Iubilate Deo. Psal. c.
Mae yn cynghori pob dyn i wasanae∣thu yr Arglwydd, ac i fyned iw gynnull∣eidfa i'w foli.
〈♫〉〈♫〉 I'R Arglwydd cenwch lafar glod,
〈♫〉〈♫〉 a gwnewch vfydd-dod llawen fryd,
〈♫〉〈♫〉 [verse 2] Dowch o flaen Duw a pheraidd don,
〈♫〉〈♫〉 trigolion y ddaear i gyd.
[verse 3] Gwybyddwch mai'r Arglwydd sydd Dduw,
a'n gwnaeth ni'n fyw fel hyn i fod,
Nid ni'n hunain, ei bobl ym ni,
a defaid rhi' ei borfa a'i nod.
[verse 4] O ewch i'w byrth a diolch brau,
yn ei gynteddau molwch ef,
Bendithiwch enw Duw hynod,
rhowch iddo glod drwy lafar lef.
[verse 5] Cans da yw'r Arglwydd, awdur hedd,
da ei drugaredd a di lyth,
A'i wirionedd ini a roes,
o oes, i oes, a bery byth.