Beatus vir. Psal. 112.
Mawl dedwyddwch y rhai a ofnant Dduw. A dangos melldith iw ddir∣mygwyr ef.
DEdwyddol yw mewn buchedd dda,
y sawl a ofna'r Arglwydd,
A'i orchymynion anwyl ynt,
bydd iddo helynt hylwydd.
[verse 2] Ei hâd fydd nerthol yn y tir,
bendithir hil rhai vnion:
[verse 3] Golud chyfoeth yn ei dy,
tros byth y pery'n gyfion.
[verse 4] Yr vnion yn y tywyll cau
caiff fodd i olau weled:
Ystyriol a thosturiol iawn,
a chyfiawn fydd ei weithred.
[verse 5] Gwr da a fydd trugarog fwyn,
rhydd echwyn a chymwynas,
A'i air mewn pwyll a barn a rydd,
a'i weithred sydd yn addas.
[verse 6] Ni' sgogir byth y cyfiawn, gwna
ei goffa yn dragywydd;
[verse 7] A chalon ddissgl, ddwys, ddiofn,
a sail ddofn yn yr Arglwydd.
[verse 8] Hwn yn nerth Duw diofnog fydd,
ac atteg sydd iw galon:
Hyd oni chaffo drwy lawn wys,
ei wyllys o'i elynion.
[verse 9] Rhannodd a rhoes i'r tlawd yn hy,
byth pery ei gyfiownedd,
A chryfder ei goron yn wir,
dyrchefir mewn gogonedd.
[verse 10] Yr anwir edrych, ffromma o ddig,
drwy ffyrnig ysgyrnygiad▪
Yr annuwiol a dawdd: fal hyn
fydd terfyn eu dymuniad.