Laudate Dominum. Psal. 150.
Mae yn annog i foli Duw yn ddibaid â phob cerdd, am ei weithredoedd mowrion.
MOlwch Dduw yn ei gyssegr len,
sef ei ffurfafen nerthol,
[verse 2] Molwch ef iw gadernid llym,
ac amlder grym rhagorol.
[verse 3] Ar lais vdcorn rhowch y mawl hyn,
ar nabl, telyn, Tympan.
[verse 4] Molwch chwi ef â llawn glod glau,
a thannau, pibell, organ.
[verse 5] Ar y symbalau molwch ef,
ar rhai'n â'i llef yn sein-gar:
O molwch ef â moliant clau,
ar y Symbalau llafar.
[verse 6] Holl bethau (molent vnduw byth)
sydd ynthynt cwyth y bywyd.
Rhoent gyd gerdd foliant i barhau:
clod-forwn ninnau hefyd.
Gogonedd a fytho i'r Tâd,
i'r Mab rhad a'r glân Yspryd:
Mal y bu, y mae, ac y bydd
vn Duw tragywydd hyfryd.