Galwad ir annychweledig idroi a byw, Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fel y myn nynt gael trugaredd yn nydd eucyfyngder. Oddiwrth y Duw byw. / Trwy ey wâs ennheilwing Richard Baxter.

About this Item

Title
Galwad ir annychweledig idroi a byw, Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fel y myn nynt gael trugaredd yn nydd eucyfyngder. Oddiwrth y Duw byw. / Trwy ey wâs ennheilwing Richard Baxter.
Author
Baxter, Richard, 1615-1691.
Publication
Printiedig yn Llundain :: tros Edward Brewster ac ydyntiw cael tan Lûn y Chryhir ym mynwent Paul,
1659.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Conversion -- Christianity -- Early works to 1800.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/B01524.0001.001
Cite this Item
"Galwad ir annychweledig idroi a byw, Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fel y myn nynt gael trugaredd yn nydd eucyfyngder. Oddiwrth y Duw byw. / Trwy ey wâs ennheilwing Richard Baxter." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/B01524.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 11, 2024.

Pages

Page 1

Galwad IR Annychweledic.

Ezec. 33.11.

Dywed wrthynt, fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, nid ymhoffaf ym marwolaeth yr anuwiol, onid troi or annuwiol oddiwrth ei ffordd, a byw: Dychwelwch, Dychwelwch oddi wrth eich ffyrdd drygionus, Canys (ty Israel) pa¦ham y byddwch feirw?

FE fu 'n synn ryfeddod gan lawer dyn cystal a chenny finnau, ddarllain yn yr scry∣thyr lân, leied a fydd cadwe∣dig, ac y bydd y rhan fwyaf, ie or rhai a Alwyd wedi ei ca yn dragwyddol allan o deyrnas, nef, ac y pe∣nydir hwynt gyda 'r Cythreuliaid mewn ta tragwyddol. Anffyddlonniaid ni chredant hyn

Page 2

pan ei darllénnont, ac am hynny rhaid iddynt ei deimlo. Y rhai ai cedant a annogir i lefain allan gyda Phaul, Rhuf. 11.33: O dd{y}fnder go∣lud Doethineb a gw{y}bodaeth Duw: mor an∣chwiliadwy yw ei farnau ef! ai ffyrdd mor anolheinadwy ydynt! Ond mae naturi∣aeth ei hun yn dyscú i ni roddi bai gweith∣redoedd drwg ar y gweithredwyr, ac am hynny pan ganfyddom ddim echryslon gwe∣di ei wneuthu; mae cyneddfen o gyfiownder yn ein hannog i ymofyn am y sawl ai gwnaeth fel y bo i ddrwg y weithred ddchwelyd yn ddrwg o wradwydd ar yr Awdur. Pe gwe∣lem wr gwedi ei lâdd ai ddryilio ar y ffordd, ni a ymofynnen yn y mn, O pwy a wnaeth y weithred greulon ymma? Pettau dêf trwy wyllt-naws gwedi ei rhoi ar dân, chwi a ofynnech, Pa ddiffeithwr brwnt a wnaeth hyn? Felly pan ddarllennom ni y bydd y rhan fwyaf yn bentewvnion ûffern yn dragywydd, mae yn anghenrhaid i ni syn∣nied rhyngom a ni ein hunain, pa fodd y digwydd i hyn fod? Ac oblegyd pwy y mae? Pwy sydd mor greulon a bod yn achos or cyfryw beth a hwn? Ac ni chawn ni gyfarfod ond ychydig a gym∣mero yr euogrwydd arno. Pawb yn ddiau a addefant mai Satan yw 'r achos Ond nid yw hynny yn dattod y pettrusder, Cans nid efe yw 'r prif-achos. Nid yw efe yn hyrddio dynion i bechu, ond i tentio iddo, ai gadael iw hewyllys eu hunain beth a wnelont ai ei wneuthur ai pei∣dio. Nid yw ef yn llusgo dynion ir dafarn, ac o drais yn agor eu safnau, ac yn tywallt y ddiod i fewn; Nid yw

Page 3

efe chwaith yn ei dal nad allont fy∣ned i wasanaethu Duw, nag yn dirdynnu eu callonnau oddi wrth feddyliau sanc∣taidd. Mae yn sefyll gan hynny rhwng Duw ei hûn ar pechadur: rhaid yw bod ûn o¦honynt yn brif-achos or holl drueni hwn, pa ûn bynnag yw efe: am nad oes neb arall iw furw ef arno. Ac mae Duw yn ymwrthod ag ef, ni fyn efe mhono arno. Ar annuwiol yn arferol a ymddiheurant oddi wrtho ac ni chymerant mhono arnynt hwn. A hon yw y ddadl a drinir ymma yn fy nhestyn i.

Mae 'r Arglwydd yn achwyn ar y bobl; ar bobl yn tybied mai o Dduw y mae: yr ûn hyw ddadl a drinir, (Pen. 18.) He meant (Adnod 25.) yn dywedyd yn eglur, nad cymmwys yw ffordd yr Arglwydd, a Duw a ddywaid, mai eu ffyrdd hwy il yd∣ynt gymmwys. Felly y dywedant ymma (adnod y 10. os yw ein hanwireddau an pe∣chodau arnom, a minneu yn diboeni ynddynt, pa fodd y byddem ni byw? Megis pe dy∣wedasent, os byddwn ni feirw a thruein, beth a allwn ni wrtho? fel pettau heb fod oiplegyd hwy ond o Dduw; Ond mae Duw yn fy 'Nhestyn i yn ei glirio ei hun oddiwrtho, ac yn dywedyd iddynt pa fodd y gallant ei ddiwygio os mynnant, ac mae ef yn eu hwylio i arfer y moddion, ac oni fynnant eu cynghori mae efe yn peti iddynt wybod mai o¦honynt eu hunain y mae 'r peth, ac oni fodlona hyn hwynt, nid ymettyl efe gan hynny rhag i cospi hwynt. Efe yw 'r hwn a fydd barnwr, a efe ai barna hwynt

Page 4

yn ol eu ffyrdd: nid ydynt hwy na ban∣wyr arno ef, nag arnynt ei hunain, o ddiffyg Awdudod, a Doethineb a Dibartiaeth: Ac nid eu gwaith yn ymgeccru a chwerylu a duw a wasanaetha eu trô, ac ai gwared oddiwrth ddihenydd cyfiawnder yhon y maent yn grwgnach iw herbyn.

Mae geiriau yr adnod hon yn cynnwys yn∣thi.

1. Waih Duw yn ymddiheuro ac yn ei glirio ei hûn oddiwrth yr euogrwydd oi di∣nistr hwynt. Hyn y mae efe yn ei wneuthur nid trwy fod heb gydnabod ai gyfraith, Y caiff yr an∣nuwiol farw, na thrwy ymwrthod a gwneu∣thur barn a ddihenydd yn ôl y gyfraith hon∣no; na thrwy roddi iddynt hwy ddim go∣baith na chaiff y gyfraith ei chyflowni; Ond trwy gyhoedd-gyfaddau nd eu marwolaeth hwynt y mae ef yn ymhoffi ynthi, ond eu Tróad yn hytach, fel y byddont byw: A hyn y mae efe yn ei gadaruhau trwy lw.

2. Eglur annogaeth ir annuwiol i ddy∣chwelyd; Lle mae Duw nid yn ûnig yn gor∣chymyn, ond yn perswadio, ac yn ymostwng i ymresymmû a hwynt, paham y byddent feirw? Vnion ddibeu yr Annogaeth hon yw, bod iddynt droi a byw. Yr ail ar dirgel ddi∣bennion, trwy ragfwrw na chyrhaeddid hon, yw y ddau hyn. Yn gyntaf, iw hargyoeddi trwy y moddion a arferodd ef, nad o Dduw y mae, os byddant hwy gresynoll. Yn ail iw hargyoeddi hwynt oddiwrth eu heglur ystyfnigrwydd yn llysu eu holl orchmynion ni annogaethau ef, mai o¦honynt eu hu∣main y mae, ai bod yn meirw oblegyd hwy a fynnant feirw.

Page 5

Swmm y Testyn sy'n sefyll yn yr Ystriaetha•••• hyn sy'n canlyn.

Athr. 1. Cyfraith anghyfnewidiol Duw yw, fod yn rhaid ir annuwiolion droi neu feirw.

Athr. 2. Addewid Duw yw, cael or annuw∣iol fyw os hwy a dróant.

Athr. 3. Mae Duw yn ymhoffi yn nhroedi∣gaeth ac iechydwriaeth dynion, ac nid yn eu marwolaeth ai damnedigaeth. Gwell oedd gan∣tho ef droi ohonynt a byw, na myned rhagddynt a meirw.

Athr. 4. Hwn yw 'r siccraf wir, yr hwn, o¦herwydd na fynnai Dduw i ddynion moi ••••••∣mau, a gadarnhaodd ef iddynt mewn modd dwyfol▪ ddwys trwy ei lw.

Athr. 5. Mae 'r Arglwydd yn atddyblu ei orchmynion ai annogaethau ir annuwiol i ddych∣welyd.

Athr. 6. Mae yr Arglwydd yn ymostwng i ymresymmu a hwynt, ac yn gofyn iddynt paham y byddwch feirw?

Athr. 7. Os yr annuwiol gwedi hyn ei gyd ni ddychwelant, nid o ran Duw y derfydd am danynt, ond oi rhan eu hunain: eu hystyf;nigrwydd eù hunain yw 'r achos oi damnegaeth meirw gan hynny y maent, oblegyd hwy a fynnant feirw.

Gwedi agoryd y Testyn gar bron eich llyg∣aid yn yr eglur draethiadau hyn, yn y man nesaf mi a lefaraf beth am bob ûn o¦honynt mewn trefn, er hynny yn dalfyrraidd iawn.

Page 6

Athr. 1. CYfraith anghyfnewidiol Duw yw, fod yn rhaid i ddynion annuwiol droi neu feirw.

OS coeliwch Dduw, coeliwch hyn: nid oes ond ûn or ddwy ffordd hyn i bob dyn annuwiol, naill ai Troedi∣gaeth ai damnedigaeth. Mi a wn mai an¦hawdd yw pei ir annuwiol goelio na Gwyrionedd nac Vniondeb hyn. Nid rhyfedd os cweryla yr Euog ar gyfraith, ychydig ddynion sydd barod i goelio yr hyn ni fynnent fod yn wir: A llai a fynnent i hynny fod yn wir ar y maent yn deall ei fod yn eu herbyn. Ond nid ymgynhennu ar gyfraith ac ar barnwr yw 'r hyn a chub y drwgweithredwr. Credu 'r gyfraith a gwneuthur pîs o¦honi a allai ragflaenu ei farwolaeth ef: Ond ei gwadu ac achwyn ani ni wna ond ei phrysuro hi. Oni bai hynny, fe ddygai gant resymmau yn erbyn y gyfraith, am ûn a ddygai, reswm tros y gyfraith: A dynion a ddewisent roddi eu rhesymmeu paham na ddylaent gael eu cospi yn hyttrach nac y gwrandawent ar eirchion a rhesymmau eu llywodraethwr, y rhai sy'n gofyn yddynt ûfyddhau. Ni wnaethpwyd y gyfraith i chwi iw barnu, ond fel y gallech chwi gael eich rheoli ach barnu ganthi.

Page 7

Eithr os bydd nb mor ddall ac anturio cwestiwnû naill ai Gwirionedd neu Gyfiwnd∣er y gyfraith hon or eiddo Duw, mi a roddaf i chwi ar fyrr yr eglurdeb hwnnw or ddau, yr hwn dybygwn, a ddylae fodloni dyn rhesymmol.

Ac yn gyntaf, os ydych yn ammau a ydyw hwn yn air Duw ai nad ydyw; heb law cant o leoedd eraill, fe a ellir eich bodloni ar ychydig rai hyn, Mat. 18, 3. Yn wir y dywedaf i chwi, oddieithr eich toi chwi, ach gwneuthur fel plant bychain, nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas nef¦oedd, Jo. 3.3. Yn wïr, yn wîr, meddaf i ti oddi¦eithr geni dyn drachefn, ni ddichon efe weled teyrnas Dduw, 2 Cor. 5.17. Os oes neb yn Ghrist, y mae efe yn greadur newydd. Yr hen bethau a aethant heibio; wele, gwnaethpwyd pob beth yn newydd, Col. 3.9▪10. Darfa i chwi ddiosc yr hên ddyn, ynghyd ai weithr∣edoedd, a gwisco 'r newydd, yr hwn a adne∣wyddir mewn gwybodaeth, yn ól delw yr hwn ai creuwdd ef, Heb. 12.14. Heb sanc∣teiddrwydd ni chaiff neb weled yr Arglwydd, Rhuf. 8.8, 9. Ar rhai sydd yn y cnawd, ni allant ryngu bodd Duw, ac od oes neb heb yspryd Christ ganddo, nid yw hwnnw yn eiddo ef, Gal. 6.15. Canys yn Ghrist Jesu ni dd¦chon Enwaedid ddim, na dienwaediad, ond crea∣dur newydd, 1 Pet. 1.3. Yn ôl ei fawr drugaredd yr adgenhedlodd ef ni i obaith bywiol Adod. 23. wedi eich aileni nid o had llygredig, ihr anlly∣gredig trwy air Duw, yr hwn sydd yn byw, ac n parhau yn dragywydd, 1 Pet. 2.1.2. Wedi rhoi heibio gan hynny bob drygioni, a phôb twyll, a rhagrith, a chenfigen, a phôb gogan∣air, fel rhai bychain newydd eni, chwen∣ny¦chwch

Page 8

ddid¦will iaeth y gair, fel y cynnyddoch trwyddo ef, Psal. 9.17. Y rhai drygionus a ymchwelant i vffern: a'r holl genhedloedd a anghofiant Dduw, Psal. 11.5. Yr Arglwydd a brawf y cyfiawn: eithr câs gan ei enaid ef y drygionus.

Megis nad rhaid i mi aros i agoryd y lleoedd hyn, y rhai ydynt mor eglur, felly yr wyfi yn tybied nad rhaid ym¦chwanegi dim mwy or lluaws hynny sydd yn adrodd y cyffelyb; os wyt ti ddyn ar sy'n credu gair Duw, dymma yn barod ddigon ith fodloni di, fod yn rhaid ir an∣nuwiol ddychwelyd neu gael eu condemnio. Yr ydych chwi yn barod wedi eich dwyn cym¦mhelled a bod yn rhaid i chwi naill ai cyfa∣du fod hyn yn wir, neu ddywedyd yn eglur, na chredwch chwi mo air Duw. Ac os deuwch chwi vnwaith ir pennod hwnnw, nid oes ond ychydig, obaith o¦honoch: Edrychwch arnoch eich hunain oreu y galloch; canys nid yw de∣bygol y byddwch allan o vffern chwaith yn hir. Chwi a fyddech parod i ruthro yn wyneb y sawl a roddei i chwi gelwydd: Ac er hynny a feiddiwch chwi roddi 'r celwydd i Dduw? Eithr os dywedwch wrth Dduw yn ddiynnwad, na chredwch chwi mhono, na fwriwch arno ef mor bai, oni ddyru efe i chwi rybydd byth ond hynny: os gwrthyd efe chwi, ach rhoddi i fynu megis yn ddiodaith. Cans i ba beth 'ich rhy∣byddiai oni chredwch ef? Pes anfonai. Angel or nefoed attoch, mae 'n gyfflybol na chredech. Am nad eill Angel lefaru ond gair Duw. A phe dygai Angel i chwi Efengyl arall, ni ddy¦laech moi derbyn, ond ei gymeryd yn Anathema, Gal. 1.8, 9. A diau na ddylid credu ûn An∣gel o flaen mab Duw, yr hwn a ddaeth

Page 9

oddiwrth y tad i ddwyn i ni yr athrawiaeth hon. Oni ddylid ei gredu ef, ni ddylid credu 'r. holl Angylion yn y nefoedd. Ac os deliwch chwi rhyngoch a Duw ar y tr∣mau hyn, myfi ach gadawaf, nes iddo efe ich trin mewn fford fwy dwysddadl. Mae gan Dduw lais a bair yw 'ch glywed. Er iddo ymymbil ar i chwi wrando llais ei Efengyl▪ efe a wnaiff i chwi glywed llais ei farn ef yn eich condemnio yn ddiymbil, ni allwn ni be i i chwi gredu yn erbyn ech ewyllys: ond fe bair Duw i chwi Deimlo 'och an∣fôdd.

M ewch glywed pa reswm sydd gennych, pa ham na chredwch y gair hwn o eiddo Duw, yr hwn sydd yn dywedyd i ni mai rhaid ir annuwiol. droi neu gael eu condemnio; mi a wn eich rheswn; mai o¦herwydd eich bod yn barnu fod yn anhebygol i Dduw fod mor annrhugarog: tybied yr ydych mai relder yw damnio dynion yn dragywyd am beth cyn lleied a buchedd bechaduru. A hyn sydd yn ein hawain t yr ail peth, yr hyn yw cyfiawn∣hau Vniawnder Duw yn ei ddeddfu ai farnau.

Ac yn gyntaf, yr wyfi yn tybied na wedwch nad yw yn ddigon cyfaddas i enaid anfarwl, gael ei reoli twy gyfreithiau a fo yn addaw gwobr anfarwol, ac yn bygwth cospedigaeth annherfynol. Oni bai hynny ni byddei y gy∣fraith gyfaddas i naturiaeth y sylwedd yr hon ni chyflawn reolir trwy foddion dim is na go∣baith neu arswyd pethau tragwyddol: fel y mae yn achos cospedigaeth amserol; pettau gyfraith yr awrhon gwedi ei gwneuthur y cae 'r beiau echryslonaf eu cospi a chan∣mlhynedd

Page 10

o gaethiwed, fe allai hyn fod o beth grym gan fod yn ogyhyd an heinioes ni. Eithr ped fuasai heb un gospedigaeth amgenach cyn y diluw, pan oedd dynion yn byw wythgant neu naw o flynyddoedd, ni buasai hi digonol, canys gwybasai ddynion y gallent gael cynifer cant o flynyddoedd yn ddi∣gôsp ar ol hynny. felly y mae yn ein hachos presenol ni.

2. Yr wyf yn tybied yr addefwch nad yw yr Addewid o ddidrangc a diamgyffied ogoniant anghyfaddasol i ddoethineb Duw na chwflwr dyn; A phaham yntau na bydech or ûnhyw dyb am fygythiad o ddidrangc ac an∣rhaethadwy drueni?

3. Pan gaffoch chwi yngair Duw, mai felly y mae, ac fellu y bydd, a ydych chwi eich hu∣nain yn tybied yn addas dywedyd yn erbyn y Gair hwn? A elwch chwi eich Gwneuthurwr ar y Bar? A hlwch chwi ei air ef ar gyhuddiad o ffalster? A eisteddwch chwi arno ai farnu wrth ddeddf eich dychmygion? A ydych chwi yn ddoethac, ac yn well, ac yn gyfiownach nag efe? Ai rhaid i Dduw 'r nefoedd ddyfod ir yscôl at och chwi i ddyscu Doethineb? Ai rhaid i anfeidrol dd••••thineb ddyscu gan ffolineb Ac i anfeidrol ddaioni gael ei ddywygio gan bechadur bowlyd, na fetro moi gadw ei hûn ûn awr yn lâ? Ai rhaid ir Holla∣lluog sefyll wrth frawdle prf? Oh ry∣fyg-aruhroll llwch dbwyll! A gyhudda pob priddell a thwrr a thommen yr haul o dywyllwch, a chymeryd arno lewyrchu 'r byd? Pa le yr oeddych chwi pan wnaeth yr hollalluog y cfreithiau hyn na alwsai efe anoch chwi i fod

Page 11

oi gyngor? Diammau wneuthur o¦hono ef hwynt cyn eich geni, heb chwennych moch cyngor: a chwithau a ddeuwch yn rhywyr ir byd iw troi hwynt yn ôl. Pe gallasech wneuthur cymmaint gorchwyl, chui a ddylasech ruthro allan och diddim, a dywedyd yn erbyn Christ pan oedd ef ar y ddaiar, neu Moses oi flaen ef, neu waredu Adda ar heppil be∣chadurus rhag y farwolaeth oedd wedi ei by∣gwth, fel na busai raid wrth Grist! A pha beth os tyn Duw ymmaith ei Ddioddefgarwch ai Gynhaliaeth, a gadel i chwi ddiferu i vffern, tra bôch yn ymgynhennû ai air ef? A goeliwch chwi y pryd hynny fod vffern.

4. Os yw pechod y fath ddrwg ar sy 'n gofyn marwolaeth Crist yn iawn trosto, nid rhyfedd ei fod yn haeddu trueni tragwyddawl.

5 Ac os haeddod pechodd y Cythreiliaid bo∣enydyaeth annherfynol, pa¦ham yntau nas haedd∣ai bechod dyn?

6 Ac yn fy nhyb, chwi a ddylaeth ddeall, nad oes fodd is goreu o ddynien, llai o lawer ir annuwiol, fod yn gymmwys fa wyr ar h••••dd∣edigaeth pechod. Och yr ydyn ni oll yn ddeilli∣on ac yn bartiol. Ni ellwch chwi fyth gyflawn adnabod haeddiant pechod, nes i chwi gyflwn adnabod Dwg y pechod; Ac ni ellwch chwi fyth gyflawn adnabod drwg y pechod, nes i chwi gyflawn adnabod. 1. Godidowgwydd yr enaid yr hwn a anffurfiodd ef. 2. A godi∣dowgrwydd y Sancteiddwydd yr hwn a ddeleuodd ef. 3. Ac achos a godidowgr∣wydd y Gyfraith yr hon y mae yn ei throseddu. 4. A godidowgwydd y Gogoniant y mae yn ei ddir∣mygu. 5. A Godidowgwydd a

Page 12

swydd Rheswm yr hwn y mae yu ei sathru. 6. Na chwaith nes i chwi adnabod Anfeidrol Ardd∣erchowgrwydd, Hollallnogrwydd a Sancteidd∣rwydd y Duw hwnnw yn erbyn yr hwn y gwn∣eir ef. Pan adwaenoch chwi y rhai 'n oll yn gy∣flawny cewch chwi gyflawn adnabod haeddiant pechod. Am ben hyn, chwi a wyddoch fod y troseddwr yn rhy bartiol i farnu 'r gyfraith, neu driniaeth ei farnwr. Yr ydym ni yn barnu wrth deimlad, yr hyn sydd yn dallu ein rheswm. Ni a welwn mewn bydol bethau cyffredinoll fod y rhan fwyaf o ddynion yn tybied fod y matter sydd eiddynt eu hu∣nain yn vniawn, a bod y cwbl yn gam ar a wneir yn eu herbyn: A gedwch ir cefaill doethaf, cyfiownaf neu fwyaf dibleidiol ddwyn ar ddeall iddynt y gwrthwyneb, mae y cwbl yn ofer. Anaml yw 'r plant na thy∣biant fod eu tad yn annhrûgarog neu yn chwarau yn arw a hwynt, os efe ai gwialenno∣dia. Odid o fowlyd adyn or distatlaf na thy∣bia fod yr Eglwys yn gwneuthur cam ac ef os hwy ai hysgymmunant: Ac odid o Leider neu Lofûdd a grogir, na chyhuddai ef y gyfraith ar barnwr o greulonder, pettau hynny yn gwa∣saneuthu 'r trô.

7. A ellwch chwi feddwl fod enaid aflan yn gymws ir nefoedd? Och fi, ni fedrant garu Duw ymma, na gwneuthur iddo un gwasanaeth ar a allo ef ei dderbyn; Maent yn ngwrthwyneb i Dduw, maent yn ffiei∣ddio yr hyn y mae▪ ef yn ei gau fwyaf, ac yn caru yr hyn y mae ef yn ei ffieiddio: Nid ydynt yn amygyffed yr ammherph∣aith gymundeb hwnnw ac ef, yr hwn y mae ei Seictiau ef ymma yn gyfrannog∣ion

Page 13

o¦hono. Pa fodd gan hynny y gallant hwy fyw yn y perphaith gariad hwnnw or eiddo ef, mewn cyflawn hoffdra a chym∣mundeb ac ef yr hyn yw gwynfyd nef? Nid achwynwch arnoch eich hunain am an∣nhrugarogrwydd, os byddwch heb wneuthur eich gelyn yn gynghorwr cyfrinachol: neu he ddwyn eich mochyn ich gwelu ac ar eich bwrdd gydâ chwi; na chwaith os dygwch ei heinioes, er na phechodd erioed. Ac er hynny a feiwch chwi ar yr Arglwydd perpheithlawn, y doethaf ar Grasusaf Benllywydd y byd, os condemna ef yr annychweledig i drag'wyddol drueni?

Defnydd.

ATtolwg i chwi yn awr, bawb oll ar ydych yn caru 'ch eneidiau, yn lle ym∣gynhennû a Duw ac ai Air, ymostwng iddo ar frûs, ai arfer er eich daioni. Chwi oll ar sydd etto heb droi yn y Gymanfa hon, cyme∣rwch hyn am ddilys wirionedd Duw, Rhaid i chwi cyn pen nemmawr Ddychwelyd neu gael eich damnio, nid oes un ffordd arall ond Troi neu farw. Pan ddywedodd Duw hyn, yr hwn ni ddichon ddwedyd celwydd wrthych, pan glywoch hn gan wneuthuwr a barnwr y byd, mae 'n fadws ir hwn sydd gantho glustiaù wrando. Erbyn hyn chwi a ellwch

Page 14

weled pa beth sydd gemych i ymddiried yn∣tho. Nid ydych ond Meirwon a damnedic oddieithr i chwi ddychwelyd. Pe dywedydwn i chwi amgenach, mi ach twyllwn a chelwydd. Pe cuddiwn hyn oddiwrthych, mi ach ana∣fwn chwi, ag a fyddwn euog och gwaed, fel y mae yr adnodau oflaen fy 'nhestyn yn fy siccrau, Adn. 8. Pan ddywedwyf wrth yr anuwiol, ti annuwiol gan farw a fyddi farw; oni leferi di i rybuddio yr annuwiol oi ffordd; yr annuwiol hwnn a fydd marw yn ei anwiredd; ond ar dy law di y gofynna ei waed ef. Chwi a welwch gan hynny, er bod hon yn Athrawiaeth arw anhyfryd, mae hi yn gyfryw ac sydd raid i ni ei phregethu, ac i chwithau ei gwrando▪ Esmwythach yw clywed sôn am vffern, nai dioddef; Oni bai fod eich angenreidiau yn ei ofyn, nid yspelwem ni moch clustiau tyner a gwirioneddau yn ymddangos mor eirwon a llym dost. Ni byddei vffern cyn llawned pettau bobl ond ewyllysgar i adnabod eu cyflwr, ac i glywed oddiwrtho a meddwl am¦dano. Yr achos paham y mae cyn lleied yn ei gochelyd yw, oble∣gyd nad ydynt yn ymdrechu am fyned trwy borth cyfyng Troedigaeth, ag am danimwy fford gûl Sancteiddrwydd tra caffont amser: Ac nid ydynt yn ymdrechu, oblegyd na ddeffroesant i fywiol deimlad or perygl y maent yntho: Ac ni ddeffoesant, oblegyd fod yn gâs gan hynt glywed oddiwrtho a meddwl am¦dano: A hynny fydd mewn rhan o¦herwydd ynfyd dynerwch, a hunan-serch cnawdol: a mewn rhan oherwydd nad ydynt yn credu y Gair sydd yn ei fygwth. Pettych chwi ond hollawl gredu y gwirionedd hwn mi a dybygwn y dylei ei bwys efeich annog

Page 15

iw gofio: ac fe ach dylynai ac ni adawai i chwi lonydd, nes i chwi ddychwelyd. Pe clywech hyn ond ûnwaith trwy leferydd Angel, Rhaid yt fod yn ddychweledic neu yn ddamnedic: Troi neu farw: oni byddei iddo lynû yn eich meddwl ac ymgytcam a chwi nôs a dydd, fel y cofiech ef wrth bechu, ac y cofiech ef yn eich gwaith fel ped fae ei lais ef yn oestadol yn eich clustiau Trowch neu Drengwch: Oh dedwydd fydde eich eneidiau pe gweithiau fal hyn ynoch, ac nad anghofid byth, ac na adawai i chwi lonyddwch nes gyriu eich cal∣onnau adref at Dduw. Eithr os bwriwch ef allan trwy, angof neu anghrediniaeth, pa fodd y dichon weithio ich troedigaeth ach iechyd∣wriaeth? Ond cymerwch hyn gyda chwi er gofid; er gallel o¦honoch ei ddileu allan och meddyliau, nis gellwch moi ddileu allan or Bibl ond yno fe a saif megis gwir seliedig, yr hwn, gewch chwi trwy brawf ei wybod yn dragywydd nad oes ûn ffordd arall ond Troi neu farw. a

Oh pa beth gan hynny yw 'r achos na rwygir calonnau pechduriaid ar cyfryw wirionedd pwys-fawr! fe dybygei ddyn bellach y dylae bob enaid ar ni thrôdd ar sydd yn clywed y gei∣riau hyn ferwino hyd at y galon, a meddwl rhy∣ngthynt a nhw ei hunain; Hwn yw fy 'nghyflwr i fy hunan; ac na bddent byth lonydd nes eu cael eu hunain gwedi troi. Coeliwch hawyr ni pheru 'r swrth dymmer diofal ymma chwaith yn hir. Troedgaeth a damnedigaeth ydynt ill dau bethau deffroûs. Ac un o¦honym a bair i chwi ym wrando ac ef cyn pen nemmawr. Myfi a fedraf ddywedyd i chwi ymlaenllaw cyn wiried a phettwn yn ei ganfod am llygaid, y dwg naill ai Grâs ai

Page 16

vffern y pethau hyn ar fyrder at y byw, ac a wnânt i chwi ddywedyd, Pa beth a wneu∣thum? Pa helynt ffôl annuwiol, a gymerais? dirmygus a syfrdân gyfwr pechaduriaid ni phe∣ru ond ychidig. Hwy'n gyntaf ac y throthont neu y trengont, bydd eu breuddwyd rhyfygus ar ben, ac yno y dychwel eu pwyll au synwyr yn eu hô••••.

EIthr yr wy fi yn rhagweled fod dau beth ar sydd debyg i gledu y rhai ni throesant ac i beri i mi golli fy holl lafur, oddieithr gallel eu tynnû hwynt oddiar y fford. A hyn∣ny yw cam¦ddeall y ddeu-air hyn [yr an∣nuwiol] a Throi] rhai a feddy¦liant ynddynt eu hunain, Gwir yw, rhaid ir annuwiol droi neu feirw: Ond pa beth yw hynny i mi, nid wyfi Annuwiol, er fy mod yn bechadur, fel y mae pob dyn Eraill a feddyliant, fod yn wir, fod yn rhaid i mi droi oddiwth ein ffyrdd drygionus; eithr myfi a droesym er ystalm, yr wyf yn gobeithio nad yw hyn iw wneuthur yn awr. Ac fel hyn tra bytho dynion Annuwiol yn tybied nad ydynt Annuwiol, ond i bod gwedi troi yn barod, yr ydym ni yn colli ein llafur yn ei perswadio hwynt i droi. Am hynny cyn i mi fyned ddim ymhellach, mi a adroddaf i chwi ymma pwy a arwyddoceir wrth yr [Annuwiol,] a phwy yw 'r sawl sydd raid iddynt droi neu feirw; a hefyd pa beth a a wyddoceir wrth Troi, a phwy yw y rhai sydd Wir Droedic: a hyn a gedwais i yn bwrpasol erbyn hyn o fan, gan fawrhau y ffordd sydd yn gymmwys im diben.

Page 17

Ac ymma mae i chwi ddal sulw, yn ystyr y testyn, fod Dyn annuwiol a dyn dychweledic yn bethau gwrthwyneb. Nid oes ûndyn yn anuwiol ar fydd ddychweledic, nac ûn∣yn ddyn ddychweledic, ar sydd annuwiol; yn gymmaint a bod dyn annuwiol a dyn annych∣weledic, or ûn ffûnyd. Ac am hynny wrth a go∣ryd y naill ni a agorwn y ddau.

Cyn medru o¦honof fynegi pa beth yw Annuw∣ioldeb neu Droedigaeth, rhaid i mi fyned ir gwa∣cledion, a chyrchu'r matter i fynu or dechreuad.

Rhyngodd bôdd i fawr Greaudwr y byd, wneuthur tri mâth ar greaduriaid byw. An∣gylion a wnaeth ef yn ysprydion pûr heb g••••wd, ac am hynny fe ni gwnaeth hwynt yn ûnig 〈◊〉〈◊〉 efoedd, ac nid i breswylio ar y ddaiar. Anife∣iliaid a wnaethpwyd yn gnawd heb eneidiau an∣farwol, ac am hynny y gwnaethpwyd hwynt yn ûnig ir ddaiar ac nid ir nefoed. Dyn sydd o anian ganolic rhwng y ddaû, megis yn gyfrannog o gnawd ac yspryd, ac am hynny foi gwnaethpwyd ir ddaiar ar nefoedd hefyd. Eithr megis na wnaethpwyd ei gnawd ond i fod yn was iw yspyd, felly ni wnaethpwyd ef ir ddaiar ond megis ei daith ai fford ir nefoedd, ac nid fel y byddei hon ei gartref ai ddedwyddwch ef; Y cyflwr gwynfydedic y gwnaethpwyd dyn oi blegyd, oedd i edrych ar fawrhydi gogo∣neddus yr Arglwydd, ac iw foliannû ef yml∣hith ei Angylion sanctaidd, ac iw garu ef, ac ymlenwi ar ei gariad ef yn dragywydd. Ac fel yr oedd hwn y diben y gwnaed dyn oiblegyd, felly y rhoddes duw iddo foddion ar a oedd gymmwys iw gyrhaeddyd ef. Y moddion hyn oeddynt yn bennaf ddau. Yn gyntaf cywir dueddiadd a gogwyddiad meddwl dyn. Yn

Page 18

ail, vniawn drefniad ei fuchedd ai ymarweddiad ef. Am y cyntaf, Duw a gymmhwysodd duedfryd d••••n at ei ddiben; gan roddi iddo ef y cyfryw wyboydaeth o Dduw ar a oedd gymmwys o ran ei, gyflwr presennol, a chalon ai thuedd ac ai gog∣wydd at Dduw, mewn gwiwlan gariad. Ond er hyn ni sefydlodd ac ni chadarnhaodd ef mhono yn y cyflwr ymma, ond gan ei wneuthur ef yn hy-rydd weithredydd, efe ai gadawodd yn nwy∣law ei Rydd-ewyllys ei hûn. Am yr ail, Duw a wnaeth yr hyn oedd yn perthyn iddo; hynny yw, efe a roddes i ddyn berphaith gyfraith, yn gofyn ar iddo barhau ynghariad Duw, a pherphaith vfyddhau iddo. Trwy ddibwyll doriad y gyfraith hon, ni ddarfu i ddyn yn ûnig fforffettio er obaith o fywyd tragwyddol, ond troi hefyd ei galon od∣diwrth Dduw, ac ai gosododd ar y pethau isod cnawdol hyn; a thrwy hyn efe a ddiddyn modd ysprydol ddelw Dduw oddiar ei enaid yn gym∣maint a darfod i ddyn syrthio yn ol o ogomant Duw, yr hwn ydoedd ei ddiben ef ai roddi ei hunan hefyd allan or ffordd, trwy yr hon y gallasai ef ei gyrraedd; a hyn; yn gystal o ran, gosodid ei, galon ai fuchedd ef. Sanctaidd ogwyddiad a serch ei enaid ef tu ac at Dduw, efe ai collod, ac yn ei le, efe a gafodd ogwyddiad a serch i ryngu bodd ei gnawd neu ei hunan-gnawdol trwy bethau daiarol: gan fyned yu ddieithr i Dduw ac yn gydnab∣yddu; ar creadur. Ac ystod ei fuchedd ef a gymhwyswyd ac hyblygedd a gogwyddiad ei galon ef, efe a fu fyw iw hunan-gnawdol, ac nid i Dduw: efe a geisiodd y creadur er mwyn boddhau ei gnawd yn lle ceisio boddhau yr Arglwydd. Ar natur neu 'r gogwyddiad llygredic hon

Page 19

gennym in genir ni oll yn awr ir byd: Cans pwy a ddichon ddwyn peth glân allan o beh aflân, Job, 14.4. Megis y mae gan lew natu∣riaeth danbaid greulon cyn iddo lyngcu; ac megis ac y mae gan wiber naturiaeh wennwynic cyn iddi frathu; felly y mae gennym ninnau yn ein mebyd y naturiaethau ar gogwyddiadau pe∣chadurus hynny cyn i ni feddwl na dywedyd na gwneuthur ar fai. Ac oddi ymma y tardda holl bechod ein bucheddau ni; ac nid fel y yn ûnig, ond gwedi i Dduw ddarparu i ni ymwared, sef yr Arglwydd Jesu Grist i fod yn Jachawdwr ein heneidiau, ac in dwyn yn ôl at Dduw drichefn, yr ydym ni wrth naturiaeth yn hoffi ein cyflwr presennol, ac yn ddyggâs gennym ein dwyn allan o¦hono, ac am hyn∣ny ydym wedi ymosod yn erbyn moddion ein hymwared. Ac er bod ymaer gwedi dyscu i ni ddioich i Ghrist am ei ewyllys di, etto mae hunan-gnawdol yn ein perswad∣io i wrthod ei ymwaredion ef; ac i ddymuno cael ein hesgusodi pan orchmynner inni gynneryd y Meddyginiaehau y mae, efe yn eu cynnyg, a'n glw i ymadel ar cwbl ai ganlyn ef at Dduw a Gogoniant.

Attolwg yw'ch ddarllein y ddalen hon tro∣sti etto, a dalsulw arni; canys yn yr ychydig ei∣riau hyn, y cewch chwi ddarlunniad ein cyflwr naturiol; ac felly o ddyn annuwiol. Cans pob dyn ar sydd yn y cyflwr ymma o anian lygredic, sydd ddyn annuwiol, ac yn ystât marwolaeth.

Wrth hyn hefyd ich paratoir i ddeall pa 〈◊〉〈◊〉 yw bod yn Doedi. Ir hwn berwyl rhaid i chwi wybod ym¦mhellach, ddarfod i drugaredd Duw, yr hwn ni fynnei fod dyn yn golledic yn ei bechod, ddarparu ymwared, drwy beri iw fab gymmerd

Page 20

ein hunian ni arno, a thrwy fod yn ûn per∣son Duw a Dyn i ddyfod yn gyfryngwr rhwng Duw a dyn, a thrwy farw tros ein pechodau ar y Groes, in prynny oddi wrth felltith Dduw, a gallu y Cythrael; A chwedi ein prynny ni fel hyn, y tâd an traddododd iw ddwylaw ef megis yr eiddo ei hun. Ar hyn y mae 'r tad ar cyfryngwr yn gwneuthur cyfraith a chyfammod newydd i ddyn; nid fel y cyn∣taf yr hwn ni roddes fywyd i neb ond it llwyr-ufyddgar, ac a gondemniodd ddyn am bob-pechod; Eithr Christ a wnaeth ddeddf o râs, ac addewid o bardwn a bywyd trag∣wyddol i bawb ar a ddychwelont at Dduw trwy wir edifeirwch a ffydd yn Ghrist. Me∣gis Act o Ebargofiad a wneir gan dywysog i liaws o wrthry felwyr, tan ammod iddynt roddi eu harfau i lawr a dyfod i mewn a bod yn deiliaid cywir am yr amser i ddyfod.

Ond oblegyd fod yr Argylwydd yn gwybod fod calon dyn gwedi myned cyn-ddrwg, na dderbyniant mor ymwared, er hyn ei gyd, os gadewir hwynt iddynt eu hunain, am hynny fe gymerodd yr yspryd g ân arno megis ei swydd i ysprydoli yr Apostolion, a selio i fynû yr yscrythyrau trwy wyrthiau arhyfeddo∣dau, ac i oleuo a throi eneidiau yr etholedigion.

Yn gymmaint ach bod yn gweled wrth hyn mai megis ac y mae tri pherson yn y drindod, y Tad ar mab ar yspryd glân, felly, fod gan bob un or personau hyn eu hamryw weithrediadau, y rhai a gyfrifir iddynt mewn rhagorfraint.

Gweithrediadau y Tad oeddynt ein creu ni, an rheoli megis ei greaduriaid rhesymmol wrth ddeddf natur, an barnu wrthi: Ac mewn tru∣garedd

Page 21

darparu i ni brynnwr pan oeddym goll∣dic, ac anfon ei fab, a derbyn y Tàl a roddes ef.

Gweithrediadau y Mab trosom ni oedd y hai'n, rhoi iawn an pryn¦ny trwy ei ddioddef∣adau ai Gyfiawnder; rhoi allan addewid neu deddf o Râs, a rheoli a ba••••u y yd megis ei prynwr, ar ammodau o Râs, ac ei••••oll trosom, r fod mawlles ei farwolaeth ef yn ee ei gy∣rannû; ac anfon yr Yspryd glâ; yr hyn y mae r Tad hefyd yn ei wneuthur trwy 'r Mab.

Gweithrediadau yr yspryd lân 〈◊〉〈◊〉 y hai 'n, Adrodd yr yscryhyau sanctaid wy yspydoliaethu a chyfarwyddo y proph∣wydi ar Apostolion, a elio y Gair trwy ddonniau a gweithredoedd rhy∣feddfawr, A goleuo a chynhyrfu Gweni∣dogion cyffredin yr Efengyl, ac felly ei cyfnerthu ai cymmorth hwynt i ddatgan y Gair hwnnw ar osteg, a goleuo a throi eneidiau dynion drwy 'r ûnrhyw Air. Yn gymmaint nas gallasech fod yn Greaduriaid rhesymmol oni bai ir Tâd eich creu; na chael mynediad at Dduw, oni bai ir Mab eich prynny; Ac felly nis gellwch gael cy∣fran y'Nghrist na bod yn gadwedic, oddeiithr ir yspryd glân eich sancteiddio.

Felly erbyn hyn chwi a ellwch ganfod yr amryw achosion or gwaith ymma. Y Tâd yn anfon y Mab y Mab yn ein prynû ni, ac yn gwneuthur addewid o Râs: yr Yspryd Glân yn adrodd ac yn selio yr Efengyl hon: Yr Apostoion ydynt yscrifennyddion yr Yspryd iw hy scrifennu hi; Pregethwyr yr Efengyl fydd yn ei chyhoeddi, ac yn per∣swadio dynion i vfyddhau iddi. Ar Yspryd Glân sydd yn gwneuthur ei pregethiad

Page 22

hwynt yn ffrwythlon, trwy agoryd calonnaû dy∣nion iw chroesawu. A hyn oll sydd i adferu delw Dduw ar yr enaid, ac i osod y galon ar Dduw drachefn, ai dwyn oddiwrth y creadur ar hunan-gnawdol, at yr hwn y gwrthgiliodd; ac felly i droi ffrwd y fuchedd i ystod nefol, yr hon or blaen ydoedd ddaiarol; a hyn ei gyd trwy groe∣sawu Crist trwy ffydd, yr hwn yw physygwr yr enaid.

Wrth yr hyn a adroddais, y gellwch weled pa beth yw bod yn Annuwiol a pha beth yw bod yn Ddychweledic. Yr hyn yn fy 'nhyb a fydd etto yn eglurach yw'ch or portreiadas hwynt fel y maent yn sefyll oi hamriw rannau, Ac am y cyntaf, fe a ellir adnbod Dyn annuwiol wrth y tri pheh hyn.

Yn gynaf, ûn yw efe yn gosod ei brif fodl∣ondeb ar y ddaiar, ac yn caru y c••••adur yn fwy na Duw, ai lwyddiant cawdol uwchlaw 'r de∣dwyddwch nefol: Mae efe yn blasu pethau 'r cnawd, ond pethau'r yspryd nid yw efe nac yn ei dirnad nac yn ei blasu: Er iddo ddywedyd fod y nefoedd yn well na'r ddaiar, er hynny nid yw ef mewn gwiri∣onedd yn ei chyfrif hi felly iddo ei hun. Pe gallai ef fod yn siccr or ddaiar efe a adawai ir nefoedd fyned, a gwell fyddai gantho aros ymma, nai symmyd yno. Nid yw bywyd o berphaith sancteiddrwydd y ngwydd Duw, ac yn ei gariad ai fo∣liant ef byth yn y nefoedd yn cael y fath hoffdra yn ei galon ef, ac y mae bywyd o iechyd a golud a pharch ymma ar y ddaiar. Ac er iddo gau-broffesu i fod yn caru Duw uwchlaw 'r cwbl, etto ni chlywodd ef erioedd mewn gwirionedd

Page 23

oddiwrth rym dwyfol gariad oi fewn, ond mae ei feddwl ef gwedi ei osod yn fwy ar y byd, neu ddifyrrwch cnowdol, nac ar Dduw. Mewn û gair, pwy bynnag sy 'n caru y ddaiar uwchlaw y nefoedd, a llwyddiant cnawdol yn fwy na Duw, sydd ddyn annuwiol annychweledic.

O ty arrall, mae dyn dychweledic wedi ei oleuo i ddirnad hawdd¦garwch Duw, ar gogo∣niant sydd iw gael gyda Duw y mae efe yn ei gredu cym¦mhelled, a bod ei galon yn ei sèrchu, a chwedi ei gosod yn fwy arno, nac ar ddim yn y byd hwn. Gwell oedd gantho weled wyneb Duw, a byw yn ei dragwyddol gariad ai foliant ef, na chael holl olud a phleser y byd hwn. Mae efe yn gweled fod pob peth arall yn ofe ac nad eill dim ond Duw lenwi yr enaid, ac am hynny eled y byd fford y fynno, mae efe yn rhoddi ei drysor ai obaith y 'nghadw yn y nefo∣edd, ac am hynny y mae ef yn ymroi i adael ir cwb bassi. Megis y tân yr hwn sy 'n ymgodi ar i fynu, ar Nodwydd a gffydder ar Tynn∣fien yn oestadol yn troi tuar Gogledd; felly y mae 'r enaid dychweledic ai dy∣niad at Dduw. Ni fodlona dim arall mhono, ac ni fedr ef gael dim bod∣lodeb na gorphywysfa ond yn ei ga∣riad ef. Mewn un gair, Mae pawb ar a ddychwelasant yn cyfif ac yn caru Duw yn amgenach nar holl fydd, ac mae dedwyddwch nefol yn anwylach ganthynt, mi llwyddiant cnawdol. Chwi a ellwch gael arddel or hyn addywedais yn y lleoedd hyn or yscrythyr, Phil. 3.18, 21. Mat. 6.19, 20, 21. Col. 3.1, 2, 3, 4. Rhuf. 8.5, 6, 7, 8, 9, 18, 23. Psal. 73 25.26.

Page 24

Yn ail, dyn annuwiol sydd ûn yn ei wneuthur yn bris-orchwyl ei fywyd ar fod yn llwyddo yn y byd, 〈◊〉〈◊〉 dy••••d o hyd iw ddibenion cnawdol; Ac er iddo ddarllain a gwrando, a gwneuthur llawer mewn dyledswyddau Crefydd oddiall∣an, a gochelyd pechodau anafus, etto nid yw hyn ei gyd ond ar ddamwain, nid yw efe chwaith yn ei wneuthur yn gelfyddyd ac yn brif orchwl ei fuchedd ar fod yn rhy∣ngû bôdd Duw a dyfod o hyd ir ggoniant tragwyddol, ond mae efe yn bwrw Duw heibio gyda gweddillion y byd, ac heb roi iddo ddim ychwaneg o wasanaeth nac a allo y cnawd ei hepcor; canys nid y medu efe ar cwbl er mwyn y nefo∣edd.

Or gwrthwyneb, y dyn Dychweledic sydd ûn yn ei wneuthur yn brîf-ofal a gorchwyl ei fywyd ar fod yn hyng u bodd Duw a bod yn gadwedic, ac nid yw yn cyfrif holl fendithion y bywyd hwn, ond megis cy∣mwynasau ar ei daith tua bywyd arall: Ar creadur y mae efe yn ei arfer tan Dduw: Mae efe yn caru bywyd sanctaidd, ac yn hiraethu am fod yn fwy sanctaidd, Nid oes bechod gantho nad yw yn ei gasau; ac yn hiraethu, ac yn gweddio ac ym egnio ar gael y madel ac ef. Mae tynfa a thr∣edd ei fywyd ef at Dduw, ac os pecha, mae hynny yngwrthwyneb i wir ogwy∣ddiad ei galon ai fuchedd ef, ac am hynny mae 'n cyfodi drachefn, ac yn ga∣laru oi blegyd, ac heb lefaru byw yn ystyf∣nig mewn un pechod adnabyddur. Nid oes dim yn y byd mor anwyl gantho na fedr efe i rhoddi ef i Dduw, ac ymadel ac ef er ei

Page 25

fwyn efe a gobaith gogoniant, hyn oll a ellwch chwi ei wld yn Col. 3.1, 2, 3, 4. Mat. 6.33.20. Luc. 18.22, 23, 29 Luc. 14.18, 24, 26, 27. Rhuf. 8.13. Gal. 5.24. Luc. 12.21, &c.

Yn drydydd, ni ddarfu i enaid y dyn an∣nuwiol erioed wîr ddirnad a blasu dir∣gelwch prynnedigaeth, na diolchgar groesawu Jachawdwr ar yr ydis yn ei gynnyg, nid yw efe chwaith yn ymferchu ar gariad y Pryniawdwr, na bodlon iw reoli gantho megis Physygwr ei enaid, fel y gwareder ef, oddiwrth enogrwydd a grym ei bechodau, ac yr adferer ac Dduw. Eithr ei galon ef sydd anheimla∣dwy or dawn anhraethadwy yma, ac yn hollawl yn erbyn y moddion meddiginiae∣thol, trwy ba rai y dylasei efe gael ei adferu. Er iddo fodd yn ewylysgar i fod yn gnawdol grefyddol, er hynny nid yw efe un amser yn rhoddi ei enaid i fynû i Grist, ac i gynhyrfiadiau a chyfarwyddyd ei Air ai Ysprydd ef.

Or gwrthwyneb, yr enaid dychwele∣dic gwedi cael teimlad oi fod, ei hun yn golledic trwy bechod, ac yn deall iddo golli ei heddwch gyda Duw, a gobaith or nefoedd ai fodd mewn perygl o drueni tragwyddol, sydd yn diolchgar groesawu hanes prynedigaeth, ac yn credu yn yr Arglwydd Jesu megis ei unig Jachawdwr, ac yn ei roddi ei hun i fynu iddo ef am Ddoethineb, Cyfiawn∣der, Sancteiddiad a phrynedigaeth. Mae efe yn cymeryd Crist megis bywyd ei enaid, ac yn byw trwyddo ef, ac yn gwneuthur def∣nydd

Page 18

o¦hono megis ei eli i bob briw, gan ryfedd•••• oblegyd Doethineb a Chariad Duw yn y rhyfedd-waith hwn o brynedigaeth dyn. Ac i fod yn fyrr, mae Crist yn trigo yn ei ga∣lon f trwy ffydd ar bywyd y mae efe yn awr yn i fyw, sydd trwy ffyd Mab Duw, yr hwn ai carod ef ac ai rhoddes ei hun trosto; Ie nid yw gymmaint i fod efe yn byw, a bod Crist yntho ef; Am y pethau hyn, edrychwch Joan. 1.11.12. ac 3.19, 20. Rhuf. 8.9. Phil. 3.7, 8, 9, 10. Gal. 2.20. Joan. 5.2.3, 4. 1 Cor. 1.30. ar 2.2.

CHwi a welwch yn awr mewn y madra∣ddion hygoel allan o Air Duw, pa rai, yw'r Annuwiol a pha rai yw y dychweledic. Mae pobl anwybodus yn tybied oni bydd dyn na thyngwr, na rhegwr, na meddwyn na phutteiniwr na chribddeiliwr nac yngwneu∣thur cam a neb yn ei masnach, ac os deuant ir Eglwys a dywedyd ei padreuau, nad oes fodd ir rha'ni fd yn ddynion aunuwiol. Neu os bydd i ddyn ar a fu eog o feddwdod neu dyngu neu chwaryddiaeth neu'r cyffelyb ddrwg-gampau, ymmaint ai gaduel hwynt heibio am yr amser i ddyfod, maent yn tybied fod hwn yn ddyn dychweledic. Eraill ydynt yn tybied, os gwnaiff dyn a fû elyn a gwatworwyr duwioldeb, ond ei chanmol hi ac ymgysylltu ar sawl

Page 19

fydd dduwiol, a chael el gasau am hyn∣ny gan yr annuwiol fely mae 'r duw∣iol, fod yn rhaid i hyn fod yn ddyn dychweledic. A rhai sydd cyn ynfytted a thybied eu bod gwedi dychwelyd, wrth godi i fynu ryw newyddian a gau∣opiniwn, a syrthio at ryw blai-wan∣hanol, megis Anabaptistiaid, Crynwyr. Papistiaid neu'r cyffelyb. A rhai sydd yn tybied os byddant ond gwedi eu dy∣chrynnu gan arswyd o uffern, a chwe∣di cael argyoeddion a gwewyr cydwybod, ac ar hynny fwriadu ac addaw gwellau a chodi i fynu fucheddio ymddygiad gwe∣ddol, a chrefydd oddiallan, fod yn rhaid∣i hyn fod yn wir dréad. Ar rhai 'n yw 'r eneidiau truain siommedic, ar sydd debyg i golli bùdd ein holl anneg∣aethau: A phan glywont fod yn rhaid ir annnuwiol naill ai Troi ai Meirw, maent yn tybied nad wrthynt hwy y dywedir hyn, am nad ydynt hwy annuw∣iol, ond gwedi troi yn barod. Ac am hyinny y bû i Grist ddywedyd wrth ra o lywodraethwyr yr Juddewon, ar a oeddynt fwy pwyllog a moesgar nar bobl gyffredin, fod Publichaod a phut∣teiniaid yn myned ir nefoedd oi blaen nhwy. Mat. 21.31. Nid oblegyd y gall puttain neu anfad bechadur fod yn gadwedic heb Droedigaeth; ond o¦her∣wydd fod yn haws peri i bechaduriaid anfad ddeall eu pechod áu trueni, ac ang∣enrheidrwydd cyfnewid, pan yw rhai rhadlonach yn eu siommi eu hunain

Page 28

trwy feddwl eu bod gwedi dychwelyd yn barod, pryd nad ydynt.

Oh ha-wyr! mae Troad yn waith amgenach nac y mae nemmawr yn ei feddwl; Nid matter bychau yw dwyn meddwl daiarol ir nefoedd, a dangos i ddyn hygaraidd odidowgrwydd Duw, nes iddo ymserchu or fath gariad arno ef, ras galler hyth moi ddiffoddyd; dryllio y galon am bechod a gwneuthur iddo ffo at Grist am no¦dded, ai ddiolchgar dder∣byn ef megis bywyd ei enaid, bod a gwir dynfa a thuedd ei galon ai fu∣chedd ar newidio, yn gymmaint a bod dyn yn ymworthod ar hyn yr ydoedd efe yn ei gymeryd yn ddedwyddwch iddo, a gosod ei ddedwyddwch lle nis gosododd erioed or blaen, ac heb fyw ir unthyw ddiben, ac heb yrrû ym∣mlaen yr ûnrhyw amcan yn y byd, ac yr ydoedd efe cynt; I fod yn fyrr, yr hwn sydd y'Nghrist mae efe yn grea∣dur newydd, yr hen bethau a aethant hei∣bio; wele, gwnaethpwydd pob peth yn ne∣wydd, 2 Cor. 5.17. Mae gantho ef ddeall∣dwriaeth newydd, ac ewyllys ac ymroad o newydd, tristwch a Dymuniadau a chariad adyfyrrwch newydd, amcanion newydd, ymadroddion newydd, cwmpeini newydd (os bydd possibl) ac ym arweddi∣ad newydd. Pechod yr hwn odd beth digrif ganho efe or blaen, sydd yn awr mor gâs ac erchyll gantho ai fod yn ffo rhagddo megis rhag angau. Y byd yr hwn oedd or blaen yn hawddgar yn ei olwg ef, sydd yn awr heb ymddangos

Page 29

ond megis gwagedd a gorthrymder: Duw yr hwn or blaen a esceuluswyd, sydd yn awr yn unig ddedwyddwch ei enaid ef; or blaen efe a anghofid, a phob trachwant a gyfrifid oi flaen ef ond yn awr efe ai osodir yn nesaf ir galon, ac y mae 'n rhaid i bôb peth roddi lle iddo ef: ar galon sydd gwedi ymosod i wi∣lied arno ef ai wasaneuthu; ac yn ofid∣us ganthi pan gudio efe ei wyneb, ac nid yw un amser yn i thybio ei hun yn dda hebddo ef. Crist ei hun yr hwn oedd arferol o gael meddwl am¦dano yn y∣scoywan, yn awr yw ei ûnig obaith ai noddfa, ac arno ef y mae 'n byw megis ar ei fara beunyddol, ni fedr efe na gweddio hebddo ef, na bod chwaith yn llawen hebddo ef na meddwl, na dywedyd, na byw hebddo ef. Y nefoedd ei hûn yr hon nid edrychid arni or blaen ond megis cryn-beth y 'nghadw, yr hwn yr oedd efe yn gobeithio y gallai wasanaethu'r y tro yn well yn ei herwydd nac Uffern, pan nas gallai aros ddn hwy yn y byd, a gy∣merir yn awr am ei gartref, mangref ei unig obaith ai orphwysfa, lle caffo efe weled a charu a moliannû y Duw hwn∣nw ar sydd ai galon ef gantho yn ba∣rod. Uffern yr hon nid oedd or blaen yn ymddangos ond megis bwbach i ddy∣chrynnû dynion rhag pechu, sydd yn awr yn ymddangos yn llwyr-drueni, ar nad yw ef iw anturio nac i gellwair ac ef. Gweithredoedd Sancteiddrwydd yr ydoedd ef yn fln arnynt or blaen, ac yn eu gweled yn fwy ymyrreth nac a y∣doedd

Page 30

raid, ydynt yn awr ei ddyfyrrwch ai orchwyl ef, ar gelfyddyd y mae efe yn byw arni. Y Bibl yr hwn ni chyfri∣fai efe or blaen gan y mwyaf ond me∣gis llyfr cyffredin, sydd yn awr gantho megis Deddf Duw, megis wedi ei scri∣fennu atto ef or nef, ac enw y, Mawrhy∣di tragwyddol yn scrifennedic wrtho; Rheol ei feddyliau ai eiriau ai weithre∣doedd yw ef. Mae ei orchmynion ef yn rhwymo, ei fygythion yn ddychrynnadwy ai addewidion yn llefaru bywyd wrth ei enaid. Y duwiol y rhai nid oeddynt yn ymddangos iddo ond fel dynîon eraill, ydynt yn awr y rhai mwyaf rhagorawl a dedwyddaf ar y ddaia. Ar annuwiol y rhai oedd ei gyd-chwaryddion ef, ydynt yn awr yn ofid iddo, Ac yntau yr hwn a fedrai chwethin am ben eu peched hwynt, sydd barottch yn awr i wylo dros ei pe∣chod ai trueni hwynt, Psal. 1.3. ar 15.4. Phil. 3.18. I fod yn fyrr mae gan∣tho ef ddiben newydd yn ei amcanion, a ffordd newydd yn ei ymgaîs, ac am hynny mae ei galon ai fywyd ef yn newydd. Or blaen ei Hunan cnawdol oedd ei ddi∣ben; ai bleser, ai elw bydol ai barch oe∣ddynt ei fford ef; Ac yn awr Duw a thragwyddol ogoniant yw ei ddyben ef, a Christ ar Yspryd, ar Gair, ar or∣dinhadaû, Sancteiddrwydd tu ac at Dduw, a Chyfiownder a thrugaredd tuac at ddyn, y rhai hyn ydynt ei ffordd ef. Or blaen Hunan oedd y Pen-llywydd, ir hwn y mae 'n gorfod i bethau Duw a

Page 31

chydwybod blygu a rhoddi lle. Ac yn awr Duw yn Ngrist drwy 'r yspryd y Gair ar weinidogaeth yw 'r Pen-llw∣ydd, ir hwn y gorfydd ir Hunan, a holl bethau Hunan roddi lle. Yn gymmaint nad yw hyn gyfnewidiad mewn un peth neu ddau neu ugain, ond yn yr holl enaid, a gwir ddiben a gogwyddiad ein hymarwedd∣iad, fe ddichon dyn frâsgammû or naill lwy∣br ir llall, ac er hynny wynebu ar hyd yr un∣ffordd, a bod fyth yn myned ymmlaen tu ar unrhyw fan: Eithr peth amgenach yw llwyr-droi yn ôl drachefn, a chymeryd ei daith yn union yn y gwrthwyneb tua mangref or gwr∣thwyneb felly y mae yn y man ymma; fe a ddichon dyn droi oddiwrth feddwdod at gyn∣hilder, ac ymwrthod ai gymdeithas dda a pechodau anfad gwilyddus eraill, ac ymosod ar rai dyledswyddan Crefydd; a bod etto yn myned fyth rhagddo at yr un diben ac or blaen gan fwriadu ei Hunan cnawdol uwch∣law pob dim, a rhoddi fyth iddo ef y llywo∣draeth ar ei enaid. Eithr pan ddychwelo ef, yr hunan hwn a wedir ac a dynnir i lawr, a Duw a dderchefir, ai wyneb yntau a droie yn y gwrthwyneb: Ar hwn oedd or blaen yn ymroi iddo ei hunan, ac yn byw iddo ei hun, sydd yr awron trwy Sancteiddiad gwedi ei eidduno i Dduw, ac yn byw i Dduw: Or bla∣en, efe a ymofynnai ac efe ei hunan, pa beth a wnae efe oi amser, oi gyneddfau ac oi gyfo∣eth, ac iddo ei hun yr oedd efe yn ei harfer hwynt. Ond yn awr y mae ef yn ymofyn a Duw beth a wnaiff ef a hwynt, ac iddo ef y mae 'n ei harfer. Or blaen efe a ryngei fodd Duw cyn belled ac y gallai sefyll gyda boddhâd ei

Page 32

gnawd, ai Hunan cnawdol, ond nid iw hanfod∣loni hwnt ddim yn fawr, ond yn awr nid an∣fodlona efe mo Dduw, er anfodloned fytho 'r Cnawd, ar Hunan▪ Dyma 'r mawr gyfne∣wid a wnaift Duw ar bawb a fo cadwedic.

Chwi a fedrwch ddywedyd mai 'r Yspryd Glân yw 'ch Sancteiddydd: Ond a wyddoch chwi pa beth yw Sancteiddiad? Ai nid yr hyn a agorais i chwi yn awr? Ac y mae yn rhaid i bob mab a merch yn y byd gael hwn, neu gael eu damnio i dragwyddol drueni. rhaid iddynt Droi neu Drengu▪

Hawyr a ydych chwi yn credu hyn oll, ai nid ydych. Diau na lefeswch chwi ddywedyd nad ydych: Canys y mae ef tros ben gwâd ac ammau. Y rhai hyn, nid ydynt ymryson∣••••, lle mae 'r naill wr duwiol dyscedic or naill feddwl, ar llall o un arall; lle mae 'r ••••ill blaid yn dywedyd hyn, ar llall yn dy∣wedyd hyn accw: Papistiaid ac Anabap∣tistiaid a phob Sect yn ein plith ar a hae∣ddi ei galw yn Gristianogion ydynt oll yn cytuno yn yr hyn a ddywedais: ac oni ••••••oeliwch chwi Dduw 'r gwirionedd, a hyn∣ny mewn peth y mae pob Sect a phlaid yn ei goelio ef, yr ydych yn llwyr annescu∣sodol.

Eithr os ydych yn coelio hyn, pa fodd y digwydd i chwi fod cyn llonydded mewn cyflwr annychweledic? A wyddoch chwi eich bod gwedi dychwelyd? A fedwch chwi hefyd gael y newidiad rhyfeddol hwn ar eich eneidiau? A ailanwyd chwi fal hyn a'ch gwneuthur o newydd? Onid yw y pe∣thau hyn yn rhyfedd gan fagad o¦honoch? Ac yn gyfryw nas gwybûoch oddiwrthyn

Page 33

ar ei'ch eneidau eri¦oed? Oni fedrwch fy∣negi dydd neu wythnos ei'ch newidiad, na'r bregeth a'ch trôdd chwi, etto a ydych chwi yn cael fod y gwaith ei wneuthur? A bôd y cyfrw gyfnewidiad mewn gwirionedd? A bôd gennych y fath galonnau ac a dangos∣wyd uchod? Yswaeth mae y rhan fwyaf o¦honoch yn canlyn eu gorchwylion bydol, ac heb flino ar eu meddyliau ar cyfryw amcani∣on. Ac os ymattaliant cynnnaint ac oddiwrh bechodau gwradwyddus, a gallael dywedyd, Nid wyfi na phuttiniwur, na lleidr na rhe∣gwr, nac thyngwr, na yfwr, nach ibddeiliwr, yr wifi yn myned ir Eglwys, ac in dywedyd fy'ngweddiau; Maent yn tybied fod hyn yn wir Droedigaeth. Ysywaeth ei'ch ynfyd dwyllo ei'ch hunain yw hyn. Mae hyn yn ormod dirmig ar ogoniant anherfynol; ac esceulusdra rhy anferth am ei'ch eneidiu anfarwol. A fedwrch chwi fod mor ddibris or nefoedd ac uffern? Eich celaneddau a orweddant ar fyrder yn y llwch, Angylion neu Gythreliaid yn ebrwydd a gymmrant, afel ar eich eneidiau, a phod mab a merch o¦honoch chwi oll, a fydd ymlhith cwmpeini arall ar fyrder, ac mewn cyflwr amgenach nac yr ych yn awr yntho: Ni thrigwch chwi yn y tai yna ond ychydic hwy: N weithi∣wch chwi yn eich Sioppau a'ch mesydd ond ychydic hwy: Nid eisteddwch yn yr ystafell∣oedd yna, ac ni phreswyliwch ar y ddia ho ond ychydyc hwy: Ni welwch ar llygaid. Yna, ac ni chlywch ar clustiau yna 〈◊〉〈◊〉 ni leferwch ar cafodau yna ond ychydi hwy, tan ddydd yr adgyfdid 〈…〉〈…〉

Page 34

chwithau wneuthur cyflafan i anghofio hyn? Oh pa ryw fan y byddwch chwi yntho ar fyrder o lawenydd neu boendod! Oh pa olwg a welwch chwi ar fyrder yn y Nefoedd neu vffern! Oh pa feddyliau a lei∣nw eich calonnau ar fyrder, a dyfyriwch neu erwindeb anrhaethadwy! Pa waith y gosodir chwi arno; i foliannu 'r Arglw∣ydd gyda Seintiau ac Angylion, neu i gregleisio allan mewn tân anniffoddadwy gyda Chythreiliaid! Ac a ddylai hyn oll gael ei anghofio A hyn oll a fydd anher∣fynol, ac a selir i fynû trwy ddeddf dra∣gwyddol; Tragwyddoldeb, Tragwyddoldeb, a fydd mesur eich llawenydd neu 'ch trist∣wch; A ellir anghofo hyn! Ac y mae hyn, ha wyr, ei gyd oll yn wir; Y siccraf wi∣rionedd yw; darfyddo i chwi fyned i fynu ac i wared ychydic hwy, darfyddo i chwi gy scu a deffroi ychydic mynychach, chwi a fyddwch meirw a chwedi passio, a chael y cwbl yn wir yr wyfi yn ei fynegi i chwi yr awron: Ac er hynny a fediwch chwi yn awr ei anghofio yn gymmaint! Chwi a gewch gofio y pryd hynny a glyw∣ed o¦honoch y Bregeth hon, a bod y pethau hyn gwedi eu dwyn ar gôf i chwi heddyw, oddiyma; ac a ddeuellwch eu bod hwynt yn fwy matterion filoedd o weithiau nac y gallwn i na chwithau yma moi ddirnad: Ac a gânt hwy yn awr eu hanghofio cym∣maint.

Anwyl garedigion! Oni bai ir Arglwydd fy neffroi i gredu ac i osod y pethau hyn 〈◊◊〉〈◊◊〉 a fy 'nghalon, mi a fuaswn yn

Page 35

aros yn y tyw{y}ll ar Hunan g{y}flwr, ac fe ddarfasei am¦dan¦af yn dragywydd: Ond os gwnaeth efe fi yn deimladwy o¦honynt mewn gwirionedd, fe am hannogir i dos∣turio wrthych chwi, yn gystal ac wrthyf sy hûnan: Pettau eich llygaid mor llydan a∣gored ac y gwelych Uffern, a chanfod o¦honoch eich cymydogion ar a oeddynt Annychweledic wedi eu llarpio yno trwy fonllefain hyll, er iddynt fod yn gyfryw ac a gyfrifech yn bobl onest ar y ddai∣ar, ac heb ofni dim or fâth beth iddynt eu hunain; Y cyfryw olwg a barai i chwi fyned adref a meddwl am¦dano, a medwl drachefn; ac a barai i chwi rybuddio pawb o'ch amgylch, fel y By∣dol-ddyn damnedic yn Luc. 1.28. yr hunn a fynnasai rybuddio ei frodyr, rha eu dyfop ir lle poenus hwnnw. Paham; mae ffydd yn fath ar olwg; llygdyr enaid yw hi: siccrwydd y pethau ni we∣lir: os credafi yn Nuw, nesaf yw at weled: Ac am hynny yr wyfi yn atolwg ar i chwi fy escusodi, os wyfi hanner cyn daered arnoch ynghylch y pethau hyn a phed fawn yn eu gweled. Os gorfydd arnaf farw yforu, a gallu o¦honof ddy∣fod draccefn o fyd arall a mynegi i chwi yr hyn a welswn, oni byddych chwi ewyllysgar im gwrando, ac oni chredech chwi, a gwneuthur cyfrif or hyn a fynegwn i wrthych? Pe gall∣wn i bregethu un bregeth i chwi yn ôl fy marw, a gweled yr hyn a wneir yn y byd a ddaw, oni fynnech i mi ddy∣wedyd

Page 36

y pûr wirionedd, ac onid ym∣dyrrech chwi im gwrando! Oni ofod∣dech chwi hynny at eich calon? Ond ni ddichon i hyn mor bôd: Mae gan Dduw ei fford bwyntiedic ich disc'u chwi trwy scrythyrau a Gweinidogian; Ac ni chedwiff efe fwmpwy ir anghre∣dadwy cym¦mhelled ac i anfon attynt ddynion oddiwrth, y meirw, a chyfnewid ei ffordd a siccrhaodd ef: Os cweryla neb ar haul, ni cheidw Dduw fwmpwy iddynt cym mhelled a gosod i fynu loywach oleuni. Garedigion, attolwg yw'ch roddi coel arnafi yn awr, fel y gwnaech pet∣twn i yn dyfod attoch oddiwrth y meirw: Canys mi a fedraf roddi i chwi cyn llawned siccrwydd o wirionedd yr hyn yr wyfi yn ei adrodd wrthych, a phettwn i wedi bod yno ai weled am llygaid: Am fod yn bossibl i ûn oddiwrth y meirw eich twyllo chwi: Eithr Jesu Christ ni ddicon mo'ch twyllo chwi: Ni ddichon gair Duw, yr hwn a adroddwyd yn yr yscrythur, ac a seliwyd i fynû trwy wyrthiau, a sanct∣aidd weithrediadau yr Ysprid byth mo'ch twyllo: Coeliwch hyn, neu na choeliwch ddin: Coeliwch ac ufyddhewch i hyn, neu fe a ddarfu am¦danoch: Weithian fel y mynnech chwi fyth gredu▪ Gair Duw, ac y mynnech fyth ofalu am iechydwri∣aeth eich eneidiau, gadewch i mi ddymuno aruoch y deisyfiad rhesymol hwn, ac yr wyfi yn attolwg i chwi na naccaoch mhonof; pan elch odd yma, gofio o¦honoch yn ddio∣ed, yr hyn a glywsoch, dechre chwilio eich

Page 37

calonnau yn ddifrifol, a dywedyd wrth ych eich hunain, [ai felly mewn difri y mae! Ai rhaid i mi Droi neu fariw! Ai rhaid i mi fòd yn ddychwedic neu'n ddenmedic? Mae'n fadws i mi gan hynny edrych yn fy 'nghylch, cyn y bo rhywyr! Oh paham nad edrychaij am hyn hyd yn hyn? Paham y darfu i mi ar antur ffwdanu, a myned yn swsachlyd tros cymmaint yo orchwyl? A oeddwn i yn effro? Neu yn fy Nghôf? O'r bendigedic Dduw, pa druga∣redd yw na thorraist di ymaith fy einioes yr hol amser yma, cyn cael o¦honof ddim gobaith siccr or bywyd tragwyddol? Ge∣dwch iddo! Na alto Duwi mi esceuluso 'r gw∣aith yma ddim hwy. Pa gyflwr y mae fy enaid if ynddo? A ddychwelais i, ai nad do? A fu erioed y cyfryw gyfnewid neu waith ar fy enaid? A oleuwyd fi trwy Air ac yspryd yr Arglwydd, i ganfod atgasrwydd pechod, eisiau am Jachawdwr, cariad Christ a godidowgrwydd Duw ar Gogoniant? A ddrylliwyd ac a ddarostyngwyd fy 'nghalon om mewn am fy muchedd or blaen? A groesewais i yn ddiolchgar fy Jacawdwr am Harglwydd, yr hwn ai cnygiodd ei hun ynghyd a phardwn a bywyd im henaid? A wyfi yn casau fy muchedd bechaurus gynt, a gwe∣ddillion pob pechod ar sydd ynof? A wyfi yn ffoi rhagddynt, megis fy 'ngelynion mar∣wo? A wyfi yn fy rhoddi fy hûn i fynu i fuchedd o Sancteidrwydd ac ufyddod i Dduw? A Ydwyfi yn ei charu ac yn ymhyfrydu ynthi? A allaf i ddywedyd am wiionedd fy mod yn farw ir byd ar Hunan cnawdol, em bod yn byw i Dduw ar gogoniant ar â

Page 38

addawodd ef? A oes gynnyf fwy prîs a phwrpas am y nefoedd, na 'r ddaiar? Ai Duw hefyd yw 'r Anwylaf ac Goruchaf yn fy enaid? Mae 'n ddiammau gennyf fy môd unwaith yn byw yn bennaf ir byd ar cnawd, ac nad oedd Duw yn cael ond rhyw wa∣sanaeth digalon, or a allau 'r byd ei hep∣cor, ac a oedd weddill y cnawd. A yw fy nghalon yn awr wedî troi fford arall? A oes gennyf fwriad newydd, a diben newydd, a haid newydd, o anwydau sanctaidd? A sefydlais i fy 'ngobaith am calon yn y nefoedd? Ai ergid a bwriad a gogwyddiad fy 'nghalon am buchedd yw ceisio yn ddiball ir nefoedd, a chael gweld wynebpryd gogoneddus Duw, a byw yn ei dragwyddol gariad ai foliant ef? A phan bechwyf, ai yn erbyn greddfol ogwyddiad a bwriad fy nghalon y mae? Ac a wyfi yn gor∣chfygu yr holl anfad bechodau, ac a wyfi yn blino, ac yn ewyllyssio cael ymwared oddi∣wrth fy ngwendidau? Dyma gyflwr enaid dchweledic: ac fal hyn y mae 'n rhaid bod gyda myfi, neu ddarfod am¦danaf. Ai fal hyn y wae gyda myfi, ai nad ê? Mae hi yn amser i geisio dattod y petrusder hwn cyn ir Barnwr ofnadwy ei ddattod. Nid wyfi mor ddieithr im calon am buchedd fy hun, nod allufi frith ddeall a ddychwelais i fal hyn ai peidio; onid do ni thâl dim i mi weinhieuthu im henaid a choeg-dyb a gobaith anghywir. Yr wyfi yn ymroi na thwyllwyf mhono fy hun mwyach; ond gw∣neuthur fy ngorau ar wybod mewn gwir∣ionedd

Page 39

yma neu accro, a ddychwelais i ai naddo: fel os gwneuthum, y gallwyf lawenychu yn hynny, a gogoneddu fy Arglwydd grasol, a myned ymlaen yn gysyrus i gyrraedd y goron: Ac oni wneu∣thum, y gallwyf ymosod i ymerfyn ac i ymgais am y grâs a allasei fy nhroi, ac a all fy nhroi yn ddioed: Canys os gwelaf mewn pryd fy môd allan or fford, trwy gynnhorthwy Crist mi allaf droi a chael fy adgyweirio: Ond os arhosaf hy oni bytho fy nghalon wedi ei gwrthod gan Dduw mewn dallineb a chledrwydd, neu hyd oni chippier fi ymaith gan angau, yno mae'n rhywyr. Nid oes mar lle i edifeirwch a throedigaeth y prydd hynny; mi a wn fod yn rhaid iddo fod naill ai 'n awr, ai na bytho byth.

Hawyr, hyn yw fy neisyfiad, arnoch, ddo∣di o¦honoch dâsg ar eich calonnau ai holi fal hyn, nes i chwi ganfod os bydd possibl pa un ydych ai dychweledic ai nad ydych? Ac oni fedrwch chwi gael hyn allan trwy eich astudrwydd erch hunain, ewch at eich gweinidogion, os byddant gwyr ffyddlon profedic, a dymunwch eu cynnhorthwy hwynt. Mae 'r marter yn fawr, nedwch i wy∣lder a diofalwch eich lluddias. Maent hwy wedi eugosod arnoch i'ch cynghori, er mwyn achub eich eneidiau, megis ac y cynghora Physygwyr chwi er iachâd ich cyrph. Mae'n darfod am lawer o filoedd fod yn ty∣bied i bod ar ffordd iechydwriaeth pan nad ydynt; a thybied i bod wedi dychwelyd, pan nad oes dim or fath beth. Ac yno

Page 40

pan alwom ni arnynt beunydd i Droi, maent yn myned ymaeth fel y daethont, ac yn tybied nad yw hyn perthyn iddynt hwy; am i bod wedi troi yn barod, ac yn gobeithio y gwnânt yn ddigon da yn y ffordd y maent arni: or lleiaf os pigant y llwybr teccaf, a gochelyd rhai or camrau butraf; Pryd nad ydynt, ysywaeth, yr hol am∣ser yma ond byw ir byd ar cnawd, on yn ddi∣eithriaid i Dduw ar bywyd tragwyddol, ac yn hollaw laddiar y fford ir Nefoedd. A hyn oll sydd fawr, o ran nas gallwn ni moi perswadio hwynt i feddwl ychydig yn ddifrifol am eu cy∣flwr, ac i dreilio ychydic oriau yn holi eu hystâr. Onid oes lawr adyn yn eu twyllo eu hunain, ar sydd yn fy 'nglhywed i y dydd he∣ddyw, na roesant erioed awr na chwarter awr yn eu holl oes i holi eu heneidiau, ac 〈◊〉〈◊〉 brofi beth a wnaethant hwy ai troi mewn gwirionedd ai na throesant. O Dduw tru∣garog! yr hwn a gymer ofal am y fâth drueiniaid na chymerant ddim ychwaneg O ofal am¦danynt eu hunain! Ac a wnaiff cymmaint iw hachub rhag uffern, ac iw cy∣moth hwynt ir nefoedd, y rhai a wnant cyn lleìed trostynt eu hunain! Pettau bawb ar sydd ar y ffordd i Uffern, ac yn ystât damnedigaeth ond gwybod hynny, ni feiddient barhau yn hynny. Y gobaith mwy∣af ar sydd gan y Cythrel och dwyn i ddamne, dgaeth yn ddia••••eg, yw twy eich cadw yn deillion, ac yn annwybodus o'ch cyflwr, a thrwy beri i chwi gredu y gellwch weuthur yn ddigon da y ffordd yr ych arni. Pe gwyddech chwi eich bod oddiar y ffordd ir ne∣foedd,

Page 41

a'chbôd yn golledic yn dragywyd, pet∣tych yn meirew fel yr ydych, a feiddiech chwi gysgu noswaith ychwaneg yn y cyflwr yr ych ynddo? A feiddiech chwi fyw ddiwrnod etto ynddo ef? A fedrych chwi grechwenu a bod yn llawen yn y fâth gyflwr? Pa beth! ac heb wybod nad eller eich cippio i Uffern mewn ûn-awr. Diammau y pa rai i chwi ymadel a'ch cymdeithas a'ch helyntiau gynt, ac yr ymgyfeiriech at ffydd Sanct∣eiddrwydd, a chymundeb y Sanct. Diammau y gyrrai hynny chwi i lefain ar Dduw am galon newydd! ac i geisio cymmorth y rhai sydd gymmwys i'ch cynghori. Nid oes neb o¦honoch yn ddiammau heb fat∣ter gantho am ei ddammio? Os felly y mae! Attolwg i chwi ar frys chwilio eich calonnau, ac na adawoch iddynt lonydd∣wch, nes cael allan ei'ch cyflwr, fel os yw efe dda, y galloch lawenychu yntho, a mynd ymlaen; ac os drwg fydd, y galloch yn brysur edrych yn eich cylch am ymwared, megis dynion yn credu fod yn rhaid iddynt Droi neu feirw. Hawyr beth a ddywedwch? A ym∣rowch chwi ac addaw cymeryd cymmaint a hyn o boen gyda'ch eneidiau! A sythiwych chwi ar yr ymholi yma arnoch eich huna∣in pan ddeloch adref! A ydyw fy neisyfiad i yn anhesymmnol? fe a wyr eich cydwybodau nad ydyw, ymwnewch iw wneuthur cyn ysmiccîo: gan wybod faint y mae 'n pethyn ich eneidiau, yr wyfi yn attolwg i chwi, er mwyn y Duw hwnnw fydd yn gorchymmyn i chwi, wrth frawdlef yr hwn yr ymddan∣goswch oll ar fyrder, na naccaoch fi or

Page 42

deisyfiad rhesymmol hwn. Er mwyn yr eneidiau hynny ar sydd iddynt Droi neu feirw, yr wyfi 'n attolwg na naccewch mhonof: sef cymmaint a gwneuthur o¦honoch yn orchwyl ywch ddeall eich cyflwr eich hunain, ac adeiladu ar sail safadwy, a gwybod yma neu accw, a droesoch ai naddo, ac na anturioch moch eneidiau ar ddifraw-wch diddarbod.

Ond nid hwyrach i chwi ddywedyd; beth os caem in ein hunain heb ddychwe∣lyd etto? Yno pa beth a wnawn ni? Dyma 'r Cwestiwn sydd yn fy arwain at fy ail Athrawiaeth yr hon a wna lawer o ran at∣teb iddo, at yr hon yn awr mi a âf rhagof.

Athr. 2. ADdewid Duw {y}w, {y} caiff yr annuwiol fyw os gwnânt ond troi; fel troi yn ddi∣ffûant ac yn hollawl.

Mae 'r Arglwydd yma yn cyhoedd gyfa∣ddau mai dyma 'r hyn y mae efe yn ymhoffi ynddo, bod ir annuwiol Droi a Byw. Mae 'r nefoedd gwedi ei gwneuthur mor siccr ir Dychweledic, ac yw uffern ir anny∣chweledic. Trowch a Byw fyddwch, sydd wi∣rionedd cyn siccred, a Throwch neu mei∣rw a fyddwch. Nid oedd Duw rwymedic i ddarpau i ni Jachawdwr nac i agoryd i ni ddrws gobaith, nac in galw i Edifarhau

Page 43

a Throi, pan oeddym ni unwaith wedi ein taflu ein hunain ymaith trwy be∣chod. Ond efe ai gwnaeth yn rhâd i fawr∣hau ei drugaredd; Bechaduriaid, ni chaiff neb o¦honoch achos i fyned adref, a dywe∣dyd, fy mod i yn pregethu i chwi anobaith. A ydym ni arferol, o gau i fynû ddrws trugaredd yn eich erbyn? O na baech heb ei gau ef i fynu yn eich erbyn eich hunain! A ydym ni arferol o fynegi i chwi na thrugarha Duw ddim wr∣thych, er i chwi droi a bôd wedi eich Sancteiddio? Pa bryd y elywsoch chwi Bregethwr yn dywedyd y fath air? Chwy∣chwi y sawl a gyferthwch ar ol Pre∣gethwyr yn Efengyl, am chwennych eich cadw allan o uffern, ac a ddywedwch i bôd yn pregehu anobaith: Myne∣gwch i mi os mediwch, pa bryd y clyw∣soch chwi erioed undyn yn ei bwyll yn dywedyd, nad oes ywch obaith, er i chwi edifarhau a dychwelyd! Nage: y gwir wrthwyneb yr ydym ni beunydd yn ei gyhoeddi oddiwrth yr Arglwydd; y caiff pwy bynnag a ailanwyd, ac sydd trwy ffydd ac edifeirwch yn dyfod yn greadur newydd, fôdd yn siccr yn gad∣medic; A ninnau ydym cyn belled oddi∣wrth eich perswadio i anobeithio hyn, a'n bôd ni yn eich perswadio nad amheuoch m∣hono, Bywyd ac nid marwolaeth yw rhan gyn∣taf om Cennadwri ni attoch: Ein Commis∣siwn ni sydd i gynnyg iechydwriaeth, ie∣chydwriaeth ddiogel; prysur, ogoneddus, dragwyddol iechydwriaeth i bob un o¦hon∣noch;

Page 44

ir cardottyn tlottaf yn gystal ac ir Ar∣glwydd nwyaf, ir dihiraf o¦honoch; sef ir meddwon, tyngwyr, bydol-wyr, lladron, ie i ddirmygwyr a goganwyr fford sanctaidd iechydwriaeth: fe a orchimy¦mier i ni gan yr Arglwydd ein Meistr, gynnyg i chwi bardwn am gymmaint oll ac a bassiodd, os gwnewch chwi bellach or diwedd ond dychwelyd a byw. Fe orch'yny nnir i ni attolygu ac ymbil arnoch am dderbyn y cynnyg a Dychwelyd; ac i fynegi i chwi pa baratóad a wnaethbwyd gan Grist; pa dru∣garedd sy'n aros am¦danoch; pa amynedd sy'n diswil wrthych; pa fwriadau o gare∣digrwydd sydd gan Duw tuac attoch; Ac mor ddedwydd, mor siccr ac anrhaethawl Ddewydd y gellwch chwi fôd os mynnwch: yn siccr mae gennym ni hefyd Gennadw∣ri o ddigofoint ac Ange; ie o ddwbl ddi∣gofa¦nt ac Angeu: Ond nid ein prif gennad∣wri yw'r un o¦honynt: Mae'n rhaid i ni fy∣negi i chwi y digofaint sydd arnoch yn ba∣rod, ar farwolaeth y ganwyd chwi tani, am dorri Deddf gweithredoedd; Eithr nid yw hyn ond dangos yr eisiau am druga∣redd, a'ch annog i brisio grâs y Pryniawdwr Ac nid ydym ni yn mynegi i chwi ddim ond y gwir sydd yn rhaid ichwi ei wybod; Canys pwy a gais Physy¦gwriaeth ond a wypo ei fôd yn glâf? Nid ein gwaith ni yn dangos i chwi eich trueni, sy'yn eich gwneuthur yn dru∣ain; onid y eich hymlid chwi allan i ym∣gais am drugaredd. Chwychwi a ddygasoch y farwolaeth hon arnoch eich hunain. Yr ydym ni hefyd mynegi i chwi am farwo∣laeth

Page 45

arall, yr hon sydd ddiymwaredawl, a llawer mwy penyd, ar a ddigwydd ir cyfryw rai na fynnont ddychwelyd. Ond megis ac y mae hyn yn wîr, ac yn rhaid ei fynegi i chwi, felly nid yw ef ond, y han oiaf a thosturiaf oyn Cennadwini ni Yr ydym ni yn y man cyntaf i gynnyg yw'ch Drugaredd, os Trowch; A hwynt-hwy yn unig ar na throant, ac na wrandawant ar lais Trugaredd, yw'r sawl y mae yn haid i ni rag-fynegi damnedigaeth wrthynt; A wnewch chwi cymmaint a bw∣rw ymaith eich moireddau; Nag oedwch yn hwy, ond deuwch ymaith aAlwad Christ, a dycwelwch ac ewch yn grea∣duriaid newyddion, ac nid oe genym ni-Air oi ddigofaint new farwolaeth ddamnedi∣gawl ew lefar yn ei'ch erbyn. Yr wyfi yma yn enw Arglwyd y bywyd yn cyhoe∣ddi i chwi oll ar sydd yn fy'nghlywed y dydd heddyw, ir gwaethaf o¦honoch, 〈◊〉〈◊〉 pe∣chadur mwyf ir hynaf y gellwch gael trugaredd ag Jechydwriaeth os gwnewch ond troi: Yn Nuw y mae trugared, ac y mae digonolrwydd yn yr iawn a roes Crist, mae 'r Addewid yn rhâd, yn gyfl∣awn ac yn gyffredinol; Chwi a ellwch gael bywyd, os gwnewch ond Troi. Gan hynny, megis ac ir ydych yn caru ei'ch eneidiau, cofiwch pa drôad yw y mae'r yscrythur yn sôn amdano. Nid tacclu yr hôn dy yw, ond tynny'r cwbl i lawr, ac adeiladu o newydd ar Grist y graig ar'sail ddiogel. Nid gwellau rhyw faint ar ystôd buched gnawdol, ond marwei∣ddio

Page 44

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 45

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 46

y cnawd, a byw yn ôl yr yspryd. Nid gwasaneuthu'r cnawd ar byd yw, mewn fford fwy diwygiol, heb ddim pe∣chodau sarrhaûs cwilyddus, ac mewn rhyw fâth ar grefydd. Eithr cyfnewyd eich meistr yw, ach gwaith a'ch diben, ac wynebu ffordd or gwrthwyneb, a gwneu∣thur pob dim o ran y bywyd nas gwel∣soch erioedd, a'ch cysegru aich hunain ar hyn oll a feddwch i Dduw. Dyma 'r newidiad sydd raid ei wneuthur os myn∣nwch chwi fyw.

Chwy chwi eich hunain ydych yn awr dy∣stion, mai Jechydwriaeth ac nid damne∣digaeth, yw'r Athrawiaeth fawr yr wyfi yn ei phregethu i chwi, ar rhan gyntaf o Cnadwri i ottoch. Derbyniwch hon, ac nid awn ni a chwi ddim pellach; Canys nis mynnem ni cymmaint ach dychrynu neu 'ch blino ac enw Damnedigaeth yn afraid.

Eithr oni fynnwch fod yn gadwedic, nid oes rwymedi, ond rhaid i ddamnedigaeth gymeryd lle. Am nad oes ûn fan ganolic rhwng y ddau, rhaid i chwi gael naill ai by∣wyd ai marwolaeth.

Ac nid ydym ni yn unig yn Cynnyg i chwi Einioes ond yn dangos i chwi yr ammodau ar barai yr ydym yn ei wneuthur, ac yn eich Galw i gredu fôd Duw mewn gwrionedd yn bwriadu fel y mae 'n llefaru, fod yr addewid yn wir, ac yn cyrhaedd tan ammod hyd attoch chwi yn gystal ac eraill, ac nad yw'r nefoedd ddychymmyg, onid gwir ddedwyddwch.

Page 47

Gs gofynnwch pa le mae ein Commissi∣wn i gynnyg hyn; Ymlhith Cant o leoedd or yscrythur, myfi ai dangosaf yn yr ychydic leoedd hyn.

Yn gyntaf, chwi ai gwelwch yma yn fy 'nhestyn ar adnodau sy'n canlyn ac yn y 18. o Ezec. mor eglur ac y galler i adrodd. Ac yn 2 Cor. 5▪ 17, 18, 19, 20, 21. y mae yw'ch swmm ein Com∣mission, [Os oes neb ynGhrist, y mae efe yn greadur newydd: Yr hin bethau a aethant heibio, wele, gwaethpwyd pob peth yn newydd a phob peth sydd o Dduw, yr hwn an cymmododd ni ag ef ei hun trwy Jesu Grist, ac a roddodd i ni weinidogaeth y cymmod. Sef bod Duw yn∣Ghrist yn cymmodi y byd ac ef ei hûn, heb gyfrif iddynt eu pechodau, ac wedi gosod ynom ni air y cymmod. Am hynny yr ydym ni yn gennadon tros Grist, megis pe byddau Dduw yn deisyf arnoch trw∣yddom ni; Yr ydym yn erfyn tros Grist cymmoder chwi a Duw, canys yr hwn nid adnabu bechod, a wnaeth efe yn bechod trosom ni, fel i'n gwnelid ni yn gyfiawnder Dduw ynddo ef.] felly Marc. 16.15, 16. Ewch ir holl fyd a phre∣gethwch yr Efengyl i bôb creadur: Y neb a gredo, (hynny yw, trwy 'r cyfryw ffydd ddy∣chweledic ar a adroddwyd) ac a fedyddier, a fydd cadwedig; eithr y neb ni chredo, a gondemnir. A Luc. 24.46, 47. [felly yr oedd raid i Grist ddioddef, a chyfodi o feirw y trydydd dydd: a phregethu edi∣feirwch (yr hyn yw troedigaeth) a ma∣ddeuant

Page 48

pechodau yn ei enw ef, ymmlhith yr holl genhedloedd.] Ar Act. 5.30, 31. Duw ein tadau ni a gyfododd i fynu Jesu, yr hwn a laddasoch chwi, ac a groeshoelia∣soch, hwn a dderchafodd Duw ai ddehu∣law, yn dwysog, ac yn Jachawdwr, i roddi edifeirwch i Israel a maddeuant pecho∣dau. Ar Act. 13.38, 39. Am hynny, bydded hyspys i chwi, Ha wyrfrodyr, Mai trwi y hwn yr ydis {y}n pregethu-i chwi faddeuant pe∣chodau; a thrwy hwny cyfiawn-heir pob un sydd yn credu, addiwrth yr holl be∣thau, y rhai ni allech drwy gyfraith Moses gael eich cyfiawnhau oddiwrth∣ynt. A rhag i chwi dybied fod yn cynnyg hyn yma yn unig ir Juddewon, edrychwch Gal. 6.15. Canys yn Ghrist Jesu ni ddichon Enwaediad ddim, na dienwaediad, ond crea∣dur newydd. A Luc. 14.17. [Deuwch, canys weithian y mae pob pechyn barodd.] ar adn. 23, 24.

Chwi a welwch erbyn hyn fod yn gore chymyn i ni gynnyg Bywyd yw'ch bawb oll, a mynegi i chwi oddiwrth Dduw y gellwch chwi fyw os trowch.

Dyma lle gellwch chwi yn ddienbyd ym∣ddiried am eich eneidian: Canys Cariad Duw yr ffynnon y cynnygiad hwn, Jo. 3.16. a gwaed mab Duw ai pwrcasodd: ffydd∣londer a gwirionedd Duw a ymrwymodd i wneuthur yr addewid yn da. Gwyrthiau a seliasant i fynu y gwirionedd o¦hono: Pregeth∣wyr a anfonir trwy'r byd iw gyhoeddi; Y Sacramentau a ordeiniwyd ac a arferir o ran parchus osod allan y drugared a gynnygir

Page 49

ir sawl ai derbyniant: Ar yspryd Glân fydd yn agor y galon iw chroesawn; ar efe ei hun yw ernes y cyflawn feddiant: yn gymmaint a bod y gwirionedd o hyn yn ddiddadl, y geil y gwaethaf o¦honoch, a phob un o¦honoch os gwnewch ond dychwelyd, fod yn gadwe∣dic.

Diau os mynnwch chwi goelio y byddwch gadwedic heb Droedigaeeth, ych bod chwi yn coelio celwydd, a phe pregethwn minnau hynny i chwi, mi a bregethwn anwir. Nid credu i Dduw oedd hyn, ond ir Cythraul ac ich calonnau twyllodrus eich hunain. Mae gan Dduw ei Addewid o Einioes, a chan Ddiafol ei addowid o Einioes: Addewid Duw yw [Dychwelwch a byw fyddwch] Addewid Diafol yw [Chwi a gewch fyw pa un bynac a wneloch ai troi ai peidio] Gair Dw fel y dangosais yw'ch yw, [Oddietthr eich troi chwi, ach gwneuthur fel plant by∣chain, nid ewch ddim i mewn i deyrnas ne∣foedd. Mat. 18, 3. Odditithr geni dyn drachefn ni ddichon efe fyned i mewn i deyrnas Dduw Joan. 3.3, 5. Heb sanctiddrwydd ni chaiff neb weled yr Arglwydd, Heb. 12.14.] Gir diafol yw [Chwi a ellwch fod yn gadwedic heb eich geni drachefn a throi; Chwi a ellwch fod yn dda ddigon heb fod yn sanctaidd: Nid yw Duw ond eich dychrynnu chwi; Mae efe yn drugaroccach nag y gwnelo fal y mae 'n dywedyd, efe a fydd i chwi yn well nai ir.] Ac ysywaeth, mae 'y rhan fwyaf or byd yn credu 'r gair hwn o eiddo 'r Cythrul o flaen gair Duw. Yn yr un môd ac y daeth ein pechod an trueni ir byd. Duw a ddiwed∣odd

Page 50

wrth ein rhieni gynt [Os bwytewch chwi a fyddwch feirw] Ar Cythraul ai yw hety, gan ddywedyd [ni byddwch feirw ddim] Ar wraig a goeliodd y Cythraul o flaen Duw. Felly ymae 'r Arglwydd yr awr∣on yn dywedyd [Trowch neu meirw fydd∣wch] ar Cythraul sy 'n dywedyd [Ni bydd∣wch feirw dim, os gwnewch cymmaint a lle∣fain ar Dduw ain drugaredd ar y diwedd, a rhoi hibio weithrediadau 'r pechod, pryd nas golloch moi weithredu ddim yn hwy.] A dy∣ma 'r gair y mae 'r byd yn ei gredu. Oh ys∣glerder anesgorol! Credu diafol o flaen Duw.

Ac er hyn nid dyna 'r peth gwaethaf; hwy a alwant hyn trwy gabledd Credu ac ymdd∣iied yn Nuw: yr hwn a osodant yn rhith Satan, yr hwn odd gelwyddog or dechreuad a phan fônt yn coelio fod gair Duw 'n gelw∣yddo, galwant hyn ymddiried yn Nuw, a dywedant eu bôd yn credu yntho, ac yn hy∣deru ano am iechydwriaeth. Pa le y dywe∣dodd Duw erioed y caiff y diadgenhedledic annychweledic, ansancteiddiedic fôd yn gad∣wedic? Dangoswch y cyfryw air o fewn yr yscrythur herr i chwi os medrwch? Pa beth! hwn yw gair y Cythraul, ai gredu, yw credu 'r Cythraul, ar pechod a elwir yn fathredic Rhyfyc: Ac a ydych chwi yn galw hyn Credu ac ymddiried yn Nuw? Mae digon yngair Duw i gyssuro a nerthu calonnau y Sancte∣iddiedic: ond nid oes air i nerthu dwylaw annuwioldeb, nac nac i roddi i ddynion y gobath lleiaf o fod yn gadwedic, oni byd∣dant byth wedi eu sancteiddio.

Page 51

Eithr os chwi a drowch a dyfod i ffordd Trugaredd, mae trugaredd yr Arglwydd yn barod ich croesawu. Ymddiriedwh gan hynny yn Nuw am Jechydwriaeth, yn hyf ac yn hyderus, Canys efe a ymrwymodd trwy ei air ar eich cadw chwi, Ni bydd efe Tâd i neb ond iw blant, ac ni cheidw efe neb ond y rhai a ymwrthodant ar byd, ar Cythraul ag ar cnawd, ac a ddeuant i mewn iw deulu ef i fôd yn aelodau iw fab, ac i gael cymm∣undeb ai Sainct. Eithr oni ddeuant i mewn, arnynt hwy y mae: Mae ei ddorau ef yn agored: Nid yw ef yn attal neb: Ni anfo∣nodd efe er ioedd y fâth gennadwri a hon at neb o¦honoch. [Mae hi weithian yn rhy∣wyr: ni dderbynia fi mhonof er i ti Droi.] Efe a allasai wneuthur felly, ac heb wneu∣thur cam a chwi: Ond ni wnaeth efe; Ac nid yw yn gwneuthur hyd y dydd hedd∣yw. Mae ef yn oestadol yn barod i'ch derbyn, pettech chwi ond parod i Droi yn ddiffuant ac a'ch holl galonnau. A llawnder y gwirionedd yma a ymddeng∣us etto ymhellach yn y ddwy Athraw∣aeth sy'n canlyn, at y rhai gan hynny yr âfi rhagof yn y man nesaf, cyn ym wneuthur dim Defnydd o hyn ymhe∣llach.

Page 52

Defnydd.

Athr. 3. MAe Duw yn ymhoffi {y}n Nhroedigaeth ac Je∣ch{y}dwriaeth dynion: ond nid yn eu marwolaeth au damnedigaeth: Gwell gantho Droi o¦honynt a Byw, na my∣ned rhagdd{y}nt a Meirw.

YN gyntaf mi a ddysgaf pa fodd y mae 〈◊〉〈◊〉 chwi ddeall hyn: ac yno mi a eglurhâf i chwi Y gwirionedd o¦hono.

Ac am y cyntaf, rhaid i chwi ddal sulw ar y pethau hyn a ganlyn.

1. Syml ewyllysgarwch neu fodlonrwydd. Yw prif weithred yr Ewyllys yn canlyn Syml Amgyffrediad y dealldwriaeth cyn iddo fyned ymlaen i gyffelybu pethau yngh∣yd Eithr gwaith yr Ewyllys yn dewis fydd weithred ddylynawl, ac yn rhoi rhag-ar-goel o Baihic waith y Deall yn cyffelybu: ar ddwy weithred hyn a allant fôd ai tyufa at nôdau gwrthwynebol, heb ronyn o fai yn y Dyn.

2. Geill amryw raddau fod o ewyllysgar∣wch ddiffuant. Rhai pethau yr wyfi yn ei hewyllysio cym¦mhelled, ac y gwnelwyf gym∣maint oll ac a allwyf o ran eu cyflowni. A

Page 53

rhai pethau yr wyfi yn wir fodlon i arall iw gwneuthur, pan nas gwnelwyfi er hynny cymmaint oll ar a allwyfiw dwyn hwynt i ben, gan fôd gennyf fagad o resymmau im hannog oddiwrth hynny; er i mi wneuthur er hynny y cwbl oll ar fydd yn perthyn i mi ei gwneuthur.

3. Ewyllys Rheolwr, fel y mae 'n rheolwr, a amlygir yn gnewuthur ac yn cyflowni Cyfreî∣thiau: Eithr ewyllys gwr yn ei syml anian∣awl amgyffred, neu megis Arglwydd per∣pheith-lawn ar yr eiddo, a amlygir wrth chwennych neu ddeongli digwyddiad∣au.

4. Ewyllys Rheolwr megis Gosodwr-cy∣fraih fydd yn gyntaf ac yn bennaf ar ufydd∣hau iw gyfraith, ac nid ar gospi neb mewn ûn môdd, ond yn unig trwy ragfwrw nad uf∣ydd haont iw circhion ef Eithr ewyllys Rhe∣olwr, megis Barnwr, sydd yn ww fôd y gy∣fraith naill ai gwedi ei chadw neu ei thorri eisoes, ac am hynny y mae'n ymroi i wobr∣wyo neu ei gospi yn ôl hynny.

Gwedi i mi ddodi i chwi y dosparthiadau anhepcor hyn, mi ai cymhwysaf hwynt yn y man nesaf ac y matter mewn-llaw, yn y traethiadau hyn sy'n canlyn.

1. Mae yn Nrych y gair ar creaduriaid fod yn rhaid i ni adnabod Duw yn y byw∣yd hwn; ac felly yn ôl natturiaeth Dyn, yr ydym ni yn cyfrif iddo efe ddeall ac ew∣yllys, gan symmud y maith bob am herphei∣thrwydd ar a allom, o¦herwydd nad ydym ni yn amgyrraedd dim gorwch ddychymygion pendant am dano ef.

Page 54

2. Ac ar yr unrhyw arddelion yr ydym ni (gyda 'r yscrythur) yn gwneuthur dos∣parth rhwng gweithrediadau ewyllys Duw, megis gwahanrhedawl oddiwth berthy¦na∣su y cyferbynniadau, er eu bôd o ran han∣fod Duw oll yn ûn.

3, Ac yn hyfach, o¦herwydd pan sonniom am Grist, mae gennym arddel ychwaneg i hynny oddiwrth ei ddynawl anian ef.

4. Ac fal hyn y dywedwn fôd Syml fod∣lonrwydd, ewyllys neu gariad Duw at bob dim oll ar sydd dda wrth naturiaeth neu yn soesawl, yn ôl natur neu râdd ei ddaio∣ni ef. Ac felly y mae efe yn ymhoffi yn nrhoedigaeth ac iechydwriaeth pawb, yr hyn er hynny ni ddaw byth i ben.

5. A Duw megis Rheolwr a Deddfwr y byd sydd gantho ewyllys gweithiawl o ran eu hiechydwriaeth hwynt, cym¦mhelled a gwneuthur iddynt râd Weithred Hyródd o Grist ac o fywyd, ac act o Ebargofiad am eu holl bechodau hwynt, trwy na bo iddynt ei wrthod yn anniolchgar; A gor∣chymmyn iw Gennadon gynnyg y Rhôdd yma ir holl fyd, ai perswadio iw derbyn: ac felly y mae efe megis Rhoddwr-cyfraith ac Addewidiwr yn gwneuthur cymmaint oll ar sydd berthynol iddo efe iw wneuthur o ran eu hiechydwriaeth hw∣ynt.

6. Ond, er hyn mae efe megis Gosodwr∣cyfraith yn bwriadu y cân hwy feirw oni throant. Ac megis Barnwr, pan elo dydd grâs heibio, efe a gyflawna ei Ordinhâd honno.

Page 55

7. Yn gymmaint ai fod ef l hyn yn ddi∣ffuant yn ewyllysio Troedigaeth y rhai ni Throir byh, eithr nid megis Arglwydd Cyflawn-gwbl, a Llwyr-fryd cyflawn-ym, na chwaith megis pth y mae efe yn ddi∣os ar fedr dyfod o¦hono i ben, neu y mae efe yn ymrwymo ei holl allu ar ei gyflawni. Mae y 'ngallu y Tywysog o∣sod gwilidwriaeth ar lofrudd i wilied rhag iddo efe lâ ldna chael chwaith moi gro∣gi. Onid os paid efe a hyn, ar reswm da; heb wneuhur dim ond anfon at eu ddei∣liaid ai rhyuddio ac y mymil a hwynt na bônt lofuddion, gobeihio y geill ef ddywedyd yn hydd na fynnai efe iddynt lâdd a hel eu crogi; nid yw efe yn ymhoffi yn hynny; ond yn hytach ar iddynt beidio a byw. Ac os gwneiff ef fwy er rhai, ar ryw reswm enwedigol, nid yw ef rwym i wneuthur felly a phawb.

Geill y Benin ddywedyd yn hydda wrth holl Lofudion a lladron y wlâd [Nid wyfi yn ymhoffi yn eich mar∣wolaeth, ond yn hyttrach ar gadw o¦honoch fy nghyfreithiau a byw: Eithr oni wnewch Mae yn fi mryd ca∣el o bawb o¦honoch feirw.] Geill y barnwr ddywedyd am wir wrth y Lleidr neu 'r Lloffrudd [Och ddy, nid wyfi yn ym¦hoffi yn dy farwola∣eth di, gwell fuasai gennyfi gadw o¦honof y gyfraith, ac achub dy hoedl. Ond gan weled nas gwner, rhaid i mï dy gondemnio, neu mi a fyddwn anghyfiawn.]

Page 56

felly er nad yw Duw yn ymhoffi yn eich

Damnedigaeth, ac am hynny yn eich galw i ddychwelyd a by, etto mae efe yn ym∣hyfrydu yn Eglurhâl ei Gyfiownder ei hûn, a Chwblhâd ei gyfreithiau, ac am hynny mae efe er hyn ei gyd yn bwriadu yn hollawl oni ddychwelwch chwi, y cewch ei'ch Dam∣nio. Pettau Dduw mor gwbl yn erbyn mawolaeth yr annuwiol a bod yn ymroi i wneuthur cymmaint oll ar a fedro iw llddia, yno ni byddei neb Damnedig yn gymmaint a bôd Crist yn dywedyd i chwi mi ychydig a fydd cadwedic. Ei∣thr Duw sydd cyn belled yn erbyn eich damnedigaeth, oc y dysc ef chwi, ach rhy∣byddio a gosd gar eich bronnau einioes ac angeu, a chynnig i chwi ei'h dewis, a gorchymyn iw Weinidogion, erfyn na ddam∣niech chwi mhonoch eich hunain, ond derbyn ei drugaredd ef, ac felly ich gad∣el yn ddiescus. Eithr os hyn ni wasanae∣tha, ac os byddwch etto heb ddychwel∣yd, mae efe ni fryd ar eic'h Damnedigaeth ac a orchmynodd i ni ddywelyd wrthych yn ei enw ef, Adn. 8. Ti annuwiol gan farw a fyddi farw. Ac ni wnaeth Crist fawr lai nai dyngu drachefn a thrachefn, Ac yn wir; yn wir oddieithr eich troi, a'ch geni drachefn ni ddichon i chwi fyned i mewn i deirnas ne∣foedd, Mat. 18.3. Jo. 3.3. Deliwch sulw, ei fôd ef yn dywedyd (ni ddichon i chwi) nid gwiw gobethio am¦dano, ac ofer yw breuddwydio fôd Duw yn fod∣lon iddo, am ei fôd yn beth ni ddichon mor bôd,

Page 57

Ar un gais, gan hynny chwi a welwch ystyriaeth y testyn, nad yw Duw, mawr O∣sodwr-cyfraith y hyd yn ymhoffi dim ym marwolaeth yr annuwiol, ond ar iddynt Droi a byw: er iddo fwriadu er hynny na chaiff neb fyw ond y rhai a droant, ai fôd megis Barnwr yn ymhoffi mewn Cyfiownder ac yn eglurhau ei gasineb ir pechod, er∣nad iw, yn eu trueni yr hwn a ddygasant hwy arnynt eu hunain, oi ystyried yntho ei hun.

2. Ac am Resymau y pwngc, myfi a fyddaf byrr ynthynt o¦herwydd fy mod tybi∣ed eich bôd yn hyyn rwydd yn ei credu barod.

1. Fe eill grasusol naturiaeth Duw ar a gyhoeddedir yn, Ex. 34.6. ar 20.6. ac yn aml mewn lleoedd eraill, eich siccrhau chwi o hyn, nad yw efe yn ymhoffi y eich marwolaeth.

2. Petu Dduw yn ymhoffi yn eich marwolaeth yn fwy nag yn eich troedi∣gaeth ach bywyd, ni buasei efe cyn fyny∣ched yn ei air yn gorchymyn i chwi droi; Ni wnaethai efe i chwi mor cyfryw adde∣widion o fywyd, os gwnewch cymmaint a throi; Ni buasei efe yn eich perswadio i hynny trwy gynifer o resymau, mae trefn yr Efengyl yn profi 'r pwngc.

3. Ai Gommissiwn yr hwn a ddodes ef i weinidogion yr Efengyl, sydd yn profi hyn yn helaeth. Pe buasei Dduw yn ym∣hoffi mwy yn dy ddamnedigaeth, nac yn dy droedigaeth ach iechydwriaeth, ni buasei efe er¦i+oed yn peri i ni gynnyg i chwi dru∣garedd, a dysen i chwi ffordd y bywyd ar gy∣hoedd

Page 58

ac or neulltu, ac ymbil ac erfyn arnwch á droi a byw; ach gwneuthur yn gydnabydus y'ch pechodau▪ a dangos i chwi eich perygl ar•••• mlaen llaw, a gwneuthur cymmaint oll tr sydd bossibl i ni ei wneuthur o an eich troedigaeth, a pharhau yn ymmyneddus yn gwneuthur felly, er i ni gael ein casaû neu ein hamherchi am ein poen: A fuasei Dduw yn gwneuthur hyn, ac yn trefnu ei Ordinha∣dau er daioni i chwi, pe buasei efe yn ym∣hoffi yn eich marwolaeth?

4. Fe brofir hefyd wrth drefn ei Ragluni∣aethu ef ped fuasei gwell gan Dduw eich bôd yn ddamnedig nac yn ddychweledig a chadwedig, ni buasei efe yn taro ym mlhad ei Air trwy ei weithedoedd, ac yn eich denu atto ei hûn trwy ei dirionder beunyddol, ac yn rhoddi i chwi holl drigareddau y bywyd hwn, y rhai ydynt foddion i'ch tywys chwi i edifeirwch, Rhuf. 2.4▪ a'ch dwyn cyn fyny∣ched tan ei wialen, i beri i chwi bwyllo: ni osodai efe cynnifer o siamplau gar bron eich llygaid: ni ddisgwiliasei chwaith wrthych 〈◊〉〈◊〉 ddydd i ddydd, ac o flwyddyn i flwyddyn. Nid yw y rhai hyn arwyddion o un yn ymho∣ffi yn eich marwolaeth. Pe buasei hôff gantho hyn hawsed y gallasei efe dy gael yn Vffern er ys talm fynyched y gllasei efe cyn hyn dy gip∣io d ymaith ynghanolion dy bechodau; a ••••••gen neu w neu gelwydd yn dy enau, yn dy anwybodaeth ah falchder a'th anlladrw▪ ydd: y pryd y bûst di ddiwathaf yn dy fd∣dwdd neu yn ddiwaethaf yn gwatwo ffyrdd Duw, hawsd y galasai ef attal dy chwyth, ath sobreiddio mewn byd arall? Och, leied

Page 59

peth fyddei ir hollalluog Arglwydd reoli ta∣fod y cablwr mwyaf halogaidd, a rhwyo dwylaw yr erlidiwr mileiniaf, neu ostegi cynddaredd y chwerwaf oi elynion a gwneu∣thur iddynt wybodd nad ydynt ond pry∣fedach? Pettau efe ond gwgu arnat ti a ddiferit ith fedd! Pe rhoddei efe awdur∣dod i ûn oi Angylion i fyned a difetha deng mil o bechadu laid gynted y gwneid hynny, hawsed y med efe dy fww ar dy wely o nychod a pheri i ti orwedd yno yn rhno gan ofid a gwneuthur i ti fwytaf y geiriau o wradwydd y rhai a adoddaist dy yn erbyn ei weision, ei air, ei addoliad ai ffyrdd sancteiddlân ef! ei gwneuhur yt anfon i erfyn gweddiu y cyfryw rai ac a ddirmygaist yn dy ryfyg! hawsed y medr ef osod dy gnawd tan ofidiau a gwewyr ai wneuthur yn rhy-gwn i gynal dy enaid, ai wneuthur yn ffieddi∣ach n a thom y ddaiar. Y cnawd yna yr hwn fôdd raid iddo yn awr gael y hyn y mae yn ei hoffi ac ni wasanaetha moi anfod∣loni ef pe rhân ac anfodloni Duw: Ond rhad yw porthi er fwmpwy ef mewn bwyd∣ydd diod a dillad, beth bynnag a ddywedo Duw ir gwrthwyneb: by sued yr ysau fy∣gylon Duw d! Pan oeddyt ti yn dy wy yn amddffi dy bechodau, ac yn cwerylu ar sawl a fynnasent dy dynny di oddiwrthynt, ac yn dangos dy agasrwydd yn erbyn yr argy∣oeddw, ac yn dadlu tros weihdoedd y tywyllwch hawsed y gallaei ef dy gippio di ymmaith mewn mynudyn; ath osod gar bron ti fw••••dd ofnadwy lle•••••• fi weled myrdd

Page 60

fyr¦ddiwn o Angylion gogoneddus yn sefyll gar bron ei orsedd¦faingc; A thithau gwedi dy alw yno i ddadlau ddadl, ac i ofyn i ti, Pa beth sydd gennyt yn awr iw lefaru yn erbyn dy Greawdwr, ei wirionedd, ei weision, ai ffyrdd sanctaidd? dadlau dy ddadl yn awr▪ a gwna o¦honi or¦eu ac a ellych: beth a fedri d ddywedyd yn awr i escusodi dy bechod? dyro gyfrif yn arw oth fydolrwydd ath fu∣chedd gnawdol, oth amser or holl druga∣reddau a gefaist. Ah pa wedd y toddei dy galon ystyfnig ac yr iselid dy olygon beil∣chion! ac y glasai dy wyneb pryd, ac y troid dy ddewr eiriau yn fûd distawrwydd neu yn oernâd ofnadwy, pettau Dduw ond dy osod fal hyn gar bron ei orseddfaingc, a dadlau a thi ei gwyn ei hûn yr hwn y darfu i ti yma ddadlau mor ysgeler iw erbyn! hawsed y gall efe pan fynno ddywedyd wrth dy e∣naid euog [Tyred ymmaith ac na bydded yt fyw mwyach yn y cnawd yna hyd yr ad∣gyfodiad] nid allai moi wrthwynebu. Gair oi enau ef a dynnai ymaith bwys dy einioes bresennol, ac yno dy holl ddoniau ath nerthoedd a safent heb ysgogi: Ac os dywaid efe wrthyt [Na bydded yt fyw yn hwy, neu byddfyw yn Vffern] nid ellir nad vfyddheir.

Eihr ni wnaeth Duw ddim or rhai hyn etto, ond efe a gyd ddygodd a thi yn ymyned∣dus, ac ath gynhaliodd yn drugarog, ac a roddodd i ti yr anadl hwnnw a anedlaist di yn ei erbyn ef: Ac a roddodd i ti y tru∣gareddau hynny a aberthaist di ith gnawd, ac a gys¦annodd i ti y lluniaeth hwnnw a

Page 61

weriaist di i fodloni dy gêg wangous; efe a roddes i ti bob munudynot amser hwnnw a ddifrodaist mewn segurud neu feddwdod neu fydol-fasnach: ac onid yw yr holl ymmynedd, ar drugaredd han yn dangos na chwenychodd efe moth ddamnedigaeth? A eill y llusern losgi heb olew? A eill eich tei∣au sefyll heb y ddaiar iw cynnal? Cystadl ag y gellwch chwithau fyw ûn-awr heb Dduw ich cynnal. A phaham y cynhaliodd ef dy einioes di cyhyd, ond i edrych pa bryd yr ystyrit folineb dy ffyrdd, ac y dychwelit a byw? A ddyru neb or gwir waith oddef ar∣fan yn nwylaw ei elyn iw wrthwynebu? Neu a ddeill ef y ganwyll i lofrudd ar sydd yn lladd ei blant ef, neu i segur∣wâs a chwratho neu a gysgo hyd yr am∣ser. Diau mai i edrych a ddychwelidi or diwedd a byw, y disgwiliodd Duw cyhyd wrthyt.

5. Fe a brofir ymhellach trwy ddioddefia∣dau ei fab: Nad yw Duw yn ymhoffi ym mu∣wolaeth yr annuwiol: A brynasei efe hwynt mor bid oddiwrth farwolaeth? A barasei efe i Angylion a dynion synnû oblegyd ei ymostyngiad? A fasei Dduw yn preswylio mewn cnawd, ac yn dyfod mewn agwedd gwâs, a chymeryd Dyndod ynghyd ar Duwdod yn un person, ac a fasei, Grist yn byw bywyd o ddioddefiadaû ac yn marw o farwolaeth felltigedig tros bechaduriaid, ped fasei: gwell gantho ymhoffi yn en marwolaeth hwynt? Bwriwch i chwi ei we∣led ef mor brysur yn pregethu ac yn i hi∣achau hwynt, fel y cewch ef ym, Ma. 3.21.

Page 62

neu cyhyd yn ymprydio, megis ym, Mat. 4 neu ar hyd y nôs yn gweddio megis yn Luc. 6.12. neu yn gweddio ar defnynnau gwaed yn difern oddiwrtho yn lle chwys, megis Luc. 22.44▪ neu yngodef marwolaeth felltigedig ar y groes, ac yn tywallt allan ei enaid megis aberth tros ein pechodau ni; A dybiech chwi fod y rhai hyn yn arwydd∣ion o ûn yn ymhyfrydû ym marwolaeth yr annuwiol?

Na feddyliwch chwaith wneuthur y peth yn llai trwy ddywedyd fôd hyn yn ûnig tros ei etholedigion. Canys dy bechod di y∣doedd, a pechodd yr holl fyd ai bwys ar ein Pryniawdwr, ai aberth ai iawn ef sydd ddi∣gonol tros bawb, ai ffrwythau ef a gynygir ir nail yn gystal ar llall. Eithr gwir yw, na bu erioed ei amcan nai fryd ef ar bar∣dynu na chadw neb ar na ddychwelei trwy ffydd ac edifeiwch. Pe gwelsych chwi ef ai glywed yn wylo ac yn gryddfannû oble∣gyd cyflwr pobl: anufydd anedifeirioli, Luc. 19.41.42. ac yn cwyno rhag eu hystyfni∣grwydd hwynt, megis, Mat. 23.37. Jeru∣salem, Jerusalem, pa sawl gwaith y mynnaswn gasclu dy blant ynghyd, megis y casel iâr ei chywion tan ei hadenydd ac nis mynnech? neu pe gwelsych ef ai glywed ar y groes yn gwe∣ddio taos ei erlidwyr [O Dâd maddeu idd∣ynt canys nis gwyddant beth y maent yni wneu∣thur] a f'asech chwî yn ammau i fôd ef yn ymhyfrydu ym marwolaeth yr annuwiol, ie y sawl ydynt golledig trwy eu gwirfodd anghrediniaeth? Pan ddarfu i Dduw felly garn (nid caru yn unig, ond felly garu)

Page 63

y byd, fel y rhoddodd efe ei ûnig-anedig fab, fel na choller pwy bynnag a gredo yno∣ddo ef (trwi ffydd efteithiawl) onid caffael o¦honaw fywyd tragywyddol mi a dy by∣gwn wrth hyn ddarfod iddo ef brofi yn er∣byn enllib dynion a chythreiliaid nad yw efe yn ymhoffi ym marwolaeth yr annuwi∣ol, ond yn hytrach ar iddynt Droi a Byw.

6. Yn olaf, os hyn oll ni fodlona mho∣noch etto, cymerwch ei Air ef yr hwn yn oren a wyr ei feddwl ef ei hûn neu or hyn lleiaf coeliwch ei lw ef: Eithr hyn sydd yn fy arwain at y bedwaredd Athraw∣iaeth.

Athr. 4▪ YR Arglwydd a siccraodd i ni trwy ei lw, nad yw efe yn ymho∣ffi ym marwolaeth yr annuwioll, ond ar iddo Droi a Byw: fel y gallas efe adel dyn heb escus yn y byd i ammau y gwirionedd o hynny.

OS meiddiwch chwi ammau ei air, gobe∣ithio na lefswch chwi ammau moi lw ef. Megis ac y darfu i Grist yn ddifrifiddwys dystiolaethu na ddichon y diadgenhedledig as annychweledig fyned i mewn i deyrnas nefoedd Mat. 18.3. Jo. 3.3. felly y tyngodd Duw nad yw efe yn ymhoffi yn eu mar∣wolaeth

Page 64

hwynt ond yn eu Troedigaeth ai Bywyd. Ac megis y dywaid yr Aposti. Heb. 6.13, 16, 17, 18. Oblegyd na allei dyn∣gu i neb oedd fwy, medd efe, fel mai byw fi, &c. Canys dynion yn wir sydd yn tyngu i un a fo mwy; a llw er siccrwydd sydd derfyn id∣dynt ar bob ymryson▪ yn yr hyn, Duw yn ewlly∣sio yn helaeth ac h ddangos i etifeddion yr ad∣dewid ddianwadalwch ei gyngor ef, a gyfryn∣godd trwi lw: fel trwy ddau beth dianwa∣dal, yn y rhai yr oed yw ammbosibl i Dduw fod yn gelwyddog y galem gael cyssur cryf, y rhain ffoesom i gymmeryd gafael yn y gobaith a osod∣wyd on blaca, yr hwn sydd gennym megis ang∣or yr enaod, yn ddiogel ac in siccr. Os oes neb ar na fedr ddwyn y gwirionedd yma i gytûno ac Athrawiaeth Rhagordinhâd, neu weithredawl ddamnedigaeth yr annuwiol, yr hyn yw, ei anwybodaeth efe ei hunan: Nid oes gan hynny gantho ddim escus gwedi i ado i wadu neu i ammau gwirionedd y pwngc sydd mewn llaw: Canys hyn a sic∣chawyd trwy lw Duw, ac am hynny ni ddy∣lid moi wyr dynny iw ddwyn at byngciau eraill; Eithr pyngciau amheûs sydd raid i dwyn yn hytrach atto ef, ag y mau yn rhaid credu fod siccr wirioneddau yn cytuno ag ef, er nad eill ein menyddiau beifion ni ond prin dirnad y cytundeb.

Defnydd

Page 65

YR wyfi yn awr yn atolwg i ti yr hwn wyt bechadur annychweledic ar a wyt yn clywed y geiriau hyn, ar i ti fy fyrio ychy∣dic ar yr Athrawiaethau a grybwyllwyd or blaen; ath ystyried dy hûn tros er cyd, pwy yw yr hwn sydd yn ymhyfrydu yn dy bechod ath ddamnedigaeth? Diammau nad Duw: Efe oi ran ei hun a dyngodd nad yw yn ym∣hoffi yntho. Ac mi a wn nad rhyngü bôdd iddo ef yr ydych chwithau yn i fwriadu wrth hynny Ni lefeswch chwi ddywedyd, eich bod yn yfed ac yn tyngu, ac yn esceuluso dyled∣swyddau sanctaidd, ac yn ddiffoddyd cynhyrfi∣adau yr Yspryd, i ryngu bodd Duw. Hyn∣ny oedd cymmaint a phe cablech chwi y Tywysog a thorri ei gyfreithiau, a dywedyd wneuthur o¦honoch hyn oll i ryngu bodd iddo.

Pwy gan hynny sydd yn ymhoffi yn eich pechod ach marwolaeth? Nid oes neb at sy'u dwyn delw Dduw ano: Am fod yn rhaid iddynt hwy fod or ûn feddwl ac ef. fe ai gwyr Duw nad yw ond pleser bychan ich Athrawon ffyddlon, eich gweled yn gwasa∣neuthu eich gelyn marwol, ac ynfyd anturio eich cyflwr tragywyddoll, a rhedeg yn wall∣gofus i fflammau Vffern. Nid oes ond ple∣ser bychan iddynt hwy weled ar eich enei∣diau (yn yr effeithiau gerwin) y cyfryw ddallineb a chalon gledwch a diofalwch

Page 66

a rhyfyg, y cyfryw ystyfnigrwydd mewn dry∣gioni, y cyfryw ddrwg-athrylith, a chyndyn∣rwydd yn erbyn ffyrdd bywyd a heddwch. Hwy a wyddant mai nodau angau a digof∣aint Duw yw y rhai hyn, ac hwy a wyddant allan o Air Duw pa ddilen, sydd debyg i ddyfod iddynt: Ac am hynny nid yw hoff∣ach a rongn ganthynt chwi, na chan Physy∣gwr tyner weled nodau'r pla yn torri allan ar y clâf. Och ni ragweled eich poenydiau tragywyddol, ac nas gwyddom pa fodd iw rhagflaenu; gweled negosed ydych at Vff∣ern, ac na fedrwn beri i chwi ei goelio, nai ystryried! gweled hawsed, siccr ed y gellych ddiaingc pe gwyddem pa fodd ich gwneu∣thur yn ewyllysgar decced ydych am iech∣ydwriaeth dragywyddol, pe gwnaeth ond Troi a gnewthur eich gorau, ai wneuthur yn ofal a gorchwyl eich einioes. Eithr nis gw∣newch chwi mhono; pettau am ein heini∣oes, ni fedrwn ni moch perswadio iddo. A∣studio yr ydym ddydd a nôs beth i ddywe∣dyd wrthych, ar a allo eich argyoeddi a'ch perswadio ac etto mae heb ei wneuthur. Yr ydym ni yn gosod gair Duw gar eich bron∣nau, ac yn dangos i chwi hyd yn oed y ben∣nod ar adnod lle mae yn scrifennedic nas gellwch fôd yn gadwedig oddieithr i chwi ddychwelyd; Ac er hyn yr ydym ni yn ga∣dael y rhan fwyaf o¦honoch fel y caffom chwi: Gobeithio yr ydym y credwch Air Duw er na credoch mo'n Gair ni; ac y gwnewch gyfrif o¦hono pan dangosom i chwi scrythur eglur am dáno: Ond yr ydym yn gobeithio yn ofer, ac yn

Page 67

llafurio yn ofer, o ran ûn iachawl gyfnewidiad ar eich calonnau. Ac a ydych chwi yn tybied fôd hyn yn beth hyfryd gennym ni? Llawer gwaith y gorfydd ar∣nom mewn gweddi ddirgel gwyno wrth. Dduw a chalonnau trymion. [Och Ar∣glwydd, ni a lefarasom wrthynt yn dy e∣nw, eithr ni wnaethant gyfrif o¦honem; mynegasom iddynt yr hyn yr wyt ti yn i be∣ri i ni fynegi iddynt ynghylch embyd∣rwydd stât annychweledic, ond ni choe∣liant mhonom ni. Ni a fynegasom iddynt ddarfod i ti dystiolaethu; nad oes heddwch ir annuwiol, Esay. 57.21. Eithr prin y coelia y gwaethaf o¦honynt oll eu bod yn annuwi∣ol. Nyni a ddangosasom dy Air lle y dywe∣daist, os byw fyddant yn ôl y cnawd, meirw a fyddant, Rhuf. 8.13. Gnd maent yn dywe∣dyd y credant ynot, pan na choeliant mho∣not; ac yr ymddiriedant ynot, pryd na roddaut goel ar dy Air, ar pryd y bônt yn gobeithio nad yw bygythion dy an yn wir, ac er hynny hwy a al∣want hyn gobeithio yn Nuw: Ac er i ni ddangos iddynt pa le y dywedaist, pan fyddo marw dyn drygionus, fe a ddarfu am ei obaith ef: etto ni fedrwn ni moi perswadio oddrwrth eu gobaith twyllodrus, Dih. 11.7. yr ydym ni yn mynegi iddynt pa wael-beth anfyddiol yw pechod; eithr maent hwy yn ei hoffi ac am hynny nis ymadawent ac ef. Yr ydym ni yn minegi iddynt ddrytted y maent yn prynny eu pheser yma; a pha dâl sydd yn

Page 68

rhaid iddynt roddi am¦dano mewn poenyd tragywyddol, ac hwy a ymfendithiant ac ni choeliant mhono, ond a wnnt megis ac y gwna y rhan fwyaf, ac o¦herwydd bód Duw 'n drugarog, ni chredant mhono, ond a anturiant eu heneidiau, doed a ddelo; Yr ydym ni yn mynegi iddnt barotted yw 'r Arglwydd iw derbyn, ag nid yw hyn ond peri iddynt oedi eu hedifeirwch, a bod yn hyfach yn eu pechod. Rhai o¦honynt a ddyweddant fod yn eu dryd edifachau, Eithr maent fyth or un ffuud: a rhai ddywedant, iddynt edifarbau yn barod, pryd nad ydynt etto gwe∣de dychwelyd oddiwrth eu pechodau, Ir ydym ni yn eu cynghori yr ydm yn ymymbl a hwynt, yr ydym yn cynnyg iddynt, ein cynnho¦rthwy; ond nid ydym ni yn tyccio. Eithr y sawl 'oed∣dynt feddwon ydynt feddwon etto, ar rhai oed∣dynt nwyfus gnawdol fedd faeth, ydynt felly etto, ar rhai oeddynt fydol, ydynt fydol etto; ar rhai oeddynt anwybodus a beilchion, ac yn tybied yn dda o¦honynt eu hunain, ydynt felly fyth. Nid oes nemawr o hnynt a genfydd ac a gyfaddau eu pechod; a lloi o ymwrthyd ac ef. ond ai cyssurant eu hunain fod pawb yn bechaduriad, fel pettau heb ddim rhagor rhwng y pechadur dychweledic ar annychweledic. Rhai o¦honynt ni ddônt yn ein cyfyl pan ydym ni yn ewyllyscar iw dyscu hwynt, ond tybied y maent y gwyddant ddigon yn barod, ac nad rhaid iddynt wrth ein haddysc; A rhai o¦honynt a'n gwrandawant ac a wnânt eû med∣dwl, ar rhan fwyaf o¦honynt sydd megis dynion meirwon dideimlad, fel pan fynegom iddynt bethau o bechynas tragywydol, in fedrwn ni

Page 69

gael gair at eu calonnau hwynt, Onid ufydd∣buwn ni yddynt a phorthi eu mwmpwy yn be∣dyddio plant y rhai annuwiol cyndynnaf o ho∣ynt a rhoddi iddynt swpper yr A¦glwyd, a gwneuthur cymmaint oll ar a fynnont, er maint a fytho yn erbyn gair Dduw, hwy an casânt, ac an difenwant: Ond os dymuwn ni arnynt gyffesu eu pechodau ac ymwrhod a hwynt, ac achub eu heneidiau, nis gwnânt ddinc. Yr ydym ni yn dyweyd iddynt os gwnant ond troi, na naccawn 〈◊〉〈◊〉 mhonynt o ûn o ordinhadau Duw nac or Bedydd iw plan nac o swpper yr Argl∣wydd iddn hwythau, eith ni wrandawant mhonom Hwy a fynnent i ni anûfyddhau i Dduw a damnio ein eneidiau, ein hunain i ryngu bôdd iddynt hwy, ac etto ni throant a chadw eu heneidiau i ryngu bôdd Duw. Maent yn ddoe∣thach yn eu golwg eu hunain nai hathrawon; gwallgofi y maent, ac yn hyderus yn eu ffyrdd eû hunain, ac er a wnelom, ni feawn ni moi newid. Arglwydd, hwn yw cyflwr ein cymydo∣gion trueni; ac nis gallwn ni wrtho: Ni oi gwelwn hwynt ymron diferu i Vffern, ac nis gallwn ni wrtho: Ni a wyddem pe troent hwy yn ddiffuant, y gallent fôd yn gadwedic, eithr ni fedrwn ni moi perswadio: Pettym ni yn ei erfyn ganthynt ar ein gliniau, ni fedrym moi hannog iw wneuthur. Pettym yn ei erfyn gan∣thynt trwy ddagrau ni fedrym moi hannog, a pha beth a allem ni ei wneuthur yn ychwa∣neg?

Y rhai'n yw 'r cwynion ar gruddfan∣nau y gorfydd ar lawer Gwenidog tru∣an eu gwnuthur. Ac a ydych chwi yn tybied fôd gantho efe ddim pleser yn

Page 70

hyn? Ai pleser iddo, efe eich gweled yn myned ym mlaen mewn pechod, a nad allo moch atal! eich gweled mor druein ac nad allo cymmaint a'ch gwneuthur yn de∣imladwy o¦hono. Eich gweled yn llawen, pryd nad ydych siccr o fôd ûn awr allan o Vffern! feddwl beth sydd raid yw'ch diodd∣ef, o¦herwydd na throwch? A meddwl pa fywyd tragwyddol o ogoniant ar a ddirmy∣gwch chwi yn waed wylst ac a fwriwch ym∣aith? Pa beth drymmach a ellwch chwi ddwyn ich calonnau, e pha wedd y dych∣mygwch fodd iw tristau yn fwy?

Pwy gan hynny yr ydych chwi yn ei fodd∣hau trwy eich pechod a'ch marwolaeth? Nid neb o'ch cyfeillion Duwiol deallus: Ochoch mae'n ofid ar eu heneidiau hwynt weled eich trueinî, a llawer gwaith ymaent yn gala∣ru drosoch, pan nad oes gennych fawr ddi∣olch iddynt am hynny, a phan nad oes gen∣nych galonnau i alaru eich hunain.

Pwy gan hynny sydd yn ymhyfrydu yn eich pechod? Neb ond tri gelyn mawrion Duw, ar rhai yr ymwrthodasoch yn eich Bedydd, ac y troesoch yn awr o drawster iw gwasaneuthu. Y Cythrel yn ddiau sydd yn ym¦hyfrydu yn eich pecod ach marwola∣eth. Cans hyn yw gwir ddiben ei holl brof∣edigaethau ef. Oherwydd ar hyn y mae efe yn gwilio nôs a dydd; ni ellwch chwi fed∣dwl am fôdd i ryngu bôdd iddo well, na myned rhagoch yn y pechod: Lawened yw pau welo di yn myned ir dafarn neu bechod arall? ath glywed yn rhegû neu yn tyngu neu ddifenwi? Lawened yw pan glywo

Page 71

efe di yn difenwi y Gwenidog a geisiai dy dynny oddiwrth dy becwod, ath gynnorth∣wyo ith gadw dy hûn? hyn yw ei ddyfyrr∣wch.

2 Yr annuwiol nhwythau a ymhyfrydant yntho, am ei fod yn cytuno ai naturiaeth hwynt.

3 Ond myfi awn er hyn ei gyd nad yd∣ych yn bwriadu rhyngu bôdd ir Cythrel pan ydych yn rhyngu ei fôdd. Ond eich Cnawd eich hûn, y gelyn mwyaf a pheryc∣claf, yr ych yn bwriadu rhyngu bodd iddo. Y Cnawd yw efe, yr hwn a fynnei ei dacclu a phorthi mwythau iddo mewn bwyd, diod a dillad: a fynnei ei foddhau yn eich cyfei∣llach, ai foddhau mewn molach a bri gyda 'r byd; ai foddhau mewn chwaryddiaeth, trythyllwch a seguryd: Hwn yw'r llyngclyn sy'n llyngcu y cwbl. Hwn yw'r Duw yr yd∣ych yn ei wasaneuthu (Canys yr yscrythur a ddywaid am y cyfryw, mai eu Duwiau iw eu Boliau, Phil. 3.18.

Eithr attolwg ywch aros ychydig ac ysty∣ried y peth.

1 Holiad. A ddylae eich Cnawd gael ei fodloni o flaen ei'ch Gwneuthurwr? A an∣fodlonwch chwi yr Arglwyd, ac anfodloni eich Arthrawon. e'ch cyfeillion Duwiol ac oll i fodloni eich chwantan a••••feiliaud ach dymuniadau anianawl? Ai nid yw Duw yn deilwng o fod yn Rheolwr ar eich cnawd? Oni chaiff ef ei reoli ef, ni cheidw efe mho∣no: ni ellwch chwi gyda rheswm ddisgwil iddo ei wneuthur.

2 Ho, Mae eichcnawd yn fodlō ich pechod

Page 72

eithr a yw eich cydwybod fodlon? Onid yw hi y grwgnach och mewn, ac yn dywedyd i chwi weithiau nad yw pob peth yn dda, ac nad yw 'ch cyflwr mor ddiogel ac y dangoswch ei fôd? Ac oni ddylei eich eneidiau ach cydwybodau-gael eu bodloni o flaen y cnawd llygredic yna?

3. Hol Eithr onid ydyw eich cnawd yn darparu hefyd iw anfodlondeb ei hun? Mae efe yn caru yr abwyd, eithr a yw dda, gantho y bâch? Mae 'n caru y ddiod gadarn ar tammeidian melusion, mae 'n caru ei esmwythdra, ai chwareyddiaeh ai loddest, mae 'n hoff gantho fôd yn oludog a chael gan ddynion ddywedyd yn dda am¦dano, a bód yn rhyw ûn yn y byd. Eithr a yw efe yn caru Mell∣tith Dduw? A yw hoff gantho dan gyn∣nu sefyll gar bron ei frawdle ef, a chael ei farnu i dân tragwyddol? A yw hóff gantho ei boeni bythoedd gyda'r Cy∣threiliaid? Cymerwch y cwbl ynghyd, canys nid oes gwahanieth ar bechod ac Vffern, ond yn ûnig trwy ffydd a chywir ddychwelaid. O, cedwch chwi y maill, mae 'n rhaid i chwi gael y llall. Os yw marwolaeth ac Vffern yn hyfryd ganthoch, yno nid rhyfedd os ewch ymlaen mewn pechod, eithr onid ydynt, (fel y mae yn siccr gennyf nad ydynt:) ynobeth er hyfryded y pechod, nid yw efe yn talu mor golled o fywyd, tragwyddol? A yw ychydic ddiod neu fwyd neu esmwythdra a yw têg eiriau pechaduriaid, a yw golud y byd hwn iw bisio uwch law

Page 73

llawenydd nefoedd? neu a dalant hwy ddioddef tan tragywydol hawyr, fe ddylid ystyried y Cwestiwnau hyn gan bob dyn at sydd a rheswm gantho i ystyried ac sydd yn credu fod gantho enaid iw gadw neu iw golli, cyn i chwi fyned ddim pellach

Wele mae 'r Arglwydd yn hyn o fan yn tyngu nad ydyw ef yn ymhoffi yn eich marwolaeth, ond yn hytrach ar i chwi Droi a Byw: Os ymlaen yr ewch chwi er hyn, a marw yn hytrach na throi Cofi∣wch na wnaethoch mo hynny i tyngu bôdd Duw: hynny a fu i fodloni 'r byd ac ic'h bodloni eich hunain. Ac os dynion ai dam∣nia eu hunain iw bodloni eu hunain, ac a redant i boenydiau didrangc o ran difyrr∣wch, ac nid oes ganthynt y synwyr y ca∣lonnau y Grâs i wrando ar Dduw neu ddyn ar a chwennychei eu galw hwynt yn ôl, pa help sydd! ond rhaid yw iddynt dderbyn yr hyn y maent yn ei ymull trwy hynny; ac edifarhau am¦dano mewn môdd arall pan fytho yn rhywyr. Cyn i mi fyned ddim pellach yn y cymhwysiad o hyn, mi a âf at yr Athrawiaeth nesaf, yr hon sy'n thoddi i mi arddel gyflownach or peth.

Page 74

Athr. 5. MAe Duw mor daer am droedigaeth pechaduriaid, ai fod ef yn dygn ddyblu ei eichion ai gyng∣horion, Trowch chwi, Trowch chwi, pa¦ham y byddwch feirw?

YR Athrawiaeth hon yw 'r Cymhwysiad or hon or blaen, megi defnydd o Gyngor; ac yn ôl hynny y trinaf hi. A oes un pechadur annychweledic ar sy'n clywed y dygn eiriau hyn or eiddo Duw? A oes na gwr na gwraig yn y gymanfa hon ar sydd etto yn estronol i waith yr Yspryd Glân yn adnewyddu ac yn sancteiddio? (Mae hi yn Gymandfa ddedwydd onid yw hi felly gyda'r than fwyaf.) Erglywch gan hynny lais eich gwneuthurwr, a thowch atto ef trwy Grist yn ddiymaros. A fynnech chwi wybod ewyllys Duw? Och! hyn yw ei ewyllys ef ar i chwi droi yn ebrwydd. A gaiff y Duw byw anfon cennadwri cyn daered at ei greaduriaid, ac oni ddylaenr hwythau vfyddhau? Clywch gan hynny chwi oll ar sy'n byw yn ôl y cnawd: yr Arglwydd yr hwn roddes i ti anadl ath fo∣dedigaeth, a anfonodd attat gennadwri or nefoedd; a hon yw ei gennadwri ef, [Dych∣welwch, d{y}chwelwch, pa¦ham y b{y}ddwch feirw?] Yr hwn sydd gantho glustiau i wrando gwrandawed, A gaiff lleferydd y Mawrhydi tragy wyddol ei esculuso? Pett∣au

Page 75

efe ond taranû yn ofnadwy, tydi a arsw∣ydit? Ah mae y llais yma yn perthyn yn nes i ti Pettau efe ond dywedyd wrthyt ti a fyddi marw yforu, ni chymerit mo hynny mewn ysgafnder. Ah ond mae 'r gair yn perthyn ith fywyd neu ith farwol∣aeth dragywyddol. Mae efe yn orchymyn ac yn gyngor hefyd fal pe dywedasei wrthyt, [Yr wyfi yn gorchmyn i ti ar yr ufydd∣dod sydd ddylodus arnat i mi dy Greawdwr ath Bryniawdwr, ar i ti ymwrthod ar cnawd y byd ar cythrel, a dychwelyd attafi fel y gellych fyw. Yr wyfi yn ymostwng i ymbil a thi, fal yr wyt ti naill ai yn caru ai yn ofni yr hwn ath wnaeth, fal yr wyt yn caru dy fywyd dy hun sef dy fywyd tragywyddol, Tro a bydd fyw; cyn gyplaed ac ymynnit ddiaingc rhag true i tragyyddol, Dychwel, dychwel, pa¦ham y byddi farw?] Ac a oes galon mewn dyn, mewn creadur rhesymmol a fedr ûnwaith wrthod y fâth gennadwri, y fath orchmmyn, fath gyngor a hwn? Oh pa beth gan hynny yw calon dyn!

Clywch gan gynny bawb ar sy'n eu caru eu hunain, a phawb ar sydd yn gwneuthur cyfri oi hiechydwriaeth eu hunain. Dyma 'r gennadwri lawenaf a anfonwyd er i oed i gustiau dyn. Dychwelwch, dychwelwch, pa¦ham y byddwch feirw? Ni chaewyd chwi etto i fynû tan anobaith dyma gynnyg truga∣redd i chwi, Dychwelwch a chwi ni cewch. A pha galonnau llon llawen-wych y dylaech dderbyn y newyddion hyn. Mi awn nad dy∣ma 'r waith gyntaf y clywsoch hwynt; ond pa gyfrif a wnaethoch chwi o honynt? neu pa gyfrif a wnewch

Page 76

yr awr hon? Chwi oll bechaduriaid anwy∣bodus diofa; gwradewch Air yr Arglwydd Gwrandewch cwihau oll wyr bydol, chwy chwi ra c••••wdo n an w: ••••withiau 'r glythion, a meddwon a puttei••••wyr, ar tyngwyr; Chw••••ha ddi••••wyr a ysting∣wyr, enllibwy a chlwyddwy; Dychwel∣wch, dychw〈…〉〈…〉 y byddwch feirw?

Clyw•••• 〈◊〉〈◊〉 ol b••••fflwy o in ac or tu allan 〈…〉〈…〉d est••••niaid fuchedd Grist 〈…〉〈…〉 yn ei ••••oes ef a adgyfodiad 〈◊〉〈◊〉 c••••wch er¦ i¦oed eich calonnau yn, yhfu gan e g••••iad ef, ac nid ydych yn byw arno megis nerh eich eneidiau, Dychwelwch, dychwelwch, pa∣ham y bydwch feirw?

Gwrandewch oll rai gweigion o gariad Duw, y rhai nid yw eu calonnau tuac atto ef nac yn ymserchu at obaith y gogoniant, ond yn gwneuthur mwy cyfrif och llwyddi∣ant ach difyrrwch daiarol, nac o Lawenydd Nef; Chwy-chwi oll ar nad ydych ond brith-grefyddol ar ddamawain, ac ni roddwch ddim ychwaneg i Dduw nac a allo 'r cnawd ei hepcor; ar nad ymwadosoch ach hunain cnawdol, ac nid ymwrthodasoch a chwbl oll ar sydd gennych e mwyn Crist, yn nghyfifiad a sefydlog fwriad eich eneidiau, ond bôd un ûnig beth yn y byd mor anwyl gennych, na galloch moi hepcor i Grist, er iddo ei ofyn, eithr yn hytrach a antu∣riwch ei soniant ef, nac y ymadawoch ar peth, Dychwelwch, dychwelwch pa ham y byddwch fir?

Oni chlywsoch, ac onid ystyriasoch enfus,

Page 77

cofiwch ei fynegi ef i chwi y dydd heddyw allan o Air Dduw, os gwnewch chwi ond Troi y gellwch fyw, ac oni throwch gan feirw y byddwch feirw.

Hawyr pa beth weithiau a wnewch chwi! Pa beth sydd yn eich bryd? A drowch chwi ai peidio? Na chloffwch ymbellach rhwn dwy opiniwn: Os yr Arglwydd sydd Dduw canlhynwch ef: Os eich cnawd sydd Dduw yna gwasaneuthwch ef etto. Os yw 'r nefoedd yn well na'r ddaiar ar dify••••wch cnawdol, deuwch ymaith gan hynny a chei∣siwch wlâd well, a thrysorwch ywch dry∣sor lle nid oes na rhwd na gwyfyn yn lly∣gru, ac nad eill lladron gloddio trwodd a lledratta, a deffrowch or y diwedd a'ch holl allu, i geisio teyrnas ddifigl, Heb. 12.28. ac i o sod eich einioes ar amcan a fo uwch, a hroi ffwd eich gofalon a'ch llafur ar am∣genach ffordd nac y gwnaethch or blaen. Eithr os yw 'r ddaiar yn well na'r nefoedd, neu os gwna hi fwi eroch, neu barhau yn hwy i chwi, yna cedwch hi, a gwnewch eich gordu o¦honi, a chanlhymwch hi yn westadol. Hawyr, a ddarfu i chwi ymroi beth iw wneuthur? Onid do; mi a osodaf ychydig o ystyrirethau annogaethawl ym∣hellach gar eich bronnau, i edrych a bair rheswm i chwi ym¦roi.

Ystriwch yn gyntaf, pa barato âd a wnaeth trugaredd ich iechydwriaeth? A pha dosturi yw bôd neb yn ddamnedic gwedi hyn ei gyd! fe fu yr amser pan oedd y cleddau fflamlyd ar y fford, ac y cad∣waseî felltith cyfraith Dduw ei yn ôl, er

Page 78

ewyllysgared fuesit i droi at Dduw; fe fu 'r amser pryd na allesit ti dy hunan na'r holl gyfeillion ar a feddit yn y byd, byth gael i ti bardwn am dy bechodau a aethant heibîo, er maint a alaresit ac a well∣heisit arnynt. Eithr Crist a symudodd y rhwystr yma trwy bridwerth ei waed fe fu 'r amser pan oedd Duw yn anghy∣modlon hollawl, megis heb ei fodloni am droseddu ei gyfraith: Eithr yn awr y mae efe gwedi ei fodloni a chymodi cym¦mhelled, a gwneuthur o¦ouo ef i ti hyrâd. Act o Ebargofiad a hyrâd Rôdd weithred o Grist a bywyd, ai fod yn ei gynnyg i ti, ac yn ymbil arnat am ei dderbyn, ac fe all fod yn eiddot os mynni. Canys, yr oedd efe yn-Grist, yn cymmodi y byd ag ef ei hun ac wedi gosod ynom ni air y cymmog yn weithrodawl, 2 Cor. 5.18, 19. Becha∣duriaid, fe orch¦ymynir inni wneuthur y Gennadwri hon attoch chwi oll, megis oddiwrth yr Arglwydd, [Deuwch, canys y mae pob peth yn barod] Luc. 14, 17. Y dyw pob beth yn barod? a chwithau yn ambarod? Mae Duw yn barod ich croeswû, ac i bardynu i chwi cym∣maint ac a wnaethoch iw erbyn; os gwnewch chwi ond dywad: er hyd y pechasoch: er mor wyllt ffòl y pechasoch er echrysloned y pechasoch: mae efe yn barod i fwrw y cwbl or tu cefn, os chwi a ddaw. Er i chwi fod yn Af∣radlonwyr, a rhedeg ymmaith oddiwrth Dduw, ac aros cyhyd, mae efe yn barod

Page 79

i'ch cyfarfod, a'ch cofleidio yn ei freichi∣au, a llawenychu yn eich dychweliad os gwneuch chwi ond troi. Geill hyd yn oed y bydol ddyn daiarol, ar medd∣wyn mochaidd, gael Duw yn barod iw croesawu, os hwy a ddeuant. Onid yw hyn yn rroi dy galon oth fewn? O bechadur, os oes gennyt galon o gig, ac nid o garreg ynot; myfi a dybygwn y toddai hyn hi. A orfydd ar anfeidrol fawredd ofnadwy y nefoedd ddisgwil am dy ddychweliad, a bod yn barod ith dderbyn di, yr hwn ai amherchaist ef ac ai ang∣hofiaist cyhyd? A gaiff efe ymhyfrydu yn dy droedigaeth, ar a allei ogoneddu ei gyfiawnder yn dy ddamnedigaeth, ac onid yw hyn etto yn toddi dy galon oth fewn, ac onid wyt ti etto yn barod i ddyfod i mewn? Onid oes i ti cymmaint rheswm i fod yn barod i ddyfod, ac i Dduw ith wa∣hodd ath groesawu.

Eithr nid hynny yw'r cwbl: gwnaeth Crist ei ran ar y groes, ac a wnaeth i ti y cy∣fryw ffordd at y tâd, fal y gellych oi ran ef gael croeso, os tydi a ddoi. Ac onid wyt ti barod etto?

Mae pardwn yn barod, wedi ei ganhiadu ai gynnyg yn eglur i ti yn yr Efengyl. Ac etto a wyt ti yn amha∣rod?

Mae Gwenidogion yr Efengyl yn ba∣rodd ith gynnorthwyo, ith addyscu, ac i ad∣roedd geiriau gollyngdod o dangnheddyf, ith enaid; Maent hwy yn barod i weddio drosot, ac i selio i fynu dy bardwn trwy

Page 60

Administriad ei sanctaidd Sacrament. Ac etto onid ydwyt ti barod?

Mae pawb ar sydd ar dy duedd yn ofni Duw yn barod i lawenychu yn dy droe∣digaeth ac ith dderbyn i Gynnu un y Saint ac i roddi i ti ddeheulaw cymdeithas, ie, pe rhôn ath fod yn un a fwriesid allan oi cymdeithas hwynt. Ni lefasant na faddeu∣ont lle madd euô Duw, pan ei gwelont yn eglur wrth dy gyffes ath well hâd. Ni fe∣iddiant cymmaint a dannod i ti dy becho∣dau r blaen, canys hwy a wyddant na edliw Duw mhonynt itti. Er maint oedd dy ogan pettit ti ond dychwelyd or galon a dyfod i mewn, ni wrthodent mhonot, dyweded y byd a fynno yn erbyn hynny. A yw y rhain nhwythau oll yn barod ith dderbyn, ac a wyt ti etto yn amharod i ddyfod i mewn?

Ie, mae 'r nefoedd ei hun yn barod, yr Arglwydd ath dderbyn i ogoniant ei Saint: er ffieidded anifail a fuost, os mynni dy lnhau, ti a eli gaffael lle gar bron ei or∣seddfaingc ef? Ei Angylion ef a fyddant prod i ganhebrwn dy enaid i fangre lla∣wenydd, os gwnei di ond dyfod i mewn yn ddiffuant. A ydyw Duw yntau yn barod, ac Aberth Crist yn barod, yr addewid yn barod, a phardwn yn barod, ydyw Gweinidogion n barod, a phobl Dduw yn barod, ar nefoedd hitha yn barod, ac Angylion yn barod, ar rhai hyn oll yn disgwil am dy droedigaeth: ac etto a wyt ti yn amharod? Pa beth amharod i fyw, a thithau gwedi bôd cyhyd yn faw? Amharod i ddyfod ith iawn bwyll ( fal y dywedir fôd y mab a fradlon yn dyfod atto

Page 65

ei hun Luc. 15.17.) pan wyt wedi bod cyhyd allan oth bwyll? Amrharod i fod yn gadwedic, pan wyt ymron parod i fôd yn ddamnedic? Ai nid ydwyt ti barod i gymeryd gafael ar Grist yr hwn a fyrnei dy waredu di, pan ydwyt ti yn barod i foddi a suddo i ddamnedigaeth? Ai nid wyt ti barod ith achub rhag Vffern, pan wyt ti yn barod ith fwrw iddi yn ddiymwared? Och ddyn a wyddostti ti beth yr wyt yn ei wneu∣thur? Os byddi farw yn annycweledic, nid oes le i ammau am dy ddamnedigaeth: Ac nid oes gennyt siccrwyd o fyw ûn awr: ac etto a wyt ti heb fod yn barod i droi ac i ddyfod i mewn? Och o druan gresyno! Oni wasaneuthaist dy y cnawd ar Cythrael yn ddigon ei hyd? Er hyn∣ny ni chefaist moth wala o bechod A yw efe cystall gennyt; neu mor fuddiol itti? A wyddost di pa beth yw yr achos, y myn∣nyt ti etto ychwaneg o¦hono e? A gfaist di cynifer galwad, a chynifer o duga ed∣dau, a chynifer o gernodau, a chynifer o esamplau? A welaist ti cynifer wedi u rhoi yn y bedd, ac etto wyt ti n an∣harod i ymadel th bechodau ac i ddyfod at Grist? Pa beth! yn ol cynifer o argyo∣eddion, ac o wewy cydwybod! yn ol cy∣nifer o fwriadau ac addewidion, a wyt ei etto heb fôd yn barod i droi a byw? Oh na byddei d y lygaid, dy galo wedi ei ha∣goryd i wybod decced cynnyg a wnei i ti yn awr, a llawened cnnawri in da▪fonwyd ni arni, th whodd di i ddyfd Canys mae pob peth yn barod.

Page 82

2. Ystyria pa Wahoddion a gefaist i Droi a Byw: Pa nifer, mor grôch, ddifrif∣ed, mor ofnadwy; ac etto pa wahoddion llawen cysurus?

Canys y Pen gwahoddwr yw Duw ei hun; Yr hwn sydd yn llywodraethu 'r nefoedd ar ddaiar, sydd yn gorchymyn i ti Droi, a throi yn ebrwydd heb oedi: Mae efe yn gorchymyn ir Haul redeg ei yrfa, a chyfodi arnat bob borau; Ac er iddo fod yn grea∣dur mor ogoneddus a llawer gwaith mwy na'r holl ddaiar, er hynny mae yn vfyddhau iddo, ac heb pallu munudyn oi amser goso∣dedic. Mae efe yn gorchymyn i holl blane∣dau a sêr y nefoedd, chwythau a vfyddhant. Mae efe yn gorchymyn ir môr lenwi a thre∣io, ac ir holl Greadwriaeth gadw ei drefn, ar cwbl a vfyddhant iddo. Angylion nef a vfyddhant iw ewyllys, pan anfono efe hw∣ynt i weinidogaethu ir cyfryw bryfed gwiri∣on a ni ar y ddaiar, Heb. 1.14. Ac er hyn os gorchymyn efe ond i bechadur Droi, nid vsyddhâ efe iddo. Efe yn unig sydd yn ei dybied ei hun yn doethach na Duw. Efe a ymgeccrusa ac a ymddedlu a Ddadl y pe∣chod, ac ni arbed. Os yr Arglwydd hollalluog a adrodd y gair, y nefoedd ac oll sydd ynddi a vfyddhant iddo. Eithr pettau ond galw ar feddwyn allan or dafarn, nid vfydd∣haiff efe: neu os geilw efe bechadur bydol, cnawdol i ymwadu ac efe ei hun, ac i far∣weiddio y cnawd, ac i osod eî galon ar eti∣feddiaeth well, nid vfyddhaiffe efe.

Pettau gennyt ddim cariad ynot, ti a adnabyddit y llais, ac a ddywedit, Oh dy∣ma

Page 83

alwad fy 'nhâd, pa fodd y clymaf ar fy 'nghalon an vfyddhau! Canys defaid Crist a edwyn ac a wrendu ar ei lais ef, ac ai dylynant, ac y mae efe yn rho∣ddi iddynt fywyd tragywyddol, Jo. 10.4. Pettau gennyt ddim bywyd atheinulad ysprydol oth fewn, tydi a ddywedit or lleiaf, Y galwad hwn yw llais ofnadwy Duw, a phwy a lefus anûfyddhau? Cans medd y Prophwyd, Amos 3, 8. Rhu∣odd y llew, pwy nid ofna? Nid ydyw Duw fel dyn i ti i ymbepreth a chwa∣rau ac ef▪ Cofia yr hyn a ddywedodd ef wrth Paul yn ei ddychweliad, Nid gwiw gwi∣ngo yn erbyn y symbylau, Act. 9.5. A ei dy ymlaen etto a dirmygu ei Air ef, a gwrth∣wynebu ei Yspryd a chau dy glust yn erbyn ei Alwad? Pwy a gaiff y gwaethaf o hyn? A wyddost dy pwy yr wyt yn anufyddhau iddo, ac a phwy yr ymgynhenni, a pha beth yr wyt yn ei wneuthur? Llawer synhwy∣olach ac esmwythach fyddei dy dâsg, ymryson ar drain, ai mathru ath draed noeth∣ion, ai pwyoath ddyrnau noethion, neu ro∣ddi dy ben yn y tân Llosgadwy. Na thwyller chwi ni watworir mo Dduw, Gal. 6.7. Pwy bynnag arall a watworir, nid Duw. Gwell fyddei i chwi chwatau ar tân yn eich tô, nac a than ei lidiowgrwydd llosgadwy ef, Canys ein Duw ni sydd dân ysol. Heb. 12.29. O mor anghymwys o gymmar wyt ti i Dduw! Peth ofnadwy, yw syrthio yn ei ddw{y}lo ef, Heb. 10.31. Ac am hynny peth of∣nadwy yw ymryson ac ef, neu ei wrthwynebu fal y cerwch chwi eich eneidiau edrychwch

Page 84

beth a wneloch. Pa beth a ddywedwch os dechrau efe ymddadlau a chwi mewn digo∣faint! Pa beth a wnewch os cymmer efe chwi unwaith mewn llaw! A ymrysonwch chwi y pryd hynny yn ei farn ef, fel y gwnewch yn awr yn erbyn ei râs, Medd yr Arglwyd, Isai. 27.4, 5. Nid oes llid∣iawgrwydd ynof (hynny yw, nid yw hoff gennyf eich dinistrio; yr wyf yn ei wneu∣thur megis yn anewyllysgar: ond etto) pwi a osodei fieri a drain yn fy erbyn, mewn hyfel? myfi a awn trwyddynt, mi ai llosc∣wn hwynt ynghyd? neu ymasted yn fy nerth i, fel y gwnelo heddwch â mi, ac efe â wna heddwch a mi. Câd ang∣hydwedd yw ir mieri ar ofl ryfela ar tân.

Megis y gwelwch fal hyn, pwy yw yr hwn sydd yn ech galw, fe ddylei hynny eich annog i wrando ar ei Alwad a Throi: felly ystyriwch hefyd, trwy ba offerau, a mynyched, a difrifed y mae 'n gwneuthur hyn.

1 Mae gan bob dalen o lyfr bendigedig Duw (fel pettau) lais, ac y mae yn galw o hyd arnat, Trô a bydd fyw, trô neu di a fyddi marw. Pa fôdd y medri di ei agoryd, a darllain dalen, neu wrando pennod, a bôd heb deall fod Duw yn peri i ti Droi?

2 Hyn yw llais pob Pregeth yr yd∣wyt yn ei chlywed: Canys pa beth am∣gen yw ergyd ac amcan y cwbl, ond ith alw, ath hwyo, ac ymbil anat am Droi.

Page 85

3. Hyn yw llais aml gynnwrf yr Yspryd yr hwn sydd yn llefaru y geiriau hyn yn ddirgel drostynt drachefn, ac yn dirio anat am Droi.

4 Mae 'n debygol fod hyn weithiau yn llais dy gydwybod dy hû. Onid yw eglur i ti weithian nad yw pob peth yn dd gyda thi, ac onid yw cywydod yn mneg i ti, mai haid yt fod yn ddyn newydd, a chymeryd helynt o ewydd, ac yn m••••nych alw a na am Droi?

5 Llais gas llawn Ecsmplau y D••••iol yw hyn. Pan ganffyddech hwynt y byw bywyd nefol, ac yn ffô rhag y pechod yr wyt ti yn ei hoffi, mae hyn yn gwbl yn ga∣lw arnat i Droi.

6. Llais Holl weih ededd Duw yw; cans hwythau ydynt lyfau Duw, yn dyscu itti y wrs hon, trwy ddangos i ti ei fawr∣edd ai ddoethineb ai ddaioni ef, ath alw i ddal sulw arnynt, a rhyfeddu oblegyd y Cre∣awdwr, Psal. 19.1, 2. Y nefoedd sy'yn datcan gogoniant Duw: ar ffurfafen sy yn mynegi gwaith ei ddwylaw ef. Dydd i ddydd a draetha ymadrodd: a nôs i nôs a ddeng∣ys wybodaeth. Pob amsor y mae yr haul yn cyfodi arnat, y mae yn dyball alw arnat i Droi, megis pe dywedei; I ba beth yr wyfi yn ymdeitio ac yn amgylchu y byd oi ble∣gyd, ond i fynegi i ddynion ogoniant eu gwneuthurwr, ac iw goleuo i wnethr ei waith ef? Ac a wyfi fyth yn dy gael, di yr gwneuthur gwaith y pechod, ac yn cyscu dy einioes allan mewn esculustra? D ffro di yr hwn wyt yn cyscu, a chyfod oddiwrth y

Page 86

meirw a Christ a oleua i ti, Eph. 5▪14. Y nos a gerddodd ym-mhell. ar dydd a nessaodd, mae hi weithian yn bryd i ni i dde∣ffroi o gyscu, am hynny bwriwn oddiwrthym weithredoedd y twyllwch, a gwiscwn ar∣fau y goleuni; rhodiwn yn weddus megis wrth liw dydd; nid mewn cyfeddach a meddwdod; nid mewn cyd-orwedd ac an∣lladrwyd; nid mewn cynnen a chenfigen. Eithr gwiscwch am¦danoch yr Arglwydd Jesu Grist, ac na wnewch ragddarbod tros y cnawd, er mwyn cyflowni ei chwant∣au ef, Rhuf. 13.11, 12, 13, 14 (Y testyn yma oedd y moddion o droedigaeth Awstin)

7. Hyn yw llais pob trugaredd ar sy ar dy helw. pe medrit ti ond eu clywed ai deall, maent oll yn llefain arnat, Dychwel. Pa¦ham y mae 'r ddaiar yn dy gynnal, ond i geisio a gwasaneuthu yr Arglwydd? Pa¦ham y mae hi yn cyfrannu iti ei ffrwythau, ond iw wasaneuthu ef? Pa¦ham y dyru yr awyr i ti anadl, ond iw wasaneuthu ef? Pa¦ham y mae yr holl greaduriaid yn dy wa∣saneuthu di ai llefur ac ai heinioes, ond fel y gellit tithau wasaneuthu eu harglwydd hwy a thithau? Pa¦ham y dyru efe i ti am∣ser ac iechyd a nerth, ond iw wasaneuthu ef? Pa¦ham y mae gennit fwyd a diod a Dilladd, ond iw wasaneuthu ef? A oes gennyt ddim ar nas der∣byniaist? Ac os derby nnaist hwynt, mae 'n rheswm i ti ystyried, gan bwy, i ba ddiben a ddefnydd y der∣byniaist hwynt. A ddarfu i ti erioed weiddi arno ef am gymmorth mewn

Page 87

cyfngder? Ac oni ddeuellaist di y pryd hynny mai dy ran di oedd Droi ai wa∣saneuthu ef os gwareder efe dydi? Efe a wnaeth ei ran, ac ath arbedodd etto yn hwy, ac ath brofodd di flwyddyn a blwyddyn dachefn: Ac onid wyt ti etto yn troi? Chwi a wyddoch ddamnieg y ffigusbren anflrwythlon, Luc. 13.6, 7, 8, 9. pan ddywedasei yr Arglwydd, tor ef i lawr, pa¦ham y mae efe yn di∣ffrwytho y tir? fe ymbiliwyd ar iddo ei brofi efe etto flwyddyn ymhellach, ac yno oni phrifiai efe yn ffrwythlawn, ei dorri ef i lawr. Mae Crist yn y man hwnnw yn gwneuthur y cymhwysiad ddwywaith drofto, adn. 3. ar 5. [Oddieythr i chwi edifarhau, chwi o ddifethr oll yn yr ûn modd] Pa sawl blwyddyn yr edrychodd Duw am frwythau o Gariad a Sanc∣teiddrwydd oddiwrthyt, ac ni chafodd ddim? Ac er hynny efe ath arbedodd. Pa sawl gwaith trwy dy wirfodd anwy∣bodaeth, ath ddiofalwch, ath anufydd∣dod yr annogaist Gyfianwder i ddywedyd, tor ef i lawr, pa¦ham y mae efe yn di∣ffrwytho y tir? Ac er hynny fe aeth Trugaredd ar maes, ac Ammynedd a att∣aliodd y dyrnod marwol ac o ddamne∣digaeth hyd y dydd heddyw; Ped fasei. ddealltwriaeth dyn oth fewn, ti a wybe∣st fod hyn oll yn galw arnat i Droi. A wyt ti yn tybied y diengi fyth rhag barn Duw? Neu a wyt ti yn diystyru golud ei dda∣ioni ef, ai ddioddefgarwch ai ymaros, heb wybod fod daioni, Duw yn dy dywys i edi∣feirwch?

Page 88

Eithr yn ôl dy galedrwydd, oth galon ddiedifeiiol, wyt yn tysori i ti dy hun ddigofaint erbyn, dydd y digofaint, a dat∣cuddiad cyfiawn farn Duw. Yr hwn a dâli bod un yn ol weithredoedd, Rhuf. 2.3, 4, 5.6.

8. Am benn hyn, Lais pob cystydd yw, i Alw a na i fyssio a Throi. Me clefyd a gofid yn llfan m Doi. A Thylodi, a choled an gefeillion yn llefain am Droi, a phob blgu um o wialen cerydd hefydd: Ac etto on wanewi di ar y Galw? daeth y rhai'n yn a••••s atta, ac a wnaethant i ti eu clywed hwy a wa••••hant i t uddfannu; Ac ni allant we••••••u i ti Doi?

9 Me hyd yn oed dull dy Naturiaeth ath foedigaeth ei u yn eiriol am dy ddych∣wliad. Pa¦ham y mae Rheswm gennyt, ond i lywodraethu dy gnawd, ac i wasaneuthu yr Arglwydd? Pa¦ham y mae gennyt ti enaid deallus, onid i ddyscu a gwybod ei ewyllys ef ai wneuthur: Pa¦ham y mae gennyt galon oth fewn, a fedr garu, ac ofni, a dymuno: ond fel y gellit ei ofni ef, ai garu, ai ddymuno?

10 Je dy rwymedigaethau dy hûn trwy a∣ddewid ir Arglwydd sy 'yn galw arnat i Droi ai wasaneu••••u ef. Tydi ath rwymaist dy hun iddo ef trwy gyfammod Bedydd, ac a ymwrthodaist ar byd y cnawd ar Cythrel ayn a gadarn heaist trwy broffes Gristiono∣hawl, ac a hadnewyddaist yn y Sacramentau ac yn amseroedd caystydd: Ac a sydd i ti addaw, ac addunedu, a bôd byth heb gy∣flowni a throi at Dduw?

Page 89

Gosod weithiau yr holl bethau hyn yng∣hyd gwel beth a ddylei ddigwydd o¦honynt. Mae yr Scrythyr lan yn galw arnat i Droi; Mae Gwenidogion Crist yn galw arnat i Droi; Mae yr Yspryd yn llefain am Droi: Mae dy gydwybod yn llefarn am Droi: Mae'r duwiol trwy Annogaethau ac ec∣samplau yn llefain em Droi: Mae yr holl fyd, ar holl greaduriaid oi fewn y rhai a gyflwynwyd ith ystyrieth yn llefain am Dr∣oi o¦honot: Mae ammyneddus ymaros Duw yn llefain am i ti Droi: Mae 'r holl Drugareddau a dderbyniaist yn lle∣fain Trô: Mae gwialen ceryddon Duw yn llefain, Trô: Mae dy Reswm a dull dy na∣turiaeth yn eiriol am dy ddychweliad: ac felly y mae dy holl addewidion i Dduw: Ac onid oes yn dy fryd di etto Droi?

3 Heb law hyn, O bechadur truan caled galon! A ystyrriaist di er i oedi a ba ber∣wyl yr wyt ti trwy gydol hyn o amser yr barrio ar hwn sy 'yn galw arnat i Droi Yr eiddo ef ydwyt, yr wyt yn dy ddylau dy hun a chwbl ar a feddi iddo ef; Ac oni eill efe feistroli yr eiddo ei hun? Ei was f wyt ti yn hollaw, ac ni ddyleit wasaneuthu u Meistr arall. Yr wyt ti ym sefyll ar ei Nawdd ef, ath hoedl fydd yn ei ddwy∣lw; Ac nid oes yn ei fryd efe moth a∣chub ar ammodau amgenach. Mae gen∣nyt lawer o elynion ysprydol miain, a fy∣ddai lawen ganthynt pe gwrthodei. Dduw dydi, a gadael rhyngthynt hw{y} a thi ath adel iw hewyllys hwynt: gynted y trinent hwy di mewn modd arall. Ac ni

Page 90

elli di gael dy waredu oddiwrthynt ond trwy ddychwelyd at Dduw. Ti a syrthiaist yn barod tan ei ddigofaint ef trwy dy be∣chod. ac nis gwyddst pa hyd etto y dis∣gwil ei ammynedd ef. Ysgatfydd hon yw y flwyddy n diwaethaf; Ysgatfydd y dydd diwaethaf; Mae ei gleddyf ef wrth dy ga∣lon, tra yw y gair yn dy glust, ac oni Throi, yr wyt ti yn ddyn marw colledic Pettau dy lygaid ond yn agoted i ganfod, pa le yt wyt ti yn sefyll, sef ar ymylsant Vffern, ac i ganfod pa sawl mil sydd yno yn barod ar na throesant, tî a gânffyddit ei bod hi yn bryd i ti i edrych yn dy gylch.

Wele hawyr! edrychwch oddifewn a mynegwch i mi yn awr, pa wedd y mae eich calonnau yn ymserchu ar addewidion hyn or eiddo Duw. Chwi a glowch beth yw ei feddwl, nid yw efe yn ymhoffi yn eich marwolaeth: Mae ef yn galw arnoch, Dychwelwch, Dychwelwch: Mae yn arwydd ofnadwy oni bydd i hyn oll dy gynhyrfu, neu onid hanner dy gynhyrfu, a mwy o lawer os gwnaiff di yn fwy diofal yn dy drueni, o¦herwydd dy fod yn clywed am drugarogrwydd Duw. Ymôdd y gwei∣thio y physygwriaeth a ddengys i ni mewn rhan a oes gobaith or feddyginiaeth. O pa newyddion llawen fyddei ir rhai sy 'yn awr yr Vffern pe caent ond y cyfryw gennadwri oddiwrth Dduw. Pa air ei la∣wened fyddei glywed hyn [Trowch a by∣ddwch fyw] ie pa air croesaw us a fyddei efe itti wedi itti ddioddeu y rhyw ddigo∣faint Duw ond tros ûn awr! neu pei cait

Page 91

glowed y cyfryw air oddiwrth dduw yn ol dy boeni dros fâl, neu ddengmil o flyny dd∣oedd [Dychwel a bydd fyw] ag etto â esculusi di fo a gadael ini ddychwel heb yn reges?

Wele bechaduriaid, fo 'n gosodwyd ni yma megis cennadon yr Arglwydd; i osod och blaen chwî fywyd a marwolaeth: beth meddwch? pa vn o¦honynt a ddewiswch? Mae Christ yn sefyll megîs yn dy ymyl, ar nefoedd yn y naill llaw, iddo ag Vffern yn y llall, ag yn cynnig iti dy ddewis; pa vn a ddewisi di? Llef yr Arglwydd a wna ir creigiau ddychryn: Psal. 20. Ac yw ddim gennit glywed ei fygythion tu ac attat os ti ni ddychweli? Onid wytyn dirnâd ac yn ad∣nabod y llef honn, [Dychwelwch, dychwel∣wch pa¦ham y byddwch feirw?] llais cariad ydyw, cariad annherfynnedog, y goreu ar mewyneiddiaf gyfaill; fel y mae yn hawdd iti ddeall wrth y cynnhyrfiad: ac etto a elli di ei esculuso fo? Ilef tosturi a thrugaredd ydyw. Yr Arglwydd sy 'n gweled i ba le yr wyt ti yn myned yn well na thydi dy hun, hynny a wna iddo ef alw ar dy ôl, Dychwel, dychwel, fo wyl beth A ddaw o¦honnot, oni Ddychweli; Mae foyn meddwl ynddo ei hun, Oh, oni Ddychwel y pechadur tylawd hwn efe ai teifl ei hon i boenan didrangee∣dig, rhaid imi o gyfiawnder rannu ac ef yn ôl fy nghyfion gyfraith, o¦hewydd paham mae fo 'yn galwar dy ol di Dychwel. dychwel, O bechadur? pei gwyddech chwi y filfed 'r anu or peryglon sy agos attoch at trueni yr ydych yn rhedeg iddo' yn gystal ac y gwyr Duw, Ni byddai∣raid

Page 92

i ni mwyach Alw ar eich ôl i Ddych∣welyd.

Am ben hyn, y llef hon sy 'n galw ar∣nati sydd gyfryw ac a ffynnodd gyda miloedd yn barod, ac a alwodd bawb ir nefoedd ar sy yn awr ynthi: ni fynnent chwaith yr awr hon er mil o fydoedd ddarfod iddynt ei dirmygu, ae na throesent at Dduw. Pa beth y mae y sawl a droesant wrth Alwad Duw yr awron yn ei feddiaunû? Maent yr awr yn deall mewn gwirionedd mai llêf Cariad ydoedd hi, yr hon nid oedd yn bwriadu iddynt dim mwy niwed na'i hi∣echydwriaeth. Ac os tydi a vfyddhei ir un∣rhw Alwad, ti a ddeui ir unrhyw happusw∣ydd. Mae myrddiwnau y bydd yn rhaid idd∣ynt alaru yn dragywydd am n ddychwela∣et: eihr nid oes un enaid yn y ne∣fedd yn ddrwg gantho ddarfod iddo ddychwelyd.

Wele hawyr, a ymroesoch chwi etto, ai nad dô? Ai rhaid i mi ddywedyd dim ychwa∣neg wrthychi Pa beth a wnewch? A drowch chwi ai peidio? Llefara ddyn yn dy galon wrth Dduw, er na leferi di allan wrthyf fi: Llefara, rhag iddo gymeryd dyddistawrwydd yn lle nâg. Llefara yn brysur, rhag na chyrygio efe y cyffelyb itti mwyach. Lle∣fara o lwyrfryd ac nid tan ammau; Canys ni fyn efe yn ganlhyuwyr iddo mor rhai a safont ar eu cyngor. Dywaid yn dy galon yn awr heb oedi ymhellach, a hynny cyn i ti ysgogi oddiyna, [Trwy ras Duw mae yn f ryd i ddychwelyd ar frys. Ac o¦herwydd fy môd yn gwybod fy ngwen∣did,

Page 93

mi a ddisgwiliaf wrth Dduw am ei râs, ac y mae 'n fy mryd i ganlyn Duw yn ei ffyrd, ac ymwrthod am hên helyntiau am cymdeithion, am rhoddi fy hun i fynu i hyfforddiad yr Arglwydd.

Ni chaewyd, mhonoch chwi i fynu mewn tywyllwch crefydd y cenhedloedd nac mewn anobaith y damnedic. Mae einioes gar eich bronnau; a chwi a ell∣wch ei chael os mynnwch at ammodau gweddol; ie yn rhâd os chwi ai derbyn∣niwch. Mae ffordd Dduw yn sefyll yn eglur och blaen; mae yr Eclwys yn agored i chwi; mae cymdeithas y rhai Duwiol yn agored i chwi: Chwi a ellwch gael Crist a phardwn a sancteidd∣rwydd os mynnwch. Pa beth a ddywed∣wch? A wnewch chwi ai peidio? Os dy∣wedwch na wnewch, neu oni ddywed∣wch ddim, ac fythfyth myned rhagoch; Mae Duw yn dyst, ar gynnylleid fa hon yn dyst, a'ch cydwybodau yn dystion decced cynnyg a gosowch chwi y dydd he∣ddyw Cofiwch, y gallesych gael Crist ac nas mynnech. Cofiwch, pan golloch ef, y gall∣asech chwi gael bywyd tragywyddol yn gystal ac eraill, ac nas mynnech; ar cwbl oll oblegydd na fynnech Droi.

Eithr gedwch i ni ddyfod at yr Athraw∣iaeth nesaf, a chlywed eich rhesymmau.

Page 94

Athr. 6. MAe yr Arglwydd yn ymostwng i ymresymmu 'r matter a phechaduriad annychweledic ac i ofyn iddynt, pa¦ham y byddant feirw?

YMresymmîad chwith, yn gystal o ran y ddadl ar ymresymwyr.

1. Y ddadl neu 'r cwestiwri a adroddir i ymresymmû y n ei gylch yw; Pa¦ham y damnia 'r annuwiol hwynt eu hunain? neu, pa¦ham y byddant feirw yn hytrach na dych∣welyd? A oes ganthynt un rheswm digon∣ol am wneuthur felly?

2. Yr ymrhesymwyr ydynt, Duw a dyn Y Duw transanctaidd a pechaduriaid annu∣wiol annychweledic

1. Onid yw yn beth rhyfedd yr hyn y tebygir fôd Duw yn ei ragfwrw yn hyn o fan y byddei undyn yn ewyllysio marw a bôd yn ddamnedic? Je y byddai hyn yn gyflwr yr holl rai annuwiol; hynny yw, y rhan fwyaf or byd? Eithr chwi a ddywedwch, Ni eill hyn mor bod; Canys naturiaeth a chwennych ei chadwedigaeth ai dedwyddwch ei hun ac y mae 'r annuwiol yn edrych mwy ar∣nynt eu hunain nac y mae eraill, ac nid dim llai: ae am hynny pa fôdd y dichon neb syn∣nû bod yn ddamnedic?

Page 95

Ir hyn yr attebaf, 1. Y siccr wirionedd yw, na ddichon neb ewyllysio dim drwg megis drwg: ond yn ûnig megis ac y mae gantho fâth ar rith ddaioni: llai o lawer y dichon neb ewyllysio ei boenydio yn dra∣gywydd. Trueni megis y cyfryw, ni chwen∣nychir gan neb. 2. Ond etto er hynny ei gyd mae yn ddigon gwir yr hyn y mae Duw yn ei ddyscu i ni yma; Mai yr achos paham y mae yr annuwiol yn meirw ac yw ddam∣nedic, yw, o¦herwydd hwy a fynnant feirw a bod yn ddamnedic. A hyn sydd wir mewn amryw foddion.

1. O¦herwydd hwy a gerddant y ffordd sy'n arwaid i Vffern; er i Dduw a dyn ddyweddyd iddynt, i ba le y mae hi yn my∣ned, a pha le y mae ei diwedd; ac er i Dduw dystiolaethu cyn fynyched yn ei air, os ânt rhagddynt yn y ffordd honno, y byddant damnedic, ac na byddant gadwedic oddiei∣thr uddynt Ddychwelyd, Esay. 48.22. Nid oes heddwch, medd yr Arglwydd, ir rhai annuwiol, Esay. 59.8. ffordd heddwch nid edwaenant, ac nid oes gyfiawnder yn eu llwybrau: gwnaethant iddynt lwybrau ceimion; pwy bynnac a rodi yno nid edwyn heddwch. Mae ganthynt air a llw y Duw byw am¦dano, oni ddychwelant, nad ânt i mewn iw orphwysfa ef. Ac etto annuwiol ydynt, ac annuwiol fyddant dyweded Duw a dyn a fynnont; Cnawdol ydynt a chnow∣dol fyddant; Bydol ydynt, a bydol fyddant, er i Dduw ddywedyd iddynt fôd cyfeillach y byd yn elyniaeth i Ddvw, ac a o châr neb y byd (yn ymesur hwnnw) nid yw cariad y tâd yn∣ddo ef

Page 97

Jac. 4.4. 1 Jo. 2.15. ac felly yn ddig∣wyddawl mae y dynion hyn yn mynnu bôd yn ddamnedic, er nad ydynt ar uniawn-gyrch Maent hwy yn ewyllysio y fford i Vffern, ac yn caru y siccr achos oi poendod, er nad ydynt fodlon i Vffern ei hûn, nac yn caru 'r boen sy raid iddynt ei goddef.

Hawyr, onid dyma wirioned eich cyf∣lwr: ni fynnech chwi mor llosgi yn Vffern? eithr chwi gnheuwch y tân trwy eich pechod ac ach bwriwch eich hunain iddo: Ni fynnech chwi mo'ch poenydio yn dra∣gywydd gyda Chythreiliaid: eithr chwchwi a wnewch y hyn a ddwg hynny i benn yn ddiammau, er a allo dim a ddyweder ir gwrthwyneb Or un ffunyd yw a phe dy∣wedech, myfi a yfaf wenwyn-llygod ffrengic neu ryw wenwyn arall, ond er hynny ni fynnwn i mor marw. Mi am bwiaf fy hun bendramwnwgl o ben a Clôch-dy, ond er hynny ni laddafi mhono fy hûn; Mi a fratha 'r gyllell hon yn fy 'nghal∣on, ond ni ddygaf fi mo'm hoedl er hyn∣ny; Mi a roddaf y tân yma yn nhô fy nhy, ond er hynny ni fynnai moi les∣ci. felly yn vniawn y mae gyda dynion annuwiol; Hwy a fyddant annuwiol, ac a fyddant byw yn ôl y cnawd ar byd: ac etto ni fynnent hwy gal moi dam∣nio. Eithr oni wyddoch chwi fod y mo∣ddion yn tywys at y diben, a darfod i Dduw trwy ei gyfraith gofiawn ben∣nodi fod yn rhaid i chwi edifarhau neu fod yn golledic. Yr hwn a gymero wen∣wyn

Page 97

a eill yn hyddaf ddywedyd cystal ac mi am lladdaf fy hun: canys ni ddigwydd ddim gwell yn y diwedd: er iddo y scarfydd ei garu ef obegyd melustra y Suwgr a gym∣myscwydd ac ef, ac ni fynnei goelio mai gwenwyn ydoedd, ond y gallai efe ei gyme∣ryd a bôd yn dda ddigon: Eithr nid ei ddychymygion ai hyder ef a wareda ei e••••••es felly os byddwch chwy feddwon neu odinebwyr, neu fydol neu yn byw yn ol y cnawd, chwi a ellwch yn hydda ddy∣wedyd cystal ac, ni a fyddwn damnedic. 〈…〉〈…〉 bydd i chwi, oddi eithr i chwi ddychwelyd. O ni cheryddech chwi ffoledd Leidrin neu Lofrudd a ddywedai [mi a l••••••••af ac a laddaf ond ni fynnai mo'm crogi.] Pan wyr efe os gwneiff ef y naill, yr edrych yr Justûs mewn cyfiawnder am gffall or llall ei wneuthur. Os dywaid efe, mi a laddaf ac a ledrattaf, efe a eill yn hy∣ddef ddywedyd cystal ac, mi a fynnaf fy ngrogi▪ felly os ewch chwi ymlaen mewn buchedd gnawdol, chwi a ellwch yn eglur ddywedyd cystall ac, Ni a awn i Uffern.

2. Ymhellach, ni arfer yr annuwiol mor moddion hynny, heb ba rai nid oes gobaith o ichydwriaeth. Y sawl in swytu, a eill cystall ddywedyd yn groyw, na fyn efe mor byw; oddieithr mediu o¦hono ef ddywedyd pa fodd i fyw heb fwyd, y sawl ni cherddo ei ffordd, a eill yn groyw ddywedyd cystal na fyn efe ddyfod i ben ei helynt. y sawl a sy rthio mewn dwfr, ac na ddelo allan, na goddef i arall ei helpio allan, a eill ddywed, yd yn groyw cystall ac, mi a fynnaf foddi;

Page 98

felly os byddwch chwi gnawdol ac annuwiol ac ni fynnwch mor dychwelyd nac arfer y moddion drwy ba rai y dylaech, ddychwelyd ond a dybiwch ei fod yn fwy trafferth nac a oedd raid, chwi a ellwch yn groyw ddy∣wedyd cystal ac y mynnwch chwi eich dam∣nio. Canys os cowsoch chwi ffordd i fôd yn gadwedic heb Droedigaeth, chwi a wnae∣thoch yr hyn ni wnaethpwyd er i oed or blaen.

3. Je, nid hyn yw'r cwbl, ond y mae yr annuwiol yn anfodlon i iechydwriaeth ei hunan. Er iddynt hwy allael chwennych rhywbeth y maent yn ei alw ar enw y nefo∣edd; er hynny y nefoed ei hunan oi hystyried y 'ngwir naturiaeth y dedwyddwch, nid yd∣ynt iw chewennych; ie mae eu calonnau yn llwyr wrthwyneb iddo. Cyflwr o berphaith sancteiddrwrydd, ac o gyfannedd gariad, ac o foliant i Dduw yw'r nefoedd. Ac nid oes gan yr annuwiol galon i hyn, Y cariad ar mawl ar sancteiddrwydd ammherphaith ar a gyrhaeddir yma, nid oes moi meddwl hwy arno: llai o lawer ar yr hwn sy 'n ddirf∣awr mwy. Mae llawenydd nef o natu∣riaeth mor bûr ac mor ysprydol, na ddi∣chon calon yr annuwiol moi wir chwen∣nych.

Ac felly erbyn hyn chwi a ellwch weled ar ba sail y mae Duw yn rhagfwrw fod yr annuwiol yn fodlon iw dinistr eu hun∣ain:

Page 99

ni throant, er bod yn rhaid iddynt droi neu feirw. Hwy a anturiant yn hyttrach ar sicr drueni, nac y dychwelont; ac yno iw llonydu eu hunain yn y pechod, hwy a ba∣rant iddynt eu hunain goelio y diengant cystal cynt.

2 Ac megis ac y mae 'r ddadl yn achos o ryfeddod (y byddei ddynion fyth y fâth elynion iddynt eu hunain, a bwrw ew he∣neidiau ymaih oi gwirfodd) felly hefyd y mae yr Ymresymmwyr y byddei i Dduw ymostwng cyn ised ac i ddadlau y cwyn a dyn fal hyn, ac y bydai ddyn mor ddall ac mor gy•••• yn ryfedd, a bôd yn rhaid wrth hyn oll mewn matter mor eglur, ie ac i wrthwynebu hyn oll, pan yw ei hiechydw∣riaeth eu hunain yn sefyll ar y diben o hynny.

Nid rhyfedd os hwy ni 'wrandawant ni fydd ddynion pryd na wrandawont yr Ar∣glwydd ei hûn. fal y dywaid Duw, Ezec. 3.7. Pan anfonodd ef y prophwyd at yr Israeliaid [Ty Israel ni fynnant wrando arnat ti: canys ni fynnant wrando arnaf fi: Canys tâl∣gryfion a chaledgalon ydynt hwy, holl dy Israel] Nid ryfedd os medrant hwy ddadlau yn erbyn Gweinidog new yw gym¦y+dog duwiol, pan ddadleu∣ont

Page 100

hwy yn erbyn yr Arglwydd, sef yn er∣byn y mannoedd egluraf oi air ef, a thy∣bied fod ganthynt ddigon o reswm ar euty. Pan fyddont yn blino'r Arglwydd ai geiriau, Dywedant, ym mha beth y blinasom ef? Mal. 2.17. Y offeiriaid a ddirmygent i emo afeiddient ofyn, ym mha beth y dirmygasom dy enw di? A phan halogasant ei allor a gwneuthur bwrdd yr Arglwydd yn ddirmygus, hwy a feiddient ddywedyd, ym mhâ beth yr halogasom di? Mal. 1.6, 7. Eithr [gwr (medd yr Arglwydd) a ymrysono ai luniwr, ymrysoned priddell a phriddellau'r ddaiar; a ddywed y dai wrth ei luniwr, beth a wnei? Esay 45.9.

Cwest. Eithr pa¦ham yr ymresymma Duw y ddaddl fal hyn a dyn?

Atteb. Oblegyd fod dyn yr hwn sydd greadur rhesymmol, iw drin yn ôl hynny, a thrwy reswm ei berswadio ef ai orchfygn Duw o¦herwydd hynny ai cynyscaeddodd hwynt a rheswm, fal y gwnaent ddefnydd o¦hono iddo ef. fe Dybygei un nad ae greadur rhesymmol yn erbyn y rheswm egluraf a mwyaf yn y bydd pan y gosoder gar ei fron ef,

2. Or hyn lleiaf, fe gaiff dynion weled a ofynnodd Duw ddim ganthynt ar a oedd an∣rhesymmol. Eithr pa beth bymag y nnae efe yn ei orchy myn iddynt, a pha beth bynnag y mae 'n ei wahardd iddynt, mae gantho efe bob gwir reswm yn y byd ar ei dy: Ac y mae yn rheswm da iddynt hwythau ufydd∣hau, eithr yn ddireswn anufyddhau. Ac yn y môddhwn yr annogir hyd yn oed y rhai dam∣nedic

Page 111

i gyfiawnhau Duw, ac i gyfaddef mai rhe∣swm a fasei iddynt ddychwelyd atto ef; Ac hwy a annagir iw condemnio eu hunain, ac i gyfaddef nad oedd iddynt fawr reswm iw bwrw e hunain ymaith trwy esceuluso ei râs ef yn nydd ei hymweliad.

Defnydd.

EDrychwch bechaduriaid am eich rhesym∣mau goreu a chadarnaf, os mynnwch chwi wneuthur eich fford yn dda; chwi a welwch pwy sydd weithian i chwi i ymdrin ag ef. Pa beth a ddywedi, tydi adyn ani∣anawl annychweledic, a feiddi di anturio ymddadlau a Duw? A elli ei wrthbrofi yn erbyn Duw? A wyt ti barod i roddi dy enw i fewn? Mae Duw yn gofyn i ti pa¦ham y byddi faw? A wyt ti gwedi dy arfogi ag ateb digonol? A gymeri di arnat brofi fod Duw yn camgymeryd, ac mi tydi sydd ar yr iawn? Oh pa anturiaeth yw hon! Och, mae naill ai efe ai tydi yn camgymeryd; Pan ydyw efe tros dy droedigaeth, a thithau yn ei herbyn; Mae efe yn galw arnat i ddychwelyd a thithau nis gwnei; Mae efe yn erchi i chwi, wneuthur yn ebrwydd, sef y dwthwn hwn, ta gelwir hi heddyw; chwithau a oedwch, ac a dybiwch i bod hi yn abl da yr amser yn ol hyn; Mae efe yn

Page 102

dywedyd, fod yn rhaid iddo fôd yn gyfnewidiad cyfan, a bod yn rhaid i chwithau fod yn sanctaidd, ac yn greaduriaid newydd, a chwedi eich ail-eni; A chwithau a dybiwch mai llai a wasanaetha 'r tro, ac mai digon yw clyttio yr hen ddyn, heb syned yn newydd. Pwy sydd yn awr ar yr iawn ai Duw ai chwychwi? Mae Duw yn galw arnoch i Droi a byw bywyd sanctaidd ac ni fynnwch; Wrth eich bucheddau anufydd yr ymddengys na fynnwch chwi; Os mynnwch, pa¦ham nas gwnewch? Pa ••••im nas gwnaech trwy gydol hyn o amser? A pha¦ham nad ewch yn ei gylch ef etto? Mae eich bucheddau tan lywodraeth eich ewyllys. Nyni a allwn yn lle gwirfainu ych bod chwi yn enewyllyscar i Droi, pryd nad ydych yn Troi. A pha¦ham nas gwnewch? A fedrwch chwi roddi un heswm trosoch, ar a haeddei ei alw yn rheswm?

Myfi yr hwn nid wyf ond pryf, eich cyd greadur, o wan ddealltwriaeth a feid∣diaf sialeinsio y doethaf o¦honoch oll, i ymrysemmu y matter a myfi, tra bwyf yn dadlau dadl fy ngwneuthurwr; Ac nid rhaid i mi ddigalonni, a myfi yn gwybod fy mod yn dadlau y ddadl y mae Duw y ei dadlau, ac yn ymbleido tros yr hwn a fynu y goreu yn y diwedd. Pettau gennyf ond y ddau reswm cyffredinol hyn yn eich erbyn, mae 'n ddiogel gen∣nyf

Page 103

na feddwch chwi un rheswm da ar eich ty.

1 Mae 'n ddiogel gennyf na ddichon efe fod yn Rheswm da, yr hwn sy 'yn erbyn Duw 'r gwirionedd a rheswm. Ni ddichon hwnnw fod yn oleuni, ar sy ngwrthwyneb ir haul; nid oes dm gwybodaeth mewn un creadur, ond a ga∣fodd efe oddiwrth Dduw: ac am hynny ni ddichon yr un fod yn ddoethatch na Duw. Rhyfyg damnedic oedd ir Angel pennaf ymgystadlu ai Greawdwr. Pa beth gan hynny yw i delpyn o dom, i hurtyn disynwyr, ni edwyn mhono ei hunan nai enaid ei hun; ni edwyn ond ychydic or pehau a wel; ie yr hwn sy'n llai ei wybodaeh na bagad oi gymydogion, ymosod yn erbyn doethineb yr Arglwydd? Vn or datcuddiadau helaethaf o echryslawn ddrygioni dynion cnawdol, a dygn∣amhwyll y cyfryw yn y pechod yw fod ir fath ddaiardwrch gwirion ffôl ddy∣wedyd yn erbyn ei Wneuthuwr, a chew∣estiwnu gair Duw! Je fod ir bobloedd hynny yn ein plwyfydd, y rhai sydd mor anifeilîaidd ddiwybod, na fedrant roddi i ni un atteb gweddol ynghylch prif byngciau Crefyd, fôd er hynny cyn doethed yn eu tyb eu hunain, ac y rhyfygant gwestiwnu y gwirionedd egluraf or eiddo Duw, ie ei groesi, ac ymgeccrysu iw erbyn, pan na fe∣dsont ond prin ymadroddi yn gywir,

Page 104

ac ni chredant mhono ddim pellach nac y bo yn cytuno ai ffôl-ddoethineb hwynt.

2 Ac megis y gwn i fod yn rhaid i Dduw fod ar yr iawn, felly mi a wn fod y matter mor hynod deimladwy y mae efe yn dadlau iw erbyn, na ddichon neb gael reswm am¦dano. Ai possibl y dichon dyn gael rheswm y n y byd i dorri cyfreithîau ei wneuthurwr? A rheswm i ddianrhydeddu Arglwydd y Gogoniant? A rheswm i amherchi yr Ar∣glwydd ai prynnodd? Ai possibl y dichon dyn gael un rheswm da i ddamnio ei enaid anfarwol ei hun? Ystyriwch yr hyn y mae yr Arglwydd yn ei ofyn; [Dychwelwch, dychwelwch, pa¦ham y byddwch feirw?] Ydyw angeu tragywyddol yn beth iw chwennych? Ydych chwi yn caru Vffern? Pa reswm sydd gennych am eich difeth a o'ch gwirfodd? os tybiwch fod yn beth reswm i chwi bechu, oni ddylaech gofio mai cyflog pechod yw marwolaeth? Rhuf. 6.23. a me∣ddwl a ydyw yn rheswm i chwi eich difetha eich hunain gorph ac enaid yn dragywydd? Chwi a ddylaech nid yn unig ymofyn a yd∣ych chwi yn caru y neidr, ond a ydych chwi yn caru y colyn. Yr un fath beth yw i ddyn daflu ymaith ei ddedwyddwch tragywyddol a phecu yn erbyn Duw, nad aller rhai un iawn reswm trosto. Eithr po mwyaf a ddad∣leuo un dyn trosto, ynfytra y dengys ei fod. Pe cynnygid i chwi A glwddiaeth neu deyrnas am bob pechod a wneloch, nid rheswm, ond ynfydrwydd oedd i chwi ei dderbyn. Pe gallech chwi trwi bob pe∣chod fwynhau y peth pennaf ar y ddai∣ar,

Page 105

ar a ddymunai y cnawd, ni byddei o brî; cymmhedrol yn y byd ich perswadio gydâ rheswm iw wneuthur. Pettau i ryngu bodd eich cefaill mwyaf neu 'r anwylaf, neu i Vfydhau ir tywysog mwyaf, ar y ddaiar, neu i ach∣ub eich hoedl, neu i ochelyd y trueni dai∣arol mwyaf, nid yw y rhai hyn oll o bwys yn y byd i dynny dyn gydâ rheswm i wneu∣thur ûn pechod, pettau law ddehau neu ly∣gad dhau yn rhwystro eich iechydwriaeth y ffordd fwyaf ennillgar yw, ei fwrw ef ym∣aith yn hytrach na myned i Vffern iw safio ef. Canys nid oes achub rhan, pan golloch chwi 'r cyfan. Mor anfeidrol yw pethau tragywyddoldeb, nad oes dim yn y byd yn haeddu unwaith eu henwi mewn cyffelybi∣aeth iddynt; Ac ni eill dim daiarol, pe rhôn iddo a bôd yn Einioes, neu Goronau, neu frenhmiaethau, fôd yn escus cymhed∣rol i esceuluso pethau or cyfryw ou∣chel a thragywyddol bwys. Nid eill bôd gan ddyn reswm i groesi ei ddben ei∣thaf. Mae 'r nefoedd yn gyfryw beth os chwi ai collwch, na ddichon dim gy∣flowni 'r diffyg na wneuthur y golled i fynu. Ac Vffern sydd gyfryw beth, os goddfewch hi na ddichon dim symmyd ymaith eich trueni, na rhoddî i chwi gysur ac esmwthdra Ac am hyn ni ddichon dim fôd a dalo ei ystyried i'ch escusodi; am esculuso eich ie'chydwri∣aeth eich hunain. Canys ein Achubwr a ddywaid, pa lesâd i ddyn os ennill yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun, Marc. 8.36.

Page 106

Och ha-wyr, nas gwypech pa bethau yr yd∣ym ni yn awr yn cryblwyll wrthych chwi am¦danynt? Mae gan y saint yn y nefoedd fâth arall ar feddylian ynghylch y pethau hyn? Pe gallei y Cythrael ddyfod at y rhai sydd yn byw yngwydd ac ynghariad Duw, a chynnyg iddynt gwppan nid o gwrwf, neu buttain, neu gwmpeini digrif, neu chwareyddiaeth iw denu hwynt ymaith oddiwrth Dduw a gogoniant, attolwg mynegwch i mi pa fodd dybygwch y derbynient y cynnyg∣iad? Neu pe cynnygiai efe iddynt fôd yn frenhinoedd ar y ddaiar: A ydych chwi yn tybied y denai hyn hwynt i lawr or nefoedd? Oh a pha gasineb a dibrisrwydd sanctaidd y diystyrent hwy ac y gwrthodent y cynny∣giad a pha¦ham nas gwnaech chwithau felly, y rhai y mae 'r nefoedd yn agored ich ffydd pettau gennych ond ffydd iw weled. Nid oes enaid yn Vffern nas gwyr erbyn hyn, mai cyfnewyd ynfyd oedd ollwng y nefoedd ymaith am ddyfyrrwch, cnawdol; Ae mai nad ychydig ddigrifwch, neu ddyfyrrwch, neu olud bydol, neu barch, neu ewyllys da neu air da dynion a ddiffydd dân Vffern, neu ai gwnaiff ef yn ennilwr ar a gollo ei enaid: Ow pe clywsech chwi yr hyn yr wyfi yn ei gredu, pe gwelsech yr hyn yr wyf fi yn ei gredu, a hynny ar goelf∣ain gair Duw, chwi a ddywedech na ddi∣chon bôd gan ddyn reswm trosto ei hûn am ddamnio ei enaid. Ni feiddiech chwi gysu yn esmwyth noswaith ymhellach nes i chwi ymroi i ddychwelyd a Byw,

Os gwelwch chwi ddyn yn taro ei law yn ân hyd oni losger hy ymaith; chwi a ryfe∣ddwch

Page 107

wrth hynny; Eithr peth yw hwn y gall bôd gan ddyn rheswm am¦dano fal yr oedd gan Escob Cranmer pan y llosgodd efe ei law ymaith am iddo yscrifenuu a hi o gydsynieth i Babyddiaeth. Os gwelwch wr yn torri coes neu frauch i faes, mae yn o∣lwg garw; Eithr peth yw hyn y gall bôd gan ddyn reswm da am¦dano: fal y gwnaiff llawer dyn o ran achub ei hoedl. Os gwe∣lwch wr yn rhoddi ei gorph iw losci yn û∣lwyn, ac iw arteithio ar Cephyl-pren a han∣nau dirdynniad, ac yn gwrthod ymwared pan y cynnygier mae hwn yn gyflwr caled i gig a gwaed: Eithr hyn y gall fôd gan ddyn reswm da am¦dano, fal y gellwch we∣led yn Heb. 11.33, 34, 35, 36. ar môdd y wnaeth llawer cant o ferthyron. Ond bôd id dyn ymwrthod ar Arglwydd yr hwn ai gwnaeth a bôd i ddyn redeg i dan Vffern, darfyddo i rybyddio, ac ymbil ac ef am droi fal y byddo cadwedic; hyn sy yn beth ni ddichon gael reswm yn y byd, ar sydd wir reswm iw gyfiawnhau nai escusodi. Canys y nefoedd a dal am y golled o ba beth bynnac y gollom ni ei golli wrth ei cheisio hi; ac am y boen a gymerom ni am¦dani. Eithr nid eill dim dalu 'r pwyth am y golled or ne∣fedd

Attolwg i chwi yn awr gedwch ir gair hwn ddyfodd yn nes at ech calonnau: A megis ac y mae yn eglu ddigon i chwi nad yw reswm i chwi eich difetha eich hu∣nain, felly mynegwch i mi pa reswm sydd cennych i wrthod Troi a Byw i Dduw?

Page 108

Pe reswm sydd gan y bydol-ddyn, neu 'r meddwyn, neu'r diwybod ddiofal bechadur pennaf o¦honoch ôll, pa¦ham na byddech mor sanctaidd ac ydyw undyn ar a ad∣waenoch ac mor ofalus am eich eneidiau ac ydyw neb arall? Oni bydd Vffern mor boeth i chwi ac i eraill? Oni ddylei eich eneidiau chwi eich hunain fôd mor anwyl gennych chwi, ac yw 'r eiddynt hwy genth∣ynt hwythau? Ai nid oes gan Dduw cym∣maint o Awdurdod arnoch chwi? Paham gan hynny nad ewch chwithau yn bobl sanctaidd yn gystal a hwyn-hwy?

Och hawyr, pan ddicco Dw y matter i lawr hyd at brif gy¦nneddfau naturiaeth, a dangos i chwi nad oes gennych i fod yn an∣nuwiol ddim mwy rheswm nac sydd genn∣ych i ddamnio eich eneidiau, Os chwy∣chwi er hyn ni fynnwch ddeall a dychwelyd, mae iw weled eich bôd mewn cyflwr anno∣beithiol.

Ac yn awr, naill ai mae gennych reswm am yr hyn yr ydych yn i wneu∣thur, neu nid oes yr un; onid oes, a ewch chwi ymlaen yn erbyn rheswm ei hûn? A wnewch chwi yr hyn nid oes gennych reswm am¦dano? Eithr os tybiwch fôd gennych, dygwch hwynt allan, a gwnech eich goreu och matter. Ymresymmwch beth ar y matter a myfi, ei'ch Cyd grea∣dur, yr hyn sydd haws o lawer nac ym∣resymmu'r matter a Duw. Mynega i mi, ddyn, yn hyn o fan garbron yr Arglwydd, fel ped fait ti i farw yr awr hon, pa¦ham nas dylait ymroi i ddychwelyda

Page 109

heddyw? cyn i ti chwimio or man lle yr wyt yn sefyll? Pa reswm sydd gennyt i nac∣cau, neu i oedi? Oes yr u rheswm gennyt ac sydd yn bodloni dygydwyodd dy hûnam hynny? Nac yr ûn a lefesi di ei berchennogi ai ddadlau gar bron brawdle Duw? O, oes, moes eu clywed; dwg hwynt allan, a gwna yn dda. Ond, ysywaeth, pa araith drwsgl, pa salw ymleferydd a glown ni beunydd gan ddynion annuwiol. Oni bai eu hangenrh∣eittied efe a fyddei a naf gwilidd eu henwi.

1. Vn a ddywaidd, oni bydd neb cadwedic ond y cyf yw rai Dychweledic a Sancteiddi∣edic ac y soniwch chwi am¦danynt, yn a ni byddau 'r nefoedd ond gwâg, yno Duw yn rhan llawer ûn.

Atteb, Pa beth! fe dybygid eich bôd chwi yn meddwl nas gwyr Duw, neu nad yw efe iw goelio! Na fesurwch mo bawb wrthych eich hunain. Mae gan Dduw fil∣oedd a myrddiwnau oi rai sanctaidd: Ond etto ychydic oi cyffelybu ir byd: ydynt hwy, fel y dywedodd Crist ei hun i ni, Mat. 7.13, 14. Luc. 12.12. Gweddeiddi∣ach i chwi wneuthur y defnydd hwnnw or Gwirionedd hwn y mae Crist yn ei ddyscu i chwi, Ymdrechwch am fyned i mewn trwy 'r porth cyfyng: oblegydd cyfyng yw'r porth, a chûl yw 'r ffordd sydd yn arwain ir byw∣yd, ac ychydig yw y rhai sydd yn ei chael hi eithr ehang yw 'r porth a llydan yw 'r ffordd sydd yn arw ai i ddestryw, a lla∣wer yw y rhai sydd yn myned i mewn trwyddi, Luc. 13 22, 23, 24 Nac ofna braidd

Page 110

bychan (medd Crist wrth ei rai sanctei∣ddiedic) canys rhyngodd bôdd i'ch Tâd roddi i chwi y deyrnas, Luc. 12.32.

Gwrthddadl. 2. Mae yn ddiammau gen∣nyf os eiff fy' nghyffelyb i i Vffern, y cawn ni haflug o gwmpeini.

Atteb. A fydd hynny dim esmwythder a chysur i chwi? Neu a ydych chwi yn tybied na ellwch gael digon o gumpeini yn y nefo∣edd A fynuwch chwi eich difetha er mwyn cumpeini? Neu oni chredwch chwi y cy∣flowna Duw ei fygythion, oblegyd fod cyn∣nifer yn euog? Y rhai 'n oll ydynt ddych∣mygion gwirîonffôl an hesymmol.

Gwrthddadl. 3. Ac onid yw pawb yn bechaduriaid, ie 'r goreu o¦honoch oll?

At. Eithr nid oes mo bawb yn bechadu∣riaid heb ddychwelyd. Nid yw 'r Duwiol yn byw mewn pechod gorthrwm. Ac mae hyd yn oed eu gwendidau yn ofid ac yn fw∣rn arnynt, yr hyn y maent hwy beunydd yn hiraethu ac yn gweddio ac yn ymegnio am gael ei. gwaredu oddiwrtho. Nid yw pechod yn teyrnasu anynt.

Gwrthdd. 4. Ni welaf fi fod Proffesswyr ddim gwell na gwyr eraill, hwy a dwyllant ac a orthrymmant, ac y maent mor gybyddus ac eraill.

At. Pa beth bynnac yw rhugrithwyr nid felly y mae gyda, rhai a sancteiddîwydd. Mae gan Dduw filoedd a miloedd ar nad ynt fe∣lly: er bôd y byd enllibus yn achwyn ar∣nynt yr hyn nis gallant byth moi brofi, ar hyn nid aeth erioed i mewn iw calonnu hwynt. Ac yn gyffredinol hwy a roddant iw

Page 111

herbyn bechodau'r galon; y thai ni ddi∣chon neb ei gweled ond Duw: Oherwydd nas gallant roddi iw herbyn ddim or fâth annuwioldeb yn en bucheddau, ac y maent hwy eû hunain yn euog o¦hono.

Gwrthddadl. 5 Eithr nid wyf fi na phutt∣einiwr, na meddwyn, na gorthrymmwr, ac am hynny pa ham y galwech arnafi i Ddychwelyd?

At. Megis pettech chwi heb eich geni yn ol y cnawd, ac heb fyw yn ol y cnawd cy∣stal ac eraill! Onid ydyw yn gymmaint pe∣chod ar mwyaf or rhai hyn, bôd gan Ddyn synniad daiarol, a chau 'r byd yn fwy na Duw, a bôd gantho galon anghredadwy heb ymddarostwng? Ie gedwch i mi ddywedyd i chwi. yn ychwaneg: fod llawer ûn ar sy yn gochelyd pechodau anafus wedi ei glud∣io cyn dynned wrth y byd ac mor gaethion ir cnawd, ac mor estronol i Dduw, a gwrth∣wyneb ir nefoedd yn eu helynt fwy moesgar ac yw eraill yn eu pechodau hynodol mwy cwilyddus.

Gwrthdd. 6. Eithr nid wyf fi yn bwria∣du niweid i neb, nac yn gwneuthur dim ni∣weid, a phaham gan hynny y condemnau Duw fyfi?

At. Ydyw yn niweid yn y byd esceuluso yr Arglwydd ath wnaeth, ar gwaith daeth∣ost ir byd oi blegyd, a gwneuthur mwy cy∣frif or creadur, na'r Creawdur, ac esceuluso y grâs a gynnygier i ti beunydd? Gorddyfn∣der dy bechod yw bôd mor anheimladwy o¦hono: Ni wyr y meirw oddiwrtheu bôd yn feirw. Pettit ti unwaith gwe∣di dy fywhau, ti a welit fwy ar fai

Page 112

ynot dy hûn, ac a ryfeddit dy hûn am wneu∣thur cyn lleiedd pîs o¦hono.

Gwrthddadl 7. Myfi a dybygwn yn gyrrech chwi ddynion oi cof ta rith eu dychwelyd hwynt: Mae yn ddigon i ddirboeni ym∣mennyddiau poblach wiion fyfyrio cym∣maint ar bethau rhy uchel iddynt.

Atteb. 1. A ellwch chwi fod ym¦mhellach och côfnac ydych chwi yn barod? neu or hyn lleiaf a eill fôd gwallgof perycclach, nac esceuluso eich hawd fydd tragywyddol ach gwirfôdd ddifethaich hunain? 2 Nd ydyw dyn un amser yn ei iawn bwyll nes iddo droi: Nid edwyn efe byth mo Dduw, nid edwyn efe bechod, nid edwyn Grist, nid edwyn mor byd, nac efe ei hûn, na pha beth yw ei orchwyl ar y ddaia, fal yr elo yn ei gylynes iddo droi. Mae yr scythyr yn dywedyd fôd yr ânnuwiol yn ddynion anhywaith. 2 The. 3.2. a bôd Doethineb. y byd hwn yn ffolineb gyda Duw. 1 Cor. 3 19. ac yn Luc. 15.17. fe a ddywedir am y mâb afradlon, pan ddaeh atto ei hun, ddar∣fodd iddo ymroi i ddychwelyd yn ei ôl. Mae hwnnw yn fyd doeth pad anufyddhao dynion i Dduw a rhedeg i Vffern rhag ofn bôd allan oi hwyl.

2 Pa beth sydd yn y gwaith y mae Crist yn eich galw iddo, a allai yrru dyn allan oi hwyl? Ai caru Duw, a galw arno a meddwl cyslurlawn am y gogoniant i ddyfod, ac yma∣del ach pechodau, a chau ei gilydd ac ym∣hyfrydu yn ngwasanaeth Duw yw 'r peth? A yw y rhai 'n gyfryw bethau â barent iddy∣nion orffwyllo.

Page 113

3 Ac yn gymmaint ach bôd yn dywedyd fôd y pethau yma yn rhy uchel i ni, yr yd∣ych yn achwyn ar Dduw ei hun am wneu∣thur hwn yn waith inni, a rhoddi i ni ei air, a gorchymyn i bawb ar fynno fôd yn fndigedic fyfyrio ynddo ddydd a nôs. A ydyw y pethau y gwnaethpwyd ni oi plegyd, ac yr ydym ni yn byw oi plegyd yn rhy uchel i ni iw trîn? Mae hyn yn llwyr in ddiddyndodi ni, an gwneuthur yn anifeiliaid, fel ped faem tebyg ir rhai ni wasanaetha iddynt ymhel a matterion dim uwch nac a berthynant ir cnawd ac ir ddaiaren. Os yw 'r nefoedd yn rhy ûchel i chwi i feddwl am¦dani ac i ymbaratoi iddi hi a sydd rhy uchel i chwi byth iw meddi∣annu?

4 Pettau Dduw ymbell waith yn goddef i neb rhyw ddyn penn egwan amhwyllo wrth feddwl am bethau tragywyddol, hyn sydd oblegyd i bôd yn eu camddeall, ac yn rhedeg heb arweinydd: Ac or ddau gwell oedd gennyf fod yn nghyflwr y cyfryw un, nac yn nghyflwr y byd gwallgofus annych∣weledic, y rhai a gymerant en hammhwyll yn ddoethineb iddynt.

Gwrthddadl. 8. Nid wyf fi yn tybied fôd Duw yn gofalu cymmaint beth feddy∣lio neu a ddyweto neu a wnelo dynion, ac y gwnelo efe cymmaint ddefnydd o¦hono.

Atteb. Me yn debygol wrth hynny ych bôd yn bwrw gair Duw yn gelwyddog, ac yno pa beth a gedwch? Eith eich rheswm eich hûn a allasai ech dyscu yn wll onid

Page 112

ydych chwi heb goelio yr scrythyrau: Canys chwi a welwch na wnaeth Duw gyfrif cyn lleied o¦honom ni na bû yn wiw gantho ein gwneuhur, ac y mae ef yn oestadol yn ein cadw, ac yn ein cynnal ni beu∣nydd ac yn darparu drosom: A wnaiff gwr-call yn y byd ddefnydd-waith celfydd i ddim? A fydd i chwi wneuhur neu bryn∣nû Clocc neu Orlais ac edrych am¦dano beunydd, ac heb ofalu pa ûn a wnelo efe ai myned yn gywir ai yn anghywir? Yn ddi∣au oni chredwch fûd neulltuol lygad rhag liniaeth yn dolsulw ar eich calonnau ach bucheddau, ni ellwch chwi gredu na disg∣wil i un rhagliniaeth neulltuol ddalsulw ar eich diffygion ach helbul, ich diang∣henu A phe buasei Dduw yn gofalu cyn lleied am¦danoch ac yr ydych chwi yn ei feddwl, ni buasech chwi fyth yn byw hyd yn hyn; Gant o glefydon a ym∣rysonasent pa un gyntaf a gowsei eich destrowio. Ie, y Cythreuliaid a'ch cyn∣llwynasent ac ach cychasent ymaith yn fyw, fel y mae y pyscod mowrion yn llyngcu 'r lleiaf, ac fel y mae yr adar ar ani∣feiliaid rheipus yn difa 'r lleill. Ni ellwch chwi dybied wneuthur o Dduw ddyn i ddim diben neu ddefnydd yn y byd: ac os gwnaeth efe ef o ran yr ûn, yn ddiammau oi an ei hun. Ac a ellwch chwi feddwl nas gwaeth ganddo pa un am gy∣flowni ei ddibenion, a pha un am wneu∣thur o¦honom yr hyn in gwnaethbwyd or plegyd.

Je trwy eich gwrthddadleuon Annuw

Page 113

chwi a fynnwch i Dduw wneuthur a chyn∣nal yr holl fyd yn ofer. Canys er mwy pa beth y mae yr holl greaduriaid isod eraill ond er mwyn dyn? Pa beth y mae y ddaiar yn ei wneuthur ond ein cynnal an maethu ni? Ar anifeiliaid fy yn ein gwasaneuthu ai llafur ac ai bywyd, ac felly am y lleill. Ac a wnaeth Duw y fath gyfannedd▪ le mor ogoneddus, a gofod dyn i breswylio ynddo, a gwneuthur pob peth yn weision iddo, ac â yw efe yn awr heb edrych am ddim oddiar ei ddwylw ef? Nac yn gofalu pa fôdd y meddylio, neu y llefaro, neu y bucheddo? Mae hyn yn llwyr anrhesymmol.

Gwrthddadl. 9. Hawdd-amnor ir byd pan oedd dynion heb gwneuthur cymmaint o ymyrreth mewn crefydd.

Atteb. Yr arfer er¦i+oed oedd ganmol yr amseroedd hynny ar a aethent heibio. Y byd y sonniwch chwi am¦dano, oedd yn gyn∣nesin ddywedyd, gwell oedd y byd yn nydd∣iau ein henafiaid, ac felly yr oeddynt hwy∣thau am eu henafiaid. Nid yw hon ond hên arfer; Am fôd gennym ni oll deimlad o ddrwg ein hamseroedd ein hunain, eithr nid ydym ni yn canfod mor hyn oedd o'n blaen.

2 Nd hwyach mai llefaru yr ydych chwi yn ôl ech tyb. Mae y rhai bydol yn tybied fôd y byd ar y goreu an yw efe yn cyttuno ai meddyliau hwynt: a phan gaffont fwyaf o lawenydd a digrifwch bydol. Ac nid oes ammau gennyf; na ddywedei y Cythraul cystal a chwithau

Page 116

mai gwell oedd y byd y pryd hynny; Canys yr yddoed ef yn cael mwy o wa∣sanaeth y pryd hynny, a llai o rwystr. Eithr y byd sydd ar y goreu pan fydder yn caru, yn perchi ac yn vffyddhau i Dduw yn fwyaf dim. A pha fôdd amgen y gwy∣ddoch chwi pa bryd y mae 'r byd yn dda neu yn ddrwg ond wrth hyn?

Gwrthddadl 10. Mae cynnifer o ffyrdd ac a Grefyddon, nas gwyddom ni pa un i fôd o¦honi, ac am hynny ni a fyddwn fel yr ydym.

Atteb. O¦herwydd bôd cynnifer, a fydd∣wch chwi or ffordd honno y gellwch fod yn siccr nad yw yn ûniawn? Nid oes neb bel∣lach allan or ffordd nar pechaduiaid bydol cnawdol, annychweledic. Canys nid ydynt hwy yn cyfeiliorni yn vnig yn yr opiniwn yma neu 'r opiniwn accw, fel y mae bagad o Sectau, ond hyd yn oed yn ergyd ac amcan eu bucheddau. Ach bod chwi yn myned ar daith y byddai eich einioes yn sefyll arni, a safech chwi neu droi yn ôl, oblegyd i chwi gyfafd a rhai croes ffyrdd, neu oblegyd eich bód yn gweled rhai ffordolion yn trammwy ar hyd y ffordd feirch a rhai ar hyd llwybr toed, a rhai ysga fydd yn torri dros y cae, a rhai yn colli'i ffordd? Ynt∣au bòd a wnaeth yn hyttach yn fwy gofalus i ymofyn y ffordd? Os oes rai gweision gennych nis gwyddant pa fodd y gwnânt eich gwaith yn iawn, neu rai ar sydd an∣ffyddlon, a gymerech chwi mewn rhan dda gan yr un or lleill os byddent ob∣legyd hynny yn segur ac heb wneuthur

Page 117

i chwi ddim gwasanaeth oherwydd eu bod yn gweled y lleill cynddrwg?

Gwrthddadl 11. Nid wyf fi yn gweled sod y rhai sydd mor dduwiol ddim gwell arnynt na dynion eraill-Maent cyn dylotted ac mor helbulus ac eraill.

At. Ac ond odid yn fwy o lawer, pan welo Duw yn dda. Nid ydynt hwy yn cy∣meyd llwyddiant daiarol yn gyflog idd∣ynt. Hwy a ddodasant eu trysor ai go∣baith ynghadw mewn byd arall, ac enid ê nid ydynt hwy Gristianogion mewn gwiri∣onedd. Po lleiaf sydd ganthynt, mwyaf sy yn ol; ac y ment hwy yn fodlon i ddis∣gwil hyd y pyd hynny.

Gwrthddadl 12, Darfyddo i chwi ddy∣wedyd cymmaint oll ac a fedroch mae yn symyd i obeithio yn dda ac ymddiried yn Nuw, a gweuthur oreu y gallwyf, ac na chymerwyf mor fath drafferth.

At. Ai gwneuthur oreu y galloch yw, pan na fy imoch ddychwelyd at Dduw, ond bôd eich calon yn ngwrthineb iw sanc∣taidd ai ddyfal wasanaeth ef. Y mae yn ddiau yn oru ar y mynnoch. Eithr hynny yw'ch trueni chwi.

2 Myfi a ddyimunwn, pes gobeithiech ac ymddiried yn Nuw. Eithr am ba beth y gobeithiwch? Ai am fôd yn gadwedic, o chwychwi a drowch a bôd yn sanc∣taid? Am hyn y mae i chwi addewid Duw: ac am hynny gobeithiwch am¦dano, ac nad arbedwch. Eithr os gobeithiwch am fôd yn gadwedic heb Droad a bu∣chedd sanctaidd, nid gobeithio yn Nw

Page 116

yw hyn, ond yn 〈◊〉〈◊〉 ac ynoch eich hu∣nain. Can•••• 〈◊◊〉〈◊◊〉 Duw i chwi ddm or fâth addewyd 〈◊〉〈◊〉 efe a addodd∣odd y gwthwyne 〈◊〉〈◊〉 Satan a Hunan-serch a wnaethant ywch y cy∣fryw addewidion, ac a'ch derchafasant ir cyfryw obeithion.

Iddo yn aw! os y rhai hyn a chyffelyb i rhai hyn yw'r wbl ar a fddwch iw dywe∣dyd yn erbyn ••••oad a ucheddad sanctaidd nid yw eich Cwbl chwi ddim, a gwaeth yw na dim: Ac os gwelir y rhai hyn a chyffel∣yb i rhai hyn yn rhesymmau digonol ich perswadio i ymwrthod a Dduw, ac ich taflu eich hunain i Vffern; yr Arglwydd an gwaredo ni rhag y fath resymmau, a rhag y fâth ddeillion ddealltwriaerhau, a rhag y cyfryw galedion galonnau annheimladwy. A lefeswch chwi sefyll ar yr ûn or Rhe∣symmau hyh wrth frawdle Duw? A ydych chwi yn tybied y gwasanaetha 'r trô i chwi ddywedyd y pryd hynny, Arglwydd ni ddychwelais i, oblegyd bod gennyf cymmaint iw wneuthur yn y byd, neu oblegyd nad oedd bucheddau rhai Crefyddwyr wrth fy modd neu oblegyd fy mod yn gweled dynion o gynnifer o opiniwnau. O hawsed fydd i ddisgleirdeb y dydd hwnnw wrandwyddo a chwilyddio y cyfyw ym∣resymmiadau a'r rhai'n? A ydoedd y byd i chwi i edyrch ar i òl? Bydded ir byd yr hwn a wasanaethasoch dalû i chwi yn awr eich cyflogau, ach gwa∣redu os geill. Onid oedd gennych well byd i edrych am¦dano yn gyntaf? Ac oni orchymynwyd i chwi yn gyntaf

Page 117

geisio teyrnas Dduw ai gyfiawnder ef, ac addaw, y rhoddid yr holl bethau eraill i chwi yn ychwaneg? Mat. 6, 33. Ac oni fynegwyd i chwi fod duwioldeb yn fu∣ddiol i bob peth, a chenddi addewid or bywyd sydd yr awrhon ac or hwn a fydd? 1 Tim. 4.8. Ai pechodau Poffess∣wyr ach rhwystrodd? Chwi a ddylasech yn hytrach fôd yn fwy dichlyn a dy∣scedic wrth eu codymmau hwynt i ymochelyd, a bôd yn fwy gofalus, ac nid yn ddiofalach: Yr scrythyrau ac nid eu bucheddau hwy oedd yn Rheol i chwi. Ai aml opiniawnan y byd a'ch rhwystrodd? Am ba beth? Ni ddyscodd yr yscrythyr yr hon ydoedd eich Rheoloid un ffordd i chwi, a honno oedd yr iawnffordd. Pe dilynasech honno ie yn yr hyn oedd eglur a hawdd ni buasech chwibyth yn pallu. Oni bydd ir cyfryw atebion a rhai'n eich cwilyddio a'ch distewi? Oni wnaiff y rhai hyn, mae gan Dduw y rhai ai gwnâ. Pan ydyw ef yn gofyn ir dyn, Mat. 22.12. y cyfaill pa fodd y daethost i mewn ymma, heb fôdd gennit wilc priodas, hynny yw, pa beth a wnei dy yn fy Eglwys ym∣mlhith Cristianogion wrth eu proffess heb gennit galon a buchedd sanctaidd? Pa atteb a wnaeth efe? Ow, mae 'r text yn dywedyd; yntef a aeth yn fûd; nid oedd gantho ddim iw ddywedyd. Egurdeb y matter a Mawrhydi Duw a gae eneuau y mwyaf ei hyder o¦ho∣noch yn hawdd y pryd hynny, er ni chaiff dim a fedrom ni ei ddy∣wedyd

Page 120

wrthych mor maes arnoch yr awr∣on, ond chwi a wnewch eich matter yn dda, er dihired fyddo. Myfi a wn y baod na wnaiff un rheswm ar fedroch chwi ei roddi yr awron ddim lles i chwi y y ddiwedd, pan fo'n rhaid agoryd eich matter gar bron yr Arglwydd ar ho•••• fyd.

Nagê, prin yr wyfi yn coelio fôd eich cydwybodau ech hunain yn gwbl fodlon ich Rhesymmau. Canys os ydynt, mae yn debygol wrth hynny nad ydych chwi cym∣maint ac ar fedr edifarhau. Eithr os ydych chwi ar fedr edifarhau, mae yn debygol nad ydych yn rhaddi fawr hyder ar eich Rhe∣symmau y rhai a ddygwch chwi yn ei erb∣yn.

Pa beth etto a ddywedwch chwychwi bechaduriaid annychweledic? A oes y un rheswm da gennych iw roddi, paham na Throech, ac na Throach yn ebrwydd a'ch holl galonnau? Yntau myned a wnewch chwi i vffern heb yn waeth i reswm ei hun? Ystiiwch mewn pryd pa beth yr ydych chwi yn ei wneuthur; Canys hi a fydd ar fyder yn rhydw yr i chwi i ystyried. A fedrwch chwi gael bai ar Dduw, nac ar ei weith∣redoedd, na gyflogau? Ydyw efe yn Feistr drwg? Ydyw 'r Cythrul yr hwn yr ydych chwi yn ei wasanaethu yn well? Nen'r cnawd y well? Oes dim Niwaid mewn buchedd s••••ctidd▪ Ydyw buchedd fydol ac annuwiol yn well? Ydych chwi yn tybied yn eich cydwybodau y by∣ddei

Page 121

ddim niwaîd i chwi ddychwelyd a byw buchedd sanctaidd? Pa niwaid a ddichon efe wneuthur i chwi? Ai niwaid i chwi gael Yspryd Crist o'ch mewn? A chael caton lân buredic? Os yw 'n ddrwg bôd yn Sanctaidd, paham y mae Duw yn dywedyd, Byddwch sanctaidd. o¦her∣wydd sanctaidd ydwyf fi, 1 Pet. 1.15. a Luc. 11.44. ar 20.7. Ai drwg yw bod yn debyg i Dduw? Oni ddywedir wneuthur o Dduw ddyn ar ei ddelw ei hun? Och, y Sancteiddrwydd hwn, yw ei ddelw ef: hon a gollod Adda, a hon a fynn ei Grist trwy ei air ai yspryd ei hadferu i chwi, fel y mae yn gwneu∣thur a phawb oll ar a gatwo efe. Pa∣ham y bedyddiwyd chwi ir yspryd glân, a pha¦ham yr ydych chwithau yn be∣dyddio eich plant ir Yspryd glân me∣gis eich Sancteiddydd, oni fynnwch chwi mo'ch sancteiddio ganddo ef, ond tybied mai eiweidiol yw i chwi fod yn sanc∣taidd? Mynegwch i mi am wîr, megis gar bron yr Arglwyd, er bôd yn flîn gen∣nych fyw buchedd sanctaidd, Ond gwell fy∣ddei gennych farw y'nghyflwr y rhai sy yn gwneuthur felly nac eraill? Pettych chwi i farw heddyw, ond well oedd gen∣nych farw y'nghyflwr dyn dychweledic na'r annychweledic? Y dyn sanctaidd a nefol, na'r dyn cnawdol daiariol? Ac oni ddywedech chwi megis Balaam, Num. 23.10. Marw a wnelwyf o farwolaeth yr ûnion a bydded fy niwedd fel yr eiddo y ntef. A phaham na byddwch chwi yr awron o me∣ddwl

Page 122

y byddoch y pryd hynny? Mae 'n rhaid i chwi ddyfodd i hyn, naill ai cynt ai cwe∣di, naill ai i fôd yn ddychweledic, ai i ddymuno 'ch bôd, pan yw hi yn rhy∣wyr.

Eithr pa beth yr ydych chwi yn ofni ei golli os Dychwelwch? Ai eich cyfeillion? Ni wnewch chwi ond eu newid hwynt, Ddw a fydd yn gyfeill i chwi▪ a Christ a'r Yspryd a fydd i chwi yn gyfeill a phob Christion a fydd i chwi yn gyfeill; Chwi a gewch un cyfeill a dalo i chwi fwy na 'r holl gyfeillion yn y byd. Ni wnaethei y cy∣feillion yr ydych chwi yn eu colli ond eich hudo i Vffern, eithr ni allasent hwy moch gwaredu: Eithr y cyfeill yr ydych chwi yn ei gael, a'ch gwareda rhag Vffern ac a'ch dwg iw dragywyddol orphwyfa ei hûn.

Ai ofni colli eich difyrrwch yr ydych? Yr ydych chwi yn tybied na chewch fyth ond hynny ddydd digrif, os Dychwelwch chwi unwaith, Och eich bôd yn tybied mai mwy dyfrrwch yw byw mewn digrifwch a thesach ynfyd, a rhyngu bôdd eich cnawd, na byw mewn myfyrdodau credadwy am y gogoniant, ac yn nghariad Duw, ac yn nghyfiawnder a thangnheddyf a lla∣wenydd yr Yspryd glân, yn yr hyn y mae cyflwr grâs yn sefyll, Rhuf. 14.17. Os ydyw yn fwy dyfrrwch gennych chwi fe∣ddwl am eich tiroedd ac treftadaeth (pe∣byddech chwi Arglwyddi ar yr holl wlâd) na bod yn blentyn i chwarau am binnau. paham na byddai yn fwy llawenydd;

Page 123

chwi feddwl am deyrnas nefoedd yn ei∣ddoch, nac am holl olud a dyfyrrwch y byd? Megis nad oes ond ynfydrwydd babanaid yn peri i blant ymhoffi felly mewn teganau, nad ymadawent a hwynt er eich holl diroedd: felly nid oes ond ynfydrwydd bydol cnawdol ac annuwiol yn peri i chwithau ymhoffi cymmaint yn eich teiau, a'ch tiroedd a'ch bwyd a'ch diod a'ch esmwythder a'ch parch, nad ymadawech chwi a hwynt er mwyn nefol ddyfyrrwch. Eithr pa beth a wnewch chwi am ddyfyrrwch pan ddarffo am hwn? A ydych chwi yn meddwl am hynny? Pan fyddo eic'h dyfyrrwch yn diweddu mewn gerwinder, ac yn diffoddyd gydac angerdd drewllyd, y mae difyrrwch y saint ar y goreu. Ni chefais i fy hûn ond ychydic brawf or hyfrydwch nefol yn y rhag-fyfyrdodau am y dydd bendi∣gedic sydd i ddyfod, ac yn yr annogaeth∣au presennol o gariad Duw yn Nghrist; Eithr myfi a lennueittiais ormod ar hyfrydwch daiarol (fel y gellwch we∣led, os wyf fi bartiol, mai ar eich ty chwi y mae:) ac etto mae 'n rhaid i mi addef trwy 'r ychydic brawf hwn∣nw, nad ydynt hwy iw cyfflybu: Mae ychwaneg o lawenydd iw gael mewn un diwrnod (os bydd haul y bywyd yn tywynnu arnom yn olau) yn y∣stât Sancteiddrwydd, nac mewn oes gyfan o ddyfyrrwch pechadurus. Dew∣iswn gadw drws yn nhy fy Nuw, o flaen trigo ym-mhebyll annw∣ioldeb,

Page 124

Psal. 84.10. Gwell yw diwnod yn dy gynteddau na mîl mewn un man arall, Psal. 84.10. digrifwch yr annuwiol sydd debyg i chwerthiniad dyn ffôl, yr hwn nid edwyn moi drueni ei hun. Ac Am hynny medd Solomon am y cyfryw chwerthiniad, ynfyd yw; ac am lawen∣ydd, pa beth a wnâ, Eccl. 2.2. ac Eccl. 7.2, 3, 4, 5, 6. Gwell yw myned i dy galar na myned i dy gwlêdd, canys hynny yw diwedd pob dyn, ar byw ai gesyd at ei galon gwell yw tristwch na chwer∣thin: Canys trwy dristwch yr wyneb∣pryd y gwell-heir y galon. Calon doe∣thion fydd yn nhy y galar: ond calon ffyliaid yn nhy llawenydd. gwell yn gwrando sen y doeth, na gwrando cân ffyliaid. Canys chwerthiniad dyn ynfyd sydd fel clindarddach drain tan gro∣chan. Nid yw holl feluswedd pethau cnawd∣ol, ond megis coffa dyn y bo mewin gôs arno; Ei glefyd sydd yn peri iddo ei chwennych: A gwell oedd gan wr do∣eth fod heb ei bleser, na chael i flino gan ei ferwingôs. Nid ydyw eich crech∣wen uchaf ond megis yr hon sydd gan ddyn a ogleisier; mae efe yn chwerth∣in pryd nad oes iddo achos o ddim lla∣wenydd. A doethach yw i ddyn roddi ei holl gyfoeth ai fywioliaeth am i oglei∣sio i beri iddo chwerthin. nac yw i chwi ymadel a chariad Duw, ac a chysur au Sanct∣eiddrwydd, ac ar gobaith or nefoedd, ach bww eich hunain i ddamnedigaeth, fel y galloch gael gogleisio eich cnawd a dyfyrr∣wch

Page 125

pechod tros ennyd fechan. Bernwch fel yr ydych chwi yn ddynion, a ydyw hyn yn rhan gwr doeth. Nid oes ond eich na∣turiaeth gnawdol halogedic yn peri i suched sanctaid ymddangos i chwi yn echrysfln, ac i gwrs o feluswedd bydol ymddangos mor hyfryd: Os chwi a ddychwelewch, fe ddyru yr Yspryd glan i chwi Naturiaeh a Thueddfryd arall. Ac yno y bydd yn hyfrydach gennych gael ymwared oddiwth eich pechod, nac yw yn awr gennych ei ga∣dw ef; Ac yno chwi a ddywedwch, na wybúoch chwi er¦i+oed pa beth oedd fywyd comffoddus hyd yn hyn, ac na bu er¦i+oed yn dda arnoch, nes i chwi hoffi Dawa Sanct∣eiddwydd.

Cwest. EIthr pa fôdd y digwydd bôd dy∣nion mor anrhesymmol ym mat∣terion eu hiechydwriaeth; mae ganthynt ddigon o synwyr mewn matterion eraill? Pa beth a bair iddynt fôd mor wrthnyfic i ddychwelyd fel y byddai raid wrth gynnifer o eiriau mewn matter mor eglur, ac na thyccia 'r cwbl, eithr y rhan fwyaf a fyddant byw a meirw heb ddychwelyd?

Page 126

Atteb Iw henwi hwynt yn vnig arfyrr eiriau, yr achosion yw y rhai hyn.

Mae dynion wrth naturiaeth yn Caru y ddaiar a'r cnawd Hwy a anwyd yn becha∣duriaid, ac y mae galanasdra rhwng eu naturiaeth hwynt â Duw ac â Duwiol∣deb, fel y mae rhwng naturiaeth y sarph a dyn; â phan yw 'r cwbl a fedrom ni i ddywedyd yn myned y'ngwrthwyneb i reddfol ogwyddiad eu naturiaeth hwynt, nid rhyfedd nâ thyccio chwaith nemm∣awr.

2 Maent mewn Tywyllwch, ac ni wy∣ddant cymmaint ar pethau y maent yn eu clywed. Tebyg i ddyn a anwyd yn ddall, ac sydd yn chywed mowrglod ir go∣leuni. Eithr pa beth a dâl clywed, o∣ddieithr iddo ei weled ef: Ni wyddant hwy pa beth yw Duw, na pha beth yw grym croes Crist, na pha beth yw yspryd sancteiddrwydd, na pha beth yw byw mewn Cariad trwy ffyd; Nid ydynt hwy gydnabyddus â siccrwydd ac a chymmhwysdra ac ardderchowgrwydd yr etifeddiaeth nefol. Ni wyddant hwy pa beth yw Troedigaeth, a bwriad ac Ymarweddiad sanctaidd, nâ wyddant pan y clywant sôn am¦dano. Maent mewn miolen o anwybodaeth. Maent yn gyfr∣golledic a chwedi ymddyrysu mewn pe∣chod: cyffelyb i ddyn a, fyddei gwedi my∣ned ar ddisberod liw nôs, ac nis gwyr pa le y mae, na pha fôdd i ddyfodd eilwaith atto ei hûn, nes i liw-dydd ei adgyweirio ef.

Page 127

3 Maent hwy yn hyderus anhybwyll nad rhaid iddynt wrth Droedigaeth, ond rhyw ddarn-wellháad, eithr eu bod hwi eusys ar y ffordd ir nefoedd, ai bod wedi dychwelyd pan nad ydynt. Ac os cyfarfyddwch a gwr ar sy ymmhell allan or ffordd, chwi a ellwch alw arno ef yn ddigon i hyd i ddychwelyd yn i ôl, os efe ni choelia moi fòd allan oi ffordd.

4 Maent wedi myned yn gaethweision iw cnawd, a chwedi boddi yn y byd i rag∣ddarparu trosto. Ei trythyllwch ai gwyn∣niau ai chwantau ai golffwyllodd, ac a gow∣sant y maes felly arnynt, nas medront ddy∣wedyd pa fôdd y nacâant hwy, na pha fôdd y meddyliant am ddim arall. Yn gymmaint a bôd y Meddwyn yn dywedyd, Caru yr wyf fi gwppanaid o ddiod ddâ, ac ni fedrai moi maddeu. Med y Glwth, da gennyf sir dda ac ni fedrai moi faddeu. Medd y Putteini∣wr, da gennyf fi gael cyflowni fy 'nrha∣chwant, ac ni fedrai mor peidio. Gwych gan y Chwareydd gael ei chwareyddiaeth, ac ni fedr ef mor peidio. Hyd onid ydynt wedi myned yn llwyr-gaethweision iw cnawd, Ai gwyllt-wrth-naws a brifiodd yn wen∣did. Ar hyn nis mynnant moi wneu∣thur, hwy a ddywedant nas gallant; Ar dyn bydol sydd wedi ymosod cym∣maint ar bethau daiarol, nad oes gan∣tho na chalon na meddwl nac ennyd ir pethau nefol. Eithr megis ym mreu∣ddwydd Pharao, Gen. 41.4. y gwar∣theg culion [a fwytasant y rhai brei∣sion; felly y ddaiar gûl anffrwythlon

Page 128

hon sy'n bwyta yr holl feddyliau am y ne∣foedd.

5 Mae rhai gwedi eu hysgubo ymmaith gyda ffrwd drwg gymdeithas, hyd onid y dynt wedi eu perchennogi a meddyliau ca∣ledion am fuchedd sanctaidd, wrth eu clyw∣ed yn siariad yn ei herbyn; neu, or hyn lleiaf y maent yn tybied y gallant anturio gwneuthur megis y maent yn gweled y than fwyaf yn gwneuthur: Ac felly yr ânt rhagddynt; yn eu ffyrdd pechadu∣ru; A phan dorrer ûn ymaith ai daflu i vffern, a chipio ûn arall allan oi plith hwynt ir unhyw ddamnedigaeth, nid yw yn mannû chwith gormd a∣nynt, oblegyd nad ydynt yn gweled i ba le yr aethant: Duein gwerin, y maent hwy yn myned rhgddynt yn eu hannuwioldeb er hyn i gyd; Ca∣nys bychan y gwyddant fod eu cym∣deithion yn galaru or plegyd mewn penydiau. Yn Luc. 16. Y gwr goludog a fynnasei i un rybuddio ei bum bro∣dur rhag iddynt ddyfod ir lle poenus hwnnw. Mae yn debygol yr adwaenei∣ef eu meddyliau au bucheddau hwynt, ac y gwyddai eu bôd hwynt yn prysuro yno, ac heb freuddwydio chwaith nemmawr oi fod ef yno, ac n roesent fawr goel ar y neb a fynegasei iddynt hyn∣ny. Yr wyfi yn cofio chwedl a fyne∣gwyd i mi gan wr bonheddic ar sydd etto yn fyw yr hyn a welsai efe ar bont ar Hafren; Gwr oedd yn gyrru

Page 129

diadell o wyn brei∣sion,* 1.1 a rhyw beth yn cyfarfod a hwynt ac yn eu rhwystro i fyned yn eu blaen, un or wyn a neidi∣odd ar ganllaw 'r bont, ai draed a lithrodd oddi ano, ac yntau a syrthiodd ir frwd; Y lleill wrth i ganfod ef a neidiasant y naill ar ol y llall tros y bont ir ffrwdd, ac hwy a foddwyd oll; neu oll gan y mwyaf. Bychan y gwyddei y. rhai oedd or ôl beth a ddae∣thei o'r rhai â aethent or blaen, eith a dybiasent y gallasent anturio dilyn eu cymdeithion: Ond hwy 'n gynta ac yr aethant tros y ganllaw, ai bôd yn pentwyno i lawr bendramwnwgl, yr oedd y matter wedi ei gyfnewid: felly yr un∣iawn y mae gydâ dynion cnawdol ann∣ychweledic. Mae un yn marw yn eu hy∣myl hwynt ac yn diferu i Vffern, ac un arall yn canlyn at hyd yr unffrdd; ac er hynny hwy a ânt ar eu hôl, oble∣gyd nad ydynt yn ystyried i bâ le yr aethant. Ah! eithr pan ago o mr∣wolaeth eu llygaid, a chanfod o¦ho∣nynt pa beth sydd or u aral ir ganllaw, sef mewn byd arall, yna pa beth a roddent am fod lle 'i buou!

6. Am benn hyn, mae ganhynt elyn cyfrwys ysrywgu, yr hwn nis gwelant, ac sydd yn gosod ei chwaryddiaeth ar lawr yn y tywyll; ai brif orchwyl yw rhwystro eu dychweliad, ac am hyny

Page 130

eu cadw lle y maent, trwy eu perswa∣dio i fod heb gredu yr yscrythyrau, ac heb flino eu meddyliau â'r pethau hyn, neu trwy eu perswadio i feddwl yn ddrwg o fuchedd dduwiol, neu i dybied ei fôd yn fwy ymmerreth nac â oedd raid, ac y gallant fod yn gadwedic heb ddychwelyd, ac heb yr holl drafferth hon; a bôd Duw mor drugarog na ddamnia efe neb oi cy∣ffelyb hwynt, neu or hyn lleiaf y gallant hwy aros ychydic hwy, a chymeryd eu dy∣fyrrwch a dilyn y byd etto ychydic hwy, ac yno ymado ac ef, ac edifarhau ar ôl hynny: A thrwy y cyfryw dwyllgar hoc∣cedion hudolaidd ar rhai'n y mae y Cyth∣rael yn cadw y rhan fwyaf tan ei gaethiwed, ac yn ei harwain iw dru∣eni.

Y rhwystrau hyn a chyffelyb ir rhai hyn sy 'yn cadw cynnifer o filoedd heb ddychwelyd, gwedi i Dduw wneuthur cymmaint, ac i Grist ddioddef cymmaint ac i weinidogion ddywedyd cymmaint er mwyn iddynt ddychwelyd: gwedi goste∣gi eu rhesymmau, a nhwythau heb allu at∣reb ir Arglwydd yr hwn sy yn galw ar eu hôl [Dychwelwch, dychwelwch, paham y bydd∣wch feirw?] etto nid yw'r cwbi ddim gydâ 'rhan fwyaf o¦honynt. ac ni adawant hwy ddimm ychwaneg i ni iw wneuthur, darfyddo y cwbl, ond eistedd i lawr a ga∣laru oblegyd eu gorphwyllog drueni.

Page 131

MYfi a ddangosais weithian i chwi mor rhesymmol yw Eirchion Duw, ac mor anrhesymmol yw i ddynîon annuwiol anû∣fyddhau oni wasanaetha dim mor trô, ond bod dynion er hyn yn gwrthod Troi: yn y man nesaf mae i ni iw ystyried, o ran pwy y mae os hwy a ddemnir. A hyn sydd yn fy arwain at yr athrawieth olaf, yr hon yw.

Athr. 7. ONi ddychwel dynion wedi hyn oll, nid o ran Duw y maent yn ddamnedic ond oi rhan eu hu∣nain, sef oblegyd eu gorphwyll-naws eu hunain: meirw y maent oblegyd hwy a fyn∣nant feirw hynny yw blegyd na fynnant ddych∣welyd.

Os mynnwch chwi fyned i Vffern pa help sydd. Mae Duw yn hyn o fan yn ei glirio ei hûn oddiwrth eich gwaed, ni chaiff ef sefyll arno efe, os byddwch chwi golledic. Gweinidog escculus a eill i dyn∣ny ef arno ei hun, Ar sawl ydynt yn eich cefnogi mewn pechod, neu heb eich rhwy∣stro, a allant ei dynny ef arnynt hwythau; Eithr bydded siccr gennych, nâ chaif ef

Page 132

sefyll ar Dduw: Yr Arglwydd a ddywâid am ei Wînllan anfuddiol, Esay. 5.1, 2, 3, 4. Bernwch attolwg rhyngofi a'm gwin∣llan: beth oedd iw wneuthur ychwaneg im gwinllan, nac a wneuthum ynddi? Gwe∣di iddo ei phlannu mewn bryn tra ffrwyth∣lon, ai chloddio, ai digarregi ai phlannu or winwydden oreu: Beth ychwaneg a wnae efe iddi? Efe a'ch gwnaeth yn ddy∣nion, ac ach cynnyscaeddodd a rheswm. Efe ach cyflownodd a phob angenrheidiau oddiallan; Mae yr holl greaduriaid i wneu∣thur i chwi wasanaeth. Efe a roddes i chwi ddeddf berphaith gyfiawn; Pan dorrasech hi, a'ch a¦nafu eich hunain, efe a dosturiodd wrthych, ac a anfonodd ei fab trwy ryfeddfawr drugaredd yn ymostwng i farw trosoch, ac i fod yn aberth tros eich pechodau, ac yr ydoedd ef yn Ghrist yo cymmodi 'r byd ac ef ei hun: Yr Arglwdd Jesu a wnaeth i chwi weithred o râd roddiad o¦hono ei hun, ac o fywyd tragywyddol gydag ef ei hun, tan ammod i chwi cymmaint ai derbyn a dychwelyd. Ar yr ammod rhesymmol yma y cynygiodd ef i chwi hyrâd faddeuant o'ch holl bechodau: Efe a scrifennodd hyn yn ei ar, ac a'i seliodd trwy ei yspryd ac ai hebryngodd i chwi twy ei weinidogion; Hwy ai cynnyg∣asant i chwi gant a chant o weithiau, ac ach galwasant iw dderbyn ac i Droi at Dduw. Yn ei enw ef yr ymbiliasant arnoch, ac yr ymesymmasant a chwi yn nghylch y peth, ac yr atteba∣fant

Page 133

i'ch holl wrthddadleuon coegion. Efe a hîr ddisgwiliodd wrthych, ac â arhosodd wrth eich trwynau, ac a oddefodd i chwi ei amherchi yn ei wyneb. Efe a'ch cynhaliodd yn drugarog yn nghanolion eich pechod; efe a'ch amgylchynodd a phôb mâ h ar drugareddau: Efe hefyd a gydtymmerodd gysiuddiau i ddwyn ar gôf i chwi eich ffoledd ac ich galw ich côf: Ai Yspr yd ef a fu yn fynych yn ymryson a'ch calonn∣an, ad yno yn dywedyd, [Dychwel bechadur, Dychwel at yr hwn sy 'yn galw arnat, i ba le yr wyt ti yn myned? Beth yr wyt yn ei wneuthur? A wyddost di beth a fydd y diwedd? Pa hyd y casei di dy garedigion ac y ceri dy gaseion? Pa bryd y gollyngi bob peth ymaith a throi, ath roddi dy hun i Dduw, a Chyflwyno dy enaid ym meddi∣ant dy Bynwr? Pa bryd bellach? fal hyn yr arferwyd ymddadlau a thydi. A phan oedaist, fe ddiriwyd arnat i brysuro, a Duw ath alwod, [Heddyw, trâ gelwir hi heddyw, na chaleda dy galon; pa¦ham nad yn awr heb oedi ym¦mhellach?] Go∣sodwyd einioes gar eich bronnau i llawenyd, nef a ddatcuddwyd i chwi yn yr Efen∣gyl. Y siccrwydd o¦honynt a eglur∣wydd: Y siccwydd o boenau tra∣gywiddol y hai damnedic a fynegwyd i chwi: Oni fynnech chwi gael golwg ar y nefoedd ac uffern, pa beth yn ychwaneg a ddymunech? Crist a osodwyd garbron eich llygaid megis wedi ei groeshoelio, Gal. 3.1. Mynegwyd i chwi ganwaith nad ydych ond dynion

Page 134

colledic nes ych dyfod i mewn atto ef Cyn fynyched a hynny y mynegwyd i chwi am ddrwg y pechod, am wagedd y byd ar holl feluswedd ar golud a ddi∣chon ef i gyfrannu: am fyrdra ac an∣siccrwydd eich einioes; a didrangc ba∣rhâd llawenydd neu benyd y bywyd a ddaw. Hyn oll, ac ychwaneg na hyn a fynegwyd i chwi, ac a fynegwyd dra∣chefn, ie nes i chwi flino yn ei glyw∣ed, ac nes medru o¦honooh wneuthur llai cyfrif o¦hono, o¦herwydd i chwi ei glywed ef cyn fynyched. Tebyg, i gi 'r Gôf, yr hwn a ddygwyd wrth ymg'nefindra i gysgu tàn swn y mor∣thwylion, ar pryd y bo'r gwreichion yn taflu o amgylch ei glustiau; Ac er na ddarfu i hyn oll moch troi, yr ydych chwi etto yn fyw, ac a allasech gael trugaredd hyd y dydd heddyw, ped fasai gennych galonnau iw derb∣yn. Ac yn awr gedwch i Reswm ei hun fôd yn farnwr, ai o ran Duw yntau o'ch rhan eich hunain y mae, os byddwch chwi gwedi hyn ei gyd yn an∣nychweledic a damnedic! Os byddwch feirw yn awr, hynny sydd oblegyd chwi a fynnwch feirw. Beth a ddylesid ei ddywedyd wrthych yn ychwaneg, ne pa gwrs a ddylesid ei gymeryd, ar a fuasei tebyccach i diccio? A ellwch chwi ddywedyd, ai wneuthur yn dda, Ni a fynnasem fod wedi dy∣chwelyd a myned yn greaduriaid new{y}ddion, eithr nis gallem; Ni a

Page 135

fynnasem ymwrthod an pechodau, eithr nis gallem, nyni a fynnasem newid ein cymdeithas, an hamcanion, a'n hamdaiddanion, ond nis gallem? Pa¦ham nas gallesech pes mynnasech? Beth a'ch rhwystrodd oddieithr drygioni eich calonnau? Pwy a'ch gyrrodd i bechu? Neu pwy a'ch cadwodd rhag gwneuthur eich dyledswydd. Oni chow∣soch chwi yr unrhyw addysc, ac adeg a rhydd did i fod yn dduwiol ac a gafodd eich cymydogion duwiol? Pa¦ham gan hynny nas gallasech chwi fod yn dduwiol cystal a hwythau? A yd∣oedd drws yr Eglwys yn gaead ich erbyn chwi? Yntau eich cadw eich hu∣nain allan a wnaethoch? Yntau eistedd a chyscu, neu wrando megis pe na wrandowsech? A roddes Duw ddim llysiant i mewn yn ei air i'ch erb∣yn, pan wahoddodd efe bechaduriaid i ddychwelyd, a phan addawodd efe drugaredd ir sawl a ddychwelent? A ddywedodd ef, [Myfi a faddeuaf i bawb a edifarâo onid i ti?] A gae∣odd ef chwi allan oddiwrth rydd∣fraint ei addoliad sanctaidd? A wa∣harddodd ef i chwi weddio arno ef mwy nac i eraill? Chwi â wyddoch nad dô. Ni yrrodd Duw chwi y∣maith oddiwrtho, eithr Chwychwi ai gwrthodasoch ef ac â redasoch ym∣aith eich hunain. A phan ich galwodd atto, ni fynnech mor dywad. Pe bua∣sei Dduw yn eich cwlio chwi allan

Page 136

or addewid, a'r cynnyg cyffredinol o dru∣garedd, neu yn Dywedyd wrthych, [se∣fuch draw, ni bydd i mi a wnelwyf a neb o'ch cyffelyb: na weddiwch arnaf, canys ni wrandawai mhonoch: er maint d edifar∣haoch, ac er manit â lefoch am drugaredd ni ofalafi am¦danoch:] Pe gadowsei Dduw chwi heb ddim i ymddried ynddo ond mewn anobaith, yno y b'asei gennych escus têg. Chwi â allasech ddywedyd [I ba berwyl yr edifarhawa ac y dychwelwn, gau na bydd hynny er daioni?] Eithr nid hwn oedd eich cyflwr chwi; Chwychwi a allasech gael Crist yn Arglwydd ac Ja∣chawdwr i chwi, yn benn ac yn briod i chwi cystal ac eraill, ac nis mynnech; ob∣legyd nad oeddech yn ymglywed yn ddi∣gon cleifion ir Physygur, ac o¦herwydd nas gallech chwi hepcor mo'ch clwyf: Yn eich calonnau chwi a ddywedasoch me∣gis y gwrthryfelwyr hynny, Luke 19.14. Ni fynnwn ni mo hwn i deyrnasu arnom. Crist a fnnasei eich casclu tan adenydd ei iechyd¦wriaeth, ac nis mynnech, Mat. 23.37. Pa ddymuniadau och hawddfyd a adroddodd yr Arglwydd yn ei sanctidd air? A pha dosturi y sa∣fod efe gerllaw i chwi gan ddywedyd [Oh na wrandrowsei fy mhobl arnaf, na rodiasai Israel yn fy ffyrdd, Psal. 81.13. Oh na byddei gyfryw galon ynddynt im hofni i, ac i gadw fy holl orchymynion, bob amser, fel y byddei dâ iddynt ac iw plant yn dragywyddol! Deut. 5.29. Oh na∣baent doethion, na ddeallent hyn, nad

Page 137

••••••yient eu diwedd! Deut. 32.29. Efe a f'asai yn Dduw i chwi, ac a wnae∣thai drosoch bob dim ar â allassei eich eneidiau ei iawn ddymuno. Ond chwi a garasoch y byd a'ch cnawd uwch ei law ef, ac am hynny ni wrandawech ar∣no: Er i chwi wneutheur peth ••••apri ac ef, a rhoddi iddo enwau parchedic, etto pan ddaeth y peth ir eithaf, ni fyn∣nech mhono, Psal. 81.11, 12. Nid thyfedd gan hyn y oed iddo ych gollwng ynghyndynrwydd eich calon, a'ch myned yn eich cyngor eich hunain] Efe a ymo∣styngodd i ymresymmu a chwi, ac i ofyn i chwi. [Beth sydd ynof, neu yn fy 'nwasa∣nath fel y byddech cymmaint im herbyn! Pa niweid a wneuthum iti a bechadur? A baeddais i yr anghymwynas hwn ar dy law? Llawer o drugareddau a ddango∣sais yt, am ba un o¦honynt, yr wyt ti fal hyn im di mygu? Ai myfi, ai Satan yw dy elyn? Ai myfi, yntau dy hunan cnawdol a fynnai dy anafu? Ai buchedd sanctaidd, yntau buchedd bechadurus y mae i ti achos i ffoi rhagddo? Os derfydd am¦danat, yr wyt ti yn ma∣gu hyn i ti dy hun trwy fy ngwrthod i yr Arglwydd a fynnaswn dy ware∣du. Jer. 2.17. Onid yw dy ddrygioni dy hun yn dy gospi, ath bechod yn dy ge∣ryddu, fel y gellych weled mai drwg a chwerw ydyw i ti fy ngwrthod? Jer. 2.19.

Page 138

Pa anwiredd a gowsoch chwi ynofi gan i chwi ymbellau oddiwrthyf a rhodio ar ôl oferedd a myned yn ofer? Jer. 2.4, 5. Mae efe yn llefain allan fel ped fae ar y creaduriaid mud∣ion i wrando ar y cwyn sydd gantho yn eich erbyn, Mic. 6.2, 3, 4, 5. Gwrandewch y mynyddoedd a chedyrn sylfeini y daiar, gwyn yr Arglwydd, ca∣nys y mae cwyn rhwng yr Arglwydd ai bobl, ac 'efe a ymddadleu ag Israel, sy mhobl, beth a wneuthum i ti? ac ym∣mhâ beth ith flinais? tystiolaetha i'm herbyn: canys mi âth ddygais o dîr yr Aipht, ac th ryddheais &c. Gwrande∣wch nefoedd, clyw ditheu ddaiar Canys yr Arglwydd a lefarodd: megus 〈◊〉〈◊〉 a meithrinais feibion, a hwy a wrthryfe∣lasant im herbyn. Yr ych a edwyn ei feddiannydd, ar aslyn breseb ei ber∣chennog: ond Israel nid edwyn fy mhobl ni ddeall. Oh genhedlaeth be∣chadurus, pobl lwythoc o anwiredd, hâd y rhai drygionus, &c. Esay. 1.2, 3, 4. Ai hyn a delwch i'r Arglwydd, bobl ynfyd ac angall? ond efe yw dy dâd, âth bryn wr? ond efe a'th wnaeth ac â'th siccrbaodd? Deut. 32.6.] Pan gan∣fu ef eich bod chwi yn ei wrthod ef am i ham, ac yn troi ymaith oddiwrth eich Arglwydd ac bywyd, i ymymlid ar ôl ûs a man blu y byd, efe â fynegodd i chwi eich ffoledd, ac âch galwodd i orchwyl-waith mwy buddiol, Esay. 55.1, 2, 3, 6, 7. Pa¦ham y gweriwch arian

Page 139

am yr hyn nid ydyw fara, ach llafur m yr hyn nid yw yn digoni? gan wran∣do gwrandewch arnafi, a bwytewch yr hyn sydd dda, ac ymhyfryded eich e∣naid mewn brasder. Gogwyddwch eich clust, a deuwch attaf; gwrandewch, a bydd byw eich enaid; ac mi a wnâf gyfammod tragywyddol a chwi, sef siccr drugareddau Dafydd. Ceisiwch yr Arglwydd tra galler ei gael ef, gelwch arno, tra fyddo yn agos gadawed y dry∣gionus ei ffordd, a'r gwr anwir ei fe∣ddyliau, a dychweled at yr Arglwydd, ac efe a gymmer drugaredd arno; ac at ein Duw ni; o¦herwydd efe â arbed yn helaeth.] Ac felly Esay. 1.16, 17, 18. A phan na wrandawech, pa achwynion y goso∣dasoch ef arnynt, gan hauru y peth arnoch chwi, mai eich gwrthnyfigrwydd a'ch pen∣dewrwydd ydoedd, Jer 2, 12, 13. O chwi nefoedd synnwch wrth hyn. ac ofnwch yn aruthrol. Canys dau ddrwg a wnaeth fy mhobl, hwy am gadawsant i ffynnon y dyfroed byw ac a gloddiasant iddynt eu hunain bydew∣au, iê pydewau wedi eu torri, ni ddaliant ddwfr,] Llawer gwaith y cyhoeddodd Crist i chwi y rhâd wahoddiad hwnnw, Dat. 22.17. Yr hwn sydd a syched arno, deued, a'r hwn sydd yn ewyllysio, cymmered ddwfr y bywyd yn rhad.] Eithr chwi a berwch iddo ef gwyno yn ôl yr holl gynnygion hyn [Ni ddeuant attafi, fel y caffont fywyd, Jo. 5.40.] Efe a'ch gwahoddodd i wledda gydag ef yn nheyr∣nas ei râs, a chwithau oeddych a'ch escu∣sodion

Page 140

gennych oddiwrth eich tiroedd a 'ch anfeiliaid, ach gorchwylion bydol, a phan na fynnech ddyfod, dywedasoch nas gallech: ac ai hannogasoch yntau î roddi ei fryd na chaech chwi byth brofi oi swpper ef, Luc. 14.15. hyd 25. Ac o¦her∣wydd pwy yn awr y mae'r peth ond och herwydd chwi eich hunain? A pheth a fedrwch chwi ddywedyd yw 'r achos pen∣naf o'ch damnedigaeth ond eich ewyll∣ys fryd eich hunain? Yr holl fatter a eglurwyd gan Grist ei hun. Dih. 1.20. hyd y diwedd, [Doethineb syd yn gweiddi oddi allan; y mae hi yn ad∣drodd ei lleferydd yn yr heolydd. Y mae hi yn llefain ym mhrifleoedd y dyrfa, yn nrysau y pyrth, — Pa hyd, chwi ynfydion, y cerwch, ynfydrwydd? a chwi watwarwyr, y bydd hôff gen∣nych watwar? ac y casâ ffyliaid wy∣bodaeth? Dychwelwch wrth fy ngher∣ydd: wele mi a dywall'taf fy yspryd i chwi, fy ngeiriau a yspysaf i chwi. Yn gymmaint ac i mi eich gwahodd, ac i chwithau wrthod, i mi estyn fy llaw, a neb heb ystyried: ond diystyrasoch fy holl gyngor i, ac ni fynnech ddim em ce∣rydd: minnau hefyd a chwarddaf yn eich diâledd chwi, mi a wawdiaf pan syrthio arnoch yr hyn yr ydych yn ei ofni. Pan ddel ar∣noch yr hyn yr ydych yn ei ofni, megis de∣stryw, ac y del eich dialedd arnoch megis cor-wynt, a dyfôd arnoch wascfa a chaledi: {y}na y galwan arnaf, ond ni wrandawaf: yn foreu im ceisiant, ond nim cânt. Canys câs fu

Page 141

ganthynt wybodaeth, ac ofn yr Arglwydd ni ddewisasant. Ni chymmerent ddim o'm cy∣ngor i, dirmygasant fy holl gerydd. Am hynny hwy a gânt fwytta ffrwyth eu ffyrydd eu hunain, ai llenwi ai cynghorion eu hunain Canys esmwythdra y rhai angall ai llâdd, ä llwyddiant y rhai ffôl a'i dtfetha. Ee hynny y sawl a wrandawo ar∣nafi, a gaiff aros {y}n ddiogel, ac a gaiff heddwch oddi wrth ofn drwg.] Myfi a dybiais yn oreu adrodd i chwi yr holl destyn yn helaeth, am iddo fôd mor gy∣flawn yn dangos yr achos o dinistr yr Annuwiol. Nid yw 'r peth o¦herwydd na ddyscai Duw hwynt, ond o¦herwydd na fynnent hwy moi dyscu. Nid yw 'r peth o¦herwydd nas galwai Duw hwynt ond o¦herwydd na ddychwelent hwy wrth ei gerydd ef. Eu gwrthnysigrwydd sydd yn eu difetha.

Defnydd.

ODdiwrth yr hyn a ddywedpwyd chw i â ellwch ddyscu ym¦mhellach y pethau hyn sy 'yn canlyn.

Page 142

1. Oddi yma y gellwch weled, nid pa ga∣bledd ac annuwioldeb yw bwrw 'r bai o ddinistr dynion a'r Dduw, ond hefyd mor anaddas yw ir gweision diffaith roddi y fâth beth yn erbyn eu gwneuthurwr; Maent yn croch lefain ar Dduw, ac yn dywedyd, nad yw efe yn rhoddi gràs iddynt. a bôd ei fygythion yn dôst, ac na atto Duw bôd pawb yn ddamnedic ar ni throesant ac na sancteiddiwyd? Ac hwy a dybiant mai mesur caled yw cael o fyrr bechod ddi∣drangc ddiodefaint; Ac os denmir hwynt (meddant) ni allant wrtho: trâ bônt yn y cyfamser yn brysur ynghylch eu di∣nistr eu hunain, sef yn torfynyglu eu heneidiau eu hunain, ac ni fynnant moi perswadio i attal eu dwylaw. Tybîed y maent y byddei Dduw yn greulon pet∣tau ef yn eu damnio hwynt: ac etto maent mor greulon wrthynt eu hunain ac y rhe∣dant i dân Vffern, a Duw wedi mynegi iddynt ei fod ef ychydic oi blaen hw∣ynt, ac ni lettyl ymbiliau mhonynt, na bygythion chwaith na dim ar a aller ei ddywedyd. Nyni ai gwelwn hwynt agos wedi darfod am¦danynt: Mae eu bucheddau diofal, bydol cnawdol yn minegi i ni eu bod hwynt tan allu y Cythrael: Nyni â wyddom os meirw â wnant cyn iddynt ddychwelyd, na ddichon yr holl fyd moi hachub: a chan wybod an∣siccrwydd eu heinioes, yr ydym ni beunydd yn ofni rhag iddynt ddiferu ir tân: ac am hynny yr ydym ni yn dymûno arnynt dostu∣rio wrth eu heneidiau eu hunain ag na ddi∣nistriont

Page 143

mhonynt eu hunain tra bo truga∣redd yn agos; a nhwythau ni wrandawant mhonom: Yr ydym ni yn dymuno arnynt daflu ymaith eu pechod. a dywad at Grist yn ddiymdro, a dangos ychydic drugaredd idd∣ynt eu hunain; eithr ni ddangosant ronyn: Ac etto hwy a dybiant mai rhaid i Dduw fôd yn greulon os condemnai efe hwynt. Oh bechaduriaid trueni gorphwyllog! Nid Duw sydd greulon wrthych; Chwchwi ydych greulon wrthych eich hunain; My∣negwyd i chwi mai rhaid i chwi Droi neu Losci, ac er hynny ni Throw'ch. Mynegw∣yd i chwi os mynnwch chwi gadw eich pe∣chodau y cewch gadw melltith Dduw gyda hwynt; ac er hynny chwi ai cedwch. My∣negwyd i chwi, nad oes un ffordd i Hap∣pusrwydd ond trwy Sancteiddrwydd; ac er hyn ni fynnwch fod yn Sanctaidd. Beth ychwaneg a fynnech chwi i Dduw ddywe∣dyd wrthych? Beth a fynnech chwi iddo wneuthur ai drugaredd? Mae ef yn ei chynnyg i chwi ac ni fynnwch mhoni. Yr ydych chwi y ngheuffos pechod a thrueni yntau a estynnau ei law ich cynnorthwyo allan, a chwithau a wrthodwch ei gym∣morth. Efe a fynnei eich glanhau oddi∣wrth eich pechod, a gwell gennych chwi∣thau ei cadw hwynt. Caru yr ydych eich trythyllwch, a charu eich glothineb, ach chwareyddiaeth ach meddwdod, ac ni hep∣corwch hwynt. A fynnech chwi iddo ef eich dwyn ir nefoedd heb yn waethaf i chwi? Neu a fynnech chwi iddo ef eich dwyn chwi a'ch pechodau hefyd ir nefoedd?

Page 144

Och fi! mae hynny yn amhosibl; Chwi a ellwch mor hyddaf ddisgwil iddo Droi yr haul yn dywyllwch. Pa beth! bôd calon gnawdol ansanctaidd yn y nefoedd! ni eill hynny mor bôd; Nid â i mewn yno ddim aflan, Dat. 21.27. Canys pa gymmundeb sydd rhwng goleuni a thywyllwch, rhwng Crist a Belial, 2 Cor. 6.14, 15. Ar hyd y dydd yr estinais fy nwylo at bobl anufydd ac yn gwrth ddywedyd, Rhuf. 10.21. Beth weithian a wnewch chwi? A lefwch chwi ar Dduw am drugaredd? Cw ma Duw yn galw arnoch i drugarhau wrthych eich hunain, a chwithau nis gwnewch 〈◊〉〈◊〉 Mae Gweinidogion yn gweled y Cwppa wenwynig yn llaw 'r▪ Meddwyn, ac ya dywedyd wrtho, Mae gwenwin ynddi, ac yn dymuno arno drugarhau wrth ei enaid, ac ymartal; ac yntau ni wrendu arnom▪ Rhaid iddo ei hyfed hi, ac fe ai gwnâ; Ei charu y mae ef, ac am hynny pe rhon a dy∣fod Vffern yn y man nesaf, nid eill ef wrtho. Beth a all ai un ei ddywedyd wrth y fâth ddynion ar rhai hyn? Yr ydym ni yn mynegi ir dyn bydol difraw annuwiol; ni wasanaetha y cyfryw fuchedd mor tro, ac nas dwg hi mhonoch byth ir nefoedd; Pett∣au Arth ar eich gwarthaf; chwi a sumudech eich pâs, a phan ydyw mellti h Dduw a eich gwartha, a Satan ac Vffern ar eich gwartha, oni chynhyrfwch chwi ddim, ond gofyn paham y rhaid wrth yr holl draffer yma? Ai ni thal enaid anfarwol ddim ych∣waneg? Oh trugarhewch wrthych eich hu¦nain! Eithr hwynt hwy ni thrugarhân 〈1 page missing〉〈1 page missing〉

Page 145

ronyn wrthynt eu hunain, ac ni wnânt unwaith gyfrif o¦honom. Nini a ddy∣wedwn iddynt, mai chwerw fydd y diwedd. Pwy a ddichon drigo gyda 'r tân tragy∣wyddol? Ac etto ni thrugarhânt hwy ddim wrthynt eu hunain. Ac er hynny y budre∣ddiaid digwilidd hyn a ddywedant fôd Duw yn drugaroccach nac y damnia efe hwynt, pan ydynt hwy eu hunain yn e∣chryslon ac yn annhrugarog yn rhedeg i ddamnedigaeth; A phettem ni yn my∣ned attynt an hettiau yn ein dwylo, ac yn ymymbil a hwynt, nid allwn ni moi hattal. Pe syrthiem iddynt ar ein gliniau, nid allwn ni moi hattal; Ond i Vffern yt ânt, ac etto ni choeliant eu bod yn my∣ned yno, Pettem ni yn crefu arnynt er mwyn y Duw ai gwnaeth, ac sy 'n eu cadw; er mwyn y Christ a fu farw tros∣tynt; er mwyn eu heneidiau truain eu hunain, dosturio o¦honynt wrthynt eu hu∣nain ac nad elont ddim pelloch ar hyd y fford i Vffern; ond dyfod at Grist tra yw eifrueichiau a'r lêd, a myned i mewn i ystât bywyd tra yw 'r drws yn llëd-agored, a dderbyn trugaredd yn awr tra bò trugaredd iw chael; ni fynnant moi perswadio. An bod ni yn trengu or ple∣gyd, ni fedrwn ni gael ganthynt yr aw r 'o ac yn lleigus ystyried y peth rhyngthynt ac eu hunain, a Dychwelyd. Ac er hynny hwy a fedrant ddywedyd, Gobeithio y bydd Duw yn drugarog. A ddarfu i chwi erioed ystyried beth a ddywaid ef, Esa, 27.11. [Nid pobl dde∣allgart' ydynt; am hynny 'r hwn ai gwnace

Page 146

ni thosturia wrthynt: ar hwn a'i lluniodd ni thrugarhâ wrthynt.] Oni ddillada ûn arall chwi, Pan fyddoch noeth, a'ch por∣thi pan fôch newynog, chwi a ddywed∣wch ei fôd yn anhrugarog. Pe taflei efe chwi yngharchar, neu'ch pwyo a'ch arteithio, chwi a ddywedech, ei fód yn anthugarog. Ac er hynny chwy chwi a wnewch ychwaneg fil o weithiau yn eich erbyn eich hunain, sef bwrw eich enaid a'ch corph ymaith yn draywydd, heb unwaith gwyno rhag eich an hugarogrwydd eich hunain. Je, ac mae yn rhaid bwrw fôd Duw yn anrhugarog, (yr hwn a fu ai dru∣garedd yn disgwil wrthych trwy gydol hyn o amser) Os cofpa efe chwi gwedi hyn ei gyd. Oddieithr i sanctaidd Dduw 'r nefoedd roddi cennad i'r cyfeillion hyn i fahru gwaed ei fab tan eu traed, a chydâ, 'r Ju∣ddewon, megis eilwaith i ddisboeri yn ei wyneb, a difenwi yspryd y gâs, a gwneu∣thur cellwair or pechod, o gwawd o Sanct∣eiddrwydd, ac i wneuthur llai cyfrif o dru∣garedd iachusawl, nac o frynti eu plese∣rau cnawdol, A chwedi hyn oll, oddieithr iddo ef eu cadw hwy trwy 'r drugaredd y maent yn ei thaflu ymaith ac ni fynnant mhoni, rhaid iddynt alw Duw yn anrhru∣garog. Eithr efe a fyn fôd yn gyfrawn pan farno, ac ni sydd iddo sefyll neu syrthio wrth frawdle pryfpechadurus.

Myfi a wn fôd llawer o draw ddadleu∣on neulltuol y maent hwy yn eu dwyn yn erbyn yr Arglwydd, eithr nid â fi i yma∣e yn hyn o fan iw hatteb bôb un ar ei

Page 147

benn, gan i mi wneuthur hynny eusus yn fy Nhraethawd am farn, lle 'r mae iddynt ymorol am¦dano. Pe buasei Ymhowyr y byd mor ofalûs i ochelyd pechod a destryw, ac â fuant hwy yn llawn ffwdan i chwilio, am yr achos o¦honynt, a pharod ar wyr gyrch iw fwrw ar Dduw; hwy a allasent dreulio eu synhwyrau yn fuddiolach, a gwneuthur llai cam a Duw, a dyfod eu hunain ir lan yn well. Pa yw'r fâth Anghenfil anhardd ac yw pechod o'n mewn ni, a pheth mor orthrwm â chospedigaeth arnom ni, â pheth mor ofnadwy ac yw Vffern on blaen ni, fe dybygid y byddei yn hawdd dirnad, pwy sy a'r y bai, a pha un ai Duw ai dyn yw 'r pif-achos or bai. Mae rhai dyni∣on yn farnwyr mor drugarogion iddynt eu hunain, ai bôd yn fwy hy-rwydd i ach∣wyn ar yr Annherfynol Berpheithrwydd a'r daioni ei hûnan, nac ar eu calonnau eu hunain; ac a ddynwaredant eu hynafi∣aid gynt, y rhai a ddywedasant, Y Sarple am twyllodd, y wraig a roddaist gyda mi, hi a roddodd i mi, a mi a fwyteais Gan arwyddocau yn ddirgel mai Duw oedd yr achos; felly y dywedant hwythau, [Y de∣all a roddaist i mi, ni allai mor dirnad, yr ewyllys a roddaist i mi, nid allai wneu∣thur gwell dewis; y gwrthddrychau a ofodaist gar fy mron, am hu 'dasant y profedigaethau â gynhwysaist i ymosod arnaf, a orescynnasant im h rbyn. Ac y mae mor orflin gan rai feddwl y dichon Duw wneuthur Creadur ai hy∣fforddo ei hunan, na lefasant hwy nac∣au iddo ef yr hyn a gymerant ei fod

Page 148

yn un oi Ragorfreintiau, sef bod yn hy∣fforddydd yr ewyllys ym mhob pechod, megis yr achor naturiol digyfrwng ar sy yn ei beri. A bagad a fyddent fod∣loni i wneuthur Duw yn rhydd oddiwrth fod yn gymmaint achos o ddrwg, pe medrent cymmaint a dwyn hynny i gytuno ai fod ef yn benn-achos daioni, fel pettau 'r Gwirionedd heb fôd ddim hwy i fôd yn wirionedd nac y gallwn ni ei ganfod yn ei berphaith drefn ai gyfan∣roddiad! o¦herwydd na fedr ein synhwy∣rau sittrach ni moi cydgysylltu hwynt, na phennu i bob gwirionedd ei gyfle priodol, rhyfygu yr ydym benderfynû mai rhaid yw bwrw rhai ymaith. Dyma ffrwyth ein Huchel falch dybied yn dda o¦honom ein hunain, pan ydyw dyni∣on heb dderbyn gwirionedd Duw megis plenyn ei wers, mewn sanctaidd ymostyng∣iad i lwyr lawn-wybodaeth ein Dysgawdwr, ond megis Ynaid y rhai ydynt rû ddoethion iw dysgn.

Gwrthddadl▪ Eithr ni allwn ni mo'n troi ein hunain, oddiethr i Dduw ein troi: Ni allwa ni wneuthur dim heb ei râs ef, nid yn yr hwn sy 'yn ewyllyllysio y mae, nac yn yr hwn sy 'yn rhedeg chwaith, ond o Dduw yr hwn sydd yn trugarhau.

Atteb. 1. Mae gan Dduw ddwy râdd o dugaredd iw dangos: Trugaredd Troe∣dgaeth yn gyntaf, a thrugaredd Jechydwri∣aeth yn olaf: Yr olâf ni ddyru ef i neb, ond ir sawl a ewyllysiant ac a redant, ac ai hadda∣wodd iddynt hwy yn unig. Y gyntaf fydd iw

Page 159

gwneuthur hwynt yn ewyllysgar ar a oe∣ddynt anewyllysgar: Ac er nad yw eich ewyllysio a'ch ymegnio eich hunain yn hae∣ddu y Grâs hwm, er hynny mae eich gwi∣fodd ymwrthodiad yn haeddu eich nacaáu chwi o¦hono. Eich gwann allû yw eich gwir anewyllysgarwch ei hûn, yr hwn nid yw yn esgusodi eich pechod, ond ei wneu∣thur yn fwy. Chwy-chwi a ellych droi pettych ond gwir ewyllysgar: Ac os y∣dyw eich ewyllysiau wedi llygru felly ynddynt eu hunain, na chynhyrfa dim hwynt ond grâs grymusol, mae i chwi fwy o achos i ymgais am y g âs hwn∣nw, ac i ymroi iddo, ac i wneuthur a alloch yn ymarfer ar moddion, heb ei esculuso, nac ymosod iw erbyn. Gwnewch yn gyntaf yr hyn a alloch, ac yno ach∣wynwch a'r Dduw am eich nacaau o râs os bydd yw'ch achos.

Gwrthddadl. Eithr fe dybygid eich bod hyd ynn hyn yn bwrw fod gan ddynion Ewyllys Rhydd.

Atteb. Mae 'r ddadl yngylch Ewyll∣ys rhydd ty hwnt i'ch dealltwriaeth chwi; Am hynny nid âfi i'ch blino yn ei gylch a dim ym¦mhellach onid hyn. Mae eich ewyllys yn rhydd yn ani an∣awl, hynny yw, yn gyneddfen oi hu∣nanhyfforddiad; ond y mae wedi gwy∣ro yn ddihir, ac yn wrthwynebol ir da, ac am hynny ni a welwn wrth brawf gresunol nad oes gan∣tho rydd-did moesol rhinweddol; eithr hynny yw ei ddrygio∣ni, yr hwn sydd yn haeddu

Page 150

y gospedigaeth. Ac yr wyf yn attolwg i chwi nedwch i ni ein ffylu ein hunaîn ac opinionaû. Bwriwch fod y matter yn eiddoch chwi eich hunain. Od oes gen∣nych elyn mor ystrywgar, ac y rhuthro ef arnoch ach curo bob gwaith ac ich cy∣farfyddo, ac a ddycco hoedl eich plant, a escu∣sodwch chwi ef oblegyd iddo ddywedyd, [Nid oes gennyfi ewyllys rhydd, fy naturiaeth yw, Ni allai ddewis oddiethr i Dduw roddi i mi râs.] Os oes gennych wâs yn eîch ys∣peilio, a gymmerwch chwi y fath atteb gan∣tho? Oni allai bob rhyw Leidr a llofrudd ar â grogir yn y Sessiwn roddi y cyfryw at∣teb, [Nid oes gennyfi ddi ewyllys-rhydd; ni allafi mor neid fy nghalon fy hûn: Beth â allafi ei wneuthur heb râs Duw?] Ac â ddieuogîr hwynt o¦herwydd hynny? Oni wneir: pa¦ham gan hynny y tybiwch gael eich dieuogi oddiwrth ystod o bechod yn erbyn yr Arglwydd?

2. ODdi ymma chwi a ellwch ddal sulw ar y tri pheth hyn ynghyd. 1. Pa dentiwr cyfrwys yw Satan. 2. Pa beth twy∣llodius yw pechod. 3, Pa greadur ei ffo∣led yw dn llygredic, entiwr cyfrwys yn ddiau, yr hwn a fedr berswadio y rhan fwyaf or byd i fyned yn ffroch wyllt i dân tragy∣wyddol,

Page 151

y pryd y maent yn cael cyn∣nifer o rybuddion ac o gynghorion ir gw∣thwyneb ac y maent yn eu cael. 2. Diau mai peth twyllodrus yw pechod, yr hwn a fedr hudo cynnifer o filoedd i ymadel ar bywyd tragywyddol, am beth mor wael ac mor llwyr anwiw! 3. Creadur ffôl yw dyn yn ddiammau, yr hwn â edu ei siomi am ei iechydwriaeth am ddiddim; ie am ddi∣ddim hynod; a hynny gan elyn, a ge∣lyn hynod. Chwi a dybygech y byddei ammhosibl i neb rhyw ddyn a fai yn ei bwyll gymmeryd ei berswadio am goeg∣beth iw fwrw ei hunan ir tan, neu 'r dwfr, neu i bwll-glô, o ran dinistr ar ei einioes. Ac er hynny dynion a gymmer∣rant eu hudo iw taflu eu hunain f V∣ffern. Pettau eich bywyd naturiol yn eich dwylo eich hunain, fel na byddech chwi feirw nes eich llâdd eich hunain, gyhyd y byddei ir rhan fwyaf o¦honoch fyw Ac etto pan yw eich bywyd tragy∣wyddol cym mhelled ar eich dwylo eîch hunain tan Dduw, nad ellwch fod yn gol∣ledic nes i chwi eich difetha eich hunain, leied nifer o¦honoch a ymgedw rhag eich dinistrio eich hunain? Oh pa beth gwiri∣on ffol yw dyn! a pha beth hudolaidd ac yn hurtio rhai yw pechod?

Page 152

ODdiymma hefyd y gellwch ddyscu, nad oes chwithdod mawr bod yr annuwiol yn rhwystro eraill yn y ffordd ir nefoedd ac yn chwennych fod cymaint ac a all∣ont heb ddychwelyd, ac yn chwennych eu tynn y hwynt ir pechod, ai cadw ynddo. A ellwch chwi ddisgwil i neb drugarhau wrth eraill, ni thrugarhao ddim wrtho ei hûn? Ac y rhufent bwy er dinistr eraill, y sawl ni rufant i dinistrio eu hunain? Ni wnânt waeth i eraill, nac a wnânt iddynt eu hunain.

4. YN ddiweddaf, chwi a ellwch ddyscu oddiymma mai gelyn mwyaf dyn ydyw efe ei hûn; ac mai y farnedigaeth fwy∣af ar a ddichon ddigwydd iddo ef yn y bôd hwn yw ei adael ef iddo ei hûn, ac mai 'r gwaith mwyaf sydd gan Râs iw wneuthur yw ein gwaredu ni rhagom ein hu∣nain, ac mai 'r Cwynion a'r Ach∣wynion mwyaf a ddylai fod gan ddyn∣ion yn eu herbyn eu hunain; ac mai 'r

Page 153

gwaith mwyaf sydd i ni ein hunain yw wneuthur yw ein gwrthwynebu ein hunain: ac mai 'r gelyn mwyaf y dylaem ni weddio, a gwilio, ac ymdrechu beunydd yn ei erbyn; yw ein calonnau a'n hewyllysion cnawdol; Y rhan fwyaf o'ch gwaith os mynnech chwi wneuthur daioni i eraill iw cymmorth ir nefoedd yw eu gwaredu hwynt rhagddynt eu hunain, sef rhag eu dall ddealltwriaethau ei hewyllys llygredic, ai hanwydau r fa••••, ai gwynniau taer-ddrûd, ai synhwyrau afreo∣lus eu hunain. Myfi ydwyf yn unig yn hen∣wi y rhai hyn oll o ran byrr ddibendd, 〈◊〉〈◊〉 yn eu gadael i chwithau iw hystyried ym¦mhellach.

WEle Syrs, bellach nyni a ddaethom o hyd i ddirfawr fradwr a llofrudd yr eneidiau (sef dynion eu hunain, eu hewyll∣ys eu hunain) beth sydd yn ol i chwi îw wneuthur ond rhoddi barn yn ôl yr Efidens,* 1.2 a chyfaddeu yr an∣wiredd mawr hwn o flaen yr Ar∣glwydd, ac ymddarostwng' oi blegyd, ac na wneler mhono ef mwyach. At y tri dibenion hyn yn wahanthedol, myfi a chwanegef ychydc eiriau. 1. Ich argyo∣eddi chwi ym¦mhellach. 2. Ich darostwng. 3. Ich adgyweirio os oes etto ddim gbaih.

Page 154

1. Mae gennym ni cymmaint cydnabyd∣diaeth a hynny ar Dra-grasuslawn Anian Duw, yr hwn sydd yn ewyllysgar i wneu∣thur daioni, ac yn hôff gantho drugarhau; nad oes i ni achos iw ddrwgdybio ef o fod yn achos affeithiol o'ch marwolaeth, nac iw alw efyn greulon i Efe a wnaeth bôb peth yn dda, ac efe sy'yn cadw ac yn cynnal pob peth oll; Llygaid pôb peth a dis∣gwiliant wtho, ac y mae yn rhoddi eu bwyd iddynt yn ei bryd; gan agoryd ei law a diwallu pob peth byw ai ewyllys da Psa. 145.15, 16. Efe sydd nid yn unig yn gyfiawn yn ei holl ffydd (ac am hyn∣ny a wnaiff, gyfiawnder) a sanctaidd yn ei holl weithredoedd (ae am hynny nid yn Awdur pechod) ond yn ddaionus i bawb ai drugaredd sydd ar ei holl weithredoedd, Psal. 145, 17 9

Eithr am ddyn nyni a wyddom fod ei feddwl ef yn dywyll, ei ewyllys yn wyr∣draws, ai anwydau yn ei arwain bendra∣mwnwgl, hyd onid yw wedi ei gymhwy∣so trwy er ffoledd ai lygredigaeth ir cy∣fryw waith ai ddinist i ei hunan. e can∣ffyddech chwi oen wedi ei lâdd ar y ffordd, ai'r ddfad a ddrwgdybiech chwi gyntaf. yntau 'r Ci neu'r Blaidd, o fod yn yr affaith or peth o byddei y ddau yn sef;yll yn ei ymyl? Neu os gwelwch dy wedi ei dorri, a'r bobl wedi ei llâdd, ai cynt yr amheuech chwi y Tywysog neu 'r Barnw, yr hwn sydd gall a chyfiawn, na Leidr a Lleiddiad hynod? Gan hynny mi a ddywedaf gydac, Jaco 1.13.14, 15, Na

Page 155

ddyweded neb pan demptier ef, gan Dduw i'm temptir, Canys Duw nis gellir ei dempt∣io a drygau ac nid yw efe y n temptio neb (iw dynny ef i bechu) Canys yna y temptir pob un, pan y tynnor ef, ac y llithier gan ei chwant ei hun; yna chwant wedi ymddwyn, a escor ar bechod; pechod hefyd pan orphenner, a escor ar farwalaeth.] Yma chwi a welwch mai etifeddyn eich trachwant eich hûn yw pechod, ac nad yw ef iw fwrw ar Dduw ac mai marwolaeth yw heppiliaeth eich pe∣chod eich hûn, ar ffrwyth a ddwg ef i chwi cyn gynted ac yr addfedo. Mae try∣sor o ddrwg gennych ynoch eich hunain, fel y mae gan y pryf coppyn o wenwyn: Or hwn yr ydych yn dwyn allan adwyth i chwi eich hunain ac yn nyddu y cyfryw weoedd ar sydd yn dyrysu eich eneidiau eich hunain. Eich naturiaeth a ddengys mai chwychwi yw 'r achos.

2. Mae yn hyspys mai chwychwi yw eich dinistwryr eich hunain, o¦herwydd eich bôd mor barod i groesaw ei pôb tempra∣siwn gan y mwyaf ar â gynnygier i chwi. Prin y mae Satan yn barottach i'ch cyh∣yrfu ir drwg, nac a ydych chwi yn addfed i wrando a gwneuhur fel y mynnai ef i chwi. P c••••ft•••• efe demptio eich ddeall i amry∣fsed a rhagfarn, chwi a ymrowch. Pe cei∣siai ef eich rhwystro oddiwrth fwriadau daionus, fe ai gwne ir yn ddiswtta. Pe cei∣siai efe oeri dim dymuniadau o serchiadau daionus, fe ai gwneir yn ddiswita. Pe cei∣siai efe ennyn och mewn ddyre neu wynian 〈◊〉〈◊〉 chwantau gwarthus, fe ai gwneir yn

Page 156

ddiswtta, Os eich gosod â wnaiff ar fedd∣yliau drwg, neu eiriau neu weithredoedd, yr ydych chwi mor wisgi nad rhaid iddo wrth na gwialen nac yspardûn: Pe ceisiai ef eich cadw rhag meddyliau, a geiriau a ffyrdd sanctaidd, ychydic ai gwnâ; nid yw raid i chwi wrth un enfa. Nid ydych yn holi ei annogaethau, nac yn eu gwrthwynebu och llwyrfryd, nac yn eu taflu allan fel y mae ef yn eu taflu hwynt i mewn, nac yn diffoddi y gwreichion ynnae efe yn gwneuthur ei oreu ar eu cynneu: Ond chwy-chwi a da∣rcwch i fewn gydac ef, ac ai cyfarfyddwch hanner y ffordd, ac â gofleidiwch ei gynh∣yrfiadau, ac ai temptiwch i'ch temptio. A hawdd yw dal y cyfryw byscodun gwangc∣us a fo yn ymreibio am yr abwyd, ac a gipp∣io y bâchyn noeth.

3, Eich destryw sydd yn eglur o¦honoch eich hunain, yn gymaint a'ch bôd yn gwrth∣wynebu pawb ar â fynnent eich cymmorth∣wyo i fôd yn gadwedic, ac a fynnent wneu∣thur i chwi ddaioni, neu eich rhwystro rhag eich difethaf eich hunain. Duw a fynnai eich cymmorth a'ch cadw trwy ei air; a chwith∣au ai gwrthwynebwch; Mae yn rhygaeth gennych. Efe a chwennych ei eich sanctei∣ddio trwy ei Yspryd, chwithan ai gwithwy∣nebwch ac ai diffoddwch. Os argyoedda neb chwi am eich pechod, chwi a ruthrwch yn ei wyneb a'ch geirian dyrtas; a phe chwennychei eich tynny ar fuchedd sancta∣idd, a mynegi i chwi eich perygl presenn∣l, bychan yw'r dolch a roddwch iddo Ond naill a' chwi â herwch iddo ofalu trosto ei

Page 157

hunan, na chaiff ef atteb trosoch chwi; neu or hyn goreu, chwi ai trowch ef-heibio trwy ddiolch digalon, ac ni ddychwelwch pan ich perswadier. Pe ceisiai weinidogioneich add∣yscu a'ch cymmorthwyo or neulltu, ni ddo∣wch chwi yn eu cyfyl: Nid yw eich eneidi∣au diddarostyngedic yn clywed ond ychy∣dic oddiwrth eisiau eich cynnorthwyad. Pe chwennychent eich Catecheisio, yr yd∣ych chwi yn rhy hên ich Catecheisio, ernad ydych ty hên i fôd yn anwybodus ac yn an∣sanctaidd. Beth bynnac a fedrout hwy ei ddywedyd wrthych er daioni i chwi, yr yd∣ych yn tybied cystal o¦honoch eîch hunain, ac mor ddoethion yn eich golwg eich hu∣nain, (a hynny yn nygnedd eich anwybod∣aeth) na wnewch chwi ddim cyfrif or hyn nid ydyw'n cytuno a'ch dychymmygion pre∣sennol, ond a drawsddadleuwch yn erbyn eich Arthrawon, fel pettych chwi yn ddoe∣thach na hwynt-hwy; Gwrthwynebu yr yd∣ych bôb dim oll ar a fedront hwy ei ddywe∣dyd wrthych, trwy eich anwybodaeth, a'ch gwylltineb, a'ch ynfid goeg geccryson a'ch diengfâu ysgyflgai a'ch llyfiant anilohgar, ddichon dim daioni at â gynnygier gaffael ei derbyn ai groesawn gennych yn garedigol.

4. Ym¦mhellach, mae yn amlwg mai chwy∣chwi yw eich dinistrwyr eich hunain, o ran eich! ôd yn tynny defnydd eich pechod a'ch dinistr oddiwrth y Bendigedic Dduw ei hun. Nid yw uniaethiad ei Ddoehineb ef wrth ech bodd; nid oes moi gyfiwnder wrth eich bod, eithr chwy-chwi ai cymmerwch am greulonde▪ Nid oes moi Sancteiddrwydd ei w••••h eich bdd, eithr yr ydych yn bard

Page 158

i dybied ei sôd ef yn gwbl fel chwithau, Ps. 50.21. ac yn gwneuthur cyn lleied cyfrif o bechod ac â wnewch chwithau: Nid ydyw ei wirionedd ef yn rhyngu eich bôdd, eithr â fynnech fod ei fygythion ef, sef ei fygy∣thion dirfing yn prf•••• yn anwir Ai ddai∣oni, yr hwn a gymmerwch arnoch ei gan∣mol yn gymmaint, yr ydych mewn rhan yn ei wrthwynebu, fel y mae yn eich arwain i edifeirwch, ac ai camarferwch mewn rhan i gyfnerthu eich pechod; megis pe gellych chwi yn rhyddach bechu oblegyd fôd Duw yn drugarog, ac o¦herwydd bod ei râs ef yn ymhelaethu cymmaint.

5. Je cyrchu eich destryw yr ydych oddi∣wrth y Prynnwr bendigedic, a marwolaeth oddiwrth Arglwydd y bywyd ei hûn, Ac nid oes dim yn eich hyfau chwi yn fwy mewn pechod, na darfod i Ghrist farw drosoch; fel pettau'r perygl yn awr wedi myned hei∣bio, ac y gellych chwithau yn hyfach antu∣rio: Mgis pettau Ghrist wedi myned yn wâs i Satan ac i'ch pechodau, a bôd yn rhaid iddo ef ymddisgwil wrthych, tra fo'ch yn ei amherchi: Ac oblegyd ei fyned ef yn Phy∣sygwr eneidiau, ac y dichon efe gadw hyd r eithaf bawb a ddelont at Dduw trwyddo ef, chwi a dybiwch mai rhaid iddo ddioddef i chwi wrthod ei gymmorth, a bwrw ym∣maith ei Gyfareddion, a bôd yn rhaid iddo eich cadw pa un bynnac a wneloch ai dyfod at Dduw trwyddo ef ai peidio: Yn gym∣maint a bôd rhan fawr o'ch pechodau trwy eich hyfddewr ryfyg yn cymmeryd eu hach∣lysur oddiwrth farwolaeth Christ. Heb

Page 159

ystyried i ddyfod ef i brynû ei bobl oddi∣wrth eu pechodau, ac iw sancteiddio yn bobl briodol iddo ei hun, ac iw gwneu∣thur yn ûn ffu f mewn Sancteiddrwydd a delw eu tâd nefol ac ai pen, Mat. 1.21. Tit. 2.14. 1 Pt. 1.15, 16. Col. 3.10, 11. Phil. 3.9.10.

6. Cyrchu hefyd yr ydych eich destryw eich hunain oddiwrth holl ragluniaethau a gwei∣threddoedd Duw. Pan feddylioch am ei dra∣gywydawl ragwybodaeth ai rag-ordinhadau hynny a'ch cleda yn eich pechod ac â berch∣ennoga eich meddyliau â bwriadau cyn hennys, megis pe gallasei ei rag-ordinhadau ef ragflaenu i chwi boen yn edifarhau ac yn byw yn sanctaidd, neu fod yn achos o'ch pe∣chod a'ch marwolaeth Os cystuddia efe chwi, ffrommi a wnewch: Os eich llwyddo a wnâ, chwi a'i anghofiwch yn fwy, ac â yd∣ych yn ddiweddarach i feddwl am y bywyd â ddaw. Os yr annuwiol a lwydda, chwi â anghofiwch y diwedd yr hwn â esyd yr holl gyfrifion yn union, a pharod ydych i feddwl, fôd cystal bôd yn annuwiol ac yn dduwiol. Ac fal hyn y tynnwch eich marwolaeth od∣diwrth bôb peth.

7, Ar cyffelyb a wnewch oddiwrth holl greaduriaid a thrugareddau Duw tu ac attoch. Efe ai dyn hwynt i chwi yn arwydd∣ion oi gariad, a chyphyriau iw wasanaeth a chwi hau ai trowch yn ei erbyn ef, i yngu bôdd ich cawd. Bwyta ac yfed yr ydych i fodloni eich chwant, ac nid er gogoniant i Dduw, ac ich gwneuthur yn abl i wneu∣thur ei waith ef, Chwi â gamarferwch eich

Page 160

dillad i falchder. Eich golud a ddynn eich calonnau oddiwrth y nefoed, Phil. 3.18. Eich parch a'ch clôd â'ch chwyddant: Os bydd gennych nerth ac iechyd, gwnaiff hynny chwi yu fwy diofall, ac i anghofio eich diwedd. Ie trugareddau rhai eraill a gamarferwch ich niweid. Os canffyddwch eu parch ai hur∣dduniant, chwi a annogir i genfigennu wr∣thynt. Os edrychwch ar eu golud, yr ych yn barod iw cybyddu. Os creffwch chwi ar lendid chwi a gynhyrfir î drachwant. A dâ ydyw 'r peth os diangc Duwioldeb rhag bôd yn gryn frycheuyn yn eich golwg.

8. Yr unig Ddoniau y mae Duw yn eu cy∣frannu i chwi, ar Ordinhâdau grâs y rhai a drefnodd ef iw Ecclwys, a drowch chwi yn bechod. Os bydd gennych well doni∣au nac eraill, balchio a wneuch, thybied yn dda o¦honoch ei'ch hûn: Os bydd gennych ond doniau cyffredinol, chwi ai cymmerwch yn lle grâs enwedigol. Chwi a gymmerwch y ddyledswydd o noeth wrandawiad i fod yn gystal gwaith a phettau yn eich escu∣sodi am anufyddhau iddo. Eich gweddiau a drowyd yn bechod, am i chwi edrych ar anwiredd yn eich calonnau. Psal. 66.18. ac nad ymadewch ac anghyfiawnder pan alwoch ar enw yr Arglwydd. 2 Tim. 2.19. Fraidd yw eich gweddiau, am Doi o¦ho∣noch ymaìth eich clust rhag gwrando y gyfraith. Dih. 28.9. A pharattoch yd∣ych i roi aberth ffyliid, (gan dybied eich bod yn gwneuthur rhyw wasanaeth en∣wedigol i Dduw) nac i wrando ei air ac ufuddhau iddo. Eccls. 5.1. Nid ydych

Page 161

yn eich holi eich hunain, cyn derbyn o¦ho∣noch swpper yr Arglwydd, either heb iawn farnu corph yr Arglwydd, ydych yn bwyta ac yn yfed barnedigaeth i chwi eich hunain. 1 Cor. 11 28, 29.

9. Ie y yr ymdrinwch a hwynt, a'i gweithredoedd hefyd, a wneuch chwi yn achlysur eich pechod a'ch destryw. Os byw y maent yn ofn Duw, chwi a'i casewch: Os byw â wnânt yn annuw∣iol, chwi a'i dylynwch: Os aml yw'r an∣nuwiol, chwi a dybiwch y gellwch eu canlyn yn hyfach: Os anaml yw 'r duwiol, chwi a ymhyfewch yn fwy iw dirmygu hwynt Os rho∣diant yn ddichlin, chwi a ddybiwch eu bôd yn rhy brestl. Os syrth ûn o¦honynt i brofe∣digaeth neulltuol, chwi â dramgwyddwch wrthynt, ac â drowch ymaith oddiwrth San∣cteiddrwydd, o ran bod eraill yn sanctaidd am∣mherphait: Megis pettych chwi yn arddele∣dic i dorri eich gyddfau, o ran darfod i rai e∣raill trwy fôd yn ysmala dyrfu gewyn, neu yr∣ru asgwrn oi le. Os rhagrithiwr ai datcu∣ddia ei hûn, chwi a ddywedwch, felly y maent hwy eu gyd, ac a dybiwch eich bôd eich hunain cyn onested a'r gonesta. Prin y gall Proffesswr lithro i ryw fai, ond o∣herwydd ei fôd ef yn torri ei fys, chwi a dybiwch y gellwch yn hyf dorri eich gwy∣thi gwaed. Os chweru y gweinidogion yn ddihocced a chwi, dywedyd a wnewch eu bód yn cablu: Os mwynaidd a llêd∣o eraidd y llefarant, naill ai yr ydych yn cyscu tanynt, neu nid oes ynoch fawr fwy teimlad, na'r meingciau yr ydych yn

Page 162

eistedd arnynt. Os amryfufeddau â ymluf∣eant i mewn ir Ecclwys, rhai ai derbyniant yn awchus, eraill a gablant yr Athrawiaeth Gristianogawl oi plegyd hwynt, yr hon sydd bennaf yn eu herbyn. A phe ceisiem ni eich tynny oddiwrth ryw hên amryfyfedd ar sydd wedi gwreiddio, a fedro haeru bôd ddeu-cant neu dri, neu chwch, neu saith o flynyddoedd mewn trwydded, chwi a fro∣chwch os dymunir cael diwygiad cym∣maint a phettych yn colli eich einioes trwy hynny, ac â ddeliwch yn dynn hên amryfu∣sedd, tra yr ydych yn croch lefain yn erbyn rhai newyddian. Prin y geill ymryfon dyfu ymlhith gweinidogion yr Efengyl, na chyr∣choch chwi eich marwolaeth oddiwrth hyn∣ny. Ac ni wrandewch chwi, neu or hyn lle∣iaf ni ufyddhewch i athrawiaeth ddiddadl neb or sawl nid ydynt yn dyfod yn gyhyd∣edd ich dychymmygion chwi: y naill ni wrendu ar Weinidog am ei fôd yn darllain ei bregethau, ar llall ni wrendu am nad yw yn eu darllain. Y naill ni wrendo arno, ob∣legyd ei fod yn adrodd gweddi 'r Arglwydd ar llall ni wrendu arno, am ei fôd yn ei har∣fer. Vn ni wrendu arnynt am eu bôd ar dy yr Escobion, ac un arall ni wrendu ar∣nynt am eu bôd yn eu herbyn. Ac fel hyn y gallwn ddangos i chwi mewn bagad o ber∣thynasau, pa fôdd yr ydych yn troi pob peth a ddelo yn agos attoch i'ch destryw eich hu∣nain, mor eglur ydyw fôd yr Annuwiol yn Hunain ddinistrwyr, a bôd eu colledigaeth o¦honynt eu hunain.

Page 163

MYfi â dybygwn weithian o ystyr yr hyn â ddywedpwyd, a bwrw golwg ar eich ffyrdd, y dylaech chwi feddwl be h â wnaethoch, â gwladeiddio ac isel ymostwng wrth ei gofio. Yr hyn onid ydych iw wneu∣thur ystyriwch y gwirioneddau hyn sy yn anlyn.

1. Bod yn eich dinistrio eich hunain sydd bechod yn erbyn y gynnedfen fwyaf gredd∣fol yn eich naturiaethau, fef y gynneddfen o Hunan-amddiffynniad Mae pob peth wrth naturiaeth yn chwennych ac yn tu∣eddu at ei happusrwydd ei hawddfyd neu ei berpheithrwydd ei hûn, Ac â fydd i chwi eich gosod eich hunain ich dinistr eich hunain? Pan orchymmynner i chwi garu eich cymmydogion fel chwi eich hu∣nain, fe fwrir fôd yn naturiol i chwi eich caru eich hunain Eithr oni cherwch chwi eich cymmydogion ddim gwell na chwi eich hunain, mae 'n debygol y mynnech fôd yr holl fyd yn ddamnedic.

2. Mor groes gynhwynol ydych i'ch bw∣riadau eich hunain. M â wn nad ydych yn bwriadu eich damnedigaeth eich hunain, ie y pryd yr ydych yn ei phwreasu: Chwi â dybwch nad ydych ond gwneuthur dai∣oni ichwi eich hunain, trwy ryngu bôdd

Page 164

i ddymuniadau eich cnawd. Ond sywaeth nid yw hyn ond megis trancelled o oer∣ddwfr mewn cryd-poeth-iâs, neu megis còsi cruccunnod â fo yn merwino, yr hyn a chwanega 'r dolur a'r gofid. Os myn∣nwch chwi mewn gwirionedd gael dyfyr∣rwch neu fûdd neu anrhydedd, ceisiwch hwynt lle maent i'w cael, ac nad ewch i ymgytgam am¦danynt ar y ffordd i Vff∣ern.

3. Pa resyndod yw, wneuthur o¦ho∣noch chwi hynny yn eich erbyn eich hu∣nain, yr hyn ni ddichon neb arall ar y ddai∣ar nac yn Vffern moi wneuthur. Pettau yr holl fyd wedi ymgyssylltu i'ch erbyn, ar holl Gythreuliaid yn Vffern wedi ymgys∣syllttu i'ch erbyn, nid allent mo'ch dinistrio heboch eich hunain, na gwneuthur i chwi bechu ond trwi eich bôd chwithau yn cyd∣synnio. A wnewch chwi yntau hynny yn eich erbyn eich hunain, yr hyn ni ddichon neb arall ei wneuthur? Mae gennych fe∣ddyliau câs am y Cythraul, am i fod yn elyn i chwi ac yn gwneuthur ei oreu ar eich dinistrio. Ac â fyddwch chwi yn waeth na Chythreiliaid i chwi eich hunain? O'ch fal hyn yr ydych, pettau gennych galonnau iw ddeall: Pan ydych yn rhedeg, ir pechod ac yn rhedeg oddiwrth dduwioldeb, ac yn gwrthod Dychwelyd ar Alwad Duw yr ydych yn gwneuthur mwy yn erbyn eich eneidiau nac â ddychon dynion neu gythreiliaid ei wneuthur heb law hynny. A phettych ym ymosod eich hunain, ac yn gosod eich ynhwyrau ar ynnil i wneuthur

Page 165

y drwg mwyaf i chwi eich hunain, nid allech chwi wneuthur ûn à fai fwy.

4. Yr ydych chwi yn anghywir ir hyn y rho∣ddes Duw ymddiriedyon ch am¦dano. Efe a ymddiriedodd i chwi yn fawr am eich Ie∣chydwriaeth eich hunain: A wnewch chwi thau frâd yr hyn yr ymddiriedwyd i chwi am¦dano? Efe a'ch gosododd gydâ phob diwid∣rwydd i gadw 'ch calonnau: Ai dyma ynteu 'rgadwraeth a wneir arnynt?

5. Yr ydych hyd yn oed yn gwahard i bawb eraill dosturio wrthych, pan na thosturioch ddim wrthych eich hunain. Os gwaedd∣wch ar Dduw yn nydd eich cyfyngder, am Drugaredd, Trugaredd; Beth a ellwch chwi ei d disgwil, ond iddo ef eich cil∣cwthio ymaith, a dywedyd, [Nagê ni thrugarheit ti wrthyt dy hun: Pwy a ddug hyn arnat ond dy wrthnysigrwydd dy hun?] Ac os gwêl eich brodyr chwi mewn true∣ni yn dragywyddol, pa fodd y tosturiant wrthych chwi y rhai a'ch destrywiasoch eich hunain, ac ni fynnech mo'ch perswa∣dio?

6. Hyn a baîr i chwi byth bythoedd fod yn Vffern yn Benydwyr i chwi eich hunain, wrth feddwl, ddarfod i chwi o'ch gwyllt-wirfodd eich dwyn eich hunain ir trueni hwnnw. Oh pa ymgno meddwl fydd i chwi gofio yn dragywydd rhyngoch a chwi eich hunain, Mae eich gwaith chwi eich hunain â fu hyn! a'ch rhybuddio o¦hono y dydd heddyw, a'ch rhybuddio drachefn, ond na thycciai, Ddarfod i chwi bechu yn ystyfnig, a throi ym

Page 166

aith oddiwrth Dduw yn ystyfnig; Gaffael o¦honoch amser yn gystal ac eraill, ond dar∣fod i chwi ei gamarfer: Chwi â gowsoch. Athawon yn gystall ac eraill, eithr gwr∣thodasoch eu haddysc. Chwi â gowsoch siamplau sanctaidd yn gystal ac eraill, eithr, nis dilynasech hwynt. I chwi y cynnygi∣wyd. C••••st a Grâs a gogoniant yn gystal ac i eraill, eihr mwy oedd eich bryd ar eich pleserau cn wdol: Yr oedd gennych werth yn eich dwlau, ond nid oedd gennych galon iw osod ef allan, Dih. 17.16. Oes fôdd na bo yn benyd i chwi feddwl am eich ffoledd presennol hwn? O na bai eich llygaid yn agored i ganfod beth a wnaethoch yn y gwylltgâs gam a wnaethoch a'ch enei∣diau eich hunain! Ac na ddeallech yn well y geiriau hynny or eiddo Duw, Dih. 8.33.34, 35, 36.

Gwrandewch addysc, a byddwch ddoethion, nac ymwrthodwch a hi. Gwyn ei fyd a w∣randawo arnaf, ac a wilio beunydd wrth fy nrysau, gan warched wrth byst fy mhyrth i, Canys y nb a'm caffo i, a gaiff fywyd, ac a feddianna ewyllys da gan yr Arglwydd, ond y neb a becho yn fy erbyn a wna gam a'i enaid ei hun: fy holl gaseon a garant ang∣eu.

Page 167

BEllach mi a ddaethym i gloi ar hyn o waith; mae'n ofid ar fy'nghalon fe∣ddwl pa fodd i'ch gadawaf; Rhag ir cnawd eich wyllo gwedi hyn ei gyd, ac i'r byd ar Cythraul ech dal i gysgu, ac i minneu eich gadal fel ich cefais, nes eich deffro yn Vff∣er! E i mi ofn hyn, o ran fy 'ngofal am eich eneidiau 〈◊〉〈◊〉; am fy môd yn adna∣bod ystyfnig wydd calon gnwdl, etto mi a allaf ddywedyd gydâ 'r prophwyd Jeremi. 17.16 Ni ddymunais y dydd blin, Arglwydd, ti ai gwyddost. Ni ddymunais i gydac Jaco ac Joan a i dân ddyfod or nefoedd i ddifa y sawl â wrthodasant Jesu G••••st, Luc. 9.54. Eithr ar ragflaenu y tân tragywyddol y bû'm i trwy gydol hyn o amser yr gwneu hur fy'ngoreu: Ac ôch na buasei yn waith a∣fraid 〈◊〉〈◊〉 Nas galasei Dduw a chydwybod fôd mor ewyllysgar i adael i mi seibiant oddi∣wrth hyn o waith ac yn edrasei rai o¦honoch chwi fod. Garedigion anwyl, mae mor drwm gennyf fod i chwi orwedd mewn tân tragywyddol, a bôd wedi eich cae allau or nefoedd, os yw yn bossibl rhagflaenu hynny, ac y gofynwyf ûnwaith etto, Beth bellach sy'yn eich bryd? Ai Troi â wnewch ynteu Meirw? Yr ydwyfi yn edrych arnoch megis Physygwr ar ûn clâf mewn anwyl enbydus,

Page 168

ac yn dywedyd wrtho [Er eich bôd wedi myned ym¦mhell, cymmerwch y gyfaredd hon ac ymgedwch ond rhag yr ychydic bethau hyn y rhai ydynt yn niweidiol i chwi, ac mi â anturiaf wrantu eich hoedl; Eithr oni wnewch chwi hyn, nid ydych ond gwr marw] Beth a dybygeth chwi am y cy∣fryw ddyn. oni ddichon y Physygwr ar holl garedigion sydd gantho moi berswadio i gymmeryd ûn physygwriaeth i achub ei hoedl, neu i ymgadw rhag un neu ddau o betheu gwenwynig ai lladent ef? Dyma eich cyflwr chwithau. Er pelled yr aethoch mewn pechod, gwnewch cymmaînt a Dych∣welyd a dyfod at Grist, a chymmeryd ei gyfareddion, a'ch eneidiau â gant fyw. Chwy ewch i fynu eich pechodau marwol trwy edi∣feirwch, ac na ddychwelwch mwyach at eich chwydion gwenwynllyd a chwi a ddenwch or goreu. Ond etto petteu eich cyrph i ni i ymdrin a hwynt, ni a allem wy∣bod mewn rhan beth iw wneuthur i chwi pe ••••on i chwi na chydsynniech ddim. Fe ellid eich dal neu eich rhwymo, tra bydd∣id yn tywallt y physygwriaeth i lawr ar hyd eich gyddfau, a phethau niwediol a ell∣id eu cadw oddiwrthych. Eithr ynghylch eich eneidiau ni ddichon hynny mor bod. Nis gallwn ni mo'ch Troi yn erbyn eich ewyllys. Ni ddygir ynfydion ir nefoedd mewn llyffetheiriau. Chwi a ellwch fod yn Ddamnedic oc'h anfodd, am i chwi bechu och gwirfôdd. Eithr nis gellwch fod yn gadwedic och anfodd. Doethineb Duw a dybiodd yn dda osod iechudwriaeth neu

Page 169

ddinistr dynion yn fawr iawn yn etholiad eu hewyllys eu hunain, na chffo neb ddyfd ir nefoedd, ar na ddewisodd y ffordd ir nefo∣edd, ac na chaffo neb ddyfod i Vffern, na chynhellir ef i ddywedyd, Cefais y peth a ddewisais, fy ewyllys fy huu am dug i yma. Weithian pe gallwn i ond eich dwyn i fôd yn ewyllysgar, i fod yn hollowl, ac yn llwyr-fryd, ac yn reddfol ewyllysgar fe fyddeu'r gwaith wedi mwy na hanner ei wneuthur: Ag och fi, ai rhaid i ni golli ein Cyfeillion, ai rhaid iddynt hwythau golli eu Duw, eu dedwyddwch eu heneidiau o ddiffyg hyn? O 〈◊〉〈◊〉 atto Duw eth ryfedd gnyf, fod dynion mor ddifedr a lledfeddod yn y mat∣terion mwyaf, y sawl ydynt mewn pethau llai yn weddaidd iawn, a chyweithas, ac yn gymmydogion da. Am ddim ar a wn i mae i mi gariad fy holl gymmydogion neu'r cwbl gan y mwyaf, cyn belled, a phes anfonwn at un dyn o fewn y dref, neu'r plwyf neu'r wlad a gofyn ganthynt gymmwynas afai gweddol hwy ai canhiadhaent imnu: Ac er hyn pan ddelwyf attynt a gafy ganthynt y peth mw∣yaf yn y byd iddynt eu hunain ac nid i mi. Ni fedrai gael gan fagad o¦honynt ddim ônd gwrando yn hamddeol. Nis gwn i, a ydyw pobl yn tybied fod gwr yn y pulpyd yn wir ddifrifol, ai peidio, ac yn meddwl megis y mae yn llefaru: Cans yn fy'nhybnid oes gen∣nyf nemmawr o gymmydogion, am bôd yn gyfeillgar gydâ hwynt yn eistedd ac yn mynegi iddynt yr hyn â welais neu â wneuthum neu a wybum i yn y byd; na byddei iddynt fy nghoelio a gwneu∣thur cyfrif or hyn a ddywedwn. Eithr pan rynegwyf iddynt allan o ansi medic

Page 170

air Duw, y peth â gânt hwy eu hunain ei weled ai wybod yn y byd a ddaw, maent yn dangos wrth eu bucheddau eu bôd naill ai heb goelio'r peth, neu heb fawr fatter gan∣thynt am¦dano. Pettwn i yn cyfarfod â neb rhywun ohonynt ar y ffordd, a dywedyd wrth∣ynt, Daccw bwll glô, neu mae yna Sug∣ndraeth, neu yna mae lladron yn llechu i gynllwyn am¦danoch. Myfi â fedrwn eu perswadio i droi heibio: Ond pan ddywe∣dwyf iddynt fôd Satan yn cynllwyn am¦da∣nynt, a bôd pechod yn wenwyn iddynt, ac nad yw Vffern beth i gellwair ac ef; hwy a ânt rhagddynt fel ped faent heb fy'nglhy∣wed, Yn wir fy'nghymmydogion, yr wyfi mor ddygn ddifrifol wrthych chwi yn y pul∣pyd ac ydwyfi mewn un ymddiddaniad cyffr∣edinol, ac os rhoddwch byth goel arnaf, mi â attolgafywch wneuthur hynny yn hyn ofan. Yr wyfi yn ty bied nad oes undyn o¦honoch oll, o bai fy enaid i fy hun yn fefyll ar eich ewyllys chwi, na byddech yn ewyll∣ysio ei fod yn gadwedic (er nar gallaf addaw yr ymadawech chwi a'ch pechodau o ran y peth.) Mynega ym, tydi feddwyn, â wyt ti mor greulon i mi yr hwn wyf yn llefaru wrth∣yt, nad ymattelit oddiwrth ychydic gwpp∣aneidiau o ddiod, os gwyddit yr achubai hynny fy enaid rhag Vffern? Ai gwell oedd gennyt fy mod yn llosgi yn dragy∣wydd, na gorfod arnat ti fyw yn sobr fel y gwna dynion eraill? Os felly mae, oni allafi ddywedyd, mai anghenfil annrhugarog yd∣wyt, ac nid dyn? Pe denwn i yn newy∣nog neu yn noeth i un och drysau, onid ymadawech chwi ac ychwaneg na chwpp∣anaid

Page 171

o ddiod im gweinyddu. Mae yn ddiammau gennyfi y gwnaech: Pettau 'r peth yn achub fy mywyd i, myfi â wn am rai o¦honoch y peryglech chwi eich bywyd eîch hunain Ac etto er ymymbil a chwi nid y∣madewch a'ch difyrrwch anianawl er mwyn eich iechydwriaeth eich hunain. A ymatt∣elit ti oddiwrth ganowppanaid o ddiod i achub fy hoedl i ped fai ar dy law, ac oni wnei di hynny o ran achub dy enaid dy hun? Syrs, yr wyfyn addef wrthych, fy mod i y dydd heddyw cyn ddifrifed crefwr arnoch o ran achub eich eneidu eich hunain, ac a fyddwn i am gael torri fy angen pe gorfyddei arnaf ddyfod i gardotta i'ch drysau. Ac am hynny os gwrandawech arnaf y pryd hynny, gwrandewch fi yn awr. Os tosturiech wrthyf y pryd hynny, dymuno arnoch dosturio yn awr wrthych eich hunain. Yr wyfi eilwaith ynattolwg arnoch, megis ar fy 'ngliniau noeth∣ion, ar i chwi wrando ar eich Prynnwr, a dychwelyd fel y galloch fyw. Chwy-chwi oll ar a fuoch fyw mewn anwybodaeth, a diofal∣wch a rhyfyg hyd y dydd hwn. Chwy chwi oll ar â foddwyd y'ngofalon y byd, ac a yd∣ych heb feddwl dim am Dduw nac am y go∣goniant tragywyddol. Chwy-chwi oll ar a gaethiwyd ich dymuniadau cnawdol, am fwydydd a diodydd a chwaregon a melusw∣edd. A chwithau oll ar nas gwyddoch oddi∣wrth yr angenrheidrwydd ansancteiddrwydd ac ni buoch erioed yn gydnabyddus â gwaith yr Yspryd glân ar eich eneidiau yn eich sancteiddio. Y sawl nid ymwascasoch erioed a'ch Prynnwr bendigedic trwy fydd fywiol, a rhyfeddu yn ddiolchgar wrth deim∣lad

Page 172

oi gariad ef, ac sydd erioed heb gael teimlad o ddim ûwch pris ar Dduw ac a y nefoedd, nac or gariad ddim mwy calon∣nog iddynt nac ich llwyddiant cnawdol ar pethau isod. Yr wyfi yn ddifrifol yn attolwg i chwi nid yn unig er fi mwyn i, ond er mwyn yr Arglwydd, ac er mwyn eich eneidiau, nad eloch ddiwrnod ychwa∣neg ymlaen yn eich cyflwr gynt, eithr edrych o¦honoch yn eich cylch a gweiddi ar Dduw am râs ich troi, fel ich gwnel∣er yn greaduriaid newyddion, ac y galloch ddiangc rhag y pladau sydd ychydic och blaen; Ac os gwnewech chwi fyth ddm erof canhiatewch i mi hyn o rôdd, i Ddychwelyd oddiwrth eich ffyrd drygionus a byw Nac∣cewch fi o ddim ar a ofynwyf gennych byth i mi fi hûn, os canhiedwch i mi ond hyn, Ac os naccewch fi o hyn, nid oes fater gen∣nyf am ddim arall â ganiattoch immi. Nage os gwnewch chwi ddim fyth ar ddymuniant yr Arglwydd ach gwnaeth ac ach prynnodd, na naccewch ef o hyn: Canys os chwi ai recû o hyn, ni waeth gantho ef am ddim ar â ganiattoch iddo fel y mynnech iddo ef fyth wrando, ar eich gweddiau, a chaniat∣tau eich dymuniadu, a gwneuthur eroch yn awr angu ac yn Nydd y farn, neu yn neb rhyw un och cyfyngderau, na naccewch mhono yn awr oi ddymuniad yn nydd eich hawdfyd. Ah Syrs, credwch fi, mae angeu∣a barn, a dêf ac uffern yn bethau angen∣ach pan ddeloch yn agos attynt, nac y maent yn ymddangos ich golygon cnawdol o herbell. Y pryd hynny chwi a wrandawech

Page 173

ar y cyfryw gennadwri ac yr w fi yn ei dwyn i chwi a chalonnau mwy deffrous a gofa∣lus.

WEithian, er nas gallwyt obeithio o cystal o bawb, mi a obeithaf fôd rhai o¦ho∣noch erbyn hyn yn bwriadu Troi a Byw: ach bôd yn barod i ofyn immi fai y gofyn∣nodd yr Juddewon, i Petr. Act. 2.37. pan ddwysbigwyd hwy yn eu calon, ac y dywe∣dasant, Ha-wyr frodyr, beth a wnawn ni? Pa fôdd y gallem ni fod yn wir ddychweledic? yr ydym ni yn ewyllysio, pettem ni ond gwybod ein dyledswydd, na atto Duw i ni ddewis destryw, trwy wrthod troi fel y gwnaethom hyd yn hyn!]

Os y rhai hyn yw amcanion a bwriadau eich calonnau, mi a ddywedaf amdanoch megis y dywedodd Duw am bobl oedd yn addaw, Deut. 5.28, 29, [Da y dywedasant yr hyn oll a ddywedasant, Oh na byddei gy∣fryw galon ynddynt i'm hofni i, ac i gadw fy holl orchymynion, bôb amser!] Da yw eich bwriadau: Oh na byddeî galon ynoch i gyflownni y bwriadau hyn! A than obaith o hyn, myfi ach hyfforddaf yn llawen beth iw wneuthur, a hynny ar fyrr, fal y galloch yn haws ei gofio iw ymarfer.

Page 174

Y Hyfforddiad 1.

OS mynnech chwi fôd yn ddychweledic ac yn gadwedic, gwnewch eich goreu a'r ddeall angenrheidrwydd a gwir naturi∣neth Dychweliad: Am ba beth, oddiwrth ba beth, at ba beth a thrwy ba beth y mae yn rhaid i chwi ddychwelyd,

Ystyriwch ym mhâ gyflwr gresynol yr y∣dych hyd awr eich Troedigaeth, fel y canffy∣ddoch nad yw efe gyflwr i orffywys yntho. Yr ydych chwi tan euogrwydd yr holl becho∣dau a bechasoch erioed; a than ddigofaint Duw, a melltith ei gyfraith; Yr ydych yn gaethweision ir Cyhraul, ac yn gwneuthur ei waith ef beunydd, yn erbyn yr Arglwydd ac yn eich erbyn eich hunain ac eraill. Meir∣won ydych ac anhardd yn ysprydol, megis yn weigion o fywyd sanctaidd, a natur a de∣lw yr Arglwydd. Yr ydych yn anghmw∣ys y ddim gorchwyl sanctaidd: ac heb wneu∣thur dim ar sydd yn gwir ryngu bodd i Dduw. Yr ydych heb un addewid na siccr∣wydd oi nodded ef, ac yn byw mewn gwastadol berygl o'i gyfiawnder ef, heb wy∣bod pa awr y cippir chwi ymaith i Vffern, ac yn ddigon siccr i fôd yn ddamnedic os byddwch feirw yn y cyflwr hwnnw. Ac ni eill dim â fo yn fyrr o droedigaeth mo'i rag∣flaenu. Pa weddeidd-dra, neu wellhâd neu ti niau bynnag sy 'yn fyrr o wir ddychweliad ni pharant byth ich eneidiau fôd yn gadwe∣dic

Page 175

deliwch gywir deimlad or trueni anian∣ol hwn, ac felly o angenrheidrwydd Troed∣igaeth ar eich calonnau.

Ac yno mae 'n rhaid i chwi ddeall beth ydyw bôd wedi dy chwelyd: Bôd â chalon neu dueddfryd newydd yw 'r peth, a bôd ac ymarweddiad newydd.

Gwest. Am ba beth y mae yn rhaid i chwi Ddychwelyd?

Atteb. O ran y dibennion hyn sy 'yn car∣lyn, y rhai â ellwch chwi eu cyrraed. 1 Chwi â wneir yn ebrwydd yn aelodau bywiol i Grist, ac â gewch hawl yntho, ac â adnew∣yddir yn ôl delw Dduw, a'ch harddu âi holl radau ef, ach byw occau à bywyd newydd a nefol, ach cadw rhag creulonder y Satan, a llywodraeth pechod, ach cyfiawnhau oddi∣wrth felltith y gyfraith a chael pardwn o'ch holl bechodau eich holl einioes, a bôd yn gwmmeradwy gan Dduw, ach gwneuthur yn feibion iddo ef, ac a gewch rydddid trwy hyfdra iw alw ef yn dad, ac i gyrchu atto mewn gweddi yn eich holl anhenuion, ac i chwi addewid o gael eich derbyn; Chwi a gewch r Yspryd Glan i breswylio ynoch, ich sancteiddio a'ch cyfarwyddo, Chwi a gewch ran yn y brawdoliaeth, cymmundeb a gweddiau 'r Sanct. Chwi a gewch eich cymhwyso i wasanaeth Duw, a'ch rhyddhau oddiwrth Lywodraeth pechod, a bod yn wasaneuthgar ac yn fendith yngfangre lle boch yn byw; Chwi a gewch yr addewid or bywyd hwn ac or hwn fyddi i ddyfod. Ni bydd arnoch ddiffyg dim ar sydd yn wir dda i chwi, chwi a wneir hefyd yn abl i

Page 176

oddef eich holl gystuddiau arghenrhaid; Chwi a ellwch gaffael peth prawf o gymun∣deb gyda Duw yn yr Yspryd, yn enwedic yn yr holl Odinhadau sanctaidd, lle mae Duw yn arlwyo gwlêdd ich eneidiau; Chwi a gewch fôd yu etifeddion y nef tra fyddoch byw ar y ddaiar, ac â ellwch trwy ffydd rag∣weled y gogoniant tragywyddol, ac felly y gellwch fyw a marw mewn tangnheddyf, ni byddwch chwaith byth cyn ised, na byddo eich dddwyddwch yn anfeidrol mwy nach trueni.

Mor werthfawr yw pob un or bendithion hyn, y rhai yr wyfi yn eu henwi ar fyrr, ac a ellwch chwithau eu derbyn yn y bywyd hwn!

Ac yno 2. wrth farw eich eneidiau â gânt fyned at Ghrist, a dydd y farn yr enaid ar Corph â gânt eu cyfiawnhau ai gogone∣ddu, a myned i mewn i lawenydd eich mei∣str; lle byddo eich dedwyddwch yn sefyll yn y pethau neulltuol hyn.

1. Chwy chwi eich hunain a berpheith∣ir; Eich cyrph morwol â wneir yn anfar∣wol, ar llygredig a wisg anllygredigaeth; Ni byddwch chwi mwyach yn newy∣nog, nac yn sychedig, nag yn lludde∣dig nac yn gleifion: Nid rhaid chwaith i chwi ofni na chwilydd, na thristwch, nac angeu, nac Vffern. Eich enei∣diau â berphaith ryddheir oddiwrth bechod ac a berphaith gymhwysir i adnabod a charu a moliannû yr Arglw∣ydd

2. Eich gorchwyl a fydd edrych ar

Page 177

eich gogoneddedic Bryniawdwr, ynghyd ach holl sancteiddlân gyd ddinasyddion y nef, oedd, a gweled gogoniant, y ben∣digediccaf Dduw, ai garu ef yn berphaith a chael eich caru gantho ef, ai glodfori yn dragywydd.

3. Eich gogoniant â gyfranna i ogo∣niant y Gaersalem newydd, Dinas y Duw byw, yr hyn sydd fwy na chael dedwyddwch neulltuol i chwi eich hu∣nain.

4 Eich gogoniant a gyfranna i ogo∣neddu eich Prynwr, yr hwn a fawrheir ac a ymfodlonir ynoch hyd tragywyddol∣deb y rhai ydych lafur ei enaid ef, a hyn sydd fwy na'ch gogoneddiad eich hunain.

5 Hefyd, tragywyddol fawrhydi y Duw byw â ogoneddir yn eich gogoni∣ant chwi: Yn gystal megis ac y mawr∣hygir ef trwy eich gwaith yn moliannu, ac megis ac y mae ef yn cyfraneu oi ogoniant ai ddaioni i chwi, ac megis ac y mae ef yn ymfodloni ynoch, ac ynghy∣flowniad ei weithredoedd gogoneddus, y'ngogoniant y Gaersalem newydd ai fâb.

Hyn oll a gaiff y carddttyn gwaelaf o¦ho∣noch ar sydd wedi Troi, ei fwynhau yn siccr ac yn ddiddiwedd.

2. Chwi â welwch am ba beth y rhaid i chwi ddychwelyd: Yn y man nesaf rhaid ywch ddeall, oddiwrth ba beth y mae yn rhaid i chwi ddychwelyd; hynny hefyd sydd, (mewn u gair)

Page 178

oddiwrth eich Hunan-cnawdol, yr hwn yw diben yr holl rai Annychweledic, Od∣diwrth y cnawd yr hwn a fynneu ei fodhau o flaen Duw, ac a fynneu yn oestadol eich denu i hynny. Oddiwrth y byd yr hwn yw 'r abwyd: Ac oddiwrth y Cythraul yr hwn yw Genweiriwr yr eneidiau, a'r twyllwr. Ac felly oddiwrth bôb pechod gwybyddus a gorphwyllog.

3 Yn y man nesaf rhaid i chwi wybod. At ba beth y mae yn rhaid i chwi ddych∣welyd: A hynny yw, At Dduw, megis eich diben: At Grist megis y ffordd at y Tad: At Sancteiddrwydd megis y ffordd osodedic i chwi gan Grist. Ac felly at yr arferiad o holl gymorthwyon a moddion Gras a ganniatteir i chwi gan yr Argl∣wydd.

4 Yn olaf, rhaid ywch wybod Trwy ba beth y mae yn rhaid i chwi ddychwelyd. Hynny hefyd yw, trwy Grist megis yr unig B ynwr ar Eiriolwr; A thrwy yr Yspryd Glan megis y Sancteiddiwr; A thrwy y Gair megis yr offeryn neu'r moddion; A thrwy ffydd ac edifeirwch megis y moddion a'r dyledswyddau o'ch rhan chwi∣rheu iw cyflowni. Hyn oll sydd yn angen∣chaid.

Page 179

Yr ail H{y}ffordiad.

OS mynnvvch chvvi fod yn ddicvveledic a chadvvedic, byddyvch yn faith mewn dirgel ddifrifol Ystyriaeth. Anystyriaeth sy'n anafu 'r byd. Tynnwch yn fynych ar eich pennau eich hunain i gilfach neulltuol, ac yno ystyriwch y diben y gwnaethpwyd chwi oiblegyd, a'r fuchedd a fuoch fyvv, a'r amser a gollasoch, a'r pechod a wnaeth∣och, a chariad a diodde-faint, a chyflown∣der Christ, ar perygl yr ych ynddo, a nesder marwolaeth a'r farn, A siccrwydd ac ardder∣chowgrwydd llawenydd y nef, a siccrwydd a gerwinder Poenau Vffern, a thragywy∣ddoldeb pôb un or ddau; Ac angenrheîdr∣wydd Troedigaeth a buchedd sanctaidd. Mwydwch eich calannau yn y cyfryw Ysty∣riaethau a'r rhai'n?

Y tr{y}d{y}dd H{y}fforddiad,

OS mynnwch chwi fôd yn ddychwe∣ledic a chadwedic, byddwth yn di∣wid wrando gair Duw, yr hvvn yvv'r mo∣ddion

Page 180

c{y}ffredinol. Darllennwch yr yscry∣thur, neu wrandewch ar ei darllain hi, neu yscrifennadau sanctaidd eraill ar sydd yn ei chymhwyso: Dyfal wrandewch yn oesda∣dol or gyhoeddus bregethiad y Gair. Me∣gis ac y llewyrcha Duw y byd trwy yr haul, ae nid trwyddo ei hun yn unig hebddo ef; felly y dychwel efe ac y ceidw ddynion trwy ei Weinidogi∣on, y rhai ydynt Oleuadau 'r byd, Act. 26.17.18. Mat. 5.14. Pan ddarostyngodd efe Paul yn rhyfeddol, mae yn ei anfon at Ananias. Act. 9, 10. A phan anfonodd ef Angel at Cornelius, nid yw hynny ond i erchi iddo anfon am Petr. yr hwn a fynegdi iddo beth oedd iddo iw gredu a'i wneu∣thur.

Y pedwer{y}dd H{y}fforddiad.

CYrchwch at Dduw mewn trefn g{y}fan∣nedd o ddififol weddio: Addefwch a gaerwch am eich bucheddau gynt, Ac ym∣biliwch am ei ras ef i'ch goleuo a'ch troi. Erfyniwch ar iddo bardynu yr hyn a aeth heibio, a rhoddi i chwi ei Yspryd, a newyd eich calonnau a'ch bucheddau, a'ch arwain yn ei ffyrdd, a'ch cadw rhag profedigaethau A deliwch, wrth y gwaith yma beunydd, ac na flinwch arno.

Page 181

Y pummed H{y}fforddiad.

RHoddwch heibia eich pechodau h{y}nod a gw{y}llt ffol{y}n br{y}sur. Sefwch, ac nad ewch ddim pellach {y} ffordd honno. Na feddwch ond hynny: Eithr gochelwch y lle a'r achlysur o¦hono. Bwriwch ymaith eich trachwantau a'ch meluswedd pechadurus gan eu ffeiddio. Na regwch, ac na thyng∣wch ac na cheblwch mwyach; Ac os gwn∣aethoch gam â neb, telwch yn ei ôl. fel y gwnaeth Zaccheus. Os eich hên bechodau â wnewch chwi eilwaith, pa fendith â ell∣wch chwi ddisgwil a y moddion i'ch Troi.

Y Chweched H{y}fforddiad.

NEwidiwch eich c{y}mdeithas ar frûs, os {y}w bossibl, os drwg â fu hi h{y}d {y}n h{y}n. Nid twy ymwrthod a'ch Perthynisau ang∣enrheidiol, ond ach cymdei hion pechadu∣rus afreidiol; Ac {y}mg{y}s{y}ltwch a'r rhais{y}dd {y}n ofni {y}r Arglw{y}dd, ac y mofynnwch â hw∣ynt am y ffordd ir nefoedd. Act 9.19.26. Psal. 15.4.

Page 182

Y seithfed Hyfforddiad.

RHoddwch eich hunain ir Arglwydd Jesu megis physygwr ei'ch eneidiau fel y pardyno efe chwi trwy ei waed, ac ich sancteiddio trwy ei Yspryd, trwy ei Air ai Weinidogion, y rhai ynt offerau yr Yspryd. Efe yw y ffordd, y gwirionedd a'r bywyd. Nid oes mor dyfod at y Tâd ond trwyddo ef, Joan. 14.6. Nid oes chwaith un enw arall dan y nefôedd drwy yr hwn y mae yn rhaid i ni fôd yn gadwedig. Act. 4, 12. Myfyriwch, gan hynny ar ei Berson ef a'i naturiaethau; a pheth â wnaeth ac â oddefodd dro∣soch; a pha beth ydyw efe i chwi, a pha beth â fydd, a pha fôdd y cymhwyswyd ef i lawn gyflowni eich holl angenrheidi∣an.

Yr VIII. Hyfforddiad.

OS ydych chwi mewn gwiriondd ar fe∣dr Troi a Byw gwnewch yn brysur, ddi▪ ymdro. Onid ych chwi yn ewyllysgar he∣ddyw, nid ych chwi ddim yn ewylysio moi

Page 183

wneuthur. Cofiwch eich bôd hyd y pryd hyn yn eich gwaed, tan euogrwydd llawer mîl o bechodau, a than digofain Duw, a'ch bôd yn sefyll ar y braidd ymyl i Vffern, nid oes ond cam rhyngoch ac angeu. Ac nid yw hwn gyflwr i ddyn a'r sydd yn ei iawn bwyll i fôd yn llonydd yntho. Cyfodwch gan hynny ar frus a ffowch fel ped fai am eich hoedl; Megis ped fyddech yn myned allan o'ch ty petteu efe ei gyd ar dân unwch eich pen. Oh pes gwyddech pa berygl gwastadol▪ yr ydych yn byw yntho, a pha golled anrha∣ethadwy yr ych beunydd yn ei goddef, a pha fywyd diogelach a hyfrydach â ellech chwi fyw, ni safech chwi i ymchwidawieth, Eithr chwi Droech ar frus. Mae yn darfod am Liaws ar ydynt yn oedi yn gyndynnus darfyddo dwyn ar ddeall iddynt fôd yn rha∣id ei wneuthur. Byrr ac ansiccr yw eich einioes; a pha ryw gyflwr yr ydych chwi yntho, os byddwch feirw, cyn i chwi lwyr∣ddychwelyd! Chwi â rhosasoch yn rhy hir eusoes: ac â wnaethoch gam â Duw yn rhy∣hir; Mae pechod yn cryfhau ac yn gwr ei∣ddio tra yr ydych chwi yn oedi; eich Tro∣edigaeth â brifia yn anhaws ac yn betrusach. Mae i chwi lawer iw wneuthur. o¦herwydd pa ham na fwriwch ymaith, mor cwbl tan y diwedd, rhag i Dduw eich gwrthod, a'ch rhoddi i fynu i chwi eich hunain, ac yno fe ddarfu am¦danoch yn dragywydd.

Page 184

Y IX. Hyfforddiad.

OS mynnwch chwi Ddychwelyd a Byw, gwnewch hynny yn ddiddarn∣ymeiriach, yn hollawl ac yn llwyr-gwbl. Na feddyliwch ymddarnio â Christ, a rhan∣nu eich calon rhyngtho ef a'r byd; ac ym∣adel â fwrn o bechodau a chadw y lleill; A gollwng ymaith yr hyn a allo y cnawd ei hépcor. Nid yw hyn ond eich siommi eich hunain: Rhaid i chwi o'r galon ac yn llwyr-fryd ymwrthod a chwbl oll ar a feddwch, neu ni ellwch fôd yn ddiscyblion iddo ef, Luc. 14.26, 33. Os chwy-chwi ni chymmerwch Dduw a'r nefoedd yn eich than, a gosd y cwbl at lawr wrth draed Christ, ond bôd yn rhaid i chwi hefyd gael rhan ddaiarol, ac nad yw Duw a'r nef∣oedd i chwi yn ddigon: Nid gwiw breu∣ddwydio am iechydwriaeth a'r yr ammodau hyn: Am nad yw hynny i fôd. Os ydych yn ymddagos mor grefyddol ac a allei fôd, etto onid yw hynny ond crefydd gna∣wdol, a bôd lwyddiant, neu ddyfyrrwch neu ddiogelwch y cnawdfythfyth yn cael ei neullduo yn eich dwyfol wasanaeth i Dduw; Mae hon cyn siccred hyffordd i Angeu, ac a ydyw Halog wydd amlwg, er iddi fod yn fwy cymmeradwy.

Page 185

Y X. Hyfforddiadd.

OS mynnwch chwi Ddchwelyd a Byw ymrowch iw wneuthur, ac na sefwch fythfyth ar eich cyngor, fel pette betrus∣ler yn y peth; Na sefwch ar figl fel ped••••ch etto yn ansiccr ba un ai Duw ai eich enawd yw 'r Meistr goreu; neu pa un a'i'r nefoedd ai Vffern yw 'r Diben goreu: neu pa un ai pechod ai Sancteiddrwydd yw 'r ffordd oreu? Eithr Ymmaith hwnt a'ch hên drachwantau, ac ymrowch ar frûs yn reddfol, ac yn ddiysgog: [Na byddwch y naill diwrnod o un meddwl ar nesâf o feddwl arall; Ei hr byddwch yn cymmeryd eich cennad gydâ 'r holl fyd a rhoddwch eich hunain a chwbl oll a'r a feddoch o'ch llwyrfryd i Dduw. Rhodd∣wch eich bryd a'r hynny yn awr tra 'r ydych yn ddarllain neu yn gwrando hyn. Cyn i chwi gygu un noswaith ond hynny. Cyn syflydd o'ch lle Ywrowch. Cyn i Satan gael ennyd ich rhwystro, Ymrowch. Ni throwch chwi byth mewn gwirionedd nes i chwi toddi eich bryd; a hynny o lwyr-fyd cadarn anghyfnewidiol.

Hynny am yr Hyfforddiadau.

Page 186

VVEeithian myfi a wueutûm fy rhan yn hyn o waith, fel y byddo i chwi Ddychwelyd ar Alwad Duw a Byw. Beth â ddaw o¦hono, ni fedrafi ddywedyd. Eithr. nid yw ynofi roddi'r cynnydd. Nis gallafi fyned am cennadwri ddim pellach: Nis gallafi moi Dwyn hi ich calonnau na pheri iddi weithio; Nis gallafi wneuthur eich rhan chwi, mo'i dderbyn ai ystyried: Nis gallaf chwwaith wneuthur rhan Duw, trwy agoryd eich calonnau i beri i chwi ei chro∣esawu: Nis gallaf chwaith ddangos mo'r Nefoedd neu Vffern gar bron eich llygaid; na rhoddi is chwi galonnau newydd a thyner, Pes gw{y}ddwn i beth y cwaneg iw wneu∣thur o ran eich Troedigaeth, yr wyf yn go∣beithio y gwnawn ef.

Eithr O tydi yr hwn wyt rasol Dad yr Ys∣prydoedd, yr hwn a dyngaist nad wyt yn ym∣hoffi'ym marwolaeth yr annuwiol, onid Troi o¦honynt a Byw, na naccâ moth fendith ar yr Annogaethau a'r Hyfforddiadau hyn na âl chwaith ith elynion orfoleddu yn dy olwg, ac i dwyllwr mawr yr eneidiau orescyn yn erbyn dy fâb, a'th air a'th Yspryd. O tosturia wrth bechaduriaid truein Annychweledic, y rhai nid oes ganthynt galonnau i dosturio wrthynt eu, hunain nac iw cynnorthwyo! Gorchymyn ir dall weled, ac ir byddar gly∣wed;

Page 187

ac ir marw fyw. Ac na chynwys i be∣chod a marwolaeth allael dy wrthwynebu. Deffro y difraw; Hwylia yr anhwylus; Sefydla yr ansefydlog, A gwnâ i lygaid y pechaduriaidd ar a ddarllennant y liniau hyn fôd yn nesaf gwaith yn mined ynghylch wy∣lo am eu pechodau; A dwg hwynt attynt eu hunain ac at dy fâb, cyn iw pechod i dw∣yn hwynt i ddestryw. Os dywedi di ond y gair, hyn o eiddil-wan lafur-waith a ffynna i ynnill llaweri o eneidiau iw tragywyddol lawenydd hwy, a'th dragywyddol ogoniant di. heu. Amen.

Diwedd.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.