Canwyll y Cymru, sef, gwaith Mr. Rees Prichard, gynt ficcer Llanddyfri, a brintiwydd or blaen yn bedair rhan, wedi ei cyffylltu oll ynghyd yn un llyfr. = The divine poems of Mr. Rees Prichard, sometimes vicar of Landoverey, in Carmarthen Shire. Whereunto is added the strange but true narrative of the chief things, spoken and acted, by an unclean spirit at Mascon.
Prichard, Rhys, 1579-1644., Du Moulin, Peter, 1601-1684., Boyle, Robert, 1627-1691., Hughes, Stephen, fl. 1681.

Cân ar y Flwyddyn 1629. pan yr oedd yr yd yn afiachus trwy lawer o law.

Duw Frenin trugarog, Duw Dâd Holl-alluog;
Duw Porthwr newynog, na newyna ni,
Sy'n canlyn dy ffafar, â chalon edifar,
Yn ol dy hir watwar a'th Siommi.
Er mwyn dy drugaredd anfeidrol a'th fawredd,
Er mwyn dy wir Tifedd, Dofa dy lid:
Gwrando di 'n Gwdi, Madde 'n drwg nwydi,
A chymmorth em Tlodi, a'n hadfyd.
Page  288
Ni Bechsom yn d'erbyn, yn daran escymmyn,
Nes tynnu hîr Newyn, a Niwed i'n plith,
Ac amryw ddiale sy'n gryddfu 'n calonne,
Heb allel hîr odde dy felldith.
Ni dorsom dy gyfraith sydd gyfion a pherffaith,
Do lawer canwaith, Cyn cwnnu o'r mann,
Fel rhai a fae 'n tybiaid, na bae genyd lygaid,
I ganfod fileinaid mor aflan.
Dy enw Gablassom, dy air y gasausom,
Dy fengyl y droedsom, yn ddibrys dan draed;
Dy sabboth halogwyd, dy demel adaw-wyd,
Dy grefydd a lygrwyd yn irad.
Ni dorsom dy ddeddfau, fel pobol a dibiau,
Na ddawe dialau, am ddilyn ffordd ddrwg;
Neu rai a fae 'n credu, na bae gennyd allu,
I'n*plago am bechu yn cyndrwg.
Pan helaist gennadon i faneg ein beion,
A'n troi ir ffordd union, yn dirion, yn daer:
Ni gausom ein clustie, rhag clywed eu geirie,
Fel neidir a sydde yn fyddar.
Pan gyrraist dy weision, in gwawdd ni rhai deilli∣on,
Ith swpper yn dirion, idario 'n dy lys;
Ni ballsom o'r dwad, ni droesom ir farchnad,
*A'n fferem, yn anllad anhapys.
Ni fynwn i o'r Manna, ni thrig e'n ein cylla,
Ni charwn ni or bara a beru byth,
Ond garlleg ac wyniwn, a * phannas a phompiwn,
Fel Twrchod a garwn ni 'n aryth.
Ni fynnwn ni o'r fengyl, sy'n cnoi ni mor rhygyl,
Ni drown ein gwegil at hon lawer gwaith;
Ni chaiff hi 'n ceryddu, na'n dangos, na'n dyscu,
Mae 'n draws yn gwrthnebu ein drwg-waith.
Ni adwn ni'r scrythur reoli 'n drwg nattur,
Na'th gyfraith gymhessur gymhwyso mo'r traws,
Ond byw wrth ein ffansi, a'n trachwant an gwegi,
Heb fynnu rheoli ein drwg-naws.
Page  289
Gan hynny waith troedo dy gyfraith a'i gado,
Ni aethom ar ddidro, yn ddidrangc, gwae ni!
Fal defaid a rede, o'r llafur ir ffalde,
Ar ol llanw eu bolie, i boeni.
Mae 'n gloddest a'n traha, fel mawr ddrwg Go∣morra,
Yn llefain am wascfa, i wascu ar ein cest;
Ni thaw byth o'u penne, nes delo diale,
I wascu ar ein crelie adirwest.
Mae pob gradd o ddynion, yn fychain, yn fawrion,
Yn pechu yn greulon, yn erbyn dy Grist,
Fel pobol wrth raffe, a dynne ddiale,
O'r nef am eu penne yn athrist.
Mae 'r ffeiriaid yn gadu dy bobol i bechu,
Heb geisio eu nadu i uffern ar naid;
A'r vn ac a geisio, a'r fengyl eu rhwystro,
Fe gaiff ei*anfrifo yn ddiriaib.
Mae 'n parchus Reolwyr, (och Dduw) yn rhy se∣gur,
Yn godde troseddwyr, drist foddi 'r wlad,
Heb gospi âr cledde, na'r bobol na'r beie,
Sy'n damsing dy ddeddfe mor irad.
Mae'r bobol gyffredin, fel Israel beb frenin,
Na Ffeirad ei maethdrin, na phrophwyd i roi maeth
Yn byw yn anhy waith, fel pobol heb gyfraith.
Heb grefydd, beb obaith, yswaeth.
Mae'r rheipus swyddogion, yn speilio rhai gwiri∣on
Yn ewnach nâ'r lladron llwyr edych ar hyn)
A'r carlaid yn bwytta y tlodion fel bara,
Neu 'r morfil a lyngca 'r * sgadenyn.
Mae 'r gweision cyfloge, a'r hirwyr yn chware,
Mae 'r gweith wyr yn eiste, heb ostwng eu pen,
Yntordain, yn bline, beb fynnu or gwethio,
Nes delech eu pricco ag angen.
Mae 'r tanner a'r twccwr, a'r * baccer a'r bwtsiwr
Gwaydd, gof, a thaylwr, a thiler a chrẏdd,
A'r hwsmyn, a'r creftwyr, a'r disrwyth uchelwyr,
Yn mynd yn dafarnwyr digrefydd.
Page  290
Mae 'r gwragedd yn gado eu nyddiad a'u cribo,
Ai gwayad, a'i gwnio, i dwymo Dwr;
Gwerthassant ei rhode, a'i cyffion, a'i cribe,
I brynu costrele Tafarnwr.
Mae'r Mwrddrwr a'r gwibiad, ar bawdy cnaf an∣llad
Ar lleidr, a'r gwilliad, a'r ffeiriad ffol,
A Shini a Shangco, a lisens i*wttro,
Bur, Cwrw, tobacco, heb reol.
Pe ceisie na'r Cythrel, na'i fam godi capel,
Wrth ochor dy demel, er dimme yn y dydd,
I gadw tafarndy cyhoeddys yng Hymru,
Fe gae ei gennadu yn ufydd.
Duw dere o'th arfer, a chyngor ar fyrder,
Torr lawer o'r nifer, sy 'n nafu yr byd,
Cyn bwyttont ei gilydd, cyn nafont y gwledydd,
Cyn llygront dy lan grefydd hyfryd.
Mae'r gweision mor*ddainti, na fynnant hwy gor∣phi
Ond gwyn fara eu meistri, neu fustro a wnant,
A'r merched ar gyflog, ond odid yn feichiog,
Am fod yn rhy wressog meddant.
Mae pob rhyw o alwad, yn ddibris am danad,
Yn ceisio ei codiad, ai cadw ei hun,
Heb geisio d' ogoniant ti Arglwydd ein llwyddi∣ant,
Na'th fawrglod, na'th foliant na'i 'mofyn.
O achos gan hynny, fod pawb yn troseddu,
A phob Grâdd yn pechu â'i buchedd ar draws,
Di geisiaist trwy fwyndra, ac ennyd o wascfa,
I'n cyffro i wella ein drwg-naws.
Yn fwyn ac yn serchog, fel Arglwydd trugarog,
A fae yn dra chwannog, in hennill trwy deg,
Di geisiaist yn dirion, trwy āmryw fendithion,
In tnnu ir ffordd union, yn loywdeg.
Pan ffaelodd dy fwynder wella'n drwg arfer,
Bygwthaist â chryfder, a llwmder in lladd;
Hogaist dy gledde, golymaist dy saethe,
Paratoaist dy arfe i ymladd.
Page  291
Ond gwedi ti ymgweirio, rhoist rybydd cyn clwy∣fo,
Bygwthaist cyn taro, a'n torri i lawr:
Offrymaist in ffafar, o byddem ni difar,
A ninne 'n dy watwar yn ddirfawr.
Pan gwelaist Dduw cyfion, na thyccie fygwthion,
Di yrraist yn llymmion dy saethau i'n lladd,
A'n curo a'n corddi, a llawer o ofydi,
Na allem na'i dofi, nai gwrthladd:
Gelwaist dy weision, mwstraist d' Angelion,
A'th dri march Mawrion, Côch, glâs, a dû;
A gyrraist hwy'n ddiriaid, ar holl greaduriaid,
In plago fileiniaid a'n gryddfu
Rhoist ddu-rew digassog, haf poethlyd*anffodi∣og,
Gwynt stormys scethrog, yn scathru'r yd,
Lliferiaint i'n soddi, a'r moroedd i'n boddi,
A chan rhyw ofydi i'n berlyd.
Twymynne Cyndeiriog, drudaniaeth digassog,
Marwolaeth llym * oriog mewn llawer mann,
A helaist in cyffro, i bryssur repento,
A'n cathrain i'th geisio yn gyfan.
Pan gwelaist na alle, hyn oll o ddiale,
Ein dattroi o'n beie, i wella ein byd,
Di helaist drachefen hir newyn a chwarren,
A rhyfel aflawen i'n verlyd.
Y chwarren y laddodd ddiarhebrwydd osilodd,
Mewn amryw o leodd, â gormodd llîd,
Nes llanw'r monwentydd, â thlodi'r holl drefydd,
Lle gyrraist dy gerydd eu hymlid.
A'r rhyfel anffodiog y ddaeth yn ddigassog,
A'r cledde yn llidiog, i'n tlodi a'n lladd;
Nes difa'n rhyfelwyr, a'n tryssor, a'n llafyr,
A'n hela 'n ddi-gyssur i ymladd.
Soddaist ein llonge, diddymaist ein * plotte,
Troist Fîn ein cledde, taflaist ni ir clawdd:
Dallaist ein doethion, dychrynaist ein dewrion,
Gwerthaist ni ir Cassion a'n ceisiawdd.
Page  292
Ychwarren a'r cleddy y wnaeth i ni grynu,
A dechre difaru, dau fore neu dri,
A chanlyn a chrio, am dynnu'r plag heibio,
Nes itti lwyr wrando ein gweddi.
Pan tynnaist ti 'r chwarren a'r rhyfel aflawen,
Ni droesom drachefen, dri chyfydd i'n hol,
Fel cwn at ei chwdfa, ith ddigio a'th hela,
In dofi a'n difa 'n anffafrol.
Gan Hynny di helest y storme a thempest,
Yng hanol ein gloddest, in plago â glaw,
Nes nafu 'n cynhaya, a defnydd ein bara,
A chospi'n hîr draha â chyr-law.
Tywalltaist dy felldith, mor drwm ac mor dryfrith
Ar farlish a gwenith, a phob ymborth gwr,
Fel y gwrthneba nifeiliaid i fwytta;
Ni phraw 'r cwn o fara 'r llafurwr.
Mae'r march yn ffieiddio, a'r mochyn yn gado,
Y llafur sy'n llwydo, a'r egin yn llawn,
Gan gynddrwg yw * rhelish y pilcorn a'r barlish,
Y gâd o'r anilish fisgawn.
O Arglwydd ni haeddson dy felldith yn gyfion,
Ar lafur o'r fisgon, a'r fasced a stor,
A newyn a nychdod, am hir anufydd-dod,
O ddiffig it ragod ein goror.
Ein dirmyg a'n traha, ar ddiod a bara,
A bair i ni fwytta, oni attal Duw,
Y ffacbys ar callod, ac ymborth nifeilod,
Ar crwst ym ni 'n wrthod heddyw.
Ni fuom yn poeri y blawd oedd a rhydi,
A'r bara a'r pinni ni bwrem on' pen:
A'n begers mor foethus yn teri ar farlish,
Ni phrofent ond canishhaychen.
Ni fuom yn bwytta Gormoddion o fara,
Fel pobol Gomorra 'n camarfer eu byd,
Heb ddiolch am dano, na swpper na chinno,
Nes inni dy ddigio yn danllyd.
Page  293
Ni fuom yn yfed, nes mynd yn cyn dynned,
Na allem ni gerdded, na myned, o'r mann,
Nes arllwys ein ceudod, lle hyfsom ni'r ddiod,
Yn waeth nâ'r nifeilod aflan.
Bu deie'n tafarne, yn llawnach ddydd sulie,
O addolwyr bolie, yn addoli Baal,
Nag oedd ein heglwysydd, o ddynion o grefydd,
Ith 'ddoli di'n ufydd, Duw nefawl.
Tair gwaith o leia, y llanwn ni 'r bola,
Bob dydd pan bo byrra, gan bori ein bwyd:
Ond prin mewn saith die, y cofiwn ni dithe,
Syn llanw ein bolie â brâs-fwyd.
Ni flinwn yn ebrwydd, yn d'eglwys o Arglwydd,
Er maint yw ein haflwydd, an hoflyd*'tra:
Ni flinwn ni'n aros, mewn tafarn dros wythnos,
Er oered o'r birnos aia.
Fe yf un cyn cinnio, o fûr a thybacco,
Faint y ddigono ddeugeinyn ar bryd:
Fei chwda drachefen, gan dynned oi botten,
Heb feddwl am angen a gofyd.
Mae'n meddwdod yn crio, am newyn in' pigo,
Mae 'n gloddest yn ceisio dwyn prinder i'n cell:
Mae'n hafrad ysowaeth, yn gofyn drudaniaeth,
A hirbryd trwy hiraeth ein cawell.
Yn gyfiawn gan hynny, O Arglwydd y gallu,
A newyn ein gryddfu am wrthod grâs;
A thorri a difa cynhalieth ein bara,
A pheri inni fwytta ein * carcas.
Ond Arglwydd trugarog, er mwyn dy eneiniog,
Na ddanfon n llidiog hir newyn i'n lladd,
Na nychdod i'n gryddfu, na phlag i'n difethu,
Na rhyfel, na chleddu i'ngwrthladd.
Ond Madde yn rassol ein trawsedd * anguriol,
Na wna ni yn Siampol, i bobol y byd:
Ond arbed ni'n dirion, a gwella 'n harferion,
A newid ein ffinion fywyd.
Page  294
Nac edrych Dâd cyfion, ar drossedd dy weision,
Na 'n beie mawrion, i'n lladd gan ei maint:
Ond edrych yn hyfryd, ar ange d'anwylyd,
I ddofi dy danllyd ddigofaint.
Er mwyn ei rinwedde, a'i fywyd a'i ange,
Ai 'fydd-dod ai wrthie, ai werthfawr waed,
Madde inni basswys, tro ni ir ffordd gymmwys,
A chadw ni yn d'eglwys yn wastad.
Golch ein pechode, yng-waed ei welie,
Croes-hoelia ein beie, yn grygie ar ei groes:
Rhwyga 'n * bligassiwn, a doro i ni bardwn,
Er mwyn ei ddryd bassiwn a'i hir loes.
Na alw ni i gyfri, am dan ein drygioni,
Na ddere in cospi, am ein gwegi a'n gwaith:
Ond arbed dy weision, er mwyn dy fab gwirion,
A'th wnaeth yn dra boddlon unwaith.
A danfon dy yspryd, i wella'n drwg fywyd,
A'n helpu ddychwelyd, â chalon iach,
Ith gywir wasnaethu, a'th ofni, a'th garu,
A'n * deor i bechu dim mwyach.
Duw attal dy wialen, dad ddigia drachefen,
Tro d'wyneb yn llawen, nad newyn i'n lladd:
Madde 'n trossedde, gwir wella'n drwg nwyde,
Sancteiddia 'r calonne sy 'n d'wrthladd.
Duw gwella di'r tywydd, bendithia di'r maesydd,
Tro'n tristwch yn wenydd, na newyna ni:
Rho râd ar y fisgawn, gwua'r farchnad yn gyflawn
Diwalla ni â'th radlawn ddaioni.
Rho ymborth ir Christion, rho ogor ir eidion,
Rho 'r fengyl ir gwirion y garo 'r gair:
Rho heddwch ir deyrnas, ac iechyd ac*urddas
In penLlywydd Charlas ddiwair.
Mil chwechant ac ugain, a naw mlynedd cywrain,
Medd holl ddoethion Brydain, oedd oedran ein brawd,
A'n Prynwr, a'n ceidwad, pan gwympodd y gawad,
Y Lanwodd y farchnad â chwd-flawd.
Page  295
RHeolwr y Nefoedd a'r Ddaiar a'r Moroedd,*
Ar tywydd, a'r gwyntoedd o'r glynnodd, a'r glaw,
Clyw gwynfan tosturiol, ac achwyn dy Bobol,
Gan dywydd dryc-hinol a hir-law.
Y mae 'r Gwynt, y mae 'r Tonne, mae 'r Glaw a'r diale,*
A'r Sêr yn eu gradde, a'r nefoedd yn grych,
Yn ymladd i'n herbyn, drosseddwyr escymmyn,
I'n plago â Newyn yn fynych.
Mae'r Haul oedd i'n porthi, a gwres a goleuni,
Yn awr gwedi sorri, yn edrych yn sur,
Gan ballu rhoi thwymder, a'i gwres wrth ei har∣fer,
Nes pydru 'r naill banner o'n llafyr.
Mae'r Lleuad yn wylo, fel Gwraig y fae 'n mwr∣no,
Bob nôs mae'n ymguddio, mewn cwmwl o'n gwydd,
I ollwng ei deigre, gan amled o'n beie,
Nes soddi 'r Llafyrie ag aflwydd.
Mae 'r tonne cynddeiriog, a'r wybren gawadog,
A'r cymle glyborog yn glawio bob awr
Afonydd o ddrwg-fyd, gan gynddrwg o'n bywyd,
I'n plago ag adfyd yn ddirfawr.
Mae 'r * ormes yn sathru y llafyr sy'n tyfu,
Mae 'r gwynt yn cawdelu y dalo o frig,
Nes iddo ddihidlo, mallu, egino,
Gan law yn ei guro yn ffyrnig.
Mae 'r llafyr s'eb fedi, yn barod i golli,
Heb dywydd i dorri, na'i daro ynghyd,
Mewn cyflwr anhygar: Duw moes i'n dy ffafar,
I gwnnu o'r ddaiar sopaslyd.
Mae'r maint sy'n ei helem, fel gwellt yn y dom∣men,
Yn ddigon anghymmen, yng * hwman y dâs,
Yn twymo, yn mygy, yn llwydo, yn mallu,
A chwedi llwyr bydru o gwmpas.
Mae 'r maint sy'n y scubor, gogyfer a gogor,
Yn twymo heb gyngor, yn mygu heb gel,
Yn barod i nynnu: mab Duw dere i'n helpu,
A nad ti lwyr fethu ein trafel.
Page  296
A'r maint sydd ar feder ein cinnio a'n swpper,
Sydd gynddrwg ei biner, a'i dymmer mor dost,
Ac oni chawn gennyd, Duw grassol gyfrwyddyd,
Fe'n plagir ni ag adfyd hîr-dost.
Agor dy lygad, O Arglwydd ein Ceidwad,
A chenfydd mor irad, id weled mor*hyll
Holl ymborth Christnogion, yn pydru mor ffinion
O eisie cael hinon i gynnyll.
Duw grassol tosturia, difwynodd ein bara,
(Hir nychdod y faga dan fogel dy blant)
O ddiffig it ei rwystro, a'i ddyfal fendithio,
A rhoddi rhâd arno a llwyddiant.
Duw beth y feddyliwn, am had-yd y gwanwyn,
O bwy le ei ceisiwn, o cawn i fyw yn cyd:
Mae pawb yn achwyngar, ddifwyno ei holl hei∣niar;
Duw dangos dy ffafar am had yd.
*Duw grassol tosturia, wrth ddefaid dy borfa,
Na thorr ffon ein bara, i beri i ni boen;
Madde 'n trosedde, gwella 'n drwg nwyde,
Cyssura 'n calonne dihoen.
Gorchymyn i'r haul-en, ymddangos drachefen,
Gwna 'r lleuad, a'r Seren yn siriol i'th Saint:
Rho hinon a chyssur, i'r poenfawr lafyrwyr;
A dofa dy yssy ddigofaint.
*Rhwylla 'r wybrenne, a gwascar y cwmle,
Cerydda 'r cawade; cu ydwyd a rhwydd:
Gostega 'r dôst ormes, Rho degwch a chrattes,
I'r llafyr anghynnes, Arglwydd.
Ond ymma Duw'r gallu, rwi 'n brudd yn cyffesu,
Mae'n pechod sy'n tynnu'r fath ddial ar ein traws
A'th stormydd anrassol, a'r tywydd drychinol,
I'n cospi dy bobol rhy-draws.
Di lenwaist ein bolie, mor gyflawn â'th ddonie,
Na chodem o'n heiste i ostwng ein glîn,
I roddi it foliant, na chlod am ein porthiant,
Nes tynnu aflwyddiant i'n dilyn.
Page  297
Yr eidon arassen a edwyn eu perchen,
A'r ci fydd llawen, wrth ei portho a llaeth:
Ond Pobol ddiwybod ni fynant gydnabod,
Nac adde mae 'r Drindod oi Tadmaeth.
Yr wyt yn ein porthi, ag amryw ddaioni,
Fel un a fae'n pesci pascwch yn rhin:
Ni chodwn o'n penne i weld mwy nag ynte,
O ble mae 'r fâth ddonie yn disgyn.
Gan hynny di yrrest y storom a thempest,
I gospi ein gloddest a drychin a glaw;
I beri inni nabod, a gweled mae 'r Drindod
Sy'n porthi ni yn wastod a'i ddwylaw.
Er maint o'r ddiale y roeist am ein penne,
I gospi ein beie, gan gynddrwg ym yn byw;
Ni buom er y * conquest, yn byw mor anonest,
A chymaint ein gloddest ac heddyw.
A'r storom yn chwythu, a'r glaw yn ein gryddfu,
A'r llafyr yn pydru, heb adrodd ond gwir,
Yn Heie 'r Tafarne, yn chwda ddydd Sylie,
A'th gablu rym ninne rhai anwir.
Pan dlyem weddio, a Phryssur repento,
Mewn llwch, ac ymgrino am bardwn a gras,
A'th gywir wsnaethu, 'roem ninne 'n dy gablu,
A'th rwygo a'th regu yn ddiras.
Pa fwyna y ceifiyd ein troi a'n dymchwelyd,
A Gwella ein bywyd, a 'madel a'n bai,
Waeth waeth y pechem, fwy fwy i'th ddigiem,
Saith beilach y ciliem ninnai.
Pa fwya ddiale y royd am ein penne,
Bid newyn, bid cledde, bid clefyd, bid glaw,
Fwy fwy fel Pharo yr ym yn dy gyffro,
I'n poeni a'n plago â hir-law.
Nid rh•••dd gan hynny, dy fod yn ein maeddu,
Gan ddwblu a threblu ein maethgen a thrwst:
Ond mwy o ryfeddod, na roit ti' ni ddyrnod,
A'n taflu i'r pwll issod yn ddidwst:
Page  298
Duw madde 'n styfnigrwydd, Duw dofa'th lidawgrwydd:
Tynn ymaith ein gwradwydd, a'n-haflwydd hir:
Rho râs i ni fedru, fel Ninif ddifaru,
A'th ddyfal wasnaethu yn gywir