Saluum me fac. Psalm. xij.
Wrth weled anllywodraeth, y mae efe yn prophwydo, pan addfe••o drygioni, y daw tro gwell.
〈♫〉〈♫〉 O Achub bellach Arglwydd cu,
〈♫〉〈♫〉 fe ddarfu'r trugarogion:
〈♫〉〈♫〉 A'r holl wirionedd a'r ball aeth
〈♫〉〈♫〉 o blith hiliogaeth dynion.
[verse 2] A gwefus gweniaith dwedant ffug,
er twyll a hug i'r eiddyn:
A chalon ddyblyg yr vn wedd
y cair oferedd ganthyn.
[verse 3] Yr Arglwydd torred o'i farn faith
wefusau'r gweniaith diles:
A'r holl dafodau ffrostus iawn
a fytho llawn o rodres.
[verse 4] Gallwn orfod o nerth tafod,
dwy wefus y sydd eiddom:
Fal hyn y dwedant hwy yn rhwydd,
a phwy sydd Arglwydd arnom?
[verse 5] Yntau ein Duw a ddwedodd hyn,
rhag llethu'r gwaelddyn codaf:
Y dyn gofidus, tlawd, a'r caeth,
mewn iechydwriaeth dodaf.
[verse 6] Pur iawn yw geiriau'r Arglwydd nef
a'i 'ddewid ef sydd berffaith,
Fel arian o ffwrn, drwy aml dro
wed'i goeth buro seithwaith.
[verse 7] Ti Arglwydd, yn ol dy air di,
a'i cedwi mewn hyfrydwch
Byth rhag y ddrwg genhedlaeth hon,
dy weision i gael heddwch.
[verse 8] Pan dderchafer y trowsion blin,
da ganthyn drin anwiredd:
Felly daw dynion o bob parth
i fwyfwy gwarth o'r diwedd.