I'th gadarn faingc o oed i oed,
mi a rof bob troed yn wastad.
[verse 5] Am hyn y siccrwyd tragwyddawl
y nef o fawl dy wyrthiau:
Yngorsedd Sainct, ynghyrchfa hedd,
am bur wirioned d'eiriau.
[verse 6] Pwy sydd cystal â'n harglwydd cu,
pe chwilid llu'r wybrennau?
Ymysg Angylion pwy mal Ion,
sef ymhlith meibion duwiau?
[verse 7] Drwy gynulleidfa ei Sainct ef,
Duw o'r nef sydd of nadwy:
A thrwy'r holl syd o'n hamgylch ni,
i ofni sydd ddyladwy.
[verse 8] Pwy sydd debig i ti Dduw byw,
o Arglwydd Dduw y lluoedd?
Yn gadarn Ior, a'th wir i'th gylch,
o amgylch yr holl nefoedd.
[verse 9] Ti a ostyngi y mor mawr,
a'r don hyd lawr yn ystig:
[verse 10] A nerth dy fraich curi dy gâs,
yr Aipht, fal gwâs lluddedig,
[verse 11] Eiddod nef a daiar i gyd,
seiliaist y hyd a'i lanw:
[verse 12] Gogledd, deau, Tabor, Hermon,
sy dirion yn dy enw.
[verse 13] I'th fraich mae grym', mae nerth i'th law,
a'th gref ddeheulaw codi:
[verse 14] Nawdd a barn yw dy orsedd hir,
a nawdd a gwir a geri.
[verse 15] Eu gwnfyd i'r holl bobl a fydd,
a fo'i llawenydd ynod:
Ac yn llewych dy wyned glân
y rhodian i gyfarfod.
[verse 16] Yn d'vnig enw di y cânt,
fawl a gogomant beunydd,
Yn dy gyfiownder codi'a wnânt,
ac felly byddant ddedwydd.
[verse 17] Cans ti wyd gryfder eu nerth hw••
lle y caffent fwy o dycciant:
Dydi a ddarchefi eu cyrn,
ac felly cedyrn fyddant.
[verse 18] Cans o'r Arglwydd a'i ddaioni,
y daw i ni amddiffin:
O Sanct Israel drwy ei law,
oddiyno daw ein brenin.
[verse 19] I'th sanct y rhoist gynt wybodaeth
drwy weledigaeth nefol:
Gosodais gymorth ar gryf gun,
derchefais vn dewisol.
[verse 20] Cefais (eneiniais ef yn ol)
fy ngwâs dewisol Dafydd
Ag olew sanct: 21 Braich a llâw gref,
rhoist gyd ag ef yn llywydd.
[verse 22] Ni chaiff gelyn ei orthrymmu,
na'i ddrygu vn mab enwir:
[verse 23] O'i flaen y coetha'i elynion,
a'i holl gascion dihir.
[verse 24] Fy ngwirionedd, a'm trugaredd,
rhof fi trwy gariad iddo,
Ac yn fy enw fi'yn ddi orn,
dyrchefir ei gorn efo.
[verse 25] Gosodaf ei law ar y mor,
ac o'r goror bwygilydd:
A gosodaf ei law ddeau,
hyd terfynau'r afonydd.
[verse 26] Ef a weddia arnaf fi
iw galedi, gan ddwed••d,
Ti yw fy nhad fy Nuw, fy ngharn,
yn gadarn o'm ieuenctyd.
[verse 27] Minnau gwnaf yntau im yn fab,
yn gynfab ac etifedd,