Canwyll y Cymru, sef, gwaith Mr. Rees Prichard, gynt ficcer Llanddyfri, a brintiwydd or blaen yn bedair rhan, wedi ei cyffylltu oll ynghyd yn un llyfr. = The divine poems of Mr. Rees Prichard, sometimes vicar of Landoverey, in Carmarthen Shire. Whereunto is added the strange but true narrative of the chief things, spoken and acted, by an unclean spirit at Mascon.
Prichard, Rhys, 1579-1644., Du Moulin, Peter, 1601-1684., Boyle, Robert, 1627-1691., Hughes, Stephen, fl. 1681.

Cynghor 〈◊〉 gredu vn Grist, a dangosiad o'r ne∣widid rhyfeddol sydd yn y dyn a gretto.

CRêd yn Ghrist, llef am dy geidwad,
Mae Duw 'n cynnig Christ i fagad;
Derbyn Gr••t pan y cynnico,
Onis gn•• ti •••du hbddo.
Y dyn a 〈◊〉 yhrist n * brûdd,
Trwy galon rwydd a bywiol ffydd,
Mae Christ yn rhoi i hwnnw râs,
I fyw fel sant o hynny maes.
Mae Christ yn rhoi ei yspryd iddo,*
I ail eni a'i ail lunio,
Ai lwyr droi yn ddyn o newydd,
O rebel ffôl yn blentyn vfydd.
Mae 'n rhoi ei air i wir oleuo,
Mae 'n rhoi ei râs i gynnorthwyo;
Mae 'n rhoi ei yspryd i reoli;
Mae 'n rhoi ei hun yn bôb peth inni.
Nid oes lûn i ddyn wrth hyn,
Y gretto yn gryf yn Jesu gwynn,
Na chaffo râs a grym oddiwrtho,*
I fwy fel sant, os crêd ef ynddo.
Mae crêd yn tynnu grâs a gallu,*
Oddiwrth Ghrist ir dyn ddifaru,
Am bob bai o'i fuchedd aflan,*
A byw fel sant o hynny allan.
Oni bydd dy ffydd yn tynnu
Grâs O Grist, ith adnewyddu;*
Dy ffydd sydd ffalst, ni thâl hi ddimme,
Nes tynno hi râs i wella 'th feie.
Page  74
Mae bywiol ffydd yn tynnu gras,
*A grym O Ghrist, O hynny maes,
I roi heibio bob hên grefydd,
Ac i wneuthur ôll o newydd.
Er creuloned a fo'th nattur,
Er bychaned a fo'th fynwyr;
Crêd yn Ghrist a galw arno,
F' all dy wella 'r awr y mynno.
Er creuloned oedd y Jailer,
Er bod Saul yn silain sceler,
A Manasses gwaeth nag hwynte,
Fe gwnaeth Christ hwy'n saint or gore.
Fe'th wna dithe o bechaudur,
Oflyd, aflan, drwg dy nattur,
Yn wir sant; os credu ynddo,
A thynny gras a grym oddiwrtho.
Fe wnaeth Christ, o hên herlidwr,
Saul yn ebrwydd yn bregethwr;
*Ac o'r wreigin ddrwg dros ben,
Y gigfran ddu, yn glommen wenn.
Crêd yn Ghrist a chalon gywir,
Fe wella Christ dy naws ath nattur:
O fab ir fall fe'th wna di 'n gristion,
O elyn Duw yn blentyn grasslon.
Na thyb dy fod yn credu 'n gywir,
Oni newid Christ dy nattur:
Y dyn y gretto yn Ghrist yn ffyddlon,
Fe newid Christ ei ddrwg arferion.
Cenfydd Saul, a chenfydd Zache,
Cenfydd Mari Magd'len hithe;
Di gei weled Christ yn*altro,
Buched pob dyn pan y cretto.
Er bod Saul fel Blaidd y bore,
Cyn credu yn Ghrist yn difa 'alle;
Fe wnaeth Christ cyn cenol dydd,
Y Blaidd yn oen, pan trowd ir ffydd.
Page  75
Cyn i Zache fynd yn gristion,
Roedd e'n pilo pawb o'r tlodion:
Gwedi credu fe rows Zache,
Ran ir tlawd o'r maint y fedde.
Er i Fagdlen fyw 'n rhyfygus,
Cyn credu yn Ghrist, a phechu 'n rhwyfus;
Fe fu Fagdlen ar ol credu,
Fyw fel Santes nes ei chladdu.
Felly dithe a newidii
Dy arferion ond it gredu:☜
Nes newidiech dy arferion,
Nid yw'th ffydd ondphansi ffinion.
Ffydd heb weithred dda 'n ei dilyn,
Sydd ffydd farw, ffydd heb eulyn;
Ffydd i'th ddallu, ffydd i'th dwyllo,
Ffydd sydd barod i'th gondemnio.
Ni byddd tân heb wres lle bytho;
Ni bydd dwr heb wlybrwydd ynddo;
Ni bydd 'fallen dda heb fale;*
Na bywiol ffydd heb dduwiol ffrwythe.
Os dwaid vn ei fod ê'n credu,
Ac heb wella ei feie er hynny,*
Nid oes dim ffydd gan hwn, ond ffrôst;
Yn twyllo 'i hun yn daran dôst.
Ni all dyn sy'n credu 'n ffyddlon,*
Lai nâ gwella ei ddrwg arferion,
Waith bôd Christ yn rhoi 'lân yspryd,
Ir pechadur 'wella ei fywyd.
Nad dy dwyllo ddryg-ddyn aflan,
Lle bo ffydd mae buchedd burlan:
Od yw dy ffydd yn talu ei gweled,
Moes ei dangos wrth dy weithred.*
Onid yw dy ffydd yn fywiol,
Yn dwyn gair a gweithred rasol,
Nid yw hon ond ffydd mewn enw,
Ffydd na ddichon byth dy gadw.*