Page [unnumbered]
Domine Deus. Psal. lxxxviij.
Y ffydloniaid yn eu cystudd yn galw ar Dduw drwy ffydd.
O Dduw fy Iechyd, nos a dydd,
mae 'ngweddi 'n ufydd arnad,
[verse 2] Gostwng dy glust, o Arglwydd nef,
a doed fy llef hyd attad.
[verse 3] Cans mae fy enaid mewn dull caeth,
a'm heinioes aeth i'r beddrod:
[verse 4] Fel gwr marw y rhifwyd fi,
a'm nerth oedd wedi darfod.
[verse 5] Mor farw a rhai wedi eu llâdd,
a'i taflu'nglhâdd mewn angof,
A laddyt di mor siwr a hyn,
na bai byth honyn atgof.
[verse 6] Gosodaist fi mewn dyfnder trwch,
ac mewn tywyllwch eithaf.
[verse 7] Rhoist vwys dy ddig ar y corph mau,
a'th holl for-donnau arnaf.
[verse 8] Pellheist fy holl gydnabod da,
r'wy fyn ffieidd-dra iddyn:
Ni chaf fi fyned at vn câr,
yr wyfmewn carchar rhydyn.
[verse 9] Y mae fy ngolwg (gan dy lid)
mewn gofid o fawr gystydd.
Duw llefais arnad yn fy mraw,
gan godi 'nwylaw beunydd.
[verse 10] Ai i'r meirw dangosi wyrth?
a ddont i'th byrth i'th foli?
[verse 11] A draethir dy fawl yn y bedd,
a'th ni lân wirionedd heini?
[verse 12] Ai mewn tywyll y mae dy râd?
a'th iowndeb yng wlâd angof?
[verse 13] Fal hyn (Duw) llefais arnat ti,
o clyw fy ngweddi etto.
[verse 14] Pam (o f'Arglwydd a'm Duw) i'm rhaid
y rhoi f'enaid ar wrthod?
Ac y cuddi dy wyneb pryd?
fy nghoel i gyd sydd ynod.
[verse 15] Truan ymron marwolaeth wyf,
mewn trymglwyf o'm ieuenctyd:
A'th ofni bum yn nychbeth gwael,
gan ammau cael mo'r iechyd.
[verse 16] Dy ddig a lifodd drosof fi,
d' ofn sydd i'm torri 'n efrydd,
Fel deifry daethant yn fy nghylch,
do, do, o'm hangylch beunydd.
[verse 17] Ymhell oddiwrthyf rhoist bob câr,
pob cyfaill hygar heibio,
A'm holl gydnabod a fu gynt,
yr ydynt yn ymguddio.