Beth. Iu quo corriget. Rhan. 2.
[verse 9] Pa fodd (o Dduw) y ceidw llangc,
sydd ieuangc, eu holl lwybrau?
Wrth ymgadw yn ol dy air,
pob llwybr a gair yn olau.
[verse 10] Dy orchmynion â'm holl galon,
a'i dirgelwch ceisiais oll,
O lluddias fi ar ofer hynt,
oddiwrthynt ar gyfyrgoll.
[verse 11] I'm calon cuddiais dy air cu,
rhag imi bechu'n d'erbyn:
[verse 12] O Arglwydd bendigaid wyt ti,
o dysg i mi d'orchymmyn.
[verse 13] Dy gyfiawn feirn, a'r gwir air tan,
a mawl gwefusau traethais.
[verse 14] A'th dystiolaethau di igyd,
vwch holl dda'r byd a hoffais.
[verse 15] Dy ddeddf fy myfyr yw a'm drych,
dy ffyrdd'r wy'n edrych arnyn.
[verse 16] Mor ddirgrif ymy yw dy air,
o'm cof nis cair vn gronyn.