[verse 4] Fal hyn i'm talent ddrwg dros dda,
[verse 5] a chas a gaf am gariad,
Ac fel yr oeddynt hwy fal hyn,
i'm herbyn wedi codi,
Fy wyneb attad ti a drois,
ac arnat rhois fy ngweddi.
[verse 6] Bid Sathan ar ei ddehau law,
i'r swydd y daw yn barod,
[verse 7] A phan roer barn, yn euog boed,
a'i weddi troed yn bechod.
[verse 8] Bo ei oes yn fer, ac yn ddilwydd,
a'i swydd arall iw chymryd.
[verse 9] Poed yn ymddifaid y bo ei blant,
a'i weddw yn fethiant hefyd.
[verse 10] A boed ei blant yn crwydro byd,
i gymryd mân gerdodau:
A cheisiant hyn rhyd dyrys dir,
lle y bytho hir eu prydiau.
[verse 11] Yn rhwyd y ceisiad ei dda syrth,
ei lafur pyrth ddieithriaid:
[verse 12] Na ddel iddo nawdd am ei fai,
na chwaith i'w rai ymddifaid.
[verse 13] Doed distryw dial ar ei hil,
a'i eppil a ddileer,
[verse 14] Am bechodau ei dâd a'i fam
y caiff ef lam ryw amser.
[verse 15] A bydded hyn i gyd gar bron
yr Arglwydd gyfion farnwr,
Yr hwn a'i torro, fel na bo
mwy gofio eu anghyfiwr.
[verse 16] Erioed ni cheisiodd wneuthur hedd,
na thrugaredd i ddyn gwan,
Ond erlid tlawd ar isel radd,
a cheisio lladd y truan.
[verse 17] Hoffodd felldith a hi a ddaeth,
ac fel y gwnaeth bid iddo,
Casâodd fendith, ac ni chai,
ond pell yr ai oddiwrtho.
[verse 18] Gwisgodd felldith fel dillad gwr,
a daw feldwr iw galon,
Fel olew doed iw esgyrn fo,
hyd oni chaffo ddigon.
[verse 19] A'r felldith bid iw gylch yn dyn,
fel yn ddilledyn iddo:
A'i gwisgo hi bid iddo 'n dasg,
fel gwregys gwasg am dano.
[verse 20] A hyn gan Dduw a gaf yn dâl,
i'r gelyn gwamal enbyd,
A ddweto neu a wnelo gam,
neu niwed am fy mywyd.
[verse 21] Dithau Dduw er mwyn d' enw gwna,
herwydd mai da d'ymwared;
Gwna dy drugaredd a myfi,
a bryssia di i'm gwared.
[verse 22] O herwydd tlawd a rheidus wyf,
a dirfawr glwyf i'm calon,
[verse 23] Symudiad cyscod a fai'n ffo,
hyn er na welo dynion:
Mor ansefydlog yw fy' stâd:
a'r mudiad geiliog rhedyn.
[verse 24] Fy nghnawd yn gul, fy ngliniau'n wan
a siglan o dra newyn,
[verse 25] Gwarth wyf i'm câs yn fy ngwael ddrych,
a hwynt wrth edrych arnaf
A'm distyrent dan droi tro,
a than bensiglo attaf.
[verse 26] Cymorth di fi Arglwydd fy Nuw,
cadw fi'n fyw â'th nodded:
[verse 27] Fel y gwyper mai gwaith dy law,
yw 'r lles a ddaw i'm gwared.
[verse 28] Mell dithiant nac eiriechant hwy,
dod fendith fwy i minnau,