Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu, a'i cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys Archdiacon Meirionnydd,.

About this Item

Title
Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu, a'i cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys Archdiacon Meirionnydd,.
Author
Prys, Edmund, 1544-1623.
Publication
A'i printio yn Llundain. :: [s.n.],
1621..
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Bible. -- O.T. -- Psalms. -- Paraphrases, Welsh.
Psalters.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/B00918.0001.001
Cite this Item
"Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu, a'i cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys Archdiacon Meirionnydd,." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/B00918.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 12, 2024.

Pages

Non nobis Domine. Psal. 115

Y bobl a orthrymid gan dywyso∣gion annuwiol, yn addo bod yn ddi∣olchga, os Duw a wrandawai ei gwe∣ddiau, ac a i gwaredai hwynt.

NId ini Arglwydd, nid i ni, y dodi y gogonedd, Ond i'th enw dy hun yn hawdd, er mwyn dy nawdd a'th wiredd. [verse 2] Pa'm y dwedant am danat ti y cenedlaethi estron: A thrwy edliw hynny yn fwy, ple'y mae'u Duw hwy yr awron?
[verse 3] Sef ein Duw ni mae yn y nef, lle y gwnaeth ef a fynnodd. [verse 4] Eu delwau hwy, aur, arian yn, a dwylo dyn a'i lluniodd. [verse 5] Safn heb draethu: llun lygaid glân, y rhai'n ni welan ronyn: [verse 6] Trwyn heb arogl, clustiau ar lled heb glywed, y sydd ganthyn.

Page [unnumbered]

[verse 7] Ac i bob delw y mae dwy law heb deimlaw, traed heb symyd: Mae mwnwgl iddynt heb roi llais, fal dyna ddyfais ynfyd. [verse 8] Fel hwyntwy ydyw' rhai â'i gwnant, a'r rhai a gredant iddynt: Am hyn ni ddylai neb drwy gred roi mo'i ymddiried arnynt.
[verse 9] O Israel, dod ti yn rhwydd ar yr Arglwydd dy hollfryd, Ef yw eu nerth a'i dwg i'r lan, eu porth a'i tarian hefyd. [verse 10] O ty Aron, dod tithau'n rhwydd, ar yr Arglwydd dy hollfryd: Ef yw eu nerth a'i dwg i'r lan, eu porth a'i tarian hefyd.
[verse 11] Rhai a ofnwch yr Arglwydd Ion, rhowch arno'ch vnion hollfryd. Efe yw'r neb a'ch dwg i'r lan, eich porth a'ch tarian hefyd. [verse 12] Duw naf a'n cofiodd, ac i'n plith fo roes ei fendith rhadlon: I dy Israel rhydd ei hedd, ac vnwedd i dy Aaron.
[verse 13] Sawl a'i hofnant bendithiant ef, Yr Arglwydd nef canmolan, A'i Enw sanct o'r nef i'r llawr, bendithied mawr a bychan: [verse 14] Yr Arglwydd arnoch, arnoch chwi, a wna ddaioni amlach: Ac a chwanega ar eich plant ei fwyniant yn rymusach.
[verse 15] Y mae ywch fendith a mawr lwydd, gan y gwir Arglwydd cyfiawn, Yr hwn a wnaeth y nefoedd fry, ar ddayar obry yn gyflawn. [verse 16] Y nef, ie'r nefoedd vwchlaw, sy yn eiddaw Duw yr Ion, A'r ddaiar, lle y preswyliant, a roes ef i blant dynion.
[verse 17] Pwy a folant yr Arglwydd? pwy? gwn nad hwyntwy y meirwon, Na'r rhai a ânt i'r bedd yn rhwydd, lle y mae distawrwydd ddigon. [verse 18] Ond nyni daliwn yn ein cof fyth fyth fendithio'r Arglwydd. Molwch yr Arglwydd yn vn wedd, â mawl gyfannedd ebrwydd.
Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.