Page [unnumbered]
Laudate nomen. Psal. 135.
Cyngor i'r ffyddloniaid i foli 'r Arglwydd am ei ddaioni yn gwara∣wyddo addolwyr culynnod.
O Molwch enw'r Arglwydd nef,
ei weision ef moliennwch,
[verse 2] Y rhai a saif iw dy a'i byrth,
i'n Duw a'i fawrwyrth cenwch.
[verse 3] Molwch yr Arglwydd, cans da yw,
clod i'r Ior byw a berthyn:
Cenwch ei glod dros yr holl fyd,
a hyfryd yw y destyn.
[verse 4] Oblegid yr Arglwydd, a'i nawdd,
ef a etholawdd Iaco,
Ac Israel, iw mysg y trig,
yn deulu vnic iddo.
[verse 5] Cans mawr yw'r Arglwydd yn eilys,
mi a wn yn hysbys hynny:
Ym mhell vwchlaw'r holl dduwiau mân,
mae r Arglwydd glân a'i allu.
[verse 6] Hyn oll a fynnodd a wnaeth ef,
yn vchder nef eithafon:
Ar ddaiar, ac yn y mor cau,
a holl ddyfnderau 'r digion.
[verse 7] O eithaf daiar cyfyd tarth,
daw'r mellt o bobparth hwythau,
Ac oer dymestloedd, glaw, a gwynt,
a godynt o'i drysorau.
[verse 8] Yn nhir yr Aipht dynion, a da,
â llawer pla y trawodd,
Cyntaf-anedig o bob vn,
â'i law ei hun a laddodd.
[verse 9] I'th ganol di, o Aipht greulon,
rhoes Duw arwyddion rhyfedd,
Ar Pharo' a'i holl weision i gyd:
dug drwy'r holl fyd orfoledd▪
[verse 10] O nerth ei fraich efe a wnaeth,
lawer cenhedlaeth feirwon:
A lladdodd lawer yr vn wedd
o ben brenhinedd cryfion.
[verse 11] Sef o'r Amoriaid Sehon fawr,
ac Og, y cawr o Basan:
A'r vn ddinystriad arnynt aeth,
a holl frenhiniaeth Canan.
[verse 12] A'i holl diroedd hwyntwy i gyd,
gyd â'i holl fywyd bydol,
I Israel i roi a wnaeth
yn etifeddiaeth nerthol.
[verse 13] Dy Enw (o Arglwydd) a'th nerth cry',
a bery yn dragywydd,
Ac o genedl i genedl aeth
dy goffadwriaeth, lywydd.
[verse 14] Cans ar ei bobl y rhydd ef farn,
yr Arglwydd cadarn cyfion,
Ac yn ei holl lywodraeth bur,
bydd dostur wrth ei weision.
[verse 15] Y delwau oll, gwaith dwylaw yn,
a dyfais dyn anffyddlon;
O aur ac arian dyn a'i gwnaeth,
o hil cenhedlaeth weigion,
[verse 16] O waith dyn, genau rhwth y sydd,
heb ddim llyferydd iddyn:
Ac mae llun llygaid mawr ar lled,
a'r rhai'n heb weled gronyn.
[verse 17] Dwy glust dynion sydd i bob vn,
heb glywed mymryn etto,
Eu safn yn ehang, ac ni chaid
na chwyth, nag enaid yntho.
[verse 18] Vn fodd a'r delwau fydd y rhai
a'i gwnelai hwynt â'i dwylo,
Ac nid yw well nâ'r rhai'n yr vn,
ynthyn a ymddirietto.