Canwyll y Cymru, sef, gwaith Mr. Rees Prichard, gynt ficcer Llanddyfri, a brintiwydd or blaen yn bedair rhan, wedi ei cyffylltu oll ynghyd yn un llyfr. = The divine poems of Mr. Rees Prichard, sometimes vicar of Landoverey, in Carmarthen Shire. Whereunto is added the strange but true narrative of the chief things, spoken and acted, by an unclean spirit at Mascon.
Prichard, Rhys, 1579-1644., Du Moulin, Peter, 1601-1684., Boyle, Robert, 1627-1691., Hughes, Stephen, fl. 1681.

Cynghor i bob Penteulu i lywodraethu ei dŷ yn dduwiol.

OS mynni fôd yn ddyn i Dduw,
Yn Gristion sanctaidd tra fech byw,
Gwna dy dŷ yn Eglwys fychan,
A'th deulu 'n dylwyth Duw ei hunan.
Gwna dy dŷ yn Demel * gysson,
Gwna dy dylwyth fel Angelion,
Yn eu gradde o bob galwad,
I wasnaethu Duw yn ddifrad.
Page  194
Gwna dy dŷ yn Demel sanctaidd,
I addoli Duw yn weddaidd,
Gan bob enaid a fo yndo;
Fore a ha yr yn ddi-ddessygio.
Dewis fain o bobol raffol,
Gwedi * scwario i gŷd wrth reol,
Yn byw 'n sanctaidd ac yn gymmwys,
I adeilio dy ln Eglwys.
Nâd un maên anghymmwys ynddi,
Nac vn drwg-ddyn ddwad iddi:
Nid rhai aflan, ond rhai cymmwys,
Y fyn Duw yn fain i Eglwys.
Tro 'r main aflan ôll oddiwrthyd,
Ni fyn Duw 'r fath feini sarnllyd:
Tŷ i Grist, nid tŷ i Gythrel,
Y fydd d' Eglwys di a'th Demel.
Ffittach ydyw pobol aflan,
Fôd yn fâin i gorlan Satan,
Ac yn danwydd vffern drist,
Nag yn fain i Eglwys Grist.
Main anghymmwys, main afluniaidd,
Sy'n anffyrfio Temel gruaidd:
Dŷn anneddfol, dŷn anesmwyth,
A bair anglod ith holl dylwyth.
Na ddôd glogfain câs anghymmwys,
Heb ei scwario yn dy Eglwys:
Ac na dderbyn ith dŷ deddfol,
Rai digrefydd at rai grassol.
Ni wna meini câs anghymmwys,
Ond diwreiddio gwelydd d' Eglwys,
Na'r rhai aflan, drwg, di-grefydd,
Ond troi 'th Dŷ ai dorr i fynydd.
Gyrr yr aflan ffwrdd o'th Deulu,
Cyn y ceisiech Grist ith llettu:
*Ni ddaw Christ ir lle ammherffaith,
Nes troi 'n gynta 'r aflan ymmaith.
Page  195
Byth ni chydfydd mewn vn Demel,
Wir blant Duw a phlant y cythrel,
Mwy nâ'r gwenin bach a'r mwg,
Mor yspryd glân a'r yspryd drwg.
Ni thrig Brenin lle bo môch,
Brwnt ei buchedd, câs ei rhôch:
Ni thrig Christ a'i Yspryd gwiwlan,
Yn yr vn tŷ â'r rhai aflan.
Or bydd ith dŷ rai digrefydd,
Meddwon, marllyd, ac anufydd,
Tro hwy * maes, fel Dafad Glafrllyd,
Rhag Clafrio 'r faint sydd gennyd.
Fel y bwrodd Abram Ismael,*
Ffwrdd o'i dŷ, am chwhareu 'r Rebel,
Felly bwrw ditheu 'r aflan,
Ffwrdd o fysc dy Dylwyth allan.
Ni adawe Dafydd frenin,*
Wâs annuwiol yn ei gegin:
Na âd dithe ddrwg weithredwr,
Yn dy blâs nac yn dy barlwr.
Vn gwâs aflan a bair anair,
I lawerodd o rai * diwair:
Nâd gan hynny 'r aflan orphwys,
Yn dy dŷ nac yn dy Eglwys.
Myn rai duwiol ith wasnaethu,
Os dedwyddwch a chwhenychu:
Duw fendithia waith y duwiol,
Pan ddel aflwydd ir anneddfol.
Gwâs fel Joseph Duwiol geirwir,
Y dynn bendith ar dŷ feistir:
Ond y drwg-ddyn megis Achan,*
All * andwyo 'r Ty ar Gorlan.
Or bydd gwâs crefyddol gennyd,
Duw fendithia dy hôll olud;
Fel y gwnaeth ef er mwyn Jago,*
I holl olud Laban lwyddo.
Page  196
Gwell gwâs duwiol, * llariaidd, llonydd,
A dynn lwyddiant ar dy faesydd,
Nâ 'r digrefydd goreu gaffech,
A dynn aflwydd ar y feddech.
Gwell y llwydda gorchwyl gwâs,
Diddrwg, llariaidd, llawn o râs,
Nag y llwydda gwaith anneddfol,
Gwâs digrefydd, grymmus, graddol.
F' all gwasanaethwr doeth, crefyddol,
*Droi ei feistir fôd yn ddeddfol,
Fal y dichon gwraig y * Pagan,
Droi ei gwr yn Gristion gwiwlan.
Oni cheisi bobol ddeddfol,
Ith wasnaethu yn grefyddol,
Byth ni bydd dy dŷ yn Demel,
Ond yn wâl a * glŵth ir Cythrel:
Nid wyd nes er gweifion Cryfion,
I gyflawni dy orchwylion,
Oni byddant hefyd (Clyw)
Grŷf i gwpla gorchwyl Duw.
Na fynn vn ith Dŷ a'th Drigfa,
Nes bô o Deulu 'r ffydd yn gynta;
Nac vn gwâs tra fyddech byw,
Nes bo 'n gynta 'n wâs i Dduw.
Ni fynn Eglwys Dduw it dderbyn,
Twrc na Phagan itti 'r Cymmun:
Na fyn dithe yn dy Deulu,
Rai digrefydd ith wasnaethu.
Ni bydd gwâs digrefydd cywir,
Nac ir Arglwydd Dduw na'i feistir;
Cans arferol ir fâth ddrwg was,
Werthu feistir megis Suddas.
Cais gan hynny bobol sanctaidd,
Pobol dduwiol, pobol weddaidd,
Ith wasnaethu tra fech byw,
Or gwnei dy Dŷ, yn Eglwys Dduw.
Page  197
Bydd dy hunan yn oleuni,
Ac yn batrwn o ddaioni,
Ith holl bobol mewn sancteiddrwydd,
Glendid buchedd, ac onestrwydd.
A rho Siampl dda i dilyn,
Yn y neuadd, yn y gegin,
Mewn gair, gweithred, ac ymddygiad,
I bôb rhai fo 'n disgwyl arnad.
Rhodia gydâ Duw fel Enoc,
Bydd bôb amser yn * wagelog:
Cofia fôd Duw â saith llygad,
Ym-mhob man yn disgwyl arnad.
Gwachel ddwedyd dim nai wneuthur,
Ond y fytho tra chymmessur,
O flaen Duw a chroes y farchnad,
A phâr gofio hyn yn wastad.
Bydd mor sobr, bydd mor sanctaidd,
Bydd mor gynnil, bydd mor weddaidd.
Bydd mor ddeddfol, bydd mor gymmwys,
Yn dy Dŷ ac yn dy Eglwys.
Y mae dlyed ar Ben-teulu,
Ddysgu dylwyth wir grefyddu,
Nabod Duw, a chadw ei ddeddfe,
Credu yn Ghrist, ai 'ddoli yn ddie,
Fel y dysce Abram ebrwydd,*
Bawb oi dŷ, i ofni 'r Arglwydd;
Felly dysc dy blant ath Deulu,
I nabod Duw, a'i wir wasnaethu.
Dysc dy blant, a dysc dy bobol,*
I wir nabod en Tâd nefol,
A'r Jachawdwr a ddanfonwys,
Dyma 'r ffordd ir nef yn gymmwys.
Planna gyfraith Dduw 'n wastadol.
Yng halonne pawb o'th bobol;
Sonia am danynt hwyr a bore,
Y mewn, y maes, wrth rodio ac eiste.
Page  198
*Duw sy 'n erchi 'r Tadau ddangos
Deddfau 'r Arglwydd iw hôll blantos,
Ai rhoi 'n laese ar eu dillad,
Er mwyn Cofio gair Duw 'n wastad.
Darllain Bennod or scrythure,
Ith holl dylwyth nôs a bore;
Pâr i bawb * repeto allont,
A byw 'n ôl y wers y ddyscont.
Bydd Reolwr, bydd Offeiriad,
Bydd Gynghorwr, bydd yn * Ynad,
Ar dy dŷ, ac ar dy bobol,
I reoli pawb wrth reol.
Bydd Offeiriad iw cyfrwyddo,
Bydd Gynghorwr iw rhybyddio,
Ac i draethu 'r fengyl iddynt,
Ac i brûdd weddio drostynt.
Bydd Reolwr i * gompelo,
Ac i gosbi 'r rhai droseddo,
Ac i beri pawb oth bobol,
Fyw 'n gristnogaidd ac yn foesol.
Bydd di Farnwr i gyfrannu
Vnion farn, rhwng pawb oth deulu,
I roi tâl ir da a'r duwiol,
A diale ir anneddfol.
Gwna di gyfraith gyfiawn gymmwys,
I reoli 'th Dŷ a'th Eglwys:
Pâr ith bobol yn ddiragraith,
Fyw yn gymmwys wrth y gyfraith.
Dysc i bawb yn gynta ei dyled;
Dangos b'wedd y dylent fyned:
Gwedi dyscu 'r gyfraith groyw,
Par ir wialen beri ei chadw.
Bydd â'th law, a bydd â'th lygad,
Yn llwyr ddisgwyl ar eu ymddygiad:
Nâd i neb, ar air na gweithred,
Droi ar draws heb gerydd caled.
Page  199
Par i bawb o'th Dŷ ddiscleirio,
Megis Seren yn goleuo,
Yn rhoi llewyrch, dysc, ac * vrddas,
I bob rhai fo 'n trigo o gwmpas.
Pâr ith Dylwyth di ragori,
Mewn duwioldeb a daioni,
Fel oedd Tylwyth Nòe dduwiola,
Yn rhagori 'r holl fŷd cynta.
Pâr ith wraig fôd megis Seren,
Siriol, sanctaidd, lonydd, lawen,
Yn Esampl o Sancteiddrwydd,
Mewn gair, gweithred, ac onestrwydd.
Pâr ith hôll blant fôd yn foesol,
Yn gristnogaidd ac yn rassol,
Yn ymostwng i rhieni,
Fel plant Rechab yn y stori.
Pâr ith Dylwyth fôd yn ffyddlon,
Megis Tylwyth Tŷ Philemon,
Rhwn y wnaeth ei Dŷ yn Eglwys,
Gan mor sanctaidd ei rheolwys.
Pâr ith bobol fyw mor gymmwys,
Yn dy Dŷ, ac yn dy Eglwys,
Ac mor sanctaidd ymmhob Cornel,
A pha baent ynghorph y Demel.
Nâd hwy ddangos gwaeth cynheddfe,
Nâd hwy wneuthur frwntach gaste,
Yn y Tŷ nag yn yr Eglwys;
Ond pâr iddynt fyw yn gymmwys.
Nâd hwy dorri vn gorchymmyn,
Or rhai lleia heb ei gwrafyn:
Nd hwy ddilyn vn drwg arfer,
Heb eu Cyffro wella ar fyrder.
Nad i fawr na bychan dyngu,*
Enw 'r Arglwydd mawr, na'i gablu
Na dibrissio gwaed y Cymmod,
Heb roi dial am ei bechod.
Page  200
Nâd hwy dreulio 'r Sabboth sanctaidd,
Mewn oferedd anghristnogaidd,
Nac mewn gloddest a phibiaeth,
Heb roi vnion gosbedigaeth.
Nâd vn wrando 'r gair yn ofer,
Heb ei ddilyn gwedi clywer,
Ai ail guoi a sôn am dano,
A byw 'n ôl y wers y ddysgo.
Nad vn fynd y nôs i gysgu,
Nes penlinio wrth ei wely,
Ac addoli Duw yn gynta,
Cyn y rhoddo i gorph esmwythdra.
Nâd vn fynd y bore allan,
At vn gorchwyl mawr na bychan,
Nes addoli Duw 'n ei stafell,
Ar ei ddaulin heb ei gymmell.
Nâd vn daro ei law ar Arad,
Nac ar orchwyl o vn galwad,
Nes y Cotto ei law yn gynta,
Am gael Cymmorth Duw Gorucha.
Nâd vn fyned i shiwrneia,
Nac i forio, nac i ffeira,
Nes ymbilio 'n daer a'r Arglwydd,
I ddwyn adre yn ddi-dramcwydd.
Nad vn arfer megis mochyn,
Fwytta ei fwyd a llanw ei growyn,
Nes bendithio 'r bwyd yn gynta,
A chydnabod Duw gorucha.
Nad vn godi megis nifel,
Gwedi llanw ei fola a'i fottel,
Heb roi diolch prûdd a moliant,
Ir Tad nefol am ei borthiant.
Nad fôd vn o'th Deulu 'n eisie,
Ar wsanaeth, nôs na bore:
Wrth wasnaethu Duw bydd * garccus,
Nas gwasnaetho neb ê'n 'sceulus.
Page  201
Nad hwy arfer geirie lloerig,
Nac ymadrodd brwnt, llygredig,
Senn, na rheg, na llw, nac enllib,
Efrwmp, na ffrost, na dim cyffelyb.
Dysc dy blant, a rhwym dy bobol,
I arferu geiriau grassol,
Geiriau baro maeth a chyssur,
Gras ac vrddas ir gwrandawyr.
Nad hwy arfer caste brynton;
Nad hwy watwar pobol wirion:
Nad hwy gablu rhai anafus,
Na bychanu 'r tlawd gofydus.
Nad hwy * chwiffo yn y Seler,
Nad hwy feddwi ar vn amser:
Nad hwysugno mwg y ddalen,
Sydd yn peilio r bol' ar Cefen.
Nad hwy hoffi ffashwn anllad,*
Ar ei gwallt nac ar ei dillad:
Par i bob vn fynd yn weddaidd,
Fynd yn gryno ac yn gruaidd.
Ar y Sabboth nad hwy ir Pebill,
Lle mae 'r deillion yn ymgynnill,
Nac i dramwy ir Tafarne,
Lle mae 'r Diawl yn cadw ei wylie.
Dos ith * Eglwys blwyf y Sulie,
A'th holl Dylwyth wrth dy Sodle,
I Addoli Duw 'n gyhoeddus,
Gyda 'r dyrfa yn ddi-sceulus.
Nad ith dylwyth drigo gartre,
Amser gosber ar y Sulie:
Nad hwy loetran ar y Sabboth,
Sawl y cwhario, cwharien drannoeth.
Na ddod ormodd waith anesmwyth,
Ddyddie 'r wythnos ar dy dylwyth:
*Llwa ambell awr yn llawen,
Ir deffy giol godi gefen.
Page  202
Ar y Sabboth nad hwy 'n segur,
Par i bob vn chwilio 'r scrythur,
Ac i weithio gwaith Duw 'n escyd,
O flaen vn gwaith a so gennyd.
Dysc dy dylwyth ar y Sulie,
Bôb yr vn i ganu Psalme,
Ac * ymbwngcio 'n llon a'i gilydd,
Am air Duw a phwngciau crefydd.
Ar bôb Cinio, ar bôb Swpper,
Par i ryw vn ddarllain Chapter,
I roi ymborth i bob Enaid,
Pan bo 'r Corph yn Cael ei gyfraid.
Nad dy Dŷ, na hwyr na bore,
Heb wsanaeth a gweddie:
Gwell ith dylwyth fôd heb swpper,
Tra fônt byw nâ bôd heb osper.
Nd ith Eglwys fôd vn amser,
Heb wsanaeth prŷd a gosper,
Nac heb Aberth hwyr a bore,
Ir Tad nefol am ei ddonie.
Nâd vn Cornel a fo ynddi,
Heb ei ddysgib o bôb brynti,
A'r ddiscybell o ddifeirwch,
Nes cael ffafar Duw a'i heddwch.
Golch ei llawr â hallton ddagrau,
Trwssia ei * gwelydd â rhinweddau:
Nad ei hallor heb dân arni,
Ac arogle mawl a gweddi.
Cais dy hunan chwareu 'r ffeiriad,
Galw ar Enw Duw yn wastad:
Pâr ith bobol gydfyfyrio,
Gyda thi trech yn gweddio.
Pôb penteulu Carccus, cymmwys,
Ddlye fôd fel gwr o'r Eglwys,
Yn Cynghori, yn rhybyddio
Pawb o'i dŷ, yn ore ac allo.
Page  203
A'r fath drefen sy 'n yr Eglwys,
Yn rheoli pawb yn gymmwys,
Ddlye fôd yn nhŷ pôb Christion,
I reoli 'r Tŷ a'r dynion.
Gossod vn neu ddau o'th deulu,
Fel wardeniaid ith gyd-helpu,
Gadw 'th bobol ôll wrth drefen,
Ai rheoli yn dy absen.
Rhaid yw disgwyl ar arferion
Ac ymddygiad pawb o'th ddyni••
Ac ar lwybre rhai sy'n pechu,
Fel y gallech eu ceryddu.
Nâd vn drwg-ddyn heb ei gosbi,
Yn ol messur ei ddrygioni,
Rhag i arall bechu fwy fwy,
Am it ffafro 'r anghymradwy.
Dyro rybydd ir Trosseddwr,
Dair gwaith, pedair, wella ei gyflwr,
Cyn ei daflu ffwrdd o'r gorlan,
Onî wella trò fe allan.
O bydd meddwon na bydd sobor,
Or bydd drel na dderbyn gyngor,
Vn digred na charo grefydd,
Tro hwy maes yn ol cael rhybydd.
Or bydd morwyn yn scoldies,
Ac heb berchi Sara ei meistres;
Bwrw Hagar o'r drws allan,*
Gâd ir feistres gael ei hamcan.
Nâd ith ddyhion fôd yn segur,
Rho ryw dasc i bawb i wneuthur:
Maeth diffrwythder, mammaeth gwradwydd,*
Yw cyd-ddwyn â segurlydrwydd.
Myn weld pawb o'th blant ath deulu,
Yn mynd mewn pryd, bob nôs i gysgu:
Arfer ddrwg yw gadel gweision,
Fynd i gysgu pan y mynnon.
Page  204
Pan boi 'n amser mynd i gysgu,
Cais gan Ghrist fendithio 'th deulu,
A bod arnynt oll yn geidwad,
Gwedyn cymmer di dy gennad.
A rho rybydd ith holl bobol,
Alw ar Dduw yn * ddefosionol,
Fawr a bach, ar ben ei glinie,
Cyn yr elont iw gwelye.
Ac rhag ofon i Dduw gyrchu
Rhai o'u Cwsc i fynd i barnu,
Par i bòb vn lwyr ymgweirio,
Fynd o flaen Duw cyn y cysgo.
Os yn llynn y llywodraethu,
Dy holl dylwyth a'th holl lettu,
Duw fendithia 'th dŷ a'th dylwyth,
Ac ych gwna chwi oll yn esmwyth.
*Christ a Bresswyl yn dy demel,
Christ a'th wrendy yn dy drafel,
*Christ a'th dderbyn o'th lan Eglwys,
Ar dy ddiwedd i Baradwys.