[verse 6] Wele'n Ephrata clywsom fod
lle o breswylfod iddo.
Cawsom hi ym meusydd y coed.
[verse 7] Pawb doed iw bebyll tirion,
Awn, ymgrymwn, pawb vfyddhaed,
wrth ei faingc draed yn vnion.
[verse 8] F'arglwydd, cyfod i'th esmwyth lys,
a'th arch o rymmus fowredd.
[verse 9] Gwisged d'offeiriaid gyfion fraint,
gwisged dy Sainct wirionedd.
[verse 10] Er mwyn Dafydd dy ffyddlon wâs,
na thyn dy râs yn llidiog:
Ac na wrthneba di er neb,
mo wyned dy enneiniog.
[verse 11] I Ddafydd rhoes yr Ion lw gwir,
a chedwir hwn heb wyredd:
O ffrwyth dy gorph rhof ar dy faingc,
yt iraidd gaingc i eistedd.
[verse 12] Fy neddfau a'm cyfammod i,
dy feibion di os cadwant;
O blann i blann o gaingc i gaingc,
hwy ar dy faingc a farnant.
[verse 13] Cans fy Arglwydd, o serch a bodd,
a rag-ddewisodd Seion:
I drigo ynthi rhoes ei fryd,
gan ddwedyd geiriau tirion;
[verse 14] Hon fyth fydd fy ngorphwysta i,
o hoffder ynthi trigaf.
[verse 15] Bendithiaf hi â bwyd di ball,
a'i thlawd diwall o fara.
[verse 16] Ag iechydwriaeth, medd Duw naf,
y gwisgaf ei heglwyswyr,
A rhoddaf yngenau pob Sanct
o'i mewn, ogoniant psallwyr.
[verse 17] Paraf hyn oll, ac felly y bydd,
corn Dafydd yn goronog:
Felly darperais, gan fy mhwyll,
brif ganwyll i'm eneiniog.
[verse 18] Am ei elynion, o bob parth,
y gwiscaf warth a gwradwydd,
Paraf hefyd iw goron fo
flodeuo: medd yr Arglwydd.