[verse 2] Fy Nuw, fy ngobaith, gwarth ni châ,
na lawenhâ 'ngelynion:
[verse 3] Sawl a obeithiant ynot ti,
y rhei'ni ni wradwyddir,
Gwarth i'r rhai a wnel am i ham
ryw dwyll neu gam yn ddihir.
[verse 4] Arglwydd dangos ym' dy ffordd di,
a phâr i mi ei deall:
Dysg ac arwain fi yr vn wedd
yn dy wirionedd diball.
[verse 5] Cans tydi ydwyd Dduw fy maeth,
a'm iechydwriaeth vnig.
Dy ddisgwyl yr wyf rhyd y dydd,
a hynny fydd i'm diddig.
[verse 6] O cofia dy nawdd a'th serch di,
a'th fawr dosturi Arglwydd,
Cofia fod ynot ti erioed,
lawn ddioed drugarogrwydd.
[verse 7] Na chofia yr enwiredd mau,
na llwybrau fy ieuenctyd:
Ond Arglwydd, coffa fy nghur i
er dy ddaioni hyfryd.
[verse 8] Yr Arglwydd sydd vnion a da,
a'i ffyrdd ym noddfa ydynt:
Fe arwain, (fel y mae yn rhaid)
y pechaduriaid ynthynt.
[verse 9] Fe ddysg ei lwybrau mewn barn iawn,
i'r rhai vfyddiawn ystig,
Hyddysg yw ei ffyrdd i bob rhai
a fyddai ostyngedig.
[verse 10] I'r sawl a gatwo ddeddfau'r Ion,
a'i vnion dystiolaethau,
Gwirionedd, a thrugaredd fydd
ei lywydd yn ei lwybrau.
[verse 11] Er mwyn dy enw (o Arglwydd man)
Duw maddau fy enwiredd,
Cans fy nrhoseddiad i mawr yw,
mwy ydyw dy drugaredd.
[verse 12] Mae, pa ryw wr yn ein mysg ni
sydd yn pur ofni'r Arglwydd?
Fe ddengys y ffordd iddaw fo,
hon a ddewiso'n ebrwydd.
[verse 13] O hyn y caiff fy enaid cu
le i letteu'n esmwyth:
A'r holl ddaear hon a'i gwellâd,
a gânt ei hâd a'i dylwyth.
[verse 14] Ei holl ddirgelwch a ddysg fo,
i'r fawl a ofno'r Arglwydd:
Ac oi' holl gyfan neddau glân,
efe a'i gwna'n gyfarwydd.
[verse 15] Tueddu'r wyf fy Arglwydd mâd,
yn wastad â'm golygon:
Cans ef yn vnic, (yn ddi oed)
rhydd fy nau droed yn rhyddion.
[verse 16] Tro attaf, dod y'm nawdd diddig,
cans vnic wyf, a rhydlawd.
[verse 17] Gofidiau 'nghalon ynt ar led,
Duw gwared fi o'm nychdawd.
[verse 18] Duw, gwel fy mlinder, a'm poen fawr,
a madde'n awr fy mhechod:
[verse 19] Gwel fy ngelynion a amlhânt,
ac a'm casânt yn ormod.
[verse 20] Cadw f'enaid, ac achub fi,
na wnelo'r rheim 'm wradwydd:
Rhois fy mhwys arnat ti fy Nâf,
a rhodiaf mewn perffeithrwydd.
[verse 21] Cadwed fi fy vniondeb maith,
cans rhois fy ngobaith ynod.
[verse 22] Duw, cadw di holl Israel,
gwared, a gwel ei drallod.