❧ Ail llyfr Moses yr hwn a elwir Exodus.
PENNOD. I.
1 Teulu Iacob yn yr Aipht. 8 Pharao newydd yn eu gorthrymmu hwynt 15 y byd-wragedd yn ar∣bed meibion yr Hebræesau. 20 Duw yn ymgele∣ddu y byd-wragedd.
DYmma henwau mei∣bion Israel y rhai a dda∣ethant i'r Aipht: gyd ag Iacob y daethant bôb vn ai deulu.
2 Ruben, Simeon, Lefi, ac Iuda.
3 Isachar, Zabulon, a Beniamin.
4 Dan a Nepthali, Gad, ac Aser.
5 A'r holl eneidiau a ddaethent allan o gorph Iacob oeddynt* 1.1 ddeng-henaid a thri vgain: ac Ioseph oedd yn yr Aipht.
6 Ac Ioseph a fu farw, ai holl frodyr, 'ar holl oes honno.
7 A* 1.2 meibion Israel a hiliasant ac a gyn∣nyddasant, amlhausant hefyd, a chryfhausant yn ddirfawr odieth: a'r wlâd a lawnwyd o honynt hwy.
8 Yna y cyfododd brenin newydd yn yr Aipht: yr hwn nid adnabuse mo Ioseph.
9 Ac efe a ddywedodd wrth ei bôbl: wele bobl meibion Israel yn amlach ac yn gryfach na nyni.
10 Deuwch, gwnawn yn gall iw herbyn: rhac amlhau o honynt, a phan ddigwyddo rhy∣fel ymgydio o honynt a'n caseion, a rhyfela i'n herbyn a myned i fynu o'r wlâd.
11 An hynny y gosodasant feistred gwaith iw gorthrymmu ai clûd hwynt: a [phobl Isra∣el] a adailadasant i Pharao ddinasoedd tresso∣rau [sef] Pithom a Raamses.
12 Ond fel y gorthrymment hwynt, felly 'r amlhaent, ac y cynnyddent: a chyfyng oedd ar∣nynt o herwydd meibion Israel.
13 Ar Aiphtiaid a * gaethiwasant feibiion Israel yn dôst.
14 A gwnaethant eu henioes hwynt yn chwerw drwy y gwasanaeth caled mewn clai, ac mewn priddfain, ac ym mhob gwasanaeth yn y maes: gyd ai holl wasanaeth yr hyn a ofynna∣sant ganddynt yn dôst.
15 A brenin yr Aipht a lefarodd wrth fyd∣wragedd yr Hebraeesau: o ba rai henw vn [o∣edd] Siphra, a henw 'r ail Puah.
16 Ac efe a ddywedodd, pan fyddoch fyd∣wragedd i'r Hebraeesau, a gweled o honoch eu hescoredd-le: os mab fydd lleddwch ef, ond os merch bydded hi fyw.
17 Er hynny y byd-wragedd a ofnasant Dduw, ac ni wnaethant yn ol yr hyn a ddywe∣dase brenin yr Aipht wrthynt: eithr cadwasant y bechgyn yn fyw.
18 A'm hynny brenin yr Aipht a alwodd am y byd-wragedd, ac a ddywedodd wrthynt, pa ham y gwnaethoch y peth hyn؛ ac y cadwasoch y bechgyn yn fyw؛
19 A'r byd-wragedd a ddywedasant wrth Pharao nad [oedd] yr Hebraeesau fel yr Aiph∣tiesau: onid eu bôd hwynt yn fywioc, ac yr es∣corent cynn dyfod byd-wraig attynt.
20 A'm hynny y bu Duw dda wrth y byd∣wragedd: 'ar bobl a amlhaodd, ac a aeth yn gryf iawn.
21 Ac o herwydd i'r byd-wragedd ofni Duw: yntef a wnaeth deuluoedd iddynt hwy∣thau.
22 A Pharao a orchymynnodd iw holl bobl gan ddywedyd: pôb mâb a'r a enir bwriwch ef i'r afon, ond cedwch yn fyw bôb merch.
PEN. II.
Geni Moses ai fwrw i'r hesc. 5 Merch Pharao yn ei godi ai gadw. 12 Moses yn lladd yr Aipht-ddyn. 15 yn ffoi yn cael gwasanaeth, ac yn priodi. 23 Ma∣rwolaeth Pharao, a gweddi Israel.
YNA * gŵr o dŷ Lefi aeth: ac a briododd ferch Lefi.
2 A'r wraig a feichiogodd, ac a escorodd ar fâb: a phan welodd hi mai têg ydoedd efe, yna* 1.3 hi ai cuddiodd ef dri mis.
3 A phan na alle hi ei guddio ef yn hwy, y∣na y cymmerodd gawell iddo ef o lafr wyn, ac a ddwbiodd hwnnw a chlai ac a phŷg: ac a oso∣dodd y bachgen ynddo, ac ai rhoddodd ym mysc yr hesc 'ar fin yr afon.
4 Ai chwaer ef a safodd o bell: i gael gwy∣bod beth a wneid iddo.