gyfrif a fydd raid i chwi ei roddi i Dduw, o'ch holl Weithredoedd a wnaethpwyd yn y Corph; a byddwch fyw felly yr awr hon, fel y bo mwyaf cyssurus i chwi yn amser Marwolaeth a Barn. Pan fo difyrrwch a mwyniant pechod yn eich llithio, cyfelyb∣wch hwynt â'r Gorfoledd tragwyddol y difuddiant hwy chwi o honaw, ac a'r Penyd tragwyddol y maent yn eich arw••••n iddo, Myfyriwch a ddarfu i neb rhyw ddyn eri∣oed wrth bechu yn erbyn Duw, ennill rhyw beth sydd well na'r Nef, neu a dâl fyned i Uffern am dano. Bydded Tragwyddoldeb yn fawr iawn yn eich meddyliau, a Gwagedd diflannedig y Byd a fydd o gyfrif bychan gyd a chwi. Dŵys-ystyriwch yn fynych y Geiriau pwys-fawr hynny o'r eiddo ein Hiachawdwr Bendigedig, Pa leshad i Ddyn os enill yr ••••ll Fyd a ch••••l ei Enid ei hn? Neu pa bth a rydd Dyn yn gyf••••wid am 〈◊〉〈◊〉 Enaid? Marc 8.36, 37.

Yn ddiwe••••••f, yn lle chwaneg o Hyfforddiadau, gad∣ewch i mi eic ••••nghori chwi i'ch. gwneuthur eich hun yn gydnabyddus a'ch Gweinidog; ac i ymgynghori ag ef ym Mherthynasau mawrion eich Enaid, fel y mae Gwŷr yn gynnefin o wneuthur a'r Cyfreithiwr a'r Physsygwr, mewn achosion perthy••••sl i'w Cyrph a'u Meddiannau. Na thyich mai digon yw gwrando ei Bregethau ef ar gyhoedd; eithr cymmerwch Gyngor ganddo ef yn ddirgel, ac agorwch iddo ef gyflwr a helynt eich Enaid, cyn belled ag y gallo efe roddi i chwi y cyfryw Hyfforddiadau ag ydynt fwyaf cyfaddas i'ch Cyflwr. Hyn yn enwedig a ddylech chwi ei wneuthur, pan eloch chwi gyntaf i gychwyn ar Fuchedd Sanctaidd, a phan ddynesoch chwi 〈◊〉〈◊〉 hun gynaf i'r Cymmun Sanctaidd; neu pan fyddoch dan neb rhyw amheuaeth ddirfawr, ac aflony∣ddwch meddwl; neu yn cael eich cythryblu gan brofedi∣gaethau blinion, o'r naill fath neu 'r llall; neu pan osoder

Page 61

a••••och gan y cyfryw rai ag a fynnent eich tyn•••• ch∣wi oddiwth ein Heglwys ni, naill ai i Babyddia••••••, eu i neb rhyw Sect arall yn ein plith ni. Yna yn ebrwydd ymgeisiwch a'ch Gweinidog; ac yn yr Achosion hyn neu'r cyfryw, cymmerwch eich hyfforddi ganddo ef, a byddwch siccr o ddilyn ei Gyngor iachus, a dymunwch ei Weddïau ef ar Dduw drosoch. Mi a wn mewn Plwyfi mawrion, na ddichon Gweinidogion gael hyspysrwydd neilltuol o bob Dyn; etto y rhai oll a wyddant faint a dal Eneidiau, a'r pridwerth a roddwyd drostynt, a fyddant barod i edrych at y rhai gwaelaf o'u Pobl, ar a'u dynessant eu hunain attynt am Gyngor a Chyssur, ac a ymorfoleddant o herwŷdd pob Cyfleusdra a gaffont i dderchafu Anrhydedd a Hawl eu Hiachawdwr, a daioni yr Eneidiau gwerthfawr a orchmynnwyd dan eu Gofal hwynt.

Ac fel hyn y darfu i mi mor eglur ac mor gyflawn ag y gallwn ni yn iawn mewn lle mor gynnwys, eich hyfforddi chwi yn y ffordd Sanctaidd honno sydd yn arwain i ogoniant tragwyddol; ac a ddangosais i chwi pa Reswm mawr sydd i chwi i rodio yn y ffordd honno, ac i barhau ynddi hyd y diwedd. Ac i'r rhai a ddymunent Hyfforddiadau helaethach, yn nessaf at y Ysgrythyrau Sanctaidd (yr rhai yr ydwyf yn dymuno arnoch eu darllain yn aml gyd-a gostyngeiddrwydd ••••ifrifwch, yn enwedig y Testament Newŷdd) yn nessaf attynt, me∣ddaf, mi a'ch cyfeiriaf yn unig at y Llyfr duwiol tra∣defnyddiol, a elwir, Holl Ddledswydd Dyn. Ac mi a ddymunwn o ddifrif calon, fod pob Teulu tlawd yn y Deyrnas, wedi darparu iddynt un o'r Llyf••••u hynny, ynghyd a Bibl a Llyfr Gweddi Cyffredin, y rhai oll a ellid eu cael er ychydig arian; gan hynny gresyndodd mawr a fyddai eu bod yn un lle yn ddeffygiol. Er ysywaeth, y gwn i, fod llawer Teulu o Bobl dlodion, lle na fedr neb o honynt ddarllain, ac felly Llyfrau ydynt annefnyddiol iddynt. Elusendod-mawr gan hynny a fyddai h i Feistred tiroedd goludog ac i Fonneddigion, edrych a roddi plant eu Tenantiaid a'u Cymmydogion ••••od 〈◊〉〈◊〉 allan i'r Ysgol, ac wedi hynny rhoi iddynt o'r hyn lleiaf

Page 62

Fiblau yn rhâd, fel y derchafer gwybodaeth o Dduw a Chrefydd yn eu mysg; yr hyn a fyddai er mawr ddaioni a llês i'r Eglwys a'r Deyrnas. Canys er gwneuthur o opiniwnau ymmennyddgla' a gau Egwyddorion, Ddynion yn feilchion ac yn wargaledion, ac yn drafferthus i'w Llywiawdwŷr, etto Gwybodaeth iachus, a gwîr Dduw∣ioldeb, a wneiff Ddynion yn ostyngedig ac yn addfwyn, yn llonydd ac yn dangnheddyfol; yn Ufudd i Swyddogi∣on, yn llawn Cariad. i'w Cymmydogion, ac yn barod i bob Gweithred dda. Ac mae yn ddïogel gennif mai cyn∣nydd y Dymmer wîr Grefyddol hon, a fyddai un o'r Ben∣dithion mwyaf a ellid ei rhoddi ymma ar y Ddaiar, ac a sefydlai Deyrnasoedd ac Eglwysi, Trefydd a Theuluoedd mewn Tangnheddyf a Chyttundeb, y rhai ydynt ym mhob lle agos wedi ymrannu yn eu mysg en hunain, yn gystadl ac yn erbyn y naill y llall: A thrwy y cyfryw effeithiau bendigedig o wîr Grefydd, y dygid peth o'r Nefoedd i lawr ar y Ddaiar, ac y gwir-gymhwysid ein Heneidiau ni i'r Nefoedd, pan alwer ni ymmaith o'r Ddaiar hon, i'r Preswylfeydd dedwyddol hynny uchod, lle nid oes dim arall ond Tangnheddyf a Sancteiddrwydd, a Chariad a Gorfoledd. Ac rhynged bôdd i Dduw fendi∣thio 'r Athrawiaethau eglur byrrion hyn er goleuo neb rhyw feddyliau â'r Docthineb hwnnw oddiuchod, yr hwn sydd fel hyn yn bûr ac yn heddychol: yna y câf fwynhau fy amcan, ac achos mawr i fôd yn ddiolchgar. Ac fel y bo i'r Darllenydd uno a myfi yn y Dymuniadau hyn, Mi a gyssylltais at hyn ymma Weddi am Râs. i arwain Buchedd Sanctaidd. Ac os gwna efe ond 'chwanegu diwŷd ym∣egnïadau at aml a gwresog Weddïau, ni bydd na'i Lafur ef na 'm un innau yn anfuddiol, trwy Râs a Bendith yr Holl-alluog Dduw, oddïwrth ba un y daw pob rhoddiad daionus a phob rhodd berffaith, i'r hwn y traddoder yr holl Anrhydedd a'r Gogoniant, yr awr hon ac yn dragy∣wydd. Amen.

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.