ynddo, Jechyd, Ymborth, Di∣llad, a holl angenrheidiau bywyd.
Dyro i ni, o Dâd nofol, fara beunyddiol, dim i fodloni ein Rhyledd, ond y cy∣fryw gymhwysdra ac a wêl dy ddwyfol ddoethineb di yn gymmhesuraf i ni.
Dyro i ni, o Greawdr haelfflwch, fara beunyddiol heddyw, dysc i ni fyw heb ofal cybyddaidd am drannoeth, gyd ag hyderus ymddibynniad ar dy dadol ddaioni, ac i ymfodloni, a bôd yn ddi∣olchgar am y rhan presennol, a rwydd ganiadhâodd dy gariad i ni .
O Arglwydd trugarog, dyro i ni ein bara, yr hwn yw ein bara ein hunain, drwy lafur gonest , neu hawl gyfreith∣lawn; a chaniadhâ na fwyttaom ni fyth fara seguryd, neu dwyll.
Dyro i ni, Arglwydd, ein bara, o ran onis rhoddi di ef, nis gallwn ei gael ef, a chyd a'n bara dyro i ni fen∣dith , onide ni phorthiff ein Bara mo∣honom.
Uwchlaw 'r cwbl, o Arglwydd Dduw, dyro i mi Fara y bywyd, y Bara a ddisgynnodd o'r Nefoedd, Corph a Gwaed dy Fâb mwyaf gwynfydedig, i borthi ein Heneidiau i fywyd tragy∣wyddol.
Jesu wynfydedig, o na bae fy mwyd i, fel y bu yr eiddot ti, i wneuthur ewyllys dy Dâd nefol.