Deus vltionum. Psal. xciiij.
Gweddi at Dduw yn erbyn y gorthrym∣wyr, a chysur i'r gorthrymedig.
O Arglwydd Dduw, Duw mawr ei rym,
dialwr llym pob traha,
O Dduw y nerth, ti biau'r tâl,
a'r dial, ymddisgleiria.
[verse 2] Ymddercha di farnwr y byd,
a thâl i gyd eu gobrwy,
I'r beilchion a'r trahaus dod,
y tâl a fo dyladwy.
[verse 3] Ba hyd? (o Arglwydd) o ba hyd,
y chwardd gwyr byd drygionus?
[verse 4] Yr ymfalchiant yn eu drwg,
gan fygwth amlwg ffrostus?
[verse 5] A'th bobl di (Arglwydd) a faeddant,
a chystuddiant dy dretâd,
[verse 6] Y weddw, a'r dieithr a laddant,
lliasant yr amddifad.
[verse 7] Dwedasant hyn heb geisio cel,
ein gwaith ni wel yr Arglwydd,
Ac ni ddeall Duw Iago hyn,
ynny ni ddisgyn aflwydd.
[verse 8] Ymysg y bobloedd difraw don,
ystyriwch ddynion angall,
Chwithau ynfydion, o ba bryd
y rhowch eich bryd ar ddeall?
[verse 9] Hwn a wnaeth y glust i bob byw,
oni chlyw ef yn amlwg?
Ac oni wyl hwnnw yn hawdd
a luniawdd i ni olwg?
[verse 10] Oni cherydda hwnnw chwi
sy'n cosbi pob cenhedlaeth?
Ac oni wyr hwnnw y sy'n
dysgu i ddyn wybodaeth?
[verse 11] Gwyr yr Arglwydd feddyliau dyn
mai gwagedd ydyn diffaith,
[verse 12] Duw, dedwydd yw a gosbech di,
a'i fforddi yn dy gyfraith:
[verse 13] Yr hon a ddysg i ddyn warhau,
i fwrw dyddiau dihir,
Tra foer yn darparu y clawdd,
y fan y bawdd yr enwir.
[verse 14] Cans ein Ior ni ei bobl ni âd,
a'i wir dretâd ni wrthyd,
[verse 15] Ef at iawn farn a gadarnhâ,
a phob dyn da a'i dilyd.
[verse 16] Pwy a gyfyd gyda myfi,
yn erbyn egni trowsedd?
Pa rai a safant ar fy nhu
yn erbyn llu anwiredd?
[verse 17] Oni bai fod Duw imi yn borth,
ac ystyn cymorth imi,
Braidd fu na ddaethai ym' y loes
a roesai f'oes i dewi.
[verse 18] Pan fawn yn cwyno dan drymhau,
rhag bod i'm camrau lithro.
Fy Arglwydd, o'th drugaredd drud,
di a'm cynhelud yno.
[verse 19] Pan fo ynof' amlaf yn gwau,
bob rhyw feddyliau trymion,
Doe dy ddiddanwch di ar dro,
i gysuro fy nghalon.
[verse 20] A oes gyfeillach i ti Dduw,
a maint yr annuwolion?