Nisi Dominus. Psal. 127.
Nad synwyr dyn na'i boen, ond trugaredd Duw, sy yn cadw, ac yn dwyn i ben bob peth.
Y Ty ni adeilado'r Ner,
ai'n ofer gwaith y saeri;
A'r ddinas hon nis ceidw efo,
ni thyccia gwilio ynthi.
[verse 2] Os borau godi, os hun hwyr,
a byw drwy lwyr ofidio,
Ofer i gyd: Duw a rydd hun
i bob rhyw vn a'i caro.
[verse 3] Wele, y plant a roir i ddyn,
hiliogaeth yn i'r Arglwydd:
Ac o'i rodd ef daw ffrwyth y bru,
iw magu mewn sancteiddrwydd.
[verse 4] Fel gwr cryf, ple bynnag y daw,
ac yn ei law ei saethau:
Plant yr ieuenctyd felly y maen
yn barch o flaen y tadau.
[verse 5] Sawl honynt sydd a'i gwifr yn llawn,
mae'n ddedwydd iawn ei foddion;
Hwy nis gwradwyddir pan ddel man
i'mddiddan â'r gelynion.