[Y drych cristianogawl]
About this Item
- Title
- [Y drych cristianogawl]
- Author
- Robert, Gruffydd, ca. 1522-ca. 1610.
- Publication
- [Rhotomagi :: ap haeredes J. Favonis,
- 1585].
- Rights/Permissions
-
To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.
- Subject terms
- Christian life -- Early works to 1800.
- Link to this Item
-
http://name.umdl.umich.edu/B00619.0001.001
- Cite this Item
-
"[Y drych cristianogawl]." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/B00619.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 30, 2025.
Pages
Page [unnumbered]
Page [unnumbered]
Page [unnumbered]
*YR ACHOS AR MODH Y dodwyd y lhyfr yma mywn Print.
Y mae blwydhyn belhach a chwaneg er pann dhaeth i m lhaw yn Nhir Phreinc lyfr Cymbraeg o waith yr Athro mawr o Dhinas Fulan yngwlad yr Idal. Ewylhys yr Athro ydoedh dhanfon y lhyfr mywn scrifē law i blith y Cymbry: Am nad oedh dim modh yw brintio ef yno, ag am fod y phorð yn rhy belh rhy faith i dhanfon mawr nifer o lhyfreu o r Idal i wlad Gymbry: Rhag tor∣ri ar ewylhys yr Athro, mi a dhanfonais o Phrainc i ynys Brydain vn copi o r {ll}yfr me∣wn yscrifen law, ag a gedwais gopi ara{ll} gyd a mi fy hunan yn Phrainc. Yn y mann ar ol tirio r lhyfr a dyfod yn hoeth ag yn anrhef, nus wedy ei wlychu gann fordwy a heli, i dhwylo Cymbry, cafodh (fal y clywais) wisc yn ei gylch ai sychu ai ymgledhu yn ewy{ll}ys∣gar ag yn chwannog dhigon. Yna cerdhed a wnaeth dros amser o law i law drwy aml fā∣neu o dir Cymry, yn cael mawrbarch a chro∣eso ymhob mann: pawb o r a glywei son am dano yn chwānog i gael cydnabod arno: rhai yn deisyf ei dharlhain: erailh, yr hai nys med∣rēt dharlhain, yn damuno clywed ei dharlh∣ein: y drydedh rann yn fodhlon yw gopio ai scrifennu, i gael aml gopiae i fyned ar hyd y
Page [unnumbered]
wlad. Pann dhoeth y gair o hynn i dir Phra∣inc lhe yr oedhwn i yn trigo, ef a fu lawen a chynhes fynghallon, wrth glywed chwant ag awydh y Cymry i wrando cynghor spry∣dol. Yma y tyfodh gobeith mawr yn fy me∣dhwl, y gelhyd achub lhawer o eneidieu yn-Ghymry rhag discyn i Yphern, pe y baei foð i dhāgos ydhynt eu peryglon sprydol. Wrth fedhwl am hyn ny fedrwn i weled vn modh phrwthlon gymhwys, ony baei gael gossod a dodi i maes y lhyfr mywn Print. O fywn y Deyrnas ny welwn dhim gobaith i gael nag arian, na gweithwyr, na lhe cymhwys cyfa∣dhas. Wrth hir fedhwl, a gweled egni y Sa∣eson phydhlon yn printio lhyfreu Saesnec o r tu yma ir mor mywn gwledydh dieithr, mi a ganfuum mewn rheswm y galhei y Print∣wyr o Phrainc brintio Cymbraeg yn gystal a Saesnec, gan fod y dhwy iaith yn gyfdhiei∣thr idhynt. Ag ynghyferyd y mawr nifer o lhyfreu Saesnec a ossoded alhan er pan lygr∣wyd Phydh a Chrefydh yn ynys Prydein, drwy boē a thrafael y Saeson Catholic: rhag cywilidh a cholhed i holh Gymry, cymesur a phrydferth y gwelwn ossod a dodi alhan vn lhyfr Cymraec, gan fod cymeint o eisieu, a r Cymbry, mor chwannoc i gael lhyfreu, a Duw wedy trefnu Printwyr mywn tref ar fin y mor yn barod er cyflog i brintio Cym∣raec
Page [unnumbered]
cystal a Saesnec: Mi a gymerais arnaf (nyd heb gyfarch a chennad yr Athro) ossod mywn print y Rhan gyntaf o r tair. Canys, megys y gelhwch dhealht wrth lythyr yr A∣thro o r blaen, nyd yw r holh waith onyd vn lhyfr yn cynhwys teir Rhann: Ag os Duw a dhenfyn rhwydheb, mifi a assodaf alhan y Rhanneu erailh yn gyntaf y galhwyf, sef yr ail a r drybydh, pob vn yn ei hordor ai gra dh. Lhthrenneu Seisnic a gawson i r gwaith, ag yn lhe y D. a r L. dybledigion y rhoefom dh. ag lh. ar ol arfer yr hen gymreigwyr gynt, y peth ys ydh wedheidhiach na dyblu r lhy∣threnneu. Gan na fedrem gael D. ag L. a no∣dae danynt ar ol ordor yr Athrawaeth Grist∣nogawl a brintied ym Mulan, mewn ymhe{ll} fanneu chwychwi a gewch, D. ag L. wedy eu nodi yn eu penneu: a r rhai hynny i gyd sy n arwein sain y lheilh, ag yn arbed yr H· Ag os cawn yn ol hyn dhigon o honynt we∣dy nodi yn eu penneu, nyni a beidiwn yn gwbl a chydiaw r H gyd a D ag L. Y mae r gost, a r darul, a r boen yn fawr iawn ag yn flin: Am hynny i mae pob Cymbro phydh∣lon gar bron Duw yn rhwymedig i roi help a chanhorthwy i r Gwaith drwy wedhi a mod heu ereilh, pawh yn ei radh a i alhu. Ag am fod gwyr āghyfarwydh anghyfiaeth my∣wn gwlad ðierth heb dhealht yr iaith Gym∣braeg
Page [unnumbered]
yn gelhwg odh dann eu dwylo fagad o feieu drwy gam gymeryd a cham ossod y lhythrenneu, a beieu erailh at hynny: rhaid o madheu y fath feieu bychan: Gan na elhid cael petheu mywn modh gwelh o dan dhw∣ylo dieithred anghyfarwydh. Yn olaf peth ydh wyf yn deisyf ar bob Cymro phydhlon fedhwl amdanaf īneu yn ei wedhi, a cho∣phau hefyd yn i wedhi pob math ar dhyn o r a fu ag o r a fydh yn helpu r gwaith hynn drwy gost, traul, blinder, neu fodhion erailh yn y byd.
ODREF ROAN eych gwladwr caredig. R. S.