[verse 4] Ymgasglent, llunient gelwydd mawr,
iw roi i lawr o'i fowredd,
Ar eu tafodau rhoi bendith
a melidith dan ei dannedd.
[verse 5] Fy enaid dod (er hyn i gyd)
ar Dduw dy fryd yn ddyfai,
Ynto gobeithiaf fi er hyn,
efo a'm tyn o'm gofal.
[verse 6] Sef craig ymddiffyn yw ef ym',
fy' nhwr, a grym fy mywyd,
Am hynny y credaf yn wir
na'm mawr ysgogir ennyd.
[verse 7] Yn Nuw yn vnig mae i gyd,
fy iechyd, a'm gogoniant,
Fy nghraig yw, a'm cadernid maith▪
a'm gobaith yn ddilyssiant.
[verse 8] Gobeithiwch yntho: gar ei fron
tywelltwch galon berffaith,
Ac ymddiriedwch tra foch byw:
a dwedwch, Duw yw'n gobaith.
[verse 9] Plant Adda, gwagedd ynt i gyd,
plant gwyr sydd hud a gwegi,
Gwagach na gwagedd yn eu tawl,
mewn mantawl wrth eu codi.
[verse 10] Na rowch eich coel ar gam na thrais,
rhaid yw i falais drwccio:
Os cynnydda cyfoeth y byd
na rowch mo'ch goglyd arno.
[verse 11] Duw a lesarodd hyn vnwaith,
mi a glywais ddwywaith hynny,
Sef, mai Duw biau'r nerth i gyd,
gostyngiad byd, neu ffynnu.
[verse 12] O Arglwydd, ti hefyd a fedd
drugaredd a daioni,
I bawb dan gwmpas wybren faith,
yn ol ei waith y teli.