Page [unnumbered]
At yr oll Cembru ys ydd yn caru ffydd ei hen deidieu y Bri∣tanieit gynt: Rat, a' thangneddyf gan Dduw Tat ein Arglwydd Iesu Christ.
MEgis y mae yn ddiareb gan y metelwyr may goreu aur yw'r hen, ac mal y dywet yr ein y•• ydd yn trino hanas popul y byt, mae goreu cydymaith yw'r hen gydymaith: velly yr vn moð yr ei ys y yn dyval ymdreiglo yn yr Scry thur 'lan, sy yn dywedyt hwytheu may goreu ffydd yw'r ffydd hen, ys yr vn y prophwytodd y propwyti o hanei, yr hon a ddyscawdd Christ ai Apostolion ir popul yn eu hamser, a'r hon gwedy, a gadarnhaodd y Merthyron ai gwaed, gan testio gyd a hi, a' dyoddef pop artaith yd angeu. Ac am hynygwae'r nep ailw hon yn newyð, o ba vodd bynac y gwnel, ai o anwybod ai trwy wybot, yw dwyllo y hun ac y hudo'r bopul. At y ffydd hon yn ei Epistol yma vchot y maer anrrydedus Dat D.R.D. ail Dewi Menew yn ceisio eich gohawdd, eich llwybro, ach arwein oll am yr eneit. Nyt gw∣iw gwedy ef, yn enwedic y vn cyn eiddilet ei ddysc a myv•• yngan dim yn y devnydd y traethawdd ef o hanaw. Can ys pwy all cael dim bai arnaw, o ddieithyr am yddaw yn ol ac ver S. Paul, ac ymadrodd goisel cydnabyddus megis a llaeth wyt ych porthi chwi (yr ei yn wir nid ydych eto anyd 'rei by chein yn yr iawn ffydd) neu o ddyeithr yddaw yn ol addys•• S. Chrysostom eich bwydo chwi mor vanol a mamaeth na∣turiol yn bwydo hi phlentyn bop ychydic ac ychydic val y gwelo hi ef ei gwenyðu. Eithyr a's chwychwi trwy rat y ga•• vaethðrin cyfryw laethpwyt a gynnydwch y allu treul•• bwyt a vo dwysach a' ffyrfach, bid diau y cewch y roddy gar eich bron y cantho ef a i vroder eich Escyp eraill, trwy nerth Duw, yr hwn ach gwnel yn addas, yn barawt, ac yn wyll yscar y ymborth arno, Amen.
Eich car o waet yn ol y cnawt, ach brawt ffydd•••••• Christ Iesu, William Salesbury.