Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu, a'i cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys Archdiacon Meirionnydd,.

About this Item

Title
Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu, a'i cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys Archdiacon Meirionnydd,.
Author
Prys, Edmund, 1544-1623.
Publication
A'i printio yn Llundain. :: [s.n.],
1621..
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Bible. -- O.T. -- Psalms. -- Paraphrases, Welsh.
Psalters.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/B00918.0001.001
Cite this Item
"Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu, a'i cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys Archdiacon Meirionnydd,." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/B00918.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 5, 2024.

Pages

Confitebor tibi. Psal. 111.

Y mae efe yn y psalm hon yn diolch i Dduw am ei aml weithredoedd da i'r eglwys, gan ddangos beth yw iawn ddoethineb a gwybodaeth.

CLodforaf fi fy Arglwydd Ion, o wyllys calon hollawl, Mewn cynnulleidfa gar eu bron, mewn tyrfa gyfion rasawl. [verse 2] Mawr iawn yw gwrthiau'n Arglwydd ni hysbys i bawb a'i hoffant. [verse 3] Ei waith a'i iownder pery byth, a'i wehelyth ogoniant.
[verse 4] Yr Arglwydd a wnaeth ei goffau, am ryfeddodau nerthol. Cans Arglwydd nawdd-fawr yw i ni, llawn o dosturi grasol. [verse 5] Ef i bob rhai a'i hofnant ef, rhydd gyfran gref at fywyd: Ac yn dragywydd y myn fod cof o'i gyfammod hefyd.
[verse 6] Mynegodd ef iw bobl i gyd, gadernyd ei weithredoedd: A rhoddi iddynt hwy a wnaeth 'tifeddiaeth y cenhedloedd. [verse 7] Gwirionedd a barn ydyw gwaith ei ddwy law berffaith efo; A'i orchmynion sy ffyddlon iawn, a da y gwnawn eu gwrando.

Page [unnumbered]

[verse 8] Y rhai'n sy gwedi eu sirrhau, dros byth yn ddeddfau cyfion: Gwedi eu gwneuthur hwy mewn hedd, a thrwy wirionedd vnion. [verse 9] Anfonodd gymmorth iw bobl ef, cyfammod gref safadw, Archodd hyn: bo iw enw fawl, sancteiddiawl ac ofnadwy. [verse 10] Dechreuad pob doethineb ddofn i bawb yw ofn yr Arglwydd, Da yw deall y sawl a'i gwnai, a'i ofn a sai'n dragywydd.
Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.