trwy ddwfr a gwaed: a'r Yspryd yw 'r hwn sydd yn testiolaethu: canys yr Yspryd sydd wirio∣nedd.
7 Canys y mae tri yn testiolaethu yn y nef, y Tad, y Gair, a'r Yspryd glân: a'r tri hyn vn ydynt.
8 Ac y mae tri yn testiolaethu ar y ddaiar, yr Yspryd a'r dwfr a'r gwaed: a'r tri hyn yn vn y maent [yn cyduno.]
9 Os testiolaeth dynnion a dderbyniwn y mae testiolaeth Duw yn fwy: canys hyn yw testiolaeth Duw, yr hon a destiolaethodd efe am ei Fab.
10 Yr hwn sydd yn credu ym Mab Duw y mae iddo y destiolaeth ynddo ei hun: hwn nid yw yn credu i Dduw, ai gwnaeth ef yn gelwy∣ddog, gan na chredodd y destiolaeth yr hon a de∣stiolaethodd Duw am ei Fab.
11 A hon yw 'r destiolaeth, roddio Dduw i ni fywyd tragywyddol: a'r bywyd hwn sydd yn ei Fab ef.
12 Yr hwn y mae y Mab ganddo, y mae y bywyd ganddo: a'r hwn nid yw ganddo Fab Duw, nid oes ganddo fywyd. ☜
13 Y pethau hyn a scrifennais attoch chwi y rhai ydych yn credu yn enw Mab Duw, fel y gwypoch fod i chwi fywyd tragywyddol, ac fel y credoch yn enw Mab Duw.
14 A hyn yw 'r hyfder sydd genym ynddo ef, canys o gofynnwn ddim yn ôl ei ewyllys ef, efe a'n gwrendu.
15 Ac os gwyddom ei fod ef yn ein gwran∣do, pa [beth] bynnag a ofynnom, gwyddom fod i ni ein gofynniad a ofynnom iddo ef.
16 Os gwêl neb ei frawd yn pechu pechod, [yr hwn] nid [yw] i farwolaeth, gofynned, ac efe a rydd iddo fywyd, sef i'r rhai ni phechant i farwolaeth: y mae pechod i farwolaeth, nid wyf yn dywedyd y dylid gweddio tros hwnnw.
17 Pob anghyfiawnder sydd bechod: ac y mae pechod [yr hwn] nid [yw] i farwolaeth.
18 Pwy bynnag a aned o Dduw, gwy∣ddom nad yw yn pechu, eithr hwn a genhedl∣wyd o Dduw a'i ceidw ei hun, a'r drwg ni chy∣fwrdd ag ef.
19 Gwyddom ein bod o Dduw, ac y mae yr holl fyd yn gorwedd mewn drygioni.
20 Ac [ni] a ŵyddom ddyfod Mab Duw, ac efe a roes i ni feddwl i adnabod yr hwn sydd gywir, ac yr ydym yn y cywir hwnnw [sef] yn ei Fab ef, Iesu Grist: yr hwn sydd wir Dduw, a bywyd tragywyddol.
21 [Fy] rhai bychain ymgedwch oddi wrth eulynnod. Amen.