Canwyll y Cymru, sef, gwaith Mr. Rees Prichard, gynt ficcer Llanddyfri, a brintiwydd or blaen yn bedair rhan, wedi ei cyffylltu oll ynghyd yn un llyfr. = The divine poems of Mr. Rees Prichard, sometimes vicar of Landoverey, in Carmarthen Shire. Whereunto is added the strange but true narrative of the chief things, spoken and acted, by an unclean spirit at Mascon.
Prichard, Rhys, 1579-1644., Du Moulin, Peter, 1601-1684., Boyle, Robert, 1627-1691., Hughes, Stephen, fl. 1681.

Diolch i Grist am amddiffyniad ac esmwythder.

O Fyng Heidwad, o fy Mugel,
Rhwn am cedwaist yn dy gessel,
Neithwr rhag i'r blaidd fy llyngcu,
Rwi o'm calon i'th glodforu.
Dan dy adain Christ di'm cedwaist,
Yn dy freiche di 'm cofleidiaist:
Rhoddaist imi brudd esmwythder;
Rwi 'n ddiolchgar am dy fwynder.
Nedaist Satan im difethu;
Nedaist ddynion im gorthrymmu:
Nedaist dân a gwynt fy speilio,
Nac anhunedd im dihuno.
Bendigedig a fo d'enw,
Christ fyng Heidwad am fy nghadw;
A gogoniant itti rodder,
Am roi i mi 'r fâth esmwythder.