Exultate Dom. Psal. lxxxi.
Cyngor i foli Duw am ei ddaioni, ac i gydnabod â'n anniolchgarwch,
O Cenwch fawl i Dduw ein nerth,
cerdd brydferth cenwch iddo:
A llafar lais, a genau ffraeth,
gerddwriaeth i Dduw Iago.
[verse 2] Cymerwch gathl y psallwyr lân,
a moeswch dympan hefyd:
A cheisiwch ganu gydâ hyn
y nabl a'r delyn hyfryd.
[verse 3] Cenwch vdcyrn arloer newydd,
y pryd sydd nodol iddo:
[verse 4] Sefdeddf yw hon ar wyl vchel,
Duw Israel ac Iago.
[verse 5] Yn Ioseph clymmodd hyn yn ddysg,
pan ddaeth ofysg yr Aiphtwyr:
Lle clywais iaith oedd ddieithr im',
heb ddeall dim o'i hystyr.
[verse 6] Dwedodd fy Nuw: drwy nerth fy mraich
tynnais faich eich ysgwyddau:
Ac felly tynnais eich dwy law,
i 'madaw a'r ffwrneisiau.
[verse 7] I'th flinder gelwaist arnaf fi,
gwaredais di sut yma:
Wrth lais taran fy mrhofiad oedd,
ynglan dyfroedd Meribba.