Page 65
Domine clamaui. Psai. 141.
Dafydd pan oedd Saul yn ei erlid, yn dymuno help gan Dduw: a diodd∣efgarwch, nes passio 'r erlid hwnnw.
O Bryssia Arglwydd, clyw fy llais,
o brysur gelwais arnad;
O'r man lle'y bwyf gwrando fy llef,
a doed i'r nef hyd attad.
[verse 2] Fy ngweddi gar dy fron a ddaw,
gan godi dwylaw'n vchel,
Yn arogl darth ac aberth hwyr,
fel vnion ddiwyr lefel.
[verse 3] O Arglwydd gosod, rhag gair ffraeth,
gadwriaeth ar fy ngenau,
Rhag i'm gam-ddwedyd, gosod ddor
ar gyfor fy ngwefusau.
[verse 4] Na phwysa 'nghalon at ddrwg beth,
ynghyd-bleth â'r annuwiol:
Nag mewn cydfwriad gwaith neu wedd,
rhag twyll eu gwledd ddaintethol.
[verse 5] Boed cosp a cherydd y cyfiawn,
fel olew gwerthlawn arnaf;
Ni friw fy mhen, bo mwyaf fo,
mwy trosto a weddiaf.
[verse 6] Eu barnwyr pe bwrid i'r llawr,
ar greigiau dirfawr dyrys:
Gwrandawent ar f'ymadrodd i,
a chlywent hi yn felys.
[verse 7] Fel darnau cynnyd o goed mân,
a fwrian rhyd y ddaiar,
Mae'n hesgyrn ninnau yr vn wedd,
ym mron y bedd ar wasgar.
[verse 8] Mae 'ngolwg a'm holl obaith i,
Duw, arnat ti dy hunan:
Duw bydd di'n vnic yn fy mhlaid,
na fwrw f'enaid allan.
[verse 9] Cadw fi Arglwydd rhag y rhwyd,
hon a osodwyd ymy,
Telm yr annuwiol, hoenyn main,
rhag ofn i'r rhai'n fy magly.
[verse 10] Yr anwireddwyr b'ado vn,
cwympant eu hun iw rhwydau,
Ymddiried ynot ti a wnaf,
ac felly diangaf innau.