Canwyll y Cymru, sef, gwaith Mr. Rees Prichard, gynt ficcer Llanddyfri, a brintiwydd or blaen yn bedair rhan, wedi ei cyffylltu oll ynghyd yn un llyfr. = The divine poems of Mr. Rees Prichard, sometimes vicar of Landoverey, in Carmarthen Shire. Whereunto is added the strange but true narrative of the chief things, spoken and acted, by an unclean spirit at Mascon.
Prichard, Rhys, 1579-1644., Du Moulin, Peter, 1601-1684., Boyle, Robert, 1627-1691., Hughes, Stephen, fl. 1681.
Page  173

Cynghor i ddyn fod bob amser o ymddygiad Cristnogaidd.

BId d'ymddygiad yn gristnogaidd,
Yn * gwrteisol, ac yn gruaidd,
Ym-mhob tyrfa 'delych iddi,
Megis plentyn ir goleuni.
Bydd el Seren yn discleirio,
Bydd fel Canwyll yn goleuo,
Bydd fel Patrwn o gristnogaeth,
Ir rhai ddelo i'th gwmpniaeth.
Bydd dra sanctaidd ir Galluog;*
Bydd yn vnion i'th gymydog,
Bydd yn sobr it ty hunan,*
Dyna 'r tri phwynt rheita allan.
Bydd mor ddi-ddrwg ag yw 'r glommen;
Bydd mor gall ar sarph drachefen:
Bydd ddioddefgar fal y ddafad;
Hôff gan Ghrist y fath ymddygiad.
Bydd yn dempraidd megis Daniel;
Cadw 'r cnawd mewn Diet issel:
Gwachel wîn a bwyd rhy foethus,
Rhag dy fynd yn afreolus.*
Bydd yn * ddiwair, nid yn anllad;
Bydd fel Joseph yn d'ymddygiad:
Rwyt ti yngolwg Duw bob amser,
Bydd gan hynny lân a syber.
Dela 'n vnion-wrth fargenna;*
Na thwyll vn dyn wrth farchnatta;
Duw ei hun sydd vnion farnwr,
Rhwng y gwirion plaen a'r twyllwr.*
Bydd o ffydd a chrefydd vnion;
Ofna Dduw o ddyfnder calon;
Na wna ddrwg o flaen ei lygad;
Ym-mhob mann mae 'n disgwyl arnad.
Page  174
*Dilyn gyngor doeth Bregethwyr:
Ymddarostwng ith Reolwyr:
Bydd gariadus â'th gymdogion,
Ac heddychol â phob Christion.
Bydd dra grassol yn dy eiriau;
*Bydd yn fedrus yn dy chwedlau:
Bydd yn gywir yn dy bromais;
Bydd ym-mhob peth, lân a * llednais.
Bydd di berffaith ymhob tyrfa;
Bydd fel Sant ym-mhlith y gwaetha:
Er difseithed y fo 'r cwmpni,
Bydd fel Noe ym-mysc y cewri.
*Cyfarch bôb dyn yn dra suriol;
Gostwng i'th well yn gwrteisol;
Parcha 'r henaint a'r Awdurdod,
A rho 'r blaen ith well yn wastod.
*Bydd ddioddefgar a chymmessur;
Na fydd boeth, na thwym dy nattur:
Godde gamwedd cyn cynhennu;
Y ddioddefodd hwnnw orfu.
Ymddarostwng i'th oreuon;
Duw ei hun a wrthladd beilchion:
Ac fe ddyru râs yn ystig,
Ir rhai vfydd gostyngedig.
*Na falchia am un rhinwedd,
Nac am gyfoeth ac anrhydedd:
Ond rhô ddiolch prudd am danynt;
Rhag i Dduw dy adel hebddynt.
Bydd di gryno yn dy ddillad;
*Dôs yn lân yn ôl dy alwad:
Torr dy bais yn ôl dy bwer;
Na fydd goeg na brwnt un amser.
Gwachel bechu er cwmpniaeth:
Cyflog pechod yw marwolaeth:
*Cnifer gwaith y bech yn pechu,
Cnifer Angeu wyt yn haeddu.
Page  175
Mae cyfathrach er y dechre,
Rhwng pôb pechod brwnt ac Ange;
Fal na ddichon un dyn bechu,
Na bo Ange yn ei lyngcu.
Na fydd anllad yn dy chwedle;*
Na fydd aflan mewn cornele;
Ym-mhob cornel bid d'ymddygiad,
Fal pyt faet wrth groes y farchnad.
Os cais dŷn, na Diawl, nac Angel,
Gennyd bechu yn y dirgel;*
Cofia fôd Duw â saith llygad,
Ym-mhob mann yn disgwyl arnad.
Er nad ydyw Dyn yn gweled,*
Yn y dirgel lawer gweithred;
Y mae Duw yn gweld y cwbwl,
Pan na bytho dyn yn meddwl.
Os trosseddi yn y dirgel,
Duw ddatguddia dy holl gwnsel,*
Ac y faneg dy ymddygiad,
Ir byd yng wydd haul a lleuad.
Gwachel ddilyn drwg gwmpniaeth,
Pobol anwir ddigristnogaeth:*
Os fe nyrdda rhain d'ymddygiad,
Fel y nyrdda 'r pitch dy ddillad.
Fal y hallta 'r môr y granffo,
O'r dwr croyw ddelo atto:
Felly nyrdda pobol scymyn
Foeseu 'r goreu ddelo attyn.
Gwachel neidir rhag dy frathu,
Gwachel bla rhag dy ddifethu:
Ac o ceri Jechydwriaeth,*
Gwachel ddilyn drwg gwmpniaeth.
Câr à'th galon bôb dyn duwiol:
Bydd gyfeillgar â'r rhinweddol:*
Dilin arfer y rhai doethion,
A ffieiddia 'r annuwolion.