Canwyll y Cymru, sef, gwaith Mr. Rees Prichard, gynt ficcer Llanddyfri, a brintiwydd or blaen yn bedair rhan, wedi ei cyffylltu oll ynghyd yn un llyfr. = The divine poems of Mr. Rees Prichard, sometimes vicar of Landoverey, in Carmarthen Shire. Whereunto is added the strange but true narrative of the chief things, spoken and acted, by an unclean spirit at Mascon.
Prichard, Rhys, 1579-1644., Du Moulin, Peter, 1601-1684., Boyle, Robert, 1627-1691., Hughes, Stephen, fl. 1681.

Paratoad i'r cymmun.

POb rhyw Gristion ag y garo,
Ddyscu 'r môdd y mae ymgweirio,
Mynd yn lân i ford yr Arglwydd,
Dysced hyn o werseu 'n ebrwydd.
Cyn yr elych * rhwp ir Cymmun,
Ystyr ble yr wyt ti'n rofyn,
A pha beth yr wyt ti ar feder
I * recefo yn y swpper.
Nid i ford rhyw Emprwr llidiog,
Ond i ford yr holl-Alluog,
Rwyt ti 'n rofyn mynd i fwytta,
Bwyd sydd gan mil gwell nâ Manna.
Gwell nâ Manna os fel Christion,*
Y derbynni hwn yn ffyddlon:
Gwaeth nâ gwenwyn os trwy anras,
Y derbynni hwn fel Suddas.
Meddwl ditheu am ei dderbyn,
Yn gristnogaidd fel y perthyn,
Mewn sancteiddrwydd, ffydd, a gobaith,
Glendid pur, a chariad perffaith.
Gwachel redeg yn amharod,
I ford Christ yn llawn o bechod,
Rhag it dderbyn barnedigaeth
Lle caiff eraill Jechydwriaeth.
Page  216
Cofia 'n garcus, * pwy sancteiddrwydd,
Pwy ymgweirio, pwy barodrwydd,
Gynt ossododd Duw ar dâsc,
Cyn cae Israel fwytta 'r Pâsc.
*Cofia hefyd pwy ymolchi,
Pwy lanhau, â phwy syberwi,
Y wnaeth Christ â'i ddwylo tyner,
Ar ei Saint cyn * tasto o'i swpper.
O na ddere ditheu 'n sarnllyd,
Yn dy rŵd a'th bechod drewllyd,
I ford Christ heb lwyr ymolchi,
O'th holl feie a'th holl frynti.
*Bwrw lefein pob rhyw bechod,
Llid, cynfigen, malis, meddwdod,
Rhyfig, ffalstedd, ffwrdd o'th galon;
Ni thrig Christ y man lle byddon.
Cofia fel y * hentrodd Satan,
Gynt yn Suddas fradwr aflan,
Yn ôl iddo fwytta 'r tammaid,
Yn ei bechod brwnt mor embaid.
Gwachel dithe rhag digwyddo,
Y fâth beth yr eilchwaith etto,
Os ti ddoy i ford yr Arglwydd,
Yn d'aflendid heb barodrwydd.
*Cofia ir Corinthiaid feirw,
A nychu 'n hîr, o'r gwres a'r gwayw,
O waith mynd yn amharodol,
Llwyr ei pen ir Bwrdd sancteiddiol.
Gwachel ditheu fynd yn rhwyscus,
I ford hon heb ofan parchus,
Heb ystyried beth sydd arni,
Rhag dy farw yn dy frynti.
*Hola dy hun, a myn wybod,
Wyt ti 'n difar am dy bechod,
Ac oes gennyd ffydd a gobaith,
Calon lân a chariad perffaith?
Page  217
Barna dy hun yn ddiweniaith,
Fel na farno Duw di'r eilwaith;
Ac lle gwelech ddim yn eisie,
Cais gan Ghrist ei roi neu fadde.
Pedwar peth sydd Angenrheidiol.
Ir rhai fynn cymmuno'n ddeddfol,
(1) Ffydd Gristnogaidd, (2) Gwir ddifeirwch,
(3) Cariad perffaith, (4) Diolchgarwch.
Nid oes llûn bôd heb y lleia,
O'r rhai hyn cyn mynd i fwytta:
A'r neb êl ir swpper hebddyn,
Ni chaiff lês oddiwrth y cymmun.
Ffydd sy gynta 'n angenrheidiol,
I gredu i Ghrist roi hun yn hollol,
Ar y groes i farw drossom,
Am y pechod oll y wnaethom.
Ffydd sy'n cyrraedd ffrwyth y pardwn,
Y bwrcassodd Christ trwy * bassiwn,
Ac yn derbyn ar y swpper,
Grist ei hun a'i holl gyfiawnder.
Nid yw Christ yn fwyd ir bola,
I gnoi a dant ai roi ir cylla:*
Bwyd yw Christ i borthi'r enaid,
Yn ysprydol trwy ffydd dambaid.
Ni all neb fwynhau 'n ysprydol
Christ, a'i waed, a'i gorph sancteiddiol,*
Ond yn vnig trwy ffydd rymmus,
Ddel o galon edifarus.
Mae 'r Efengyl inni 'n dangos,*
Fôd Christ yn y nêf yn aros;
Ac na ddichon vn dyn cnawdol,
Fwytta Christ, ond yn ysprydol.
Ffydd gan hynny sydd anghenrhaid,
I gyrraedd Christ i borthi 'r Enaid,
Ac i ddercha 'r galon atto,
O myn Enaid borthi arno.
Page  218
Bwyd ir Enaid, bwyd ir galon,
Bwyd yw Christ ir meddwl ffyddlon,
Bwyd i gymryd trwy ffydd fywiol,
Bwyd i fwytta yn ysprydol.
Pan bo'r corph yn cymryd bara,
Yn y Cymmun er ei goffa,
Cwyn dy galon y pryd hynny,
A thrwy ssydd mwynhâ Grist Jesu.
Nessa at ffydd rhaid Edifeirwch,
Am bôb pechod trwy ddyfalwch,
A llwyr fwriad gwella beunydd,
Troi at Dduw mewn buchedd newydd.
Edifara o ddyfnder calon,
Am bob bai trwy ddagrau hallton;
Ac na ddere i ford yr Arglwydd,
Nes difaru, rhag cal tramcwydd.
Golch dy faril, carth dy waddod;
Na ddôd wîn mewn * Casc o bechod;
Rhag ir gwîn mewn llester aflan,
Dorri'r casc a rhedeg allan.
Ni thrig Duw, na'r Oen, na'r Glommen,
Lle bo pechod a chynfigen:
Golch gan hynny 'n lân dy lester,
Or derbynni Grist na'i swpper.
Chwd dy feddwdod, cladd dy frynti;
Gâd dy faswedd brwnt a'th wegi;
Attal nwyfiant, ffrwyna nattur;
Gwella 'th fuchedd, na fydd segur.
*Golch dy ddwylo mewn gwiriondeb,
Golch dy feddwl mewn duwioldeb,
Golch mewn cariad ben a chynffon,
Os derbynni Grist ith galon.
*Câr gyfiawnder, dilyn sobrwydd;
Arfer lendid a sancteiddrwydd;
Gwisc am danad gariad perffaith;
Nâd vn bai dy nyrddo 'r eilwaith.
Page  219
Nid oes rhoi i Gŵn o'r pethe sanctaidd,*
Na'r gwerthfawr berls ir môch angrhuaidd,
Na'r Manna gwynn mewn halog grochan,
Na chymmun Christ mewn cylla aflan.
Mewn Pott o aur y dodir Manna,*
A chelain Christ mewn crûs or meina,
A'r gwin o'r * Grâp mewn baril gruaidd,
Ar Cymmun hwn mewn Calon Sanctaidd.
Y Trydydd peth sy'n rhaid ei geisio,
Yw Cariad perffaith cyn recefo,
Heb ddwyn meddwl drwg at vn dyn,
Pell, nac agos, câr, na gelyn.
Cariad ydyw 'r arwms tirion,
Sydd gan Grist ar lifreu weision:
Ac wrth gariad yr adwaenir
Defaid Christ oddiwrth y geifir.*
Nid yw Christ yn derbyn un-dyn,
I fwynhau ef yn y cymmun,
Ond yr hwn y fo 'n ddiragraith,
A phob dyn mewn cariad perffaith.
Pyt fae gennyd fîl o ddonie,*
A bod cariad itti 'n eisie,
Nid wyt deilwng byth i ddwad
I ford Crist, heb berffaith gariâd.
Câr gan hynny dy gymdogion,*
Maddeu n •••ydd i'th holl elynion;
Ac yr ••••••host gam ag vndyn,
Cymm••〈◊〉 bwytteuch y cymmun.
〈◊〉 ddwad yn ddigofus,
I ford Christ mewn llid a malis;
Rhag i Satan fynd i'th gylla,
Gydâ 'r tammaid gwedi fwytta.
Dysc di gan y neidir dorchog,
Chwdu maes dy wenwyn llidiog,
Cyn dy fynd ir ford yn llawen,
Rhag i'th falis ladd ei pherchen.
Page  220
Neidir fraith medd rhai a'i gwalas,
Fwrw'i gwenwyn ar y gamlas,
Cyn y hyfoi ddwr o'r afon,
Rhag ir gwenwyn dorri chalon.
Bwrw dithe dy lîd allan,
A'th ddrwg feddwl, a'th draws amcan,
A'th holl falis, a'th genfigen,
Rhag ir rhain * andwyo ei perchen.
Or bydd gennyd y tri ymma,
(1.) Ffydd, (2.) Difeirwch, (3.) Cariad: coda,
Dere ir cymmun, mae i ti resso,
Christ ei hun sy'n d' alw atto.
*Pan y gwelych dorri 'r bara,
A thywalltu 'r gwîn ir cwppa,
Gofia fel y torre 'r wayw-ffon,
Gorph dy Grist nes gwaedu ei galon.
Pan derbynnech o law 'r ffeiriad
*Fara a gwin yn ol cyssygrad,
Derbyn Grist trwy ffydd i'th galon;
Portha d' Enaid arno 'n ffyddlon.
*Nid â dannedd y mae bwytta
Christ yn gnawdol a'i roi 'r bola,
Ond trwy ffydd y mae 'n ysprydol,
Fwytta Christ â'r galon fywiol.
Côd dy galon, dring ir nefodd,
Edrych ar yr hwn a'th brynodd;
Cofia faint y wnaeth ef erod,
Pan croes-hoeliwyd am dy bechod,
Cred i Ghrist ar groes a'i hoelion,
Offrwm drossod waed ei galon,
A phwrcassu bywyd itti,
Rwyt ti 'n bwytta Christ o ddifri.
Or gofynni pa ddaioni,
Ddyru Christ o'r swpper itti,
Pan derbynnech hi 'n gristnogaidd,
Mewn gwir ffydd a chariad perffaidd?
Page  221
Mae 'n rhoi itti gyflawn bardwn,*
O'th holl bechod * absoluwsiwn,
Gwedi 'r Brenin mawr ei selu,
A gwaed gwerthfawr calon Jesu:
Mae 'n Rhoi Pardwn, mae 'n rhoi bywyd;*
Mae 'n rhoi Comffordd, mae 'n rhoi iechyd;
Mae 'n rhoi Yspryd glân a'i ddonie,
Mae 'n rhoi 'hun a'i holl rinwedde:
Mae 'n dy wneuthur di 'n gyfrannog,
Oi holl ddoniau mawr galluog;
Ac mewn yspryd mae ê'n trigo,
Yn dy galon byth tro ganto,
Mae ê'n porthi d' Enaid egwan,*
A'i wir gorph â'i waed ei hunan,
Ac yn rhoddi nefol Yspryd,
Itti'n * ernest o'r gwir fywyd.
O bwy ddyled mawr sydd arnâd,
I foliannu Christ yn wastad,
Am dy wneuthur yn gyfrannog,
Or fâth swpper fawr gyfoethog.
A phwy daliad sy'n dy bwer,
I roi iddo am ei fwynder,
Felly 'n porthi d' Enaid aflan,
Ai wir waed â'i gnawd ei hunan.
Na fydd dithe mor nifeilaidd,
A mynd o'r llan yn anweddaidd,
Nes rhoi clôd a moliant iddo,
Am yr ymborth y gêst gantho.
Christ ni fwyttei fara barlish,
Chwaethach bwyd oedd well ei*relish,
Heb roi moliant mawr am dano,
I Dâd nefol heb anghofio.
Pwy faint mwy na ddly-yt tithe,
Fwytta Christ y penna or seigie,
Heb roi diolch i'r Duw cyfion,
Am ei fâb o ddyfnder calon.
Page  222
A gwawdd nêf a daer a dynion,
Seraphiniaid ac Angelion,
Ith gyd-helpu foli 'r Arglwydd,
Am ei gariad a'i gredigrwydd.