Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu, a'i cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys Archdiacon Meirionnydd,.

About this Item

Title
Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu, a'i cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys Archdiacon Meirionnydd,.
Author
Prys, Edmund, 1544-1623.
Publication
A'i printio yn Llundain. :: [s.n.],
1621..
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Bible. -- O.T. -- Psalms. -- Paraphrases, Welsh.
Psalters.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/B00918.0001.001
Cite this Item
"Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu, a'i cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys Archdiacon Meirionnydd,." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/B00918.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 5, 2024.

Pages

Paratum car meum. Psa. cviij.

Dafydd yn clodfori yr Arglwydd: gan ymisccrhau yn ei addewidion ef, yr hwn yn y diwedd a deifl y gelynion i'r llawr, pe rhon i ni ac ofni ddarfod iddo yn esceuluso dros amser.

PArod yw fy nghalon (o Dduw) o parod yw fy nghalon, Canaf yt a datcanaf wawd, o fawl fy nhafawd ffyddlon. [verse 2] Deffro dafod, a deffro dant, a chân agoniant beunydd, Y nabl ar delyn yn gytun, deffrof fy hun ar las-ddydd.
[verse 3] Mawl ytty f'Arglwydd, pan ddeffrof, a rof ymmysc y bobloedd: A chlodfori dy enw a wnaf, lle amlaf y cenhedloedd. [verse 4] Cans cyrhaeddyd y mae dy râs, hyd yn nheyrnas nefoedd. A'th wirionedd di hyd at len yr wybren a'i therfynoedd.
[verse 5] Ymddercha Dduw y nef vwchlaw, eddiyno daw d'arwyddion. A bydded dy ogoniant ar y ddayar a'i thrigolion. [verse 6] Fal y gwareder drwy hon hwyl, bob rhai o'th anwyl ddynion. O achub hwynt â'th law ddehau, a gwrando finnau'n ffyddlon.
[verse 7] Yn ei sancteiddrwydd dwedodd Duw llawen yw sy nghyfamod, Mi a rannaf Sichem rhyd y glyn, mesuraf ddyffryn Succod. [verse 8] Myfi piau y ddwy dretâd, sef Gilead a Manasse. Ac Ephraim yw nerth fy mhen, a Iuda wen fy neddf-le,
[verse 9] Ym Moab ymolchi a wnaf, dros Edom taflaf f'esgid A chwardded Palestina gaeth, ei chwerthin aeth yn rhybrid. [verse 10] Duw pwy a'm dwg i'r ddinas gref? pwy a'm dwg i dref Edom? [verse 11] Er yt ein gwrthod, pwy ond ti, o Dduw, a 'mleddi drosom?
[verse 12] O vnic Dduw, bydd i'n yn borth, mae'n ofer cymorth vndyn. [verse 13] Yn Nuw y gwnawn wrolaeth fawr, fe sathr i lawr ein gelyn.
Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.