Canwyll y Cymru, sef, gwaith Mr. Rees Prichard, gynt ficcer Llanddyfri, a brintiwydd or blaen yn bedair rhan, wedi ei cyffylltu oll ynghyd yn un llyfr. = The divine poems of Mr. Rees Prichard, sometimes vicar of Landoverey, in Carmarthen Shire. Whereunto is added the strange but true narrative of the chief things, spoken and acted, by an unclean spirit at Mascon.
Prichard, Rhys, 1579-1644., Du Moulin, Peter, 1601-1684., Boyle, Robert, 1627-1691., Hughes, Stephen, fl. 1681.

Cynghor ir milwr.

CYn yr elech i ryfela,
Dros y goron, oh! gweddia,
Ar Duw 'r lluoedd am roi cálon,
*Scil a grym ir milwr ffyddlon.
Duw sy'n rhoddi grym a chryfdwr,
A chyfrwydd-deb i bôb milwr,
Scil ir byssedd i ryfela,
*Tosso 'r Peic, a thynnu 'r bwa.
Duw y lluoedd sydd Ryfelwr,
*Ac yn noddfa mewn cyfyngdwr:
Duw sy'n rhoddi 'r fuddugoliaeth;
Cais ei help, fe rhy yn helaeth,
Page  145
Gwell yw gweddi mewn cyfyngdwr,
Wrth ryfela i bob sawdiw,
Nag un * harnais idd' ymddiffyn;
Gwell nâ glaif i glwyfo 'r gelyn.
Mwy y laddodd dwylo Moesen,
Wrth eu dercha tua 'r wybren,*
Nag y laddodd cledde Josua,
A holl Israel wrth ryfela.
Jonathan a'i weddi laddodd,*
O'r Philistiaid fwy o filoedd,
Nag y laddodd Saul â'r cledde,
A'i Ryfelwyr ôll â'u harfe.
Chwyrnach ydoedd gweddi Dafydd,
I droi 'r Cawr â'i dorr i fynydd,*
Nâ'r holl gerrig aeth o'i goden,
Er eu glynu yn ei dalcen.
Hên Elias heb ddim arfe,*
Ond ei weddi y ddifethe
Ddau Ben-capten a'u Cwmpeini;
Beth sydd gryfach nag yw gweddi?
Cryfach ydoedd gweddi Judith,
Nâ'r holl welydd cedyrn aryth,
I ymddiffyn tre Bethuwlia,
Rhag Holphernes idd ei difa.
Arfer dithe brudd weddio,
Wrth ryfela â'th ddwy ddwylo;
Fel arferodd dewr-wych Josua;
Di gei lwyddiant wrth ryfela.
Dôd dy ddwylaw i filwrio,
Dôd dy galon i weddio;
Di gei weled y gwna gweddi,
Fwy nâ dwylaw o orhydri.
ARglwydd grymmus, Llywydd lluoedd,
Pen Rheolwr pôb rhyfeloedd,
Vnig roddwr buddugoliaeth,
Gwrando ngweddi o 'm milwriaeth.
Page  146
Rym ni ymma ym-mhlaid y goron,
A'n Prins, a'n gwlad, a'n da, a'n dynion,
Yn rhyfela â gwir diras,
Sy'n amcanu treisio 'r Deyrnas.
Duw gwradwydda eu amcanion,
A'u bwriadeu a'u dichellion;
Tola ei balchder, torr ei cryfdwr,
Dofa ei hawch, gostega ei cynnwr.
Nertha ninne dy wael weision,
Chware 'r gwyr ym-mhlaid y Goron;
A rho inni rym a gallu,
Eu concwero a'u gorchfygu.
Arglwydd grassol cwyn ein calon,
Ymladd drossom a'n gelynion:
Hel dy fraw a'th ofon arnynt,
Doro * ffwyl a gwradwydd iddynt.
Er nad ydym yma ond gronyn,
Ir fâth nifer sydd i'n herbyn,
Etto rym yn ddigon grymmys,
Os tydi a fydd o'n hystlys.
Arglwydd gwynn, nid llai dy bwer,
*Mewn ychydig nag mewn llawer:
Os mewn gwendid rwyt fynycha,
Yn mynegi d'allu mwya.
*Peraist gynt i Gedeon ddifa,
Ef a thrychant o'r gwyr gwanna,
Lû aneirif o'r Midianiaid,
Oedd cyn amled a'r locustiaid.
Jonathan ai*glydydd arfe,
Helodd miloedd i droi cefne:
Pan y helaist ofon arnyn,
Pwy a feiddie droi yn d'erbyn?
*Rhoddaist rym i Samgar frayni,
Chwechant gwr, a'u lladd a'r ierthi,
*Ac i Samson 'ladd heb orphen,
Fil o wyr â gên yr assen.
Page  147
Di ddifethaist trwy law gwreigin,
Ben tywyssog Brenin Jabin;
Ac a wnaethost ir planede,
Ymladd drossot yn en gradde.*
Gelli Arglwydd mawr os mynny,
Roi i ninne rym a gallu,
I orchfygu ein gelynion,
Er nad ym ond milwyr gweinion.
Os tydi a fydd o'n hochor,
Nef a daiar, dwr a chenfor,
Haul a lloer, a gwynt ystormys,
A ryfelant ar ein hystlys.
Arglwydd mawr or byddi o'n hystlys,
Pet fae'r Twrc, a'r Pab, a'r Spanis,
A holl uffern yn ein herbyn,
Ni roem ddim o'r garrai erddyn.
Tydi 'n vnig sydd Ryfelwr,
Gennit ti mae * scil a chryfdwr:
Ti sydd roddwr buddugoliaeth,
Ti sy'n achub rhag marwolaeth.
Ti sy'n peri 'r rhyfel beido;
Ti sy'n torri 'r * spêr yn yfflo:
Ti sy'n rhoddi 'r march i gyscu;
Ti yn vnig sy'n gorchfygu.
Doro gomffordd i'n calonne;
Doro gryfder yn ein breichie;
Doro scil i'n bawb ryfela,
Megis milwyr ir goruwcha.
Gwna 'r capteniaid megis Josua,
Ymwroli i ryfela;
A bydd gydâ rhain dy hunan,
I gyfrwyddo ei * plot a'i hamcan.
Doro galon ym-mhob milwr,
Deall, Dewrder, scil, a chryfdwr,
Gallu, gwllys, hyder eon,
Igonfronto ein gelynion.
Page  148
Dôd d' Angelion i'n castellu,
Rhag pob gelyn tra ni 'n cyscu:
A dôd lû o'th filwyr penna,
I'n cyfnerthu wrth ryfela.
Bydd dy hun yn disgwyl arnom,
Ac yn * llywio 'r hyn a wnelom:
Nad in wneuthur yn wrthnebys,
Ddim yn erbyn dy lan 'wllys.
Gwna ni 'n gywir bawb i'n Brenin;
Gwna ni 'n ffyddlon ir cyffredin:
Gwna ni 'n ufydd i'n rheolwyr,
Ac heddychlon â'n lletteuwyr.
*Gwna ni'n foddlon bawb i'n cyflog;
Nâd in speilio un cymmydog,
Na * gormeilio mawr na bychan;
Ond byw 'n weddus yn dy ofan.
Nâd i'n ddilyn afreolaeth,
Na chynhennu mewn cwmpniaeth,
Nac ymdynnu â'n Captenni,
Na byw 'n aflan mewn drygioni.
Nâd in dreisio gwraig na morwyn,
Nac anrheithio un dyn addfwyn;
Rhag i'th lîd gyfodi 'n herbyn,
A'n troi bawb tan ddwylo'r gelyn.
Gwna ni bawb yng hanol rhyfel,
Fyw fel pobol yn dy demel;
Y fae bôb yr awr yn galw,
Am dy gymmorth idd ei cadw.
Lle 'r ym beunydd ym-mhyrth ange,
Ar flaen peics a geneu r gwnne;
Pâr i'n fyw bob awr yn d'ofan,
A throi heibio buchedd aflan.
Ni wyr un pa awr, pa ennyd,
Y rhy gyfrif am ei fywyd,
Gar dy fron o Farnwr cyfion;
Par in fyw gan hynny 'n vnion.
Page  149
Gwna ni 'n barod ddwad attad,
Bôb yr awr O anwyl Geidwad:
Nâd in fyw un awr mewn pechod,
Rhag ein cyrhaedd yn amharod.
Nâd in wneuthur dim drygioni,
Nac vn*herc na allom roddi,
Cowntoi blegid heb gwilyddio,
Ddydd y farn pan deir i*ympyro.
Arglwydd achub ni dy weision;
A gwradwydda ein gelynion:
Cadw ein Brenin a'i frenhiniaeth;
A rho iddo 'r fuddugoliaeth.