Galwad ir annychweledig idroi a byw, Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fel y myn nynt gael trugaredd yn nydd eucyfyngder. Oddiwrth y Duw byw. / Trwy ey wâs ennheilwing Richard Baxter.

About this Item

Title
Galwad ir annychweledig idroi a byw, Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fel y myn nynt gael trugaredd yn nydd eucyfyngder. Oddiwrth y Duw byw. / Trwy ey wâs ennheilwing Richard Baxter.
Author
Baxter, Richard, 1615-1691.
Publication
Printiedig yn Llundain :: tros Edward Brewster ac ydyntiw cael tan Lûn y Chryhir ym mynwent Paul,
1659.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Conversion -- Christianity -- Early works to 1800.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/B01524.0001.001
Cite this Item
"Galwad ir annychweledig idroi a byw, Derbyn trugaredd tra byddo trugaredd iw chael fel y myn nynt gael trugaredd yn nydd eucyfyngder. Oddiwrth y Duw byw. / Trwy ey wâs ennheilwing Richard Baxter." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/B01524.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 18, 2024.

Pages

Page 52

Defnydd.

Athr. 3. MAe Duw yn ymhoffi {y}n Nhroedigaeth ac Je∣ch{y}dwriaeth dynion: ond nid yn eu marwolaeth au damnedigaeth: Gwell gantho Droi o¦honynt a Byw, na my∣ned rhagdd{y}nt a Meirw.

YN gyntaf mi a ddysgaf pa fodd y mae 〈◊〉〈◊〉 chwi ddeall hyn: ac yno mi a eglurhâf i chwi Y gwirionedd o¦hono.

Ac am y cyntaf, rhaid i chwi ddal sulw ar y pethau hyn a ganlyn.

1. Syml ewyllysgarwch neu fodlonrwydd. Yw prif weithred yr Ewyllys yn canlyn Syml Amgyffrediad y dealldwriaeth cyn iddo fyned ymlaen i gyffelybu pethau yngh∣yd Eithr gwaith yr Ewyllys yn dewis fydd weithred ddylynawl, ac yn rhoi rhag-ar-goel o Baihic waith y Deall yn cyffelybu: ar ddwy weithred hyn a allant fôd ai tyufa at nôdau gwrthwynebol, heb ronyn o fai yn y Dyn.

2. Geill amryw raddau fod o ewyllysgar∣wch ddiffuant. Rhai pethau yr wyfi yn ei hewyllysio cym¦mhelled, ac y gwnelwyf gym∣maint oll ac a allwyf o ran eu cyflowni. A

Page 53

rhai pethau yr wyfi yn wir fodlon i arall iw gwneuthur, pan nas gwnelwyfi er hynny cymmaint oll ar a allwyfiw dwyn hwynt i ben, gan fôd gennyf fagad o resymmau im hannog oddiwrth hynny; er i mi wneuthur er hynny y cwbl oll ar fydd yn perthyn i mi ei gwneuthur.

3. Ewyllys Rheolwr, fel y mae 'n rheolwr, a amlygir yn gnewuthur ac yn cyflowni Cyfreî∣thiau: Eithr ewyllys gwr yn ei syml anian∣awl amgyffred, neu megis Arglwydd per∣pheith-lawn ar yr eiddo, a amlygir wrth chwennych neu ddeongli digwyddiad∣au.

4. Ewyllys Rheolwr megis Gosodwr-cy∣fraih fydd yn gyntaf ac yn bennaf ar ufydd∣hau iw gyfraith, ac nid ar gospi neb mewn ûn môdd, ond yn unig trwy ragfwrw nad uf∣ydd haont iw circhion ef Eithr ewyllys Rhe∣olwr, megis Barnwr, sydd yn ww fôd y gy∣fraith naill ai gwedi ei chadw neu ei thorri eisoes, ac am hynny y mae'n ymroi i wobr∣wyo neu ei gospi yn ôl hynny.

Gwedi i mi ddodi i chwi y dosparthiadau anhepcor hyn, mi ai cymhwysaf hwynt yn y man nesaf ac y matter mewn-llaw, yn y traethiadau hyn sy'n canlyn.

1. Mae yn Nrych y gair ar creaduriaid fod yn rhaid i ni adnabod Duw yn y byw∣yd hwn; ac felly yn ôl natturiaeth Dyn, yr ydym ni yn cyfrif iddo efe ddeall ac ew∣yllys, gan symmud y maith bob am herphei∣thrwydd ar a allom, o¦herwydd nad ydym ni yn amgyrraedd dim gorwch ddychymygion pendant am dano ef.

Page 54

2. Ac ar yr unrhyw arddelion yr ydym ni (gyda 'r yscrythur) yn gwneuthur dos∣parth rhwng gweithrediadau ewyllys Duw, megis gwahanrhedawl oddiwth berthy¦na∣su y cyferbynniadau, er eu bôd o ran han∣fod Duw oll yn ûn.

3, Ac yn hyfach, o¦herwydd pan sonniom am Grist, mae gennym arddel ychwaneg i hynny oddiwrth ei ddynawl anian ef.

4. Ac fal hyn y dywedwn fôd Syml fod∣lonrwydd, ewyllys neu gariad Duw at bob dim oll ar sydd dda wrth naturiaeth neu yn soesawl, yn ôl natur neu râdd ei ddaio∣ni ef. Ac felly y mae efe yn ymhoffi yn nrhoedigaeth ac iechydwriaeth pawb, yr hyn er hynny ni ddaw byth i ben.

5. A Duw megis Rheolwr a Deddfwr y byd sydd gantho ewyllys gweithiawl o ran eu hiechydwriaeth hwynt, cym¦mhelled a gwneuthur iddynt râd Weithred Hyródd o Grist ac o fywyd, ac act o Ebargofiad am eu holl bechodau hwynt, trwy na bo iddynt ei wrthod yn anniolchgar; A gor∣chymmyn iw Gennadon gynnyg y Rhôdd yma ir holl fyd, ai perswadio iw derbyn: ac felly y mae efe megis Rhoddwr-cyfraith ac Addewidiwr yn gwneuthur cymmaint oll ar sydd berthynol iddo efe iw wneuthur o ran eu hiechydwriaeth hw∣ynt.

6. Ond, er hyn mae efe megis Gosodwr∣cyfraith yn bwriadu y cân hwy feirw oni throant. Ac megis Barnwr, pan elo dydd grâs heibio, efe a gyflawna ei Ordinhâd honno.

Page 55

7. Yn gymmaint ai fod ef l hyn yn ddi∣ffuant yn ewyllysio Troedigaeth y rhai ni Throir byh, eithr nid megis Arglwydd Cyflawn-gwbl, a Llwyr-fryd cyflawn-ym, na chwaith megis pth y mae efe yn ddi∣os ar fedr dyfod o¦hono i ben, neu y mae efe yn ymrwymo ei holl allu ar ei gyflawni. Mae y 'ngallu y Tywysog o∣sod gwilidwriaeth ar lofrudd i wilied rhag iddo efe lâ ldna chael chwaith moi gro∣gi. Onid os paid efe a hyn, ar reswm da; heb wneuhur dim ond anfon at eu ddei∣liaid ai rhyuddio ac y mymil a hwynt na bônt lofuddion, gobeihio y geill ef ddywedyd yn hydd na fynnai efe iddynt lâdd a hel eu crogi; nid yw efe yn ymhoffi yn hynny; ond yn hytach ar iddynt beidio a byw. Ac os gwneiff ef fwy er rhai, ar ryw reswm enwedigol, nid yw ef rwym i wneuthur felly a phawb.

Geill y Benin ddywedyd yn hydda wrth holl Lofudion a lladron y wlâd [Nid wyfi yn ymhoffi yn eich mar∣wolaeth, ond yn hyttrach ar gadw o¦honoch fy nghyfreithiau a byw: Eithr oni wnewch Mae yn fi mryd ca∣el o bawb o¦honoch feirw.] Geill y barnwr ddywedyd am wir wrth y Lleidr neu 'r Lloffrudd [Och ddy, nid wyfi yn ym¦hoffi yn dy farwola∣eth di, gwell fuasai gennyfi gadw o¦honof y gyfraith, ac achub dy hoedl. Ond gan weled nas gwner, rhaid i mï dy gondemnio, neu mi a fyddwn anghyfiawn.]

Page 56

felly er nad yw Duw yn ymhoffi yn eich

Damnedigaeth, ac am hynny yn eich galw i ddychwelyd a by, etto mae efe yn ym∣hyfrydu yn Eglurhâl ei Gyfiownder ei hûn, a Chwblhâd ei gyfreithiau, ac am hynny mae efe er hyn ei gyd yn bwriadu yn hollawl oni ddychwelwch chwi, y cewch ei'ch Dam∣nio. Pettau Dduw mor gwbl yn erbyn mawolaeth yr annuwiol a bod yn ymroi i wneuthur cymmaint oll ar a fedro iw llddia, yno ni byddei neb Damnedig yn gymmaint a bôd Crist yn dywedyd i chwi mi ychydig a fydd cadwedic. Ei∣thr Duw sydd cyn belled yn erbyn eich damnedigaeth, oc y dysc ef chwi, ach rhy∣byddio a gosd gar eich bronnau einioes ac angeu, a chynnig i chwi ei'h dewis, a gorchymyn iw Weinidogion, erfyn na ddam∣niech chwi mhonoch eich hunain, ond derbyn ei drugaredd ef, ac felly ich gad∣el yn ddiescus. Eithr os hyn ni wasanae∣tha, ac os byddwch etto heb ddychwel∣yd, mae efe ni fryd ar eic'h Damnedigaeth ac a orchmynodd i ni ddywelyd wrthych yn ei enw ef, Adn. 8. Ti annuwiol gan farw a fyddi farw. Ac ni wnaeth Crist fawr lai nai dyngu drachefn a thrachefn, Ac yn wir; yn wir oddieithr eich troi, a'ch geni drachefn ni ddichon i chwi fyned i mewn i deirnas ne∣foedd, Mat. 18.3. Jo. 3.3. Deliwch sulw, ei fôd ef yn dywedyd (ni ddichon i chwi) nid gwiw gobethio am¦dano, ac ofer yw breuddwydio fôd Duw yn fod∣lon iddo, am ei fôd yn beth ni ddichon mor bôd,

Page 57

Ar un gais, gan hynny chwi a welwch ystyriaeth y testyn, nad yw Duw, mawr O∣sodwr-cyfraith y hyd yn ymhoffi dim ym marwolaeth yr annuwiol, ond ar iddynt Droi a byw: er iddo fwriadu er hynny na chaiff neb fyw ond y rhai a droant, ai fôd megis Barnwr yn ymhoffi mewn Cyfiownder ac yn eglurhau ei gasineb ir pechod, er∣nad iw, yn eu trueni yr hwn a ddygasant hwy arnynt eu hunain, oi ystyried yntho ei hun.

2. Ac am Resymau y pwngc, myfi a fyddaf byrr ynthynt o¦herwydd fy mod tybi∣ed eich bôd yn hyyn rwydd yn ei credu barod.

1. Fe eill grasusol naturiaeth Duw ar a gyhoeddedir yn, Ex. 34.6. ar 20.6. ac yn aml mewn lleoedd eraill, eich siccrhau chwi o hyn, nad yw efe yn ymhoffi y eich marwolaeth.

2. Petu Dduw yn ymhoffi yn eich marwolaeth yn fwy nag yn eich troedi∣gaeth ach bywyd, ni buasei efe cyn fyny∣ched yn ei air yn gorchymyn i chwi droi; Ni wnaethai efe i chwi mor cyfryw adde∣widion o fywyd, os gwnewch cymmaint a throi; Ni buasei efe yn eich perswadio i hynny trwy gynifer o resymau, mae trefn yr Efengyl yn profi 'r pwngc.

3. Ai Gommissiwn yr hwn a ddodes ef i weinidogion yr Efengyl, sydd yn profi hyn yn helaeth. Pe buasei Dduw yn ym∣hoffi mwy yn dy ddamnedigaeth, nac yn dy droedigaeth ach iechydwriaeth, ni buasei efe er¦i+oed yn peri i ni gynnyg i chwi dru∣garedd, a dysen i chwi ffordd y bywyd ar gy∣hoedd

Page 58

ac or neulltu, ac ymbil ac erfyn arnwch á droi a byw; ach gwneuthur yn gydnabydus y'ch pechodau▪ a dangos i chwi eich perygl ar•••• mlaen llaw, a gwneuthur cymmaint oll tr sydd bossibl i ni ei wneuthur o an eich troedigaeth, a pharhau yn ymmyneddus yn gwneuthur felly, er i ni gael ein casaû neu ein hamherchi am ein poen: A fuasei Dduw yn gwneuthur hyn, ac yn trefnu ei Ordinha∣dau er daioni i chwi, pe buasei efe yn ym∣hoffi yn eich marwolaeth?

4. Fe brofir hefyd wrth drefn ei Ragluni∣aethu ef ped fuasei gwell gan Dduw eich bôd yn ddamnedig nac yn ddychweledig a chadwedig, ni buasei efe yn taro ym mlhad ei Air trwy ei weithedoedd, ac yn eich denu atto ei hûn trwy ei dirionder beunyddol, ac yn rhoddi i chwi holl drigareddau y bywyd hwn, y rhai ydynt foddion i'ch tywys chwi i edifeirwch, Rhuf. 2.4▪ a'ch dwyn cyn fyny∣ched tan ei wialen, i beri i chwi bwyllo: ni osodai efe cynnifer o siamplau gar bron eich llygaid: ni ddisgwiliasei chwaith wrthych 〈◊〉〈◊〉 ddydd i ddydd, ac o flwyddyn i flwyddyn. Nid yw y rhai hyn arwyddion o un yn ymho∣ffi yn eich marwolaeth. Pe buasei hôff gantho hyn hawsed y gallasei efe dy gael yn Vffern er ys talm fynyched y gllasei efe cyn hyn dy gip∣io d ymaith ynghanolion dy bechodau; a ••••••gen neu w neu gelwydd yn dy enau, yn dy anwybodaeth ah falchder a'th anlladrw▪ ydd: y pryd y bûst di ddiwathaf yn dy fd∣dwdd neu yn ddiwaethaf yn gwatwo ffyrdd Duw, hawsd y galasai ef attal dy chwyth, ath sobreiddio mewn byd arall? Och, leied

Page 59

peth fyddei ir hollalluog Arglwydd reoli ta∣fod y cablwr mwyaf halogaidd, a rhwyo dwylaw yr erlidiwr mileiniaf, neu ostegi cynddaredd y chwerwaf oi elynion a gwneu∣thur iddynt wybodd nad ydynt ond pry∣fedach? Pettau efe ond gwgu arnat ti a ddiferit ith fedd! Pe rhoddei efe awdur∣dod i ûn oi Angylion i fyned a difetha deng mil o bechadu laid gynted y gwneid hynny, hawsed y med efe dy fww ar dy wely o nychod a pheri i ti orwedd yno yn rhno gan ofid a gwneuthur i ti fwytaf y geiriau o wradwydd y rhai a adoddaist dy yn erbyn ei weision, ei air, ei addoliad ai ffyrdd sancteiddlân ef! ei gwneuhur yt anfon i erfyn gweddiu y cyfryw rai ac a ddirmygaist yn dy ryfyg! hawsed y medr ef osod dy gnawd tan ofidiau a gwewyr ai wneuthur yn rhy-gwn i gynal dy enaid, ai wneuthur yn ffieddi∣ach n a thom y ddaiar. Y cnawd yna yr hwn fôdd raid iddo yn awr gael y hyn y mae yn ei hoffi ac ni wasanaetha moi anfod∣loni ef pe rhân ac anfodloni Duw: Ond rhad yw porthi er fwmpwy ef mewn bwyd∣ydd diod a dillad, beth bynnag a ddywedo Duw ir gwrthwyneb: by sued yr ysau fy∣gylon Duw d! Pan oeddyt ti yn dy wy yn amddffi dy bechodau, ac yn cwerylu ar sawl a fynnasent dy dynny di oddiwrthynt, ac yn dangos dy agasrwydd yn erbyn yr argy∣oeddw, ac yn dadlu tros weihdoedd y tywyllwch hawsed y gallaei ef dy gippio di ymmaith mewn mynudyn; ath osod gar bron ti fw••••dd ofnadwy lle•••••• fi weled myrdd

Page 60

fyr¦ddiwn o Angylion gogoneddus yn sefyll gar bron ei orsedd¦faingc; A thithau gwedi dy alw yno i ddadlau ddadl, ac i ofyn i ti, Pa beth sydd gennyt yn awr iw lefaru yn erbyn dy Greawdwr, ei wirionedd, ei weision, ai ffyrdd sanctaidd? dadlau dy ddadl yn awr▪ a gwna o¦honi or¦eu ac a ellych: beth a fedri d ddywedyd yn awr i escusodi dy bechod? dyro gyfrif yn arw oth fydolrwydd ath fu∣chedd gnawdol, oth amser or holl druga∣reddau a gefaist. Ah pa wedd y toddei dy galon ystyfnig ac yr iselid dy olygon beil∣chion! ac y glasai dy wyneb pryd, ac y troid dy ddewr eiriau yn fûd distawrwydd neu yn oernâd ofnadwy, pettau Dduw ond dy osod fal hyn gar bron ei orseddfaingc, a dadlau a thi ei gwyn ei hûn yr hwn y darfu i ti yma ddadlau mor ysgeler iw erbyn! hawsed y gall efe pan fynno ddywedyd wrth dy e∣naid euog [Tyred ymmaith ac na bydded yt fyw mwyach yn y cnawd yna hyd yr ad∣gyfodiad] nid allai moi wrthwynebu. Gair oi enau ef a dynnai ymaith bwys dy einioes bresennol, ac yno dy holl ddoniau ath nerthoedd a safent heb ysgogi: Ac os dywaid efe wrthyt [Na bydded yt fyw yn hwy, neu byddfyw yn Vffern] nid ellir nad vfyddheir.

Eihr ni wnaeth Duw ddim or rhai hyn etto, ond efe a gyd ddygodd a thi yn ymyned∣dus, ac ath gynhaliodd yn drugarog, ac a roddodd i ti yr anadl hwnnw a anedlaist di yn ei erbyn ef: Ac a roddodd i ti y tru∣gareddau hynny a aberthaist di ith gnawd, ac a gys¦annodd i ti y lluniaeth hwnnw a

Page 61

weriaist di i fodloni dy gêg wangous; efe a roddes i ti bob munudynot amser hwnnw a ddifrodaist mewn segurud neu feddwdod neu fydol-fasnach: ac onid yw yr holl ymmynedd, ar drugaredd han yn dangos na chwenychodd efe moth ddamnedigaeth? A eill y llusern losgi heb olew? A eill eich tei∣au sefyll heb y ddaiar iw cynnal? Cystadl ag y gellwch chwithau fyw ûn-awr heb Dduw ich cynnal. A phaham y cynhaliodd ef dy einioes di cyhyd, ond i edrych pa bryd yr ystyrit folineb dy ffyrdd, ac y dychwelit a byw? A ddyru neb or gwir waith oddef ar∣fan yn nwylaw ei elyn iw wrthwynebu? Neu a ddeill ef y ganwyll i lofrudd ar sydd yn lladd ei blant ef, neu i segur∣wâs a chwratho neu a gysgo hyd yr am∣ser. Diau mai i edrych a ddychwelidi or diwedd a byw, y disgwiliodd Duw cyhyd wrthyt.

5. Fe a brofir ymhellach trwy ddioddefia∣dau ei fab: Nad yw Duw yn ymhoffi ym mu∣wolaeth yr annuwiol: A brynasei efe hwynt mor bid oddiwrth farwolaeth? A barasei efe i Angylion a dynion synnû oblegyd ei ymostyngiad? A fasei Dduw yn preswylio mewn cnawd, ac yn dyfod mewn agwedd gwâs, a chymeryd Dyndod ynghyd ar Duwdod yn un person, ac a fasei, Grist yn byw bywyd o ddioddefiadaû ac yn marw o farwolaeth felltigedig tros bechaduriaid, ped fasei: gwell gantho ymhoffi yn en marwolaeth hwynt? Bwriwch i chwi ei we∣led ef mor brysur yn pregethu ac yn i hi∣achau hwynt, fel y cewch ef ym, Ma. 3.21.

Page 62

neu cyhyd yn ymprydio, megis ym, Mat. 4 neu ar hyd y nôs yn gweddio megis yn Luc. 6.12. neu yn gweddio ar defnynnau gwaed yn difern oddiwrtho yn lle chwys, megis Luc. 22.44▪ neu yngodef marwolaeth felltigedig ar y groes, ac yn tywallt allan ei enaid megis aberth tros ein pechodau ni; A dybiech chwi fod y rhai hyn yn arwydd∣ion o ûn yn ymhyfrydû ym marwolaeth yr annuwiol?

Na feddyliwch chwaith wneuthur y peth yn llai trwy ddywedyd fôd hyn yn ûnig tros ei etholedigion. Canys dy bechod di y∣doedd, a pechodd yr holl fyd ai bwys ar ein Pryniawdwr, ai aberth ai iawn ef sydd ddi∣gonol tros bawb, ai ffrwythau ef a gynygir ir nail yn gystal ar llall. Eithr gwir yw, na bu erioed ei amcan nai fryd ef ar bar∣dynu na chadw neb ar na ddychwelei trwy ffydd ac edifeiwch. Pe gwelsych chwi ef ai glywed yn wylo ac yn gryddfannû oble∣gyd cyflwr pobl: anufydd anedifeirioli, Luc. 19.41.42. ac yn cwyno rhag eu hystyfni∣grwydd hwynt, megis, Mat. 23.37. Jeru∣salem, Jerusalem, pa sawl gwaith y mynnaswn gasclu dy blant ynghyd, megis y casel iâr ei chywion tan ei hadenydd ac nis mynnech? neu pe gwelsych ef ai glywed ar y groes yn gwe∣ddio taos ei erlidwyr [O Dâd maddeu idd∣ynt canys nis gwyddant beth y maent yni wneu∣thur] a f'asech chwî yn ammau i fôd ef yn ymhyfrydu ym marwolaeth yr annuwiol, ie y sawl ydynt golledig trwy eu gwirfodd anghrediniaeth? Pan ddarfu i Dduw felly garn (nid caru yn unig, ond felly garu)

Page 63

y byd, fel y rhoddodd efe ei ûnig-anedig fab, fel na choller pwy bynnag a gredo yno∣ddo ef (trwi ffydd efteithiawl) onid caffael o¦honaw fywyd tragywyddol mi a dy by∣gwn wrth hyn ddarfod iddo ef brofi yn er∣byn enllib dynion a chythreiliaid nad yw efe yn ymhoffi ym marwolaeth yr annuwi∣ol, ond yn hytrach ar iddynt Droi a Byw.

6. Yn olaf, os hyn oll ni fodlona mho∣noch etto, cymerwch ei Air ef yr hwn yn oren a wyr ei feddwl ef ei hûn neu or hyn lleiaf coeliwch ei lw ef: Eithr hyn sydd yn fy arwain at y bedwaredd Athraw∣iaeth.

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.