Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu, a'i cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys Archdiacon Meirionnydd,.

About this Item

Title
Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu, a'i cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys Archdiacon Meirionnydd,.
Author
Prys, Edmund, 1544-1623.
Publication
A'i printio yn Llundain. :: [s.n.],
1621..
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Bible. -- O.T. -- Psalms. -- Paraphrases, Welsh.
Psalters.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/B00918.0001.001
Cite this Item
"Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu, a'i cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys Archdiacon Meirionnydd,." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/B00918.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 11, 2024.

Pages

Cantate Domino. Psal. xcviij.

Annog pob creadur i foli Duw, am ei allu, a'i drugaredd, a ffyddlondeb ei gyfammod ynghrist, drwy'r hwn y mae ein cadwedigaeth ni.

CEnwch i'r Arglwydd newydd gân, ei waith fu lân ryfeddod: Ei law ddeau a'i fraich a wnaeth, in iechydwriaeth parod. [verse 2] Yr Arglwydd hysbys in' y gwnaeth ei iechydwriaeth gyhoedd, A'i gyfiownder ef yn dra hawdd datguddiawdd i'r cenhedloedd.
[verse 3] Fe gofiodd ei drugaredd hir, a'i wir i dy Israel, Fel y gwelodd terfynau'r byd ei iechyd yn ddiymgel. [verse 4] I'r Arglwydd â chaniad llafar, chwi yr holl ddaiar cenwch, A llafar lais, ac eglur lef, fry hyd y nef y lleisiwch.
[verse 5] Cenwch i'r Arglwydd Dduw fal hyn â'r delyn, a chywirdant: A chydâ'r delyn lais a thon, rhowch iddo gyson foliant. [verse 6] Canu yn llafar ac yn rhwydd, o flaen yr Arglwydd frenin: Ar yr vccyrn, a'r chwythgyrn pres, fal dyna gyffes ddibrin.
[verse 7] A rhued y mor mawr i gyd, a'r byd, ac oll sydd ynthynt, [verse 8] Y llifddyfroedd, a'r mynyddoedd, y mae yn addas iddynt. [verse 9] Curant, canant, o flaen Duw cu, yr hwn sy'n barnu'r bydoedd. I'r byd y rhydd ei farn yn iawn, ac yn vniawn i'r bobloedd.
Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.