Caph. Defecit anima mea. Rhan. 11.
[verse 81] Gan ddisgwyl am dy iechyd di,
mae f'enaid i mewn diffig
Yn gwilied beunydd wrth dy air,
o Arglwydd cair ff'n ddiddig.
[verse 82] Y mae fy llygaid mewn pall ddrych
yn edrych am d'addewyd,
Pa bryd (o Arglwydd, dwedais i)
i'm ddiddeni â'th iechyd?
[verse 83] Cans wyf fel costrel mewn mwg cau:
cofiais dy eirian cyfion.
[verse 84] Pa hyd yw amser dy wâs di?
Pa bryd y berni'r trowsion?
[verse 85] Cloddiai'r beilchion i'm byllau: hyn
sy'n erbyn dy gyfreithiau.
[verse 86] Gwirionedd yw d'orchmynion di,
cymmorth fi rhag cam faglau.
[verse 87] Braidd na'm difent o'r tir ar gais:
ond glynais wrth d'orchmynion.
[verse 88] Bywha fi Dduw, i gadw'yn glau,
dystiolaeth d'enau ffyddlon.