Canwyll y Cymru, sef, gwaith Mr. Rees Prichard, gynt ficcer Llanddyfri, a brintiwydd or blaen yn bedair rhan, wedi ei cyffylltu oll ynghyd yn un llyfr. = The divine poems of Mr. Rees Prichard, sometimes vicar of Landoverey, in Carmarthen Shire. Whereunto is added the strange but true narrative of the chief things, spoken and acted, by an unclean spirit at Mascon.
Prichard, Rhys, 1579-1644., Du Moulin, Peter, 1601-1684., Boyle, Robert, 1627-1691., Hughes, Stephen, fl. 1681.
Page  262

Diolch am etholedigaeth ac amryw ddoniau ysprydol.

*OArglwydd Dduw goruchaf,
Pa ddull, pa fodd y gallaf,
Roi it ddiolch llawn ar llêd,
Fel y mae 'r dyled arnaf?
Cn gwneuthur nef a daiar,
O'th ras yn Ghrist a'th ffafar,
*Di 'm detholaist fod yn un,
O'th blant dy hun yn gynnar.
Di 'm creaist inne o'r priddyn,
Oedd frwnt a gwael ei eulyn,
Ar dy lûn a'th wêdd dy hun,
Yn lana dẏn o'r weryn.
Di 'm tynnaist yn dra lluniaidd,
O groth fy mam yn berffaidd,
Lle gallassyd f'n rhoi maes,
Yn grippil cas angrhuaidd.
Di 'm gwnaethost inne 'n Gristion,
Ym mhlith dy bobol ffyddlon,
Lle gallassyd heb ddim dysc,
Fy'n rhoi ym-mysc Iddewon.
A chwedi Adda ngwerthu,
I Satan gynt wrth bechu,
Di m prynaist o'i law 'n rhad,
A gwerthfawr waed y Jesu,
Ni Speriaist roddi i farw,
Dy unig fab i'm cadw,
Ac i * hongian ar y groes,
Dan lawer loes oedd chwerw.
*Di'm adgenhedlaist gwedyn,
I fod yn anwyl blentyn,
It trwy fabwys prudd a gras,
Pan oeddwn was a gelyn,
Page  263
Di aethost yn Dâd im-mi,
A minnau 'n blentyn itti;*
Di'm ail wnaethost ar dy wedd,
Yn tifedd i'r goleuni.*
Di'm gelwaist inne hefyd,
A'th air, a'th nefol Yspryd,
O blith miloedd o rai cas,
I gaffel gras a iechyd.
O blith ẏ bobol feddwon,
A'r mûd, a'r dwl, a'r deillion,
Di am gelwaist âth aìr * dwys,
I fonwes d'eglwys dirion.
A gwaed dy fab di'm golchaist,
A'th Yspryd di'm sancteiddiaist;
Rhan o'th nattur rhoist i mi,*
Am pechod ti dirymmaist.
Ac er fy môd yn sarnllyd,
Am gweithred yn frycheulyd,*
Di'm cyfiawnhâist o'th râs yn rhâd,
Trwy ffydd yngwaed d'anwylyd.
A rhoist i'm gadarn obaith,*
Er immi farw unwaith,
O ran y cnawd, pan del y cri,
Y caf gyfodi 'r eilwaith:
A derbyn yn ddiffuant,
Gan f' Arglwydd wîr ogoniant,
(Er mwyn Christ) a nefol fraint,
Ym-mhlith y saint triwmphant:
Lle caf fi wir lawenydd,
A heddwch yn dragywydd,
Parch, anrhydedd, tra ynwi chwyth,
A gwynfyd byth na ddersydd.
Am hyn o ddoniau 'sprydol,
Fy nhâd am Harglwydd nefol,
Rwi'n rhwymedig ar fy llw,
Glodfori d'enw grassol:
Page  264
A thro dim deall genni,
Yn ddyfal dy addoli,
A'th foliannu bob yr awr,
Am dan dy fawr ddaioni.
Ir hael Dad rhwn a'n creodd,
Ir Jesu rhwn a'n prynodd,
Y byddo clod a mawl bob cam,
A'r Yspryd a'm sancteiddiodd.